Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog, Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip a Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cymryd rhan yng Ngrŵp Gweinidogol y Pedair Gwlad sy'n llywio Strategaeth Tlodi Plant y DU. Rydym wedi defnyddio'r cyfleoedd hynny i alw am newidiadau cadarnhaol mewn perthynas â pholisi nawdd cymdeithasol, er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant, yn arbennig o ran cael ymrwymiad i roi terfyn ar y rheol budd-dal dau blentyn. 

Wrth i waith Adolygiad o Wariant y DU ddod i ben, mae gwaith y Grŵp Gweinidogol yn dod yn bwysicach fyth. Effaith y cyfnod hir hwn o gyni yw bod bywydau llawer o blant ledled y DU yn anodd. Oni bai bod camau yn cael eu cymryd, bydd 100,000 mwy o blant yn byw mewn tlodi ym mhob blwyddyn o dymor seneddol y DU. 

Yn ffodus, mae atebion wrth law. Cafodd Gweinidogion y Llywodraeth gyfarfod yn ddiweddar ag aelodau Cymreig y sefydliad, Patriotic Millionaires. Er bod y trafodaethau yn eang, roedd y ffocws ar fynd i'r afael â thlodi yn arbennig o ddefnyddiol. 

Mae cynigion Patriotic Millionaires yn cael eu hadleisio mewn papur a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan gyn-Brif Weinidog y DU, Gordon Brown. Mae'r papur hwnnw hefyd yn dangos lle gellid codi arian sylweddol i fynd i'r afael â thlodi, heb godi trethi o gwbl ar deuluoedd sy'n gweithio. Mae'r buddsoddiad yn cael ei ad-dalu sawl gwaith wrth wneud bywydau plant yn well ac yn fwy cynhyrchiol. 

Yn y cyd-destun hwnnw, mae Llywodraeth Cymru, dros sawl tymor yn olynol, wedi cymryd camau sy'n gadael arian ym mhocedi pobl Cymru, yn enwedig lle mae hynny'n rhyddhau cyllid i ymateb i anghenion plant. O'r cynllun gofal plant mwyaf cynhwysol yn y DU i blant tair a phedair oed, i'r cymorth a ddarperir i leihau cost y diwrnod ysgol, ym mhob blwyddyn o addysg plentyn, gan gynnwys cynnal ac ehangu Dechrau'n Deg i blant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, a'r cynllun mwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr, rydym yn helpu i fynd i'r afael â thlodi. O gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd, y cynnydd i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ein menter 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi', Siarter Budd-daliadau Cymru, y mae 22 o Awdurdodau Lleol wedi ymrwymo iddi i hybu manteisio ar fudd-daliadau Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio eu pwerau datganoledig i symud ymlaen i geisio trechu tlodi plant.

Rydym unwaith eto yn annog y Canghellor i edrych yn weithredol ar yr ystod o opsiynau sydd ar gael ar gyfer codi refeniw i sicrhau bod yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio lle y gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf – ym mywydau ein plant.