Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o’r rhaglen

Lansiwyd Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) ym mis Ebrill 2022 (i redeg tan 2026 yn wreiddiol) a’i nod oedd darparu hyfforddiant, datblygiad a chymorth cyflogadwyedd unigol i bobl ifanc 16 i 18 oed [troednodyn 1] yr asesir eu bod yn NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ar adeg ymuno â’r rhaglen.

I ddechrau arni roedd TSC+ yn gweithredu drwy system atgyfeirio drwy Cymru’n Gweithio yn unig, ond addaswyd y model i ganiatáu atgyfeiriadau gan y Contractwyr a chan Gydlynwyr Ymgysylltiad a Chynnydd (EPC). Gwnaed hyn er mwyn gwella’r mynediad i’r bobl ifanc hynny sydd ‘anoddaf eu cyrraedd’.

Mae natur a maint rhwystrau cyfranogwyr, ynghyd â’u pellter o addysg neu gyflogaeth, yn sail i ba linyn yn rhaglen TSC+ y cânt eu rhoi ynddo (sef Ymgysylltu, Datblygu neu Gyflogaeth). Gweithredir gwasanaethau TSC+ gan bum Prif Gontractwr ar draws pedair ardal ranbarthol Cymru.

Dull methodolegol

Ym mis Gorffennaf 2022, comisiynwyd Wavehill i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o TSC+, sef yn benodol i:

  • olrhain a chofnodi’r ymgysylltiad, y cofrestru a’r cyfranogi yn y rhaglen
  • cynnal asesiad ar broses a chanlyniadau blynyddol y rhaglen, gan gymharu canlyniadau yn ôl grwpiau nodweddion gwarchodedig a’r iaith Gymraeg
  • sefydlu fframwaith ar gyfer gwerthuso effaith y rhaglen

Mae cam olaf hwn y gwerthusiad yn dadansoddi cynnydd a llwyddiant TSC+ ers ei lansio, gan adeiladu ar ganfyddiadau o’r cam cwmpasu a’r cam interim.

Mae’r gwerthusiad wedi cynnwys yr elfennau canlynol:

  • dadansoddi gwybodaeth reoli’r rhaglen, gan gynnwys set ddata Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a gwybodaeth reoli Contractwyr ar gyfranogwyr ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022 i fis Gorffennaf 2024.
  • cyfweliadau â rhanddeiliaid (yn rhithwir) sef staff Llywodraeth Cymru (n=10); staff Contractwyr ac Is-gontractwyr a oedd yn gysylltiedig â rheoli a chynnal y rhaglen (n=31); a chynrychiolwyr awdurdodau lleol, gan amlaf rôl y Cydlynydd Ymgysylltiad a Chynnydd (n=29) o 17 (o’r 22) o awdurdodau lleol Cymru.
  • gwaith maes â chyfranogwyr (drwy arolwg dros y ffôn) o bedwar o’r pum Prif Gontractwr, sef dau grŵp penodol:
    • arolwg ‘craidd’ i gyfranogwyr presennol a’r rhai a gwblhaodd/‘ymadawodd’ yn ddiweddar ac a oedd wedi cofrestru rhwng 1 Hydref 2023 a 31 Gorffennaf 2024 ac a arhosodd ar y rhaglen tan o leiaf 1 Mai 2024 (n=158)
    • arolwg ‘ar ôl chwe mis’ i gyfranogwyr a gofrestrodd rhwng 1 Hydref 2023 a 1 Ebrill 2024 ac a oedd wedi gadael y rhaglen dros chwe mis yn ôl cyn cymryd rhan yn yr arolwg (sef gadael cyn 1 Mai 2024) (n=62)

Cyfyngiadau methodolegol

Er bod dosbarthiad yr ymatebion i’r arolwg gan mwyaf yn adlewyrchu’r targedau, roedd y rhai a ymatebodd yn llai tebygol o fod wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol nag a adroddwyd yn y data perfformiad cenedlaethol. Gall hyn arwain at ragfarn negyddol yn yr adborth, yn enwedig o ran ychwanegolrwydd y gefnogaeth.

Nid oedd un contractwr wedi’i gynrychioli yn yr ymatebion i’r arolwg gan olygu bod y gynrychiolaeth yn is o ran adborth y rheiny sy’n byw yn y gogledd-ddwyrain.

