Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n ymroi i gefnogi uchelgeisiau ein holl ddysgwyr yng Nghymru. Dylai pob person ifanc allu manteisio ar y cyfleoedd sy'n caniatáu iddynt ddatblygu eu chwilfrydedd deallusol a’u galluoedd. Mae hyn yn cynnwys cefnogi ein dysgwyr gorau trwy Academi Seren. 

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi model cyflenwi newydd a gwell ar gyfer Academi Seren.  Mae'r dull diwygiedig hwn yn adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu dros ddeng mlynedd cyntaf Seren ac yn seiliedig ar yr arferion gorau yn ein canolfannau. Bydd yn cynnwys tîm cyflenwi gyda chwe rheolwr cyflenwi llawnamser a fydd yn gweithio ar sail ranbarthol. Yn ogystal, byddwn yn datblygu pecyn cymorth cynhwysfawr i ysgolion i ddarparu'r amser a'r lle i athrawon gefnogi eu dysgwyr Seren, gyda chyllid, arweiniad, adnoddau a chefnogaeth gan eu rheolwr cyflenwi penodedig.

Bydd y model newydd hwn yn darparu cynnig mwy cyson i ddysgwyr Seren ledled Cymru i’w galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n iawn iddynt, gan gynnwys y ddarpariaeth wych yn ein prifysgolion yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at gyflawniadau Seren hyd yn hyn. Edrychaf ymlaen at gynnal a chryfhau ein partneriaethau gydag awdurdodau lleol, prifysgolion, ysgolion a cholegau i gefnogi ein dysgwyr Seren i gyflawni eu potensial.