Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad trosolwg hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 4 Gorffennaf 2024, a chaiff ei gyhoeddi yng nghyd-destun y cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru yn 2021. Dyma’r ail adroddiad a gyhoeddwyd yn unol â’r cytundeb hwnnw. Mae'r adroddiad diwethaf ar gael yma.

Bwriad yr adroddiad hwn yw rhoi trosolwg o waith rhynglywodraethol ar draws Llywodraeth Cymru yn y cyfnod hyd at Etholiad Cyffredinol y DU yn 2024. Mae'r profiad o weithio'n rhynglywodraethol a amlinellir yn yr adroddiad hwn wedi datblygu'n sylweddol ers y cyfnod hwnnw.

Darperir yr adroddiad hwn ochr yn ochr â diweddariadau rheolaidd Llywodraeth Cymru i’r Senedd mewn cyfarfodydd llawn a phwyllgorau, a thrwy ddatganiadau a gohebiaeth, sydd ar gael ar wefan y Senedd.

Mae datganiadau sy'n ymwneud â'r gwaith ymgysylltu a wnaed fel rhan o strwythurau'r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol ar gael yma.

Crynodeb

Ym marn Gweinidogion Cymru, roedd ymagwedd Llywodraeth flaenorol y DU tuag at weithio'n rhynglywodraethol yn tanseilio'r setliad datganoli ac yn niweidio undeb y Deyrnas Unedig. Yr enghreifftiau mwyaf clir o hyn oedd yr achosion niferus o dorri Confensiwn Sewel. Yn fwy cyffredinol, roedd ymgysylltu gwael a defnydd aneffeithiol o'r mecanweithiau cysylltiadau rhynglywodraethol cytunedig gan Lywodraeth flaenorol y DU yn nodweddion cyffredin anffodus o'r berthynas o safbwynt Llywodraeth Cymru. Adlewyrchwyd hyn yn y ffordd y byddai Llywodraeth y DU yn hwyr yn hysbysu Llywodraeth Cymru am gynigion polisi a oedd yn effeithio arni, yn rhannu ychydig iawn o wybodaeth, ac yn colli cyfleoedd i gydweithio'n agosach. Roedd gwariant cyhoeddus cyffredinol cyfyngedig y DU a chyfyngiadau diangen ar gyllideb Llywodraeth Cymru hefyd yn effeithio'n andwyol ar gyfrifoldebau datganoledig yn ystod y cyfnod hwn.

Fodd bynnag, roedd meysydd lle'r oedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd yn fwy cadarnhaol – er enghraifft, mewn perthynas â Phorthladdoedd Rhydd, datblygu deddfwriaeth arfaethedig yn ymwneud â Thybaco a Fêps, a pholisi masnach. Gwelwyd hefyd ymgysylltu adeiladol ar lefel swyddogion ynghylch ystod eang o feysydd.

Mae ffurfio Llywodraeth newydd y DU ar ôl yr etholiad wedi rhoi cyfle pwysig i ailosod cysylltiadau rhynglywodraethol a datblygu partneriaeth agos, lle mae dwy lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd er budd pobl ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r strwythurau a'r mecanweithiau y cytunwyd arnynt fel rhan o'r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. Roedd yr Adolygiad hwn yn gam cadarnhaol tuag at Deyrnas Unedig ddiwygiedig a chryfach, lle mae llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd er budd pawb. O ran parhau â'r agenda diwygio cyfansoddiadol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i'r argymhellion yn adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn ym mis Ionawr 2024.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i elwa ar berthynas gref gyda’r llywodraethau datganoledig eraill a chyda’r aelod-weinyddiaethau o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig y tu allan i’r DU.

Cysylltiadau rhynglywodraethol

Cyfansoddiad a datganoli

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, roedd y cynnydd o ran gweithredu'r peiriannau ffurfiol a amlinellwyd yn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn amrywiol. Fel arfer, ar ôl pob cyfarfod, cyhoeddir cyd-ddatganiad byr, ac mae Gweinidogion Cymru wedi gweithio i ddarparu rhagor o wybodaeth mewn Datganiadau Ysgrifenedig neu lythyrau manwl i Bwyllgorau'r Senedd.