Nid yw pob awdurdod lleol wedi ymwneud â’r gwerthusiad, a rhai ardaloedd heb gymryd rhan o gwbl yn y camau gwerthuso interim na therfynol. O’r herwydd ni cheir safbwyntiau awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd na Phowys.

Prif ganfyddiadau a chasgliadau

Dyluniad a chyd-destun y rhaglen

Er i TSC+ gael ei lansio yn 2022, fe’i cynlluniwyd rhwng 2019 a 2020 ac, yn hollbwysig, cyn pandemig COVID-19. Gwnaed cyfres o addasiadau mewnol i ddyluniad a chyflwyniad y rhaglen, yn bennaf mewn ymateb i bobl ifanc a oedd ag anghenion mwy difrifol a mwy cymhleth nag y disgwyliwyd ar adeg cynllunio’r rhaglen. Roedd y parodrwydd i addasu’r model cyflenwi yn adlewyrchu’r hyn a ddisgrifiodd Contractwyr fel newid mewn ymagwedd gan Lywodraeth Cymru o’i gymharu â rhaglenni blaenorol, sef newid tuag at fodel partneriaeth lle mae Contractwyr yn cydweithio gyda’i gilydd a bod agwedd ‘gallu gwneud’ wrth fynd i’r afael â heriau a nodwyd yn y rhaglen

Mae’r addasiadau hynny wedi cael croeso cyffredinol gan Gontractwyr a rhanddeiliaid allanol. Maent hefyd yn dangos pwysigrwydd a gwerth addasu polisi ymyrraeth ar ôl dechrau ei weithredu er mwyn adlewyrchu amgylchiadau sy’n newid a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg. 

Fodd bynnag, mae’r model ei hun a’r canllawiau yn ei gylch yn gymharol gymhleth ac mae achosion yn parhau lle nad yw cynrychiolwyr y Contractwr (neu’r Is-gontractwr) yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf neu wedi’u camddeall. Mae pryderon hefyd ymhlith Cydlynwyr Ymgysylltiad a Chynnydd nad oes llawer o wybodaeth yn cael ei rhannu am gyfranogwyr ar ôl iddynt gofrestru (ac yn enwedig a yw unigolyn wedi sicrhau canlyniad ai peidio ar adeg gadael y rhaglen).

Argymhelliad 1: Mae angen i Lywodraeth Cymru gyfathrebu’n glir â Chontractwyr pan wneir addasiadau i’r cynnig gwasanaeth, a hyn i’w ledaenu i’r holl staff rheng flaen, is-gontractwyr, a Chydlynwyr Ymgysylltiad a Chynnydd (EPC) er mwyn sicrhau cadw cysondeb y cynnig.

Argymhelliad 2: Dylid trin a thrafod ymhellach â Chydlynwyr Ymgysylltu â Chynnydd i archwilio i ba raddau y maent yn cael gwybod am gyflawniadau a chanlyniadau cyfranogwyr TSC+ yn eu hardal leol.

Ymgysylltiad

Mae ymwybyddiaeth dda eisoes am raglen TSC+ ymhlith y grŵp targed gyda lefelau’r galw am gymorth yn uwch na lefel yr adnoddau sydd ar gael. Rhwng Ebrill 2022 a Gorffennaf 2024 cafwyd 11,972 o gofrestriadau i’r rhaglen yn ogystal â 10,008 o gyfranogwyr unigryw yn TSC+. 

Er mai isel yw safon y data sydd ar gael am y boblogaeth gymwys, eto awgryma’r dystiolaeth fod 30–40% o’r garfan gymwys yng Nghymru o bosibl yn ymgysylltu â TSC+. Ar ben hynny, gwelir bod gan chwarter y cyfranogwyr ar y rhaglen anghenion ychwanegol. Felly dengys y dystiolaeth fod y cynnig gwasanaeth o bosibl yn fwy addas ar gyfer cael y grŵp targed hwn o bobl ifanc i ymgysylltu a chofrestru nag ymyriadau polisi blaenorol.

