Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw gwaharddiadau?

1. Elfen sylfaenol o'r drefn gaffael newydd yw sicrhau cystadleuaeth deg ac agored a thrin cyflenwyr yn gyfartal. Dylai awdurdodau contractio fod yn hyderus bod cyflenwyr sy'n cymryd rhan yn eu prosesau caffael ac yn cyflawni eu contractau yn ddibynadwy. Dylai awdurdodau contractio ddefnyddio amodau cyfranogi i fodloni eu hunain bod gan gyflenwyr y capasiti cyfreithiol ac ariannol a'r gallu technegol i ddarparu'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau penodol dan sylw.

2. Mae 'gwahardd' yn derm eang sy'n cael ei ddefnyddio yn y canllawiau hyn i ddisgrifio nifer o amgylchiadau penodol lle na chaiff cyflenwyr gymryd rhan mewn proses gaffael a gwmpesir, lle na chaiff eu tendr ei ystyried a lle na fyddant yn derbyn contract cyhoeddus.

3. Mae'r drefn waharddiadau’n galluogi, ac yn ei gwneud yn ofynnol lle bo’n briodol, i wahardd cyflenwyr sy'n peri risgiau penodol i gaffael cyhoeddus. Mae'n darparu fframwaith lle mae'n rhaid i awdurdodau contractio ystyried ymddygiad ac amgylchiadau diweddar cyflenwr er mwyn penderfynu a ddylid caniatáu iddo gystadlu am gontract cyhoeddus neu ddyfarnu contract cyhoeddus iddo.

4. Mae’r risgiau hyn yn perthyn i'r categorïau canlynol:

  1. cyflawni contractau cyhoeddus yn ddibynadwy: y risg y bydd cyflenwr yn methu â chyflawni gofynion cytundebol, naill ai drwy dorri amodau contract neu berfformiad annigonol. Nid yw hyn yn ymwneud â gallu'r cyflenwr i gyflawni gofyniad penodol, ond yn hytrach mae'n ymwneud â risg gyffredinol o fethu â pherfformio
  2. cystadleuaeth effeithiol ar gyfer contractau cyhoeddus: y risg na ellir ymgymryd â phroses gaffael, gan gynnwys asesu'r gwaharddiadau, yn unol â'r drefn gyfreithiol ac yn benodol yr amcanion caffael a nodir yn adran 12 o Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf)
  3. hyder y cyhoedd yng ngonestrwydd, uniondeb a chywirdeb cyflenwyr wrth gyflawni contractau cyhoeddus: y risg y gellir tanseilio hyder y cyhoedd oherwydd nad yw cyflenwr yn ymddwyn yn ddidwyll
  4. diogelu arian cyhoeddus: y risg y gallai cyflenwr ysgwyddo costau ychwanegol i'r sector cyhoeddus (ac felly'r trethdalwr) wrth gyflawni contractau cyhoeddus
  5. amddiffyn y cyhoedd, yr amgylchedd, buddiannau diogelwch cenedlaethol a hawliau gweithwyr: y risg y gallai cyflenwr fod yn risg i'r agweddau hyn sy'n cael eu hystyried yn bwysig iawn mewn perthynas â chyflenwyr i'r sector cyhoeddus.

5. Ni fwriedir i'r drefn waharddiadau fod yn gosb am amgylchiadau neu gamymddwyn yn y gorffennol. Nid yw'r drefn yn cael ei defnyddio chwaith er mwyn cael effaith ataliol ar gyflenwyr yn y dyfodol, er, wrth gwrs, bod disgwyl i bob cyflenwr i'r sector cyhoeddus beidio â chymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol na chamymddwyn arall. Mae gwahardd yn ddull seiliedig ar risg sy'n canolbwyntio ar y risgiau penodol sy'n cael eu hachosi gan y cyflenwr.

Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli gwaharddiadau?

6. Mae'r Ddeddf yn ymdrin ag eithriadau mewn tair prif ffordd:

  1. Mae adrannau 26 a 27 yn ymdrin â sut y mae'n rhaid ystyried y rhesymau dros wahardd a'u cymhwyso mewn gweithdrefnau caffael gwahanol. Mae adran 28 yn ymdrin â gwahardd cyflenwyr drwy gyfeirio at isgontractwyr, ac mae adran 29 yn berthnasol os yw awdurdod contractio’n bwriadu gwahardd cyflenwr yn ôl disgresiwn am resymau diogelwch cenedlaethol.
  2. Mae adrannau 57 a 58 yn diffinio cysyniadau cyflenwyr gwaharddedig a chyflenwyr gwaharddadwy. Hefyd, maent yn manylu ar faterion y gallai awdurdod contractio roi sylw iddynt wrth ystyried a yw'r amgylchiadau sy'n arwain at reswm am waharddiad yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto.
  3. Mae'r rhesymau gorfodol dros wahardd wedi'u nodi yn Atodlen 6, ac mae'r rhesymau yn ôl disgresiwn dros wahardd wedi'u nodi yn Atodlen 7.

7. Yn ogystal â'r rhesymau dros wahardd, mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth mewn mannau eraill i dendrau gael eu diystyru am resymau eraill. Mae'r rhesymau hyn yn cael eu hamlinellu a'u croesgyfeirio yn adrannau 19(3), (9) a (10) ac maent yn cynnwys diystyru tendrau gan gyflenwyr nad ydynt yn gyflenwyr y DU neu wladwriaeth gytuniad, neilltuo contractau cyhoeddus i ddarparwyr cyflogaeth â chymorth a gwasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol cymwys o dan adrannau 32 a 33, a diystyru tendrau gan gyflenwyr nad ydynt yn aelodau o farchnad ddynamig o dan adran 34. Am ragor o wybodaeth gweler y canllawiau ar gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad, contractau neilltuol a marchnadoedd dynamig.

8. Hefyd, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i drin cyflenwr fel cyflenwr gwaharddedig mewn amgylchiadau y tu allan i'r rhesymau gwahardd gorfodol. Bydd hyn yn digwydd yn yr achosion canlynol:

  1. mae natur cyfranogiad cyflenwr mewn ymgysylltiad cychwynnol â'r farchnad yn golygu bod ganddo fantais annheg anochel yn y broses gaffael o dan adran 16
  2. mae cyflenwr wedi gweithredu'n amhriodol yn y broses gaffael o dan adran 30, a
  3. mae gan gyflenwr fantais annheg anochel oherwydd gwrthdaro rhwng buddiannau yn ystod y broses gaffael o dan adran 82.

9. I grynhoi, rhaid i dendr gan gyflenwr gwaharddedig neu gyflenwr gwaharddadwy (ar gyfer cyflenwyr gwaharddedig) gael ei ddiystyru mewn gweithdrefn dendro gystadleuol, a gellir diystyru tendrau o'r fath gan gyflenwyr gwaharddadwy (gweler adran 26). Yn ogystal, rhaid i'r cyflenwr (ar gyfer cyflenwyr gwaharddedig) neu gall y cyflenwr (ar gyfer cyflenwyr gwaharddadwy) gael ei wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol, neu symud ymlaen fel rhan o weithdrefn hyblyg gystadleuol (gweler adran 27). Gallai 'symud ymlaen' yn y weithdrefn olygu cael parhau yn y broses gaffael y tu hwnt i gyflwyno ceisiadau i gymryd rhan, cyflwyno tendrau cychwynnol, neu unrhyw gam dilynol yn y gweithdrefnau.

Beth sydd wedi newid?

10. Mae'r Ddeddf yn diweddaru'r ddeddfwriaeth flaenorol yn sylweddol ac mae'n dwyn ynghyd un drefn waharddiadau sy'n disodli'r rhai a nodir ar hyn o bryd yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016, Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 a Rheoliadau Contractau Cyhoeddus Amddiffyn a Diogelwch 2011.

11. Yr hyn sy'n dilyn yw trosolwg lefel uchel o rai o'r newidiadau ehangach i'r drefn waharddiadau:

  1. cyflwyno rhesymau newydd dros wahardd gorfodol (wedi'u cynnwys yn y rhestr lawn o resymau a amlinellir yn Atodiad 1) er mwyn ehangu'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i awdurdodau contractio wahardd cyflenwyr sydd wedi'u cael yn euog o droseddau penodol a mathau penodol eraill o gamymddwyn difrifol
  2. cyflwyno rhesymau newydd dros wahardd yn ôl disgresiwn (sydd hefyd wedi'u cynnwys yn y rhestr lawn o resymau a amlinellir yn Atodiad 1) mewn meysydd fel perfformiad gwael, camymddwyn llafur a bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol, gan alluogi awdurdodau contractio i gymryd camau mwy cadarn yn erbyn cyflenwyr sy'n tanberfformio a chyflenwyr sy'n peri risgiau annerbyniol
  3. gwneud y rhesymau dros wahardd yn benodol i'r DU, ond sicrhau hefyd eu bod yn berthnasol i rai digwyddiadau tramor ac i droseddau cyfatebol y tu allan i'r DU, dyfarniadau rheoleiddio a phenderfyniadau eraill
  4. creu set gliriach o reolau sy'n amlinellu pryd y mae'n rhaid neu y gellir gwahardd cyflenwr am reswm sy'n berthnasol i 'bersonau cysylltiedig' (megis perchenogion llesiannol, cyfarwyddwyr, rhiant-gwmnïau ac is-gwmnïau) neu 'bersonau â chyswllt' (megis rhai isgontractwyr allweddol) a'i gwneud yn glir bod y rhain yn berthnasol i resymau gorfodol a rhesymau yn ôl disgresiwn
  5. rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau contractio ystyried ystod o dystiolaeth o 'hunanlanhau' gan gyflenwyr er mwyn asesu a yw'r amgylchiadau sy'n arwain at reswm dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto
  6. ymestyn y terfyn amser ar gyfer ystyried digwyddiadau perthnasol yn ymwneud â rhesymau dros wahardd yn ôl disgresiwn i 5 mlynedd er mwyn cyfateb i'r terfyn amser ar gyfer rhesymau gorfodol dros wahardd.

Pwyntiau allweddol a bwriad polisi

12. Mae'r Ddeddf yn amlinellu rhestr o resymau dros wahardd gorfodol ac yn ôl disgresiwn ac mae'n gosod dyletswydd ar awdurdodau contractio i ystyried y ddwy set o resymau ar gyfer pob proses gaffael, yn ogystal ag a yw'r amgylchiadau'n parhau neu'n debygol o ddigwydd eto. Rhaid i awdurdodau contractio wahardd cyflenwr gwaharddedig ac maen nhw'n gallu gwahardd cyflenwr gwaharddadwy.

Ystyr 'cyflenwr gwaharddedig' a 'chyflenwr gwaharddadwy’

13. Mae Adran 57 yn diffinio cysyniadau 'cyflenwr gwaharddedig' a 'chyflenwr gwaharddadwy’. Er bod y diffiniadau yn adran 57 yn cyfeirio at resymau dros wahardd sy'n berthnasol i'r cyflenwr neu berson â chyswllt, mae'n bwysig cofio bod llawer o'r rhesymau dros wahardd yn berthnasol hefyd pan fydd digwyddiad neu amgylchiad wedi'i bennu neu'n berthnasol i'r cyflenwr neu berson cysylltiedig (gweler Atodlenni 6 a 7 o'r Ddeddf a pharagraffau 41 a 45 o'r canllawiau hyn). Mae adran 28 o'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar wahân ar gyfer gwahardd cyflenwr ar sail is-gontractwr.

14. Mae cyflenwr yn 'gyflenwr gwaharddedig' os yw'r awdurdod contractio yn ystyried, yn gyntaf, bod rheswm dros wahardd gorfodol yn berthnasol i'r cyflenwr (neu i berson cysylltiedig lle bo hynny'n berthnasol) neu i berson â chyswllt, ac, yn ail, bod yr amgylchiadau sy'n arwain at y rheswm dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto. Hefyd, bydd cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig os oes un o Weinidogion y Goron eisoes wedi penderfynu hyn; h.y. os yw'r cyflenwr neu'r person â chyswllt ar y rhestr rhagwaharddiadau oherwydd rheswm gorfodol dros wahardd.

15. Mae cyflenwr yn 'gyflenwr gwaharddadwy' os yw'r awdurdod contractio’n ystyried, yn gyntaf, bod rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn yn berthnasol i'r cyflenwr (neu i berson cysylltiedig lle bo hynny'n berthnasol) neu i berson â chyswllt, ac, yn ail, bod yr amgylchiadau sy'n arwain at y rheswm dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto. Hefyd, bydd cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy os oes un o Weinidogion y Goron eisoes wedi penderfynu hyn; h.y. os yw'r cyflenwr neu'r person â chyswllt ar y rhestr rhagwaharddiadau oherwydd rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn.

16. Mewn geiriau eraill, bydd y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy naill ai pan fydd yr awdurdod contractio yn credu bod hyn yn berthnasol yng nghyd-destun proses gaffael benodol neu os yw'r cyflenwr eisoes wedi'i restru ar y rhestr rhagwaharddiadau.

Beth yw arwyddocâd rhagwaharddiadau?

17. Mae rhagwaharddiad yn fecanwaith newydd lle mae un o Weinidogion y Goron yn gallu cynnwys enw cyflenwr yn y rhestr rhagwaharddiadau a gyhoeddir yn ganolog os yw'r Gweinidog yn fodlon bod cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy. Bydd y rhestr yn cael ei rheoli gan Uned Adolygu Caffael (PRU) Llywodraeth y DU a'i chyhoeddi ar gov.uk. Rhaid i'r rhestr rhagwaharddiadau gael ei gwirio gan awdurdodau contractio bob amser wrth ymgymryd â chaffael a gwmpesir.

18. Os yw cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau, ac eithrio mewn nifer fach o achosion, rhaid i awdurdodau contractio, neu fe all awdurdodau contractio, wahardd y cyflenwr hwnnw o'r broses gaffael, gan ddibynnu ar a yw'r rheswm dros wahardd sydd wedi arwain at gynnwys y cyflenwr yn y rhestr rhagwaharddiadau yn rheswm dros wahardd gorfodol neu'n rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn.

19. Am fwy o fanylion am ragwaharddiadau, gweler y canllawiau ar ragwaharddiadau.

Eithriadau i'r broses waharddiadau safonol

20. Mae'r rheolau cyffredinol yn wahanol mewn dau achos. Yn gyntaf, mewn caffaeliadau a gwmpesir sy'n cael eu cyflawni gan gyfleustodau preifat, rhaid ystyried cyflenwr gwaharddedig fel cyflenwr gwaharddadwy (adran 57(4) o'r Ddeddf). Mae hyn yn golygu bod cyfleustod preifat yn gallu dewis a ddylid gwahardd cyflenwr o broses gaffael am reswm a fyddai'n arwain at waharddiad gorfodol ar gyfer pob awdurdod contractio arall, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd i gyfleustodau preifat o safbwynt gwahardd cyflenwyr. Am fwy o wybodaeth gweler y canllawiau ar gontractau cyfleustodau.

