Allbwn ac incwm cyfun amaethyddol: 2024
Information on agricultural output, Gross Value Added from agriculture and Total Income From Farming for 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r datganiad hwn yn darparu amcangyfrifon dros dro o allbwn amaethyddol cyfanredol a chyfanswm incwm o ffermio ar lefel Cymru ar gyfer 2024. Mae’r amcangyfrifon hyn yn defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael hyd at fis Mawrth 2025, ac yn destun adolygiad pan fydd gwybodaeth ychwanegol ar gael.
Mae'r amcangyfrifon o allbwn amaethyddol cyfanredol a chyfanswm incwm ar gyfer 2022 a 2023, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2024, wedi'u diwygio tuag i lawr oddeutu £1 miliwn (llai nag 1%) ar gyfer 2022 a £32 miliwn (7%) ar gyfer 2023 yn y cyhoeddiad hwn oherwydd argaeledd mwy o ddata. Gweler Tabl 2 yn yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg am fwy o wybodaeth am y diwygiadau hyn.
Prif bwyntiau
Mae’r Cyfrif Amaethyddol Cyfun yn cael ei lunio gan ddefnyddio data o amrywiaeth eang o ffynonellau, er enghraifft, arolygon amaethyddol, marchnadoedd da byw, sefydliadau marchnata ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).
Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.
Yn 2024, amcangyfrifir bod gwerth ychwanegol gros a chyfanswm incwm o ffermio wedi gostwng (o 5% a 25% yn y drefn honno) yn dilyn lleihad blwyddyn ddiwethaf. Cyrhaeddodd y cyfanswm incwm o ffermio frig yn 2022 yn dilyn blwyddyn eithriadol o gynnydd mewn prisiau dros y mwyafrif o nwyddau oedd wedi gorbwyso cynnydd mewn prisiau mewnbwn. Mae’r cynnydd mewn costau byw yn fwy amlwg yn amcangyfrifon dros dro 2023 ac 2024 - mae’r cynnydd mewn treuliant canolraddol yn ychwanegol i cynnydd cymedrol mewn allbwn wedi arwain i ostyngiad cyffredinol yng nghyfanswm incwm o ffermio.
Cyfrannu at y gostyngiad yn 2024; y cynllun Glastir a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023 a byddai taliadau ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru (gan gynnwys yr elfen Tir Comin) a Chymorth Organig 2024 wedi’u talu tua diwedd blwyddyn ariannol 2024-25 ac ni fydd y ffigurau hyn yn cael eu cyfrifo tan flwyddyn galendr 2025.
Cododd gwerth allbwn amaethyddol cyfanredol (allbwn gros) tua £20 miliwn (llai na 1%) i tua £2.21 biliwn yn 2024.
Cynyddodd defnydd canolradd (y nwyddau a gwasanaethau defnyddir yn y broses gynhyrchu) o £52 miliwn (neu 3%) i tua £1.57 biliwn yn 2024. Mae hyn yn gynnydd mewn costau.
Gostyngodd gwerth ychwanegol gros (allbwn amaethyddol cyfanredol, llai treuliant canolraddol) tua £31 miliwn (neu leihad o 5%) i lai na £648 miliwn yn 2024.
Mae cyfanswm incwm o ffermio wedi gostwng tua £110 miliwn (ychydig dros 25% yn llai) i tua £329 miliwn yn 2024. Esboniwyd y gostyngiad yma gan gynnydd mewn costau rhedeg fferm a chynnydd bach mewn allbwn amaethyddol a diwedd cymorthdaliadau Glastir yn 2024.
Mae gwerth yr allbwn o ydau wedi gostwng wrth £16 miliwn (lleihad o 29%) i tua £41 miliwn. Mae’r gostyngiad yma yn dilyn dwy flynedd o allbynnau uchel o ydau, mae ffigyrau 2024 yn dal i fod yn uwch na 2021.
