Gwerthusiad o’r Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur rhwng 2020 a 2025: adroddiad interim (crynodeb)
Mae adroddiad interim yn ymdrin â rhan gyntaf y gwaith maes gwerthuso sy'n archwilio effeithiau cymdeithasol y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a chefndir
Nod rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) Llywodraeth Cymru yw cefnogi cymunedau i greu ‘natur ar garreg eu drws’, ac mae’n cael ei darparu ar amrywiaeth o lefelau gwahanol (o awdurdod lleol i gymuned leol). Mae’r rhaglen yn targedu ardaloedd sydd â mynediad cyfyngedig at natur yn bennaf, gan gynnwys ardaloedd difreintiedig.
Adroddiad interim yw hwn ar gyfer gwerthuso’r rhaglen, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024 ac sy’n rhedeg tan ganol 2025. Adroddiad interim yw hwn ar gyfer gwerthusiad sy’n mynd rhagddo. O’r herwydd, mae’r canfyddiadau a’r casgliadau a nodir i gyd yn rhai dros dro a gallent newid wrth i’r gwerthusiad fynd rhagddo.
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Gan fod gwerthusiadau blaenorol wedi canolbwyntio llawer ar elfennau proses a chyflawni’r rhaglen, bydd y gwerthusiad hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth bresennol ar berfformiad a chanlyniadau LPfN. Yn benodol, nod y gwerthusiad hwn yw deall:
- effeithiau cymdeithasol y prosiectau LPfN ar lefel grŵp cymunedol a lefel gymunedol gyffredinol yn eu hardaloedd
- i ba raddau y mae LPfN wedi bod yn fecanwaith i annog cymunedau, unigolion a sefydliadau i weithredu i gefnogi a gwerthfawrogi natur
Mae'r gweithgareddau gwerthuso wedi cynnwys:
- cynhaliwyd cyfanswm o 15 cyfweliad cwmpasu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru (n=3), staff rheoli’r cynllun (KWT, WCVA, NLHF, n=6), cydlynwyr LNP (n=5) a chydlynydd OVW (n=1) i drafod y blaenoriaethau ar gyfer y gwerthusiad a datblygu dealltwriaeth y tîm gwerthuso o’r wybodaeth sydd ar gael i lywio’r gwerthusiad
- Gweithdy Damcaniaeth Newid
- adolygu a dadansoddi adroddiadau a data monitro. Roedd hyn yn cynnwys data allbwn ar gyfer gweithgareddau a gynhaliwyd, yn ogystal â thros 350 o astudiaethau achos a gynhyrchwyd ar gyfer prosiectau a gefnogwyd gan y Cynllun Pecynnau Cymunedol. Darparwyd adroddiadau cwblhau a/neu werthuso gan NLHF ar gyfer 38 o’r 41 prosiect a dderbyniodd grant Cronfa Gyfalaf LPfN NLHF; hefyd, darparodd NLHF adroddiadau interim ac adroddiadau cwblhau ar gyfer wyth prosiect a oedd yn cael eu hariannu gan y Cynllun Chwalu Rhwystrau
- yn ystod mis Awst a mis Medi 2024, cynhaliwyd cyfweliadau â 26 o randdeiliaid a oedd yn ymwneud â gwahanol agweddau ar y rhaglen: 9 cydlynydd LNP, 11 swyddog prosiect KWT, 2 swyddog grant NHLF, a 4 cynrychiolydd o gynghorau cymuned/tref a gefnogir gan y rhaglen
Prif ganfyddiadau
Damcaniaeth Newid LPfN
Mae’r Ddamcaniaeth Newid ar gyfer LPfN yn cysylltu’r broses o greu mannau gwyrdd/natur â mwy o gefnogaeth gan unigolion a chymunedau i fyd natur. Mae’n awgrymu, drwy roi cyfleoedd i bobl ymgysylltu â byd natur, y byddan nhw’n fwy tebygol o’i werthfawrogi a chefnogi ymdrechion i’w ddiogelu a’i adfer.
Gan ddefnyddio'r ymchwil sydd wedi’i chynnal hyd yma, mae proses Damcaniaeth Newid wedi nodi dau ‘lwybr’ sy’n dechrau o’r gweithgarwch o greu mwy o ‘leoedd natur’ lleol. Mae un llwybr yn rhoi sylw i fwy o ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac yna gweithredu gan unigolion i gefnogi byd natur, ac mae’r llwybr arall yn canolbwyntio ar sut mae’r rhaglen yn bwriadu arwain at well llesiant cymunedol.
