Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn y Gorllewin heddiw, gan ymweld â chymunedau, clywed gan bobl leol a chynnal eu cyfarfod wythnosol o’r Cabinet yn Aberystwyth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal cyfarfodydd o’r Cabinet ledled Cymru.

Gwnaeth yr Ysgrifenyddion Cabinet a’r Gweinidogion ymweld ag ystod o gymunedau a phrosiectau, gan gyfarfod â phreswylwyr, busnesau a gwirfoddolwyr lleol a chlywed am eu blaenoriaethau.

Wedi hynny, gwnaeth y cyfarfod o’r Cabinet ganolbwyntio ar economi Cymru wledig a sut y mae’n effeithio ar bobl leol.  

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

“Mae dod â’r Cabinet i Aberystwyth yn dangos ein hymrwymiad i lywodraethu dros Gymru gyfan. Mae’r cyfarfodydd hyn yn hanfodol i ddeall anghenion amrywiol ein cymunedau a sicrhau bod penderfyniadau’r llywodraeth yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl ledled Cymru.

“Mae cynnal cyfarfodydd o’r Cabinet mewn gwahanol rannau o Gymru yn rhoi cyfle i Weinidogion weld drostyn nhw eu hunain yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r rhanbarthau.

“Ry’n ni wedi ymrwymo i gynnal cyfarfodydd o’r Cabinet ar draws Cymru a hynny yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i lywodraethu y tu hwnt i’r brifddinas.”