Adolygiad gwerth Cymdeithasol Llywodraeth Cymru: adroddiad cryno
Adroddiad cryno gan Cwmpas yn mapio'r maes gwerth cymdeithasol presennol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Fel y gwyddom eisoes, term eang yw 'gwerth cymdeithasol' a ddefnyddiwyd i ddisgrifio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd y camau a gymerwyd gan gymunedau, sefydliadau, llywodraethau ac unigolion. Mae caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn un o nifer o ddulliau pwerus sydd â'r gallu i sicrhau canlyniadau gwerth cymdeithasol er lles Cymru.
Ym mis Rhagfyr 2021, comisiynwyd CWMPAS i ymgysylltu â'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gynnal ymarfer mapio gyda'r diben o adolygu'r maes gwerth cymdeithasol yng Nghymru a darparu cyfres o argymhellion ar gyfer bwrw ymlaen â'r naratif a gweithredu gwerth cymdeithasol yn ymarferol o fewn cyd-destun Cymreig.
Er bod yr adroddiad cryno hwn yn cydnabod bod dryswch ynghylch ystyr gwerth cymdeithasol yng Nghymru, gan arwain at ddefnyddio dulliau anghyson o sicrhau gwerth cymdeithasol, a hynny o fewn caffael ac ar lefel sefydliadol, mae’r adroddiad yn darparu dull clir o ddatrys yr anghysonderau.
Canfuwyd bod angen edrych ar werth cymdeithasol, yng Nghymru, drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (y Ddeddf Llesiant), gan hefyd gydnabod bod angen cydredeg ag unrhyw gyfeiriad yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â Diwygio Caffael a'r Biliau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.
Er mwyn sicrhau dull cyson o ymgorffori gwerth cymdeithasol, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r arweiniad sydd ei angen i gyflawni’r argymhellion y manylir arnynt yn yr adroddiad hwn, gan weithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i lywio ateb hirdymor ar gyfer cyflawni canlyniadau llesiant yng Nghymru.
Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod llinyn clir o'r Ddeddf Llesiant yn rhedeg drwy'r cylch bywyd caffael; o rag-gynllunio i werthuso ac adrodd. Fodd bynnag, pwysig yw nodi nad caffael yn unig sy'n gyfrifol am werth cymdeithasol; mae angen ystyried gwerth cymdeithasol yn gyfannol o fewn sefydliadau, gydag Uwch Arweinwyr yn ymrwymo iddo.
Wrth symud ymlaen gwyddom fod cydweithwyr yn y sector cyhoeddus am weld cysondeb o ran dull gweithredu, mesur ac adrodd ar werth cymdeithasol.
John Coyne
Cyfarwyddwr, Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru
Cyflwyniad
Comisiynwyd Cwmpas (sef Canolfan Cydweithredol Cymru gynt) gan y Cyfarwyddwr Masnachol a Chaffael o fewn Llywodraeth Cymru i fapio'r maes gwerth cymdeithasol presennol yng Nghymru.
Cydnabuwyd bod 'gwerth cymdeithasol' yn derm eang a ddefnyddiwyd i ddisgrifio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd y camau a gymerwyd gan gymunedau, sefydliadau, llywodraethau ac unigolion. Mae caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn un o nifer o ddulliau pwerus sydd â'r gallu i gyflawni canlyniadau gwerth cymdeithasol er lles Cymru; gwyddom fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £7 biliwn bob blwyddyn yn caffael amrywiaeth o nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae hyn bron i draean o gyfanswm gwariant blynyddol datganoledig Cymru, ac amcangyfrifir y bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwario dros £70 biliwn dros y degawd nesaf.
Methodoleg
Amlinellodd Llywodraeth Cymru restr o gyfranogwyr yr oedd am iddynt gymryd rhan yn yr ymchwil. Yn dilyn e-bost gan y Cyfarwyddwr Masnachol a Chaffael, yn esbonio'r rheswm dros y gwaith a chwmpas y gwaith, cysylltodd Cwmpas â'r unigolion a threfnwyd cyfweliadau rhithwir.
Cytunwyd ar y cwestiynau cyfweliad lled-strwythuredig gyda Llywodraeth Cymru a chynhaliwyd y cyfweliadau rhwng diwedd mis Ionawr a mis Mawrth 2022. Cyfwelwyd â chyfanswm o 36 o bobl o 18 o wahanol sefydliadau, gan gynnwys nifer o Adrannau Llywodraeth Cymru.
Cafodd y rhan fwyaf o'r cyfweliadau eu recordio ar ffurf sain a defnyddiwyd dyfyniadau dienw i ddangos y materion a nodwyd.
Canfyddiadau
Cafwyd dau ganfyddiad amlwg o'r cyfweliadau. Y cyntaf oedd bod y rhan fwyaf o'r cyfweleion o'r farn bod y darlun cyffredinol o werth cymdeithasol yng Nghymru yn ddryslyd, gyda diffyg consensws ynglŷn â'r hyn y mae gwerth cymdeithasol yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae'n ymddangos bod dryswch ar wahanol lefelau:
- Ystyr gyffredinol gwerth cymdeithasol, o fewn cyd-destun Cymreig.
