Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael arian ychwanegol i helpu i dalu costau Yswiriant Gwladol uwch eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael arian ychwanegol i helpu i dalu costau Yswiriant Gwladol uwch eleni.

Mae’r cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr yn golygu’r canlynol:

  • Costau ychwanegol gwerth £257m i’r sector cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid gwerth £185m, gan adael diffyg o £72m.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid ychwanegol gwerth £36m i helpu i ariannu’r bwlch.
  • £220m yw cyfanswm y pecyn ariannu, a fydd yn mynd i’r afael â thua 85% o gostau cynyddol gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

"Rydyn ni’n diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol drwy ddefnyddio cyllid gwerth £36 miliwn o’n cronfeydd wrth gefn i helpu i fynd i’r afael â’r diffyg o ran Yswiriant Gwladol sydd wedi’i adael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. 

"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cyllid, ond mae'n llai na’r costau gwirioneddol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan greu bwlch o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn.

"Rydyn ni wedi cymryd camau i geisio helpu cymaint ag y gallwn ni, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu fforddio talu’r diffyg cyfan.

"Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig drin y sector cyhoeddus yr un fath ar draws y Deyrnas Unedig a gwireddu’i haddewid i ariannu’r costau ychwanegol hyn yn llawn."