Ymgynghoriad ar y strategaeth genedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol
Rydym yn ceisio eich barn ar y strategaeth 10 mlynedd ddrafft ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol 2025 i 2035.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar y drafft strategaeth genedlaethol 10 mlynedd ar gyfer atal a phriodoldeb ymateb i gam-drin rhywiol plant yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth genedlaethol 10 mlynedd ddrafft ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, i ymgynghori'n gyhoeddus arni. Bydd hon yn disodli'r cynllun gweithredu cenedlaethol ar gam-drin plant yn rhywiol a gwblhawyd yn 2022.
Mae'r strategaeth genedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yn nodi bwriad strategol Llywodraeth Cymru a'r camau gweithredu y mae angen eu cymryd i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd o dan y cynllun blaenorol, gan adlewyrchu'r gwaith ymgysylltu a wnaed gyda rhanddeiliaid allweddol rhwng 2023 a 2025.
Cefndir
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cenedlaethol i Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Yn 2022 cyhoeddwyd adroddiad Cyflawni yn nodi'r hyn a gyflawnwyd o dan y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol, ynghyd ag argymhellion ar gyfer camau gweithredu parhaus ar gyfer y dyfodol.
Roedd hyn yn cynnwys:
- parhau i godi ymwybyddiaeth a newid agweddau at gam-drin plant yn rhywiol
- datblygu llwybrau cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod ynghlwm ag ymddygiad rhywiol niweidiol
- cefnogi camau diogelu corfforaethol cyson ar draws Cymru
- sicrhau bod yr wybodaeth i blant a phobl ifanc yn cael ei rhannu yn y lleoedd a'r mannau y maen nhw'n eu defnyddio, gan gynnwys ar-lein/ar y cyfryngau cymdeithasol
- datblygu a chynnal cyfleoedd dysgu parhaus ar gyfer y gweithlu amlasiantaeth
- monitro effaith y dulliau ymarfer o ran helpu i adnabod achosion o gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru a gwella tystiolaeth ynghylch natur y cam-drin hwnnw a pha mor gyffredin ydyw
- cwblhau'r gwaith o fapio gwasanaethau therapiwtig ar draws Cymru
- hyrwyddo’n eang wybodaeth i oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol, gan gynnwys gwybodaeth i blant sydd ar fin cael eu pen-blwydd yn 18 oed
- yr angen i gasglu data cyson a chywir ar gam-drin plant yn rhywiol
Mae'r awgrymiadau am waith pellach wedi'u hymgorffori yn y strategaeth ac wedi cael eu hymestyn i gynnwys oedolion sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol yn ystod eu plentyndod.
Cyhoeddodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) ei adroddiad terfynol ym mis Hydref 2022. Roedd yr adroddiad terfynol yn gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
Cafodd yr holl argymhellion a wnaed i Lywodraeth Cymru eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 20 Ebrill 2023.
Dyma grynodeb o'r argymhellion:
- argymhelliad 1: datblygu set ddata graidd (derbyniwyd)
- argymhelliad 2: sefydlu awdurdodau amddiffyn plant yng Nghymru a Lloegr (derbyniwyd mewn egwyddor)
- argymhelliad 3: sefydlu Gweinidog Cabinet ar gyfer plant (derbyniwyd)
- argymhelliad 4: gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd (derbyniwyd)
- argymhelliad 13: gosod dyletswydd ar unigolion i roi gwybod am gam-drin plant yn rhywiol (derbyniwyd mewn egwyddor)
- argymhelliad 16: darparu cymorth therapiwtig arbenigol i blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol (derbyniwyd mewn egwyddor)
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
- cryfhau a gwella’r modd y cydymffurfir â’n fframweithiau rheoleiddio ar draws gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol
- adeiladu ar gyhoeddi ein Cod Ymarfer Diogelu, i ymgysylltu’n eang ac archwilio safbwyntiau ar sicrhau bod gan eraill sy'n darparu gwasanaethau neu'n cynnig gweithgareddau i blant ac oedolion a allai fod yn wynebu risg drefniadau diogelu cymesur ac effeithiol ar waith