- Sut i roi gwerth cymdeithasol ar waith; o fewn caffael ac ar lefel strategol.
Mae'r dyfyniadau canlynol yn dangos y darlun dryslyd:
Mae gan lawer o bobl wahanol ganfyddiadau ac mae ganddyn nhw wahanol ganfyddiadau am sut maen nhw'n ei fesur. Bydd yn ein helpu'n gyffredinol pe bai pawb yn gwneud yr un peth.
Am wn i, nid oes dull unedig yn cael ei weithredu a'i ystyried ar hyn o bryd ac mae hynny'n arwain at ddryswch.
Ble mae'r dull cyson y byddwn yn ei ddefnyddio i Gymru? Nid oes metrig safonol. Nid oes dull gweithredu safonol nac adroddiadau safonol. Felly, ni allwch gael darlun cydlynol o'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru.
Yr ail fater oedd bod yn rhaid ystyried gwerth cymdeithasol, yng nghyd-destun Cymru, drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (y Ddeddf Llesiant), o ran y saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio. Mae angen i werth cymdeithasol hefyd adlewyrchu canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y Ddeddf. Tynnodd cyfranogwyr sylw at y ffaith bod y gwerth cymdeithasol, fel y'i dehonglwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) 2012, y cyfeirir ati yma fel 'y Ddeddf Gwerth Cymdeithasol', yn ddeddfwriaeth Lloegr yn hytrach na Chymru.
Credai nifer o’r cyfranogwyr fod cyfleoedd i gynnwys canlyniadau diwylliannol yn aml yn cael eu colli, er enghraifft:
Yn bendant, mae tueddiad o fewn contractau caffael bod diwylliant, neu ddimensiwn diwylliannol lles yn cael ei ddiystyru; yr hyn sy'n digwydd yw bod y Ddeddf Gwerth Cymdeithasol yn cael ei mabwysiadu a'r cyfan sy'n cyd-fynd â'r gwerth cymdeithasol hwnnw, ond yn bwysig nid yw hynny'n adlewyrchu'r dimensiwn diwylliannol.
Amlygwyd y themâu canlynol hefyd yn ystod y cyfweliadau.
Diffiniad o werth cymdeithasol
Un o brif gynhyrchion yr ymchwil hon yw bod Llywodraeth Cymru yn ystyried diffiniad o werth cymdeithasol. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr a oeddent eisoes yn diffinio gwerth cymdeithasol o fewn eu sefydliadau, a sut. Gwyddom fod llawer o ddiffiniadau gwahanol o werth cymdeithasol a chyfeiriodd un cyfranogwr at ymchwil a dynnodd sylw at 18 o ddiffiniadau gwahanol.
Mae nifer fach o sefydliadau wedi diffinio gwerth cymdeithasol o fewn eu sefydliadau. Os felly, mae diffiniadau'n cael eu hystyried yn gyffredinol o fewn cyd-destun caffael. Mae rhai sefydliadau'n defnyddio diffiniad Coleg Masnachol y Llywodraeth (2020), fel yr amlinellir yn WPPN 01/20, mae 'Gwerth Cymdeithasol' yn:
derm eang a ddefnyddir i ddisgrifio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y camau a gymerir gan gymunedau, sefydliadau, llywodraethau ac unigolion.
Mae eraill yn defnyddio'r diffiniad o werth cymdeithasol gan Social Value UK:
Mae gwerth cymdeithasol yn ffordd o feddwl am sut mae adnoddau prin yn cael eu dyrannu a'u defnyddio. Mae'n golygu edrych y tu hwnt i bris pob contract unigol ac edrych ar y budd cyfunol i gymuned pan fydd corff cyhoeddus yn dewis dyfarnu contract.
Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o'r sefydliadau y buom yn siarad â hwy wedi diffinio gwerth cymdeithasol ac yn hytrach maent yn disgwyl i Lywodraeth Cymru arwain.
Wrth geisio diffinio gwerth cymdeithasol mewn cyd-destun Cymreig, cytunwyd bod angen i ddiffiniad gael ei gysylltu'n glir â'r Ddeddf Llesiant:
Mae cysylltiad rhwng amcanion llesiant yr awdurdod lleol a sut y gall gwerth cymdeithasol caffael gyfrannu at yr amcanion llesiant hyn. Felly, i mi, o leiaf, pan fyddwn yn edrych ar y diffiniad, mae'n golygu gallu dangos ystyriaeth i'r Ddeddf, gan gyfrannu'n benodol at amcanion llesiant.
Gwerth cymdeithasol a buddion cymunedol
Roedd llawer o sefydliadau fel petaent yn defnyddio'r termau 'gwerth cymdeithasol' 'buddion cymunedol' yn gyfnewidiol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, cydnabuwyd bod buddion cymunedol yn un elfen o'r cysyniad ehangach o werth cymdeithasol; fel yr amlinellir yn WPPN 01/20.
