Fframwaith diogelu iechyd
Ein gweledigaeth i atal peryglon sy'n deillio o glefydau trosglwyddadwy a digwyddiadau amgylcheddol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amlygodd pandemig coronafeirws (COVID-19) bwysigrwydd system diogelu iechyd y cyhoedd sy'n gadarn ac yn wydn. Cyhoeddwyd Camau Cymru Iachach ym mis Tachwedd 2024. Mae hyn yn cynnwys cam ataliol lefel uchel i:
adeiladu a chryfhau’r system diogelu iechyd i atal bygythiadau i ddiogelwch iechyd, paratoi ar eu cyfer ac ymateb iddynt, nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys pandemigau, ar sail dull gweithredu ‘pob perygl’.
Daw'r Fframwaith Diogelu Iechyd cyntaf hwn i Gymru ar adeg bwysig yn y cyfnod ar ôl pandemig COVID-19. Wrth inni edrych i'r dyfodol, rhaid inni fanteisio ar y dull partneriaeth ar y cyd a oedd yn un o brif nodweddion ein hymateb i Gadw Cymru'n Ddiogel yn ystod y pandemig, ac adeiladu ar ymrwymiad ac ymroddiad gweithwyr diogelu iechyd proffesiynol ledled Cymru.
Rwy'n annog pobl ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal i groesawu'r Fframwaith hwn a rhoi ein hamcanion strategol ar waith, er mwyn diogelu pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio â chi wrth inni barhau i ddysgu gwersi a datblygu'r gwasanaeth diogelu iechyd cryf, hyblyg a chynaliadwy sydd ei angen ar bob un ohonom ar gyfer y dyfodol.
Diolch,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Neges gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol
Y 5 mlynedd diwethaf fu'r cyfnod heriol mwyaf erioed i sawl un ohonom, ond mae ymroddiad ac angerdd y staff a phartneriaid wedi bod yn amlwg. Pan darodd COVID-19, gwnaethom gynyddu gwasanaethau a gweithrediadau yn gyflym, gan ddarparu ar gyfer pobl Cymru pan oedd ei angen arnynt. Pan oedd cam argyfwng y pandemig drosodd, gwnaethom ddechrau newid o'r adnodd seilwaith eang a oedd yn benodol ar gyfer COVID-19 sy'n ofynnol pan fydd ymateb ar ei anterth, a symud i gam mwy cynaliadwy o baratoi ar gyfer y dyfodol. Rhaid i'n profiadau a'r hyn a ddysgwyd cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig lywio a chefnogi ein proses o symud tuag at y system diogelu iechyd sydd ei hangen ar Gymru ar gyfer y dyfodol. Rhaid inni wella ein dealltwriaeth a rennir o'r gallu yn ein system a sut y gallwn ddefnyddio adnoddau o bob rhan o'r system i gynyddu'r ymateb pan fydd angen.
Mae'n bleser gennyf rannu ein Fframwaith Diogelu Iechyd cyntaf i Gymru. Mae'r Fframwaith hwn yn amlinellu ein gweledigaeth i atal, asesu a lliniaru risgiau a pheryglon i iechyd pobl sy'n deillio o glefydau trosglwyddadwy a digwyddiadau amgylcheddol. Mae wedi'i lunio gyda phartneriaid o bob rhan o'r system diogelu iechyd yng Nghymru a hoffwn ddiolch yn fawr i bawb dan sylw. Gwn y byddwn yn cydweithio i gyflawni'r amcanion strategol a amlinellir yn y Fframwaith hwn ac i atgyfnerthu mesurau diogelu iechyd ymhellach yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod.
Judith Paget.
Diben
Fel system diogelu iechyd, dangosodd ein hymateb ar y cyd yng Nghymru i bandemig COVID-19 bwysigrwydd bod yn hyblyg ac yn wydn ac i gydweithio mewn partneriaeth. Yn ystod yr ymateb i'r pandemig, bu'n rhaid i'n system diogelu iechyd weithredu ar raddfa nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen ledled Cymru ac addasu'n gyflym er mwyn gallu ymateb yn effeithiol. Yn ystod hydref 2022, wrth inni ddechrau symud o gam argyfwng y pandemig, cynhaliodd yr Athro David Heymann a Dr Sara Hayes adolygiad annibynnol o'n system diogelu iechyd yng Nghymru i asesu ei chryfderau yn erbyn meincnod sefydledig o system diogelu iechyd uchel ei pherfformiad.
Cyhoeddwyd yr adolygiad ym mis Chwefror 2023 a nododd:
fod angen i system diogelu iechyd o safon aur fod yn ddigon gwydn i reoli busnes fel arfer bob amser ac yn enwedig yn ystod argyfyngau, er mwyn gwella tegwch iechyd y boblogaeth o hyd, a bod yn barod i reoli bygythiadau ac argyfyngau diogelu iechyd ac ymateb iddynt pan fyddant yn codi.
Er y nodwyd sawl nodwedd gadarnhaol yn yr adolygiad, daeth yr adroddiad i'r casgliad:
fod angen adolygiad o rolau a chyfrifoldebau sefydliadol ac unigol er mwyn sicrhau bod gan bobl ddealltwriaeth dda o'r system diogelu iechyd, rhwydwaith o sefydliadau, a bod y system yn barod ar gyfer yr argyfwng neu'r achosion nesaf
a bod
angen i bartneriaid diogelu iechyd gyd-gynhyrchu fframwaith sy'n dangos sut maent yn ymwneud â'i gilydd, gan ystyried yr angen am eglurder ynghylch arweinyddiaeth, cydweithio a chyfathrebu, yng nghamau cynnar bygythiadau sy'n dod i'r amlwg ac wrth i ddigwyddiadau fynd rhagddynt.
Datblygwyd y fersiwn gyntaf o Fframwaith Diogelu Iechyd cenedlaethol i Gymru ar y cyd â phartneriaid cenedlaethol a lleol ym mhob rhan o'r system diogelu iechyd yng Nghymru. Y nod yw iddo gael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith partneriaeth parhaus o ran atal, parodrwydd, ymateb ac adferiad fel bod partneriaid yn deall yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan ei gilydd. Mae'r fframwaith yn disgrifio ein hamcanion strategol a sut y bydd y system diogelu iechyd yng Nghymru yn cydweithio ar gyfer pobl Cymru er mwyn lleihau niwed, achub bywydau a hybu llesiant. Nod y fframwaith yw ategu strategaethau a rhaglenni gwaith cysylltiedig, er enghraifft y Cynllun Rheoli Brigiad o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru.
Bydd y fframwaith yn datblygu wrth inni adeiladu ar y cryfderau yn ein system bresennol er mwyn datblygu ar gyfer y dyfodol, wedi ein llywio gan ganfyddiadau'r Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19 a fydd yn profi'r system gan gynnwys Ymarfer Pegasws yn ddiweddarach yn 2025.
Cwmpas
Mae penderfynyddion iechyd ehangach sy'n effeithio'n barhaus ar iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol pobl, gan gynnwys tai ac iechyd cyhoeddus amgylcheddol[troednodyn 1], y mae fframweithiau rheoliadol presennol yn cwmpasu llawer ohonynt. Rhaid i'r system diogelu iechyd yng Nghymru weithio gyda phartneriaid ehangach i fynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd ehangach a lleihau anghydraddoldebau ac annhegwch lle bynnag y bo modd. Mae'r fersiwn gyntaf hon o'r fframwaith yn canolbwyntio ar beryglon i iechyd pobl sy'n deillio o glefydau trosglwyddadwy[troednodyn 2] a digwyddiadau amgylcheddol ac mae'n ymgorffori agweddau perthnasol ar ddulliau ‘pob perygl’ ac Iechyd Cyfunol[troednodyn 3].
Mae'r fframwaith hwn yn mabwysiadu dull ‘pob perygl’, sy'n cynnwys digwyddiadau amgylcheddol, cemegol, biolegol, radiolegol, niwclear, technolegol a naturiol. Caiff iechyd pobl ei ryng-gysylltu ag iechyd anifeiliaid drwy ein hamgylchedd a rennir gan ei gwneud yn bosibl i glefydau heintus addasu a symud rhwng rhywogaethau. Gyda newidiadau cyflym, bydd iechyd ac integredd ein hecosystemau yn cynyddu risg a bydd angen dull Iechyd Cyfunol i atal peryglon o glefydau heintus a pharatoi ar eu cyfer ac i sicrhau ymwrthedd gwrthficrobaidd a diogelwch bwyd.
Y sefydliadau craidd yng Nghymru sy'n rhan o'r system diogelu iechyd sy'n cyflawni a/neu yn comisiynu gwaith paratoi, atal ac ymateb ar gyfer mesurau diogelu iechyd fel rhan o'u cylch gwaith yw:
- Llywodraeth Cymru
- Gweithrediaeth y GIG
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- byrddau Iechyd a gofal sylfaenol
- awdurdodau lleol
Caiff y sefydliadau hyn eu cefnogi gan ddarpariaeth arbenigol gan:
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
- Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhagor o fanylion am bob un o'r sefydliadau hyn.
Cyd-destun strategol
Mae'r System Diogelu Iechyd yng Nghymru yn gweithio o fewn system y DU a system ryngwladol. Yn rhyngwladol, mae gwaith ledled y DU yn cynnwys cydlynu a chydweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd, Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop ac Aelod-wladwriaethau'r UE.