Mae gwerth yr allbwn o wartheg yn parhau i fod yn uchel ar £549 miliwn (gostyngiad o 1% o 2023). Mae gwerth yr allbwn o ddefaid wedi lleihau £4 miliwn (neu 1%) i fod ychydig yn llai na £319 miliwn. Gyda'i gilydd, mae allbwn gros o wartheg a defaid yn cynrychioli 39% o werth allbwn amaethyddol yng Nghymru.
Gostyngodd da byw 1% yn gyffredinol, cynhyddod cynhyrchion da byw 4%. Cafodd y cynyddiad yma ei sbarduno’n bennaf gan y sector llaeth gan gynnwys llaeth a chynhyrchion llaeth.
Gan edrych yn fanylach ar dreuliant canolraddol, cynyddodd bwyd anifeiliaid ychydig dros £26 miliwn (neu 5%) i fod ychydig dros £539 miliwn. Bwydydd anifeiliaid yw'r elfen fwyaf o dreuliant canolraddol, ar tua thraean.
Gostyngodd gwerth cymorthdaliadau eraill £66 miliwn (22%) i £234 miliwn. Mae mwyafrif o hwn yn cael ei briodoli i’r Cynllun Taliad Sylfaenol a thaliadau gan Glas Tir.
| Allbynnau | 2021 (r) | 2022 (r) | 2023 Dros Dro (r) | 2024 Dros Dro |
|---|---|---|---|---|
| 1. Ydau | 31 | 60 | 57 | 41 |
| 2. Cnydau eraill | 14 | 18 | 18 | 18 |
| 3. Tatws | 13 | 12 | 13 | 14 |
| 4. Garddwriaeth | 52 | 58 | 71 | 71 |
| 5. Da byw | 807 | 836 | 949 | 943 |
| O'r rhai sydd gwartheg | 441 | 494 | 552 | 549 |
| O'r rhai sydd defaid | 286 | 266 | 323 | 319 |
| O'r rhai sydd moch | 7 | 8 | 9 | 10 |
| O'r rhai sydd dofednod | 66 | 61 | 56 | 55 |
| 6. Cynnyrch Da Byw | 649 | 901 | 842 | 879 |
| O'r rhai sydd Llaeth a chynhyrchion llaeth | 570 | 809 | 725 | 760 |
| O'r rhai sydd Wyau | 71 | 83 | 107 | 108 |
| O'r rhai sydd Gwlân | 1 | 2 | 2 | 1 |
| 7. Troi Cyfalaf yn Dda Byw | 55 | 58 | 69 | 71 |
| 8. Gweithgareddau Amaethyddol Eraill | 85 | 94 | 104 | 107 |
| 9. Gweithgareddau Eilaidd Anwahanadwy | 55 | 64 | 70 | 70 |
| 10. Allbwn gros (yn ôl prisiau'r farchnad) [Nodyn 1] | 1,762 | 2,101 | 2,194 | 2,214 |
| 11. Cyfanswm Cymorthdaliadau ar Gynnyrch | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 12. Allbwn Gros yn ôl prisiau sylfaenol | 1,762 | 2,101 | 2,194 | 2,214 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru.
[Nodyn 1] Cyfanswm: Grawnfwydydd; Cnydau eraill; Tatws; Garddwriaeth; Da byw; Cynhyrchion da byw; Ffurfiant cyfalaf mewn da byw; Gweithgareddau amaethyddol eraill; Gweithgareddau eilaidd anwahanadwy
(r) Diwygiwyd data 2021, 2022 a 2023 ar 29 Mai 2025 ac mae'n wahanol i'r allbwn amaethyddol a'r incwm cyfanredol a gyhoeddwyd yn flaenorol: 2023.