Cafwyd ffrwydrad, bron, o wahanol iaith yn ymwneud â chaffael. Rwy'n credu y bu 'buddion cymunedol' yn eithaf llwyddiannus, rwy'n gwybod ei fod o gwmpas ers cryn dipyn o flynyddoedd, ond bu’n eithaf llwyddiannus o ran sefydliadau'n ei fabwysiadu, ond yn amlwg, roedd yn gyfyngedig iawn o ran canolbwyntio ar gyflogaeth a hyfforddiant yn unig a chredaf fod pobl yn cydnabod bod angen i'r dull gweithredu fod yn llawer ehangach.
Roedd Cymru ar flaen y gad gyda'r model buddion cymunedol. Fe’i beirniadwyd am na chafodd ei adnoddu. Ni chafodd ei ddatblygu. Safodd yn ei unfan ac ni ddigwyddodd dim. Ac yna mae amser yn symud yn ei flaen, ac mae pobl yn arwain ac yn dweud, wel, mae hwn yn beth sgleiniog llawer gwell o'r enw gwerth cymdeithasol; Gadewch i ni ddilyn y ffasiwn hwn.
Roedd cyfranogwyr hefyd yn teimlo bod angen mynd i'r afael â gwerth cymdeithasol a'i ymgorffori ar lefel strategol:
Rydym yn osgoi defnyddio'r geiriau 'buddion cymunedol' yn llwyr oherwydd defnyddir buddion cymunedol ar lefel weithredol, ond mewn gwirionedd mae gwerth cymdeithasol yn llawer ehangach na hynny. Ac mewn gwirionedd, mae gwerth cymdeithasol yn ymwneud â gwneud penderfyniadau strategol. Mae'n ymwneud â dylanwadu, mae'n ymwneud â llawer mwy na dim ond cyflawni ar lawr gwlad. Mae'n golygu ei wneud yn rhan o bopeth a wnawn a phwy ydym ni, a pham rydym yn ei wneud.
Yn ddiddorol, cwestiynodd un cyfranogwr y term 'gwerth cymdeithasol' ac awgrymodd, yng nghyd-destun Cymru, gyda'r cysylltiadau clir â'r Ddeddf Llesiant, y dylai'r term fod; 'buddion llesiant', 'gwerthoedd llesiant' neu 'ganlyniadau llesiant'.
Ystyr gwerth cymdeithasol i sefydliadau
Gofynnwyd i'r cyfweleion am ystyr gwerth cymdeithasol i'w sefydliadau. Unwaith eto, roedd yn amlwg bod y rhan fwyaf o sefydliadau, yn enwedig y rhai o'r sector cyhoeddus, mewn cyfnodau gwahanol iawn o ran gweithredu gwerth cymdeithasol. I'r rhai a oedd wrthi'n ymgorffori neu wedi ymgorffori gwerth cymdeithasol o fewn prosesau caffael a pholisïau ehangach, roedd pwyslais ar y gwerth y gellid ei gydnabod ar gyfer cymunedau lleol, wedi'i lywio gan flaenoriaethau a lle lleol.
Mae gwerth cymdeithasol yn ymwneud â’r ffordd y gall sefydliadau ddangos eu bod yn gwario arian cyhoeddus, ond, dylai gwerth cymdeithasol fod yn ffordd iddynt allu dangos beth yw'r buddion ehangach a'r canlyniadau ehangach hynny y gallant eu cyflawni mewn gwirionedd drwy wario'r arian hwn... mae'n ymwneud â'r gwerth, y gwerth ehangach y gallai ac y dylai caffael fod yn arwain ato.
Gallwn dreulio llawer o amser yn dadlau am ddiffiniadau ond, mewn gwirionedd, y cyfan sydd angen inni ei wneud yw sicrhau gwerth cymdeithasol. Yr hyn a'm trawodd am werth cymdeithasol ar y dechrau, yw ei fod yn rhywbeth go iawn, yn werth go iawn. Mae'n werth ychwanegol go iawn. Nid sôn am fesur rhywbeth sydd yno'n barod yn unig mohonom, na rhywbeth yr oeddem yn mynd i'w gael beth bynnag. Rydyn ni'n sôn am newid pethau, newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, newid y mathau o gynhyrchion rydyn ni'n eu prynu, a newid hynny mewn ffordd sy'n well i genedl Cymru.
Gwerth cymdeithasol a chaffael
Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil hon yn gweithio o fewn timau caffael ac yn ystyried bod canfyddiadau cychwynnol o werth cymdeithasol yn swyddogaeth gaffael. Mae sefydliadau bellach yn cydnabod bod gwerth cymdeithasol yn derm ehangach gyda chylch gwaith llawer ehangach a bod angen ei ymgorffori ym mhob rhan o'r sefydliad. Mae hyn yn cael ei gydnabod, ond mae’n ddyddiau cynnar o hyd ar lawer o sefydliadau o ran datblygu eu dull o ymdrin â gwerth cymdeithasol ar lefel sefydliadol ac o fewn eu swyddogaeth gaffael.