Ymysg yr elfennau allweddol o ddull y DU, sy'n gymwys i'r system diogelu iechyd yng Nghymru mae'r canlynol.
Fframwaith Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd
Y cytunwyd arno ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd i atgyfnerthu prosesau cydweithio strategol a gweithredol rhwng Llywodraeth y DU, y Llywodraethau Datganoledig ac asiantaethau iechyd y cyhoedd yn y DU. Mae'r cytundeb yn cynnwys:
- gwaith sy'n ymwneud ag atal a rheoli peryglon trawsffiniol difrifol, gan gynnwys gwyliadwriaeth a rhybuddio'n gynnar
- rhannu data, gwybodaeth a chuddwybodaeth er mwyn cefnogi ymateb brys, asesu risgiau ac adrodd ar sefyllfaoedd
- ymgyrchoedd a negeseuon cyhoeddus
- arbenigedd diogelu iechyd sy'n berthnasol i liniaru peryglon newydd i iechyd y cyhoedd, rhai sy'n dod i'r amlwg neu rai yn y dyfodol, gan gynnwys seiberddiogelwch
Strategaeth Diogelwch Biolegol
Gan gydnabod bod peryglon biolegol yn cynnwys amrywiaeth eang o glefydau heintus sy'n peri risgiau i iechyd a llesiant y boblogaeth, gweledigaeth y Strategaeth Diogelwch Biolegol yw y bydd y DU yn wydn i sbectrwm o beryglon biolegol ac yn arweinydd byd ym maes arloesedd erbyn 2030.
Un o'r ffrydiau gwaith sy'n cael eu datblygu o dan y Strategaeth Diogelwch Biolegol yw'r Rhwydwaith Biowyliadwriaeth Genedlaethol, sydd â'r nod o gysylltu galluoedd syndromig, epidemiolegol a gwyliadwriaeth amgylcheddol addawol, er mwyn cael mwy o brosesau monitro peryglon cynhwysfawr dros amser.
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR), "Confronting antimicrobal resistance 2024 to 2029"
Mae'r cynllun yn adeiladu ar waith a wnaed yn y cynllun 5 mlynedd blaenorol i leihau effaith negyddol AMR yn y DU ac yn fyd-eang. Mae'r cynllun yn defnyddio dull cydlynol ledled y pedair gwlad ac yn ymgorffori gweithredoedd ar draws iechyd pobl, iechyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi bod AMR yn un o'r deg prif berygl i iechyd y cyhoedd a wynebir gan bobl yn fyd-eang. Os bydd AMR yn parhau i ledaenu, gall rhai clefydau heintus, y gellid eu trin yn rhwydd gyda gwrthfiotig yn y DU, ddatblygu i fod yn achosion newydd sylweddol o afiachedd a marwolaeth. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar y system iechyd a gofal.
Cynllun Pandemig Anadlol newydd
Mae'r cynllun, sy'n cael ei ddatblygu gan y 4 gwlad, yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o bandemig COVID-19 i ddiweddaru ac ehangu'r Cynllun Ffliw Pandemig gwreiddiol er mwyn ystyried unrhyw bathogen anadlol. Y bwriad yw i gynlluniau tebyg gael eu datblygu er mwyn ystyried dulliau trosglwyddo gwahanol.
Dileu clefydau
Mae holl aelod-wladwriaethau Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd yn ymrwymedig ers tro i ddileu'r frech goch a rwbela yn bennaf drwy sicrhau bod nifer mawr yn cael brechlyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR). Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) sy'n gyfrifol am goladu a chyflwyno tystiolaeth bob blwyddyn i bwyllgorau dilysu rhanbarth y DU a Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae clefydau penodol fel HIV, hepatitis feirysol, clefydau a drosglwyddir yn rhywiol a TB yn parhau i fod yn faich mawr ar iechyd y cyhoedd yn y Rhanbarth Ewropeaidd, gan effeithio ar filiynau o bobl ac achosi marwolaeth gynamserol. Fel partner iechyd bydeang, mae Cymru yn ymrwymedig i'r camau gweithredu blaenoriaethol a nodir yng Nghynlluniau Gweithredu Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer yr epidemigion clefydau byd-eang allweddol hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau na fydd HIW yn cael ei drosglwyddo yng Nghymru erbyn 2023 ac i beidio â dangos unrhyw oddefgarwch at stigma sy'n gysylltiedig â HIV a gwahaniaethu. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud ymrwymiadau penodol i gyflawni targedau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu Hepatitis C, Hepatitis B a Thwbercwlosis (TB) erbyn 2030.
Peryglon amgylcheddol i iechyd y cyhoedd
Gan gynnwys deddfwriaeth cemegion ledled Prydain Fawr o dan y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer cemegion a phlaladdwyr.
Ymysg yr elfennau allweddol o'r cyd-destun strategol yng Nghymru mae:
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
Yn cynnwys nodau i sicrhau Cymru fwy llewyrchus, gydnerth ac iachach sy'n fwy cyfartal, cydlynus a chyfrifol ar lefel fyd-eang. Sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ymrwymo i feddwl am effeithiau hirdymor ac i gydweithio i ddatblygu ein systemau yng Nghymru mewn modd cynaliadwy.
Cymru Iachach
Cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol o ddull system o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar iechyd a llesiant, ac atal.
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)
A ddaeth yn weithredol ym mis Ebrill 2023 ac a roddodd ddyletswydd ansawdd cyffredinol o ran swyddogaethau sy'n seiliedig ar iechyd. Dylai ein system gofal iechyd yng Nghymru sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn:
- ddiogel
- amserol
- effeithiol
- effeithlon
- deg
- canolbwyntio ar yr unigolyn
Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19 – cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig
Cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2022. Rhoddodd y cynllun bwyslais clir a pharhaus ar ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag cael clefydau difrifol.
Y Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol
Nododd y fframwaith, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, ein huchelgeisiau ar gyfer trawsnewid prosesau brechu yn barhaus, gan integreiddio'n ddyfnach er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarperir i bawb yng Nghymru. Mae'r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol yn cyd-fynd â'r Fframwaith Diogelu Iechyd hwn.
Cynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023 i 2026
Mae'r cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023, yn nodi 30 o gamau gweithredu allweddol i gyflawni ein nod o sicrhau na fydd unrhyw achosion newydd o drosglwyddo HIV yng Nghymru erbyn 2030 ac i fynd i'r afael â'r stigma a wynebir gan y rhai sy'n byw gyda HIV.
Deddfwriaeth a strategaethau i ddiogelu iechyd pobl rhag peryglon amgylcheddol
Gan gynnwys:
- y Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol sy'n disgrifio'r ffordd rydym yn mynd i'r afael â heriau o ran llygredd aer
- Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 sy'n ceisio gwella ansawdd amgylchedd a seinwedd ein haer, gan gynnwys lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, byd natur, yr amgylchedd a'n heconomi
Ein gweledigaeth ar gyfer diogelu iechyd
Bydd y system diogelu iechyd yng Nghymru yn paratoi ar gyfer peryglon presennol, rhai sy'n dod i'r amlwg a rhai yn y dyfodol, eu hatal ac ymateb iddynt er mwyn diogelu pobl Cymru, lleihau risg a niwed, hybu iechyd ac achub bywydau. Bydd hefyd yn cefnogi cymunedau i adfer.
Paratoi
Bydd prosesau paratoi ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn sicrhau bod gennym y bobl, y cynlluniau, y galluoedd a'r gwrthfesurau cywir ar waith. Drwy baratoi'n effeithiol, cawn sicrwydd bod ein system diogelu iechyd yn hyblyg ac yn wydn a'i bod yn hyrwyddo canlyniadau cyson i bobl ledled Cymru.
Dylai trefniadau paratoi:
- gael eu llunio ar y cyd gan sefydliadau partner perthnasol fel bod y system hybu iechyd yn deall peryglon ac yn barod i gynyddu er mwyn ymateb i beryglon
- cael eu llywio gan dystiolaeth a gwybodaeth gan gynnwys ymgorffori gwersi a ddysgwyd ac argymhellion o ymarferion ac ymateb i amrywiaeth o beryglon
- cael eu hadolygu, eu hymarfer, eu gwerthuso a'u diweddaru'n rheolaidd
- sganio'r gorwel a gallu addasu i beryglon newydd a newidiol
- cael eu cysylltu â chynlluniau brys ehangach a threfniadau argyfyngau sifil posibl
Atal
Bydd prosesau atal yn lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â pheryglon diogelu iechyd, yn enwedig ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, a byddant yn lleihau afiachedd a marwolaethau y gellir eu hosgoi. Mae rhai pobl yn wynebu mwy o risg o ganlyniad clinigol gwael oherwydd peryglon diogelu iechyd nag eraill ac mae angen dulliau wedi'u teilwra arnynt i sicrhau y cymerir camau priodol.
Bydd y system yn cydweithio i ddeall a sicrhau mesurau atal cychwynnol, eilaidd a thrydyddol. Mae mesurau atal cychwynnol yn helpu i atal achosion a brigiadau o achosion o glefydau trosglwyddadwy a digwyddiadau amgylcheddol. Mae mesurau atal eilaidd yn atal clefydau trosglwyddadwy rhag cael eu trosglwyddo ac effeithiau eilaidd ar yr amgylchedd. Mae mesurau atal trydyddol yn lleihau'r risg o salwch difrifol. Bydd y system yn ymgorffori'r camau gweithredu ataliol hynny mewn amcanion polisi iechyd a pholisïau ehangach er mwyn diogelu'r boblogaeth yn yr hirdymor a chyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Gorau po iachaf yw ein poblogaeth, er mwyn amddiffyn rhag peryglon presennol, rhai sy'n dod i'r amlwg a rhai yn y dyfodol.