21. Yn ail, ar gyfer gwaharddiadau sy'n seiliedig ar reswm dros wahardd yn ôl disgresiwn sy'n ymwneud â diogelwch cenedlaethol yn Atodlen 7, paragraff 14 o'r Ddeddf, ni chaiff awdurdod contractio (ac eithrio Gweinidog y Goron, adran o'r llywodraeth neu Swyddog Corfforaethol Tŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi) wahardd y cyflenwr oni bai:

  1. bod yr awdurdod contractio (gan gynnwys awdurdodau datganoledig Cymru) wedi hysbysu Gweinidog y Goron o'i fwriad i wneud hyn (yn ymarferol rhaid i'r unigolyn hwn fod yn weinidog yn Swyddfa'r Cabinet y gellir ei hysbysu drwy dudalen rhagwaharddiadau GOV.UK, a
  2. bod y Gweinidog o'r farn bod y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy ar sail y rheswm hwn dros ei wahardd, ac y dylid diystyru'r tendr neu wahardd y cyflenwr.

22. Mae un gwahaniaeth hefyd yn y ffordd y mae'r rhestr yn gweithredu os yw'r cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau am reswm gwahardd gorfodol sy'n ymwneud â diogelwch cenedlaethol yn Atodlen 6, paragraff 35 o'r Ddeddf. Yn wahanol i'r rhesymau eraill dros wahardd, mae'n bosibl na fydd y cofnod hwn ar y rhestr rhagwaharddiadau yn berthnasol i bob caffaeliad a gwmpesir. Er mwyn i'r rheswm hwn fod yn berthnasol, rhaid i'r Gweinidog fod wedi penderfynu bod y cyflenwr yn fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol mewn perthynas â chontractau o ddisgrifiad neu ddisgrifiadau penodol. Os yw enw cyflenwr yn cael ei gynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau am y rheswm hwn, mae'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig ar gyfer prosesau caffael y mathau hyn o gontractau yn unig. Mae'n bosibl y bydd math o gontract yn cael ei ddisgrifio ar y rhestr rhagwaharddiadau fel contract ar gyfer darparu mathau penodol o nwyddau, gwaith neu wasanaethau, mathau penodol o leoliadau, neu gontract a ddyfernir gan fathau penodol o awdurdodau contractio. Rhaid i awdurdodau contractio wahardd cyflenwyr a restrir yn y rhestr rhagwaharddiadau mewn perthynas â'r rheswm hwn ar gyfer y math/mathau penodedig o gontractau yn unig.

Y rhesymau dros wahardd

23.Mae Atodlen 6 o'r Ddeddf yn amlinellu'r rhesymau dros wahardd gorfodol, sef y senarios mwyaf difrifol, risg uchel. Mae'r rhesymau yn Rhan 1 o'r Atodlen yn gofyn am euogfarn am droseddau penodol yn y DU. Hefyd, maen nhw'n cynnwys euogfarnau am drosedd y tu allan i'r DU a fyddai'n drosedd pe bai wedi'i chyflawni yn y DU. Er enghraifft, os yw cyflenwr yn cael ei ddedfrydu’n euog o drosedd twyll mewn gwlad arall, bydd hyn yn rheswm dros waharddiad gorfodol pe bai'r camymddwyn hwn wedi bod yn drosedd yn y DU pe bai wedi digwydd yn y DU. Mae Rhan 1 yn cynnwys troseddau ategol hefyd, megis helpu ac annog.

24.Nid yw'r rhesymau yn Rhan 2 o'r atodlen yn gofyn am euogfarn am drosedd, ac maent yn ymwneud â bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol mewn perthynas â chontractau penodol a rhai achosion o gamymddwyn treth a thorri cyfraith cystadlu. Mae'r rhesymau camymddwyn treth a thorri cyfraith cystadlu yn cynnwys camymddwyn a throseddau a ddigwyddodd y tu allan i'r DU. Hefyd, mae Rhan 2 yn cynnwys methu â chydweithredu ag ymchwiliad rhagwaharddiad a gynhaliwyd gan awdurdod priodol (megis Gweinidogion Cymru) fel rheswm dros wahardd gorfodol. Dim ond un o Weinidogion y Goron sy'n gallu ystyried a phenderfynu bod y methiant i gydweithredu yn ddigon difrifol i fod yn rheswm dros waharddiad gorfodol.

25.Mae Atodlen 7 o'r Ddeddf yn amlinellu'r rhesymau dros wahardd yn ôl disgresiwn. Nid yw'r rhan fwyaf o'r rhesymau hyn yn gofyn am euogfarn, ond maent yn cynnwys sefyllfaoedd a allai achosi risgiau annerbyniol. Mae'r rhain yn cynnwys ystod eang o sefyllfaoedd, megis ansolfedd, achosion posibl o dorri'r gyfraith cystadlu, camymddwyn proffesiynol, tor contract a pherfformiad gwael, bygythiadau cyffredinol i ddiogelwch cenedlaethol, yn ogystal â chamymddwyn mewn meysydd fel llafur a'r amgylchedd. Mae'r rhesymau yn Atodlen 7 yn ymwneud â sefyllfaoedd lle mae camymddwyn wedi digwydd y tu allan i'r DU. Hefyd, maent yn cynnwys rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn lle mae'r cyflenwr wedi gweithredu'n amhriodol mewn proses gaffael arall.

26. Mae'r rhestr lawn o resymau dros wahardd gorfodol ac yn ôl disgresiwn i’w gweld yn Atodiad 1.

Cyfnodau amser

27. Nid cosbi cyflenwyr am gamymddwyn yn y gorffennol yw diben y drefn waharddiadau, yn hytrach ei nod yw diogelu yn erbyn risgiau annerbyniol. O ganlyniad, mae Atodlen 6 o'r Ddeddf yn atal ystyried euogfarnau, penderfyniadau rheoleiddiol, digwyddiadau neu ymddygiad a ddigwyddodd fwy na 5 mlynedd yn ôl ar gyfer rhesymau dros wahardd gorfodol. Mae Atodlen 7 o'r Ddeddf yn atal ystyried digwyddiadau yr oedd yr awdurdod contractio yn ymwybodol ohonynt (neu y byddai penderfynwr cymharol wybodus yn sefyllfa'r awdurdod contractio wedi bod yn ymwybodol ohonynt) fwy na 5 mlynedd yn ôl ar gyfer rhesymau dros wahardd yn ôl disgresiwn. Yn y canllawiau hyn, er mwyn bod yn gryno, defnyddir y term 'digwyddodd y digwyddiad'. Ar gyfer rhesymau dros wahardd gorfodol, dyma'r prawf cyfreithiol, ond ar gyfer rhesymau dros wahardd yn ôl disgresiwn, y prawf yw pryd yr oedd yr awdurdod contractio yn ymwybodol o'r digwyddiad neu bryd y byddai penderfynwr cymharol wybodus yn sefyllfa'r awdurdod contractio wedi bod yn ymwybodol o'r digwyddiad. Os oedd digwyddiad fwy na 5 mlynedd yn ôl, ni ystyrir ei fod yn arwain at y risgiau y mae'r drefn yn ceisio lliniaru yn eu herbyn.

28. Nid yw'r cyfnod 5 mlynedd yn gyfnod ar gyfer gwahardd fel y cyfryw; ond os oedd y digwyddiad fwy na 5 mlynedd yn ôl, nid yw'r cyflenwr mewn perygl o gael ei wahardd mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw.

29. Er mwyn osgoi sefyllfa lle mae cyflenwyr yn destun camau gwahardd posibl ar sail rhywbeth a ddigwyddodd cyn i'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Caffael 2023 ddod i rym lle mae'r rhesymau dros wahardd yn newydd neu'n destun cyfnod 3 blynedd mewn deddfwriaeth flaenorol, mae Atodlenni 6 a 7 o'r Ddeddf yn darparu rheolau ychwanegol yn ymwneud â chyfnodau amser (yn ychwanegol at y rheol 5 mlynedd a nodwyd yn flaenorol):

  1. Ar gyfer rhesymau dros wahardd sy'n newydd (fel y'u hamlinellir yn Atodlen 6, paragraff 44(3) ac Atodlen 7, paragraff 15(4) o'r Ddeddf), ni ellir ystyried digwyddiadau a ddigwyddodd cyn i'r drefn waharddiadau ddod i rym. Er enghraifft, mae dynladdiad corfforaethol yn rheswm newydd dros wahardd gorfodol ac mae camymddwyn llafur difrifol yn rheswm newydd dros wahardd yn ôl disgresiwn, felly ni ellir ystyried euogfarn dynladdiad corfforaethol neu achos o gamymddwyn yn y farchnad lafur a ddigwyddodd cyn i'r drefn waharddiadau ddod i rym.
  2. Ar gyfer rhesymau dros wahardd sy'n debyg iawn neu'r un fath â rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn o dan y ddeddfwriaeth flaenorol (fel yr amlinellir yn Atodlen 6, paragraff 44(4) ac Atodlen 7, paragraff 15(3) o'r Ddeddf), ni ellir ystyried digwyddiadau a ddigwyddodd mwy na 3 blynedd cyn i'r Atodlenni ddod i rym. Er enghraifft, mae camymddwyn proffesiynol yn debyg i reswm dros wahardd yn ôl disgresiwn camymddwyn proffesiynol difrifol o dan y ddeddfwriaeth flaenorol gyda therfyn amser o 3 blynedd, felly o dan y Ddeddf ni ellir ystyried camymddwyn o'r fath a ddigwyddodd cyn 3 blynedd cyn i'r Ddeddf ddod i rym.

Unigolion ac endidau sy'n gysylltiedig neu sydd â chyswllt â'r cyflenwr

30. Er mwyn i awdurdod contractio fod yn fodlon y dylid caniatáu i gyflenwr gymryd rhan mewn proses gaffael ac o bosibl derbyn contract, dylai ystyried hefyd a yw'r rhesymau dros wahardd yn berthnasol i unigolion neu endidau penodol:

  1. sydd â dylanwad neu reolaeth sylweddol dros y cyflenwr
  2. y mae gan y cyflenwr ddylanwad neu reolaeth sylweddol drostynt
  3. sydd â chyswllt penodol â'r cyflenwr.

31. Mae'r rhesymau dros wahardd yn dangos bod risgiau penodol yn bodoli; felly, os ydynt yn berthnasol i unigolyn neu endid cyfreithiol perthnasol fel y nodir uchod, gall olygu bod y cyflenwr yn peri risgiau o'r fath trwy gyswllt neu gysylltiad.

32. Nid yw dylanwad neu reolaeth sylweddol wedi'u cyfyngu i'r rhai sydd â rheolaeth neu ddylanwad llawn dros y cyflenwr neu y mae gan y cyflenwr reolaeth neu ddylanwad llawn drostynt, ac nid yw cyswllt mor eang â phob unigolyn neu endid sydd â chyswllt â'r cyflenwr. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer dau gategori o bobl y mae'n rhaid eu hystyried mewn perthynas â gwaharddiadau: personau â chyswllt a phersonau cysylltiedig. Hefyd, mae'n darparu ar gyfer trydydd categori sy'n cael ei drin ychydig yn wahanol: is-gontractwyr.

Personau â chyswllt

33. Gall cyflenwr fod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy os oes unrhyw reswm dros wahardd yn berthnasol naill ai i'r cyflenwr neu i berson â chyswllt (gweler y cyfeiriadau at 'berson â chyswllt' yn adran 57 o'r Ddeddf) ac os yw'r amgylchiadau sy'n gyfrifol am y rheswm dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto.

34. Diffinnir person â chyswllt at y dibenion hyn yn adran 26(4) o'r Ddeddf fel person y mae'r cyflenwr yn dibynnu arno er mwyn bodloni'r amodau cyfranogiad (ac eithrio gwarantwr). Mae gwarantwyr wedi'u cynnwys fel person â chyswllt at ddibenion darpariaethau amodau cyfranogiad ond nid at ddibenion darpariaethau gwaharddiadau, er mwyn osgoi sefyllfa lle mae awdurdodau contractio yn gorfod gwirio endidau fel banciau am resymau posibl dros wahardd.

35. Mae personau â chyswllt yn debygol o fod yn yr haen gyntaf o is-gontractwyr, ond mae'n bosibl y byddan nhw ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi, er enghraifft wrth gaffael contractau sydd ag elfennau technegol iawn.

36. Enghraifft o berson â chyswllt at ddibenion gwaharddiadau yw is-gontractwr arbenigol neu aelod o gonsortiwm y mae'r cyflenwr yn dibynnu arno i ddarparu elfennau technegol penodol o'r contract lle mae'r awdurdod contractio wedi pennu bod dangos gallu technegol yn y maes hwn yn amod cyfranogiad.

37. Er enghraifft, efallai y bydd angen i gyflenwr glanhau sy'n gwneud cais am gontract rheoli cyfleusterau integredig sy'n cynnwys gwasanaethau meddal (e.e. glanhau) a chaled (e.e. cynnal a chadw adeiladau), ddibynnu ar gyflenwr cynnal a chadw adeiladau arbenigol er mwyn bodloni amodau cyfranogiad sy'n ymwneud â'r agwedd hon ar y gwasanaeth. Gallai'r cyflenwr glanhau strwythuro ei gais naill ai fel consortiwm, gan wneud cynnig ar y cyd â'r cyflenwr cynnal a chadw adeiladau, neu gyda'r cyflenwr glanhau fel y prif gyflenwr gan ddefnyddio'r cyflenwr cynnal a chadw adeiladau fel is-gontractwr. Yn y naill achos neu'r llall, byddai'r cyflenwr cynnal a chadw adeiladau yn berson â chyswllt. Mae'n werth nodi na fydd pob is-gontractwr yn berson â chyswllt. Mae'n bosibl y bydd is-gontractwyr eraill yn cael eu defnyddio i gyflawni'r contract cyhoeddus cyfan neu ran ohono. Os nad yw'r cyflenwr yn dibynnu ar yr is-gontractwyr hyn i fodloni amodau'r cyfranogiad, ni fyddant yn bersonau â chyswllt. Yn yr enghraifft o reoli cyfleusterau integredig, gan ddibynnu ar yr amodau cyfranogiad a bennir gan yr awdurdod contractio, gallai 'is-gontractwr arall' fod yn gyflenwr gwasanaethau diogelwch sy'n darparu staff diogelwch.

38. Hefyd, gall cyflenwr fod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy yn rhinwedd person cysylltiedig (gweler paragraffau 41-45 isod) person â chyswllt. Er enghraifft, cyfarwyddwr person â chyswllt y cyflenwr.

39. Os yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy yn rhinwedd person â chyswllt (ac mae'r amgylchiadau sy'n gyfrifol am y rheswm dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto), rhaid i'r cyflenwr gael cyfle i ddisodli'r person â chyswllt cyn cael ei wahardd (adran 26(3) o'r Ddeddf).

40. Gall awdurdodau contractio fod am gynnwys yn eu dogfennau tendro y broses sydd i'w dilyn os penderfynir bod y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy yn rhinwedd person â chyswllt. Dylid ailasesu'r tendr mewn ffordd sy'n osgoi unrhyw anfantais annheg i gyflenwyr eraill neu unrhyw newidiadau i'r tendr y tu hwnt i'r rhai sy'n uniongyrchol gysylltiedig â disodli'r person â chyswllt.

Personau cysylltiedig

41. Gall cyflenwr fod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy os yw rhai rhesymau dros wahardd yn berthnasol i berson cysylltiedig ac os yw'r amgylchiadau sy'n arwain at y rheswm dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto. Er enghraifft, gall cyflenwr fod yn gyflenwr gwaharddedig os oes unrhyw drosedd yn Atodlen 6, Rhan 1 o'r Ddeddf wedi'i chyflawni gan berson cysylltiedig a bod yr amgylchiadau sy'n arwain at y rheswm hwnnw yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto.

