Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad i geisio barn am gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig.
Yn dilyn hynt Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024, gall Llywodraeth Cymru gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol i Gymru gan ddefnyddio rheoliadau. Mae'r lluosydd yn un o benderfynyddion allweddol y biliau i dalwyr ardrethi unigol ac, yn ei dro, gyfanswm y refeniw a godir o ardrethi annomestig i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae lluosyddion gwahaniaethol yn darparu cyfle i ail-gydbwyso atebolrwyddau cymharol yn barhaol ar draws gwahanol rannau o'r sylfaen drethu, heb newid cyfanswm refeniw.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud y defnydd cyntaf o'r pwerau newydd hyn drwy gyflwyno lluosydd is ar gyfer siopau manwerthu bach a chanolig (gyda gwerthoedd ardrethol o dan £51,000). Mae'r cynnig hwn yn cydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu'r sector manwerthu ‘brics a morter’ yn enwedig gan eu bod yn wynebu cystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein. Bwriad lluosydd fyddai helpu i ail-gydbwyso’r system ardrethi annomestig o blaid siopau manwerthu, i gefnogi hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y sector. Mae ein gweledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu a’n cynllun gweithredu manwerthu yn cydnabod bod sector manwerthu cryf yn rhan annatod o strydoedd mawr a chanol trefi bywiog a chynaliadwy.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried cyflwyno lluosydd uwch, a fyddai'n codi swm bach o refeniw ychwanegol ar yr eiddo mwyaf yn y sylfaen drethu (gyda gwerthoedd ardrethol dros £100,000). Byddai hyn yn helpu i wrthbwyso'r refeniw a fyddai'n cael ei golli drwy'r lluosydd manwerthu arfaethedig ac yn sicrhau y gellid pennu'r lluosydd safonol (sy'n gymwys i bob eiddo na fyddai'n ddarostyngedig i'r lluosydd manwerthu neu uwch) ar y lefel isaf bosibl. Cyn belled â phosibl, ni fwriedid i luosydd uwch fod yn gymwys i fathau penodol o eiddo sy'n cael ei feddiannu gan gyrff y sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy'n cael eu cynnal i raddau helaeth gan fodelau cyllid cyhoeddus (ee yn y sectorau iechyd ac addysg).
Bydd y defnydd cyntaf o unrhyw bwerau newydd yn tynnu sylw at ystyriaethau ymarferol sy'n codi yn anochel wrth roi camau gweithredu polisi arloesol ar waith. Bydd y cynnig cymharol fach hwn yn caniatáu i'r materion hyn gael eu nodi a'u datrys, gan osod y sylfaen ar gyfer diwygio pellach yn y dyfodol.
Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, bwriedir i'r cynigion ddod i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y byddai cydbwysedd i'w daro wrth bennu lefelau cymharol ar gyfer unrhyw luosyddion gwahaniaethol.
Bydd lefelau'r holl luosyddion yn cael eu pennu fel rhan o sefydlu gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Bydd hyn yn cymryd i ystyriaeth canlyniad yr ailbrisiad nesaf o ardrethi annomestig, a gaiff effaith hefyd ar 1 Ebrill 2026.
Mae'r ymgynghoriad yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru yn fanwl ac yn gofyn i bobl am eu barn. Bydd yn para am 12 wythnos o 20 Mai i 12 Awst 2025.
