Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Manylion

Statws:

Cydymffurfio.

Categori:

Llywodraethu.

Teitl:

Diwygiadau interim i bennod 11 yn y cyfarwyddiadau ariannol sefydlog enghreifftiol ar gyfer byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru, a phennod 12 ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).

Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:

Ebrill 2026.

I’w weithredu gan:

  • Gadeiryddion byrddau iechyd lleol.
  • Cadeiryddion ymddiriedolaethau’r GIG.
  • Cadeirydd AaGIC.
  • Cadeirydd DHCW.
  • Cyfarwyddwyr llywodraethu corfforaethol / y bwrdd.

Angen gweithredu erbyn:

Yn unol ag amserlen y bwrdd a'r pwyllgor.

Anfonwyd gan:

John Evans
Cyllid a Llywodraethiant
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
john.evans@llyw.cymru

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

John Evans
Cyllid a Llywodraethiant
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
john.evans@llyw.cymru

Leanne Roberts
Gwyddorau Bywyd ac Arloesi
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
diwygiocaffaelgofaliechyd@llyw.cymru

Cyflwyniad a chefndir:

Rhaid i gyrff y GIG yng Nghymru gytuno ar reolau sefydlog.

Mae hyn, ynghyd â set o gyfarwyddiadau ariannol sefydlog a chynllun o benderfyniadau a gedwir i'r bwrdd eu gwneud, cynllun o ddirprwyaethau i swyddogion ac eraill, ac amrywiaeth o ddogfennau fframwaith eraill, yn disgrifio'r trefniadau i'r bwrdd, ei bwyllgorau, ei grwpiau cynghori, a staff y GIG eu defnyddio i wneud penderfyniadau a chyflawni eu gweithgareddau.

Dylid seilio'r rheolau sefydlog a'r cyfarwyddiadau ariannol sefydlog ar y model a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud diwygiadau i'r dogfennau enghreifftiol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023 er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 a Deddf Caffael 2023 (ac is-offerynnau cysylltiedig).

Bydd y penodau perthnasol yn y Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog a gyhoeddwyd yn 2023 bellach yn cael eu disodli gan y dogfennau canlynol:

Dogfennau amgaeedig:

  • 'Llythyr at gadeiryddion byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru, AaGIC a DHCW'.
  • 'Cyfarwyddiadau ariannol sefydlog enghreifftiol – byrddau iechyd lleol / ymddiriedolaethau'r GIG - pennod 11'.
  • 'Cyfarwyddiadau ariannol sefydlog enghreifftiol – AaGIC, DHCW - pennod 12'.