- ceisio safbwyntiau pellach o ran gosod dyletswyddau ar unigolion i roi gwybod am blant ac oedolion sy’n wynebu risg, ac archwilio goblygiadau hyn, fel rhan o’r drafodaeth ynglŷn â’r camau nesaf
- cyfuno hyn â mesurau pellach i hyrwyddo mynediad at hyfforddiant a dulliau gweithredu effeithiol i ymarferwyr; a chodi a chynnal ymwybyddiaeth y cyhoedd o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed, a'r camau hanfodol i'w cymryd lle mae hyn yn digwydd neu lle amheuir fod hyn yn digwydd
- cael ei llywio gan well dealltwriaeth o’r pethau sy’n atal pobl rhag crybwyll a chofnodi pryderon, ac anelu at roi hyder i unigolion geisio’r cymorth angenrheidiol neu eu helpu i wybod sut gallant ymateb i eraill, er mwyn helpu i leihau’r peryglon a sicrhau bod plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael cymorth
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion IICSA wedi'i ategu gan y credoau canlynol:
- cynnal ac ymestyn y dull sefydliadol yn y lle cyntaf, gan ystyried creu dyletswyddau adrodd gorfodol ar gyfer unigolion
- cynnal ein dull pobl (plant ac oedolion sy’n wynebu risg)
- cynnwys pob math o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed
- dewis cosbau heblaw rhai troseddol (er enghraifft, proffesiynol, disgyblu)
Mae argymhellion yr ymchwiliad wedi parhau i gael eu gweithredu, yn enwedig gwaith i gryfhau a gwella cydymffurfiaeth â systemau diogelu presennol. Y strategaeth fydd y cyfrwng y byddwn yn ei ddefnyddio i barhau i weithredu'r argymhellion hyn.
Rhagair y Gweinidog
Mae cam-drin plant yn rhywiol yn drosedd ofnadwy. Mae’n cael effaith ddifrifol ar ddioddefwyr-oroeswyr, gan effeithio ar eu hiechyd, eu perthnasoedd, eu haddysg, eu cyflogaeth a’u llesiant cyffredinol. Mae effeithiau cam-drin plant yn rhywiol yn atseinio drwy deuluoedd, cymunedau a chymdeithas.
Mae lleisiau pobl y mae cam-drin rhywiol wedi effeithio arnynt yn ganolog i’r strategaeth hon, ac i’r broses o’i rhoi ar waith. Clywodd yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol gan dros 6,000 o unigolion a oedd yn ddigon dewr i rannu eu straeon. Rwy’n gwybod y bydd llawer mwy o blant ac oedolion wedi rhannu eu profiadau, ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd am wneud hynny. Byddwn yn anrhydeddu’r dewrder hwn drwy barhau i wrando a dysgu a thrwy ddefnyddio’r dysgu hwn i lywio polisi ac ymarfer sy’n adlewyrchu profiadau bywyd pobl.
Mae ymchwil yn dangos bod 25,000 o blant yng Nghymru yn profi rhyw fath o gam-drin rhywiol bob blwyddyn, ond dim ond cyfran fach o’r plant hyn sy’n dod i sylw gwasanaethau fel yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae graddfa a natur y cam-drin plant yn rhywiol rydym yn ei weld wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar-lein. Mae cam-drin plant yn rhywiol yn fath cymhleth o gam-drin a all gael ei gyflawni gan unigolion neu grwpiau, plant ac oedolion.
Er mwyn atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yn effeithiol a chefnogi’r rhai yr effeithir arnynt, rhaid inni ‘ddychmygu’r annychmygadwy’. Mae cam-drin plant yn rhywiol yn digwydd, ac mae’n digwydd o fewn teuluoedd, grwpiau, cymunedau, ar-lein ac mewn sefydliadau. Mae cam-drin yn ffynnu mewn cyfrinachedd. Felly, rhaid inni chwalu tabŵs, mythau a rhwystrau sy’n ymwneud â’r pwnc hwn, gan daflu goleuni arno fel y gallwn ni amddiffyn plant a phobl ifanc yn fwy effeithiol.
Oherwydd cymhlethdod y math hwn o gam-drin a’r niwed sylweddol y mae’n ei achosi, mae’n amlwg bod angen dull cynhwysfawr, trawslywodraethol, system gyfan i fynd i’r afael â cham-drin rhywiol. Mae’r strategaeth hon yn egluro sut y byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys pobl y mae cam-drin rhywiol wedi effeithio arnynt, i atal cam-drin rhywiol, ymateb yn effeithiol i blant pan fo pryderon, a chefnogi pawb yr effeithir arnynt yng Nghymru.
Hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd at ddatblygu’r strategaeth ddrafft hon, yn enwedig oedolion sy’n ddioddefwyr-oroeswyr. Byddwn yn darparu strategaeth a fydd yn sicrhau y bydd pobl yng Nghymru y mae cam-drin rhywiol ar blant yn effeithio arnynt yn cael eu hamddiffyn a’u cefnogi’n effeithiol, nawr ac yn y dyfodol.
Dawn Bowden MS
Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol
Cwestiynau ymgynghoriad
Adran 1
Mae adran 1 o'r ddogfen yn esbonio gweledigaeth Llywodraeth Cymru fod:
pob plentyn yng Nghymru yn byw eu bywydau’n rhydd rhag cam-drin rhywiol ac mae pawb y mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio arnynt yn cael eu hamddiffyn a’u cefnogi drwy gydol eu hoes.
Mae'r adran hon hefyd yn esbonio bod angen dull system gyfan i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol, a bod hyn yn cynnwys atal, adnabod, ymateb, cydweithredu a monitro a gwerthuso.
Mae'r strategaeth yn cwmpasu pobl o'u genedigaeth hyd at ddiwedd eu hoes yr effeithir arnynt gan gam-drin plant yn rhywiol, ac mae'n cynnwys pob math o gam-drin rhywiol. Mae'r disgrifyddion ar gyfer y mathau o gam-drin wedi'u cymryd o waith a gafodd ei wneud gan y Ganolfan Arbenigedd Cam-drin Plant yn Rhywiol a'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA).
Arweiniodd y cynllun gweithredu cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, a oedd ar waith rhwng 2019 a 2022, at ddatblygu adnoddau sylweddol. Roedd y cynllun hwn yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau diogelu rhanbarthol sefydlu cynlluniau gweithredu i gyflawni ei amcanion. Mae'r gwersi a ddysgwyd o'r cynllun gweithredu cenedlaethol a'r camau gweithredu pellach arfaethedig wedi'u cynnwys yn y strategaeth ddrafft.
Sbardun allweddol arall ar gyfer y strategaeth hon yw argymhellion yr adroddiadau a gynhyrchwyd gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) gan gynnwys yr argymhellion yn adroddiad terfynol IICSA i Lywodraeth Cymru sydd wedi'u hymgorffori yn y strategaeth. Rydym yn bwriadu i'r strategaeth fod yn gyfrwng i gyflawni'r argymhellion yn yr adroddiad terfynol.
Yn adran 1.6 rydym wedi rhestru'r camau gweithredu yr awgrymwyd eu bod yn flaenoriaeth gan randdeiliaid wrth inni drafod gyda nhw. Nid dyma'r unig gamau gweithredu y mae angen inni eu cymryd ond mae rhanddeiliaid yn credu mai'r camau blaenoriaeth hyn fydd yn cael yr effaith fwyaf arwyddocaol ar arferion o ran cam-drin plant yn rhywiol yn y cyfnod byrraf o amser.
Cwestiwn 1
I ba raddau rydych yn cytuno bod angen inni, er mwyn mynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol yng Nghymru, gael strategaeth 10 mlynedd yn hytrach na chynllun gweithredu cenedlaethol 3 blynedd?
Cwestiwn 2
I ba raddau rydych chi'n cytuno â gweledigaeth Llywodraeth Cymru?
Mae pob plentyn yng Nghymru yn byw eu bywydau’n rhydd rhag cam-drin rhywiol ac mae pawb y mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio arnynt yn cael eu hamddiffyn a’u cefnogi drwy gydol eu hoes
Cwestiwn 3
I ba raddau rydych chi'n cytuno â'r camau blaenoriaeth sydd wedi'u rhestru yn adran 1.6?
Cytunwyd ar y camau canlynol gyda’n rhanddeiliaid fel blaenoriaeth, a chredwn y bydd gweithredu’r newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ymarfer yn y maes hwn, gan wella canlyniadau i bobl yng Nghymru. Nid yw hon yn rhestr hierarchaidd, ac mae’r holl gamau blaenoriaeth yr un mor bwysig â’i gilydd:
- Gwella’r gwaith o gasglu, adrodd a dadansoddi data ar gam-drin plant yn rhywiol a’i ddefnyddio i lywio polisi ac ymarfer.
