Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Hydref 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ceisio eich barn ar y strategaeth 10 mlynedd ddrafft ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol 2025 i 2035.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r strategaeth yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru:
- lle mae plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag niwed cam-drin rhywiol
- lle mae’r rhai y mae cam-drin rhywiol yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi ar hyd eu hoes
Mae 4 amcan strategol yn y strategaeth ddrafft. Mae'r rhain wedi'u datblygu ar y cyd ag oedolion sy’n ddioddefwyr-oroeswyr a rhanddeiliaid allweddol eraill. Dyma’r amcanion strategol:
- atal cam-drin plant yn rhywiol
- diogelu plant a phobl ifanc pan fo pryderon am gam-drin plant yn rhywiol
- cefnogi plant a'u teuluoedd
- cefnogi oedolion sy’n dioddefwyr-oroeswyr
Dogfennau ymgynghori
Y strategaeth genedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol 2025 i 2035 drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Dogfen ymgynghori: fersiwn i blant a phobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Dogfen ymgynghori: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ffurflen ymateb: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Gall darllen am gam-drin plant yn rhywiol ennyn ymateb emosiynol. Os oes angen cymorth arnoch neu os hoffech siarad ag unrhyw un, gallwch gysylltu â'r canlynol:
- os ydych chi'n berson ifanc gallwch gysylltu â Childline, gwasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim, drwy'r ddolen hon neu'r rhif 0800 1111
- os ydych chi'n oedolyn gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol 24/7, sy'n wasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim, drwy'r ddolen hon neu'r rhif 0808 500 2222
- os oes angen cymorth arnoch ar gyfer eich iechyd meddwl, gallwch ffonio Llinell Gymorth CALL ar 0800 132 737
- i gael cymorth brys, ffoniwch y GIG drwy 111 a phwyso 2
