Celfyddydau, safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Mawrth 2023
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ymweliadau â safleoedd treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn ogystal ag ymweliadau a chyfranogiad mewn digwyddiadau celfyddydol ar gyfer Ebrill 2022 i Mawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn 2022-23, roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cwestiynau am bresenoldeb a chyfranogiad mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth. Mae’r arolwg yn cynnwys pobl 16 oed a hŷn ledled Cymru.
Defnyddir y canlyniadau i fesur cynnydd yn erbyn un o Ddangosyddion Cenedlaethol Llesiant Cymru: a yw pobl yn mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar bob rhan o’r dangosydd hwn, sef:
- cymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol
- ymweld ag amgueddfeydd
- ymweld â llyfrgelloedd
- ymweld â safleoedd treftadaeth
Prif ganfyddiadau
- Dywedodd 72% o bobl eu bod wedi mynychu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn gyson â’r canlyniadau o 2019-20 pan ofynnwyd y cwestiynau hyn ddiwethaf.
- Roedd 18% o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol yn y 12 mis blaenorol.
- Roedd 31% wedi ymweld ag amgueddfa.
- Roedd 63% wedi ymweld â safle treftadaeth.
- Roedd 25% o bobl wedi defnyddio gwasanaethau llyfrgell, i lawr o 32% yn 2019-20.
- Cyfran y bobl a oedd yn defnyddio archifdy neu swyddfa gofnodion oedd 8%, i fyny o 5% yn 2019-20.
- Roedd bod â lefelau uwch o gymwysterau, a defnyddio’r rhyngrwyd yn aml yn cael eu cysylltu â chymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, neu fod wedi ymweld â llyfrgell, amgueddfa neu safle treftadaeth.
Nodweddion sy’n cael eu cysylltu â phresenoldeb a chyfranogiad
Edrychwyd ar y berthynas rhwng mynychu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac edrychwyd ar wahanol ffactorau gan ddefnyddio technegau ystadegol (gweler adroddiad technegol atchweliad am ragor o wybodaeth). Mae’r math hwn o ddadansoddiad yn caniatáu i ni edrych ar y berthynas â ffactor penodol (mynychu neu gymryd rhan mewn digwyddiad diwylliannol o leiaf deirgwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf), gan gadw pethau eraill yn gyson (sydd weithiau’n cael ei alwn yn “reoli ar gyfer ffactorau eraill”). Fodd bynnag, nid yw'n golygu mai’r ffactorau hyn sy’n achosi presenoldeb a chyfranogiad mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth, nac i'r gwrthwyneb.
Nodweddion a ganfuwyd bod ganddynt gysylltiad annibynnol â mynychu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth
- Defnyddio’r rhyngrwyd (ddim wedi cael eu ‘hallgau’n ddigidol’)
- Bod yn iau
- Dim plentyn dan 5 oed yn yr aelwyd
- Bod yn berchen ar eich cartref neu rentu’n breifat
- Bod â mynediad at gar
- Wedi cael addysg at lefel gradd neu uwch
- Byw mewn ardal drefol
- Gwirfoddoli
- Cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith yr wythnos neu fwy
- Ddim yn teimlo’n unig
Mae gweddill y bwletin hwn yn edrych yn fwy manwl ar y cysylltiadau hyn, gan edrych yn ei dro ar gyfranogiad yn:
- y celfyddydau
- ymweliadau â llyfrgelloedd
- ymweliadau ag amgueddfeydd
- ymweliadau â safleoedd treftadaeth
Cymryd rhan yn y celfyddydau
Roedd 18% o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y Celfyddydau yn ystod y 12 mis diwethaf. Gan reoli ar gyfer ffactorau eraill (sy’n cael ei esbonio’r yn ein hadroddiad technegol atchweliadau), roedd cysylltiad arwyddocaol rhwng y nodweddion canlynol a chymryd rhan yn y celfyddydau.