Haen Uchaf: Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig

Er gwaethaf ceisiadau gan Lywodraeth Cymru, ni wnaeth Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig gyfarfod yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Roedd hyn yn siomedig ac yn tanseilio'r cytundeb a nodwyd yn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

Haen Ganol: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Mae'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn elfen werthfawr o’r strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol, gan ddarparu fforwm ar gyfer ystyried materion trawsbynciol. Cyfarfu’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol deirgwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (17 Mai 2023; 19 Hydref 2023; 12 Mawrth 2024). Roedd y trafodaethau yn cynnwys meysydd fel Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU, achosion niferus o dorri Confensiwn Sewel, yr argyfwng costau byw, Cysylltiadau Rhyngwladol a Fframweithiau Cyffredin. Yn y cyfarfod ym mis Mawrth 2024, arweiniodd Llywodraeth Cymru eitem ar adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Haen Ganol: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid

Cyfarfu’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid bedair gwaith yn ystod y cyfnod adrodd. Cynhaliwyd tri chyfarfod wyneb yn wyneb (22 Mehefin 2023; 20 Medi 2023; 25 Ionawr 2024) ac un cyfarfod rhithiwr (14 Mawrth 2024). Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar gyllid yn lle cyllid yr UE, y pwysau ar wariant cyhoeddus, diogelwch ynni, blaenoriaethau economaidd a chyllidol, cyllidebau'r llywodraethau datganoledig a mesurau i drechu tlodi.

Lefel Portffolio: Grwpiau Rhyngweinidogol

Grwpiau Rhyngweinidogol yw'r prif fforymau ar gyfer trafod meysydd o ddiddordeb a phryder cyffredin ar lefel portffolio. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd 15 o Grwpiau Rhyngweinidogol ar waith, er bod rhai'n gweithredu'n fwy effeithiol nag eraill. Mae achosion o ganslo munud olaf neu agendâu byrrach wedi effeithio ar effeithiolrwydd Grwpiau Rhyngweinidogol a'r perthnasoedd y gellir eu meithrin drwyddynt. Nid yw un Grŵp Rhyngweinidogol, sef y Grŵp Rhyngweinidogol COP26, yn cyfarfod mwyach, gan yr ystyrir nad oes ei angen mwyach.

Ysgrifenyddiaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Mae'r Ysgrifenyddiaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol ddiduedd, a sefydlwyd yn sgil yr Adolygiad, yn gwbl weithredol ac yn atebol i'r Cyngor. Mae'n gwasanaethu pob llywodraeth yn gyfartal yn unol â'r Adolygiad. Fodd bynnag, y llywodraethau eu hunain sy’n dal yn atebol am gysylltiadau rhynglywodraethol yn gyffredinol.

Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU a Chonfensiwn Sewel

Roedd y cyfnod adrodd hwn yn cwmpasu cryn dipyn o weithgarwch fel rhan o drydedd a phedwaredd raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth flaenorol y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol i 12 o Filiau'r DU sy'n cynnwys darpariaethau sy'n rhoi sylw i faterion datganoledig gyda chydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol i sawl Bil heb gydsyniad y Senedd, gan ddangos diffyg parch at Gonfensiwn Sewel. Roedd y rhain yn cynnwys Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir 2023, Deddf Ynni 2023 ac eraill. Gwrthododd y Senedd roi ei chydsyniad hefyd ar gyfer Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023 a Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023.

Fframweithiau Cyffredin

Mae Fframweithiau Cyffredin yn gytundebau rhynglywodraethol gweithredol sy'n rheoli meysydd polisi a lywodraethwyd yn flaenorol gan yr UE. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, o'r 26 Fframwaith sy'n gymwys i Gymru, cafodd un ei graffu arno'n llawn a'i gyhoeddi, ac roedd 23 yn gweithredu ar lefel swyddogion ond yn parhau i fod yn rhai dros dro. Ar hyn o bryd, mae'r Fframweithiau hyn yn aros i gael eu cymeradwyo'n derfynol gan y Gweinidogion ar draws pob un o'r pedair llywodraeth. Roedd y ddau Fframwaith sy'n weddill ar wahanol gamau datblygu.

