Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad sefyllfa

Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn cefnogi camau rheoleiddio i gyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp o gynhyrchion â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr (HFSS), a chyfyngu ar leoli cynhyrchion bwyd a diod HFSS mewn lleoliadau gwerthu allweddol gan gynnwys ardaloedd fel mynedfeydd siopau, wrth y desgiau talu ac ar ben yr eiliau.

Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r cyfyngiadau hyn fod yn berthnasol i bob fferyllfa a lle mae fferyllfa yn ffurfio rhan o eiddo manwerthu mwy yn unig, er enghraifft mewn archfarchnad, dylai'r cyfyngiad fod yn berthnasol i ôl troed cyfan y fferyllfa gofrestredig a'r ardaloedd sy'n union gyfagos i'r fferyllfa.

Dylai'r cyfyngiad fod yn berthnasol i'r holl fferyllfeydd beth bynnag fo'u maint ffisegol neu nifer y cyflogeion.

Cyflwyniad

Amcangyfrifir bod tua 1.6m o oedolion sy'n ordew a 0.6m o oedolion sy'n ordew yng Nghymru, fel nodwyd ar wefan ymchwil y Senedd. Yn ogystal, mae mwy nag un o bob pedwar o'n plant dros eu pwysau neu'n ordew pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol gynradd. Mae nifer yr achosion o bydredd dannedd yn gwella ar lefel y boblogaeth ond mae'n dal i effeithio ar draean o'r holl blant pump oed yng Nghymru fel nodwyd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fel cymdeithas, rydym yn bwyta gormod o siwgr, braster dirlawn a halen a gormod o galorïau. Mae bod dros bwysau neu'n ordew yn arwain at broblemau iechyd hirdymor fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2, ac osteoarthritis. Mae bwyta gormod o siwgr yn cynyddu'r risg o bydredd dannedd ym mhob cam o'r cwrs bywyd.

Mae gweithwyr proffesiynol fferylliaeth ym mhob sector yn chwarae rolau pwysig i gefnogi pobl sydd dros bwysau i golli pwysau, cefnogi dewisiadau bwyd iachach, gwneud mwy o ymarfer corff, optimeiddio gweithdrefnau meddyginiaeth i leihau'r sgil-effeithiau o feddyginiaethau a allai achosi pobl i fagu pwysau, a rhagnodi a dosbarthu meddyginiaeth colli pwysau. Mae timau fferylliaeth gymunedol yn aml yn darparu cyngor ar gynnal iechyd y geg da, a rheoli symptomau iechyd y geg gwael fel poen deintyddol neu glefyd y deintgig.

Yn ogystal â helpu pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn cytuno y gellir gwneud mwy i sicrhau bod yr amgylchedd yn cefnogi pobl i wneud dewisiadau iachach. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod fferyllfeydd cymunedol fel darparwyr gofal iechyd y mae eu safleoedd yn aml yn cynnwys elfen fanwerthu, yn rhan o'r amgylchedd bwyd ehangach sy'n dylanwadu ar ddewisiadau ffordd o fyw pobl.

Sail resymegol

Mae'r sefyllfa hon yn cyd-fynd â'r nodau strategol ar gyfer fferylliaeth yng Nghymru, yn benodol y nod o “gynyddu ein ffocws ar iechyd, lles ac atal â phob fferyllfa gymunedol yn dod yn ganolfannau iechyd a lles” a ddisgrifir yn Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

Mae fferyllfeydd cymunedol yn chwarae rôl ganolog wrth lunio iechyd cyhoeddus a chyfrannu ato. Mae bron 700 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru, wedi'u lleoli ar y stryd fawr, paredau siopau, mewn archfarchnadoedd a phractisau meddygon teulu mewn pentrefi, trefi a chanol dinasoedd ledled Cymru. Fel nodwyd gan y Journal of Public Health, maent yn fwy tebygol o gael eu lleoli yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru lle mae anghenion iechyd yn fwy a chyfraddau gordewdra uchaf fel nodwyd gan wefan ymchwil y Senedd.

Yn gyffredinol, fferyllfeydd cymunedol yw pwynt cyswllt cyntaf cleifion ac yn aml eu pwynt cyswllt amlaf â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae fferyllwyr yn ffynonellau cyngor dibynadwy iawn ar faterion iechyd a'r ffordd orau o ddiogelu iechyd y cyhoedd fel nodwyd gan yr Edelman Trust Barometer. Yn y cyd-destun hwn, ni ellir tanddatgan y rôl y mae fferyllfeydd cymunedol fel manwerthwyr yn ei chwarae wrth hyrwyddo amgylchedd bwyd iach.

Mae'r pwyllgor o'r farn ei bod yn gredadwy y gallai argaeledd neu hyrwyddo cynhyrchion HFSS ar eiddo fferyllfa awgrymu yn anghywir nad yw eu gorddefnydd yn ddewis ffordd o fyw afiach. Mae argaeledd cynhyrchion HFSS mewn eiddo fferyllfa yn gwrthdaro â chyfrifoldebau proffesiynol fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth ac yn peri risg annerbyniol i iechyd y cyhoedd.

Casgliad

Mae'r pwyllgor o'r farn bod mwyafrif llethol y perchnogion fferyllfeydd eisoes yn dilyn cyfyngiadau ar argaeledd cynhyrchion HFSS yn eu heiddo fferyllfa ond mae o'r farn bod modd cyfiawnhau camau pellach gan gynnwys, os oes angen, camau rheoleiddio i sicrhau bod fferylliaeth gymunedol yn dangos arweinyddiaeth yn y maes hwn.