Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg ymchwil

Mae rhyddhadau ardrethi annomestig yn darparu cymorth ariannol i fathau penodol o dalwyr ardrethi, gan gynnwys busnesau bach ac elusennau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi archwilio opsiynau i ddiwygio cyllid llywodraeth leol. Ym mis Mawrth 2022, nododd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio ardrethi annomestig yn ystod tymor presennol y Senedd. Yn dilyn ymgynghoriad rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, cyflwynwyd Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ym mis Tachwedd 2023 oedd yn cyflwyno neu'n cefnogi'r rhan fwyaf o'r cynigion ar gyfer diwygio’r ardrethi annomestig a nodwyd yn yr ymgynghoriad.

Yn erbyn y cefndir hwn o ddiddordeb mewn gwella'r system ardrethi annomestig, comisiynwyd Alma Economics gan Lywodraeth Cymru i adolygu rhyddhadau ardrethi annomestig yng Nghymru. Prif amcan yr ymchwil hon oedd casglu tystiolaeth fel sail i’r gwaith o ddatblygu cyfres o egwyddorion allweddol i lywio newidiadau i ryddhadau ardrethi annomestig yn y dyfodol.

Roedd y gweithgareddau ymchwil yn cynnwys

Elfen 1

I sefydlu'r egwyddorion ar gyfer asesu rhyddhadau ardrethi annomestig. Dyma a wnaethom: (i) mapio rhyddhadau ardrethi annomestig drwy ymarfer cwmpasu i ddeall nodweddion a nodau rhyddhadau ac asesu pa ryddhadau oedd o fewn y cwmpas, (ii) pennu'r egwyddorion drwy adolygiad desg gan ddatblygu rhestr hir o egwyddorion a gafodd ei byrhau drwy ddefnyddio theori economaidd, ymarfer gwerthuso lefel uchel, a mewnwelediadau gan arbenigwyr treth, (iii) cyfweld â 12 arbenigwr ym maes trethiant,  gyda chymysgedd o gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr allanol, i gasglu adborth ar yr egwyddorion drafft, a (iv) gwerthuso'r rhyddhadau i sicrhau bod modd cymhwyso’r egwyddorion mewn ffyrdd defnyddiol ac ymarferol, a datblygu metrigau allweddol ar gyfer asesu egwyddorion yn erbyn pob rhyddhad.

Elfen 2

I asesu gweithrediad ymarferol rhyddhadau a'r modd y’u gweinyddir gan awdurdodau lleol. Cynhaliwyd pedwar gweithdy ar-lein gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol sy’n ymwneud â gweinyddu rhyddhadau ardrethi annomestig, oedd yn cynnwys 20 o swyddogion yn cynrychioli 15 awdurdod lleol.

Elfen 3

I archwilio canfyddiadau talwyr ardrethi a chyrff cynrychioladol o ardrethi. Dyma a wnaethom: (i) gweithio gyda Beaufort Research i ychwanegu cwestiynau at eu Harolwg Omnibws Busnes, sy'n cwmpasu sampl gynrychioliadol o Fentrau Bach a Chanolig yng Nghymru, yr oedd 423 ohonynt yn gweithredu o eiddo, gan felly ddarparu sampl i ni, a (ii) ymgysylltu â 10 talwr ardrethi a dau gorff cynrychioliadol drwy grŵp ffocws, cyfweliadau, ac ymatebion e-bost, ar draws wyth ardal awdurdod lleol.

Defnyddiwyd canlyniadau Elfennau 2 a 3 i gadarnhau'r egwyddorion allweddol a bennwyd yn Elfen 1. Cynhaliwyd y prosiect rhwng Mehefin 2024 a Mawrth 2025.

Prif ganfyddiadau

Menwelediadau Elfen 1

Drwy adolygiad desg o'r llenyddiaeth ac ymgysylltu ag arbenigwyr treth, nodwyd pedair egwyddor ar gyfer asesu rhyddhadau ardrethi annomestig.