Yn gyffredinol, un o'r canfyddiadau sy'n codi o'r gwerthusiad yw bod y Ddamcaniaeth Newid ar gyfer LPfN yn seiliedig ar ragdybiaethau sy'n cyd-fynd ag ymchwil bresennol.
Cynllun Partneriaethau Natur Lleol
Mae’r data sydd ar gael yn awgrymu bod llawer iawn o weithgarwch wedi digwydd drwy brosiectau a gefnogwyd drwy’r Cynllun LNP i greu mannau gwyrdd, datblygu asedau cyfalaf newydd, ac ennyn diddordeb gwirfoddolwyr.
Roedd llawer o Bartneriaethau Natur Lleol yn adrodd am adborth cadarnhaol gan gymunedau, gyda mwy o ymgysylltu â phrosiectau natur lleol yn ogystal â gwerthfawrogiad ohonynt, mewn adroddiadau chwarterol ar y cynllun a gynhyrchwyd gan WCVA ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yn benodol, adroddwyd bod prosiectau’n ceisio dod â chymunedau at ei gilydd a meithrin ymdeimlad o berchnogaeth a balchder. Yn ogystal, yn ystod cyfweliadau, nododd saith o'r naw swyddog LNP y manteision cymdeithasol a lles a welwyd ganddyn nhw, gan gynnwys rhoi ymdeimlad o bwrpas i wirfoddolwyr, gwella iechyd meddwl, a gwella cydlyniant cymunedol.
Mae’r data sydd ar gael yn dangos bod gweithgarwch perthnasol yn digwydd, ond nid yw’r dystiolaeth ar raddfa, effeithiolrwydd a chanlyniadau’r gweithgarwch hwnnw ar gael.
Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol
Nod y cynllun Arfordirol yw gwella capasiti mewn cymunedau arfordirol yng Nghymru. Mae wedi ariannu 11 o brosiectau ers ei sefydlu yn 2023, ac mae pob un ohonynt yn dod i ben cyn diwedd mis Mawrth 2025. Mae’r prosiectau hyn yn cael eu rhoi ar waith mewn pum ardal LNP, sy’n golygu bod bylchau yn ‘ardaloedd arfordirol’ Cymru lle mae’r cynllun yn weithredol. O ran canlyniadau, prin yw’r data sydd ar gael ar hyn o bryd gan fod prosiectau’n dal i fod ar waith (adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn ym mis Chwefror 2025).
Cronfa Grantiau Cyfalaf Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF)
Mae Cynllun Grantiau Cyfalaf NLHF wedi dosbarthu dros £2 filiwn yn y pedair blynedd ers sefydlu’r cynllun LPfN. Rhwng 2020 a 2024, cafodd y cyllid hwn ei ddosbarthu’n gymharol gyfartal rhwng y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru, gan gefnogi amrywiaeth o brosiectau.
Nid yw dosbarthiad y grantiau a’r cyllid ledled Cymru wedi bod yn gyfartal, gyda nifer y grantiau’n arbennig o uchel mewn rhai ardaloedd. Fodd bynnag, mae’r cynllun yn cael ei arwain gan alw, sy’n golygu ei bod yn anodd osgoi’r math hwn o ddosbarthiad anghyfartal.
Nid oes data monitro ar lefel cynllun ar ganlyniadau nac effeithiau’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi. Fodd bynnag, mae adroddiadau gwerthuso ac adroddiadau cwblhau a baratowyd gan ymgeiswyr wrth i’w prosiectau ddod i ben, yn rhoi cipolwg defnyddiol o'r hyn yr adroddodd prosiectau eu bod wedi’i gyflawni. Nodwyd ystod eang o ganlyniadau cadarnhaol, gyda phwyslais penodol ar ymgysylltu â'r gymuned. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i ddangos y canlyniadau hynny yn anecdotaidd fel arfer ac yn gyfyngedig o ran ei photensial i ddangos canlyniadau ac effeithiau ar draws y rhaglen. Roedd y dystiolaeth hefyd yn cael ei chasglu’n gyffredinol gan y prosiectau eu hunain ar sail eu gweithgareddau a’u blaenoriaethau penodol.
