Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Cynhaliwyd ail gyfarfod y Panel Cynghori ar Dargedau Bioamrywiaeth (BTAP) ar 6 Mawrth 2025 gydag Alice Teague, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth yn cadeirio. Trafodwyd amrywiaeth o bynciau yn y cyfarfod i ddiweddaru'r aelodau ar y Bil a'r gwaith a wnaed hyd yma ar ddatblygu targedau, ac i gael mewnbwn y Panel i'r targedau a flaenoriaethwyd.

Cyflwyniad ar y Bil

Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar hynt y Bil.

Blaenoriaethu Targedau'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang

Rhoddodd tîm Llywodraeth Cymru (LlC) yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel ar yr ymarfer ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid a gynhaliwyd i flaenoriaethu targedau'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang i greu rhestr fer ar gyfer Cymru. Adolygodd a chymeradwyodd y Panel y dull arfaethedig yn ôl yn y cyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr felly aethpwyd ati i ddatblygu hynny ar gyfer yr ymarfer. 

Roedd LlC yn chwilio am argymhellion y Panel ar y meysydd blaenoriaeth er mwyn eu cyflwyno i'r Dirprwy Brif Weinidog i'w cymeradwyo. Cyflwynodd swyddogion LlC ganlyniadau'r ymarfer blaenoriaethu targedau'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. 

Gofynnwyd i aelodau'r panel adolygu a gwneud sylwadau ar y meysydd blaenoriaeth statudol arfaethedig ac ar dargedau i'w datblygu. Cafodd y meysydd blaenoriaeth gefnogaeth helaeth gan aelodau'r BTAP, gan nodi bod y pedwar maes yn darparu strwythur ar gyfer targedau a fydd yn atal ac yn gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Awgrymodd sawl aelod y dylid newid ‘gwybodaeth’ i ‘dystiolaeth' yn y maes blaenoriaeth perthnasol. 

Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu targedau

Cyflwynodd swyddogion LlC y gwaith a wnaed ar ddatblygu targedau hyd yn hyn, gan gynnwys casglu tystiolaeth, datblygu dangosyddion, a modelu senarios. Mae LlC wedi comisiynu'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfres o ddangosyddion i fesur cynnydd yn erbyn Cenhadaeth Natur-Bositif Cymru. Mae hyn yn cynnwys nodi dangosyddion cyfredol sy'n gysylltiedig â bioamrywiaeth, cydgrynhoi'r hyn a ddysgwyd o fframweithiau dangosyddion eraill, nodi bylchau mewn dangosyddion cyfredol a gwneud awgrymiadau o ran lle y byddai angen datblygu dangosyddion newydd, a datblygu cynllun ar gyfer unrhyw ddangosyddion newydd. Bydd y JNCC hefyd yn cefnogi cam modelu senarios y gwaith o ddatblygu targedau.

Nododd y Panel fod angen ystyried manteision ariannol a Phrotocolau Cyfalaf Naturiol wrth fodelu ac nid bioamrywiaeth yn unig. Dylid cynnwys setiau data cymdeithasol hefyd yn y gwaith mapio dangosyddion. Trafodwyd pwysigrwydd dangosyddion y DU a ddadgyfunwyd hefyd.

Casglu tystiolaeth

Cyfrannodd y Panel at waith casglu tystiolaeth ar gyfer y meysydd blaenoriaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu targedau tybiannol a nodi rhwystrau i bennu dichonoldeb a'r gallu i gyflawni targedau. Rhannwyd aelodau'r panel yn 3 grŵp trafod a gofynnwyd iddynt adolygu targedau'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ar y rhestr fer sy'n gysylltiedig â'r meysydd blaenoriaeth. Trafododd y grwpiau dargedau tybiannol posibl a'r hyn a allai gael ei gyfri'n dda yng Nghymru o ran y targedau ar y rhestr fer. Cynhaliodd grwpiau hefyd ddadansoddiad Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasegol, Technolegol, Cyfreithiol ac Amgylcheddol (PESTLE) ar gyfer y targedau hyn i bennu cyfyngiadau a chyfleoedd posibl. Bydd swyddogion yn defnyddio'r wybodaeth hon o'r BTAP fel rhan o'r broses casglu tystiolaeth.