Bydd Llywodraeth Cymru unwaith eto’n cefnogi Procurex Cymru 2025, sydd yn dychwelyd i Arena Utilita yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 4 Tachwedd 2025.
Procurex Cymru yw prif ddigwyddiad caffael y genedl ac mae'n gyfle unigryw i brynwyr a chyflenwyr y sector cyhoeddus i rwydweithio â chydweithwyr, gwella sgiliau ac ehangu eu gwybodaeth, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i ddeddfwriaeth a helpu i lunio dyfodol y sector.
I ddarganfod mwy ewch i Procurex Cymru
Gall cynadleddwyr gael mynediad at raglen lawn o sgyrsiau a gweithdai yng Nghynhadledd Caffael Cymru, yn ogystal â phedwar Parth Datblygu Sgiliau pwrpasol. Bydd arddangosfa 2025 yn arddangos ystod o gyflenwyr blaenllaw, gan arddangos atebion gwasanaeth a chynnyrch arloesol sy'n cefnogi gofynion caffael sy’n esblygu yng Nghymru.
Daeth gofynion newydd y Ddeddf Gaffael a Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd i rym ym mis Chwefror eleni, tra bydd mesurau ychwanegol, sy'n benodol i Gymru, yn cael eu cyflwyno yn fuan drwy'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Mae Procurex Cymru yn gyfle perffaith i dimau caffael a chyflenwyr gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a'r hyn maen nhw’n ei olygu i'w sefydliadau.
Mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gyfrifol am wariant blynyddol o dros £10.7 biliwn. Gall cyflenwyr yn Procurex Cymru siarad yn uniongyrchol â phrynwyr unigol, yn ogystal â sefydliadau sy'n gyfrifol am ddatblygu a rheoli llu o gontractau fframwaith cenedlaethol a sectoraidd.
I gofrestru ar gyfer tocynnau i’r diwrnod, ewch i Archebu Nawr - Procurex Cymru 2025
Neu i sicrhau eich stondin yn yr arddangosfa, ewch i Noddi neu arddangos yn Procurex Cymru