Mae cyfres amser hirach o’r cyfrifon amaethyddol cyfanredol ar gael i’w gweld ar StatsCymru.
| Costau Canolradd | 2021 (r) | 2022 (r) | 2023 Dros Dro (r) | 2024 Dros Dro |
|---|---|---|---|---|
| 13. Costau Canolradd Cyfanswm | 1,189 | 1,369 | 1,515 | 1,567 |
| O'r rhai sydd Porthiant | 400 | 461 | 513 | 539 |
| O'r rhai sydd Costau Milfeddygol a Meddygol | 62 | 72 | 80 | 82 |
| O'r rhai sydd Gwrtaith a Chalch | 100 | 115 | 128 | 131 |
| O'r rhai sydd Costau Peiriannau | 133 | 154 | 170 | 174 |
| O'r rhai sydd Cynnal a Chadw'r Fferm | 57 | 64 | 70 | 72 |
| O'r rhai sydd Gwaith Contract | 80 | 93 | 102 | 105 |
| O'r rhai sydd Costau Ffermio Eraill | 324 | 375 | 415 | 425 |
| 14. FISIM (Gwasanaethau Cyfryngu Ariannol, wedi'u mesur yn anuniongyrchol) | 12 | 13 | 13 | 14 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru.
(r) Diwygiwyd data 2021, 2022 a 2023 ar 29 Mai 2025 ac mae'n wahanol i'r allbwn amaethyddol a'r incwm cyfanredol a gyhoeddwyd yn flaenorol: 2023.
Mae cyfres amser hirach o’r cyfrifon amaethyddol cyfanredol ar gael i’w gweld ar StatsCymru.
| Gwerth Ychwanegol ac Incwm | 2021 (r) | 2022 (r) | 2023 Dros Dro (r) | 2024 Dros Dro |
|---|---|---|---|---|
| 15. Gwerth Ychwanegol Gros yn ôl prisiau sylfaenol [Nodyn 1] | 573 | 731 | 679 | 648 |
| 16. Gwerth Ychwanegol Gros yn ôl prisiau'r farchnad [Nodyn 2] | 573 | 731 | 679 | 648 |
| 17. Defnydd o Gyfalaf Sefydlog | 328 | 366 | 386 | 398 |
| O'r rhai sydd Adeiladau a Gwaith | 101 | 110 | 114 | 116 |
| O'r rhai sydd Cerbydau, Cyfarpar a Pheiriannau | 175 | 194 | 206 | 213 |
| O'r rhai sydd Da byw | 52 | 62 | 66 | 69 |
| 18. Gwerth Ychwanegol Net (yn ôl prisiau sylfaenol) [Nodyn 3] | 245 | 366 | 293 | 250 |
| 19. Cymorthdaliadau Eraill | 282 | 283 | 300 | 234 |
| 20. Gwerth Ychwanegol Net (yn ôl costau'r ffactor) [Nodyn 4] | 527 | 649 | 593 | 484 |
| 21. Tâl Gweithwyr | 110 | 101 | 106 | 108 |
| 22. Llog | 34 | 35 | 35 | 35 |
| 23. Rhenti | 13 | 13 | 13 | 13 |
| 24. Cyfanswm Incwm Ffermio [Nodyn 5] | 370 | 500 | 439 | 329 |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru.
[Nodyn 1] 'Allbwn Gros yn ôl prisiau sylfaenol' minws 'Costau Canolradd Cyfanswm'
[Nodyn 2] 'Allbwn gros (yn ôl prisiau'r farchnad)' minws 'Costau Canolradd Cyfanswm'
[Nodyn 3] 'Gwerth Ychwanegol Gros yn ôl prisiau sylfaenol' minws 'Defnydd o Gyfalaf Sefydlog'
[Nodyn 4] Gwerth Ychwanegol Net (yn ôl prisiau sylfaenol)' a 'Cymorthdaliadau Eraill'
[Nodyn 5] 'Gwerth Ychwanegol Net (yn ôl costau'r ffactor)' minws 'Tâl Gweithwyr' minws 'Llog' minws 'Rhenti'
(r) Diwygiwyd data 2021, 2022 a 2023 ar 29 Mai 2025 ac mae'n wahanol i'r allbwn amaethyddol a'r incwm cyfanredol a gyhoeddwyd yn flaenorol: 2023.