Y Cynllun Chwalu Rhwystrau
Cefnogodd y Cynllun Chwalu Rhwystrau amrywiaeth o brosiectau rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2023. Fodd bynnag, roedd dosbarthiad y prosiectau hynny’n gymharol gyfyngedig, heb unrhyw brosiectau’n cael eu hariannu y tu allan i dde Cymru.
Roedd y prif lwyddiannau a nodwyd gan y derbynwyr grant yn cynnwys ymgysylltu â’r grwpiau targed mewn gweithgareddau amrywiol fel gweithgareddau’r amgylchedd a gwirfoddoli, manteision i lesiant wrth fod yn yr awyr agored, ac ymweliadau â safleoedd treftadaeth ddiwylliannol a naturiol. Adroddodd y prosiectau hefyd am ymgysylltu a chefnogi pobl awtistig, unigolion â phroblemau iechyd meddwl, neu unigolion â namau dysgu, gan geisio helpu i feithrin eu hyder, datblygu eu sgiliau cymdeithasol, a gwella ansawdd eu bywyd.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael, fodd bynnag, yn canolbwyntio i raddau helaeth ar allbynnau gweithgareddau yn ogystal â thystiolaeth anecdotaidd o ganlyniadau a gyflawnwyd fel yr adroddwyd gan y derbynwyr grant ac, felly, mae angen ei dilysu.
Casgliad a’r camau nesaf (Cadwch Gymru’n Daclus)
Ar ôl sefydlu’r Cynllun Pecynnau Cymunedol, rhoddodd y cynllun gefnogaeth i dros 1,400 o brosiectau ledled Cymru dros y pedair blynedd ariannol a adolygwyd yma, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ardaloedd trefol ac ardaloedd o gwmpas trefi.
Roedd data monitro, adroddiad gwerthuso mewnol, ac astudiaethau achos yn dangos canlyniadau cadarnhaol i unigolion a chymunedau. Roedd y prosiectau wedi gwella mannau natur, meithrin ymgysylltiad y gymuned, hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol, a darparu cyfleoedd addysgol.
Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod cyfyngiadau’r dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys anghysondeb yn y data meintiol a gasglwyd yn ogystal â dibyniaeth ar ddata ansoddol yn erbyn cwestiynau sy’n benodol i brosiect. Mae’n anodd defnyddio hyn i farnu ar lefel cynllun. Ond, mae ystod a faint o weithgarwch sy’n cael ei wneud, gan gynnwys nifer y bobl sy’n cymryd rhan, yn glir.
Damcaniaeth Newid
Er bod llawer iawn o wybodaeth ar gael am y gweithgareddau a gyflawnir gan gynlluniau LPfN, un o’r prif bethau sy’n codi o’r gwerthusiad hyd yma yw bod angen mwy o dystiolaeth o ganlyniadau’r gweithgareddau hynny. Mae hyn yn ymwneud yn benodol ag amcanion allweddol y gwerthusiad hwn, sef archwilio (a) yr effeithiau cymdeithasol ar lefel grŵp cymunedol a lefel gymunedol gyffredinol prosiectau LPfN yn eu hardaloedd, a (b) i ba raddau y mae LPfN yn ffordd o annog cymunedau, unigolion a sefydliadau i weithredu i gefnogi a gwerthfawrogi byd natur.
Wrth symud ymlaen, bydd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar ymgysylltu mwy â phrosiectau ac ymweld â sampl o’r prosiectau sydd wedi cael eu cefnogi gan gynlluniau LPfN, gyda’r bwriad o gasglu tystiolaeth fwy cyson ac annibynnol o’r canlyniadau a gyflawnwyd. Bydd y data a gesglir hefyd yn cael ei ddefnyddio i ailedrych ar Ddamcaniaeth Newid y rhaglen a ddatblygwyd, gan brofi’r canlyniadau a’r rhagdybiaethau a nodwyd ac asesu i ba raddau y gellir dangos tystiolaeth o’r effaith y mae’r rhaglen yn ceisio ei chyflawni.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Endaf Griffiths, Dr Lowri Cunnington-Wynn, Wavehill: ymchwil gymdeithasol ac economaidd
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Tîm Ymchwil Hinsawdd a'r Amgylchedd
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwilhinsawddacamgylchedd@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 61/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-899-7