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Cynhaliwyd tair Uwchgynhadledd gan y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ystod y cyfnod adrodd hwn:

Uwchgynhadledd Jersey: 15-16 Mehefin 2023

Canolbwyntiodd yr uwchgynhadledd hon ar bolisi tai ac ynni, gan drafod ymdrechion i ddarparu tai fforddiadwy a datgarboneiddio. Nododd hefyd 25 mlynedd ers llofnodi Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.

Uwchgynhadledd Iwerddon: 23-24 Tachwedd 2023

Canolbwyntiodd yr uwchgynhadledd hon ar drawsnewid bywydau plant, trechu tlodi plant, a gwella llesiant.

Uwchgynhadledd Ynys Manaw: 20-21 Mehefin 2024

Canolbwyntiodd yr uwchgynhadledd hon ar ddatgloi cyfleoedd economaidd a chymdeithasol ynni adnewyddadwy. Wrth gyfrannu at y drafodaeth, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at yr uchelgeisiau ar gyfer y datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd, sef Trydan Gwyrdd Cymru, a phrosiect ynni llif llanw Morlais.

Coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III

Gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda Llywodraeth y DU ar Goroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III, gan sicrhau bod yr achlysur yn cael ei ddathlu'n briodol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer sgriniau mawr yng Nghaerdydd a nodi cyfranwyr o Gymru i fynd i'r Coroni.

Wcráin

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod yr ymateb dyngarol i Wcráin yn cael ei gyflawni’n effeithiol yng Nghymru. Mae llwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 3,300 o bobl sy'n cyrraedd o Wcráin.

Materion Mudo Ehangach

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a chymheiriaid yn y llywodraethau datganoledig ar faterion mudo. Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo ddwywaith. Nid oedd yn bosibl cyfarfod eto cyn yr etholiad cyffredinol gan fod y cyfarfod a drefnwyd wedi'i ohirio ddwywaith. Cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â chymheiriaid yn y llywodraethau datganoledig bob deufis i drafod a rhannu gwybodaeth am bolisïau datganoledig ynghylch mudo arfaethedig. Fe wnaethant hefyd ymuno â chyfarfodydd rhanddeiliaid misol gyda Thîm Ffiniau a Mewnfudo'r Dyfodol Llywodraeth y DU. Yn gynnar yn 2024, gweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru yn agos gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn fel rhan o'r Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid.

Ystadegau a Dadansoddi

Mae'r Concordat ar Ystadegau wedi parhau i weithredu'n dda, ac mae cysylltiadau rhynglywodraethol wedi'u cydgysylltu i raddau helaeth ar lefel swyddogion. Bu ymgysylltu sylweddol â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ystadegau poblogaeth a mudo, ac ystadegau'r farchnad lafur. Mae gwella cydlyniant data ledled y DU hefyd wedi bod yn ffocws. Y flaenoriaeth gychwynnol oedd ystadegau iechyd, sydd wedi arwain at well cydlyniant data ar amseroedd ymateb ambiwlansys, amseroedd aros mewn adrannau achosion brys a'r gweithlu gofal iechyd.

Polisi Digidol

Bu ymgysylltu rheolaidd ar wasanaethau digidol, gan gynnwys gweithredu One Login GOV.UK ar draws gwasanaethau Llywodraeth Cymru. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru Grŵp Digidol anffurfiol ar draws y pedair gwlad, gan ddarparu fforwm i gydweithio ar weithgareddau gwasanaethau digidol.

Roedd ymgysylltu rheolaidd ar reoleiddio digidol, gan arwain at y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i'r Bil Diogelwch Ar-lein. Parhaodd trafodaethau ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol, er bod pryderon am rai darpariaethau.

Daliwyd ati i gydweithio ar fentrau band eang a chysylltedd dyfeisiau symudol, a chynhaliwyd cyfarfodydd yn rheolaidd i drafod y Prosiect Gigadid a'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir. Cymerodd swyddogion Llywodraeth Cymru ran hefyd mewn cyfarfodydd gyda'r llywodraethau datganoledig eraill i drafod materion seilwaith digidol.

