Mae'r cynlluniau ar gyfer ailosod Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494, rhan allweddol o seilwaith ffyrdd gogledd Cymru, wedi cymryd cam arall ymlaen wrth i'r opsiwn a ffefrir gael ei gyhoeddi.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn edrych ar bum opsiwn posibl. Cadarnhaodd hyn bod cefnogaeth gadarn ar gyfer Opsiwn E, yr opsiwn a berfformiodd orau, ac mae gwaith pellach hefyd wedi'i wneud i fynd i'r afael â rhai o'r sylwadau a wnaed.
Felly, Opsiwn E yw'r opsiwn a ffefrir gan mai dyma'r opsiwn mwyaf fforddiadwy, mae ganddo ôl troed amgylcheddol is a dyma'r un mwyaf ymarferol i'w gyflawni. Bydd yn darparu strwythur sengl newydd ynghyd â darpariaeth lawn ar gyfer teithio llesol ar y bont newydd.
Byddai gwaith ar y rheilffordd yn cael ei leihau, gydag ardal ymyl y briffordd bresennol drwy'r strwythur yn cael ei ailffurfweddu i hwyluso hyd at 3km o lwybrau teithio llesol newydd a gwell.
Mae'r dyluniad cychwynnol, sy'n rhoi ystyriaeth fanylach i'r problemau amgylcheddol a pheirianyddol, yn parhau i gael ei ddatblygu, gan ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad.
Y cam nesaf fydd cyhoeddi Gorchmynion drafft a Datganiad Amgylcheddol a fydd yn rhoi cyfle i randdeiliaid wneud sylwadau, a chefnogi neu wrthwynebu'r cynigion. Bydd hyn yn cael ei drefnu ar gyfer tymor yr Hydref 2025, a bydd arddangosfeydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn lle y bydd swyddogion a thîm y prosiect ar gael i ateb unrhyw ymholiadau.
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ddiwedd 2026 i ddechrau 2027.
Mae angen pont newydd gan fod y gofyn am waith atgyweirio ar y bont bresennol yn cynyddu. Mae'r gwaith archwilio a monitro hyd yn hyn wedi dod i'r casgliad bod amlder atgyweiriadau a'r risg o atgyweirio ac ymyrraeth sylweddol a fyddai'n golygu cau'r bont yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Mae'r opsiwn a ffefrir a nodwyd yn 2019 wedi'i adolygu a chynigir opsiynau cynllun newydd sy'n sicrhau gwell cysondeb â'r polisïau cyfredol gan wella gwerth am arian a gwytnwch ar hyd y coridor strategol bwysig hwn. Blaenoriaeth arall yw lleihau aflonyddwch yn ystod y gwaith adeiladu, cyn belled ag y bo modd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon ac rydym yn symud ymlaen gyda'r cynlluniau ar gyfer ailosod Pont Dyfrdwy ar yr A494. Rwy'n falch heddiw o allu cyhoeddi'r opsiwn a ffefrir, sef yr opsiwn mwyaf cost-effeithiol ac sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf. Gall y cynlluniau nawr symud ymlaen i'r cam nesaf gyda'r bwriad o gyhoeddi'r gorchmynion drafft yn ddiweddarach eleni.
"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar ddyfodol y cyswllt ffordd hanfodol hwn. Ynghyd â'n cynlluniau ar gyfer gwella teithio ar fysiau a threnau yn y rhanbarth, bydd y bont newydd yn cryfhau'r seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru ymhellach."