42. Diffinnir person cysylltiedig yn Atodlen 6 o'r Ddeddf. Yn gryno, mae'n cynnwys y canlynol:

  1. personau sydd â dylanwad neu reolaeth sylweddol dros y cyflenwr neu bersonau y mae gan y cyflenwr ddylanwad neu reolaeth sylweddol drostynt, gan gynnwys, er enghraifft, prif gyfranddalwyr
  2. cyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr cysgodol
  3. rhiant-gwmnïau ac is-gwmnïau. (Nid yw chwaer-gwmnïau'r cyflenwr, h.y. cwmni gyda'r un rhiant-gwmni, yn bersonau cysylltiedig oni bai eu bod yn perthyn i un o'r categorïau personau cysylltiedig eraill)
  4. cwmnïau rhagflaenol (cwmnïau sydd wedi mynd yn fethdalwyr ac wedi peidio â masnachu a lle mae'r busnes i bob pwrpas wedi'i drosglwyddo i'r cyflenwr), a
  5. phersonau eraill y gellir ystyried yn rhesymol eu bod mewn sefyllfa gyfatebol i'r categorïau uchod..

43. Mae personau cysylltiedig yn cynnwys y rhai sy'n arfer (neu sydd â hawl i arfer) dylanwad neu reolaeth sylweddol dros y cyflenwr yn ogystal â'r rhai y mae'r cyflenwr yn arfer (neu sydd â hawl i arfer) dylanwad neu reolaeth sylweddol drostynt.

44. Os yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy oherwydd camymddwyn person cysylltiedig, gall awdurdodau contractio ystyried cryfder y cysylltiad rhwng y person cysylltiedig a'r cyflenwr wrth arfer eu disgresiwn i wahardd cyflenwr ai peidio. Os yw'r cysylltiad yn wan, gallai hyn awgrymu bod y risg o gamymddwyn yn ystod y broses gaffael neu wrth gyflawni'r contract yn is. Mae hyn yn golygu bod y sefyllfa yn llai difrifol ac y gallai fod yn briodol arfer disgresiwn i ganiatáu i'r cyflenwr barhau i gymryd rhan yn y broses gaffael.

45. Mae gwahardd cyflenwr ar sail personau cysylltiedig yn wahanol i bersonau â chyswllt ac is-gontractwyr oherwydd na ellir ei ddisodli ar gyfer y broses gaffael benodol yn yr un modd ag y mae endidau yn y categorïau eraill yn gallu ei wneud. Mae hyn yn golygu nad yw'n ofynnol rhoi cyfle rhesymol i gyflenwr ddisodli person cysylltiedig cyn ei wahardd.

Is-gontractwyr

46. Rhaid i awdurdodau contractio ofyn am fanylion yr holl is-gontractwyr y mae cyflenwr yn bwriadu eu defnyddio fel rhan o'r broses gaffael (yn unol ag adran 28(1)(a) o'r Ddeddf). Nid yw hyn yn gyfyngedig i is-gontractwyr y mae'r cyflenwr yn dibynnu arnynt i fodloni amodau cyfranogiad (a fydd yn bersonau â chyswllt beth bynnag) ond mae'n berthnasol i bob is-gontractwr (ym mhob haen) y mae'r cyflenwr yn bwriadu is-gontractio perfformiad y contract cyfan neu ran ohono iddynt.

47. Rhaid i'r cyflenwr ddarparu rhestr gynhwysfawr o'u holl is-gontractwyr arfaethedig yn y gadwyn gyflenwi a gynigir ar gyfer y contract. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys pob cyflenwr y mae gan y cyflenwr berthynas fasnachol ag ef; er enghraifft, contract cyflenwi sy'n bodoli eisoes lle nad oes bwriad i is-gontractio'r contract cyfan neu ran ohono yn benodol i'r cyflenwr hwnnw. Os nad yw is-gontractwr yn hysbys ar ddechrau'r weithdrefn (neu os yw'n cael ei gynnwys yn ystod y broses), dylai'r cyflenwr roi gwybod am hyn a darparu manylion perthnasol am yr is-gontractwr adeg cadarnhau pwy ydyw a beth yw ei rôl. Dylid rhannu'r wybodaeth hon â'r awdurdod contractio cyn gynted â phosibl, a chyn cyflwyno'r tendrau terfynol o leiaf. Mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol, sy'n debygol o gynnwys sawl cam, mae’n arfer da gofyn am fanylion diweddaraf is-gontractwyr yn ystod pob cam.

48. Rhaid i awdurdod contractio wirio a yw unrhyw un o'r is-gontractwyr arfaethedig wedi'u cynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau (yn unol â gofyniad adran 28(1)(b) o'r Ddeddf). Yn ogystal, dylai awdurdod contractio sicrhau na fydd y cyflenwr llwyddiannus yn contractio gydag is-gontractwr sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau, o leiaf heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw'r awdurdod contractio lle mae'r is-gontractwr wedi'i gynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau ar sail gwaharddiad yn ôl disgresiwn, yn ystod tymor y contract at ddiben cyflawni'r contract. Dylid cynnwys hyn fel cyfyngiad yn y contract sydd i'w ddyfarnu.

49. Hefyd, gall yr awdurdod contractio ofyn i gyflenwyr am ragor o wybodaeth er mwyn penderfynu a yw unrhyw un o'r is-gontractwyr arfaethedig yn gyflenwyr gwaharddedig neu'n gyflenwyr gwaharddadwy. Dylid gwneud hyn ar gyfer categorïau o is-gontractwyr, megis is-gontractwyr haen gyntaf yn unig, neu ar gyfer is-gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau neu gyflenwadau allweddol, neu os yw risgiau penodol i'r gadwyn gyflenwi wedi'u nodi yn y broses gaffael, yn enwedig mewn meysydd neu ddiwydiannau risg uchel. Gellir ystyried y risgiau hyn waeth pa mor isel i lawr y gadwyn gyflenwi y maen nhw.

50. Fel sy'n wir am berson â chyswllt, os yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy yn rhinwedd is-gontractwr, rhaid i'r cyflenwr gael cyfle i ddisodli'r is-gontractwr cyn cael ei wahardd. Os yw'r cyflenwr yn awgrymu is-gontractwr arall, rhaid i awdurdod contractio gadarnhau nad yw'r is-gontractwr arfaethedig newydd wedi'i gynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau ac, os yw'r is-gontractwr o fewn y categori perthnasol o is-gontractwyr y mae'r awdurdod contractio wedi dewis ystyried gwaharddiadau ar ei gyfer, dylai'r awdurdod contractio gadarnhau hefyd nad yw rheswm dros wahardd yn berthnasol i'r is-gontractwr, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth hunanlanhau berthnasol. Hefyd, dylai'r awdurdod contractio gadarnhau bod y cyflenwr yn parhau i fodloni unrhyw amodau cyfranogiad yn dilyn y newid arfaethedig.

51. Fel sy'n wir am bersonau â chyswllt, gall awdurdodau contractio fod am sicrhau bod eu dogfennau tendro yn cynnwys y broses sydd i'w dilyn os penderfynir bod y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy yn rhinwedd is-gontractwr; er enghraifft, y cyfnod amser a ganiateir yn y cam tendro i ddod o hyd i is-gontractwr arall, na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i'r tendr ac eithrio i adlewyrchu is-gontractwr gwahanol, a sut y bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hasesu. Dylid ailasesu'r tendr mewn ffordd sy'n osgoi unrhyw anfantais annheg i gyflenwyr eraill neu unrhyw newidiadau i'r tendr y tu hwnt i'r rhai sydd wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â disodli'r person â chyswllt.

52. Hefyd, gellir ystyried cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy yn rhinwedd person cysylltiedig is-gontractwr.

Hunanlanhau

53. Wrth benderfynu a yw'r amgylchiadau sy'n arwain at gymhwyso rheswm dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto, dylai awdurdodau contractio edrych ar ystod o dystiolaeth a ffactorau, fel y'u nodir yn adran 58 o'r Ddeddf. Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. tystiolaeth bod y cyflenwr, y person â chyswllt neu'r person cysylltiedig wedi cymryd yr amgylchiadau o ddifrif, er enghraifft drwy dalu iawndal
  2. camau y mae'r cyflenwr, y person â chyswllt neu'r person cysylltiedig wedi'u cymryd i atal yr amgylchiadau rhag digwydd eto, er enghraifft drwy newid staff neu reolwyr, neu roi gweithdrefnau a hyfforddiant ar waith
  3. ymrwymiadau i gymryd camau o'r fath, neu i ddarparu gwybodaeth neu fynediad er mwyn caniatáu dilysu neu fonitro camau o'r fath
  4. yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r amgylchiadau ddigwydd ddiwethaf
  5. unrhyw dystiolaeth, esboniad neu ffactor arall sy'n briodol ym marn yr awdurdod.

54. Yng nghyd-destun hunanlanhau, mae amgylchiadau sy'n arwain at gymhwyso rheswm dros wahardd (gweler adran 58(1)) yn cynnwys y materion sylfaenol yn ogystal â'r camymddwyn penodol. Er enghraifft, gallai materion sylfaenol gynnwys diwylliant swyddfa gwenwynig, methiannau diwydrwydd dyladwy, diffyg swyddogaeth gydymffurfio neu fecanweithiau llywodraethu amhriodol.

55. Wrth ystyried a yw'r amgylchiadau'n debygol o 'ddigwydd eto', mae hyn yn cyfeirio at unrhyw adeg yn y dyfodol. Fodd bynnag, diben y drefn waharddiadau yw lleihau'r risgiau i gontractau cyhoeddus, felly wrth ystyried hyn yng nghyd-destun proses gaffael benodol, efallai y bydd awdurdodau contractio eisiau canolbwyntio ar y risg y bydd yr amgylchiadau'n digwydd eto yn ystod oes y contract. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r risg y bydd yr amgylchiadau'n digwydd eto fod yn gysylltiedig â chyflawni'r contract. Gallai'r amgylchiadau ddigwydd eto mewn rhan arall o weithrediadau'r cyflenwr (neu weithrediadau person cysylltiedig, person â chyswllt neu is-gontractwyr) a pharhau i fod yn berthnasol i'r dyfarniad hwn.

56. Bydd yr hyn sy'n gyfystyr â hunanlanhau da mewn unrhyw sefyllfa benodol yn deillio o'r amgylchiadau sy'n arwain at y rheswm dros wahardd. Wrth geisio penderfynu a yw amgylchiadau'n parhau neu'n debygol o ddigwydd eto, dylai awdurdodau contractio ystyried pa ddisgwyliadau (os oes rhai) sy'n cael eu gosod gan yr awdurdod priodol os oes un yn bodoli, megis Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer camymddwyn amgylcheddol neu'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar gyfer torri rheolau cystadlu.

57. Hefyd, dylai awdurdodau contractio ystyried lefel a natur cydweithredu ag awdurdodau priodol wrth geisio penderfynu a yw'r cyflenwr wedi cymryd yr amgylchiadau o ddifrif. Er enghraifft, mae canllawiau cydweithredu corfforaethol y Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) yn darparu set o egwyddorion y gellir eu defnyddio i helpu i asesu cydweithredu, ac maent yn diffinio cydweithredu fel darparu cymorth i'r awdurdod perthnasol sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol o dan y gyfraith.

58. Cyn penderfynu a yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy, rhaid i'r awdurdod contractio roi cyfle rhesymol i'r cyflenwr gyflwyno sylwadau, gan gynnwys, er enghraifft, sylwadau ar a yw rhesymau dros wahardd yn berthnasol, a darparu tystiolaeth nad yw'r amgylchiadau sy'n arwain at y rheswm dros wahardd yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto (drwy gyfeirio at y wybodaeth a nodir ym mharagraff 53 uchod).

59. Os yw rheswm dros wahardd yn berthnasol oherwydd yr amgylchiadau neu oherwydd camymddwyn gan berson cysylltiedig, person â chyswllt neu is-gontractwr, dylai'r dystiolaeth hunanlanhau ymwneud â'r unigolyn neu'r endid perthnasol yn ogystal ag unrhyw fesurau a roddwyd ar waith gan y cyflenwr, gan gynnwys camau i atal camymddwyn pellach gan y person perthnasol ac yn fwy cyffredinol. Er enghraifft, efallai bod cyflenwr wedi cyflwyno hyfforddiant mwy cadarn, diwydrwydd dyladwy a threfniadau goruchwylio ar gyfer cwmnïau grŵp yn dilyn achos o gamymddwyn proffesiynol gan is-gwmni.

60. Wrth ofyn am dystiolaeth neu wybodaeth benodol, rhaid i'r awdurdod contractio sicrhau bod ceisiadau o'r fath yn gymesur ar sail natur a chymhlethdod y materion sy'n cael eu hasesu, a dyluniad y broses gaffael. Er enghraifft, gellid gofyn i gyflenwr am fanylion rhaglen adnewyddu corfforaethol ledled y busnes mewn achos o gamymddwyn proffesiynol, ond gallai crynodeb o'r newidiadau a wnaed i systemau a gweithdrefnau cyflogres fod yn ddigonol mewn achos o dorri deddfau isafswm cyflog cenedlaethol. Dylai awdurdodau contractio ystyried pryd y byddai'n briodol i gyflenwyr gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth, gan ystyried yr amcanion caffael a'r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod y broses gaffael yn cael ei chynnal yn briodol. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd yn gymesur gofyn am yr holl dystiolaeth yn ystod cam cymryd rhan mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol.

61. Mater i'r cyflenwr yw dangos ei fod wedi hunanlanhau, a rhaid i'r awdurdod contractio fod yn fodlon bod hyn wedi digwydd, gan ystyried y difrifoldeb a'r amgylchiadau penodol sy'n arwain at y rheswm dros wahardd. Er mwyn dod i'r casgliad bod cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy, nid oes angen i'r awdurdod contractio fod yn fodlon y bydd y sefyllfa benodol yn digwydd eto, ond yn hytrach bod yr amgylchiadau sy'n arwain at y sefyllfa yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto. Gellir gofyn i gyflenwyr dalu am archwiliad annibynnol o gamau hunanlanhau os yw'r awdurdod contractio o'r farn bod hyn yn gymesur, yn rhesymol ac yn angenrheidiol.

62. Os yw cyflenwr wedi bod yn destun ymchwiliad am ragwaharddiad, ond nad yw wedi'i osod ar y rhestr rhagwaharddiadau ar gyfer rheswm dros wahardd gorfodol neu reswm dros wahardd yn ôl disgresiwn, bydd adroddiad ymchwilio i ragwaharddiad ar gael, sy'n gallu cynnwys disgrifiad o'r amgylchiadau a'r dystiolaeth a ystyriwyd fel rhan o'r ymchwiliad. Mae hon yn enghraifft dda o dystiolaeth ychwanegol y gallai awdurdod contractio ei hystyried, fel yr amlinellir yn adran 58(1)(e) o'r Ddeddf.

Ystyried amser a aeth heibio mewn asesiadau hunanlanhau

63. Yn gyffredinol, po fwyaf o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r camymddwyn neu'r amgylchiadau ddigwydd, y lleiaf tebygol ydynt o ddigwydd eto. Fodd bynnag, ni ddylai amser a aeth heibio yn unig fod yn ddigon i ddangos bod camymddwyn yn annhebygol o ddigwydd eto; dylid ystyried unrhyw dystiolaeth berthnasol arall hefyd.