Cymhwyster uchaf
Roedd pobl â lefelau uwch o gymwysterau (yn ôl y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol na’r rheini â lefelau is o gymwysterau. Roedd 22% o bobl â chymhwyster lefel 4 ac uwch wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, o’i gymharu â 12% o bobl â chymhwyster lefel 2, a 10% o bobl â chymhwyster is na lefel 2.
Ffigur 1: Canran y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, yn ôl eu cymhwyster uchaf [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far yn dangos cyfranogiad yn y celfyddydau wedi’i ddadansoddi yn ôl cymwysterau addysgol. Roedd pobl â Chymhwyster Cenedlaethol Lefel 4 neu gymwysterau uwch (cymwysterau uwch na Safon Uwch) yn fwy tebygol o gymryd rhan na’r rheini â chymwysterau lefel 2 neu is (cymwysterau hyd at lefel TGAU).
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau oren yn y siart hwn yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy’n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau’n arwyddocaol yn ystadegol.
Gwirfoddoli
Roedd pobl a oedd yn gwirfoddoli hefyd yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y celfyddydau. Roedd 26% o’r rheini a oedd yn gwirfoddoli wedi cymryd rhan yn y celfyddydau, o’i gymharu ag 14% o’r rheini nad oeddent yn gwirfoddoli.
Defnyddio’r rhyngrwyd
Roedd pobl a oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y celfyddydau na’r rheini nad oeddent yn gwneud hynny. Roedd 18% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn cymryd rhan yn y celfyddydau o’i gymharu â 10% o bobl nad oeddent yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Ymweliadau â llyfrgelloedd
Roedd 25% o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru wedi ymweld â llyfrgell yn ystod y 12 mis diwethaf.
Oedran
Mae Ffigur 2 yn dangos y gwahaniaethau yn nifer y bobl sy’n ymweld â llyfrgelloedd yn ôl oedran. Roedd pobl 35 i 44 oed yn fwy tebygol o ymweld â llyfrgelloedd na phobl 25 i 34 oed. Ar ben hynny, roedd pobl 35 i 44 oed a phobl 65 oed a hŷn yn fwy tebygol o ymweld â llyfrgelloedd na’r rheini a oedd yn 45 i 64 oed. Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ymysg grwpiau oedran eraill.
Ffigur 2: Canran y bobl sy’n ymweld â llyfrgelloedd, yn ôl grŵp oedran [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos ymweliadau â llyfrgelloedd wedi’u dadansoddi yn ôl oedran. Roedd pobl 35 i 44 oed a phobl 65 oed a hŷn yn fwy tebygol o ymweld â llyfrgelloedd na’r rheini a oedd yn 45 i -64 oed. Roedd pobl 35 i 44 oed hefyd yn fwy tebygol o ymweld â llyfrgelloedd na’r rheini a oedd yn 25 i 34 oed. Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ymhlith grwpiau oedran eraill.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau oren yn y siart hwn yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy’n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau’n arwyddocaol yn ystadegol.
Byw gyda phlentyn dan bump oed
Roedd cysylltiad hefyd rhwng y mathau o aelwydydd roedd pobl yn byw ynddynt a’r tebygolrwydd eu bod wedi ymweld â llyfrgell. Roedd pobl mewn aelwyd gyda phlentyn dan bump oed yn fwy tebygol o ymweld â llyfrgelloedd. Roedd 33% o’r rheini mewn aelwydydd â phlentyn dan bump oed wedi ymweld â llyfrgelloedd, o’i gymharu â 24% o’r rheini nad oeddent mewn aelwydydd â phlentyn dan 5 oed.
Rhyw
Roedd cyfran uwch o fenywod wedi ymweld â llyfrgelloedd o’u cymharu â dynion, gyda 27% o fenywod yn ymweld â llyfrgell o’i gymharu â 22% o ddynion.