Caffael

Hwylusodd y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus y gwaith o rannu gwybodaeth ar faterion polisi, a chynhaliwyd cyfarfodydd unwaith y mis a dwywaith y flwyddyn. Er nad yw'r ymrwymiad i rannu gwybodaeth yn un deddfwriaethol, mae'r ymrwymiad hwnnw wedi'i gynnal.

Bu ymgysylltu adeiladol ar Ddeddf Caffael 2023, gan arwain at Weinidogion Cymru yn sicrhau pwerau annibynnol i wneud rheoliadau. Parhaodd y cydweithio ar ddatblygu is-ddeddfwriaeth a rhaglen dysgu a datblygu gynhwysfawr.

Trafododd cyfarfodydd polisi misol benodau caffael mewn Cytundebau Masnach Rydd drafft. Cafodd cysylltiadau eu heffeithio'n andwyol gan greu pwerau cydredol y gallai Gweinidogion Llywodraeth y DU eu defnyddio heb gydsyniad Gweinidogion Cymru yn Neddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023 ac yn Neddf Caffael 2023.

Etholiadau

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru ddwywaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Cytunodd y Gweinidogion ar yr angen am gydweithio, gan gynnwys helpu'r cyhoedd i ddeall ac ymgysylltu, yn enwedig lle mae rheolau gwahanol yn gymwys i etholiadau datganoledig ac a gedwir yn ôl. Cytunwyd hefyd i estyn y system Ceisiadau am Bleidlais Absennol Ar-lein. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r llywodraethau eraill i rannu gwybodaeth ac arferion gorau.

Cysylltiadau Rhyngwladol

Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a'r UE: Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol deirgwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn cyn cyfarfodydd ffurfiol rhwng y DU a'r UE, gan helpu i baratoi swyddi yn y DU. Roedd cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru ym mhob cyfarfod i drafod materion strategol a phenodol.

Ymgysylltu â Gweinidogion ar Faterion Rhyngwladol: Ymddangosodd materion rhyngwladol ar ddwy agenda'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, a oedd yn cynnwys trafod Wcráin, Israel/Gaza a'r Papur Gwyn ar Ddatblygu Rhyngwladol. Parhaodd Llywodraeth Cymru i eirioli dros Grŵp Rhyngweinidogol pwrpasol ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol.

Cytundebau Masnach Rydd

Bu ymgysylltu â Gweinidogion ar Gytundebau Masnach Rydd drwy'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach, a gyfarfu bedair gwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Roedd ymgysylltu cadarnhaol ar drafodaethau a materion polisi masnach yn gyffredinol, gan nodi ar yr un pryd y pwynt ar bwerau cydredol y cyfeirir ato yn gynharach. Ar lefel swyddogion, roedd yr ymgysylltu’n digwydd yn aml ac yn gadarnhaol ar y cyfan.

Cyllid

Yn ogystal â thrafodaethau yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, canolbwyntiodd cyfarfodydd Gweinidogol dwyochrog â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a Gweinidogion eraill y Trysorlys ar bwysau cyllidebol a hyblygrwydd, buddsoddi mewn diogelwch tomenni glo a rheilffyrdd, cyllid mewn perthynas â HS2, datganoli pwerau treth newydd a materion sy'n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy.

Yr Economi

Busnes a Diwydiant

Ni chyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Busnes a Diwydiant yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf cyn y cyfnod adrodd ar 17 Ionawr 2023. Roedd y seibiant oherwydd newidiadau Gweinidogol ac adrannol yn Llywodraeth y DU. Roedd yr ymgysylltu â’r Adran Busnes a Masnach mewn perthynas â Tata yn siomedig, gan na chafodd y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Tata ei rannu â Llywodraeth Cymru. Gwnaeth cyn-Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru nifer o geisiadau i gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach ond ni chynhaliwyd cyfarfod.

Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi

Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi yw rhaglenni Llywodraeth y DU a sefydlwyd i gefnogi datblygiad economaidd drwy gymysgedd o ryddhadau treth datganoledig ac a gedwir yn ôl a buddsoddiadau eraill. Cytunodd Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i gefnogi Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi yng Nghymru. Roedd y rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn fan cychwyn ar gyfer model da o weithio ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n enghraifft o gyfuno ysgogiadau datganoledig ac a gedwir yn ôl, ac yn bwysicach yn enghraifft o Lywodraeth y DU yn parchu ymrwymiadau polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Gwaith Teg a Sero Net. Hwylusodd y dull hwn y broses o wneud penderfyniadau ar y cyd ar adegau allweddol; er bod lle i gael gwared ar ddyblygu gan Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Ni fu llawer o ymgysylltu ystyrlon rhwng y ddwy lywodraeth ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n disodli cronfeydd strwythurol yr UE, yn ystod y cyfnod adrodd. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod datblygu economaidd rhanbarthol yn gymhwysedd datganoledig, ac y dylid dychwelyd cyllid a phenderfyniadau cysylltiedig iddi yn y dyfodol i gyflawni gyda phartneriaid Cymru.

Rheoleiddio Economaidd

Gosodwyd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 heb gydsyniad y llywodraethau na'r deddfwrfeydd datganoledig. Parhaodd y pryderon a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru ar adeg cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon drwy gydol y cyfnod adrodd. Er bod cynrychiolwyr ar lefel swyddogion wedi gofyn am fwy o eglurder, tryloywder a rhagweladwyedd yn y broses eithrio, ni wnaed unrhyw gynnydd gyda Llywodraeth y DU.

Ynni a Newid Hinsawdd

Mater a gedwir ôl yw'r polisi ynni yn bennaf, ond mae'n effeithio ar sawl maes datganoledig. Nid oedd llawer o gydnabyddiaeth o hyn yn Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod adrodd. Pasiwyd Deddf Ynni 2023 heb gydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, gwnaed cynnydd cadarnhaol o ran camau i wella'r profiad o weithio'n rhynglywodraethol er mwyn gweithredu'r Ddeddf. Sefydlwyd grŵp Gweinidogol newydd i weithredu gofynion rheoleiddio ar gyfer technoleg Dal a Storio Carbon. Parhaodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd ar ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd bum gwaith yn ystod y cyfnod adrodd. Cefnogodd y Grŵp Rhyngweinidogol ymgysylltu a chydweithio effeithiol mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin, a dyma'r prif gorff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU. Roedd y grŵp yn galluogi Gweinidogion i drafod a rhannu dysgu ar draws gwahanol feysydd, a gwneud penderfyniadau ar bolisïau pwysig. Fodd bynnag, roedd pryderon am ddiffyg rhannu gwybodaeth gan Lywodraeth y DU ynglŷn â rhai cyhoeddiadau.

Roedd ymgysylltu cadarnhaol â'r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net ynghylch fforddiadwyedd ynni, cerbydau trydan, a phwyntiau gwefru. Roedd Llywodraeth Cymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol a'r Ddeddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr.

Sgiliau a Chyflogadwyedd

Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas gadarnhaol â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi o ran y ddarpariaeth dysgu a sgiliau yng ngharchardai Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r ddarpariaeth drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth â'r Gwasanaeth. Cydweithiodd swyddogion o’r ddwy lywodraeth â rhanddeiliaid eraill i gyd-ddatblygu polisi dysgu Llywodraeth Cymru i droseddwyr. Ym mis Tachwedd 2023, defnyddiodd Llywodraeth y DU bwerau cydredol yn Neddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 i wneud rheoliadau heb gydsyniad Gweinidogion Cymru. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r weithred hon.

Addysg

Cyfarfu Cyngor Gweinidogion Addysg y DU unwaith yn ystod y cyfnod adrodd, gan ganolbwyntio ar ddulliau digidol mewn addysg. Sefydlwyd Gweithgor y Pedair Gwlad ar Goncrit Awyredig Awtoclafedig Cyfnerth (RAAC) i rannu manylion am arolygon a dulliau rheoli RAAC. Cadeiriodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd gyfarfod Gweinidogol y Sector Gwaith Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Jersey, gan ganolbwyntio ar ddefnydd iaith, seilwaith ieithyddol a diwylliant.

