Mesurau rheoli cocos 2025: crynodeb o'r ymatebion
Eich barn ar newidiadau arfaethedig i’r drwydded cocos ar gyfer y tymor 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cefndir
O dan ddarpariaethau Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 gall Llywodraeth Cymru gyflwyno mesurau rheoli addasol i helpu i warchod pysgodfa gocos Cymru a chodi ffi am drwydded.
Lansiwyd yr ymgynghoriad hwn i gasglu adborth ac asesu barn y cyhoedd ar gynyddu ffi'r drwydded a chyflwyno mesurau rheoli arfaethedig newydd. Dyma'r bwriad:
- cynyddu ffi'r drwydded o £250 i £350.
- cyflwyno terfyn dalfa dyddiol o 300kg ar holl welyau cocos Cymru.
- safoni maint y sachau cocos y mae'r casglwyr yn eu defnyddio.
- cyflwyno tagiau adnabod ar gyfer y sachau y mae'r casglwyr yn eu defnyddio
2. Cyfnod ymgynghori
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 17 Mawrth 2025 a daeth i ben ar 31 Mawrth 2025.
Rhannwyd yr ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid hysbys, gan gynnwys casglwyr a phroseswyr cocos, drwy e-bost a thrwy dudalen we ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru.
Roedd yr ymatebwyr yn gallu ymateb drwy e-bost neu'n ysgrifenedig.
3. Ymatebion
Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a aeth ati i fynegi eu barn ac ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried cyn cyflwyno'r mesurau.
Daeth 32 o ymatebion i law gan unigolion sydd â diddordeb yn y diwydiant cocos yng Nghymru.
Yn fras, gellir grwpio'r 32 ymateb i'r safbwyntiau canlynol:
a) Roedd y cynnydd o ran ffi'r drwydded yn dderbyniol
b) Roedd ymatebwyr o blaid terfyn dalfa dyddiol mewn theori; fodd bynnag, roedd llawer yn credu y dylai fod yn uwch na'r 300kg arfaethedig
c) Roedd mwyafrif yn anghytuno â dimensiynau'r bagiau safonedig gan y byddai 50kg yn rhy drwm ar gyfer gofynion iechyd a diogelwch. Yn yr un modd â'r terfyn dalfa dyddiol, mynegodd nifer o gasglwyr eu bod yn cytuno â'r syniad yn gyffredinol ond nid ar gyfer sachau mor drwm â hyn
d) Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr o blaid tagiau i gysylltu dalfeydd â deiliaid trwydded unigol
Cafodd yr ymatebion eu crynhoi gyda'r rhai o blaid neu yn erbyn y pwyntiau a restrir isod-
Cynyddu ffi'r drwydded o £250 i £350
O blaid - 17
Yn erbyn - 8
Cyflwyno terfyn dalfa dyddiol o 300kg ar holl welyau cocos Cymru
O blaid - 8
Yn erbyn - 20
Safoni maint y sachau cocos y mae'r casglwyr yn eu defnyddio i 50kg
O blaid - 3
Yn erbyn - 20
Cyflwyno tagiau adnabod ar gyfer y sachau y mae'r casglwyr yn eu defnyddio
O blaid - 11
Yn erbyn - 5
Nid oedd pob ymateb yn targedu pob un o'r pedwar mater, felly nid yw'r niferoedd o blaid ac yn erbyn yn cyfateb i gyfanswm y ffigur ymatebion ym mhob achos. Gwnaed sylwadau ychwanegol a oedd yn ymwneud â'r bysgodfa ond a oedd y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad. Roedd y sylwadau ychwanegol hyn yn dilyn themâu tebyg, gan godi materion o ran potsio a hyfywedd ariannol pysgota yn fwyaf cyffredin.
4. Crynodeb
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cais am sylwadau ar y cynigion a gyflwynwyd ar fesurau rheoli cocos.
O ganlyniad i'r ymatebion, byddwn yn gweithredu'r newidiadau canlynol:
a) ffi'r drwydded ar gyfer tymor cocos 2025/26 fydd £350.
b) bydd y terfyn dalfa dyddiol yn cael ei gynyddu i 350kg, mae hwn yn derfyn diofyn. Fodd bynnag, os oes angen, gellir cynyddu neu leihau'r terfyn hwn, yn dibynnu ar argaeledd stoc ac i sicrhau cynaliadwyedd y pysgodfeydd yn y dyfodol.
c) bydd maint y sachau cocos i'w defnyddio yn cael ei leihau i 25kg.
d) bydd tagiau adnabod yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob sach.
5. Y camau nesaf
Mae swyddogion polisi Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr holl ymatebion a sylwadau a ddaeth i law. Bydd swyddogion nawr yn paratoi briff i'r Gweinidog ar y canlyniadau.
6. Camau i'w cymryd
Dogfen er gwybodaeth yn unig yw hon.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau o'r ddogfen hon ar gael mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill drwy wneud cais amdanynt.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Yr Is-adran Pysgodfeydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Pysgodfeydd@llyw.cymru
Copïau ychwanegol
Cyhoeddir y crynodeb hwn o'r ymatebion a chopïau o'r holl ddogfennau ymgynghori ar ffurf electronig yn unig a gellir eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Rhif: WG52022
ISBN 978-1-83715-538-5
