Mae amseroedd aros hir am driniaethau yng Nghymru wedi gostwng dwy ran o dair yn ystod y 4 mis diwethaf.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod amseroedd aros o fwy na 2 flynedd wedi gostwng i ychydig o dan 8,400 erbyn diwedd mis Mawrth 2025 – y lefel isaf ers mis Ebrill 2021.
Mae miloedd yn fwy o driniaethau a phrofion wedi’u darparu ar draws GIG Cymru o ganlyniad i gynnig apwyntiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau, gwaith rhanbarthol rhwng byrddau iechyd ac ymdrechion o’r newydd i wella mynediad at ofal a gynlluniwyd.
Mae maint cyffredinol y rhestr aros wedi gostwng hefyd am y pedwerydd mis yn olynol ac roedd gostyngiadau hefyd mewn amseroedd aros hir ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a thriniaethau diagnostig ym mis Mawrth 2025.
Buddsoddodd yr Ysgrifennydd Iechyd £50 miliwn yng nghynlluniau'r byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf am driniaeth, i gynyddu mynediad at brofion diagnostig ac apwyntiadau cleifion allanol ac i dorri amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant ym mis Tachwedd 2024.
Mae gwybodaeth reoli yn dangos bod y cyllid ychwanegol wedi darparu:
- 5,143 o driniaethau ychwanegol yn ogystal â gweithgarwch craidd y GIG
- 2,160 o brofion diagnostig ychwanegol yn ogystal â gweithgarwch craidd y GIG
- 6,084 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol yn ogystal â gweithgarwch craidd y GIG
- 2,166 o asesiadau niwroddatblygiadol ychwanegol yn ogystal â gweithgarwch craidd y GIG, gan ddileu rhestrau aros 3 blynedd
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
Mae ffigurau perfformiad diweddaraf y GIG yn dangos bod amseroedd aros hir bellach ar eu lefelau isaf ers mis Ebrill 2021 a bod maint cyffredinol y rhestr aros wedi gostwng am 4 mis yn olynol.
Mae ychydig yn llai nag 8,400 o lwybrau cleifion bellach yn aros 2 flynedd.
Yn arbennig, hoffwn ganmol byrddau iechyd prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, sydd wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Powys fel byrddau sydd heb unrhyw gleifion yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol neu 2 flynedd am driniaeth.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos hefyd y perfformiad gorau yn erbyn y targed canser o 62 diwrnod ers mis Awst 2021, sef 63.5%.
Mae'r pwysau ar y gwasanaethau brys yn parhau ond mae perfformiad yn erbyn y targed o 4 awr a 12 awr ar gyfer adrannau achosion brys wedi gwella ym mis Ebrill 2025, o'i gymharu â'r mis blaenorol. Ac ymatebwyd i fwy na hanner y galwadau 999 ‘coch’ lle'r oedd bywyd yn y fantol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru o fewn yr amser targed o 8 munud.
Ychwanegodd Mr Miles:
Ein ffocws nawr yw cefnogi'r GIG i barhau i ddileu'r holl amseroedd aros 2 flynedd; i leihau 200,000 ar y rhestr aros gyffredinol yn ystod y flwyddyn hon ac i adfer yr amser aros uchaf o 8 wythnos ar gyfer profion diagnostig erbyn mis Mawrth 2026.
Mae hwn yn nod uchelgeisiol a bydd angen i bawb yn y gwasanaeth iechyd weithio'n galed dros y flwyddyn i ddod, ond rwy'n hyderus y gallwn gyflawni hyn gyda'n gilydd.
Hoffwn ddiolch i staff y GIG am eu gwaith caled i’n helpu i gyrraedd y sefyllfa hon.
Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wella mynediad amserol at ofal i bobl ledled Cymru.