Dylai mesurau atal:
- gael eu hymgorffori mewn canllawiau, polisïau a gweithdrefnau gweithredu safonol sydd wedi'u llywio gan sefydliadau perthnasol
- cael eu hadolygu gan ddilyn gwybodaeth o brosesau dadfriffio
- cael eu rhannu'n effeithiol er mwyn i bobl wneud dewisiadau a phenderfyniadau hyddysg mewn perthynas â'r risgiau trosglwyddadwy ac amgylcheddol a all effeithio ar iechyd
Ymateb
Bydd y broses o ymateb i glefydau trosglwyddadwy a digwyddiadau amgylcheddol yn asesu risgiau ac yn rhoi camau gweithredu iechyd y cyhoedd ar waith i ddiogelu unigolion a chymunedau yng Nghymru.
Bydd y system diogelu iechyd yn cydweithio yn lleol ac yn genedlaethol i fynd i'r afael â pheryglon diogelu iechyd acíwt a chronig. Bydd y system yn defnyddio dealltwriaeth o drefniadau paratoi i sicrhau'r lefel gywir o ymatebion fel sy'n ofynnol. Bydd camau a gymerir fel rhan o ymateb yn ystyried anghydraddoldebau ac annhegwch ac yn mynd i'r afael â nhw, gan geisio gwella canlyniadau i bawb.
Dylai trefniadau ymateb:
- gael eu rhoi ar waith yn ddiogel, yn deg ac mewn modd amserol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n lleihau anghydraddoldebau ac annhegwch
- cael eu hategu gan brosesau rhannu gwybodaeth priodol rhwng sefydliadau perthnasol
- cael eu rhoi ar waith yn unol â chynlluniau cenedlaethol fel bod gan bartneriaid ddealltwriaeth a rennir o brosesau, arweinyddiaeth a gwaith partneriaeth
Adfer
Bydd prosesau adfer yn cefnogi llesiant y gweithlu, adferiad a gwydnwch cymunedau, effeithiau hirdymor ar iechyd y boblogaeth ac adferiad amgylcheddol.
Mae cynnal ymateb wrth newid ffocws i flaenoriaethau acíwt a hirdymor eraill wrth i argyfwng ddatblygu yn cael effaith nodedig ar ein gweithlu a'n prosesau. Mae rhoi'r gorau i ymateb yn gam hanfodol wrth i'r system drawsnewid i fusnes fel arfer.
Dylai prosesau adfer:
- annog partneriaid i gefnogi ei gilydd er mwyn trawsnewid i fusnes fel arfer a rhoi argymhellion ar waith
- cael eu hystyried a'u paratoi cyn rhoi'r gorau i drefniadau ymateb
- cael eu cefnogi gan brosesau dadfriffio sefydledig er mwyn helpu'r broses o drawsnewid o gam ymateb i fusnes fel arfer
- cydnabod unrhyw effeithiau parhaus a chefnogi anghenion ar gyfer cymunedau, yr amgylchedd a sefydliadau eraill yn y system diogelu iechyd
Ein hamcanion strategol
Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, ein nod yw cyflawni'r canlyniadau strategol canlynol. Mae'r canlyniadau strategol hyn yn ganolog i'n gwaith paratoi, atal, ymateb ac adfer, beth bynnag fo'r perygl a wynebwn.
Llywodraethu ac atebolrwydd
Mae trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd yn glir ac maent yn cynnwys asesu a lliniaru risgiau, gan sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu. Mae'r system wedi'i threfnu'n effeithlon er mwyn sicrhau bod llinellau cyfathrebu a fforymau a phrosesau gwneud penderfyniadau yn cael eu deall yn dda ac yr ymddiriedir ynddynt.
Arweinyddiaeth effeithiol
Rhoddir arweinyddiaeth effeithiol gan bob partner yn y system er mwyn paratoi ar gyfer peryglon sy'n bodoli a rhai sy'n dod i'r amlwg, eu hatal ac ymateb iddynt mewn modd diogel ac effeithiol.
Gwaith partneriaeth
Mae rolau a chyfrifoldebau sy'n cael eu deall yn dda yn cynorthwyo gwaith partneriaeth. Mae cydweithio effeithiol yn lleihau achosion o ddyblygu ymdrechion ledled Cymru ac yn sicrhau'r budd mwyaf i'r boblogaeth.
Gweithlu hyblyg a gwydn
Mae gweithlu hyblyg a gwydn sy'n meddu ar y cymysgedd cywir o sgiliau ar gael ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i gyflawni gwaith diogelu iechyd ac ymateb i argyfwng fel mater o drefn.
Gwasanaethau a swyddogaethau ardderchog
Caiff gwasanaethau a swyddogaethau ardderchog eu darparu'n ddiogel, yn deg ac mewn modd amserol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n lleihau anghydraddoldebau.
Galluoedd digidol
Caiff galluoedd digidol eu datblygu a'u gwella'n barhaus er mwyn sicrhau gwaith rheoli achosion a digwyddiadau effeithiol ac effeithlon ym maes diogelu iechyd ac wrth gyflwyno rhaglenni brechu.
Gwyliadwriaeth ryngwladol, genedlaethol a rhanbarthol
Caiff gwyliadwriaeth ryngwladol, genedlaethol a rhanbarthol ar gyfer peryglon a chanlyniadau iechyd ei nodi, ei dadansoddi a'i rhannu'n rheolaidd â phartneriaid mewn modd amserol er mwyn darparu gwybodaeth sy'n llywio prosesau cynllunio, polisïau ac ymyriadau.
Prosesau cyfathrebu a gwybodaeth i'r cyhoedd
Mae prosesau cyfathrebu a gwybodaeth i'r cyhoedd yn berthnasol, yn amserol ac wedi'u cynllunio i helpu pobl i wneud dewisiadau/penderfyniadau hyddysg mewn perthynas â'r risgiau trosglwyddadwy ac amgylcheddol a all effeithio ar eu hiechyd nhw a'u teuluoedd.
Ymchwil ac arloesedd
Mae ymchwil ac arloesedd yn llywio gwaith datblygu systemau, a chaiff y sylfaen dystiolaeth ei hatgyfnerthu ar y cyd â phartneriaid academaidd.
Gwaith system gyfan
Mae gan bob sefydliad yn y system diogelu iechyd gylch gwaith a chyfrifoldebau eang fel y nodir yn Atodiad 1. Mae'r adran hon yn adeiladu ar arferion presennol er mwyn nodi'r trefniadau, y rolau a'r cyfrifoldebau a fydd yn ein helpu i gyflawni ein canlyniadau strategol, gan weithio mewn partneriaeth drwy ddull system gyfan.
Er ei bod yn amhosibl rhagweld pob perygl i iechyd poblogaeth Cymru yn y dyfodol, bydd cyflawni ein canlyniadau strategol yn helpu i sicrhau bod y system yn wydn ar gyfer heriau'r dyfodol a bod ganddi strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd effeithiol. Bydd y strwythurau hyn yn galluogi cynrychiolaeth briodol gan bartneriaid o'r cychwyn cyntaf a phroses drawsnewid effeithlon o'r cam paratoi i'r cam ymateb ac adfer.
Mae trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd yn glir ac maent yn cynnwys asesu a lliniaru risgiau, gan sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu. Mae'r system wedi'i threfnu'n effeithlon er mwyn sicrhau bod llinellau cyfathrebu a fforymau a phrosesau gwneud penderfyniadau yn cael eu deall yn dda ac yr ymddiriedir ynddynt.
Llywodraethu ac atebolrwydd rhanbarthol
Mae pob sefydliad yn atebol i'w strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd ei hun. Er enghraifft, mae deiliaid swyddogaethau diogelu iechyd mewn adroddiadau lleol yn adrodd i strwythurau llywodraethu cyhoeddus ac yn atebol i'w haelodau etholedig. Mae deiliaid swyddogaethau diogelu iechyd mewn byrddau iechyd yn adrodd i strwythurau llywodraethu byrddau iechyd.
Fodd bynnag, mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gytuno ar flaenoriaethau diogelu iechyd rhanbarthol yn seiliedig ar ddealltwriaeth a rennir o ddata a chuddwybodaeth ar gyfer eu poblogaeth. Bydd blaenoriaethau rhanbarthol hefyd yn ystyried blaenoriaethau cenedlaethol a phrosesau sganio'r gorwel. Disgwylir i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu data a mewnbwn priodol ac amserol i helpu wrth lunio cynlluniau rhanbarthol.
Ar draws rhanbarthau, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, gyda phartneriaid cenedlaethol eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, ymgysylltu â Fforymau Gwydnwch Lleol i gynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau ac argyfyngau.
Trosolwg cenedlaethol
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r broses o gyflawni swyddogaethau diogelu iechyd ac unrhyw bethau i'w cyflawni o Fframwaith Cynllunio'r GIG drwy gyfarfodydd monitro rheolaidd â holl sefydliadau perthnasol y GIG a phartneriaid rhanbarthol lle caiff cyfrifoldebau ac atebolrwydd eu rhannu.
Mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyflenwadau ar gyfer gwrthfesurau drwy ei Bwrdd Goruchwylio Gwrthfesurau, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o Weithrediaeth y GIG a Phartneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru, sy'n gyfrifol am reoli'r cyflenwadau yn weithredol.