Mae cyfres amser hirach o’r cyfrifon amaethyddol cyfanredol ar gael i’w gweld ar StatsCymru.
Nodiadau
Cyfanswm yr incwm o ffermio (TIFF)
Incwm a gynhyrchir drwy gynhyrchiant o fewn y diwydiant amaethyddiaeth, gan gynnwys cymorthdaliadau. Mae'n cynrychioli elw busnes ynghyd â thâl am waith a wneir gan berchnogion a gweithwyr di-dâl eraill. Nid yw'n cynnwys newidiadau yng ngwerth asedau, gan gynnwys stociau, oherwydd newidiadau mewn prisiau. Mae'n cynnwys gweithgareddau anamaethyddol megis prosesu pellach neu weithgareddau twristiaeth lle na ellir gwahanu'r rhain oddi wrth y busnes amaethyddol. Dyma'r mesur a ffefrir o incwm cyfun, gan gydymffurfio ag egwyddorion cyfrifyddu cenedlaethol y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol, sy'n ofynnol gan gyfrifon cenedlaethol y DU a chan Eurostat.
Gwasanaethau cyfryngu ariannol sydd wedi'u mesur yn anuniongyrchol (FISIM)
Amcangyfrif o werth y gwasanaethau a ddarperir gan gyfryngwyr ariannol, megis banciau, na chodir taliadau penodol amdanynt. Yn hytrach, telir am y gwasanaethau hyn fel rhan o'r bwlch rhwng cyfraddau a gynigir i gynilwyr a benthycwyr. Y rhagdybiaeth yw y byddai cynilwyr yn derbyn cyfradd llog uwch a benthycwyr yn talu cyfradd llog is pe bai gan bob gwasanaeth ariannol ffioedd penodol. Yn y cyfrifon hyn, mae'r symiau llog a delir ac a dderbynnir yn cael eu haddasu, a chofnodir maint yr FISIM gyda threuliant canolraddol.
Wedi'u cynnwys mewn costau ffermio eraill (llinell 13 o'r cyfrif o dan dreuliant canolraddol) mae eitemau megis plaladdwyr, hadau, cyfleustodau, yswiriant, trethi, ffioedd bancio a chostau cyffredinol eraill.
Wedi'u cynnwys mewn cymorthdaliadau eraill (llinell 19 o'r cyfrif)
- Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2015 i 2023.
- Taliadau amaeth-amgylcheddol (gan gynnwys Glastir, a chynlluniau etifeddiaeth megis Tir Mynydd a Tir Gofal) ar gyfer 2015 i 2023.
- Iawndal am glefydau anifeiliaid (TB buchol yn bennaf) ar gyfer 2015 i 2023.
- Taliadau i ffermwyr llaeth Cymru o'r canlynol:
Pecyn Llaeth yr UE: £3.2 miliwn yn 2015.
Cynllun Meincnodi Cymorth Amodol yr UE: £3.2 miliwn wedi’i gofnodi yn erbyn 2016, er bod hyn wedi'i dalu mewn gwirionedd yn 2017.
Cronfa Gostwng Cynhyrchu Llaeth yr UE: £1.1 miliwn wedi’i gofnodi yn erbyn 2016, er bod hyn wedi'i dalu mewn gwirionedd yn 2017.
Nid yw'r cymorthdaliadau hyn wedi'u cynnwys mewn allbwn amaethyddol gan eu bod wedi'u datgysylltu o'r cynhyrchu, ond maent wedi'u cynnwys yng nghyfanswm yr incwm o ffermio (TIFF) yn unol â chonfensiynau cyfrifyddu cenedlaethol.