64. Dylid ystyried tystiolaeth sy'n dangos y byddai camymddwyn neu amgylchiadau wedi digwydd, ond eu bod wedi cael eu hatal rhag digwydd, er enghraifft trwy fesurau a roddwyd ar waith gan y cyflenwr. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd amser a aeth heibio yn dystiolaeth ddigonol os nad oedd cyfleoedd i'r amgylchiadau godi yn y cyfnod hwnnw.

Ystyried ymrwymiadau'r dyfodol mewn asesiadau hunanlanhau

65. Ni ddylid rhoi'r un pwyslais ar ymrwymiadau'r dyfodol â chamau sydd wedi'u cymryd eisoes. Yn absenoldeb unrhyw gamau pendant, ni ddylai ymrwymiadau yn unig fod yn dystiolaeth ddigonol bod camymddwyn yn annhebygol o ddigwydd eto.

66. Dylai unrhyw ymrwymiadau a ddarperir yn y dyfodol fod yn rhai CAMPUS, (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol). Dylai awdurdodau contractio sicrhau bod yna ddull cadarn o fonitro bod unrhyw ymrwymiadau yn cael eu gwireddu, yn enwedig os ydynt yn ffactor pwysig yn y penderfyniad nad yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy, a bod y cyflenwr yn cael y contract. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys penodi cwmni archwilio annibynnol, y telir amdano gan y cyflenwr, i wirio camau a gymerwyd, neu adrodd yn rheolaidd i'r awdurdod contractio.

Gwirio gwaharddiadau

67. Dylai awdurdodau contractio ofyn i gyflenwyr gyflwyno'r wybodaeth a restrir isod gyda'u ceisiadau er mwyn cymryd rhan mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol neu gyda'u tendrau mewn gweithdrefn agored:

  1. gwybodaeth sylfaenol amdanynt eu hunain a'u personau cysylltiedig a'u personau â chyswllt
  2. hunan-ddatganiadau ynglŷn ag a oes unrhyw resymau dros wahardd gorfodol neu yn ôl disgresiwn yn berthnasol i'r cyflenwr, personau cysylltiedig neu bersonau â chyswllt, ac
  3. os yw'r cyflenwr yn hunan-ddatgan bod rheswm dros wahardd yn berthnasol:
    1. pa reswm dros wahardd sy'n berthnasol
    2. disgrifiad byr o'r digwyddiad sydd wedi arwain at y rheswm dros wahardd
    3. enw’r person sy’n destun y digwyddiad
    4. enw, cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y person, ac
    5. yn achos euogfarn neu ddigwyddiad arall pan fo cofnod wedi ei wneud o benderfyniad awdurdod cyhoeddus, sef y rheswm awdurdodol ar gyfer yr euogfarn neu’r digwyddiad arall:
      1. dolen i’r dudalen we lle y gellir cyrchu’r penderfyniad, neu
      2. gopi o’r penderfyniad
      3. unrhyw dystiolaeth bod y person sy’n destun y digwyddiad:
        1. wedi cymryd y digwyddiad o ddifrif, er enghraifft drwy dalu unrhyw ddirwy neu iawndal
        2. wedi cymryd camau i atal y digwyddiad rhag digwydd eto, er enghraifft drwy newid staff neu reolwyr, neu roi gweithdrefnau neu hyfforddiant ar waith, ac
        3. wedi ymrwymo i gymryd camau ataliol pellach, pan fo hynny’n briodol; ac
      4. os yw’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad wedi dod i ben, y dyddiad y daethant i ben.

68. Nid yw'n ofynnol i awdurdodau contractio ofyn i gyflenwyr hunan-ddatgan y rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn yn ymwneud â diogelwch cenedlaethol; dylai awdurdodau contractio ymchwilio i'r mater hwn fel rhan o'u gwiriadau diwydrwydd dyladwy safonol, ac eithrio ar gyfer adrannau'r Llywodraeth a Swyddogion Corfforaethol Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, a'i ddefnyddio yn dilyn atgyfeiriad i'r Uned Diogelwch Cenedlaethol ar gyfer Caffael (NSUP) yn unig (drwy Uned Adolygu Caffael y DU).

69. Rhaid i awdurdodau contractio ofyn am fanylion is-gontractwyr arfaethedig (o bob haen) ym mhob proses gaffael er mwyn cadarnhau nad yw is-gontractwyr wedi'u cynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau. Efallai y bydd awdurdodau contractio eisiau gofyn am ragor o wybodaeth am is-gontractwyr er mwyn iddynt hwy ystyried gwaharddiadau (yn ogystal â gwirio'r rhestr rhagwaharddiadau) fel yr eglurir uchod.

70. Rhaid i'r cyflenwr ddarparu gwybodaeth am y cyflenwr a'r personau cysylltiedig drwy'r platfform digidol canolog cyn diwedd y cyfnod tendro, ond mae’n gallu ei darparu cyn hynny naill ai'n uniongyrchol i'r awdurdod contractio neu drwy'r platfform. Er enghraifft, mewn gweithdrefn hyblyg gystadleuol, bydd angen y wybodaeth hon ar yr awdurdod contractio er mwyn ystyried gwaharddiadau yn ystod y cam gwahoddiad i gyfranogi, a bydd y wybodaeth hon ar gael yn uniongyrchol neu drwy ofyn i gyflenwyr gofrestru ar y platfform a'i darparu trwy'r platfform yn ystod y cam hwn. Mae’n arfer da i annog personau â chyswllt ac is-gontractwyr gofrestru ar y platfform digidol canolog er mwyn derbyn dynodydd unigryw fel bod y cyflenwr yn gallu darparu ei wybodaeth trwy'r platfform hefyd. Fodd bynnag, mae'r cyflenwr yn gallu darparu'r wybodaeth hon yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy'r platfform. Cyn diwedd y cyfnod tendro mewn gweithdrefnau hyblyg agored a chystadleuol (neu cyn dyfarnu contract ar gyfer dyfarniad uniongyrchol neu broses ddethol gystadleuol o dan fframwaith), rhaid i awdurdodau datganoledig Cymru ofyn i'r cyflenwr gadarnhau'r canlynol:

  1. ei fod wedi cofrestru ar blatfform digidol Cymru (GwerthwchiGymru) pan fydd angen
  2. ei fod wedi cofrestru ar y platfform digidol canolog
  3. ei fod wedi cyflwyno'r wybodaeth uchod amdano ei hun ac am bersonau cysylltiedig i'r platfform digidol canolog, ac
  4. ei fod wedi rhannu'r wybodaeth hon gyda'r awdurdod contractio drwy'r platfform digidol canolog.

71. Mae'n arfer da gofyn am gadarnhad bod unrhyw wybodaeth sydd wedi'i darparu yn uniongyrchol i'r awdurdod contractio nad yw wedi'i darparu trwy'r platfform digidol canolog yn gyfredol.

72. Dylai awdurdodau contractio ymgymryd â rhagor o ddiwydrwydd dyladwy, yn enwedig os yw'r contract yn codi risgiau penodol, megis ymddygiad cartel yn y diwydiant adeiladu neu beryglon caethwasiaeth fodern. Mae adnoddau ac offer amrywiol ar gael i gynorthwyo diwydrwydd dyladwy awdurdodau contractio, gan gynnwys Tŷ'r Cwmnïau a Spotlight, offeryn diwydrwydd dyledus awtomatig ar-lein y llywodraeth sy'n cynnwys gwybodaeth gan Dun a Bradstreet. Mae'r offeryn Spotlight ar gael ar GOV.UK.

73. Hefyd, mae'n bosibl y bydd awdurdodau contractio yn dymuno ymgymryd â rhagor o ddiwydrwydd dyladwy am resymau eraill, er enghraifft, os yw gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd yn dangos achos o gamymddwyn neu gamymddwyn posibl ond nad yw'r cyflenwr wedi darparu'r wybodaeth hon.

74. Gall awdurdodau contractio ofyn am wybodaeth gan gyrff rheoleiddio perthnasol. Dylid cyfyngu ceisiadau am dystiolaeth i achosion lle mae'r ymddygiad yn arwain at reswm dros wahardd.

Disgresiwn i wahardd

75. Os yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy, mae awdurdodau contractio yn gallu gwahardd y cyflenwr yn ôl disgresiwn. Wrth arfer y disgresiwn hwn, mae awdurdodau contractio yn cael eu hatgoffau am y ddyletswydd i roi sylw i'r amcanion a nodir yn adran 12 o'r Ddeddf gan gynnwys sicrhau gwerth am arian, sicrhau'r budd mwyaf i'r cyhoedd, rhannu gwybodaeth a gweithredu (a chael eu gweld yn gweithredu) ag uniondeb. Yn fwy cyffredinol, dylid ystyried y risg sy'n deillio o'r amgylchiadau neu'r camymddwyn sy'n arwain at y rheswm dros wahardd, ac ystyried a yw'r risg yn fwy na'r budd i'r cyhoedd o ganiatáu i'r cyflenwr gymryd rhan yn y broses gaffael.

76. Dylai awdurdodau contractio ystyried yr holl ffactorau perthnasol wrth arfer disgresiwn i wahardd cyflenwr neu beidio â gwahardd cyflenwr. Bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol, ond un enghraifft o sefyllfa ble y gallai fod yn briodol caniatáu i gyflenwr barhau i gymryd rhan yn y broses gaffael neu dderbyn contract yw pan fydd natur y contract yn golygu nad yw'r risg berthnasol yn debygol o godi mewn perthynas â'r contract hyd yn oed os yw'r amgylchiadau sy'n arwain at y rheswm dros wahardd yn debygol o ddigwydd eto.

77. Ni ddylid defnyddio disgresiwn:

  1. er mwyn osgoi penderfyniad ynglŷn ag a yw rheswm dros wahardd yn berthnasol, neu edrych ar dystiolaeth hunanlanhau. Mae modd defnyddio disgresiwn dim ond pan fydd awdurdod contractio o'r farn bod rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn yn berthnasol a bod yr amgylchiadau sy'n arwain at y rheswm yn parhau neu'n debygol o ddigwydd eto (h.y. ar ôl ystyried tystiolaeth hunanlanhau), neu
  2. er mwyn ystyried ffactorau amherthnasol fel cost tendr y cyflenwr. Dylid ystyried cost tendr y cyflenwr (a materion eraill yn ymwneud â'r tendr) fel rhan o'r broses asesu tendrau.

78. Mae'r ffactorau a allai fod yn berthnasol mewn unrhyw sefyllfa benodol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  1. Ffactorau’n ymwneud â'r cyflenwr, megis difrifoldeb yr amgylchiadau neu'r camymddwyn sy'n arwain at y rheswm dros wahardd, a'r amser a aeth heibio ers yr amgylchiadau neu'r camymddwyn dan sylw, a
  2. ffactorau sy'n berthnasol i'r broses gaffael, megis a oes cyflenwyr addas eraill ar gael, effaith gwahardd ar wasanaethau cyhoeddus, ac a yw'r risgiau posibl oherwydd bod y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy yn debygol o gael eu gwireddu wrth gyflawni'r contract penodol. Er enghraifft, mewn proses gaffael ar gyfer gwasanaethau cymorth TG, gall awdurdod contractio benderfynu peidio â gwahardd cyflenwr oherwydd camymddwyn amgylcheddol yn ymwneud â'i weithrediadau dramor mewn sector gwahanol.

79. Ni ddylai awdurdodau contractio ddefnyddio polisi mewn ffordd anhyblyg i wahardd cyflenwr, neu beidio â gwahardd cyflenwr, am resymau penodol dros wahardd. Rhaid gwneud penderfyniadau fesul achos ar sail amgylchiadau pob proses gaffael gan ystyried yr holl ffactorau perthnasol ar y pryd.

80. Hefyd, mae gan awdurdodau contractio ddisgresiwn o dan adran 41(2) o'r Ddeddf i ddyfarnu contract yn uniongyrchol i gyflenwr gwaharddedig pan fydd cyfiawnhad dyfarniad uniongyrchol yn berthnasol a bod yna fudd cyhoeddus tra phwysig mewn dyfarnu'r contract i'r cyflenwr. Mae yna fudd cyhoeddus tra phwysig yn y cyd-destun hwn os yw un o'r amgylchiadau canlynol a restrir yn adran 41(5) o'r Ddeddf yn berthnasol:

  1. mae'r caffael yn hanfodol ar gyfer adeiladu neu gynnal a chadw seilwaith cenedlaethol hanfodol. Mae hyn yn golygu elfennau hanfodol seilwaith (sef asedau, cyfleusterau, systemau, rhwydweithiau neu brosesau a'r gweithwyr hanfodol sy'n eu gweithredu a'u hwyluso), y gallai eu colli neu eu peryglu arwain at:
    1. effaith niweidiol sylweddol ar argaeledd, diogelwch neu ddarpariaeth gwasanaethau hanfodol (gan gynnwys gwasanaethau a allai arwain at golli bywyd neu anafiadau sylweddol pe bai eu gallu i wrthsefyll peryglon yn cael ei leihau) gan ystyried effeithiau economaidd neu gymdeithasol arwyddocaol, a/neu
    2. effaith sylweddol ar ddiogelwch cenedlaethol, amddiffyn cenedlaethol, neu weithrediad y wladwriaeth
  2. mae'r broses gaffael yn digwydd mewn sector sy'n bwysig yn strategol i'r DU. Sectorau sy'n bwysig yn strategol yw'r rhai sy'n hanfodol i amddiffyn a diogelu buddiannau cenedlaethol y DU. Trafodir y rhain yn fanwl yn y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch
  3. byddai methu â dyfarnu'r contract i'r cyflenwr gwaharddedig yn rhagfarnu cyflawni gweithrediadau milwrol neu ddiogelwch neu weithrediad effeithiol y lluoedd arfog neu'r gwasanaethau cudd-wybodaeth
  4. ceir sefyllfa o frys eithafol nad oes modd ei hosgoi ac ni ellir dyfarnu'r contract i gyflenwr arall.

81. Os oes tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw un o'r rhesymau dros wahardd yn ôl disgresiwn yn berthnasol, mae'n rhaid i'r awdurdod contractio fod yn fodlon bod yr ymddygiad neu'r amgylchiadau perthnasol wedi digwydd. Gall awdurdod contractio ddibynnu ar ystod eang o wybodaeth sydd ar gael, fel yr enghreifftiau a restrir isod. Ym mhob achos, rhaid i'r dystiolaeth fod yn benodol i'r cyflenwr perthnasol (neu ymddygiad neu amgylchiadau person perthnasol arall). Nid oes un math o dystiolaeth benodol a fyddai'n bodloni'r gofynion tystiolaethol yn awtomatig. Fodd bynnag, po fwyaf dibynadwy yw'r dystiolaeth, y mwyaf tebygol ydyw y bydd y dystiolaeth yn ddigonol.

82. Mae awdurdod contractio sy'n ymgymryd â diwydrwydd dyladwy (er enghraifft, os yw'n ymwybodol neu os yw'n amau y gallai camymddwyn perthnasol fod yn risg benodol i'r broses gaffael, neu fod hynny wedi digwydd) yn cael ei annog i adolygu ystod eang o wybodaeth am gyflenwyr, gan gynnwys o'r ffynonellau isod:

  1. rhestrau rhagwaharddiadau rhyngwladol (e.e. Gorchmynion Atal Rhyddhau Tollau ac Amddiffyn Ffiniau'r Unol Daleithiau neu Restr Endid Canolfan Diwydiant a Diogelwch Adran Fasnach yr UD)
  2. sefydliadau polisi rhyngwladol (e.e. Sefydliad Polisi Strategol Awstralia)
  3. cofrestrfeydd busnes y llywodraeth
  4. adroddiadau llywodraeth leol
  5. gwefannau cwmnïau
  6. cyrff anllywodraethol neu sefydliadau ymchwil annibynnol
  7. erthyglau academaidd a adolygir gan gymheiriaid
  8. adroddiadau cyfryngau.