Mae adborth o ffurflenni cyfarfodydd monitro yn rhan o drefniadau atebolrwydd byrddau iechyd ehangach Llywodraeth Cymru gan gynnwys cyfarfodydd Tîm Gweithredol ar y Cyd a chyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig.
Mae cynrychiolwyr rhanbarthol yn bwydo i mewn i grwpiau cenedlaethol fel arfer drwy gynrychiolwyr proffesiynol. Er enghraifft, caiff Paneli Arbenigwyr Cymru Gyfan (clefydau trosglwyddadwy, iechyd porthladdoedd, llygredd, tai a diogelwch bwyd) eu harwain gan awdurdodau lleol ac maent yn adrodd i Iechyd Amgylcheddol Cymru ac i Gyfarwyddwyr Bwrdd Diogelu'r Cyhoedd. Mae uwch-gynrychiolwyr o sefydliadau ar draws y system diogelu iechyd yng Nghymru yn bwydo i mewn i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd (HPAG), a gadeirir gan y Prif Swyddog Meddygol.
Nod HPAG yw sicrhau prosesau integreiddio eang a rhoi polisïau diogelu iechyd ar waith yn effeithiol, cynnal trosolwg o'r gwaith diogelu iechyd a datblygu'r agenda diogelu iechyd. Mae'n ceisio sicrwydd bod risgiau diogelu iechyd yn cael eu rheoli'n effeithiol gan y sefydliadau statudol perthnasol. Mae grwpiau allweddol yn adrodd i'r HPAG er mwyn sicrhau gwelededd sbectrwm eang o weithgarwch sy'n gysylltiedig â diogelu iechyd. Mae hyn yn cynnwys:
- clefydau trosglwyddadwy
- iechyd cyhoeddus amgylcheddol
- iechyd cyfunol
- sgrinio a brechu
Ar lefel weithredol, daw arweinwyr rhanbarthol, Iechyd Amgylcheddol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd yn y Grŵp Parodrwydd Gweithredol ar gyfer Diogelu Iechyd (HPORG) i drafod unrhyw risgiau gweithredol, problemau a chyfleoedd.
Rhoddir arweinyddiaeth effeithiol gan bob partner yn y system er mwyn paratoi ar gyfer peryglon sy'n bodoli a rhai sy'n dod i'r amlwg, eu hatal ac ymateb iddynt mewn modd diogel ac effeithiol
Arweinyddiaeth
Mae pob partner yn cyfrannu at arweinyddiaeth y system a gwaith partneriaeth drwy fod yn aelodau o grwpiau perthnasol fel y nodir uchod, fel HPAG.
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisïau cenedlaethol a blaenoriaethau strategol cenedlaethol, gan arwain at lunio deddfwriaeth, cyngor, cynlluniau neu gyfarwyddyd i'r system ehangach yn ôl y gofyn. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau yn unol â'r blaenoriaethau strategol hynny ac yn monitro darpariaeth, cynnydd a chanlyniadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rôl arweiniol mewn polisïau a strategaethau diogelu iechyd ledled y DU, gan gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ynghyd â chydweithwyr o wledydd datganoledig eraill.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflawni rôl arweiniol ar lefel y DU ac ar lefel fyd-eang fel asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol Cymru. Mae'n rhoi mewnbwn i grwpiau digwyddiadau neu gynllunio wrth gefn y DU drwy fynd i gyfarfodydd timau rheoli, grwpiau strategol ac is-grwpiau fel sy'n berthnasol, arhannu gwybodaeth berthnasol â phartneriaid yng Nghymru.
Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi cyngor i Weinidogion a swyddogion ar faterion iechyd y cyhoedd ac yn rhoi arweinyddiaeth glinigol i'r proffesiwn yng Nghymru.
Mae Grŵp Arweinyddiaeth Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd yn gyfle i'r Prif Swyddog Meddygol a'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol gwrdd yn rheolaidd ag uwch-arweinwyr ym mhob rhan o'r system diogelu iechyd. Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i rannu syniadau a heriau ar lefel strategol ac i roi adborth ar bolisïau wrth iddynt ddatblygu.
Mae Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd mewn byrddau iechyd a Chyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd mewn awdurdodau lleol yn chwarae rôl hanfodol wrth arwain yr agenda diogelu iechyd yn eu sefydliadau. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl arweiniol genedlaethol allweddol wrth sicrhau bod gan sefydliadau ddata perthnasol, ynghyd â chanllawiau cenedlaethol ar gyfer camau gweithredu lleol y dylid eu cymryd.
Digwyddiadau a brigiadau o achosion
Ar gyfer heriau acíwt, lle mae perygl wedi'i nodi y mae angen i'r system baratoi ar ei gyfer ar unwaith, dylid rhoi strwythur Tîm Rheoli Digwyddiadau (IMT) cenedlaethol ar waith yn unol â'r cynllun ymateb perthnasol. Byddai'r strwythur hwn yn cael ei roi ar waith er mwyn sicrhau y gellir rhannu gwybodaeth amlasiantaethol, paratoi ac ymateb.
Ar gyfer digwyddiadau llanw'n codi, bydd Llywodraeth Cymru, yn unol â'r trefniadau a nodir yn y Cynllun Rheoli Brigiadau o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy, yn galw Cell Trosolwg o Bolisïau Iechyd sy'n dwyn ynghyd arweinwyr perthnasol i ystyried camau gweithredu gofynnol. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydlu grŵp paralel i ystyried parodrwydd gweithredol.
Dylid mynd i'r afael â heriau tymor hwy neu gronig o fewn y strwythur HPAG presennol a'i is-grwpiau. Gall HPAG ddewis galw grŵp gorchwyl a gorffen, os bydd angen.
Mae rolau a chyfrifoldebau sy'n cael eu deall yn dda yn cynorthwyo gwaith partneriaeth
Gweithio mewn partneriaeth
Mae sefydliadau partner yn cydweithio i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ymdrech yn cael ei dyblygu ac i sicrhau cymaint o fudd â phosibl i'r boblogaeth. Yn dibynnu ar y cyd-destun, gall cydweithio ddigwydd yn anffurfiol, drwy grwpiau a strwythurau partneriaeth presennol, neu yn eithriadol drwy greu grwpiau neu strwythurau newydd yn ôl yr angen.
Pan fydd angen cymorth ychwanegol a/neu ymateb parhaus ar gyfer digwyddiadau neu achosion lleol, bydd partneriaid lleol a rhanbarthol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio er mwyn gwella'r ymateb lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Tîm Ymchwydd Cenedlaethol, a leolir yng Nghyngor Caerdydd, sy'n gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mewn prosesau cynllunio rhag argyfyngau, gwydnwch ac ymateb (EPRR), mae cynllunwyr argyfwng awdurdodau lleol yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd a phartneriaid eraill drwy fforymau gwydnwch lleol (LRFau) i sganio'r gorwel a chydlynu gweithgareddau. Mewn ymateb i argyfwng lle mae effaith ar iechyd y cyhoedd, bydd timau EPRR yn bresennol ac yn sefydlu partneriaethau amlasiantaethol yn unol â threfniadau argyfyngau sifil posibl.
Cynlluniau ymateb
Mae gan bob sefydliad yn y system diogelu iechyd gynlluniau parodrwydd wedi'u diweddaru a'u profi ar waith sy'n barod i'w cynyddu os bydd perygl yn codi yn y dyfodol, gan gynnwys senario pandemig yn y dyfodol. Mae Gweithrediaeth y GIG yn ceisio sicrwydd bod gan fyrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gynlluniau perthnasol fel cynlluniau ymateb i argyfyngau, cynlluniau digwyddiadau mawr, cynlluniau defnyddio gwrthfesurau a threfniadau ymarfer ynghyd â staff sydd wedi'u hyfforddi'n ddigonol.
Mae'r holl bartneriaid yn ymateb i frigiadau o achosion a digwyddiadau gan ddefnyddio'r broses y cytunwyd arni a amlinellir yn y "Cynllun rheoli brigiadau o achosion o glefydau trosglwyddadwy yng Nghymru" a "Rheoli'r risgiau i iechyd y cyhoedd yn sgil digwyddiadau amgylcheddol: canllawiau i Gymru". Mae'r cynlluniau hyn yn nodi'n fanwl sut mae'r system yn cydweithio er mwyn ymateb i ddigwyddiadau diogelu iechyd yng Nghymru a chawsant eu diweddaru mewn partneriaeth yn 2023.
Mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ymatebwyr Categori 1 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (2004). Mae'n ofynnol i ymatebwyr asesu'r risg a achosir gan argyfyngau a digwyddiadau mawr, rhoi cynlluniau argyfwng ar waith, cyfathrebu â'r cyhoedd, eu rhybuddio a'u cynghori, a rhannu gwybodaeth a chydweithredu ag ymatebwyr eraill. Dylai cynlluniau fod yn gadarn ac yn gymesur i'r risg.