Symlrwydd a chydymffurfiaeth

Dylai rhyddhadau ardrethi annomestig fod yn hawdd i dalwyr ardrethi eu deall a'u hawlio a bod costau gweinyddu isel ynghlwm â hyn ar gyfer yr awdurdodau lleol. Dylai ardrethi hefyd annog cydymffurfiaeth drwy gyrraedd y buddiolwyr arfaethedig ac atal camddefnydd o'r system, sef rhywbeth y gellir ei gyflawni drwy symlrwydd.

Sicrwydd

Dylai busnesau allu dibynnu ar ddyfodol rhyddhadau ardrethi annomestig, gan ganiatáu iddynt gynllunio a chyllidebu'n effeithiol ar gyfer atebolrwydd yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys amserlen glir a gwerth ariannol ar gyfer y rhyddhadau.

Digonolrwydd refeniw

Dim ond os oes gan y llywodraeth refeniw digonol i fforddio'r rhyddhad y dylid cynnig rhyddhadau ardrethi annomestig.

Effeithlonrwydd economaidd

Dylai rhyddhadau ardrethi annomestig leihau'r ystumiad yn y farchnad yn sgil yr ardrethi annomestig, osgoi cyflwyno ystumiadau newydd, a sicrhau canlyniadau cadarnhaol bwriadedig y rhyddhad.

Penderfynwyd bod yr egwyddorion hyn yn addas ar y cyfan a gellir cymhwyso'r rhan fwyaf ohonynt yn gyson i asesu'r rhyddhadau ardrethi annomestig a ddaw o fewn y cwmpas. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod ansicrwydd ynghylch baich trethiannol (h.y., pwy yn y pen draw sy'n ysgwyddo’r baich trethiannol rhwng perchennog yr eiddo a meddiannydd yr eiddo) yn effeithio ar y gallu i werthuso effeithlonrwydd economaidd rhai o'r rhyddhadau. Felly, ni ellir cymhwyso'r egwyddor yn gyson i asesu'r rhyddhadau ardrethi annomestig.

Menwelediadau Elfen 2

Drwy gyfrwng gweithdai gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol, gwelsom eu bod yn cytuno â'r pedair egwyddor a awgrymwyd ar gyfer asesu rhyddhadau ardrethi annomestig.

Symlrwydd a chydymffurfiaeth

Dadl rhai cynrychiolwyr oedd y gellid symleiddio rhyddhadau ymhellach i sicrhau bod talwyr ardrethi yn eu deall. Crybwyllwyd bod cymhlethdod y system bresennol yn golygu nad yw esbonio sut mae rhyddhad ardrethi annomestig wedi'i gymhwyso i fil talwyr ardrethi yn hawdd bob amser.

Sicrwydd

Y farn oedd bod sefydlogrwydd a chysondeb rhyddhadau yn bwysig iawn ar gyfer cynllunio ariannol y talwyr ardrethi yn y dyfodol. Roedd cynrychiolwyr awdurdodau lleol o’r farn nad ydynt yn aml yn gallu hysbysu busnesau ynghylch dyfodol rhyddhadau ardrethi annomestig.

Digonolrwydd refeniw

Roedd cynrychiolwyr o’r farn bod hon yn egwyddor bwysig ar gyfer asesu rhyddhadau ardrethi annomestig o ystyried rôl ardrethi annomestig wrth ariannu gwasanaethau lleol.

Effeithlonrwydd economaidd

Nododd cynrychiolwyr, mewn rhai achosion, y gall rhyddhadau arwain at ystumiadau anfwriadol sy'n lleihau effeithlonrwydd economaidd. Er enghraifft, nodwyd bod Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn caniatáu i rai busnesau sy'n gwneud elw dalu llai o ardrethi annomestig na rhai elusennau bach.

Ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill roedd cynrychiolwyr awdurdodau lleol yn teimlo'n unfrydol mai prin oedd ymwybyddiaeth pobl o ryddhadau, yn enwedig Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar ôl symud o broses awtomatig i broses sy'n seiliedig ar gais a Rhyddhad Trosiannol. Yr her allweddol a nodwyd gan awdurdodau lleol gyda’r system ryddhadau bresennol yw asesu cymhwysedd. Er gwaethaf cynyddu cymorth ariannol y llywodraeth, roedd awdurdodau lleol hefyd yn gweld gostyngiadau termau real a phroblemau o ran capasiti'r gweithlu. Disgrifiwyd diffyg o ran yr adnoddau sydd ar gael i asesu meddiannaeth at ddibenion masnachol.

Er mwyn gwella’r broses o weinyddu rhyddhadau, awgrymodd cynrychiolwyr awdurdodau lleol y dylid (i) ail-flaenoriaethu adnoddau ar gyfer asesu cymhwysedd, (ii) addysgu talwyr ardrethi ynghylch rhannu gwybodaeth gywir, a (iii) diddymu Rhyddhad Trosiannol nawr bod ailbrisiadau ardrethi annomestig yn digwydd yn amlach (fesul tair blynedd).

Menwelediadau Elfen 3

Drwy'r arolwg o dalwyr ardrethi, canfuwyd y canlynol:

  • nid oedd ychydig dros hanner (53%) o'r ymatebwyr yn derbyn rhyddhadau ardrethi annomestig neu nid oeddent yn gwybod a oeddent yn derbyn rhyddhadau ardrethi annomestig ai peidio; Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (41%) a RhAMHLl (12%) oedd y ddau ryddhad a gofnodwyd amlaf o ran y rhyddhadau a dderbynnir
  • mae ansicrwydd sylweddol ynghylch dyfodol derbyn rhyddhad ardrethi annomestig (roedd 48% o fusnesau yn teimlo'n ansicr neu'n ansicr iawn) ac nid oedd fawr o amrywiaeth yn hyn o beth rhwng maint busnes a gweithgaredd
  • i'r rhai sy'n ymwybodol o'r rhyddhadau ardrethi annomestig y maent yn eu derbyn, yr effeithiau a gofnodwyd fwyaf oedd rheoli costau eraill (62%), twf refeniw ac osgoi gostyngiadau mewn refeniw (37%), a mwy o fuddsoddiad yn y busnes (35%)
  • dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr sy'n derbyn rhyddhad (48%) fod rhyddhad ardrethi annomestig yn cael effaith sylweddol neu sylweddol iawn ar eu gallu i weithredu; dywedodd bron pob un ohonynt fod rhyddhadau ardrethi annomestig yn helpu busnesau bach yng Nghymru yn gyffredinol

Drwy gyfweliadau, grwpiau ffocws, ac ymatebion e-bost gyda thalwyr ardrethi a chyrff cynrychiolwyr, canfuwyd y canlynol:

  • roedd busnesau o’r farn bod y system bresennol yn gymhleth a gall fod yn ddryslyd i dalwyr ardrethi. Galwodd cyrff cynrychioliadol am symud i ffwrdd o'r angen am ryddhadau ac yn lle hynny addasu’r system ardrethi annomestig ei hun
  • roedd busnesau'n teimlo'n anymwybodol iawn o'r rhyddhadau ardrethi annomestig sydd ar gael ar hyn o bryd ac yn awgrymu nad yw awdurdodau lleol yn darparu digon o wybodaeth ar hyn o bryd; gan adlewyrchu canfyddiadau'r arolwg, y rhyddhadau mwyaf cyffredin yr oedd busnesau yn ymwybodol ohonynt oedd Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach a RhAMHLl
  • roedd lefelau cymysg o ddealltwriaeth o feini prawf cymhwysedd ar gyfer rhyddhadau; nodwyd bod y broses ymgeisio am ryddhadau ardrethi annomestig yn ddryslyd ac yn rhwystredig yn ogystal â bod oedi hir ynghlwm â hyn
  • gan adlewyrchu canfyddiadau'r arolwg, disgrifiodd busnesau gryn ansicrwydd, gan ofni y gallai rhai rhyddhadau ardrethi annomestig gael eu cwtogi neu eu dileu yn fuan; nodwyd bod hyn yn cael effaith negyddol amlwg ar gynllunio i'r dyfodol
  • i'r busnesau hynny sy'n ymwybodol o'r rhyddhadau ardrethi annomestig maen nhw'n eu derbyn, roedd y rhyddhad wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ac fe'u disgrifiwyd fel "achubiaeth" i fusnesau; fodd bynnag, fe'u hystyriwyd hefyd yn annigonol o ran mynd i'r afael â’r holl gefnogaeth sydd ei hangen ar fusnesau