Gweithredu gwaharddiadau ar gyfer marchnadoedd dynamig a fframweithiau

83. Mae marchnadoedd dynamig yn rhestrau agored o gyflenwyr sydd wedi bodloni amodau penodol i fod yn gymwys i dendro am gontractau cyhoeddus mewn gweithdrefnau hyblyg cystadleuol sy'n agored i aelodau'r farchnad yn unig. Mae fframweithiau eu hunain yn gontractau cyhoeddus sy'n darparu ar gyfer dyfarnu contractau yn y dyfodol i gyflenwyr sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith drwy ddyfarniad uniongyrchol neu broses ddethol gystadleuol.

84. Ni ddylid derbyn cyflenwr gwaharddedig i farchnad ddynamig, tra bo gan awdurdod contractio ddisgresiwn i beidio â derbyn cyflenwr gwaharddadwy (gweler adran 36 o'r Ddeddf). Wrth ymgymryd â gweithdrefn hyblyg gystadleuol sydd wedi'i chyfyngu i aelodau o farchnad ddynamig, mae'r un rheolau yn berthnasol â'r rhai sy'n berthnasol i weithdrefn hyblyg gystadleuol arferol. Mewn geiriau eraill, mae'n rhaid diystyru tendrau os yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig, a gellir eu diystyru os yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy. Gan ddibynnu a yw'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy, rhaid i gyflenwyr, neu fe allai cyflenwyr, gael eu gwahardd rhag cymryd rhan mewn gweithdrefn o’r fath neu symud ymlaen ynddi.

85. Mae'n rhaid tynnu cyflenwr o farchnad ddynamig os yw wedi'i gynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau ar sail gwaharddiad gorfodol, a gallai'r cyflenwr gael ei dynnu os yw'n gyflenwr gwaharddedig (ond nid oherwydd ei fod wedi'i gynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau am y rheswm hwn) neu os yw'n gyflenwr gwaharddadwy (gweler adran 37 o'r Ddeddf). Er enghraifft, os yw awdurdod contractio sy'n rheoli marchnad ddynamig yn penderfynu bod cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig, mae ganddo ddisgresiwn i'w dynnu o'r farchnad ddynamig neu ganiatáu iddo aros yno. Os yw'r cyflenwr yn aros yn y farchnad, ni fydd yn gallu cystadlu am gontractau (a dylai awdurdodau contractio ei wahardd os yw'n ceisio gwneud hynny) ond mae cadw'r cyflenwr yn y farchnad yn ffordd bosibl i'r awdurdod contractio gymell y cyflenwr i ymgymryd â hunanlanhau.

86. Pan ddyfernir fframwaith, mae'r rheolau’n ymwneud â diystyru tendrau a gwahardd cyflenwyr rhag cymryd rhan neu symud ymlaen fel rhan o'r weithdrefn gaffael yn berthnasol yn ôl yr arfer. Nid oes modd i fframwaith ddyfarnu contract i gyflenwr gwaharddedig (gweler adran 45 o'r Ddeddf) ond mae'n gallu dyfarnu contract i gyflenwr gwaharddadwy. Dylai'r awdurdodau contractio sy'n sefydlu fframweithiau ystyried yn rheolaidd a yw pob cyflenwr mewn fframwaith wedi dod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy. Hefyd, rhaid i unrhyw awdurdod contractio sy'n dyfarnu contract cyhoeddus o dan fframwaith ystyried a yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig, a dylai ystyried a yw cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy, cyn dyfarnu pob contract cyhoeddus o dan y fframwaith.

Cymhwyso'r darpariaethau gwaharddiadau yn ystod y broses gaffael

87. Ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad: Dylai awdurdodau contractio ddefnyddio'r cyfle hwn i hysbysu neu atgoffa cyflenwyr am y rhesymau dros wahardd. Rhaid ystyried pob rheswm dros wahardd ar gyfer pob caffaeliad a gwmpesir, ond mae awdurdodau contractio yn gallu defnyddio proses ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad i ganolbwyntio ymdrechion diwydrwydd dyladwy ar gyflenwr trwy ddeall a oes rhesymau dros wahardd a allai fod yn berthnasol. Er enghraifft:

  1. os oes gan gyflenwr gadwyn gyflenwi dramor ar gyfer nwyddau cost isel, mae'r tebygolrwydd o gamymddwyn yn y farchnad lafur yn gallu bod yn uwch
  2. os yw cyflenwr yn gweithredu yn y sector amaeth, gall y rhesymau camymddwyn amgylcheddol fod yn berthnasol iawn.

88. Gwybodaeth am gyflenwyr: Ar ddechrau gweithdrefn hyblyg gystadleuol, mae'n rhaid i awdurdodau contractio wirio'r rhestr rhagwaharddiadau ar gov.uk. Rhaid gwirio'r wybodaeth am y rheswm dros wahardd pob cyflenwr sydd naill ai wedi'i ddarparu'n uniongyrchol gan y cyflenwr neu wedi'i ddarparu drwy'r platfform digidol canolog, gan gynnwys manylion personau â chyswllt ac is-gontractwyr (lle bo'n berthnasol) ac unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r awdurdod contractio yn gofyn amdani yn ystod y cam hwn. Gall awdurdodau contractio gwblhau'r un gwiriad mewn rhai camau neu bob cam o weithdrefn hyblyg gystadleuol. Rhaid cwblhau'r gwiriad wrth asesu tendrau terfynol mewn gweithdrefnau cystadleuol hyblyg ac agored.

89. Nodi cyflenwr gwaharddedig neu gyflenwr gwaharddadwy: Os yw'r awdurdod contractio yn penderfynu bod y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy ar unrhyw adeg yn y weithdrefn cyn asesu tendrau, ni ddylai'r cyflenwr gael parhau i gymryd rhan yn y weithdrefn os yw'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig. Os yw'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy, rhaid ystyried a ddylid caniatáu i'r cyflenwr barhau ai peidio. Ar adeg asesu tendrau, ni ellir dyfarnu'r contract i gyflenwr gwaharddedig, a dylid ystyried a ddylid dyfarnu'r contract i gyflenwr gwaharddadwy. Dylai awdurdodau contractio hysbysu cyflenwyr am y rhesymau dros unrhyw waharddiad.

90. Gwahardd ar sail person â chyswllt neu is-gontractwr: Os yw'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy ar sail person â chyswllt neu is-gontractwr arfaethedig, rhaid rhoi cyfle i'r cyflenwr ddisodli'r person neu'r is-gontractwr cyn ei wahardd.

91. Adrodd: Rhaid i awdurdodau contractio hysbysu'r awdurdod priodol (sef Gweinidogion Cymru ar gyfer awdurdodau datganoledig Cymru, drwy Uned Adolygu Caffael Cymru (WPRU)) o fewn 30 diwrnod i wahardd cyflenwr. Gellir rhoi gwybod am waharddiadau i WPRU drwy: WalesPRU@gov.wales.

92. Os yw awdurdod datganoledig yng Nghymru yn bwriadu gwahardd cyflenwr am resymau diogelwch cenedlaethol yn ôl disgresiwn, yn ôl adran 26 o’r Ddeddf mae angen cael cymeradwyaeth oddi wrth un o Weinidogion y Goron drwy Uned Adolygu Caffael Llywodraeth y DU. Pan fydd y Gweinidog wedi penderfynu y gellir gwahardd cyflenwr, ac y dylid diystyru’r tendr, rhaid i’r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru (drwy Uned Adolygu Caffael Cymru) fod y cyflenwr wedi cael ei wahardd, a hynny o fewn 30 diwrnod.

93. Gallai awdurdodau contractio ystyried goblygiadau ymchwilio i gyflenwr neu ei gynnwys yn y rhestr rhagwaharddiadau yn ystod proses gaffael fyw, yn enwedig os yw'r penderfyniad yn cael ei wneud tuag at ddiwedd gweithdrefn dendro gystadleuol. Hefyd, gallan nhw ystyried nodi yn y dogfennau tendro sut y byddant yn symud ymlaen i ddyfarnu contract mewn amgylchiadau o'r fath.

Gwaharddiadau ar ôl dyfarnu contract

94. Os canfyddir bod cyflenwr (neu is-gontractwr y gofynnodd yr awdurdod contractio am wybodaeth mewn cysylltiad ag ef yn ystod y weithdrefn gaffael at ddiben penderfynu a oedd yr is-gontractwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy o dan adran 28(2) o'r Ddeddf) yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy yn ystod cyfnod contract cyhoeddus (gan gynnwys fframwaith), dylai'r awdurdod contractio benderfynu a oes angen terfynu'r contract gyda'r cyflenwr hwnnw. Mae adran 78 o'r Ddeddf yn awgrymu bod hawl i derfynu o dan yr amgylchiadau hyn ym mhob contract cyhoeddus, ac mae adran 48 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer yr un hawl mewn perthynas â phob fframwaith.

95. Mae'r hawl ymhlyg yn adran 78(2)(c) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer terfynu contract os yw'r awdurdod contractio yn canfod bod is-gontractwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy adeg dyfarnu'r contract, ond nad oedd yr awdurdod contractio yn gwybod bod y cyflenwr yn bwriadu is-gontractio
perfformiad y contract cyfan neu ran ohono (gweler adran 78(4) o'r Ddeddf), neu fod yr is-gontractwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy (gweler adrannau 78(5) a (6) o'r Ddeddf), ym mhob achos er gwaethaf gofyn am y wybodaeth berthnasol a chwblhau'r gwiriadau angenrheidiol yn ystod y weithdrefn gaffael. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd gwybodaeth newydd yn dod i'r amlwg nad oedd yr awdurdod contractio yn ymwybodol ohoni yn ystod y weithdrefn gaffael. Mae'r hawl ymhlyg yn adran 78(2)(b) o'r Ddeddf yn caniatáu terfynu contract hefyd os yw is-gontractwr yn dod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy ar ôl dyfarnu contract.

96. Mae'r hawl ymhlyg yn adran 78(2)(b) o'r Ddeddf yn caniatáu terfynu contract os yw'r cyflenwr (gan gynnwys yn rhinwedd person â chyswllt) yn dod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy ar ôl dyfarnu'r contract. Er enghraifft, gall y cyflenwr gael ei euogfarnu o drosedd neu fod yn euog o gamymddwyn sy'n rheswm dros ei wahardd. Mae adran 78(11) o'r Ddeddf yn sicrhau nad yw'r hawl ymhlyg hon yn berthnasol os oedd y cyflenwr yn waharddadwy yn ystod y broses gaffael, ond bod yr awdurdod contractio wedi arfer ei ddisgresiwn i beidio â'i wahardd. Ni all awdurdodau contractio newid y penderfyniad hwn os nad yw'r amgylchiadau’n newid.

97. Mae'r hawl i derfynu contract yn hawl yn ôl disgresiwn, hyd yn oed os yw'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig (h.y. mae rheswm dros wahardd gorfodol yn berthnasol iddo). Cyn terfynu contract oherwydd bod is-gontractwr yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy, rhaid i'r awdurdod contractio roi cyfle i'r cyflenwr ddisodli'r is-gontractwr.

98. Er gwaethaf y telerau ymhlyg hyn, efallai y bydd awdurdodau contractio yn dymuno ailadrodd y telerau ymhlyg hyn yn benodol yn eu contractau, ac efallai y byddant yn dymuno cynnwys telerau ategol, er enghraifft, i ddarparu ar gyfer proses ymadael drefnus a thalu symiau sy'n ddyledus. Hefyd, efallai y bydd awdurdodau contractio yn dymuno darparu ar gyfer prosesau i ddisodli is-gontractwyr sy'n dod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy, gan gynnwys hawl i gymeradwyo is-gontractwyr o'r fath. Byddai'n briodol gwrthod cymeradwyaeth os yw'r is-gontractwr newydd yn gyflenwr gwaharddedig, a bydd awdurdodau contractio am ganiatáu hawl iddynt eu hunain wrthod cymeradwyaeth hefyd os yw'r cyflenwr newydd yn gyflenwr gwaharddadwy.

99. Fel mater o arfer gorau, dylai awdurdodau contractio nodi’n benodol yn eu contractau bod yn rhaid i gyflenwr eu hysbysu os yw'r cyflenwr neu unrhyw is-gontractwr perthnasol a wiriwyd yn ystod y weithdrefn gaffael yn dod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy (gan gynnwys pan gaiff ei roi ar y rhestr rhagwaharddiadau yn ystod cyfnod y contract neu oherwydd personau cysylltiedig neu bersonau â chyswllt). Mae'r hawl ymhlyg i derfynu contract ond yn berthnasol i is-gontractwyr y gofynnodd yr awdurdod contractio am wybodaeth ganddynt mewn perthynas â gwaharddiadau yn ystod y weithdrefn gaffael, ac nid yw'n berthnasol i is-gontractwyr eraill. Er enghraifft, os oedd yr awdurdod contractio wedi gofyn am wybodaeth am is-gontractwyr haen 1 yn unig, mae'r hawl oblygedig i derfynu'r contract ond yn berthnasol i'r is-gontractwyr haen 1 hyn. 

100. Hefyd, mae'n bwysig sicrhau tryloywder newidiadau i bersonau cysylltiedig cyflenwr unwaith y bydd y contract wedi'i ddyfarnu, gan ei fod yn darparu gwybodaeth i'r awdurdod contractio am unigolion neu endidau sydd â dylanwad neu reolaeth dros y cyflenwr. Felly, dylai awdurdodau contractio, fel mater o arfer gorau, gynnwys yn benodol yn eu contractau ofyniad bod yn rhaid i'r cyflenwr roi gwybod iddynt (o fewn amserlen benodol) am unrhyw newidiadau i'w personau cysylltiedig yn ystod cyfnod y contract. Dylai'r contract nodi bod diffyg cydymffurfiaeth, naill ai drwy fethu â hysbysu yn unol â'r amserlen benodol neu drwy ddarparu gwybodaeth anghyflawn, anghywir neu gamarweiniol, yn rheswm dros derfynu contract. Dylai'r telerau hyn gael eu cynnwys yn benodol mewn contractau.

101. Wrth arfer disgresiwn ynglŷn â therfynu contractau yn y sefyllfaoedd hyn, dylai awdurdodau contractio ystyried ffactorau gan gynnwys:

  1. faint o'r contract sydd wedi'i gwblhau
  2. faint o'r contract sy’n weddill
  3. natur a pherthnasedd y camymddwyn i'r contract
  4. effaith terfynu'r contract ar wasanaethau cyhoeddus, a
  5. chost terfynu'r contract ac ail-gaffael.

Gofynion adrodd wrth wahardd cyflenwr

102. Rhaid i awdurdodau contractio hysbysu awdurdod priodol perthnasol o fewn 30 diwrnod i wahardd darparwr.

  1. Ar gyfer awdurdodau datganoledig Cymru, yr awdurdod priodol yw Gweinidogion Cymru drwy Uned Adolygu Caffael Cymru (WPRU).
  2. Os yw'r awdurdod contractio yn awdurdod sydd wedi'i drosglwyddo yng Ngogledd Iwerddon, yr awdurdod perthnasol yw'r adran yng Ngogledd Iwerddon sydd, ym marn yr awdurdod contractio, yn fwyaf priodol i'w hysbysu.
  3. Mewn unrhyw achos arall, yr awdurdod perthnasol yw un o Weinidogion y Goron.