Ymarferion
Mae partneriaid yn cydweithio i ymarfer ddiweddaru cynlluniau parodrwydd ac ymateb yn rheolaidd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gan gysylltu â chynlluniau brys ehangach a threfniadau argyfyngau sifil posibl. Mae'r holl bartneriaid perthnasol yn cyfrannu at gynlluniau amlasiantaethol, ymarferion a sesiynau dadfriffio ar ôl digwyddiadau er mwyn llywio parodrwydd ac ymarfer yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arweinyddiaeth strategol gan bennu'r cyfeiriad ar gyfer ymarferion cenedlaethol, gan gynnwys cydlynu mewnbwn Cymru yn ymarferion y pedair gwlad er mwyn profi parodrwydd a chynlluniau a threfniadau brys.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydlynu ac yn cyfrannu at ymarferion cenedlaethol gyda phartneriaid i brofi parodrwydd a chynlluniau a threfniadau brys ar gyfer peryglon sy'n gysylltiedig â chlefydau trosglwyddadwy.
Mae aelodau o Is-grŵp HPAG Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o Cyfoeth Naturiol Cymru, y Bartneriaeth Iechyd Dŵr ac ati yn cydlynu ac yn cyfrannu ar y cyd at ymarferion cenedlaethol i brofi parodrwydd ar gyfer rheoli risgiau i iechyd y cyhoedd sy'n deillio o ddigwyddiadau amgylcheddol.
Mae gweithlu hyblyg a gwydn sy'n meddu ar y cymysgedd cywir o sgiliau ar gael ar lefel genedlaethol a lleol i gyflawni gwaith diogelu iechyd ac ymateb i argyfwng fel mater o drefn
Cyllid
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd ar gyfer byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi prosesau diogelu iechyd cenedlaethol a lleol, a chyflawni'r camau gweithredu a amlinellir yn "Cymru iachach".
Gwneir penderfyniadau rhanbarthol i ddirprwyo rhywfaint o'r cyllid hwn i awdurdodau lleol lle mae hyn yn cefnogi strwythurau diogelu iechyd lleol a rhanbarthol.
Cynllunio’r gweithlu
Mae'r holl sefydliadau yn cynnal capasiti i ddarparu sgiliau ac arbenigedd amlddisgyblaethol i gyflawni eu rolau a'u cyfrifoldebau cyfreithiol a gofynnol, gan gydnabod y bydd cynnydd mewn gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn yn unol â galw cenedlaethol a rhanbarthol.
Er mwyn gallu ymateb i beryglon yn y dyfodol, mae gan sefydliadau gynlluniau clir ar waith i allu defnyddio a chynyddu'r gweithlu sy'n ofynnol ym mhob rhan o'r system diogelu iechyd. Gall hyn gynnwys trefniadau cyd-gymorth, cynlluniau adleoli a/neu fodelau wrth gefn. Mae cynlluniau yn cydnabod sut y caiff hyfforddiant, prosesau a strwythurau eu darparu fel y gellir sicrhau capasiti o fewn cyfnod byr o amser.
Hyfforddiant a sgiliau
Mae pob sefydliad yn cynnig hyfforddiant fel y gall staff gynnal cymhwysedd proffesiynol ac, o ganlyniad, y gall pob sefydliad barhau i gyflawni ei rolau a'i gyfrifoldebau cyfreithiol a gofynnol.
Yn ogystal, mae hyfforddiant ar draws sefydliadau yn atgyfnerthu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o ran sut mae'r system diogelu iechyd yn cydweithio i ymateb i beryglon diogelu iechyd gwahanol. Ar gyfer clefydau trosglwyddadwy, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig hyfforddiant pwrpasol i bartneriaid mewnol ac allanol ar egwyddorion a sgiliau diogelu iechyd er mwyn sicrhau gallu a chymhwysedd yn y gweithlu iechyd y cyhoedd a diogelu'r cyhoedd, gan gynnwys gofynion i gynnal cofrestriad proffesiynol.
Caiff capasiti a gallu eu hadolygu'n rheolaidd a chânt eu llywio gan dystiolaeth ac arferion gorau sy'n dod i'r amlwg, er enghraifft allbwn sydd ar ddod ffrwd waith cynllunio'r gweithlu Grŵp Gwyliadwriaeth Diogelu Iechyd y 4 Gwlad.
Partneriaid ehangach ym maes diogelu iechyd
Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio â sefydliadau eraill i gefnogi prosesau diogelu iechyd y cyhoedd pan fo'n briodol. Er enghraifft:
- gydag Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru (ASB) wrth ymchwilio i frigiadau o achosion o gludir mewn bwyd, lle bydd yr ASB yn darparu cyngor a/neu asesiadau risg gwyddonol er mwyn sicrhau bod unrhyw gamau unioni yn ystyried materion diogelwch bwyd
- gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion pan fydd cysylltiad ag iechyd anifeiliaid/planhigion
- gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus amgylcheddol/llygredd, lle bydd CNC yn atebol am reoli llygredd amgylcheddol drwy roi trwyddedau a gorfodi cydymffurfiaeth
- gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ar asesiadau risg cemegol, ymbelydredd a niwclear a rheoli iechyd y cyhoedd
- gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch pan fydd ystyriaethau iechyd a diogelwch gan gynnwys mewn ffatrïoedd a safleoedd peryglus mawr
- gydag Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn helpu i wella gwasanaethau gofal cymdeithasol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru er mwyn helpu i wella gwasanaethau iechyd
Caiff gwasanaethau a swyddogaethau ardderchog eu darparu'n ddiogel, yn deg ac mewn modd amserol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n lleihau anghydraddoldebau
Anghydraddoldeb ac annhegwch
Mae pob partner yn deall pwysigrwydd mynd i'r afael â mynediad a chyfleoedd teg a chydweithio'n lleol ac yn genedlaethol i gefnogi a chyflawni camau gweithredu tuag at y nod hwn. Mae llawer o'r penderfynyddion iechyd ehangach yn effeithio ar risg person o afiachedd a marwolaeth o ganlyniad i glefydau trosglwyddadwy a pheryglon amgylcheddol. Mae pob sefydliad yn ystyried y ffactorau hyn wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac annhegwch.
Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid allweddol wrth ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth leol ar ffactorau galluogi a rhwystrau er mwyn sicrhau ymateb effeithiol ac atal clefydau rhag cael eu trosglwyddo mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n lleihau anghydraddoldebau.
Mae byrddau iechyd yn sicrhau bod nifer mawr o bobl yn manteisio ar raglenni brechu, gan gynnwys drwy sicrhau mynediad a chyfleoedd teg i raglenni brechu yn unol â'r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol ar gyfer Cymru a Chylchlythyrau Iechyd Cymru.
Dylai dulliau o atal peryglon diogelu iechyd a chysylltiadau, a salwch sy'n deillio o hynny, gael eu llywio gan fodelau fel y Fframwaith Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Atal. Nod y model hwn yw rhoi polisïau ar waith i gyflawni newid amlwg tuag at atal ym maes iechyd a gofal. Yn ei dro, bydd y ffocws hwn yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau a gweithrediadau mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar unigolion sy'n lleihau anghydraddoldebau ac annhegwch.
Gwasanaeth ymateb acíwt
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwasanaeth ymateb acíwt 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ar gyfer clefydau trosglwyddadwy a digwyddiadau amgylcheddol. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys darparu asesiadau risg arbenigol i ganfod ac ymgymryd â'r camau gweithredu iechyd y cyhoedd priodol sy'n ofynnol. Mae hyn hefyd yn cynnwys 19 cefnogi a chynghori partneriaid (fel Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a gweithwyr iechyd proffesiynol) i ddehongli, rheoli a chyfleu risg.
Samplu a phrofi
Mae byrddau iechyd yn rhoi mynediad amserol ac effeithiol i wasanaethau diagnostig, triniaeth a gofal i'w poblogaethau gan gynnwys i grwpiau cynhwysiant iechyd a'r rhai sy'n ceisio lloches (gan gynnwys sgrinio clefydau heintus a dal i fyny â brechiadau). Pan fydd angen profi cleifion mewn lleoliadau gofal iechyd, mae byrddau iechyd a/neu wasanaethau meddygon teulu yn cynnal prosesau samplu at ddiben rhoi diagnosis o glefydau trosglwyddadwy.
Mae awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn cynnal prosesau samplu bwyd, dŵr, aer ac amgylcheddol fel sy'n briodol mewn digwyddiadau amgylcheddol. Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnal prosesau samplu cymunedol ac yn rheoli achosion o glefydau gastroberfeddol a gwenwyn bwyd.
Pan fydd angen prosesau samplu cymunedol ar gyfer pathogenau eraill, naill ai ar gyfer rheoli achosion neu ddigwyddiadau, cytunir ar brosesau samplu drwy gynnal trafodaeth rhwng byrddau iechyd a Cyfoeth Naturiol Cymru fesul achos a gwneir trefniadau i gludo samplau mewn modd amserol i gyfleusterau profi priodol.
Ymysg y cyfleusterau profi priodol mae labordai gwasanaethau heintus Iechyd Cyhoeddus Cymru, labordai byrddau iechyd a labordai cyfeirio. Caiff samplau clinigol eu prosesu at ddibenion rhoi diagnosis o glefydau trosglwyddadwy acíwt a amheuir. Mae gwasanaethau heintiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor i'r gymuned clefydau heintus a diogelu iechyd ehangach ar ddiagnosisau gwahaniaethol, mathau o brosesau samplu, a thriniaeth.
Mae dyhead amlwg i'r system gydweithio i safoni cyfrifoldeb ledled Cymru ar gyfer y mathau gwahanol o brosesau samplu yn y dyfodol. Ynghyd â phartneriaid, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain ar waith datblygu gweithdrefnau gweithredu safonau amlasiantaethol i egluro prosesau. Ar ôl cytuno ar y rhain, bydd HPAG yn cytuno arnynt ac yn eu cadarnhau. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sicrhau bod y cyngor a'r canllawiau hyn yn cael eu diweddaru gan weithio gyda'r system ehangach yng Nghymru.