Mae gwybodaeth am Gynllun y Taliad Sylfaenol a gynhwysir yn rhagamcan 2024 yn seiliedig ar amcangyfrif o gyfanswm y gwerth a delir o ganlyniad i geisiadau a wnaed yn 2024. Mewn geiriau eraill, mae rhagolwg 2024 yn cynnwys yr holl daliadau sylfaenol a wnaed hyd yma ac amcangyfrif o werth y taliadau a wneir gydol 2025 (ar gyfer ceisiadau a wnaed yn 2024).
Yn wahanol i daliadau amaeth-amgylcheddol, mae rhagolwg 2024 yn cynnwys taliadau Glastir a wnaed yn ystod y flwyddyn, waeth pryd y llofnodwyd contractau Glastir mewn gwirionedd.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Cynhyrchir y canlyniadau hyn gan ddefnyddio egwyddorion cyfrifyddu cenedlaethol a gytunwyd yn rhyngwladol.
Mae mesurau incwm yn arddangos rhywfaint o anwadalrwydd ar draws y blynyddoedd, wedi'i ddylanwadu gan amodau'r farchnad ar y pryd. Gan fod yr holl fesurau incwm yn cynnwys elfen sy'n ymwneud ag elw, mae'r mesurau hyn yn y sector amaethyddol yn fwy anwadal na mesurau mewn sectorau eraill (a ddiffinir yn nhermau incwm o gyflogau yn unig).
Talgrynnu
Mae'r ffigurau a ddangosir yn y datganiad hwn wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf. Mae cyfrifiadau megis canran neu newid gwirioneddol wedi'u gwneud ar ffigurau heb eu talgrynnu.
Data ar datws
Peidiodd AHDB â chynhyrchu gwybodaeth am y farchnad datws ym Mhrydain ym mis Gorffennaf 2021 yn dilyn pleidlais yn y diwydiant. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ffynonellau data amgen ond, ar gyfer y datganiad hwn, mae ffigurau tatws 2020 wedi'u defnyddio fel amcangyfrif dros dro.
Methodoleg
Ar adeg cyhoeddi, nid yw’r holl ddata ar gael ar gyfer 2024 sydd wedi golygu bod rhai gwerthoedd wedi’u hamcangyfrif. O ganlyniad, bydd yr amcangyfrif dros dro hwn yn destun rhywfaint o ddiwygio pan gyhoeddir amcangyfrif 2025 y flwyddyn nesaf.
Mae'r amcangyfrifon yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio ystod o ddata sydd ar gael am brisiau'r farchnad gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r AHDB ar gyfer data ar y marchnadoedd grawn a llaeth yn ogystal â phwysau byw hanesyddol a phrisiau difa wedi'u pwysoli. Mae data o gofnodion cofrestru a symud gwartheg BCMS a data pacio wyau Defra hefyd yn cael eu defnyddio. Mae Arolwg diweddaraf mis Mehefin hefyd yn rhoi amcangyfrif o dueddiadau cynhyrchu o fewn y sector amaethyddol yng Nghymru.
O ystyried mai TIFF yw'r gwahaniaeth cymharol fach rhwng dau rif mawr, mae'n sensitif i newidiadau canrannol bach yng ngwerthoedd allbynnau a defnydd canolraddol. Mae hyn yn golygu bod cyfuniad o ddiwygiadau llai mewn allbynnau a defnydd canolraddol yn arwain at ddiwygiadau mwy sylweddol mewn termau canrannol i Werth Ychwanegol Crynswth a TIFF.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda DEFRA a gwledydd datganoledig eraill i barhau i adolygu a gwella’r prosesau presennol sydd ar waith ar gyfer amcangyfrif y cyfrifon amaethyddol cyfanredol. Rhagwelir felly y bydd datganiadau yn y dyfodol yn cynnwys diwygiadau pellach i'r ffigurau a newidiadau mewn methodoleg ar waith. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu hesbonio'n fanwl yn y datganiad nesaf.