Casgliadau

Arweiniodd y canfyddiadau o'r tair elfen at y casgliadau canlynol ynghylch yr egwyddorion y dylid eu defnyddio i asesu rhyddhadau ardrethi annomestig.

Symlrwydd a chydymffurfiaeth

Ar draws y tair elfen, roedd cytundeb bod symlrwydd a chydymffurfiaeth yn egwyddor bwysig ar gyfer asesu rhyddhadau ardrethi annomestig. Nododd arbenigwyr treth y gellir ystyried symlrwydd o safbwynt rhyddhadau unigol yn ogystal â'r system ryddhadau yn ei chyfanrwydd. Roedd yr egwyddor hon yn arbennig o bwysig i gynrychiolwyr awdurdodau lleol, talwyr ardrethi a chyrff cynrychioliadol, a oedd i gyd yn galw am ryddhadau syml y mae talwyr ardrethi yn ymwybodol ohonynt ac yn gallu eu deall yn llawn.

Sicrwydd

Ar draws y tair elfen, roedd cytundeb bod sicrwydd yn egwyddor bwysig ar gyfer asesu rhyddhadau ardrethi annomestig. Cytunodd arbenigwyr treth, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, talwyr ardrethi a chyrff cynrychioliadol fel ei gilydd fod sicrwydd ynghylch rhyddhadau yn hanfodol ar gyfer gwaith cynllunio busnesau yn y dyfodol, o ran amserlenni clir a gwerthoedd ariannol.

Digonolrwydd refeniw

Ar draws Elfennau 1 a 2, roedd cytundeb bod digonolrwydd refeniw yn egwyddor bwysig ar gyfer asesu rhyddhadau ardrethi annomestig. Nododd arbenigwyr treth fod ystyriaethau eraill ynghylch digonolrwydd refeniw yn cynnwys costau gweinyddol a chostau tymor byr yn erbyn costau hirdymor a manteision rhyddhadau. Cytunodd awdurdodau lleol â'r egwyddor hon, o ystyried rôl ardrethi annomestig wrth ariannu gwasanaethau lleol. Roedd yr egwyddor hon yn llai uniongyrchol berthnasol i dalwyr ardrethi eu hunain.

Effeithlonrwydd economaidd

Ar draws Elfennau 1 a 2, roedd cytundeb ymhlith arbenigwyr treth a chynrychiolwyr awdurdodau lleol fod effeithlonrwydd economaidd yn egwyddor bwysig ar gyfer asesu rhyddhadau ardrethi annomestig. Fodd bynnag, mae ansicrwydd ynghylch baich trethiannol yn effeithio ar y gallu i werthuso effeithlonrwydd economaidd rhai rhyddhadau ardrethi annomestig. Roedd yr egwyddor hon yn llai uniongyrchol berthnasol i dalwyr ardrethi eu hunain.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Alma Economics

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Louisa Smith
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Ymchwil.GwasanaethauCyhoeddus@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 44/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-767-9

GSR logo