Gwasanaethau a gweithrediadau ehangach awdurdodau lleol
Mae awdurdodau lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a gweithrediadau sy'n chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu iechyd. Ymysg rhai o'r swyddogaethau hyn sy'n berthnasol i gwmpas y fframwaith hwn mae:
- rheoli ansawdd aer, nodi ac unioni tir halogedig a chaniatáu prosesau diwydiannol diffiniedig
- atal a rheoli heintiau mewn meithrinfeydd, ysgolion a chartrefi gofal
- rheoleiddio gan gynnwys asesu risg a samplu cyflenwadau dŵr preifat
- rheoleiddio tatŵyddion (gan gynnwys colur lled-barhaol), darparwyr aciwbigo, electrolysis a thyllu'r corff er mwyn atal feirysau a gludir yn y gwaed a heintiau bacterol
- arolygu a rheoli milheintiau mewn sŵau mwytho, parciau fferm ac atyniadau ymwelwyr
Iechyd porthladdoedd
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol benodi Swyddogion ‘Priodol’ o'r awdurdod iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) at ddibenion Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) a Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1984.
Mae'r awdurdodau lleol neu'r Awdurdod Iechyd Porthladdoedd yn y porthladd glanio/angori ar gyfer llongau neu awyrennau (i mewn i'r DU) yn cyflawni cyfrifoldebau rheoli iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys sgrinio datganiad meddygol y meistr/capten o hysbysiadau iechyd cyn cyrraedd. Bydd yr awdurdod lleol/Awdurdod Iechyd Porthladdoedd yn cyfeirio gwybodaeth berthnasol am glefydau trosglwyddadwy i Iechyd Cyhoeddus Cymru os bydd pryderon am iechyd y cyhoedd yn bodoli. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn asesu'r wybodaeth yn strategol ac yn ymgysylltu â byrddau ac ymddiriedolaethau priodol y GIG ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol eraill, yn gymesur, mewn perthynas â'r risg a nodwyd. Gellir rhoi cyfyngiadau ar waith ar deithwyr a chriw sy'n glanio neu ailgyfeirio'r llong/awyren.
Lle na fydd pryderon yn bodoli, gall Swyddog ag Awdurdod yr awdurdod lleol/Awdurdod Iechyd Porthladdoedd roi rhwydd hynt i'r Llong.
Pan geir datganiad iechyd meddygol, bydd yr awdurdod lleol/Awdurdod Iechyd Porthladdoedd yn arolygu'r llong sy'n cyrraedd.
Rhaid i longau mordwyo rhyngwladol gael Tystysgrif Glanweithdra Llongau, y mae'n rhaid eu hadnewyddu bob chwe mis. Gall yr awdurdodau lleol/Awdurdod Iechyd Porthladdoedd gynnal arolygiad Iechyd y Cyhoedd yn unol â gofynion y Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol a rhoi tystysgrif Glanweithdra Llongau (Eithrio, Rheoli neu Ymestyn). Mae'r swyddogaeth hon yn cynnwys samplu dŵr neu fwyd ar y llong. Cyfeirir at staff awdurdodau lleol neu Swyddogion Priodol fel Swyddogion ag Awdurdod.
Gall Meistr neu Gapten y Llong ofyn am ddyletswyddau ychwanegol i gynnal gwerthusiadau meddygol o griw neu deithwyr yn seiliedig ar amheuaeth ynghylch salwch trosglwyddadwy a gall y gwerthusiadau hyn gael eu cynnal gan Swyddog Meddygol. Ystyrir bod hyn yn golygu ymyriad gan un o fyrddau neu ymddiriedolaethau'r GIG, neu ymarferwr meddygol o dan ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Hysbysiadau a rhwymedigaethau rhyngwladol
Mae awdurdodau lleol yn penodi ‘Swyddogion Priodol’ yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) cyfredol, gan gymryd hysbysiadau am glefydau heintus. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal rôl a swyddogaeth y Swyddog Priodol ar ran yr awdurdodau lleol.
O dan y Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol (2005), mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu ag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fel pwynt ffocws Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol y DU i nodi unrhyw achosion annisgwyl sylweddol o glefydau, a gofyn i aelod-wladwriaethau eraill ymgymryd â chamau gweithredu iechyd y cyhoedd ar gyfer achosion/cysylltiadau nad ydynt yng Nghymru mwyach.
Meddyginiaethau at ddibenion diogelu iechyd
Mae pobl Cymru yn cael mynediad cyflym i driniaethau ac ymyriadau angenrheidiol pan fydd angen meddyginiaethau arnynt at ddibenion iechyd y cyhoedd (gan gynnwys cemoproffylacsis, imiwnoglobwlin, cyffuriau gwrthfeirysol a brechiadau).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio canllawiau clinigol a bydd yn sicrhau bod prosesau i gael gafael ar feddyginiaethau diogelu iechyd yn glir ac wedi'u diweddaru, gyda chynlluniau adleoli amlasiantaethol, gan gynnwys llwybrau y cytunwyd arnynt ar gyfer rhagnodi a dosbarthu.
Mae byrddau iechyd yn sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant ac yn gwybod sut i gael gafael ar feddyginiaethau diogelu iechyd perthnasol pan fydd angen.
Mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu pa gyflenwadau o feddyginiaethau a chyfarpar y dylid eu cynnal at ddefnydd brys, gan gynllunio gyda Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig eraill. Mae Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru yn monitro ac yn cynnal y cyflenwadau ar y lefelau gofynnol.
Atal a Rheoli Heintiau a Chyfarpar Diogelu Personol
Caiff yr holl wasanaethau a gweithrediadau eu darparu yn unol â chanllawiau atal a rheoli heintiau perthnasol er mwyn amddiffyn staff a chleifion eraill rhag cael clefydau trosglwyddadwy.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu canllawiau perthnasol ar atal a rheoli heintiau. Mae byrddau iechyd, gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau clinigol eraill 22 yn sicrhau bod eu staff yn cael hyfforddiant ar sut i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol yn unol â'r canllawiau.
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu lefel y cyflenwad o gyfarpar diogelu personol y dylid ei gynnal ar gyfer pandemigau/argyfyngau. Mae Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru yn monitro ac yn cynnal y cyflenwadau ar y lefelau gofynnol ac yn dosbarthu i ganolfannau storio a dosbarthu lleol y cytunwyd arnynt.
Caiff galluoedd digidol eu datblygu a'u gwella'n barhaus er mwyn sicrhau gwaith rheoli achosion a digwyddiadau effeithiol ac effeithlon ym maes diogelu iechyd ac wrth gyflwyno rhaglenni brechu
Seilwaith digidol
Mae seilwaith digidol yn hwyluso prosesau rhannu data a gwybodaeth ar draws sefydliadau partner.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu seilwaith digidol a bydd yn ystyried a, lle y bo'n briodol, yn ariannu datblygiadau mewn systemau cofnodi achosion digidol a systemau brechu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain y broses o ddatblygu opsiynau ar gyfer system rheoli achosion a digwyddiadau newydd ar gyfer diogelu iechyd a fydd â'r gallu i reoli achosion a digwyddiadau rheolaidd yn briodol a chael ei huwchraddio'n ymateb uwch, brigiad mawr o achosion neu bandemig.
Rhannu data a gwybodaeth
Mae pob sefydliad yn ymrwymedig i arferion llywodraethu gwybodaeth da. Mae trefniadau rhannu data ar waith er mwyn galluogi gwaith ar draws sefydliadau o fewn Cymru a lle y bo'n briodol gyda sefydliadau eraill ledled y 4 gwlad.
Caiff gwyliadwriaeth ryngwladol, genedlaethol a rhanbarthol ar gyfer peryglon a baich clefyd ei chynnal a chaiff yr holl ddata perthnasol eu casglu, eu dadansoddi a'u rhannu mewn modd amserol er mwyn sicrhau gwybodaeth i lywio prosesau cynllunio, polisïau ac ymyriadau
Gwyliadwriaeth
Mae ymchwil, tystiolaeth, cyngor gwyddonol a phrosesau sganio'r gorwel o'r radd flaenaf yn cynorthwyo penderfyniadau o ran polisïau a phenderfyniadau gweithredol. Nid yw clefydau trosglwyddadwy a pheryglon eraill yn parchu ffiniau, felly rydym yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU ac yn rhyngwladol i lywio a dysgu o wyliadwriaeth ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae system gwyliadwriaeth gyfunol effeithiol yn darparu gwybodaeth amserol i gynorthwyo prosesau asesu risg a phenderfyniadau rheoli risg ac mae'n hanfodol wrth hwyluso ymateb effeithiol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal gwyliadwriaeth o bob agwedd ar ddiogelu iechyd gan gynnwys gwyliadwriaeth gychwynnol, gwyliadwriaeth sentinel, lefelau manteisio ar raglenni brechu a genomeg. Mae hyn yn cynnwys arbenigedd epidemiolegol a chefnogi a sefydlu gwyliadwriaeth o ddigwyddiadau mawr. Rhoddir adroddiadau rheolaidd ar ymwybyddiaeth o'r sefyllfa i Lywodraeth Cymru, partneriaid ar draws y system diogelu iechyd yng Nghymru ac asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dosbarthu pecynnau profi ar gyfer achosion o'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela y rhoddwyd gwybod amdanynt at ddibenion gwyliadwriaeth. Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU hefyd yn anfon pecynnau profi ar gyfer y frech goch er mwyn cydymffurfio â chynlluniau i'w ddileu.