Yr Amgylchedd, Amaethyddiaeth a Bwyd

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig deirgwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn, a chafwyd trafodaethau ar Ddeddf y Farchnad Fewnol a'r Cynllun Dychwelyd Ernes. Roedd gwaith ar lefel swyddogion yn parhau i fod yn gadarnhaol, er bod penderfyniadau polisi munud olaf gan Lywodraeth y DU yn cyflwyno heriau. Cytunwyd ar safbwyntiau ar y cyd ynghylch cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am becynnu a gwaharddiadau ar weips gwlyb sy'n cynnwys plastig a fêps defnydd untro. Parhaodd Fframweithiau Cyffredin Dros Dro i gael eu defnyddio i helpu gyda gwaith trawslywodraethol ac i reoli gwahaniaethau.

Rheolaethau’r Ffin

Gweithiodd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU gyda'i gilydd i gytuno ar Fodel Gweithredu Targed y Ffin a'i gyhoeddi ym mis Awst 2023. Ar ôl hynny, ni fu fawr o gynnydd o ran datrys materion polisi a fyddai'n galluogi gwiriadau ffisegol ar fewnforion o Iwerddon, yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Er hynny, mae cydweithio wedi gwella ers y cyfnod dan sylw.

Iechyd

Datblygwyd perthnasoedd cynhyrchiol ar lefel swyddogion ar draws y pedair gwlad, gan arwain at sefydlu Cylch Gorchwyl ar gyfer Grŵp Rhyngweinidogol Fforwm Gweinidogion Iechyd y DU. Ar ôl trefnu dau gyfarfod o'r Grŵp yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cafodd un ei gwtogi oherwydd ymrwymiadau eraill gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, a chafodd y llall ei ganslo ar ôl cyhoeddi'r etholiad cyffredinol. Oherwydd hyn, barn Llywodraeth Cymru yw nad yw'r Grŵp Rhyngweinidogol hwn wedi cyfarfod yn ysbryd yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn ystod y cyfnod dan sylw.

Rheolodd Llywodraeth y DU y gwaith o ddatgomisiynu ei seilwaith profi COVID-19, gan ymgysylltu'n adeiladol ar draws y pedair gwlad. Gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Tybaco a Fêps ac ar reoliadau i weithredu ardoll ar y diwydiant gamblo.

Cyhoeddwyd Strategaeth Diogelwch Biolegol ddiwygiedig ar 12 Mehefin 2023, gyda'r nod o sicrhau bod y DU yn gallu gwrthsefyll bygythiadau biolegol erbyn 2030. Aeth y gwaith rhagddo'n gadarnhaol ar sail pedair gwlad yn ystod y cyfnod adrodd. Un o ganlyniadau'r Strategaeth, sef canlyniad 9 yw'r Rhwydwaith Biowyliadwriaeth Cenedlaethol, sy'n ceisio gwreiddio dull Iechyd Cyfunol o arolygu. Cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â chymheiriaid ar draws y pedair gwlad i lywio'r gwaith o ddatblygu'r canlyniad hwn, er bod cydgysylltu a chyfathrebu yn heriol i ddechrau.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Cynhaliodd tîm Talu am Ofal Llywodraeth Cymru gyfarfodydd misol gyda swyddogion polisi o Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Roedd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i rannu cyfeiriad polisi ac ymchwil berthnasol.

Gweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd gyda chymheiriaid yn y Swyddfa Gartref mewn perthynas â'r cynllun peilot ar Adolygiadau Lladdiadau ag Arfau Ymosodol a'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.

Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant

Plant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches

Cyflwynodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â mudo anghyfreithlon, gan gynnwys Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023. Gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Senedd, ond gwrthododd y Senedd roi ei chydsyniad. Gwelwyd gwell ymgysylltu tua diwedd y cyfnod adrodd drwy sefydlu grwpiau sy'n canolbwyntio ar weithredu'r newidiadau angenrheidiol. Ymhlith aelodau'r grwpiau hyn mae cynrychiolwyr amrywiol o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, a sefydliadau'r trydydd sector. 

