Datgloi potensial: mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg: ymateb y llywodraeth
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad ac argymhellion Estyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Ysgrifennwyd yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn ei llythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2024 i 2025.
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg cenedlaethol o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella mewn addysgu mathemateg o fewn yr ystod oedran 7 i 16. Mae’n nodi arfer dda wrth addysgu mathemateg yn seiliedig ar yr effaith a gaiff ar gynnydd disgyblion mewn mathemateg a rhifedd. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar arfer effeithiol mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed o ran addysgu, cwricwlwm, arweinyddiaeth ac asesu.
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
Er bod agweddau ar addysgu ac arweinyddiaeth effeithiol o ran mathemateg, yn gyffredinol, canfu'r adroddiad fod ansawdd addysgu mathemateg yn rhy amrywiol a safonau disgyblion mewn mathemateg yn rhy isel.
Mae'r adroddiad yn amlinellu'r dulliau y mae gweithwyr proffesiynol yn eu cymryd lle maent yn gweld ymarfer effeithiol, gan gynnwys:
- gosod disgwyliadau uchel
- defnyddio ystod o dechnegau addysgu ac asesu
- holi dysgwyr yn effeithiol
- mynd i'r afael â chamsyniadau
Lle roedd ymarfer yn llai effeithiol, roedd hyn yn y bôn o ganlyniad i addysgu a dysgu aneffeithiol.
Yn benodol, roedd hyn yn cynnwys:
- amrywioldeb yn ansawdd addysgu mathemateg, sy'n rhannol gysylltiedig â gostyngiad mewn cymorth yn benodol i bwnc ledled Cymru
- dim digon o ffocws ar bwysigrwydd gwybodaeth bynciol ac addysgeg bynciol athrawon, sy’n aml yn arwain at ddealltwriaeth gyfyngedig o’r ffyrdd gorau o gefnogi dysgu
Mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd dulliau addysgu effeithiol, holi o ansawdd uchel, amgylchedd dysgu cefnogol, dysgu proffesiynol, ac ymglymiad rhieni mewn ymestyn addysg fathemateg. Mae'r elfennau hyn, gyda'i gilydd, yn cyfrannu at wella ymgysylltiad, dealltwriaeth a deilliannau disgyblion mewn mathemateg.
Mae'r adroddiad hefyd yn pwysleisio nodweddion cryf cwricwlwm mathemateg llwyddiannus, gan gynnwys:
- adeiladu ar ddysgu blaenorol
- neilltuo amser priodol
- cymhwyso gwybodaeth mewn cyd-destunau dilys
- chydbwysedd rhwng addysgu eglur ac archwilio, cydweithio ac annibyniaeth
Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru
Argymhelliad 1
Rhoi mwy o fanylion i ysgolion am ddisgwyliadau ar gyfer cynnydd disgyblion mewn mathemateg a rhifedd i gynorthwyo athrawon â’u cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm.
Argymhelliad 2
Sicrhau bod awdurdodau lleol a phartneriaethau gwella ysgolion yn darparu cymorth effeithiol i wella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth mewn mathemateg.
Argymhelliad 3
Ystyried sut gall hyrwyddo agwedd gadarnhaol at ddysgu mathemateg ar gyfer disgyblion, rhieni a gofalwyr.
Argymhelliad 4
Rhoi eglurder i ysgolion am sut dylai hyfedreddau gefnogi proses cynllunio’r Cwricwlwm.
Argymhelliad 5
Ystyried ymagweddau at hyrwyddo addysgu mathemateg fel gyrfa.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym yn derbyn yr argymhellion hyn. Rydym wedi buddsoddi £10miliwn ychwanegol ar gyfer llythrennedd a rhifedd i ehangu rhaglenni ac ymyriadau cymorth cenedlaethol 'unwaith i Gymru gyfan', ehangu capasiti awdurdodau lleol a darparu gwell gwybodaeth genedlaethol am gyrhaeddiad a chynnydd dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys £2.5miliwn ychwanegol i gynyddu capasiti awdurdodau lleol i gynorthwyo ysgolion gyda'r sgiliau hyn ac i adeiladu ar ddulliau cenedlaethol.
Rydym wedi datblygu pecyn cymorth clir a chyson mewn partneriaeth ag ymarferwyr, Estyn, awdurdodau lleol, rhanbarthau ac arbenigwyr mathemateg a rhifedd sy'n cynnwys:
- Pecyn cymorth ac adnodd dysgu proffesiynol cenedlaethol a ddatblygwyd gyda Phrifysgol Abertawe, sy'n darparu disgwyliadau manylach i bob ysgol. Bu Estyn yn ymwneud â'r gwaith o'i ddatblygu ac yn gefnogol iawn i'r adnodd.