Dydw i ddim yn credu ei fod yn gyd-ddigwyddiad, pan fyddwn yn siarad am werth cymdeithasol, ein bod yn tueddu i wneud hynny mewn cyd-destun caffael. Mae'r ddau beth fel petaent wedi’u plethu'n dynn iawn. Sydd bron yn gwneud gwerth cymdeithasol yn broblem gaffael.
Er mwyn defnyddio gwerth cymdeithasol o fewn caffael, roedd rhai sefydliadau wedi datblygu prosesau i gomisiynwyr a phrynwyr ddechrau meddwl am werth cymdeithasol cyn gynted â phosibl o fewn y broses cynllunio caffael. Tynnodd cyfranogwyr sylw at y ffaith bod angen ymdrech ac adnoddau i ymgorffori gwerth cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth yn ogystal â chymorth i staff sy'n caffael nwyddau a gwasanaethau. Mae angen i brosesau fod ar waith er mwyn i staff sy'n caffael nwyddau a gwasanaethau ymgynghori a chynllunio'r broses gaffael, cyn gynted â phosibl, gan ystyried gwerth cymdeithasol.
Mae'n ymwneud â chynllunio'r broses a pha werth cymdeithasol rydym am ei gyflawni ohoni. Fel comisiynwyr, cawn ein rhoi wrth wraidd hynny ac mae gwir angen i ni ddeall pwy yw ein rhanddeiliaid, pwy yw ein cymunedau, gan fynd yn ddyfnach i wraidd hynny a chreu ein gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac yna cynnwys pob cyflenwr drwy gaffael ac wedi hynny hefyd.
Ymgysylltu â chymunedau
Pwysleisiodd llawer o'r cyfweleion fod angen ymgysylltu â chymunedau i sicrhau'r buddion mwyaf posibl.
Yr hyn a olygwn wrth werth cymdeithasol, oherwydd fel awdurdodau contractio, y perygl yw ein bod yn ceisio deall ymlaen llaw beth yw ystyr gwerth cymdeithasol a beth mae ar gymunedau ei angen heb ymgysylltu â hwy mewn gwirionedd. Gallem ddweud ein bod yn mynd i greu 15 prentisiaeth yn y contract hwn, ond mewn gwirionedd nid prentisiaethau yw'r flaenoriaeth i gymuned benodol, nid yw'n briodol.
Cydnabuwyd hefyd y byddai llawer o gyrff yn y sector cyhoeddus yn hoffi gweld ymgysylltu â'r gymuned yn rhan o brosesau caffael. Teimlai un cyfranogwr hefyd y dylid ystyried ymgysylltu â chymunedau ar ôl i'r contract gael ei gyflenwi er mwyn dirnad sut yr oedd y gwerthoedd cymdeithasol hynny a fesurwyd wedi effeithio ar y buddiolwyr canfyddedig.
Gwerth cymdeithasol o fewn contractau
O'r sefydliadau y buom yn siarad â hwy, a oedd yn cynnwys gwerth cymdeithasol neu fuddion cymunedol o fewn tendrau, roedd bron pob un ohonynt yn sgorio'r elfennau hyn. Roedd y pwysiad yn amrywio rhwng 10% a 15%. Roedd y dulliau gwerthuso hefyd yn wahanol. Roedd rhai yn defnyddio systemau meddalwedd, roedd rhai wedi datblygu matricsau gwerthuso ac roedd rhai yn defnyddio asesiadau goddrychol.
Mesur
Mae rhai awdurdodau lleol wedi datblygu eu systemau mesur pwrpasol eu hunain, gan ddefnyddio caffael agored, wedi'u hategu gan wybodaeth, sgiliau ac adnoddau mewnol. Mae gweithredu system newydd yn cymryd amser ac ymdrech. Er enghraifft, esboniodd un ymatebydd fod y broses hon wedi cymryd dros ddwy flynedd. Fodd bynnag, roedd y system sydd bellach ar waith yn bodloni eu gofynion a gellid ei defnyddio ar gyfer mesur ansoddol a meintiol, yn seiliedig ar eu fframwaith gwerth cymdeithasol eu hunain.
Roedd ymatebwyr o'r farn bod ffocws ar fesurau cyllidol o ran sut y maent yn mesur gwerth cymdeithasol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddent yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu dulliau adrodd ansoddol i ddarparu darlun mwy cyflawn.
I mi, mae yna fesurau meintiol pur. Rwy'n gwybod pam mae pobl yn dibynnu arnynt am fod gennych yma fesur gwrthrychol, ond nid yw bob amser yn dweud y stori mewn gwirionedd, nid yw'n dangos canlyniadau a gallwch daro mesurau meintiol heb wneud llawer o wahaniaeth mewn gwirionedd; gallant ddod bron yn gymhelliant gwrthnysig.
Themâu, mesurau a chanlyniadau Cymru
Roedd pryderon amlwg ynglŷn â themâu, mesurau a chanlyniadau Cymru, gyda llawer o ymatebwyr yn teimlo eu bod yn rhy gysylltiedig â phartner masnachol.
