Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae technoleg glyfar arloesol yn helpu i drawsnewid dewisiadau gofal i bobl hŷn, gan eu helpu i aros yn hirach yn eu cartrefi eu hunain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r dechnoleg yn cynnwys dyfeisiau llais a seinyddion clyfar (smart speakers), sy'n atgoffa pobl i gymryd eu meddyginiaeth, cael archwiliadau o bell gan feddyg teulu. Mae hefyd ac yn caniatáu i ofalwyr fonitro a oes unrhyw gyfarpar yn y cartref wedi'i adael ymlaen.

Wrth ymweld â dau brosiect yn y Gorllewin ddoe (2 Mehefin 2025), cafodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, gyfle i ddysgu mwy am ofal sy'n cael ei alluogi gan dechnoleg.

Cafodd ei thywys o amgylch Labordy Cartref Clyfar ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n treialu byngalo sydd ag ystod lawn o dechnoleg byw â chymorth gwbl weithredol.

Mae'r prosiect Supporting Care Circles yn defnyddio dangosfwrdd ar-lein i gasglu gwybodaeth o wahanol synwyryddion sydd wedi'u gosod yng nghartref yr unigolyn, sy'n caniatáu i ofalwyr, teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol gadw llygad o bell.

Mae hyn yn cynnwys monitro pa ystafell y mae'r person ynddi, pa gyfarpar sydd wedi'u defnyddio, tymheredd yr ystafell, ac a oes cwpwrdd, oergell, llenni ac ati, wedi'i adael ar agor.

Hefyd, ymwelodd y Gweinidog â Chanolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa yn Aberaeron, sy'n darparu dyfeisiau clyfar i helpu pobl i gael gwybodaeth ac i allu byw gartref am gyfnod hirach.

Dywedodd Sarah Murphy:

Bydd technoleg glyfar yn y cartref yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymgyrch i wella ansawdd bywyd ac annibyniaeth i bobl hŷn, ac ar yr un pryd bydd yn helpu ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd helpu pobl i aros yn eu cartrefi am gyfnod hirach, gyda'r cymorth priodol, yn dod â manteision enfawr gan y bydd yn osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty a'r oedi sy'n gallu digwydd wrth ryddhau pobl wedyn.

Mae wedi bod yn hynod ddiddorol dysgu am y dechnoleg ddiweddaraf sy'n gwella ansawdd bywyd pobl drwy eu helpu i reoli eu hiechyd a pharhau i fyw’n annibynnol.

Dywedodd Dr Patricia Shaw, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

Mae'r Labordy Cartref Clyfar yn lle i'r brifysgol weithio ar y cyd i greu technolegau a'u gwerthuso mewn cyd-destun bywyd go iawn. Mae hefyd yn darparu lle i weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol, darparwyr gofal cyhoeddus a phreifat, a'r bobl hŷn eu hunain edrych ar atebion newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet dros Gydol Oes a Llesiant, Cyngor Ceredigion:

Mae'n hollbwysig sicrhau bod pobl yn ein cymunedau’n gallu byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Ers agor ei drysau ym mis Mai 2024, mae Canolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa wedi croesawu dros 1,200 o ymwelwyr.

Mae'n wych gweld amrywiaeth mor eang o adnoddau i gyd dan yr un to. Rydyn ni'n gwahodd pawb i ddod draw i edrych ar yr hyn sydd ar gael yn y Ganolfan.