- Adolygiad o'n Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a datblygu canllawiau i gynorthwyo pobathro i ymgorffori rhifedd yn eu gwersi. Nod y dull gweithredu hwn yw gwneud y disgwyliadau'n gliriach a'r iaith yn fwy hygyrch i'r ymarferwyr hynny nad ydynt yn arbenigwyr mathemateg.
Ar 3 Mehefin fe wnaethom gyhoeddi gwerth dros £6.5miliwn o brosiectau mathemateg a rhifedd newydd sy'n darparu cefnogaeth ac arbenigedd mwy cyson ar gyfer addysgu mathemateg ledled Cymru. Bydd hyn yn rhoi'r adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ysgolion ac yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r materion a godwyd.
Mae'r cymorth yn cynnwys:
- Primed for success: bydd gan bob rhan o Gymru fynediad at arbenigedd i ddarparu addysg fathemateg gyson ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd, gan leihau bylchau mewn gwybodaeth yn ystod y cyfnod pontio. Bydd yn grymuso addysgwyr trwy fentora cymheiriaid, datblygu astudiaethau achos, a mireinio offer diagnostig, gan sicrhau cysondeb wrth asesu cynnydd dysgwyr. Bydd yn cynnwys ffocws penodol ar hyfedredd mathemategol.
- Cymorth i ysgolion cynradd er mwyn annog rhieni i helpu eu plant i ddysgu mathemateg, er mwyn codi hyder disgyblion gyda rhifau a hyrwyddo agweddau cadarnhaol am fathemateg ymysg rhieni, gofalwyr a dysgwyr.
- Cefnogaeth i fathemateg ysgol uwchradd, trwy gyfuniad o:
- ddysgu proffesiynol hygyrch yn genedlaethol
- hyfforddiant ar-lein
- ymgysylltu â rhieni mewn ysgolion uwchradd
- mwy o gefnogaeth cyn-16 i gryfhau'r pontio o TGAU i Safon Uwch. Yn ogystal â'r rhain, byddwn yn dyfarnu grant pellach o tua £2miliwn i ddarparu cefnogaeth gyson i fathemateg mewn ysgolion cynradd, gan gynnwys ffocws penodol ar hyfedredd mathemategol.
Rydym wedi ymrwymo £6,500 i Estyn i gynhyrchu fideos astudiaeth achos yn seiliedig ar eu canfyddiadau o'r adolygiad thematig o fathemateg. Bydd y fideos hyn yn dangos y prif ddulliau ar gyfer addysgu mathemateg yn effeithiol, megis cwestiynu effeithiol, dulliau deialog, ac addysgu uniongyrchol.
Mewn perthynas ag argymhelliad 5:
- Rydym yn parhau i gynnig cymhelliant o £15,000 i ymgeiswyr rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) i astudio addysgu Mathemateg.
- Rydym yn parhau i weithio gyda Phartneriaethau AGA i hyrwyddo addysgu Mathemateg i'w hisraddedigion.
- Rydym hefyd yn cynnal ymgyrchoedd marchnata gyda'r nod o ddenu ymgeiswyr i AGA i astudio i addysgu Mathemateg. Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg sy'n cynnal digwyddiadau i hyrwyddo gyrfaoedd ac yn darparu gwasanaethau eiriolaeth i ddarpar ymgeiswyr.
- Rydym hefyd yn cynnig TAR rhan-amser a chyflogedig drwy'r Brifysgol Agored. Mae'r rhain yn caniatáu i ddarpar fyfyrwyr gyflawni Statws Athro Cymwysedig ar sail rhan-amser os nad ydynt yn gallu mynychu cwrs amser llawn neu drwy'r llwybr cyflogedig os ydynt eisoes wedi'u cyflogi mewn ysgol.
Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaethau gwella ysgolion
Argymhelliad 6
Gwella ansawdd y cymorth ar gyfer datblygu addysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel o ran mathemateg.
Argymhelliad 7
Cynyddu lefel y cymorth sy’n benodol i bwnc ar gyfer ysgolion.
Argymhelliad 8
Targedu cymorth ymarferol i helpu athrawon ac arweinwyr mathemateg ddeall cynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm yn effeithiol, yn cynnwys defnyddio’r pum hyfedredd mathemategol yn effeithiol.
Argymhelliad 9
Sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol yn cael eu cynllunio a’u gwerthuso’n effeithiol i sicrhau effaith o ansawdd uchel.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Awdurdodau Lleol a phartneriaethau gwella ysgolion i nodi ffyrdd o helpu i weithredu'r argymhellion hyn.