103. Mae'r gofyniad adrodd hwn yn berthnasol hefyd os yw awdurdod contractio yn hysbysu cyflenwr ei fod yn gyflenwr gwaharddedig neu'n gyflenwr gwaharddadwy oherwydd person â chyswllt neu is-gontractwr, a'i fod yn rhoi cyfle i'r cyflenwr ddisodli'r person â chyswllt neu'r is-gontractwr. Yn yr un modd, mae'n berthnasol os yw awdurdod contractio wedi gwrthod cais gan gyflenwr i fod yn aelod o farchnad ddynamig neu os yw wedi tynnu cyflenwr o farchnad ddynamig.

104. Un o brif ddibenion y gofynion hysbysu hyn yw caniatáu i awdurdodau priodol ystyried a ydynt yn dymuno ymchwilio i'r cyflenwr ar gyfer rhagwaharddiad posibl. Am y rheswm hwn, nid oes angen hysbysiad os yw'r cyflenwr yn cael ei wahardd ar y sail ei fod ar y rhestr gwaharddiadau, ac eithrio mewn perthynas â'r rheswm dros wahardd gorfodol ar gyfer diogelwch gwladol yn Atodlen 6, paragraff 35 o'r Ddeddf. Nid yw'r gofynion hysbysu hyn yn berthnasol chwaith i achosion o wahardd am reswm gorfodol am fethu â chydweithredu ag ymchwiliad i ragwaharddiad o dan Atodlen 6, paragraff 43.

105. Er mwyn hysbysu Gweinidogion Cymru, dylai awdurdod datganoledig yng Nghymru hysbysu Uned Adolygu Caffael Cymru bod cyflenwr wedi cael ei wahardd drwy PRUCymru@llyw.cymru.

Pa hysbysiadau sy'n gysylltiedig â'r elfen hon o'r Ddeddf?

Hysbysiad tryloywder

106. Bydd y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn am bob cyflenwr sy'n derbyn contract yn cynnwys ei ddynodydd unigryw ac, os yw'r contract yn cael ei ddyfarnu'n uniongyrchol i gyflenwr gwaharddedig oherwydd bod yr awdurdod contractio o'r farn bod budd cyhoeddus tra phwysig i ddyfarnu'r contract i'r cyflenwr hwn, y ffaith ei fod yn gyflenwr gwaharddedig, cyfiawnhad dros y dyfarniad uniongyrchol, pa seiliau gwahardd sy'n berthnasol, a pham mae'r awdurdod contractio yn credu bod yna fudd cyhoeddus tra phwysig i ddyfarnu'r contract i'r cyflenwr. Wrth ddyfarnu contract i fwy nag un cyflenwr, bydd angen i'r awdurdod contractio fod yn glir ynglŷn â pha gyflenwr sy'n gyflenwr gwaharddedig. Gweler y canllawiau ar ddyfarniad uniongyrchol am ragor o wybodaeth.

107. Fel arfer, bydd y cyflenwr wedi darparu'r wybodaeth hon i'r awdurdod contractio drwy'r platfform digidol canolog yn unol â gofynion rheoliad 6 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 (y Rheoliadau). Felly, dylai'r dynodydd a'r manylion a gofnodir yn yr hysbysiad gyfateb i'r wybodaeth a gyflwynwyd gan y cyflenwr.

Hysbysiad dyfarnu contract

108. Wrth gyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract yn ymwneud â dyfarniad uniongyrchol i gyflenwr gwaharddedig, mae'r wybodaeth sydd i'w chynnwys yn yr hysbysiad dyfarnu contract yn ailadrodd y wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr hysbysiad tryloywder. Gweler y canllawiau ar hysbysiadau dyfarnu contract a chyfnodau segur am ragor o wybodaeth.

Hysbysiad manylion contract

109. Mae rheoliad 36 o'r Rheoliadau yn nodi'r wybodaeth sydd angen ei chynnwys mewn hysbysiad manylion contract a gyhoeddir yn dilyn dyfarniad uniongyrchol.

110. Os yw dyfarniad uniongyrchol wedi'i wneud, rhaid i awdurdodau contractio nodi yn yr hysbysiad hwn a gafodd y contract ei ddyfarnu’n uniongyrchol i gyflenwr sy’n gyflenwr gwaharddedig oherwydd bod yr awdurdod contractio o'r farn bod yna fudd cyhoeddus tra phwysig i ddyfarnu’r contract i’r cyflenwr hwn yn unol ag adran 41(2) o'r Ddeddf. Yn y sefyllfa hon, rhaid i awdurdodau contractio nodi pa reswm yn adran 41(5) o'r Ddeddf sy’n berthnasol ac esbonio pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei fod yn berthnasol. Gweler y canllawiau ar hysbysiadau manylion contract am ragor o wybodaeth.

Hysbysiadau terfynu contract

111. Defnyddir hysbysiad terfynu contract i gyflawni'r ddarpariaeth torri amodau yn adran 71(5) o'r Ddeddf (asesu perfformiad contract) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi gwybodaeth benodol pan gaiff y contract ei derfynu'n llawn o ganlyniad i dorri contract. Mae hyn yn sicrhau bod cofnod cyhoeddus yn bodoli o ba gyflenwyr sy'n ddarostyngedig i'r rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn yn ymwneud â thorri contract, yn bennaf i'w gwneud yn haws i awdurdodau ddefnyddio'r rheswm hwn, ond hefyd at ddibenion tryloywder. Ar gyfer pob achos arall yn ymwneud â thorri contract, gan gynnwys terfynu'r contract yn rhannol, rhaid defnyddio hysbysiad perfformiad y contract. Mae hyn yn osgoi'r angen i gyhoeddi dau hysbysiad mewn perthynas â'r un digwyddiad. Gweler y canllawiau ar derfynu contract am ragor o wybodaeth.

Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r maes hwn?

  • Canllawiau ar ragwaharddiadau
  • Canllawiau ar amodau cyfranogi
  • Canllawiau ar ddyfarniad uniongyrchol
  • Canllawiau ar weithdrefnau tendro cystadleuol
  • Canllawiau ar derfynu contractau
  • Canllawiau ar Waharddiadau Atodiad 2: Rhesymau Diogelwch Cenedlaethol

Atodiad 1: Canllawiau ar resymau penodol

Crynodeb o Atodlen 6 - Rhesymau Gwahardd Gorfodol

1. Mae Atodlen 6 o'r Ddeddf yn amlinellu'r rhesymau dros wahardd gorfodol, sef y senarios mwyaf difrifol, risg uchel. Mae'r rhain wedi'u rhannu yn Rhan 1 a Rhan 2.

2. Mae'r rhesymau yn Rhan 1 yn berthnasol i gyflenwr lle mae'r cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr wedi eu cael yn euog o droseddau penodol. Dim ond troseddau yn y DU sy'n cael eu rhestru, ond mae'r rhesymau’n berthnasol hefyd os yw'r cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr wedi eu cael yn euog o drosedd y tu allan i'r DU a fyddai wedi bod yn un o'r troseddau rhestredig pe bai wedi'i chyflawni yn y DU. Mae troseddau cyfatebol neu debyg sy'n dod o dan ddeddfwriaeth ar wahân yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u cynnwys yn Atodlen 6 hefyd.

Troseddau penodol

3. Mae'r troseddau penodol yn Rhan 1 fel a ganlyn:

  1. Dynladdiad corfforaethol neu laddiad corfforaethol: mae'r troseddau hyn yn berthnasol mewn achosion lle mae dulliau rheoli neu drefnu gweithgareddau sefydliad perthnasol yn achosi marwolaeth unigolyn ac yn gyfystyr ag achos difrifol o dorri dyletswydd gofal berthnasol sy'n ddyledus gan y sefydliad i'r ymadawedig.
  2. Terfysgaeth: mae hyn yn berthnasol i gasgliad o droseddau, gan gynnwys troseddau yn ymwneud â sefydliadau sydd wedi'u gwahardd, eiddo terfysgol, methu â datgelu gwybodaeth am weithredoedd terfysgol, cyfarwyddo terfysgaeth, meddu ar bethau a chasglu gwybodaeth at ddibenion terfysgaeth, dod o hyd i wybodaeth am aelodau o'r lluoedd arfog ac ati, mynd i mewn neu aros mewn ardal ddynodedig ac ysgogi terfysgaeth y tu allan i'r DU, yn ogystal â throseddau’n ymwneud â defnyddio sylweddau neu bethau gwenwynig a throseddau’n ymwneud ag annog terfysgaeth, paratoi a hyfforddi ar gyfer terfysgaeth, dyfeisiau a deunydd ymbelydrol a chyfleusterau niwclear.
  3. Dwyn, twyll, llwgrwobrwyo ac ati: mae hyn yn cynnwys troseddau’n ymwneud â llwgrwobrwyo person arall, cael eich llwgrwobrwyo a llwgrwobrwyo swyddog tramor, troseddau llwgrwobrwyo’n ymwneud ag etholiadau a throseddau blacmel, yn ogystal â throseddau twyll a masnachu twyllodrus. Hefyd, mae'n cynnwys troseddau dwyn, lladrad, byrgleriaeth a throseddau’n ymwneud â nwyddau wedi'u dwyn.
  4. Troseddau’n ymwneud â'r farchnad lafur, caethwasiaeth a masnachu pobl: mae hyn yn cynnwys y mathau mwyaf difrifol o gam-drin llafur, sef achosion sydd o fewn cwmpas Cyfarwyddwr Gorfodi'r Farchnad Lafur, yn ogystal â throseddau’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Hefyd, mae'n cynnwys troseddau’n ymwneud â chynnal asiantaeth gyflogaeth neu fusnes cyflogaeth, y drosedd o wrthod neu esgeuluso'n fwriadol talu'r isafswm cyflog cenedlaethol a throseddau meistri gangiau.
  5. Troseddu cyfundrefnol: mae hyn yn cwmpasu'r drosedd o gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol a'r drosedd o gytuno â pherson arall i gymryd rhan mewn troseddau cyfundrefnol difrifol.
  6. Troseddau treth: mae hyn yn cynnwys y drosedd o dwyllo cyllid y wlad a'r drosedd o osgoi talu treth drwy dwyll. Mae mathau eraill o gamymddwyn mewn perthynas â threth nad ydynt yn gyfystyr ag euogfarnau troseddol yn dod o dan Ran 2 o Atodlen 6 o'r Ddeddf.
  7. Troseddau cartel: mae hyn yn berthnasol i droseddau cartel. Mae person yn cyflawni trosedd cartel os yw'n cytuno ag o leiaf un person arall y bydd dau neu fwy o ymgymeriadau yn cymryd rhan mewn rhai trefniadau cartel gwaharddedig, sef trefnu prisiau ymlaen llaw, rhannu marchnad, cyflwyno ceisiadau twyllodrus, a chyfyngu ar allbwn, yn amodol ar rai eithriadau ac amddiffynfeydd. Mae'r drosedd hon yn berthnasol i unigolion yn unig, felly byddai ond yn berthnasol i gyflenwyr sy'n unigolion a chategorïau o bersonau cysylltiedig sy'n unigolion.
  8. Troseddau ategol: mae'r troseddau hyn yn cynnwys helpu ac annog, hyrwyddo neu gynorthwyo troseddu, ysgogi trosedd a chynllwynio neu geisio cyflawni trosedd mewn perthynas â'r troseddau rhestredig.

4. Nid oes angen euogfarn ar gyfer y rhesymau dros wahardd gorfodol yn Rhan 2, ac maent wedi'u hamlinellu isod:

5. Diogelwch gwladol
  1. Mae rheswm dros wahardd gorfodol yn berthnasol i gyflenwr mewn perthynas â chontractau penodol lle mae awdurdod priodol yn penderfynu bod y cyflenwr neu berson cysylltiedig yn fygythiad i ddiogelwch gwladol y DU, ac y byddai'n peri'r cyfryw fygythiad mewn perthynas â chontractau cyhoeddus o'r fath. Yr awdurdod priodol yn yr achos hwn yw un o Weinidogion y Goron, Gweinidogion Cymru neu adran yng Ngogledd Iwerddon sy'n cynnal ymchwiliad a allai arwain at un o Weinidogion y Goron yn cynnwys cyflenwr yn y rhestr rhagwaharddiadau.
  2. Mae'r rheswm hwn dros wahardd ond yn berthnasol mewn achos lle mae un o Weinidogion y Goron wedi cynnwys y cyflenwr yn y rhestr rhagwaharddiadau mewn perthynas â mathau penodol o gontractau. Amlinellir hyn ym mharagraff 35(3), sy'n cyfeirio at swyddogaethau awdurdod priodol o dan ddarpariaethau rhagwaharddiad y Ddeddf. Mae'r darpariaethau hyn ond yn galluogi Gweinidog y Goron i gynnwys cyflenwr yn y rhestr rhagwaharddiadau, ac nid yw awdurdod contractio yn gallu dibynnu ar y rheswm hwn os nad yw cofnod o'r fath wedi'i wneud.
6. Camymddwyn mewn perthynas â threth

Mae'r Ddeddf yn cynnwys rhai mathau o ddiffyg cydymffurfiaeth yn ymwneud â threth fel rhesymau dros wahardd gorfodol. Mae'r rhain yn cynnwys achosion lle mae'r cyflenwr neu'r person cysylltiedig:

  1. wedi ei gael yn euog o drosedd cyfraith gyffredin yn ymwneud â thwyllo cyllid y wlad
  2. wedi'i gael yn euog o’r drosedd o ymwneud yn fwriadol ag ymgais i osgoi talu treth trwy dwyll, neu gymryd camau i osgoi talu treth trwy dwyll
  3. wedi ei gael yn euog o drosedd o dan adrannau 45 neu 46 o Ddeddf Cyllid Troseddol 2018 neu fethu ag atal hwyluso osgoi talu treth
  4. wedi bod yn atebol am gosb o dan adran 69C o Ddeddf TAW 1994 (trafodiadau sy'n gysylltiedig â thwyll TAW) neu adran 25 o Ddeddf Cyllid 2003 (osgoi treth neu doll)
  5. wedi bod yn atebol am gosb fwriadol o dan Atodlen 24 o Ddeddf Cyllid 2007 (gwallau mewn dogfennau treth) neu Atodlen 41 o Ddeddf Cyllid 2008 (methiant i hysbysu rhai camweddau’n ymwneud â TAW a thollau cartref)
  6. wedi bod yn destun her lwyddiannus gan CThEF mewn perthynas â threfniadau treth o dan y Rheol Gyffredinol ar Atal Camddefnydd (GAAR) neu Egwyddor Cam-drin Halifax. Gallai her lwyddiannus ddilyn dyfarniad gan banel GAAR CThEF neu os yw CThEF yn cyhoeddi penderfyniad gan ddefnyddio Egwyddor Cam-drin CThEF
  7. trechwyd cynllun osgoi a gafodd ei hysbysu, neu a ddylai fod wedi cael ei hysbysu, o dan y Fframwaith Datgelu Cynlluniau Osgoi Trethi (DOTAS) neu Ddatgelu Cynlluniau Osgoi ar gyfer TAW a Threthi Anuniongyrchol eraill (DASVOIT). Penderfynir hyn drwy gyfeirio at y ffaith bod Rhif Cyfeirnod Cynllun (SRN) wedi'i ddyrannu i'r cyflenwr neu berson cysylltiedig, sy'n golygu y bydd y cyflenwr (neu'r person cysylltiedig) yn gwybod bod ei drefniadau yn drefniadau DOTAS/DASVOIT
  8. wedi bod yn destun cosb neu benderfyniad gan reoleiddiwr, llys neu awdurdod arall y tu allan i'r DU lle byddai'r ymddygiad perthnasol wedi arwain at gosb neu benderfyniad yn y DU pe bai wedi'i gyflawni yn y DU
  9. bod mantais dreth wedi ei gwrthweithio y tu allan i'r DU lle byddai wedi arwain at drechu cynllun osgoi yn y DU pe bai'r fantais dreth wedi codi mewn perthynas â threth sy'n daladwy yn y DU

Y pwynt sbarduno pan fydd cyflenwr yn dod yn gyflenwr gwaharddedig yw'r adeg pan fydd sefyllfa dreth y cyflenwr (neu'r person cysylltiedig) wedi'i chadarnhau, megis her lwyddiannus gan CThEF a threchu cynllun osgoi, neu os yw CThEF wedi pennu cosb derfynol a bod pob llwybr apêl wedi'i ddisbyddu.

