Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, rwy'n nodi dull Llywodraeth Cymru o helpu cyflogwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig sy'n wynebu cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu £185m o gyllid i Gymru yn dilyn ei phenderfyniad i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yng Nghyllideb Hydref y DU. Fodd bynnag, mae hyn yn llawer llai na'r £257m sydd ei angen ar gyflogwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i gwrdd â'r cynnydd mewn costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol y maent yn ei wynebu.
Daw'r diffyg hwn, o fwy na £70m, yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i roi swm canlyniadol Barnett i Gymru o'r costau ychwanegol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yn Lloegr, yn hytrach na'r costau gwirioneddol.
Bydd y £185m yn cael ei drosglwyddo'n llawn i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Byddaf hefyd yn darparu £36m yn ychwanegol o Gronfa Wrth Gefn Cymru. Mae hyn yn creu pecyn gwerth cyfanswm o £220 miliwn i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg bellach, gyda'r cynnydd mewn costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau ariannol sylweddol ac mae tynnu i lawr £36m o'n cronfeydd wrth gefn cyfyngedig yn lleihau ein gallu i ymateb i bwysau eraill sy'n dod i'r amlwg drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, rydym wedi dod i'r casgliad bod angen darparu cymorth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol er mwyn lleihau'r effaith ar ddinasyddion Cymru sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn.
Mae pennu cyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn fater a gedwir yn ôl, a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu'n llawn y costau sy'n gysylltiedig â'r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