Yn rhanbarthol, mae gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol rôl allweddol wrth rannu cuddwybodaeth, adolygu data gwyliadwriaeth a sganio'r gorwel.
Mae sefydliadau partner, gan gynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cynnal eu prosesau gwyliadwriaeth a sganio'r gorwel eu hunain, gan rannu gwybodaeth berthnasol â phartneriaid ar draws y system diogelu iechyd fel sy'n briodol.
Genomeg
Mae genomeg pathogenau yn cynnig dull diamwys o nodi a disgrifio cwmpas brigiad o achosion, ac o olrhain/mapio trosglwyddiad ar amrywiaeth o raddfeydd. Defnyddir data genomeg i gefnogi'r broses o nodi a rheoli brigiadau o achosion. Mae gwasanaeth genomeg Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu adnodd allweddol ar gyfer sicrhau ansawdd a datblygu profion diagnostig.
Mae genomeg hefyd yn ofynnol ymysg rhai poblogaethau cleifion er mwyn sicrhau bod y driniaeth a roddir i gleifion yn cyd-fynd ag ymwrthedd i gyffuriau yn y pathogen sy'n eu heintio. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu data ar genomeg i glinigwyr er mwyn helpu i lywio triniaeth.
Dileu clefydau
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arweinyddiaeth system a chymorth ar y pwnc dan sylw ar gynlluniau i ddileu clefydau ledled Cymru sy'n cynnwys amrywiaeth o ymyriadau ataliol a datblygiadau gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth, gwyliadwriaeth, arferion gorau a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym mhob rhan o'r system.
Mae byrddau iechyd yn darparu gwasanaethau brechu i atal clefydau a gwasanaethau clinigol i drin y clefydau hyn ac mae ganddynt dimau diogelu iechyd integredig i gefnogi'r gwaith o godi ymwybyddiaeth, atal, profi ac ymateb i ddigwyddiadau a brigiadau o achosion.
Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cofrestru ar gyfer Datganiad Paris er mwyn llunio cydweithrediadau Llwybr Carlam rhanbarthol i gefnogi'r nodau mewn perthynas â HIV, hepatitis feirysol, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a TB.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfeiriad ac yn monitro cynnydd drwy Grwpiau Gwyliadwriaeth penodol ar gyfer clefydau sy'n adrodd i Is-grŵp Clefydau Trosglwyddadwy Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol.
Y rhaglen heintiau cysylltiedig â gofal iechyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd
Nod cynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd y DU ar gyfer 2024 i 2029 yw lleihau'r angen am feddyginiaethau gwrthficrobaidd a chysylltiad anfwriadol â nhw drwy ddull system gyfan o atal a rheoli heintiau, diagnosteg a thriniaeth well. Mae byrddau iechyd, gwasanaethau gofal sylfaenol a lleoliadau clinigol eraill i gyd yn gweithio yn unol â'r cynllun gweithredu cenedlaethol drwy eu harferion atal a rheoli heintiau a stiwardiaeth wrthficrobaidd. Mae byrddau iechyd yn rhoi arweinyddiaeth a chyngor arbenigol i wasanaethau gofal iechyd ym mhob rhan o'u rhanbarth. Mae gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl polisi a rôl strategol wrth roi'r cynllun cenedlaethol ar waith.
Mae Rhaglen Heintiau Cysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi Iechyd Cyhoeddus Cymru (HARP) yn cynnal gwyliadwriaeth o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a defnydd o feddyginiaethau gwrthficrobaidd ac ymwrthedd iddynt gan lunio gwybodaeth ar gyfer gweithredu. Mae hefyd yn rhoi cymorth i randdeiliaid wella prosesau rhagnodi meddyginiaethau gwrthficrobaidd a lleihau baich heintiau drwy'r Canllawiau a'r Cyngor ar Stiwardiaeth Wrthficrobaidd ac Atal a Rheoli Heintiau.
Mae cyfathrebu a gwybodaeth i'r cyhoedd yn berthnasol, yn amserol ac wedi'u cynllunio i helpu pobl i wneud dewisiadau/penderfyniadau ar sail gwybodaeth mewn perthynas â'r risgiau trosglwyddadwy ac amgylcheddol a all effeithio ar eu hiechyd
Ymgyrchoedd cyfathrebu
Mae timau cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n effeithiol i sicrhau bod negeseuon cyhoeddus yn gydlynol, yn amserol ac yn gywir. Bydd cyfathrebu effeithiol yn ymgorffori cyngor a chymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar draws pob maes diogelu iechyd i'r cyhoedd ac i leoliadau penodol, ar amrywiaeth eang o ymyriadau sydd â'r nod o atal niwed i iechyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol i arwain ar weithgarwch cyfathrebu ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth mewn perthynas ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- strategaethau cyfathrebu penodol ar gyfer digwyddiadau a brigiadau o achosion
- rhaglenni brechu newydd a gwella llythrennedd brechu ymysg y cyhoedd
- ymwybyddiaeth o glefydau heintus (fel TB neu hepatitis C)
- peryglon amgylcheddol (er enghraifft, llygredd aer, cysylltiad â charbon monocsid, chysylltiad â phlwm, tywydd eithafol)
Caiff dulliau cyfathrebu ymatebol eu drafftio yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol "Cynllun ar gyfer Brigiadau o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru" a "Rheoli’r risgiau i iechyd y cyhoedd yn sgil digwyddiadau amgylcheddol: Canllawiau i Gymru", fel y bo'n briodol.
Gwyddor ymddygiad
Dylid defnyddio safbwynt gwyddor ymddygiadol i sicrhau bod dulliau cyfathrebu â'r cyhoedd yn cael yr effaith fwyaf. Caiff negeseuon eu llunio i gyflawni'r amcanion cyfathrebu a, lle y bo'n bosibl, cânt eu treialu a'u gwerthuso.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru uned gwyddor ymddygiad (BeSci) sy'n darparu arbenigedd ar wyddor ymddygiad, a datblygu'r broses o'i chymhwyso, er mwyn gwella iechyd a llesiant yng Nghymru.
Hygyrchedd
Mae gwybodaeth i'r cyhoedd, p'un a chaiff ei darparu gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru neu bartneriaid, yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn ystyried hygyrchedd er mwyn sicrhau canlyniadau mwy teg. Dylid ei llunio'n rhagweithiol ar y cyd â rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys y cyhoedd, lle y bo'n bosibl.
Bydd Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu'n rhagweithiol â grwpiau sy'n wynebu risg, er enghraifft, drwy gydweithio â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, y Comisiynydd Plant, Anabledd Cymru, rhwydweithiau niwroamrywiaeth, rhwydweithiau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a phoblogaethau a danwasanaethir i ddeall y materion sy'n effeithio arnynt, gan sicrhau bod canllawiau a dulliau cyfathrebu yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb.
Mae ymchwil ac arloesedd yn llywio gwaith datblygu systemau, a chaiff y sylfaen dystiolaeth ei hatgyfnerthu ar y cyd â phartneriaid academaidd
Y sail dystiolaeth
Mae gan bob sefydliad yn y system diogelu iechyd rôl i gyfrannu at arloesedd, gwelliant a'r sail dystiolaeth. Bydd y system yn gweithredu ar sail tystiolaeth a gwybodaeth, yn datblygu drwy arloesedd a gwelliant parhaus, ac yn defnyddio gwersi a ddysgwyd i gynorthwyo adferiad ar ôl ymateb.
Bydd gan bob partner ei waith ymchwil a'i ddiddordebau gwerthuso ei hun y dylid eu hatgyfnerthu drwy bartneriaethau academaidd a phartneriaethau diwydiant.
Mae gan Lywodraeth Cymru arweinyddiaeth strategol ar raglenni ymchwil sy'n cefnogi asesiadau risg, gwaith rheoli effeithiol a gwaith sganio'r gorwel ar gyfer y Prif Swyddog Meddygol a thimau polisi.
Dylid rhannu gwaith ymchwil a gwerthuso ar draws y system diogelu iechyd â phartneriaid perthnasol.
Gwelliannau mewn technoleg
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i arloesi a gwella profion diagnostig, gweithdrefnau microbioleg a genomeg.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer gwyddorau bywyd yng Nghymru. Dylid atgyfnerthu partneriaethau â diwydiant ac academia i ddatblygu a mabwysiadu datrysiadau arloesol sydd o fudd i ganlyniadau iechyd a gofal.
Y camau nesaf
Nod y fersiwn gyntaf hon o'r fframwaith oedd disgrifio ein blaenoriaethau strategol a sut y bydd y system diogelu iechyd yng Nghymru yn cydweithio ar gyfer pobl Cymru er mwyn lleihau niwed, achub bywydau a hybu llesiant.
Caiff y fframwaith ei adolygu'n barhaus drwy drefniadau llywodraethu HPAG a'i adolygu'n ffurfiol bob tair blynedd. Bydd fersiynau yn y dyfodol yn defnyddio gwersi pellach a ddysgwyd o'r Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19, ymarferion a thrwy reoli digwyddiadau a brigiadau o achosion. Nod fersiynau o'r fframwaith yn y dyfodol fydd cynnwys amrywiaeth o elfennau Iechyd Cyfunol a chwmpas ehangach i gynnwys elfennau Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ehangach.