Maethu

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhan o Grŵp Pedair Gwlad ar faethu, sef fforwm ar gyfer rhannu profiad ac arbenigedd. Nod y grŵp yw cefnogi a chynrychioli buddiannau teuluoedd maeth ledled y DU.

Cyfiawnder Teuluol

Gweithiodd Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol gyda Llywodraeth y DU ar nifer o faterion, gan gynnwys y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus a gyhoeddodd y Canllawiau Arferion Gorau ar gyfer defnyddio Gorchmynion Goruchwylio ym mis Ebrill 2023. Cynhaliwyd gwaith pellach gyda'r nod o wella'r ffordd y mae llysoedd yn gweithredu ar ôl Covid-19. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys sefydlu'r Grŵp Adferiad Cenedlaethol a'r Grŵp Data a Mewnwelediadau a helpodd i sicrhau bod modd rhannu dysgu ar draws llywodraethau ynglŷn â Chyfiawnder Teuluol.

Gweithiodd Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â Llywodraeth y DU hefyd yn ystod y gwaith o ddatblygu a gweithredu Cyfraith Jade gyda'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Cafodd y Bil hwn y Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai 2024.

Gwyddoniaeth

Cyfarfu'r Prif Gynghorwyr Gwyddonol yn adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU, ynghyd â Phrif Gynghorwyr Gwyddonol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yn rheolaidd, dan gadeiryddiaeth Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU. Nid oedd gan Ogledd Iwerddon Brif Gynghorydd Gwyddonol tan fis Mehefin 2024, pan benodwyd ei Phrif Gynghorydd Gwyddonol a Thechnegol. 

Oherwydd amrywiol newidiadau Gweinidogol ar draws y llywodraethau, canslwyd cyfarfodydd Gweinidogol a drefnwyd wedi hynny, gan olygu na chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd Gweinidogol yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder ddwywaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Yn ogystal, cynhaliwyd trafodaethau dwyochrog gyda Llywodraeth y DU ar bynciau fel cyfiawnder teuluol, ystad llysoedd Cymru a chymorth i ddioddefwyr digwyddiadau mawr. 

Parhaodd Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag asiantaethau a gedwir yn ôl, y Swyddfa Gartref, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar faterion cyfiawnder troseddol. Roedd y rhain yn cynnwys y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod. Mae perthnasoedd ar lefel swyddogion yn parhau i fod yn gadarnhaol ar y cyfan. 

Cyflwynodd Llywodraeth y DU sawl Bil cyfiawnder. Roedd y rhan fwyaf o'r Biliau hyn yn filiau a gedwir yn ôl. Gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda Llywodraeth y DU ar Ddeddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus 2023, gan gytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym mis Mehefin 2023. Cefnogodd Llywodraeth Cymru y gwaith o weithredu Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd hefyd, a gweithiodd ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion a’r Bil Cyfiawnder Troseddol. Methodd y Bil Cyfiawnder Troseddol yn dilyn diddymu'r Senedd, a phasiwyd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion yn y pen draw ym mis Mai 2024 er gwaethaf meysydd lle gwrthododd y Senedd roi ei chydsyniad.

Tân ac Achub

Mae'r berthynas â'r Swyddfa Gartref (a oedd yn gyfrifol am y polisi tân tan i'r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo i'r Weinyddiaeth Tai, Cymuned a Llywodraeth Leol ar 1 Ebrill 2025) a'r llywodraethau datganoledig eraill yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Bu cydweithio ar faterion diwylliant, gwerthoedd ac ymddygiad yn y Gwasanaeth, y gwersi yn sgil tân Tŵr Grenfell, a diwygio pensiynau diffoddwyr tân. Mae'r cydweithio ar ailwampio canllawiau diogelwch tân statudol wedi bod yn arbennig o werthfawr. Fodd bynnag, pasiwyd Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023 (sy'n gymwys i ddiffoddwyr tân ymhlith grwpiau eraill o weithwyr) heb gydsyniad y Senedd na chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr

Parhaodd gwaith agos cadarnhaol gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr ar gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cadw mewn cysylltiad â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar Gymorth Milwrol i'r Awdurdodau Sifil.