Roeddem o'r farn y byddai pawb yn defnyddio'r dull hwn ac yn troi cefn ar y buddion cymunedol yn raddol ac yn canolbwyntio ar y themâu, mesurau a chanlyniadau, ac ni fu hynny’n digwydd. Yn bendant, bu llawer o anghysondeb oherwydd ei weithredu.
Yr hyn sydd wedi fy mhoeni i yw bod pobl mor awyddus i gael ateb am werth cymdeithasol, i'w helpu gyda'u swyddi o ddydd i ddydd a’r hyn a gawsom yn y pen draw yw’r model masnachol hwn.
“…mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng themâu, mesurau a chanlyniadau cenedlaethol Cymru a'r Porth Gwerth Cymdeithasol.
Beirniadwyd gwerthiant caled y Porth Gwerth Cymdeithasol yn llym.
Roedd beirniadaeth ynghylch y Pecyn Cymorth Buddion Cymunedol o ran bod yn daenlen glogyrnog. Ac, os defnyddir y themâu, mesurau a chanlyniadau fel taenlen, nid yw'n lleihau unrhyw un o'r beirniadaethau, rwy'n credu, am y Pecyn Cymorth Buddion Cymunedol. Cafwyd dull cymysg o'u rhoi ar waith.
Nid wyf yn credu y dylid erioed fod wedi cael y sefyllfa lle'r oedd gennym y berthynas a ddatblygodd i'r fath raddau heb unrhyw rwymedigaethau cytundebol heb unrhyw fath o sgwrs am hawliau eiddo deallusol. Mae'r sector cyhoeddus wedi rhoi ei amser a'i ymdrech yn rhydd i rywbeth sydd bellach yn gynnyrch masnachol hyfyw i ddarparwr masnachol.
Mae'r dyfyniad uchod yn tynnu sylw at y ffaith y treuliwyd llawer o amser ac ymdrech i lunio themâu, mesurau a chanlyniadau Cymru, gan amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys CLlLC a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Mae rhai awdurdodau lleol yn treialu'r themâu, mesurau a chanlyniadau ac mae'n ymddangos bod y dull hwn yn gweithio'n foddhaol mewn nifer o feysydd caffael. Roedd un sefydliad yn defnyddio'r daenlen themâu, mesurau a chanlyniadau. Cododd un cyfwelai'r pwynt am gynnal a chadw'r themâu, mesurau a chanlyniadau:
yddwn yn pryderu sut ydych chi'n gwybod bod y metrigau hynny'n cael eu cynnal a'u bod yn cael eu monitro a'u bod yn gywir? Ac maent yn cael eu cynnal ar ryw fath o sail dreigl, bob tro y bydd y gyfradd chwyddiant yn newid am rywbeth, pa bryd bynnag y bydd yr ystadegau'n newid yn y pen draw y dylid mesur hynny? Pwy sy'n gwneud hynny? Maen nhw'n dweud wrthym eu bod yn ei wneud am ddim, ac maen nhw'n ei wneud fel rhan o'r prosiect hwn, ond pwy sy'n gwirio?
Amlygodd cyfranogwr arall:
Rwy'n credu ei bod yn wych cael y set genedlaethol hon o fesuriadau. Ond, gallwch bron â gweld pawb yn ei gwanhau. Nawr mae pawb yn ei newid. Felly, mewn gwirionedd, mae'n edrych yn hollol wahanol.
Mae’n debyg hefyd fod consensws nad yw'r dull themâu, mesurau a chanlyniadau yn gweithio ym mhob lleoliad caffael, a gofal cymdeithasol yw'r maes sy'n peri'r pryder mwyaf. Cododd gweithwyr caffael proffesiynol awdurdodau lleol sy'n gweithio yn y maes hwn y dulliau a amlinellwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac, yn benodol, Adran 16 sy'n ymwneud â modelau cyflenwi gwerth cymdeithasol; gyda'r modelau hyn yn meddu ar ystyr ac ymagwedd wahanol at werth cymdeithasol yn ei ystyr gaffael fwy cyffredinol.
Dull cyfannol
Mae nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi ymgorffori gwerth cymdeithasol yn eu strategaethau, eu polisïau a'u swyddogaethau caffael a allai ddwyn buddion y dull hwn.
Mae gwerth cymdeithasol yn rhoi mwy o sbardun i ni, mae'n debyg, yn rhannol bod yn rhaid i ni wneud hyn ar draws y sefydliad waeth beth fo'r ddeddfwriaeth, oherwydd ymrwymiad a brwdfrydedd yr uwch reolwyr dros hyn; bu ar draws y sefydliad cyfan yn wir o ran, yn syml, dyma beth a wnawn bob dydd. Bu mor wych ei weld oherwydd mewn gwirionedd, mae newid diwylliannol fel arfer mor araf yn datblygu, ond a dweud y gwir, bu’n gyflym iawn.