Diwygiadau
Mae ffigurau ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae Tabl 2 isod yn dangos diwygiadau i'r ffigurau ar gyfer 2022 a 2023 sydd wedi'u gwneud yn y rhifyn hwn o'r datganiad.
| Blynyddoedd Calendr | Nwyddau | Cyhoeddedig 6 Mehefin 2024 | Cyhoeddedig 29 Mai 2025 | Gwirioneddol Newid | % Newid |
|---|---|---|---|---|---|
| 2022 | Allbwn Gros | 2,100 | 2,101 | 0.55 | 0.0% |
| 2022 | Costau Canolradd | 1,369 | 1,369 | 0.27 | 0.0% |
| 2022 | Gwerth Ychwanegol Gros | 730 | 731 | 1.28 | 0.2% |
| 2022 | Gwerth Ychwanegol Net (ar gost ffactor) | 650 | 649 | -1.15 | -0.2% |
| 2022 | Cyfanswm Incwm Ffermio | 501 | 500 | -1.00 | -0.2% |
| 2023 | Allbwn Gros | 2,219 | 2,194 | -25.19 | -1.1% |
| 2023 | Costau Canolradd | 1,510 | 1,515 | 4.85 | 0.3% |
| 2023 | Gwerth Ychwanegol Gros | 709 | 679 | -30.04 | -4.2% |
| 2023 | Gwerth Ychwanegol Net (ar gost ffactor) | 625 | 593 | -32.40 | -5.2% |
| 2023 | Cyfanswm Incwm Ffermio | 471 | 439 | -31.91 | -6.8% |
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru.
Mae'r ffigurau ar gyfer 2022 yn cymharu'r ffigurau dros dro a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 â'r ffigurau terfynol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025; mae'r gymhariaeth yn sefydlog. Fel y byddem yn ei ddisgwyl, mae'r newidiadau yn fwy ar gyfer 2023 wrth gymharu'r rhagolwg a gyhoeddwyd yn 2024 â'r ffigurau dros dro a gyhoeddwyd yn 2025.
Bydd y ffigurau yn y datganiad hwn yn cael eu diwygio yn y dyfodol i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau megis yr Arolwg o Fusnesau Ffermio ar gyfer 2024-25.
Bydd unrhyw ddiwygiadau i ffigurau allbwn ac incwm amaethyddol 2024 yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r amcangyfrifon a ragwelir ar gyfer 2025 ym mis Mai 2026 (dros dro). Yn unol â'r uchod, mae'r ffigurau ar gyfer allbwn ac incwm amaethyddol yn 2022 a 2023 wedi'u diwygio i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r ffigurau ar gyfer 2023 yn parhau i fod yn rhai dros dro.
Gwnaed newidiadau methodolegol a therminolegol ym 1998 i gydymffurfio â gofynion System Cyfrifon Cenedlaethol (SNA) 1993 a Chyfrifon Cenedlaethol y DU.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegaucyn belled ag y bo modd yn ystod eu datblygu.
Mae’r fethodoleg ar gyfer yr allbwn amaethyddol cyfanredol ac ystadegau incwm yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd er mwyn gwella cywirdeb yr amcangyfrifon ymhellach. Rydym yn croesawu unrhyw adborth neu awgrymiadau i ffynonellau dylwn ystyried.
Felly, rydym wedi cymhwyso’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol fel a ganlyn.
Dibynadwyedd
Rydym wedi bod yn onest yn ein defnydd o ffynonellau data a lle mae’n briodol rydym wedi rhoi gwybod pan mae ffynonellau wedi newid rhwng cyhoeddiadau. Mae’r wybodaeth rydym yn cyflwyno yn gywir, clir a diduedd.
Ansawdd
Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd wedi’u grynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol yn defnyddio’r data mwyaf diweddar ar gael ac yn gweithredu dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a sgiliau dadansoddi. Mae’r ystadegau a chyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol, sy’n atodi’r piler Ansawdd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig) ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn yw rhoi tystiolaeth ar gyfer datblygiad polisi ac i helpu crynhoi cyfrifon cyfanredol y DU.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Katherine McGlinchy
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 44/2024
