Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn unol â'r gytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd i'r Aelodau fy mod wedi cadeirio cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 6 Mai 2025.
Mynychwyd y cyfarfod gan Gillian Martin MSP, Ysgrifennydd Cabinet Dros Dro dros Net Sero ac Ynni, Sarah Jones MP, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, a'r Adran Busnes a Masnach, Mary Creagh CBE MP, y Gweinidog dros Natur, James Murray MP, Ysgrifennydd y Trysorlys i'r Trysorlys, Mike Kane MP, Gweinidog Hedfan, Morwrol a Diogelwch, Andrew Muir MLA, Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac uwch swyddog o Adran yr Economi yng ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon (dirprwyo ar ran Gweinidog yr Economi).
Ystyriodd y Grŵp Rhyngweinidogol gyfeiriad ac amcanion pell dymor Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU. Gwnaeth hyn gynnwys trafodaethau ar weithgarwch cysylltiadau Llywodraeth y DU â'r UE, blaenoriaethau a heriau pob gweinyddiaeth, yn ogystal â meysydd ar gyfer gweithredu traws-DU i gyflawni uchelgeisiau'r Cynllun, gan gynnwys ynni o wastraff.
Bydd Llywodraeth yr Alban yn cadeirio’r cyfarfod Grŵp Rhyngweinidogol nesaf arlein.
Cyhoeddwyd datganiad am y cyfarfod ar GOV.UK (Saesneg yn unig).
