Neidio i'r prif gynnwy

Fy enw i yw Graham Black, ac fel aelod o'r Bwrdd, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn bwyd môr. Rwy'n gyfarwyddwr Seafish, ac yn cadeirio Pwyllgor Cynghori Seafish Cymru, sy'n sicrhau bod materion a phryderon Cymru yn cael eu codi a'u clywed ar bob lefel.

Mae gan Gymru arfordir gwych, gyda moroedd hynod gynhyrchiol sy'n cynhyrchu rhai o'r bwydydd môr gorau yn y byd.  Mae'r rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant yma yn flaengar ac yn frwdfrydig, ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i gymunedau arfordirol ledled y wlad.

Does dim amheuaeth, fodd bynnag, bod y diwydiant yng Nghymru yn fach, yn sicr o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU. Mae'r fflyd bysgota yn gyfyngedig, mae swyddi prosesu yn brin ac mae'r drefn gyfathrebu yn gwneud y gadwyn gyflenwi yn anodd. Mae problemau sylweddol wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae pawb sy'n gysylltiedig â'r diwydiant wedi teimlo'r pwysau.

Am y rheswm hwnnw, mae cynrychiolwyr o bob rhan o'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i wella pethau, ac i lunio map ffordd a fydd yn delio â materion ac yn dechrau cynyddu twf yn y sector. 

Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweld sut mae pobl â gwahanol gefndiroedd a phrofiad wedi dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wella, a sut. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ynghlwm wrth yr holl drafodaethau a chynllunio – a bydd yr adroddiad (y dylid ei gwblhau cyn bo hir) yn hwb gwirioneddol, a dylai alluogi'r sector i fynd o nerth i nerth. Mae cymaint o bosibiliadau ynghlwm wrth y moroedd o'n cwmpas felly byddai'n drueni colli'r cyfle hwn.

Un o'r rhesymau pam rwy'n teimlo mor optimistaidd, yw bod gan y fflyd Gymreig gyfran mor uchel o gychod bach. Mae'r rhain wedi'u cysylltu'n agos â'u cymunedau, ac maent yn rhai o'r ffyrdd mwyaf amgylcheddol cynaliadwy o ddal. Rydym yn sicrhau bod pysgota gwell yn mynd law yn llaw â diogelu'r amgylchedd, oherwydd dyma'r peth iawn i'w wneud, ac oherwydd bod hyn yn sicrhau diwydiant hirdymor a moroedd iach: mae cysylltiad annatod rhyngddynt.  

Cryfder mawr arall sydd gennym yma yng Nghymru yw'r cysylltiadau pwerus rhwng diwydiant, y llywodraeth a'n prifysgolion – mae gennym arbenigedd morol mewn sawl lleoliad i ddarparu arweiniad ac i fesur llwyddiant ac effaith gweithgareddau pysgota a dyframaethu.

Mae ymgyrch Seafish ar y gweill ar hyn o bryd – "Seafood for Life", sy'n tynnu sylw at fanteision bwyd môr – o iechyd a chynaliadwyedd, i ôl troed carbon a phrydau hynod bleserus! Cadwch lygad amdano, ond yn bennaf oll, ewch allan i fwynhau rhai o'r cynnyrch gwych Cymreig sydd ar gael – naill ai gartref neu yn un o'r amrywiaeth gynyddol o fwytai ardderchog ledled y wlad. Neu gallwch alw draw yn eich siop pysgod a sglodion agosaf!