Ethnigrwydd
Roedd 37% o bobl ddu, Asiaidd neu o leiafrifoedd ethnig wedi ymweld â llyfrgelloedd, o’i gymharu â 24% o bobl wyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd neu Wyddelig Gogledd Iwerddon). Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ar gyfer pobl wyn (Gwyddelig, Sipsiwn, Teithwyr Gwyddelig neu gefndiroedd gwyn arall) o’u cymharu ag ethnigrwydd eraill.
Cymhwyster uchaf
Roedd pobl a oedd â chymwysterau’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar lefel 4 neu uwch (sy’n uwch na chymhwyster Safon Uwch) yn fwy tebygol o ymweld â llyfrgell na’r rheini heb gymwysterau uwch na lefel 2 (sy’n cyfateb i A* i C neu 9 i 4 TGAU) neu is. Roedd 34% o bobl â chymhwyster lefel 4 ac uwch wedi ymweld â llyfrgell, o’i gymharu â 18% o bobl â chymwysterau lefel 2, ac 17% o bobl â chymwysterau is na lefel 2. Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ar gyfer y rheini â chymwysterau lefel 3 o’u cymharu â lefelau eraill o gymwysterau.
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Roedd 29% o’r bobl a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon o leiaf 3 gwaith yr wythnos hefyd wedi ymweld â llyfrgelloedd yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd 22% o bobl a oedd yn gwneud llai o chwaraeon neu ddim chwaraeon o gwbl wedi ymweld â llyfrgelloedd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Gwirfoddoli
Roedd pobl a oedd yn gwirfoddoli yn fwy tebygol ymweld â llyfrgelloedd. Roedd 33% o’r rheini a oedd yn gwirfoddoli wedi ymweld â llyfrgelloedd, o’i gymharu â 22% o’r rheini nad oeddent yn gwirfoddoli.
Defnyddio’r rhyngrwyd
Fel gyda chyfranogiad yn y celfyddydau, roedd cyfran uwch o bobl a oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd wedi ymweld â llyfrgelloedd: Roedd 25% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd wedi ymweld â llyfrgelloedd o’i gymharu â 19% o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Ymweliadau ag amgueddfeydd
Roedd bron i draean (31%) o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru wedi ymweld ag amgueddfa yn ystod y 12 mis diwethaf.
Cymhwyster uchaf
Roedd pobl a oedd â’u cymwysterau uchaf ar lefel 3 neu uwch yn fwy tebygol o ymweld ag amgueddfa na’r rheini oedd â’u cymwysterau uchaf ar lefel 2 neu is. Roedd 41% o bobl â chymhwyster lefel 4 ac uwch, a 35% o’r rheini â chymhwyster lefel 3 wedi ymweld ag amgueddfa, o’i gymharu â 22% o bobl â chymhwyster lefel 2, a 18% o bobl â chymhwyster is na lefel 2.
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Roedd y rheini a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon o leiaf 3 gwaith yr wythnos yn fwy tebygol o fod wedi ymweld ag amgueddfeydd. Roedd 39% o’r bobl a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon hefyd yn ymweld ag amgueddfeydd, o’i gymharu â 26% o bobl nad oeddent yn cymryd rhan mewn cymaint â hyn o chwaraeon.
Boddhad â bywyd
Roedd pobl a oedd â boddhad â bywyd uwch yn fwy tebygol o fod wedi ymweld ag amgueddfeydd. Mae Ffigur 3 yn dangos bod pobl â boddhad uchel neu uchel iawn â bywyd yn fwy tebygol o fod wedi ymweld ag amgueddfeydd na’r rheini â boddhad isel neu ganolig â bywyd.
Ffigur 3: Canran y bobl sy’n ymweld ag amgueddfeydd, yn ôl lefel boddhad â bywyd [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos ymweliadau ag amgueddfeydd wedi’u dadansoddi yn ôl eu boddhad â bywyd. Roedd pobl â boddhad uchel neu uchel iawn â bywyd yn fwy tebygol o fod wedi ymweld ag amgueddfeydd na’r rheini â boddhad isel neu ganolig â bywyd.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau oren yn y siart hwn yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy’n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau’n arwyddocaol yn ystadegol.