7. Troseddau cyfraith cystadleuaeth
  1. Mae rheswm gorfodol dros wahardd yn berthnasol i gyflenwr os yw'r CMA (neu reoleiddiwr cydamserol) wedi penderfynu bod 'Gwaharddiad Pennod I' wedi'i dorri trwy gymryd rhan mewn cartel. Mae Pennod I o Ddeddf Cystadleuaeth 1998 yn gwahardd cytundebau rhwng ymgymeriadau, penderfyniadau gan gymdeithasau ymgymeriadau neu arferion ar y cyd a allai effeithio ar fasnach o fewn y DU ac sydd â'r amcan neu'r effaith o atal, cyfyngu neu ystumio cystadleuaeth o fewn y DU. Fel arfer, bydd y penderfyniad yn nodi a oedd y tramgwydd yn deillio o gymryd rhan mewn cartel (gan gynnwys arferion megis penderfynu neu gydlynu ymlaen llaw prisiau prynu neu werthu neu amodau masnachu eraill, rhannu marchnadoedd a chwsmeriaid, cyflwyno ceisiadau twyllodrus neu gyfyngu ar allbwn).
  2. Nid yw'r rheswm hwn yn berthnasol os yw'r cyflenwr neu'r person cysylltiedig yn 'dderbynnydd sydd wedi'i eithrio', h.y. mae wedi'i eithrio o gosbau ariannol mewn perthynas â'i gyfranogiad yn y tramgwydd o dan raglen drugarowgrwydd cartel. Mae canllawiau ar drugarogrwydd ar gael yng nghanllawiau'r CMA yma.
  3. Yn yr un modd â'r rhesymau ar gyfer camymddwyn treth, enghraifft arall o reswm dros wahardd gorfodol yw lle mae'r cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi bod yn destun penderfyniad tor cyfraith cystadleuaeth gan reoleiddiwr, llys neu awdurdod arall y tu allan i'r DU lle byddai'r ymddygiad wedi arwain at benderfyniad yn y DU pe bai wedi'i gyflawni yn y DU.
  4. Mae'r gofrestr gyhoeddus o benderfyniadau a wnaed o dan Ddeddf Cystadleuaeth 1998 ar gael yma.
8. Methu â chydweithredu ag ymchwiliad
  1. Mae hyn yn berthnasol i achosion lle mae awdurdod priodol (er enghraifft WPRU, PRU neu NSUP ar ran un o Weinidogion y Goron) wedi rhoi hysbysiad perthnasol i'r cyflenwr neu'r person cysylltiedig yn gofyn am ddogfennau neu gymorth arall mewn cysylltiad ag ymchwiliad i ragwaharddiad, a bod yr endid perthnasol wedi methu â chydymffurfio â'r hysbysiad er boddhad yr awdurdod, yn y cyfnod a nodwyd.
  2. Mae'r rheswm hwn dros wahardd ond yn berthnasol pan fydd un o Weinidogion y Goron wedi penderfynu bod methiant i ddarparu'r wybodaeth neu'r cymorth y gofynnwyd amdani/amdano yn unol â'r amserlen a bennwyd yn ddigon difrifol i gyfiawnhau rheswm dros wahardd gorfodol.
  3. Mae rhagor o wybodaeth am y broses rhagwaharddiad ar gael yn y canllawiau ar ragwaharddiad.

9. Bydd troseddau neu gamymddwyn a restrir yn Atodlen 6 o'r Ddeddf ond yn arwain at reswm dros wahardd gorfodol os ydynt wedi digwydd yn y cyfnodau perthnasol a nodir yn Atodlen 6, paragraff 44 o'r Ddeddf. Gweler paragraffau 27-29 uchod mewn perthynas â'r cyfnodau hyn.

Crynodeb o Atodlen 7 - Rhesymau Dros wahardd yn ôl Disgresiwn

10. Mae Atodlen 7 o'r Ddeddf yn amlinellu'r rhesymau dros wahardd yn ôl disgresiwn. Nid oes angen euogfarn ar gyfer pob un o'r rhesymau hyn, ond maent yn cynrychioli sefyllfaoedd a allai achosi risgiau annerbyniol. Ceir amlinelliad byr o'r canllawiau ar gyfer pob rheswm isod.

11. Camymddwyn yn y farchnad lafur

  1. Bydd y rheswm hwn yn caniatáu i awdurdodau contractio wahardd cyflenwyr am fathau penodol o gamymddwyn llafur difrifol.
  2. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn os yw cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr wedi bod yn destun camau gorfodi rheoleiddiol mewn perthynas â chamymddwyn llafur ac wedi derbyn gorchmynion penodol. Mae'r rhain yn cynnwys Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu Pobl (STPOs), Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu Pobl Dros Dro (ISTPOs), Gorchmynion Risg Caethwasiaeth a Masnachu Pobl (ISTROs) a Gorchmynion Risg Caethwasiaeth a Masnachu Pobl Dros Dro o dan Ran 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr ar y gorchmynion hyn yma. Mae gorchmynion cyfatebol o dan gyfreithiau'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u cynnwys hefyd.
  3. Mae'r rhain yn cynnwys Gorchmynion Gorfodi'r Farchnad Lafur (LMEOs) o dan adran 18 o Ddeddf Mewnfudo 2016 hefyd, sydd wedi'u bwriadu ar gyfer troseddwyr mwy difrifol neu barhaus lle bernir bod y math hwn o ymyrraeth yn briodol i atal troseddu pellach. Cyhoeddodd y Llywodraeth God Ymarfer ar LMEOs sy'n cynnwys canllawiau cynhwysfawr ar y gorchmynion hyn.
  4. Dylai awdurdodau contractio fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y bydd y rheswm hwn yn gorgyffwrdd â'r rhesymau dros wahardd gorfodol ar gyfer troseddau llafur. Gellir cyhoeddi'r gorchmynion a restrir uchod heb euogfarn. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau bydd y gorchmynion hyn yn cael eu cyhoeddi yn dilyn euogfarn am drosedd sydd ei hun yn rheswm dros wahardd gorfodol. O dan yr amgylchiadau hyn, dylai awdurdodau contractio ystyried a yw'r naill reswm neu'r llall, neu'r ddau reswm, yn berthnasol.
  5. Mae paragraff 2 yn darparu ar gyfer rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn lle byddai ymddygiad a ddigwyddodd y tu allan i'r DU wedi arwain at gyflwyno gorchymyn perthnasol pe bai wedi'i gyflawni yn y DU.
  6. Mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn os oes digon o dystiolaeth bod cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi cymryd rhan mewn caethwasiaeth fodern, waeth ble y digwyddodd, ac y byddai'n drosedd o dan ddeddfwriaeth gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl berthnasol pe bai wedi digwydd yn y DU. Mae'r rheswm hwn yn cynnwys caethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl sy'n digwydd mewn awdurdodaethau sy'n methu ag erlyn y troseddwyr.

12. Camymddwyn amgylcheddol

  1. Mae'r rheswm hwn yn berthnasol os yw'r cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr wedi'i gael yn euog o droseddau camymddwyn amgylcheddol penodol. Mae'n berthnasol i droseddau lle’r oedd yr ymddygiad a arweiniodd at y drosedd wedi achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd, neu y gallai fod wedi gwneud hynny.
  2. Mae digwyddiadau sy'n cael effaith bosibl neu wirioneddol ar yr amgylchedd yn cyfeirio at gategorïau 1 a 2, ac at gategori 3 ar sail risg o niwed categori 2 yn unig, a sefydlir yng ngham 3 o'r Canllaw Troseddau Amgylcheddol Diffiniol ar gyfer sefydliadau ac unigolion (fel sy'n briodol).
  3. Mae'r llys yn penderfynu ar y categori niwed fel rhan o'r broses ddedfrydu. Dylai awdurdodau contractio ei gwneud yn glir i gyflenwyr y dylent ddatgan bod y rheswm hwn dros wahardd yn berthnasol os yw'r cyflenwr (neu berson cysylltiedig) wedi'i gael yn euog o drosedd amgylcheddol sy'n bodloni'r categorïau niwed perthnasol. Fel arfer, bydd rhagor o fanylion am y drosedd a'r categori niwed yn amlwg o ddyfarniad y llys, a bydd modd gofyn i'r cyflenwr neu'r llys perthnasol am gopi o'r dyfarniad.
  4. Nid oes angen i'r digwyddiad arwain at effaith amgylcheddol, ac mae'n cynnwys effaith bosibl, gan y gallai fod yn bosibl atal niwed rhag digwydd. Mae digwyddiadau sy'n cael effaith amgylcheddol bosibl neu wirioneddol yn cynnwys:
    1. niwed amgylcheddol/llygredd dŵr wyneb neu ddŵr daear
    2. niwed amgylcheddol i dir, aer a dŵr o safle, sylwedd neu broses
    3. effeithiau ar iechyd pobl neu niwsans i'r gymuned leol o safle, sylwedd neu broses
    4. digwyddiadau llygredd aer mawr
    5. lladd pysgod a physgota anghyfreithlon
    6. difrod i safleoedd cadwraeth natur a rhywogaethau
    7. tynnu dŵr yn anghyfreithlon a llifoedd afonydd isel
    8. llongau'n teithio'n rhy gyflym a chau sianel fordwyo
    9. llifogydd neu achosion llifogydd posibl, a
    10. niwed amgylcheddol o waith draenio tir.
  5. Mae'r rheswm hwn yn ddigon eang i gynnwys troseddau o dan y ddeddfwriaeth ganlynol, lle mae'r euogfarn yn ymwneud â digwyddiadau sydd wedi achosi neu sydd â'r potensial i achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd. Fodd bynnag, nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a gall y rheswm dros wahardd gynnwys troseddau eraill yn ymwneud â digwyddiadau o'r math hwn.
    1. Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Lloegr) 2013
    2. Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014
    3. Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015
    4. Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989, adrannau 1, 5 a 7
    5. Rheoliadau Cerbydau ar Ddiwedd eu Hoes 2003
    6. Rheoliadau Cerbydau ar Ddiwedd eu Hoes (Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr) 2005
    7. Deddf yr Amgylchedd 1995, adran 110
    8. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
    9. Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
    10. Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985, adran 9
    11. Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005
    12. Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
    13. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974
    14. Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
    15. Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000
    16. Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith) 2007
    17. Rheoliadau Cyfyngu ar y Defnydd o Sylweddau Peryglus Penodol mewn Offer Trydanol ac Electronig 2012
    18. Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013
    19. Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 2007
    20. Deddf Cerbydau (Troseddau) 2001, Rhan 1
    21. Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, rheoliad 42
    22. Rheoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 2009
    23. Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013, a
    24. Deddf Adnoddau Dŵr 1991, adrannau 202 a 206.

13. Ansolfedd, methdaliad, ac ati

  1. Mae'r rheswm hwn yn berthnasol pan gyhoeddir bod cyflenwr neu berson cysylltiedig yn fethdalwr, neu os yw'n destun rhai mathau o achosion ansolfedd neu achosion cyn ansolfedd yn y DU, neu weithdrefnau tebyg y tu allan i'r DU.
  2. Mae rheswm ar wahân yn berthnasol os yw'r cyflenwr neu'r person cysylltiedig wedi atal neu roi'r gorau i gynnal pob rhan o'i fusnes neu ran sylweddol o'i fusnes.

14. Achosion posibl o dorri rheolau cystadleuaeth

  1. Mae'r rhesymau hyn yn cwmpasu ystod ehangach o achosion o dorri rheolau na'r hyn a gwmpesir gan y rhesymau dros wahardd gorfodol am dorri'r gyfraith yn ymwneud â chystadleuaeth cartel, yn ogystal â sefyllfaoedd lle nad yw achos yn flaenoriaeth ar gyfer ymchwiliad gan y CMA, neu os oes ymchwiliad i achos ond nad yw'r ymchwiliad wedi'i gwblhau eto.
  2. Mae'r rheswm yn ôl disgresiwn cyntaf yn berthnasol pan fydd awdurdod contractio o'r farn bod cytundeb neu arfer ar y cyd y mae'r cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr wedi cymryd rhan ynddo wedi mynd yn groes i'r gwaharddiad Pennod I (neu waharddiad tebyg iawn y tu allan i'r DU). Yn wahanol i'r rheswm dros wahardd gorfodol, nid yw'r rheswm hwn wedi'i gyfyngu i achos o dorri'r rheolau trwy gymryd rhan mewn cartel, ac nid oes angen penderfyniad gan y CMA (neu reoleiddiwr cydredol neu reoleiddiwr o'r tu allan i'r DU), er y gall y rheswm gynnwys sefyllfaoedd lle mae penderfyniad o'r fath wedi'i wneud. Os yw'r CMA (neu reoleiddiwr cydredol) wedi gwneud penderfyniad bod y gwaharddiad Pennod I wedi cael ei dorri drwy gymryd rhan mewn cartel, bydd rheswm dros wahardd gorfodol yn berthnasol.
  3. Fel sy'n wir am y rhesymau dros wahardd gorfodol, nid yw'r rheswm yn ôl disgresiwn hwn yn berthnasol os yw'r cyflenwr neu'r person cysylltiedig yn 'dderbynnydd sydd wedi'i eithrio' (neu ei fod wedi'i eithrio mewn ffordd debyg y tu allan i'r DU). Mae canllawiau ar drugarogrwydd ar gael yng nghanllawiau'r CMA yma.
  4. Mae'r ail a’r trydydd rheswm yn ymwneud ag achosion o dorri 'gwaharddiad Pennod II’. Mae Pennod II o Ddeddf Cystadleuaeth 1998 yn gwahardd cam-fanteisio ar sefyllfa drechol mewn marchnad os yw'n gallu effeithio ar fasnach yn y DU. Mae'r ail reswm yn berthnasol pan fydd awdurdod contractio o'r farn bod y cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr wedi ymddwyn yn groes i'r gwaharddiad Pennod II (neu waharddiad tebyg iawn y tu allan i'r DU). Mae'r trydydd rheswm yn berthnasol os yw'r CMA (neu reoleiddiwr cydredol awdurdod y tu allan i'r DU) wedi penderfynu bod y cyflenwr neu berson cysylltiedig wedi ymddwyn yn groes i'r gwaharddiad Pennod II (neu waharddiad tebyg iawn y tu allan i'r DU).
  5. Mae'r rheswm olaf yn yr adran hon yn berthnasol pan fydd awdurdod contractio o'r farn bod ymddygiad y cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr yn drosedd cartel o dan adran 188 o Ddeddf Menter 2002 (neu drosedd debyg iawn y tu allan i'r DU). Mae'r drosedd hon yn berthnasol i unigolion yn unig, felly byddai ond yn berthnasol i gyflenwyr sy'n unigolion a chategorïau o bersonau cysylltiedig sy'n unigolion. Nid yw'r rheswm hwn yn berthnasol os yw'r unigolyn wedi derbyn llythyr sy'n ei eithrio rhag cael ei erlyn mewn cysylltiad â'r ymddygiad (neu os yw wedi'i eithrio mewn ffordd debyg y tu allan i'r DU). Mae canllawiau ar lythyrau o'r fath wedi'u cyhoeddi gan y CMA yma.
  6. Mae'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rhannu gwybodaeth mewn perthynas â materion cystadleuaeth wedi'i gynnwys yn Rhan 9 o Ddeddf Menter 2002. Mae hyn yn cynnwys cyfyngiadau pwysig ar ddatgelu gwybodaeth yn ymwneud ag unigolion a busnesau.