Rhywun yn sôn am y rhaglen a gweithgareddau allgymorth hyrwyddo mewn ysgolion uwchradd sydd wedi llwyddo wrth godi ymwybyddiaeth o raglen TSC+. Mae’n debyg bod sawl ffactor wedi dylanwadu ar gyfraddau ymgysylltu, gan gynnwys ansawdd ac ystod y gefnogaeth a gynigid a’r elfen ariannol (lwfansau hyfforddi, prydau bwyd a chludiant am ddim i gyfranogwyr, a’r ffi sefydlu i Gontractwyr).

Er bod y gefnogaeth ariannol (drwy gyfran uwch o lwfans hyfforddi) yn ffactor, pwysleisiodd ymatebwyr yr arolwg, fodd bynnag, nad dyna oedd y prif ffactor wrth ymgysylltu â’r rhaglen. Ar yr un pryd, teimlai Contractwyr fod y cynnydd yn y lwfans hyfforddi wedi cynorthwyo i gadw cyfranogwyr ar y rhaglen. 

Mae lefelau’r galw am y rhaglen wedi golygu bod Contractwyr wedi gorfod bod yn ofalus wrth reoli proffil blynyddol eu cofrestriadau er mwyn sicrhau nad oedd eu cyllid yn darfod. Mae rhestrau aros wedi’u sefydlu ar adegau i helpu i reoli niferoedd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Awgrymodd Contractwyr fod hyn yn cynyddu’n fawr y risg o gyfranogwyr posibl yn ymddieithrio. 

Mae amrywiadau mawr yn y galw am y rhaglen yn ystod blwyddyn galendr wedi cymhlethu ymhellach y rheoli blynyddol ar gyllidebau gan Gontractwyr. Mae cynnydd cyson yn y nifer sy’n cofrestru bob mis Gorffennaf ac, i raddau llai, bob mis Hydref. Ymddengys bod y rhai ym mis Gorffennaf yn gysylltiedig â phontio o addysg uwchradd i TSC+, ac i lawer maent yn NEET am gyfnod byr iawn neu ddim o gwbl, gyda rhai yn nodi eu bod wedi cofrestru i TSC+ pan oeddent yn dal yn yr ysgol. 

Ymddengys bod y rhaglen yn effeithiol wrth gynnal diddordeb yn ystod misoedd yr haf; fodd bynnag, mae’n llai clir faint o gefnogaeth ychwanegol a roddir i’r garfan benodol hon (o’i chymharu â chofrestriadau ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn). Dylid cydnabod hefyd fod y broses o bontio o’r ysgol uwchradd yn 16 oed i ryw fath arall o Addysg, Hyfforddiant a Dysgu yn gysylltiedig â’r risg o ymddieithrio, ac mae TSC+ (ac yn benodol y cynnig cyn-ymgysylltu drwy ‘Bydd Barod’) yn cynnig mecanwaith defnyddiol ar gyfer cynnal rhyw fath o ymgysylltiad dros gyfnod yr haf. 

Er bod lefel dda o ymwybyddiaeth am y rhaglen ymhlith pobl ifanc, mae cryn wahaniaeth daearyddol yn y tebygolrwydd y bydd unigolyn yn ymgysylltu â’r rhaglen. Er enghraifft, mae person ifanc 16 i 19 oed yn Nhorfaen wyth gwaith yn fwy tebygol o gofrestru ar TSC+ na pherson ifanc yn lleoliadau mwy gwledig Powys, Gwynedd a Cheredigion.

Mae rhywfaint o dystiolaeth bod poblogaeth gyffredinol y bobl ifanc NEET yng Nghymru yn amrywio yn ôl daearyddiaeth, ond bychan yw’r cydberthynas â chyfraddau ymgysylltu ar TSC+. Awgryma hyn fod ffactorau eraill yn dylanwadu ar y duedd i gymryd rhan yn y gefnogaeth. Gall ffactorau o’r fath gynnwys lefelau amddifadedd, problemau byw mewn mannau gwledig, a heriau mynediad corfforol i leoliad neu adeilad ar gyfer cyngor ac arweiniad TSC+. Nododd Contractwyr hefyd yr angen am hyblygrwydd pan fydd gofalwyr ifanc yn ymgysylltu â’r rhaglen, a gall presenoldeb corfforol fod yn anodd weithiau.

Argymhelliad 3: Dylid adolygu’r mynediad at y cymorth, gan gynnwys y lefel a’r graddau y gall unigolion ymgysylltu ar-lein, er mwyn cefnogi sicrhau mynediad teg i TSC+ ledled Cymru.