Gwirfoddoli
Roedd pobl a oedd yn gwirfoddoli yn fwy tebygol ymweld ag amgueddfeydd. Roedd 42% o bobl a oedd yn gwirfoddoli wedi ymweld ag amgueddfeydd, o’i gymharu â 27% o bobl nad oeddent yn gwirfoddoli.
Defnyddio’r rhyngrwyd
Roedd pobl a oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy tebygol fod wedi ymweld ag amgueddfeydd. Roedd 33% o bobl a oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd hefyd wedi ymweld ag amgueddfeydd, o’i gymharu â 11% o bobl nad oeddent yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Byw gyda phlentyn dan bump oed
Roedd pobl mewn aelwydydd gyda phlentyn dan 5 oed yn fwy tebygol o fod wedi ymweld ag amgueddfeydd. Roedd 40% o bobl mewn aelwydydd â phlentyn dan 5 oed hefyd wedi ymweld ag amgueddfeydd, o’i gymharu â 31% o bobl nad oeddent yn byw gyda phlentyn dan 5 oed.
Y Gymraeg
Roedd pobl a oedd yn siarad Cymraeg yn fwy tebygol o fod wedi ymweld ag amgueddfeydd. Roedd 40% o bobl a oedd yn siarad Cymraeg wedi ymweld ag amgueddfeydd, o’i gymharu â 30% o bobl nad oeddent yn siarad Cymraeg.
Ymweliadau â safleoedd treftadaeth
Roedd 63% o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru wedi ymweld â safle treftadaeth yn ystod y 12 mis diwethaf.
Oedran
Roedd pobl hŷn yn llai tebygol o fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth. Mae Ffigur 4 yn dangos nad oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng pobl o dan 55 oed, gyda rhwng 67% a 72% o bobl yn y grwpiau hyn wedi ymweld â safle treftadaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd 61% o’r rheini rhwng 55 a 64 oed, a 57% o’r rheini rhwng 65 a 74 oed wedi ymweld â safle treftadaeth, llai na’r rheini rhwng 25 a 54 oed. Dim ond 42% o’r rheini sy’n 75 oed a hŷn oedd wedi ymweld â safle treftadaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - llai na’r holl grwpiau oedran eraill.
Ffigur 4: Canran y bobl sy’n ymweld â safleoedd treftadaeth, yn ôl oedran [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos ymweliadau â safleoedd treftadaeth wedi’u dadansoddi yn ôl oedran. Nid oes gwahaniaethau arwyddocaol rhwng pobl o dan 55 oed o ran ymweliadau â safleoedd treftadaeth. Roedd pobl dros 55 oed yn llai tebygol o fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth o’u cymharu â’r rheini rhwng 25 i 54 oed. Mae’r tebygolrwydd o fod wedi ymweld â safle treftadaeth yn lleihau ar gyfer pobl 55 i 74, ac yn gostwng ymhellach ar gyfer pobl 75 oed a hŷn.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23
[Nodyn 1] Mae'r bariau oren yn y siart hwn yn dangos cyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn dangos pa mor fanwl yw amcangyfrif. Mae cyfyngau hyder ehangach yn dangos llai o fanylder. Mae bariau ansicrwydd sy’n gorgyffwrdd yn dangos nad yw gwahaniaethau’n arwyddocaol yn ystadegol.
Addysg
Roedd y rheini â lefelau uwch o gymwysterau ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol yn fwy tebygol o fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth na’r rheini â chymwysterau is. Roedd 75% o’r rheini sydd â chymwysterau lefel 4 ag uwch wedi ymweld â safleoedd treftadaeth, o’i gymharu â 70% o’r rheini sydd â chymhwyster heb fod yn uwch na lefel 3, 57% o’r rheini sydd â chymwysterau lefel 2, a 38% o’r rheini sydd â chymwysterau is na lefel 2.