15. Camymddwyn proffesiynol

  1. Mae'r rheswm cyntaf sy'n ymwneud â chamymddwyn proffesiynol yn berthnasol pan fydd awdurdod contractio o'r farn bod y cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr yn euog o gamymddwyn proffesiynol sy'n codi amheuaeth am uniondeb proffesiynol y cyflenwr.
  2. Mae'r ail reswm sy'n ymwneud â chamymddwyn proffesiynol yn berthnasol pan fydd llys, rheoleiddiwr neu awdurdod arall wedi dyfarnu bod y cyflenwr neu berson cysylltiedig y cyflenwr yn euog o gamymddwyn proffesiynol o'r fath. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae llys wedi gwneud penderfyniad, megis euogfarn am drosedd, ond mae hefyd yn cynnwys penderfyniadau sydd wedi'u gwneud gan awdurdodau ehangach gan gynnwys rheoleiddwyr a/neu awdurdodau eraill, gan gynnwys am dorri safonau neu ddyfarniad gan gorff disgyblu proffesiynol fel yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Gall y ffaith fod corff rheoleiddio wedi ymrwymo i Gytundeb Erlyn Gohiriedig (DPA) (neu gytundeb tebyg) gyda chyflenwr fod yn dystiolaeth ddigonol o gamymddwyn proffesiynol, ond bydd hyn yn dibynnu ar y camymddwyn sylfaenol. Hefyd, gall DPA fod yn dystiolaeth o hunanlanhau er mwyn dangos nad yw'r amgylchiadau sydd wedi achosi'r camymddwyn yn debygol o ddigwydd eto oherwydd bod y cyflenwr wedi cyflwyno mesurau y cytunwyd arnynt fel rhan o'r DPA.
  3. Mae'r cysyniad o 'gamymddwyn proffesiynol' wedi'i nodi'n benodol yn y naill reswm a’r llall i gynnwys anonestrwydd, amhriodoldeb ac achosion difrifol o dorri safonau moesegol neu broffesiynol sy'n berthnasol i'r cyflenwr (waeth a yw'r safonau hyn yn orfodol ai peidio). Er nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, mae'n dangos y mathau o gamymddwyn a gwmpesir gan y rhesymau hyn. Bwriedir i'r rhesymau camymddwyn proffesiynol gynnwys ystod eang o gamymddwyn, gan gynnwys rhai troseddau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhesymau dros wahardd gorfodol, ac ymddygiad nad yw wedi arwain at euogfarn.
  4. Er enghraifft, gallent gynnwys euogfarnau am y drosedd o fethu ag atal llwgrwobrwyo o dan adran 7 o Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010; y drosedd o gymryd rhan mewn busnes twyllodrus sydd wedi'i gynnal gan unig fasnachwr o dan adran 9 o Ddeddf Twyll 2006; y drosedd o dderbyn gwasanaethau yn anonest o dan adran 11 o'r Ddeddf hon ac atebolrwydd swyddogion cwmni am droseddau a gyflawnwyd gan y cwmni o dan adran 12 o'r Ddeddf hon.
  5. Wrth ystyried achos posibl o 'amhriodoldeb', dylai awdurdod contractio ystyried a oes ymddygiad amhriodol wedi digwydd. Nid oes unrhyw ddiffiniad deddfwriaethol o amhriodoldeb yn y cyd-destun hwn, ond gallai ymddygiad amhriodol gynnwys methu â gweithredu'n ddidwyll neu ymddwyn yn ddiduedd yn ôl y disgwyl yn y proffesiwn penodol y mae'r cyflenwr yn gweithredu ynddo, neu fethu â chynnal ymddiriedaeth ac ymddwyn yn unol â safonau neu ddisgwyliadau ymddiriedaeth broffesiynol.
  6. Wrth asesu'r hyn sy'n gyfystyr ag achos difrifol o dorri safonau moesegol neu broffesiynol, dylai awdurdod contractio ystyried a yw'r safon yn berthnasol i'r cyflenwr neu'r person cysylltiedig ac a yw'n safon foesegol neu broffesiynol. Mae'n rhaid i'r achos o dorri safonau fod yn un difrifol hefyd.
  7. Gall safonau moesegol neu broffesiynol sy'n berthnasol i'r cyflenwr neu'r person cysylltiedig fod yn rhai cyffredinol, megis diogelu data, llywodraethu corfforaethol neu safonau sy'n ymwneud â thrin gweithwyr, neu maen nhw'n gallu dibynnu ar y diwydiant. Er enghraifft, gall safonau cyfrifyddu yn y diwydiant cyllid fod yn berthnasol i un cyflenwr, ond gall cod ymddygiad cynhyrchu fod yn berthnasol i un arall. Nid oes rhaid i'r safonau fod yn orfodol a gallent gynnwys safonau sydd wedi'u gosod gan reoleiddiwr neu gorff disgyblu proffesiynol, codau ymddygiad gwirfoddol y diwydiant y mae'r cyflenwr wedi ymrwymo iddynt, polisïau mewnol neu ddatganiadau o werthoedd y cwmni, neu safonau technegol fel rheoliadau adeiladu.
  8. Er mwyn i'r rhesymau hyn fod yn berthnasol, rhaid i'r camymddwyn fod yn ddigon difrifol i gwestiynu uniondeb y cyflenwr: nid yw'n gallu bod yn ymddygiad dibwys nac yn ymddygiad nad yw'n effeithio ar uniondeb cyffredinol y cyflenwr. Er enghraifft, os yw cyflenwr wedi bod yn anonest, nid yw hyn yn golygu o reidrwydd na fydd y naill neu'r llall o'r rhesymau hyn yn berthnasol, a rhaid ystyried a yw'r anonestrwydd yn golygu bod angen cwestiynu uniondeb y cyflenwr. Bydd hyn yn berthnasol iawn mewn achos o gamymddwyn gan berson cysylltiedig, gan mai uniondeb y cyflenwr (nid y person cysylltiedig) y mae'n rhaid ei gwestiynu er mwyn i'r rhesymau fod yn berthnasol.

16. Torri contract a pherfformiad gwael

  1. Mae'r rhesymau hyn yn berthnasol i sefyllfaoedd lle mae gan gyflenwyr hanes gwael o gyflawni mathau penodol o gontractau. Mae'r rhesymau hyn yn ymwneud â thorri contractau a pherfformiad gwael mewn contractau y mae 'awdurdod a reoleiddir' yn rhan ohonynt. At y dibenion hyn, mae awdurdod a reoleiddir yn awdurdod contractio, yn awdurdod cyhoeddus arall neu’n awdurdodau cyfatebol y tu allan i'r DU. Mae hyn yn cwmpasu ystod ehangach o gontractau na chontractau cyhoeddus yn unig, gan gynnwys contractau sydd o dan y trothwy a chontractau esempt yr ymrwymir iddynt gydag awdurdod contractio, yn ogystal â phob math o gontract yr ymrwymir iddynt gan awdurdodau cyhoeddus eraill. Nid yw torri contract neu berfformiad gwael mewn contract rhwng y cyflenwr ac endidau preifat yn berthnasol i'r rhesymau hyn. Nid yw'r rhesymau hyn yn berthnasol i bobl gysylltiedig chwaith.
  2. Mae'r ddau reswm cyntaf (Atodlen 7 adran 12(1) a (2) o'r Ddeddf) yn ymwneud â thorri contract. Yn gyntaf, lle mae'r cyflenwr wedi torri contract perthnasol a bod yr achos yn ddigon difrifol. Yn ail, lle mae llys wedi dyfarnu bod y cyflenwr wedi torri contract perthnasol a bod yr achos yn ddigon difrifol. Wrth ystyried a yw'r naill neu'r llall o'r rhesymau hyn yn berthnasol, mae achos yn ddigon difrifol os yw wedi arwain at derfynu contract, iawndal neu gytundeb setlo. Cytundeb setlo yw lle mae'r partïon wedi ymrwymo i gytundeb i setlo anghydfod yn ymwneud â chontract. Mae iawndal yn y cyd-destun hwn yn cynnwys iawndal sy’n gysylltiedig â dirwyn cwmni i ben ac iawndal nad yw'n gysylltiedig â dirwyn cwmni i ben, gan gynnwys ar sail indemniad, ond nid dyledion sy'n daladwy o dan gontractau.
  3. Mae'r trydydd rheswm (Atodlen 7 adran 12(3) o'r Ddeddf) yn berthnasol mewn achos lle nad yw cyflenwr wedi cyflawni contract perthnasol i lefel foddhaol, a'i fod wedi methu â gwella ei berfformiad ar ôl cael cyfle i wella. Bwriad y rheswm hwn yw ymdrin â methiannau perfformiad difrifol, fel y penderfynir gan delerau'r contract, megis methu â bodloni nifer benodol o ddangosyddion perfformiad allweddol (DPA) dros gyfnod penodol, neu lefel benodol o fethiant DPA, yn ogystal â methu â bodloni gofynion perfformiad cytundebol eraill fel dyddiadau cyflawni, gofynion manyleb neu safonau ansawdd. Dylai contractau nodi safonau clir ar gyfer perfformiad.
  4. Rhaid i gyflenwr gael cyfle priodol i wella perfformiad. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd trwy gyfeirio at fecanweithiau cytundebol. Gallai'r rhain gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) hysbysiad o berfformiad gwael a chyfnodau amser clir ar gyfer cywiro, cynlluniau cywiro, neu gynlluniau gwella. Mae'r rheswm dros berfformiad gwael yn berthnasol lle nad yw perfformiad wedi gwella ar ôl cyflwyno mecanweithiau o'r fath, sy'n gyffredin yn y rhan fwyaf o gontractau'r sector cyhoeddus. Dylai awdurdodau contractio sicrhau bod unrhyw gamau adfer y darperir ar eu cyfer mewn cynlluniau gwella neu gynlluniau tebyg eraill yn gamau CAMPUS.
  5. Wrth benderfynu a yw'r rheswm dros berfformiad gwael yn berthnasol, dylai awdurdodau contractio ystyried natur ac amlder methiannau perfformiad, unrhyw ffactorau lliniaru megis gweithredoedd cyfrannol gan yr awdurdod perthnasol, yn ogystal ag amgylchiadau perthnasol eraill.
  6. Mae'r rheswm olaf yn yr adran hon (Atodlen 7 adran 12(4) o'r Ddeddf) yn berthnasol pan fydd awdurdod contractio wedi cyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â thorri contract neu berfformiad gwael o dan adran 71(5) o'r Ddeddf. Cyhoeddir y wybodaeth hon mewn hysbysiad perfformiad contract neu hysbysiad terfynu contract. Darperir rhagor o fanylion am gyhoeddi'r wybodaeth hon yn y canllawiau ar berfformiad contract a hysbysiadau terfynu contract.

17. Gweithredu'n amhriodol mewn proses gaffael

  1. Mae'r rheswm hwn yn berthnasol os yw cyflenwr wedi gweithredu'n amhriodol mewn proses gaffael ac, o ganlyniad, mae ganddo fantais annheg mewn perthynas â dyfarnu contract cyhoeddus.
  2. Y mathau o ymddygiad amhriodol mewn perthynas â'r rheswm hwn yw:

    1. methu â darparu gwybodaeth y mae'r awdurdod contractio yn gofyn amdani
    2. darparu gwybodaeth anghyflawn, anghywir neu gamarweiniol
    3. cyrchu gwybodaeth gyfrinachol
    4. dylanwadu'n ormodol ar benderfyniadau'r awdurdod contractio.
       

    Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ond mae'n dangos y mathau o ymddygiad a gwmpesir gan y rheswm.

  3. Pan fydd cyflenwr yn gweithredu'n amhriodol mewn perthynas â'r broses gaffael benodol a'i fod wedi sicrhau mantais annheg yn y broses gaffael o ganlyniad, rhaid i'r cyflenwr gael ei drin fel cyflenwr gwaharddedig o dan adran 30 o'r Ddeddf ac ni ddylid caniatáu iddo barhau i gymryd rhan yn y broses gaffael. Fodd bynnag, mae'r rheswm hwn dros wahardd yn ôl disgresiwn yn cynnwys sefyllfaoedd hefyd lle mae cyflenwr wedi ymddwyn yn amhriodol yn ystod proses gaffael wahanol, sy'n golygu bod modd gwahardd y cyflenwr o sawl proses gaffael oherwydd un weithred.

18. Diogelwch gwladol

  1. Bwriad y rheswm hwn yw diogelu buddiannau diogelwch gwladol y DU mewn caffaeliadau a gwmpesir.
  2. Mae rheswm dros wahardd yn ôl disgresiwn yn berthnasol i gyflenwr os yw penderfynwr yn penderfynu bod y cyflenwr neu berson cysylltiedig yn fygythiad i ddiogelwch gwladol y DU. Fodd bynnag, ni chaiff yr awdurdod contractio wahardd y cyflenwr na hysbysu'r cyflenwr o'i fwriad i'w wahardd oni bai:
    1. bod yr awdurdod contractio wedi hysbysu Gweinidog y Goron o'i fwriad i wneud hyn (yn ymarferol rhaid i'r unigolyn hwn fod yn weinidog yn Swyddfa'r Cabinet y gellir ei hysbysu drwy PRU ar GOV.UK), a
    2. bod Gweinidog y Goron o'r farn bod:
      1. y cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy trwy gyfeirio at Atodlen 7, paragraff 14; ac
      2. y dylid diystyru'r tendr neu wahardd y cyflenwr.
  3. Mae'r un broses yn berthnasol os yw'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddadwy am y rheswm hwn oherwydd person cysylltiedig neu is-gontractwr arfaethedig a bod yr awdurdod contractio yn bwriadu hysbysu'r cyflenwr er mwyn rhoi cyfle iddo ddisodli'r person cysylltiedig neu'r is-gontractwr.
  4. Pan fydd Gweinidog y Goron wedi penderfynu (a) y gellir gwahardd cyflenwr, a (b) y dylid diystyru’r tendr, dylai’r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru (drwy Uned Adolygu Caffael Cymru) fod y cyflenwr wedi cael ei wahardd, a hynny o fewn 30 diwrnod.