Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw rwy'n cyhoeddi dros £44 miliwn o grantiau sy'n cael eu dyfarnu ar gyfer prosiectau i ddarparu cymorth i’n hysgolion, drwy drefniant canolog i Gymru gyfan, wrth iddynt roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith. Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr mewn cefnogaeth gyson genedlaethol o ansawdd uchel ar gyfer ein holl ysgolion. Rwy'n gwneud yn siŵr bod yr arbenigedd, y cyngor a'r cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd eu hangen ar gael i weithwyr addysgu proffesiynol ledled Cymru.
Mae’n cynnwys:
- Mathemateg a Rhifedd: bydd arbenigedd ar gael ym mhob rhan o Gymru i ddarparu addysg fathemateg gydlynol rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd, gan sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael i bob ysgol, ac adnoddau a chefnogaeth i helpu ysgolion i gynyddu hyder rhieni, gofalwyr a staff.
- Llythrennedd: Cefnogaeth fwy cyson i wella llythrennedd drwy ddarllen er mwyn mwynhau; dealltwriaeth a rhuglder wrth ddarllen. Bydd ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau darllen a llafaredd cynnar yn y Gymraeg, a chynigir help at y diben hwn yn genedlaethol i bob athro.
- Gwyddoniaeth: Hybu addysgu gwyddoniaeth drwy ddatblygu proffesiynol, adnoddau a mentora a hyfforddi arbenigol, gan gynnwys cymorth i feithrin hyder y rhai nad ydynt yn arbenigwyr, cymorth a fydd ar gael i holl athrawon gwyddoniaeth yng Nghymru.
- Cerddoriaeth: Parhau â'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol dros y 3 blynedd nesaf, gan gynnal ein lefelau buddsoddi sy'n fwy nag erioed mewn addysg gerddoriaeth.
- Dysgu creadigol: Cyfleoedd dysgu proffesiynol i ysgolion i ddatblygu creadigrwydd plant a pharhau i wella mynediad at leoliadau a gweithgareddau diwylliannol, sydd eisoes wedi cyrraedd y mwyafrif helaeth o ysgolion yng Nghymru
- Ieithoedd rhyngwladol: parhau i ddarparu cyfleoedd mentora a sicrhau bod cymorth a deunyddiau ar gael i bob ysgol gynradd ac uwchradd i ddatblygu ac ehangu'r dysgu mewn gwahanol ieithoedd.
- Cynllunio’r cwricwlwm: Rhoi mynediad i bob ysgol at gymorth ymarferol cadarn ac astudiaethau achos yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio orau mewn ysgolion
- Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb: Mwy o gefnogaeth ac arbenigedd cyson yn genedlaethol ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb drwy gynghorwyr cenedlaethol i gefnogi pob awdurdod lleol, gan ddarparu cyngor a chyfleoedd datblygu arbenigol sydd ar gael i bob ysgol, gan eu harfogi i fynd i'r afael â'r dylanwadau niweidiol iawn y mae ein plant a'n pobl ifanc yn yr afael â nhw.
Bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith a gall ysgolion ddisgwyl gweld cymorth ar-lein yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y rhan fwyaf o'r prosiectau hyn yn rhychwantu 3 blynedd, gan sicrhau ein bod yn adeiladu capasiti dros y tymor hirach.
Fel rhan o hyn, rwyf hefyd yn cyhoeddi galwad newydd am gynigion grant pellach, gan wahodd ceisiadau o hyd at £11.9 miliwn i sicrhau dull cenedlaethol cyson ledled Cymru i helpu o ran:
- Datblygu mathemateg mewn ysgolion cynradd
- Llythrennedd i wella cyrhaeddiad ym meysydd lleferydd, iaith a darllen, gan gynnwys dilysu dulliau ffoneg ac offer asesu i nodi anghenion plant sy'n hygyrch i bob ysgol
- Meithrin sgiliau cyfrifiadurol a digidol plant
Rydym yn cynyddu ein hymdrechion i wella safonau ac i sicrhau bod profiadau dysgu pwerus ar gael i bob plentyn, wedi'u hategu gan gwricwlwm rhagorol, beth bynnag fo'u cefndir.
Mae hyn hefyd yn sicrhau y bydd y corff dysgu ac arwain proffesiynol cenedlaethol newydd mewn sefyllfa dda i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am fy mlaenoriaethau allweddol, sef llythrennedd, rhifedd a lles, ac rwy'n disgwyl i'r trefniadau goruchwylio ar gyfer y rhain gael eu trosglwyddo yn ystod y flwyddyn i ddod.