Unigrwydd
Roedd pobl a oedd yn dweud eu bod yn unig yn llai tebygol o fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth. Roedd 51% o bobl a oedd yn unig wedi ymweld â safleoedd treftadaeth, ac roedd 65% o’r rheini a oedd weithiau’n unig, neu byth yn unig, wedi ymweld â safleoedd treftadaeth.
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Roedd pobl a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon o leiaf 3 gwaith yr wythnos hefyd yn fwy tebygol o fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth. Roedd 78% o’r bobl a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon hefyd wedi ymweld â safleoedd treftadaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, o’i gymharu â 53% o bobl a oedd yn cymryd rhan mewn llai o chwaraeon.
Boddhad â bywyd
Roedd pobl a oedd â mwy o foddhad â bywyd yn fwy tebygol o fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth. Roedd 43% o’r rheini sydd â boddhad â bywyd isel wedi ymweld â safleoedd treftadaeth, o’i gymharu â 53% o’r rheini sydd â boddhad â bywyd canolig, 67% o’r rheini sydd â boddhad â bywyd uchel, a 65% o’r rheini sydd â boddhad â bywyd uchel iawn.
Gwirfoddoli
Roedd pobl a oedd yn gwirfoddoli yn fwy tebygol o fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth. Roedd 77% o’r rheini a oedd yn gwirfoddoli wedi ymweld â safleoedd treftadaeth, o’i gymharu â 58% o’r rheini nad oeddent yn gwirfoddoli.
Defnyddio’r rhyngrwyd
Roedd pobl a oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy tebygol fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth. Roedd 66% o bobl a oedd yn defnyddio’r rhyngrwyd hefyd wedi ymweld â safleoedd treftadaeth, o’i gymharu â 24% o bobl nad oeddent yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Deiliadaeth
Roedd y rheini a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol yn llai tebygol o ymweld â safleoedd treftadaeth na rhentwyr preifat, neu berchnogion tai. Roedd 40% o bobl a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol wedi ymweld â safleoedd treftadaeth, o’i gymharu â 65% o rentwyr preifat a 66% o berchnogion tai.
Defnyddio ceir
Roedd pobl a oedd sy’n defnyddio car yn fwy tebygol o fod wedi ymweld â safleoedd treftadaeth. Roedd 66% o bobl sydd â char wedi ymweld â safleoedd treftadaeth, o’i gymharu â 38% o’r rheini heb gar.
Y cyd-destun polisi
Llywodraeth Cymru sy’n arwain y gwaith o ddatblygu polisïau a strategaethau ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn noddi pedwar Corff Hyd Braich - Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cymorth grant i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n gyfrifol am gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru. Yn 2016, ymgorfforwyd Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru yn yr Arolwg Cenedlaethol, sydd bellach yn brif ffynhonnell canlyniadau i oedolion ar bresenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau.
Yr Is-adran Ddiwylliant yw’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd lleol. Mae’r Is-adran yn cefnogi ac yn eiriol ar ran y sector, yn sicrhau bod safonau proffesiynol yn cael eu bodloni a’u cynnal, ac yn cyflawni swyddogaethau statudol gan gynnwys gweinyddu cynlluniau eiddo diwylliannol y DU. Yn 2024 lansiodd yr Is-adran Diwylliant Ymgynghoriad ar ei Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant 2024 i 2030.
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi llyfrgelloedd mewn lleoliadau cyhoeddus ac addysgol. Mae buddsoddiad diweddar sy’n seiliedig ar strategaethau fel Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli yn ceisio creu gwasanaethau llyfrgell sy’n gwella mynediad at adnoddau, gan gynnwys moderneiddio gofodau llyfrgell i ddenu mwy o gynulleidfaoedd a chynulleidfaoedd newydd. Gellir ymweld â llyfrgelloedd ar-lein hefyd, ac mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddarparu gwasanaeth llyfrgell ddigidol genedlaethol.