Atodiad 1: system diogelu iechyd yng Nghymru
Er mwyn symud yn effeithiol tuag at gyfeiriad strategol cyffredin, mae'n bwysig parhau i feithrin dealltwriaeth a rennir o'n system diogelu iechyd, ac adeiladu ar bartneriaethau cenedlaethol a lleol cadarn. Mae'r system diogelu iechyd yng Nghymru yn cynnwys y sefydliadau canlynol ond nid yw'n gyfyngedig iddynt. Mae'r canlynol yn disgrifio trosolwg o'u swyddogaethau diogelu iechyd o fewn y system diogelu iechyd yng Nghymru, ond cydnabyddir bod gan bob sefydliad gylch gwaith ehangach.
Llywodraeth Cymru
Yn gweithredu fel stiward y system. Gan fod iechyd yn fater wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisïau cenedlaethol a blaenoriaethau strategol, gan arwain at lunio statud a deddfwriaeth, cyngor, cynlluniau neu gyfarwyddyd i'r system ehangach. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau yn unol â'r blaenoriaethau strategol hynny ac yn monitro darpariaeth, cynnydd a chanlyniadau. Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi cyngor i Weinidogion a swyddogion ar faterion iechyd y cyhoedd ac yn rhoi arweinyddiaeth glinigol i'r proffesiwn yng Nghymru.
Gweithrediaeth y GIG
Rôl Gweithrediaeth y GIG yw cydweithio â GIG Cymru i ddatblygu polisi a dulliau/ymyriadau cenedlaethol ar sail tystiolaeth a'u rhoi ar waith er mwyn gwella canlyniadau, hysbysu Llywodraeth Cymru am amrywiadau a chefnogi byrddau iechyd nad ydynt yn bodloni disgwyliadau o ran perfformiad. Caiff gweithrediadau a rhaglenni cenedlaethol Gweithrediaeth y GIG eu rhoi ar waith i gefnogi'r system diogelu iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cylch gwaith Rhaglen Frechu Cymru i ddarparu cynlluniau strategol y GIG, darpariaeth genedlaethol, sicrwydd, gwerthuso a dysgu am yr holl raglenni brechu ledled Cymru, gan gynnwys rhoi'r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol ar waith a sicrwydd ar barodrwydd y GIG i gynllunio at argyfyngau o fewn swyddogaeth gynllunio'r GIG.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Un o ymddiriedolaethau'r GIG sydd â swyddogaethau statudol i ddarparu gwasanaethau iechyd y cyhoedd ac mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae'n rhoi canllawiau a chyngor cenedlaethol i arweinwyr polisi, yn arwain gwaith gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd ac yn gweithio gyda phartneriaid i arwain a chydlynu'r camau gweithredu sydd eu hangen i reoli brigiadau o achosion iechyd y cyhoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau amgylcheddol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwasanaethau acíwt i ymateb i hysbysiadau am achosion a digwyddiadau trosglwyddadwy ac amgylcheddol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael hysbysiadau am amrywiaeth o glefydau trosglwyddadwy (heb fod yn gyfyngedig i'r rhestr o glefydau hysbysadwy yn y statud) a sefyllfaoedd o bryder i iechyd y cyhoedd, ac yn cynnal yr ymchwiliad a'r gwaith rheoli mewn ymateb iddynt, ynghyd ag awdurdodau lleol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig arbenigedd gwyddonol, technegol, epidemiolegol, diogelu iechyd arbenigol, iechyd y cyhoedd a chlinigol (microbioleg a firoleg) mewn sawl cyfarfod partneriaeth a fforwm). Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn aelod gweithredol o amrywiaeth eang o grwpiau technegol, arbenigol a digwyddiadau ledled y DU, fel HAIRS (Gwyliadwriaeth Risg a Heintiau Anifail a Phobl) a Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus y DU ar gyfer Milheintiau. Felly, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rôl arweinydd system hanfodol wrth gyfleu risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg ac sy'n datblygu, ynghyd ag arferion da, o'r grwpiau hyn i Lywodraeth Cymru a phartneriaid system eraill, fel y gellir ystyried gwersi priodol a ddysgwyd ar draws y system, gwelliannau a mesurau lliniaru a'u rhoi ar waith.
Byrddau iechyd
Sefydliadau'r GIG sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau clinigol i ddiwallu anghenion iechyd a llesiant eu poblogaethau lleol. Mae byrddau iechyd yn asesu ac yn trin cleifion sydd wedi dod i gysylltiad â pheryglon trosglwyddadwy ac amgylcheddol yn glinigol ac yn atal salwch drwy roi brechiadau a phroffylacsis. Mae Byrddau Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau lleol i gyfrannu at brosesau parodrwydd, atal, ymateb ac adfer cenedlaethol a rhanbarthol (ôl-troed byrddau iechyd).
Gwasanaethau meddygon teulu
Darparwyr annibynnol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau clinigol i ddiwallu anghenion iechyd a llesiant eu poblogaethau lleol. Mae gwasanaethau meddygon teulu yn asesu ac yn trin cleifion sydd wedi dod i gysylltiad â pheryglon trosglwyddadwy ac amgylcheddol yn glinigol ac yn atal salwch drwy roi brechiadau a phroffylacsis.
Awdurdodau lleol
Mae awdurdodau lleol yn ymchwilio i beryglon iechyd ac yn eu rheoli, gan gynnwys:
- heintiau hysbysadwy
- gwenwyn bwyd
- milheintiau ac iechyd anifeiliaid
- digwyddiadau amgylcheddol
- digwyddiadau sy'n ymwneud ag yfed dŵr
Mae ganddynt ymatebion statudol sy'n gysylltiedig â rheoli brigiadau o achosion a pheryglon, gan gynnwys:
- ymchwilio
- rheoli
- gwahardd unigolion o'r gwaith neu o leoliadau eraill
- atafaelu, darganfod a gwahardd cyfarpar a bwydydd
- cau safleoedd
Mae awdurdodau lleol hefyd yn ymgymryd â gweithgarwch gorfodi mewn perthynas â diogelu'r cyhoedd ar amrywiaeth o safleoedd, gan gynnwys:
- pwerau mynediad
- cau safleoedd
- arolygiadau
- asesiadau risg
- cyflwyno hysbysiadau
- sancsiynau sifil
Ymysg y partneriaid allweddol eraill mae'r canlynol:
- Mae gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) gylch gwaith yng Nghymru mewn perthynas â rhai materion sydd wedi'u neilltuo i Lywodraeth y DU (er enghraifft ymbelydredd, meddyginiaethau, prosesau asesu risg i ddiogelwch cenedlaethol, a diogelu iechyd byd-eang). Mae UKHSA hefyd yn gweithredu fel cynghorydd arbenigol y DU ar asesiadau risg cemegol, ymbelydredd a niwclear a rheoli iechyd y cyhoedd.
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw un o adrannau annibynnol y llywodraeth sy'n gweithredu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae'n gyfrifol am y systemau sy'n rheoleiddio busnesau bwyd ac mae'n cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod bwyd yn aros yn ddiogel ac yn rhoi canllawiau i esbonio'r rheoliadau a sut y gellir eu cymhwyso at fusnesau bwyd. Mae cyfrifoldebau yn y meysydd polisi canlynol wedi'u datganoli i Gymru:
- diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant
- labelu a safonau cyfansoddol bwyd
- honiadau, safonau a labelu maeth ac iechyd (Llywodraeth Cymru)
- Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn asiantaeth weithredol a noddir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithio i ddiogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr amgylchedd a'r economi.
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n gyfrifol am ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru, ond mae gennym gyfrifoldebau hefyd i wella llesiant. Mae CNC yn rheoleiddio busnesau ac yn rhoi cyngor a chanllawiau i leihau eu heffaith ar iechyd pobl. Mae CNC hefyd yn ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol, er enghraifft llygredd aer, clefydau coed a llifogydd.
- Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn awdurdod gorfodi sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gwaith ym Mhrydain Fawr. Mae'n rheoleiddio iechyd a diogelwch mewn amrywiaeth o sectorau a diwydiannau, gan gynnwys safleoedd peryglon mawr. Mae Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi) 1998 yn dyrannu gweithgareddau yn y gweithle i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu ALlau at ddibenion gorfodi deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
- Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Mae AGIC yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd i'w gwella.
- Mae gan Bartneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru (NWSSP) ddyletswyddau gweithredol i storio, dosbarthu a rheoli cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol a brechiadau.
Troednodiadau
[1] Mae'r diffiniad gweithredol o iechyd cyhoeddus amgylcheddol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu pob cam gweithredu i leihau cysylltiadau â pheryglon amgylcheddol a salwch sy'n deillio o hynny a chefnogi'r broses o greu amgylcheddau a chymunedau iach, teg a chynaliadwy.
[2] Mae clefydau trosglwyddadwy yn:
an illness due to a specific infectious agent or its toxic products that arises through transmission of that agent or its products from an infected person, animal, or inanimate reservoir to a susceptible host. Transmission may be direct from person to person, or indirect through an intermediate plant or animal host, vector, or the inanimate environment.
Heymann DL, golygydd. Control of communicable diseases manual. 19eg arg. Washington, DC: American Public Health Association; 2008.
[3] Mae'r Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio Iechyd Cyfunol fel:
an integrated, unifying approach that aims to sustainably balance and optimize the health of people, animals and ecosystems.