Mae darpar gyfranogwyr TSC+ fel arfer yn cael eu hatgyfeirio’n uniongyrchol i’r rhaglen, naill ai drwy’r Contractwyr neu drwy’r Cydlynwyr Ymgysylltiad a Chynnydd (EPC). Ymddengys bod y dull dwyffordd, sef atgyfeirio ac ymgysylltu (naill ai drwy Cymru’n Gweithio neu drwy atgyfeirio uniongyrchol), yn gweithio’n dda, gan alluogi’r dysgwr ei hunan i arwain y llwybrau ymgysylltu i raddau helaeth. Mae ffurflen yr Adroddiad Asesu ac Atgyfeirio (ARR) yn fecanwaith defnyddiol ar gyfer casglu dealltwriaeth am gyfranogwyr, ac ynddi ceir gwybodaeth gynhwysfawr. Mae cyfyngiadau yn ymwneud â rhannu data sy’n gysylltiedig ag ysgolion gan gynnwys Cynlluniau Dysgu Unigol yn aml yn arwain at oedi wrth ddeall anghenion cyfranogwyr hyd nes eu bod yn dewis rhannu’r wybodaeth hon (fel arfer ar ôl iddynt ddod i ymddiried mewn aelod o staff), neu hyd nes y gellir ei nodi trwy asesiad anghenion. Yn hyn o beth, mae’n bwysig sylweddoli pwysigrwydd y dull sgwrsio fel rhan o’r ymgysylltiad cychwynnol â phobl ifanc. Mae meithrin perthynas ac ymdeimlad o ymddiriedaeth yn gynnar yn eu hymgysylltiad yn hanfodol i ddeall anghenion cyfranogwyr, cynnal eu hymgysylltiad, a sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Her a nodwyd yn rhan o’r broses gofrestru yw rheoli disgwyliadau cyfranogwyr. Weithiau mae pobl ifanc yn cofrestru gyda disgwyliadau afrealistig o yrfa nad yw’n adlewyrchu eu cymwysterau presennol, neu maent yn anghyfarwydd â’r heriau a all eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar gyflogaeth. Nid yw hyn fel arfer yn cael sylw yn y broses atgyfeirio ac mae’n ffactor sy’n cael ei ystyried fel arfer ar ôl ymgysylltu. 

Mae natur yr heriau y mae cyfranogwyr yn eu hwynebu yn golygu bod dros dri chwarter y cyfranogwyr yn mynd i linyn Ymgysylltu’r gefnogaeth. Teimlir bod hyd yn oed hwn yn rhy anodd i rai cyfranogwyr, a theimlwyd bod angen defnydd ehangach o’r cynnig cyn-ymgysylltu (‘Bydd Barod/Get Ready’ ar hyn o bryd) neu rywbeth tebyg.

Ymddengys mai’r hyn sy’n dylanwadu ar batrymau defnyddio Bydd Barod fel cynnig yw’r adnoddau sydd ar gael, diddordeb darparwyr, a’r tymor, gyda thystiolaeth fechan yn awgrymu mai anghenion dysgwyr sy’n dylanwadu ar ei ddarparu ar hyn o bryd. O blith y rheiny sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir y Fflint, roedd bron i chwarter y cyfranogwyr wedi cymryd rhan yng nghynllun Bydd Barod, ond nid oedd yr un o’r cyfranogwyr sy’n byw yng Ngheredigion wedi gwneud Bydd Barod. Credir bod y cyllid sydd ar gael yn debygol o fod yn ffactor yn y gwahaniaeth yn ei ddefnydd. Nid yw’n glir a oes ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar y gwahaniaeth daearyddol.

Argymhelliad 4: Dylid archwilio gyda Chontractwyr pa ffactorau sy’n dylanwadu ar faint y maent yn defnyddio’r llinyn cymorth cyn-ymgysylltu ‘Bydd Barod’ i gefnogi mynediad mwy cyfartal ar draws y rhaglen.

Deallir bod nifer a difrifoldeb y cymhlethdodau a’r rhwystrau y mae cyfranogwyr yn eu hwynebu yn parhau i gynyddu. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn ymddygiad heriol (tarfu ar eraill ac weithiau ymddygiad treisgar) a materion diogelu y mae’r Contractwyr yn gorfod delio â nhw.