…weithiau cyfeirir at gaffael o hyd fel math o swyddogaeth ystafell gefn ond gan ei gwneud yn glir iawn yr effaith y mae canlyniadau caffael yn ei chael ar gymuned. Ac efallai bod hynny'n gofyn am ychydig mwy o feddwl mwy arloesol weithiau neu ychydig mwy o gynllunio meddwl a hefyd mae cael caffael ar lefel strategol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran effaith.
Mae ein hamcanion corfforaethol yn newid. Rydym wedi ymrwymo ar yr adeg iawn, rydym wedi ymgynghori â'r tîm sy'n delio â'r strategaeth gorfforaethol ac yn dweud mai dyma'r pethau y credwn sydd angen eu cynnwys am werth cymdeithasol. Rydym wedi cynnwys ein tîm cynaliadwyedd hefyd. Felly, mae pawb wedi ymrwymo, gan sicrhau bod gwerth cymdeithasol yn cydredeg â'n gwerthoedd a'n hamcanion corfforaethol.
O'r awdurdodau lleol a oedd wedi ysgrifennu strategaethau gwerth cymdeithasol, tynnwyd sylw at y meysydd canlynol:
- Datgarboneiddio a bodloni amodau Sero Net
- Buddion cymunedol, diweithdra hirdymor a phrentisiaethau
- Cyflogaeth foesegol
- Gwaith Teg
- Busnes lleol a'r economi genedlaethol
- Ymrwymiad cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi
- Adeiladu Cyfoeth Cymunedol
- Economi sylfaenol
- Economi gylchol
- Cysylltiadau â blaenoriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, cysylltiadau â blaenoriaethau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau'r cyngor.
Cydnabuwyd hefyd, er mwyn cael sefydliadau i 'ymrwymo' i werth cymdeithasol, fod angen i bolisïau a gweithdrefnau ehangach gael eu hategu gan addysg a hyfforddiant.
Effaith ar gyflenwyr
Mae'r gwahanol ddulliau o ymdrin â gwerth cymdeithasol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael effaith ar gyflenwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig lleol. Hefyd, mae goblygiadau cost i gyflenwyr yn aml os oes rhaid iddynt brynu meddalwedd mesur.
Y cwynion a gewch yn ôl gan gyflenwyr yw'r diffyg cysondeb yn y dulliau gweithredu. 'Rwy'n byw yng Nghyngor A gallech gael Cyngor A yn gwneud un peth a Chyngor B, 10 milltir i lawr y ffordd yn gwneud rhywbeth hollol wahanol' ac mae gennych gyflenwr sy'n gweithio yn y ddau yn gorfod gwneud dau beth gwahanol. Felly, mae diffyg meddwl cydgysylltiedig.
Un peth sydd gen i yn erbyn y Porth Gwerth Cymdeithasol mewn gwirionedd yw bod cyflenwyr yn mynd i orfod talu amdano. Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd buddugol dalu ffi ac nid ydym am ddieithrio busnesau bach a chanolig yn fwy byth o ran cael cosbau ariannol a biwrocratiaeth ar waith. Gwn y gallent fod wedi ennill y contract, ond i ni, mae ein contractau'n weddol isel eu gwerth o'u cymharu â’r awdurdod lleol. Felly hyd yn oed os oes rhaid iddynt dalu ychydig gannoedd o bunnoedd, byddai'n ormod i rai busnesau bach a chanolig lleol.
Ystyriwyd hefyd nad oes gan lawer o fusnesau bach a chanolig y sgiliau sydd eu hangen i gwblhau elfennau gwerth cymdeithasol y dogfennau tendro:
Rwy'n credu mai'r ffactor allweddol yn hyn oll, yw nad oes diben i bob awdurdod lleol roi tendrau gyda'r themâu, mesurau a chanlyniadau a mesurau gwerth cymdeithasol ynddynt os nad all y marchnadoedd ymateb iddo.
Rydym yn gwneud gwerth cymdeithasol yn syml er mwyn gallu denu ein cwmnïau lleol a'n cyflenwyr lleol i ymgysylltu oherwydd gwelsom fod llawer o'n cyflenwyr lleol, pan fyddant yn gweld dull rhy gymhleth, yn peidio ag ymgeisio.
Er mwyn caffael cyflenwyr lleol, roedd un sefydliad sector cyhoeddus sy'n gweithio ar draws nifer o wahanol siroedd yn bwriadu datblygu fframweithiau unigol fesul arbenigedd masnach, megis trydanwyr, peintwyr ac ati. Byddai'r gwahanol lotiau'n destun tendr ar lefel sirol a dim ond mewn un sir y gallai busnesau wneud cais am y tendr. Roeddent o'r farn y gallai hyn fod yn lasbrint ar gyfer y dyfodol.