- Codi ymwybyddiaeth plant, teuluoedd a chymunedau o sut i adnabod ac adrodd pryderon am gam-drin plant yn rhywiol.
- Annog sgyrsiau agored am berthnasoedd iach, rhywioldeb, iechyd rhywiol a cham-drin rhywiol ymhlith plant, rhieni, gofalwyr, cymunedau a gweithwyr proffesiynol.
- Sicrhau bod yr ymateb amlasiantaethol i gam-drin plant yn rhywiol yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn, yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn gyson ledled Cymru drwy weithredu llwybr cenedlaethol ar gyfer cam-drin plant yn rhywiol.
- Codi ymwybyddiaeth o’r llwybr cenedlaethol ar gyfer ymatebion cymesur i ymddygiad rhywiol niweidiol a ddatblygwyd o dan y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol gwreiddiol.
- Datblygu a gweithredu fframwaith hyfforddi cam-drin plant yn rhywiol yn unol â’r grwpiau a esbonnir yn y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol a ddatblygwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC).
- Cefnogi ymarferwyr o bob sefydliad i adnabod cam-drin plant yn rhywiol, i deimlo’n hyderus i roi gwybod am bryderon a’r rhai sydd â rolau diogelu i asesu a rheoli risg yn effeithiol.
- Mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau sy’n darparu cymorth arbenigol ac anarbenigol i blant, teuluoedd ac oedolion sy’n ddioddefwyr-oroeswyr er mwyn sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt gan gam-drin plant yn rhywiol yn gallu cael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg iawn iddyn nhw.
Adran 2
Mae adran 2 o'r strategaeth ddrafft yn nodi'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gweledigaeth Llywodraeth Cymru, yr amcanion strategol a'r camau blaenoriaeth rydym wedi'u dewis.
Cwestiwn 1
Allwch chi roi gwybod inni am unrhyw dystiolaeth arall rydych chi'n meddwl bod angen inni ei hystyried ar gyfer fersiwn derfynol y strategaeth?
Adran 3
Mae adran 3 o'r strategaeth ddrafft yn amlinellu'r amcanion strategol rydym wedi'u nodi a'r camau blaenoriaeth y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion hyn dros y cyfnod o ddeng mlynedd. Nid dyma'r unig gamau rydym yn bwriadu eu cymryd o dan bob ffrwd waith, ond dyma'r camau y mae rhanddeiliaid wedi cytuno eu bod yn flaenoriaeth.
Yn y strwythur cyflawni a gynigir yn adran 4, bydd grŵp ffrwd waith i bob un o'r amcanion. Gwaith y grwpiau hyn fydd datblygu cynlluniau gweithredu manwl i gyflawni'r camau blaenoriaeth rydym wedi cytuno arnynt.
Proses gynllunio ar ffurf cylch tair blynedd fydd hon, a bydd newidiadau ac ychwanegiadau yn digwydd wrth inni fynd yn ein blaenau. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod unrhyw ddysgu rydym yn ei nodi yn cael ei ddefnyddio i lywio'r fersiwn nesaf o'r cynllun gweithredu.
Y 4 amcan strategol rydym wedi'u nodi yw:
- atal cam-drin plant yn rhywiol
- amddiffyn plant pan fo pryderon wedi'u nodi am gam-drin plant yn rhywiol (yr ymateb amlasiantaeth)
- cefnogi plant ac oedolion yr effeithir arnynt gan gam-drin plant yn rhywiol
- cefnogi oedolion sy’n ddioddefwyr-oroeswyr cam-drin plant yn rhywiol
Cwestiwn 1
I ba raddau rydych chi'n cytuno mai dyma'r amcanion cywir?
Cwestiwn 2
Ydych chi'n meddwl y bydd y camau rydym wedi'u hamlinellu o dan bob un o'r amcanion strategol yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth gyffredinol sef:
Mae pob plentyn yng Nghymru yn byw eu bywydau’n rhydd rhag cam-drin rhywiol ac mae pawb y mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio arnynt yn cael eu hamddiffyn a’u cefnogi drwy gydol eu hoes.
Cwestiwn 3
Ai'r partneriaid allweddol a restrir ym mhob un o adrannau'r amcanion strategol yw'r partneriaid cywir ar gyfer y camau gweithredu?