Darparu’r cymorth

Teimlir bod yr hyn a gynigir gan y gwasanaeth drwy elfennau prif ffrwd y rhaglen (yn bennaf y llinynnau Ymgysylltu a Datblygu) yn hyblyg, yn ymatebol, ac yn cael ei arwain gan y dysgwr. Mae canmoliaeth eang i natur y gefnogaeth a gynigir drwy’r rhaglen, a’r gefnogaeth honno wedi’i mireinio dros amser.

Ystyrir yn eang bod y rhaglen a’i chymorth cysylltiedig yn hygyrch ac yn effeithiol, yn enwedig o ran mynd i’r afael ag iechyd meddwl a lles a chefnogi pobl ifanc i ddatblygu ‘sgiliau meddal’. Fodd bynnag, Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) sy’n dylanwadu bennaf ar y gofynion casglu a monitro data ar gyfer y rhaglen, ac nid yw’r cofnodion yn hwn yn cipio pa mor ddifrifol a chymhleth yw rhwystrau nac yn cynnig unrhyw fewnwelediad i lesiant personol cyfranogwyr. Er enghraifft, mae dadansoddi Cynlluniau Dysgu Unigol (lle ceir y wybodaeth hon) yn datgelu bod bron i chwarter y cofnodion yn tystio i anghenion cymorth lluosog ar gyfer pob cyfranogwr, gyda’r naratif cysylltiedig yn rhoi darlun o’r sefyllfaoedd cymhleth y mae rhai cyfranogwyr yn eu hwynebu.

Argymhelliad 5: Dylid casglu tystiolaeth fonitro sy’n ategu gofynion y LLWR wrth ymgysylltu â pherson ifanc (unwaith y bydd ymddiriedaeth wedi’i sefydlu) a gallai ffurfio rhan o’r Cynllun Dysgu Unigol. Dylai hyn gynnwys casglu dangosyddion lles mewn modd meintiol neu wedi’i gategoreiddio er mwyn rhoi modd eu monitro a’u dadansoddi.

Argymhelliad 6: Dylid sefydlu dull cyson ar draws y rhaglen ar gyfer cofnodi canlyniadau meddal a’r pellter a deithiwyd. Er mwyn sicrhau bod hyn yn cael cefnogaeth Contractwyr, argymhellir eu bod nhw, ar y cyd, yn cydweithio i arwain ar ddylunio a datblygu’r system.

Argymhelliad 7: Dylid mabwysiadu dull cyson ar draws pob Contractwr ar gyfer cofnodi gwybodaeth bwysig a gedwir yn y Cynllun Dysgu Unigol. Byddai hyn yn galluogi dadansoddi ansoddol mwy cynhwysfawr ar rwystrau, dyheadau a gweithgareddau dysgwyr.

Mae’r ddarpariaeth cymorth a gynigir drwy TSC+ wedi symud yn araf ac yn gyson tuag at roi sgiliau bywyd a sgiliau sylfaenol ehangach ac i ffwrdd o ddarpariaeth sydd fel arfer yn gysylltiedig ag unigolion sy’n agos at gyflogaeth. Mae’n debyg bod hyn yn adlewyrchu amgylchiadau’r cyfranogwyr sy’n ymgysylltu. Yn ogystal, ychydig iawn o ddefnydd a wneir o linyn Cyflogaeth y rhaglen, gan mai 1% yn unig o’r cofrestriadau ar y rhaglen sydd ar y llinyn hwnnw. Adroddodd Contractwyr fod llawer o’r bobl ifanc a gefnogwyd yn wynebu rhwystrau a sefyllfaoedd ychwanegol sy’n golygu nad oeddent fel arfer yn barod i weithio.

Yn fwy cyffredinol wrth drafod yr ymwneud â chyflogwyr, nododd Contractwyr mai amharod oedd cyflogwyr yn gyffredinol i gyflogi pobl ifanc o ystyried y costau goruchwylio oedd ei angen, pryder bod cyfranogwyr i’w gweld yn anaeddfed neu ddim yn ymrwymedig, ac yn gyffredinol bod diffyg modd cael y cyfleoedd hyn mewn rhai lleoliadau. 