Adnoddau
Roedd yn amlwg bod llawer o dimau caffael wedi colli aelodau o staff, yn enwedig ar lefel uwch, a bod hyn yn effeithio ar weithredu dulliau gwerth cymdeithasol o fewn caffael:
Os ystyriwn y maes caffael proffesiynol yng Nghymru o safbwynt 20 mlynedd, pan fydd cyfarwyddwyr caffael wedi symud ymlaen neu wedi ymddeol, nid ydynt wedi cael eu disodli [yn uniongyrchol]. Felly, cymerwyd eu lle gan lefel is yn y sefydliad, ac yna maent wedi’u gosod yn ail yn y sefydliad i gyfarwyddwyr cyllid ac yn DNA cyfarwyddwyr cyllid, maent bob amser yn chwilio am arbedion cost. Maent yn fframio caffael fel ymarfer arbed costau, yn hytrach nag ymarfer creu gwerth ac mae hynny'n mynd yn syth i ddiwylliant DNA dwfn sefydliadau.
Mae llawer o adrannau caffael yn fach iawn, maent yn cael trafferth cadw eu pen uwchben dŵr yn y math hwn o dendr ailadroddus ac maent yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain yn cyflwyno llwythi o bolisïau ac amcanion newydd.
Bu nifer fach o gyrff yn y sector cyhoeddus yn gallu dyrannu adnoddau i werth cymdeithasol, yn enwedig swyddi swyddogion gwerth cymdeithasol a swyddi rheoli contractau. Lle mae hyn wedi digwydd, roedd fel petai o fudd sylweddol i weithredu gwerth cymdeithasol o fewn caffael, rheoli contractau a'r sefydliad ehangach.
Arfer da a rhannu
Hoffai'r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr gael y cyfle i rannu a dysgu o arfer da:
Rwy'n credu bod adolygiad Sophie Howe yn cyfeirio at hynny i raddau drwy ddweud ein bod wedi cael y buddion cymunedol hyn ac na fu neb yn rhannu'r arfer da nac yn siarad am neb. Mae fel twll tywyll.
Rydym fel petaem yn methu dod o hyd i bobl sy’n fodlon rhannu'r hyn maen nhw wedi'i wneud. Rwy'n credu bod rhywfaint o hynny'n deillio o'r ffaith bod pawb ar siwrnai ar hyn o bryd, mae pawb fel petai’n dal i fod yn yr un sefyllfa â ni ac nid oes neb am wneud ymrwymiadau go iawn.
Rôl Llywodraeth Cymru
Mae cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru am i Lywodraeth Cymru gymryd perchnogaeth ar werth cymdeithasol. Mae llawer yn teimlo bod y diffyg arweinyddiaeth, yn enwedig yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi arwain at y darlun dryslyd a geir bellach, a bod datblygu themâu, mesurau a chanlyniadau Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y dryswch hwn.
Fy neges i Lywodraeth Cymru yw y dylech fod wedi gwneud hyn i gyd yn fewnol. Mae gennych yr holl arbenigedd, mae gennych yr holl wybodaeth yn ddigidol, dylech fod yn cadw eich data eich hun, ni ddylech fod yn ei roi ar gontract allanol i rywun arall, ac yn adeiladu eu gwybodaeth fusnes hwy.
Nid oes unrhyw arweinyddiaeth wleidyddol yn y tîm caffael i fynd ar drywydd gwerth cymdeithasol.
Mae hynny’n peri gofid, rwy'n meddwl, a dyna lle mae angen i Lywodraeth Cymru gael ei deffro gan fod y rhain yn weithwyr caffael proffesiynol profiadol, hyfforddedig, ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd.
Cyd-destun ehangach
Wrth ystyried sut i symud ymlaen mae angen ystyried yr amgylchedd deddfwriaethol a pholisi ehangach hefyd, gan gynnwys:
- Diwygio Caffael
- Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru); gyda phwyslais ar gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol a gwaith teg
- Dyletswydd economaidd-gymdeithasol
- Cytundeb Cydweithredu 2021 a'r Rhaglen Lywodraethu wedi'i diweddaru, sy'n hyrwyddo prynu cynnyrch a gwasanaethau a wnaed yng Nghymru.
- Datganiad Polisi Caffael Cymru
- Cynllun Gweithredu Datganiad Polisi Caffael Cymru; uwchlaw popeth, y camau gweithredu a nodir yn egwyddorion 1,3,7 a 10
- Dulliau’r Economi Sylfaenol a'r Economi Llesiant.
Nododd un cyfranogwr:
Mae'n debyg os edrychwch ar rai o'r mentrau polisi yr ydym wedi'u datblygu dros y blynyddoedd, mae llawer o'r gwaith yn cysylltu â'r economi sylfaenol, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Nod pob un o'r ffactorau polisi hyn yw sicrhau ein bod yn credu bod y bunt Gymreig yn aros yng Nghymru, ac rydym yn sicrhau'r gwerth gorau posibl i'n cymunedau.
Ac felly, rwy'n credu bod llawer o'n mentrau polisi wir yn cefnogi gwerth cymdeithasol, ond rwy'n meddwl, am nad oes diffiniad clir o beth yw gwerth cymdeithasol a'r hyn y mae'n ei olygu'n ymarferol i awdurdodau contractio ac i gyflenwyr.