Roedd Strategaeth Amgueddfeydd Cymru 2010-2015 Llywodraeth Cymru yn nodi 3 prif nod: amgueddfeydd sydd ar gael i bawb; amgueddfeydd sy’n gofalu am gasgliadau ac yn eu datblygu ar ran y genedl; a rheoli’r sector amgueddfeydd yn effeithiol. Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, ar y cyd â Chymdeithas yr Amgueddfeydd, wrthi’n datblygu gweledigaeth newydd er mwy i amgueddfeydd yng Nghymru adeiladu ar yr egwyddorion hyn. Mae’r arolwg Sbotolau ar amgueddfeydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y sector.
Mae twristiaeth ddiwylliannol a threftadaeth o bwys economaidd yng Nghymru. Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio i gael amgylchedd hanesyddol hygyrch sy’n cael ei warchod yn dda ar gyfer Cymru. Gweledigaeth Cadw yw Cymru lle mae lleoedd hanesyddol yn cael eu gofalu amdanynt, eu deall ac yn cael eu rhannu gan bawb, gyda thri phrif uchelgais, sef:
- amgylchedd hanesyddol wedi’i warchod sy’n cefnogi cynaliadwyedd, gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth
- ehangu mynediad at, mwynhad a dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol i bobl o bob cefndir
- amgylchedd hanesyddol sy’n gwneud cyfraniad mawr at lesiant economaidd Cymru a’i chymunedau
Nod Cadw yw helpu pobl i ddeall, i werthfawrogi ac i fwynhau amgylchedd hanesyddol Cymru drwy wella mynediad i’r safleoedd yn eu gofal ac annog perchnogion safleoedd hanesyddol eraill i wneud yr un fath. Mae Cadw’n rheoli dros 130 eiddo hanesyddol ar ran Llywodraeth Cymru. Drwy ddarparu mynediad i’r safleoedd hyn a’u defnyddio i ‘arddangos’ hanes Cymru, nod Cadw yw annog pobl i archwilio a gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol. Ers ei sefydlu ym 1984, mae Cadw wedi croesawu dros 50 miliwn o ymwelwyr o bob cwr o’r DU a’r byd i’w henebion yng Nghymru.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Roedd Arolwg Cenedlaethol 2022-23 yn cynnwys ychydig dros 11,000 o oedolion 16 oed a hŷn a ddewiswyd ar hap ledled Cymru, gyda chyfweliadau’n cael eu cynnal rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. Cynhaliwyd y cyfweliadau dros y ffôn, gydag adran ar-lein i ddilyn.
Cyn mis Mawrth 2020, cynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb yng nghartrefi ymatebwyr. Ers mis Mai 2020, mae’r arolwg wedi cael ei gynnal dros y ffôn oherwydd pandemig COVID-19 (y coronafeirws). Parhawyd i gynnal yr arolwg dros y ffôn yn ystod 2021-22, a threialwyd elfen ar-lein rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022, gydag is-set o ymatebwyr yn ateb cwestiynau ychwanegol. O fis Ebrill 2022 ymlaen, cafodd adran ar-lein yr arolwg ei hymestyn i gynnwys yr holl ymatebwyr.
Mae siartiau a thablau canlyniadau manwl ar gael yn ein Dangosydd Canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu data a methodoleg, gweler ein Hadroddiad ansawdd a’n Adroddiad technegol Atchweliad.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig (Awdurdod Ystadegau yn y DU) wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac yn dangos ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau yn y DU).
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn poeni a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal a’u hadfer ar ôl i safonau gael eu hadfer.
Cadarnhawyd ym mis Mehefin 2020 bod yr ystadegau hyn yn cael eu dynodi’n Ystadegau Gwladol yn dilyn gwiriad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau (Awdurdod Ystadegau yn y DU)). Y tro diwethaf i’r ystadegau hyn gael eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn (Awdurdod Ystadegau yn y DU)) yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn 2013.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a’i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau o un flwyddyn i’r llall
- diweddaru pynciau’r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy’n newid
- chynnal dadansoddiad atchweliad fel rhan safonol o’n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Mae’r rhain ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iach, sy’n gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) y Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o’r 46 dangosydd.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