Cyfeiriodd cyfranogwyr at oedi wrth gael gafael ar leoliadau, tra bod Contractwyr wedi tynnu sylw at y ffaith bod y lwfans a gynigir i gyfranogwyr yn is pan ydynt ar leoliad, sy’n golygu bod mwy o fudd ariannol iddynt aros yn y cyfleuster dysgu.

Argymhelliad 8: Dylid ymchwilio i’r gwahaniaethau yn y lwfans ar leoliad o’i gymharu ag mewn cyfleuster dysgu, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar gymhellion i gwblhau lleoliad.

Er gwaethaf yr heriau hyn sy’n ymwneud â chyfle i gael cyflogaeth, dengys y wybodaeth reoli, ledled Cymru, fod dros un o bob pump (21.6%, 1,785/8,270) o unigolion unigryw wedi sicrhau cyflogaeth ran-amser neu lawn amser ar ôl gadael TSC+. Unwaith eto, mae gwahaniaeth daearyddol yn y cyrchfannau hyn, gyda dros chwarter y cyfranogwyr yn Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, a Thorfaen yn sicrhau cyflogaeth o’i gymharu â llai na 10% o’r rhai yng Nghaerdydd.

Ar ben hynny, ymhlith y grŵp cyfranogwyr ar ôl chwe mis mae cynnydd yn nifer y cyrchfannau cadarnhaol o’i gymharu ag adeg ymadael, gyda’r rhai mewn cyflogaeth fel arfer yn trosglwyddo i gontractau mwy diogel neu nifer uwch o oriau pob wythnos.

Maes arall sydd â gwahaniaeth daearyddol yw’r gallu i gael gafael ar gyfleoedd cyflogaeth yn fwy cyffredinol (yn bennaf drwy leoliadau gwaith), wrth i gyfranogwyr TSC+ yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin fod bron i 20 gwaith yn fwy tebygol o wneud rhyw fath o oriau gwaith fel rhan o’u hymgysylltiad na’r rheiny sy’n byw yn Sir y Fflint.

Argymhelliad 9: Dylid cael Contractwyr i fynd ati i archwilio ffactorau sy’n gysylltiedig â’r gwahaniaethau yn nheithiau cyfranogwyr ar raglen TSC+ er mwyn nodi pa gefnogaeth y gellir ei chynnig i gynorthwyo darparu cynnig mwy cyson i bawb.

Canlyniadau ac effaith y cymorth

Mae cyfraddau canlyniadau cadarnhaol ar y rhaglen wedi gwella’n gyson dros amser, gyda’r rhaglen yn rhagori ar dargedau yn erbyn y nifer sy’n cofrestru arni. Yn y data cyhoeddedig, fodd bynnag, ychydig iawn o wahaniaethu sydd rhwng canlyniadau dilyniant (lle mae unigolyn yn trosglwyddo o un llinyn TSC+ i un arall) a chanlyniadau terfynol (eu canlyniad ar adeg gadael y rhaglen). Er bod symud cadarnhaol rhwng llinynnau’r rhaglen yn garreg filltir bwysig i’w chydnabod, gall hyn yn anfwriadol fod yn camarwain canfyddiadau o raddfa’r ymgysylltiad a’r cyrchfannau ar ôl gadael y rhaglen.

Argymhelliad 10: Dylid cofnodi symudiadau cadarnhaol rhwng llinynnau a chanlyniadau terfynol ar gyfer unigolion unigryw fel dangosyddion ar wahân wrth adrodd ar berfformiad y rhaglen 

Gwelir cryn amrywio daearyddol pellach yn y canlyniadau cadarnhaol a gâi cyfranogwyr, gyda’r rhai ym Mhowys a Sir Benfro dair gwaith yn fwy tebygol o sicrhau canlyniad cadarnhaol na’r rhai yn Nhorfaen. Yn yr un modd, mae’r rheiny sy’n byw yng Nghaerdydd bron dair gwaith yn fwy tebygol o adael gyda chanlyniad negyddol na’r rhai sy’n byw yn Wrecsam neu Sir y Fflint. 

Mae’r rhaglen wedi bod yn allweddol wrth helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau a datblygu sgiliau meddal a chyflogaeth hanfodol. Canmolwyd y rhaglen gan ddysgwyr am egluro a rhoi arweiniad gwerthfawr ynghylch eu hopsiynau gyrfa.