Cwestiwn 4
Mae adran 4 o'r strategaeth ddrafft yn nodi sut y byddwn yn cydweithio o fewn Llywodraeth Cymru a gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod polisïau'n cydweddu, yn unol â'r gwerthoedd sy'n sail i'r strategaeth hon a bod dull system gyfan ar y cyd o fynd i'r afael â phob math o gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru.
I gefnogi'r dull system gyfan hwn, byddwn yn sefydlu grŵp cynghori polisi mewnol Llywodraeth Cymru ar gyfer cam-drin plant yn rhywiol.
Mae'r adran hon hefyd yn nodi ein strwythur cyflawni arfaethedig ar gyfer y strategaeth. Ar ôl i'r strategaeth gael ei chyhoeddi, rydym yn bwriadu sefydlu grŵp Gweithredu Strategol i fonitro a gwerthuso effaith y strategaeth. Bydd y grŵp hwn yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector a sefydliadau statudol.
O dan y grŵp gweithredu strategol bydd grŵp ffrwd waith ar gyfer pob un o'r amcanion strategol. Bydd pob un o'r grwpiau hyn yn cael ei gadeirio gan aelod o'r grŵp gweithredu strategol a byddant yn cynnwys cynrychiolwyr o'r holl grwpiau rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth.
Ein bwriad hefyd yw sefydlu fforwm plant a phobl ifanc sefydlog a grŵp Cynghorol dioddefwyr-oroeswyr.
Cwestiwn 1
I ba raddau rydych chi'n cytuno y bydd y strwythur cyflawni a gynigir yn ein helpu i gyflawni'r amcanion strategol yn effeithiol a gwireddu'r weledigaeth?
Cwestiwn 2
A oes unrhyw gamau eraill y dylem eu hychwanegu at y strategaeth ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?
Cwestiwn 3
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y strategaeth ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 4
A allai'r strategaeth gael ei llunio neu ei newid i gryfhau:
- ei dylanwad neu ei heffeithiau mwy positif ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
- I liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
Cwestiwn 5
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 8 Hydref 2025, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- llenwch ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, cwblhewch ein ffurflen ymateb ac e-bostiwch: CSA.YmgynghoriadCynllunGweithreduCenedlaethol@llyw.cymru
- Lawrlwytho, cwblhewch ein ffurflen ymateb a'i bostio i:
Y Tîm Polisi Diogelu, Eiriolaeth a Chwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Wrth ymateb, byddai’n ddefnyddiol pe baech yn cadarnhau ai ymateb fel unigolyn yr ydych chi neu a ydych yn anfon ymateb swyddogol ar ran sefydliad. Cynhwyswch:
- eich enw
- eich swydd (os yw'n berthnasol)
- enw'r sefydliad (os yw'n berthnasol)
Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Rydym yn croesawu barn plant a phobl ifanc ac eisiau sicrhau bod eu barn yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaeth. I wneud hyn rydym wedi creu fersiwn o'r strategaeth sy'n addas i blant a phobl ifanc a gellir ei gweld drwy'r ddolen hon.
Help a chymorth
Gall darllen am gam-drin plant yn rhywiol ennyn ymateb emosiynol. Os oes angen cymorth arnoch neu os hoffech siarad ag unrhyw un, gallwch gysylltu â'r canlynol:
- os ydych chi'n berson ifanc gallwch gysylltu â Childline, gwasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim, drwy'r ddolen hon neu'r rhif 0800 1111
- os ydych chi'n oedolyn gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol 24/7, sy'n wasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim, drwy'r ddolen hon neu'r rhif 0808 500 2222
- os oes angen cymorth arnoch ar gyfer eich iechyd meddwl, gallwch ffonio Llinell Gymorth CALL ar 0800 132 737
- i gael cymorth brys, ffoniwch y GIG drwy 111 a phwyso 2
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Manylion cyswllt
I gyfer gwybodaeth bellach am y ymgynghoriad hwn cysylltwch â:
Tîm Polisi Diogelu, Awdurdod a Chwynion Adran
Gwelliant Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Chydamseru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: CSA.YmgynghoriadCynllunGweithreduCenedlaethol@llyw.cymru
Mwy o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print mawr, Braille a iaith amgen o'r ddogfen hon ar gael ar gais.