Cafwyd nifer o adroddiadau eraill hefyd yn tynnu sylw at werth cymdeithasol mewn cyd-destun caffael, megis:
Caffael llesiant yng Nghymru: Adolygiad o’r modd y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn trwytho caffael yng Nghymru
Caffael yn yr Economi Sylfaenol: Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (Chwefror 2020) (February 2020)
Adeiladu Cyfoeth Cymunedol yng Nghymru (Adroddiadau rhanbarthol amrywiol, Gwanwyn 2022)
Casgliad
Ni ddylai'r canfyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn beri syndod o gwbl ac mae'r ymchwil hon wedi cadarnhau'r 'maes gwerth cymdeithasol' dryslyd a geir yng Nghymru. O ran symud y trafodaethau yn eu blaen, mae cyrff y sector cyhoeddus yn disgwyl i Lywodraeth Cymru roi arweiniad a chyfeiriad clir.
Dylai Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ei nodau a'i chynlluniau mewn perthynas â gwerth cymdeithasol, gan dynnu sylw at amserlenni a cherrig milltir allweddol. Wrth i'r drafodaeth esblygu, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd sicrhau bod grŵp amrywiol o randdeiliaid yn cael eu cynnwys.
Trafodwyd a diwygiwyd yr argymhellion a amlinellir isod yn dilyn dau weithdy gyda nifer cyfyngedig o randdeiliaid allweddol. Roedd y rhanddeiliaid a aeth i’r gweithdai i gyd wedi cymryd rhan yng nghyfnod cyfweliadau'r ymchwil hon.
Argymhellion
1. O safbwynt caffael, dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau ar gyfer dull Cymru gyfan o ymdrin â gwerth cymdeithasol ac adnoddu'r ymrwymiad hwn yn effeithiol.
2. Mae angen diffinio gwerth cymdeithasol yn glir, yng nghyd-destun Cymru. Dylai'r diffiniad hwn gynnwys elfennau cymdeithasol (gan gynnwys gwaith teg), economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
3. Gwerthusodd y cyfranogwyr fod gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru fel sbardun deddfwriaethol yn hytrach na'r Ddeddf Gwerth Cymdeithasol, ac mai drwy’r lens hwn y dylid ystyried gwerth cymdeithasol. Felly, argymhellir y dylid ystyried defnyddio'r termau gwerth/buddion/canlyniadau llesiant yn hytrach na gwerth cymdeithasol, yng Nghymru.
4. Mae angen i'r fethodoleg i fesur gwerth cymdeithasol, yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, fod yn gyson. Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain yn y maes hwn. Yn ymarferol, mae hyn yn debygol o olygu y bydd angen darparu cymorth i sicrhau cymhwyso a mabwysiadu’r fethodoleg yn gyson.
5. Mae angen i'r fformat a'r canllawiau ar gyfer adrodd ar werth cymdeithasol hefyd fod yn gyson ledled Cymru. Dylid ystyried sut y byddai hyn yn ategu neu'n effeithio ar ofynion adrodd eraill, megis y rhai sy'n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Dylid defnyddio dulliau ansoddol a meintiol i fesur ac adrodd ar werth cymdeithasol a dylid datblygu canllawiau i gefnogi adrodd. Mae cyfle i adrodd am werth cymdeithasol yn ganolog a fyddai'n fodd o rannu arfer da, gwerthuso a dysgu.
6. Dylai unrhyw ddull newydd o ymdrin â gwerth cymdeithasol gydredeg â'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) sydd ar y gweill a diwygio caffael. Mae cyfle hefyd i gysoni terminoleg ac adrodd.
7. Mae angen cymorth parhaus i gaffaelwyr, prynwyr a chyflenwyr.
Yn gyffredinol, nid oes gan dimau caffael ddigon o adnoddau, ac mae angen ystyried hyn wrth i'r dull gwerth cymdeithasol ddatblygu.
Mae rheoli contractau yn allweddol i wireddu ac adrodd ar werth cymdeithasol. Mewn llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, nid oes digon o adnoddau ar gael ar gyfer hyn. Mae angen ystyried hyn hefyd wrth i syniadau fynd rhagddynt.
Mae angen sefydlu prosesau i ganiatáu i dimau caffael ddatblygu sgiliau a gallu.
Mae angen sefydlu mecanweithiau hefyd i rannu arfer da. Gellid gwneud hyn drwy gymuned ymarfer neu drwy addasu rhwydweithiau sy'n bodoli eisoes.
Mae angen diweddaru'r farchnad gyflenwyr ac asiantaethau cymorth busnes am y goblygiadau tebygol, yn ogystal ag amserlenni a newidiadau arfaethedig.
Sylwer: ni chyfeiriwyd at rôl y Ganolfan Ragoriaeth Gaffael Genedlaethol arfaethedig, oherwydd ystyriwyd ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd ar drafodaethau am y Ganolfan.
cwmpas.coop
Mae Cwmpas yn gymdeithas gofrestredig o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, rhif 24287 R.