Y tu hwnt i gyflogadwyedd, cafodd y rhaglen effaith sylweddol ar lesiant ac iechyd meddwl dysgwyr, a hwythau yn arbennig wedi canmol arweiniad y tiwtoriaid a’r staff am eu dull cefnogol a deallus. 

Dywedodd dysgwyr mai cynnydd yn eu hyder a lles gwell yn gyffredinol oedd y canlyniadau mwyaf trawsnewidiol yn eu profiad. Roeddent hefyd yn aml yn nodi gwelliannau yn eu gallu i reoli heriau personol fel gorbryder cymdeithasol. I’r rhai a oedd yn wynebu heriau iechyd meddwl cyn ymuno â TSC+, roedd y gwelliannau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd mynd i’r afael â datblygiad personol a lles fel elfennau sylfaenol cyn mynd ar drywydd amcanion penodol yn gysylltiedig â chyflogaeth.

Argymhelliad 11: Dylid cynnal dadansoddiad cost-budd cymdeithasol cynhwysfawr o TSC+ i gofnodi’n llawn y costau a’r buddion cymdeithasol ac economaidd sy’n deillio o’r rhaglen er mwyn helpu i asesu enillion ar fuddsoddiad y rhaglen.

Gwelir gallu’r rhaglen i addasu ac ymateb i anghenion unigol cyfranogwyr yn y gwahaniaeth cymharol fach yn y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd yn ôl nodwedd. Mewn patrwm tebyg i’r un a welwyd yn y gwerthusiad interim, mae’r rheiny sydd â rhyw fath o allu yn y Gymraeg yn fwy tebygol yn ystadegol o sicrhau canlyniad cadarnhaol na’r rhai heb hynny. 

Mae maint y rhaglen a’r graddau yr ymddengys ei bod yn ymgysylltu â’r garfan gymwys yn golygu ei bod hi’n bosibl bod TSC+ yn dylanwadu ar ddangosyddion perfformiad economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Mae data diweddar ar gyfraddau diweithdra ymhlith y garfan 16 i 19 oed yn dangos cwymp a gwahaniaeth amlwg (pan fo data cymharol ar gael) o gymharu â thueddiadau yn Lloegr. Mae angen archwilio pellach ar y data hwn (fel rhan o werthusiad crynodol). Yn ogystal, mae angen manylion am y nifer sy’n economaidd anweithgar ynghyd â’r rhai sy’n ddi-waith er mwyn deall yn gliriach yr effaith y gallai’r rhaglen fod yn ei chael.

Ymhlith y rhai sy’n gadael Blwyddyn 11, nid yw’r effaith na’r gwerth ychwanegol yn glir, gyda chyfraddau NEET neu statws anhysbys yn aros yn sefydlog ar ôl cynyddu o 2021 i 2022. Mae’r arwyddion hyn, ochr yn ochr â thueddiadau amrywiol eraill (fel y’u hamlygwyd yn gynharach yn yr adran hon), yn awgrymu bod lefelau is o ychwanegolrwydd yn digwydd i’r rhai sydd wedi cofrestru ar TSC+ ym mis Gorffennaf (yn benodol y rhai sy’n pontio o Flwyddyn 11) na’r rhai sy’n cofrestru ar TSC+ ym misoedd eraill y flwyddyn.

Argymhelliad 12: Dylid cynnal archwiliad pellach gyda Chontractwyr a’r Cydlynwyr Ymgysylltiad a Chynnydd (EPC) i edrych ar nodweddion a sefyllfaoedd penodol y rhai sy’n cofrestru ar y rhaglen ym mis Gorffennaf bob blwyddyn.

Argymhelliad 13: Dylai gwaith maes â chyfranogwyr TSC+ yn y dyfodol ymgysylltu â charfan sydd wedi cofrestru ar y rhaglen ledled y flwyddyn galendr i liniaru unrhyw ddylanwad posibl o ran tueddiadau misol.

Troednodiadau

[1] Estynnwyd y grŵp oedran oedd yn gymwys ar gyfer TSC+ i’r rhai 19 oed ym mis Ionawr 2023.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Jakob Abekhon, Oliver Allies, Paula Gallagher, Katy Simms, a Sarah Usher

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Eloise Gowing
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 54/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-845-4

GSR logo