Awdurdodau Lleol sy’n arwain ar drefniadau gwella ysgolion lleol, gan ddarparu perchnogaeth ac atebolrwydd clir.
Rydym wedi datblygu rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer mathemateg a fydd ar gael yn genedlaethol dan arweiniad Prifysgol Abertawe, i gefnogi gwell dealltwriaeth o gynnydd mewn mathemateg. Mae'r cymorth hwn wedi'i gyd-awduro ag Awdurdodau Lleol a bydd yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn academaidd newydd.
Mewn partneriaeth â'r Awdurdodau Lleol, rydym wedi drafftio canllawiau i gyd-fynd â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd diwygiedig i gynorthwyo'r holl athrawon i ymgorffori rhifedd yn eu gwersi.
Mae gan Dîm Gwella Addysg Llywodraeth Cymru rôl bwysig wrth ddeall adborth sy'n codi o'r system ac ysgogi gwelliant trwy gydweithio, yn arbennig o ran blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sy'n cynnwys mathemateg.
Argymhellion ar gyfer uwch arweinwyr mewn ysgolion
Argymhelliad 10
Sicrhau bod pob un o’r staff a’r disgyblion yn datblygu ac yn dangos agwedd gadarnhaol tuag at fathemateg ac yn deall ei gwerth.
Argymhelliad 11
Sicrhau bod athrawon yn cael amser digonol i wella’u gwybodaeth a’u haddysgeg bynciol.
Argymhelliad 12
Sicrhau bod arferion a phrosesau asesu yn cefnogi addysgu mathemateg yn effeithiol.
Argymhelliad 13
Sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cael ei deilwra i anghenion penodol addysg fathemateg.
Argymhelliad 14
Sicrhau bod polisïau asesu yn ddigon hyblyg i fod yn effeithiol mewn gwahanol bynciau, yn enwedig mewn mathemateg a rhifedd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Awdurdodau lleol sy’n arwain ar drefniadau gwella ysgolion lleol. Bydd ein trefniadau grant a chymorth cenedlaethol dwys yn helpu gweithwyr proffesiynol i wireddu'r argymhellion.
Bydd mathemateg yn flaenoriaeth allweddol i'r corff Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth newydd, a bydd ganddo rôl allweddol wrth sicrhau bod y rhaglenni cymorth cenedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd yn cael eu cyflawni pan fydd y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo iddynt yn y flwyddyn academaidd nesaf. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdodau Lleol i wneud yn siŵr eu bod yn ymgysylltu â'r rhaglenni hyn a'r corff Dysgu Proffesiynol i sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.
Argymhellion ar gyfer ysgolion
Arweinwyr pwnc mathemateg
Argymhelliad 15
Yn cynnal ffocws clir ar fynd i’r afael â’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella o ran addysgu mathemateg.
Argymhelliad 16
Gwella ansawdd addysgu mathemateg a sicrhau bod yr hyfedreddau’n cael eu deall a’u defnyddio’n briodol.
Argymhelliad 17
Sicrhau bod pob un o’r staff yn meddu ar wybodaeth gadarn am y disgwyliadau gofynnol o ran dealltwriaeth a chynnydd disgyblion mewn mathemateg.
Argymhelliad 18
Sicrhau bod darpariaeth y cwricwlwm yn adeiladu’n effeithiol ar ddysgu blaenorol, a rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.
Athrawon mathemateg
Argymhelliad 19
Yn addysgu ar gyfer dealltwriaeth disgyblion yn hytrach na chanolbwyntio ar berfformiad yn unig.
Argymhelliad 20
Yn datblygu eu hyder mewn gwybodaeth bynciol ac addysgeg bynciol i gael y gorau gan y disgyblion.
Argymhelliad 21
Yn datblygu ystod o strategaethau i gefnogi gwirio am ddealltwriaeth a addysgu ymatebol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Awdurdodau lleol sy’n arwain ar drefniadau gwella ysgolion lleol. Bydd ein trefniadau grant a chymorth cenedlaethol dwys yn helpu gweithwyr proffesiynol i wireddu'r argymhellion.
Bydd mathemateg yn flaenoriaeth allweddol i'r corff Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth newydd, a bydd ganddo rôl allweddol wrth sicrhau bod y rhaglenni cymorth cenedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd yn cael eu cyflawni pan fydd y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo iddynt yn y flwyddyn academaidd nesaf. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdodau Lleol i wneud yn siŵr eu bod yn ymgysylltu â'r rhaglenni hyn a'r corff Dysgu Proffesiynol i sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.
Manylion cyhoeddi
Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn, ac fe'i cyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2025.