Tai a Llywodraeth Leol

Cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU a chymheiriaid yn y llywodraethau datganoledig bob chwarter i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ail gartrefi a llety gosod tymor byr. Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddwywaith, gan ganolbwyntio ar ddigartrefedd, diogelwch adeiladau, tai fforddiadwy, a chyflenwad tai. 

Roedd cysylltiadau a gwaith trawslywodraethol yn gadarnhaol o safbwynt polisi ardrethi annomestig. Cynhaliwyd cyfarfodydd bob pythefnos ar lefel swyddogion yn ystod y gwaith o ddatblygu a chyflwyno Deddf Ardrethu Annomestig 2023, a chafwyd ymgysylltu adeiladol ar faterion ardrethi annomestig eraill.

Lles Cymdeithasol/Costau Byw

Tlodi Plant

Parhaodd cyswllt adeiladol ar lefel swyddogion ynghylch tlodi plant, a chynhaliwyd cyfarfodydd ar draws y pedair gwlad bob chwe mis a oedd yn fodd o rannu gwybodaeth am fentrau polisi tlodi plant newydd. Roedd cyfarfodydd ad hoc gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn werthfawr.

Tlodi Tanwydd

Galwodd Llywodraeth Cymru yn rheolaidd ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol ynni. Yn dilyn ymrwymiad a wnaed gan y Canghellor yn 2022, cafwyd trafodaethau, ond er gwaethaf hyn nid wnaed unrhyw ymrwymiad pendant ar ymgynghoriad na chyhoeddiad.

Cyngor Lles Cymdeithasol a Pholisi’r Adran Gwaith a Phensiynau

Parhaodd perthynas dda rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru, a chafwyd cyfarfodydd cyswllt rheolaidd. Gwnaed cynnydd i sefydlu Grŵp Rhyngweinidogol dwyochrog ar Waith a Phensiynau. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Cytunwyd ar gylch gorchwyl ar gyfer y Grŵp, ond gohiriwyd yr ail gyfarfod.

Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru

Ymgysylltodd Llywodraeth Cymru ag adrannau Llywodraeth y DU ar ryngweithiad y cynllun peilot â threthiant, budd-daliadau a chymorth cyfreithiol. Cynhaliwyd perthynas waith dda gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Rhannodd swyddogion yr hyn y maent wedi'i ddysgu gyda chymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Trafnidiaeth

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth deirgwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn, a chafwyd trafodaethau ar ddatgarboneiddio, cefnogi'r diwydiant cludo llwythi, a rhannu data. Parhaodd cysylltiadau ar lefel swyddogion ag adrannau trafnidiaeth ar draws pob llywodraeth yn gadarnhaol, a bu ymgysylltu rheolaidd ac ystyrlon.

Diwylliant a’r Diwydiannau Creadigol

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiwylliant a'r Diwydiannau Creadigol unwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Parhaodd gwaith agos ar lefel swyddogion, ac ymgysylltodd Cymru Greadigol â Llywodraeth y DU ar faterion darlledu, gan gynnal cysylltiadau â Chyngor y Diwydiannau Creadigol.

Trafododd swyddogion Llywodraeth Cymru faterion sy'n ymwneud â'r sector amgueddfeydd gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Cadarnhaodd y DU Gonfensiwn UNESCO ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol, sy'n ei gwneud yn ofynnol creu a chynnal stocrestrau. Roedd Llywodraeth Cymru yn gefnogol i hyn.

Chwaraeon

Cynhaliwyd dau gyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Chwaraeon, un rhithwir ac un wyneb yn wyneb. Gweithiodd swyddogion Llywodraeth Cymru yn agos gydag Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Ymhlith y materion a drafodwyd oedd cyfergyd, diogelu a'r Bil Llywodraethu Pêl-droed a fethodd yn dilyn diddymu Senedd y DU.

Twristiaeth

Er gwaethaf sawl ymgais, ni chyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Dwristiaeth yn ystod y cyfnod adrodd. Cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU a chymheiriaid yn y llywodraethau datganoledig bob chwarter i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am lety gosod tymor byr ac ail gartrefi. Trafodwyd cynigion ar gyfer cynllun cofrestru a thrwyddedu ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru.