Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2024 (atodiad technegol)
Nodiadau ar ddehongli’r ffigurau, gwybodaeth dechnegol a methodoleg
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodyn ar ddehongli'r ffigurau yn yr adroddiad hwn
Mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn dangos cyrhaeddiad cyfartalog y dysgwyr fesul grŵp blwyddyn, ar draws ystod o grwpiau blwyddyn a blynyddoedd academaidd. Mae'r echelin fertigol yn dangos grwpiau blwyddyn. Ar gyfer yr adran ethnigrwydd, mae’r echelin fertigol yn cynrychioli gwahanol flynyddoedd academaidd. Defnyddir lliwiau i wahaniaethu rhwng pob blwyddyn academaidd. Mae'r echelin lorweddol yn dangos cyrhaeddiad cyfartalog yr holl ddysgwyr (neu mewn rhai achosion, pob dysgwr mewn grŵp demograffig penodol, h.y. pob merch) yn y grŵp blwyddyn hwnnw ym mhob blwyddyn academaidd, mewn unedau cyd-destunol o fisoedd.
Y metrig cyrhaeddiad sy'n sail i'r asesiadau personol yw 'Sgoriau IRT' – hynny yw sgoriau Damcaniaeth Ymateb i Eitem (Item Response Theory – a defnyddir y byrfodd Saesneg, sef IRT) sy'n cael eu hesbonio'n fanwl yn yr adran gwybodaeth dechnegol. Er mwyn trosi cyrhaeddiad yn unedau o fisoedd sy'n haws eu deall, gwnaethom ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar lefel y cyrhaeddiad a gyflawnwyd mewn 'blwyddyn gyfeirio' gan ddysgwyr ym mhob grŵp blwyddyn.
Ar gyfer pob grŵp blwyddyn, ystyriwyd lefel y cyrhaeddiad a gyflawnwyd gan ddysgwyr yn y grŵp blwyddyn hwnnw, gan gynnwys y grŵp blwyddyn hŷn a'r un iau, yn y flwyddyn gyfeirio. Yna, roedd modd inni bennu faint o wahaniaeth oedd rhwng cyrhaeddiad dysgwyr yn y grwpiau blwyddyn hyn yn ôl unedau sgoriau IRT, gan ddefnyddio model ystadegol. Caiff y model hwn ei esbonio'n fanylach yn yr adran gwybodaeth dechnegol, ond rydym yn disgrifio'r dull yn gyffredinol yma.
Gan ein bod yn gwybod bod y dysgwyr hyn yn un neu ddau grŵp blwyddyn ar wahân, gallwn drosi gwahaniaeth y sgoriau IRT yn unedau sy'n ymwneud â faint mwy o amser y mae'r dysgwyr wedi bod yn yr ysgol; sef 12 mis neu 24 mis. Dangosir enghraifft o hyn yn y graff isod ar gyfer cyrhaeddiad cyfartalog Blwyddyn 3 mewn Rhifedd (Gweithdrefnol).
Ar gyfer y datganiad hwn, rydym wedi defnyddio 2022/23 fel blwyddyn gyfeirio gyson ar draws pob pwnc, i gyfrifo cynnydd cyfartalog mis ac fel meincnod o'r gwahaniaeth rhwng blynyddoedd. Mae hyn yn creu pwynt cyfeirio cyffredin i archwilio gwahaniaethau demograffig yn ôl pwnc, sy'n ffactor pwysig wrth ystyried cyflwyno'r gwahanol asesiadau cyn / ar ôl y pandemig.
Ffigur A1: Cyfrifo cyrhaeddiad mewn misoedd
Disgrifiad o Ffigur A1: Siart linell sy'n dangos enghraifft o sut i gyfrifo cyrhaeddiad cyfartalog mewn misoedd. Mae’r data yn y siart hon at ddibenion eglurhaol yn unig ac nid yw’n ymwneud ag unrhyw ddata go iawn yn y datganiad.
Yn yr enghraifft hon, rydym yn dynodi cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr Blwyddyn 2, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 yn ein blwyddyn gyfeirio (2022/23) drwy'r pwyntiau glas tywyll. Mae'r gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad dysgwyr Blwyddyn 2 a Blwyddyn 4, fel y dangosir gan y saeth ddu, yn trosi i 24 mis (gan fod dysgwyr Blwyddyn 4 wedi bod yn yr ysgol 24 mis yn hirach na rhai Blwyddyn 2).
Ar ôl pennu'r llinell sylfaen hon o ran cyrhaeddiad mewn misoedd, gallwn ei defnyddio i benderfynu faint o fisoedd yn is neu'n uwch oedd cyrhaeddiad dysgwyr yn y grŵp blwyddyn hwn mewn blynyddoedd academaidd eraill. Yn yr enghraifft uchod, mae'r pwynt glas golau yn dangos cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr Blwyddyn 3 yn 2018/19. Rydym yn cyfrifo'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng y pwynt hwn a'r pwynt cyfatebol ar gyfer y flwyddyn gyfeirio (a ddangosir gan y saeth las olau), ac yn trosi'r gwahaniaeth hwn yn fisoedd trwy gymharu ei faint â'r gwahaniaeth ar gyfer 24 mis (hynny yw, cymharu maint y saeth las olau â maint y saeth ddu). Yn yr enghraifft hon, mae'r saeth las olau tua 25% maint y saeth ddu, sy'n dangos bod gan Flwyddyn 3 gyrhaeddiad cyfartalog yn 2018/19 sydd tua chwe mis yn uwch na Blwyddyn 3 yn 2022/23.
Wrth ddehongli'r ffigurau yn yr adroddiad hwn, mae'n hanfodol cofio bod dysgwyr iau yn gwneud mwy o gynnydd, yn nhermau absoliwt, na dysgwyr hŷn. Hynny yw, rhwng Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 mae'r dysgwyr cyffredin yn amrywio mwy yn yr hyn y maent yn ei wybod ac yn gallu ei wneud, o'u cymharu â dysgwyr cyffredin Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9 sy'n fwy tebyg o ran eu sgiliau a'u gwybodaeth. Gan fod yr adroddiad hwn yn ymdrin â chynnydd mewn misoedd, mae'n hanfodol cofio'r cyd-destun, sef bod cynnydd dros 12 mis i ddysgwyr iau yn cyfateb i newidiadau mwy absoliwt o ran cyrhaeddiad nag sy'n digwydd i ddysgwyr hŷn. Mewn llawer o'r ffigurau yn yr adroddiad hwn, mae mwy o wahaniaeth mewn 'misoedd' rhwng y nodweddion demograffig ar gyfer dysgwyr hŷn. Ond mae'n bwysig cofio nad yw'r gwahaniaeth sylfaenol mewn cyrhaeddiad absoliwt mor sylweddol â'r gwahaniaeth mewn misoedd sy'n dynodi cynnydd ar gyfer y dysgwyr iau a ddangosir yn y ffigurau.
Yn ogystal â dangos cyrhaeddiad cyfartalog y dysgwyr fesul grŵp blwyddyn, mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn hefyd yn dangos gwahaniaeth yn ôl rhyw, a hefyd yn ôl bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM). Mae'r enghraifft isod yn dangos sut y cyfrifir y gwahaniaeth cynnydd mewn misoedd i gymharu benywod a gwrywod. Mae'r broses hon yn union yr un fath â'r hyn a ddefnyddir i gyfrifo'r gwahaniaeth yn ôl bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM) yn y datganiad hwn.
Ffigur A2: Enghraifft o sut mae gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad yn ôl rhyw yn cael eu cyfrifo
Disgrifiad o Ffigur A2: Siart far yn dangos enghraifft o sut mae cyfrifo cyrhaeddiad cyfartalog ar gyfer gwrywod a benywod.
Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23. Mae'r trionglau gwyrdd yn cynrychioli cyrhaeddiad cyfartalog gwrywod, ac mae'r cylchoedd coch yn cynrychioli cyrhaeddiad cyfartalog benywod. Mae’r data yn y siart hon at ddibenion eglurhaol yn unig ac nid yw’n ymwneud ag unrhyw ddata go iawn yn y datganiad.
Mae’r siart yn cynnwys pwyntiau ychwanegol wedi'u troshaenu i ddangos lle byddai cyrhaeddiad cyfartalog gwrywod a benywod. Fel y byddid yn disgwyl, mae'r pwyntiau hyn yn ymddangos y naill ochr i'r cyfartaledd cyffredinol a ddangosir gan y bar perthnasol, gan fod tua hanner nifer y benywod a hanner nifer y gwrywod ym mhob grŵp blwyddyn.
Mae'r saeth felen yn meintioli'r gwahaniaeth mewn cynnydd fesul mis rhwng gwrywod a benywod. Er enghraifft, ar gyfer Blwyddyn 3 yn 2020/21, y gwahaniaeth yw 4 mis. Y gwahaniaethau hyn, fel y'u cynrychiolir gan y saethau melyn, yw'r hyn sy'n cael ei blotio ar Ffigur 5 yn y datganiad ystadegol i feintioli'r bwlch.
Diweddaru graddfa anhawster eitemau
Mae'r Asesiadau Personol Cenedlaethol yng Nghymru yn dibynnu ar Fodel Rasch lle mae anhawster eitem (cwestiwn asesu) a galluoedd dysgwr yn cael eu gosod ar yr un raddfa. Mae’r amcangyfrifon ar gyfer gallu pob dysgwr yn seiliedig ar anhawster eitemau a gaiff yn iawn neu'n anghywir.
O flwyddyn academaidd 2023/24, cafodd amcangyfrifon anhawster eitemau wedi’u diweddaru eu rhoi ar waith yn yr Asesiadau Personol am y tro cyntaf. Roedd y rhain wedi’u cyfrifo, neu eu graddnodi, yn seiliedig ar ymatebion i’r eitemau gan ddysgwyr ym mlwyddyn academaidd 2021/22. Gwnaed hyn i sicrhau bod anhawster eitemau yn gynrychioliadol ac mor gywir â phosibl, gan ddefnyddio’r un flwyddyn fel llinell sylfaen ar draws pob asesiad. Cyn hyn, roedd eitemau yn cael eu graddnodi ar adeg cyflwyno pob pwnc, a ddigwyddodd dros gyfnod o rai blynyddoedd, rhai pynciau cyn a rhai ar ôl pandemig COVID-19. Dewiswyd 2021/22 fel y flwyddyn academaidd gyntaf ar ôl pandemig COVID-19 nad effeithiwyd arni gan gyfyngiadau symud mewn ysgolion. Roedd hyn hefyd yn golygu y byddai'r gwerthoedd wedi'u diweddaru yn seiliedig ar ymatebion gan bron y boblogaeth gyfan o ddysgwyr yng Nghymru, oherwydd bod yr Asesiadau Personol yn asesiadau statudol.
Oherwydd bod yr adroddiad hwn yn cymharu cynnydd dros holl gyfnod gweithredu yr Asesiadau Personol, mae angen graddfa gyson ar gyfer anhawster eitemau a gallu person. Mewn geiriau eraill, er mwyn gallu cymharu data y blynyddoedd academaidd cyn 2023/24 yn uniongyrchol â data 2023/24, roedd angen ailgyfrif gwerthoedd anhawster eitemau y blynyddoedd blaenorol fel eu bod ar raddfa 2023/24.
Gwnaed hyn gan ddefnyddio techneg o'r enw graddnodi cydamserol, gan ddefnyddio'r gorgyffwrdd mawr mewn eitemau sy'n ymddangos mewn sawl blwyddyn academaidd fel 'angor' i gydraddoli'r ddwy raddfa a ddefnyddir. Cyflawnir hyn drwy bennu gwerthoedd anhawster yr eitemau 'angor' i'w gwerthoedd 2023/24 wrth raddnodi'r data ar gyfer blynyddoedd academaidd blaenorol, cyhyd â’u bod yn dal i ffitio'r Model Rasch yn briodol.
Cafodd eitemau a wyrodd o ran anhawster eitem rhwng 2023/24 a blynyddoedd academaidd blaenorol eu dileu fel angorau. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, pan fydd newidiadau i'r cwricwlwm ac mae eitemau sy'n asesu elfen benodol o’r cwricwlwm yn cael eu haddysgu i raddau mwy neu lai. Yn benodol, cafodd eitemau a oedd yn wahanol o fwy na 0.5 o wyriad safonol (o'r raddfa anhawster eitemau a gafodd ei hailgyfrif wedi hynny) i’w gwerth 2023/24 eu dileu o'r dadansoddiad.
Ar ôl i set sefydlog o anawsterau eitemau ôl-weithredol gael eu hailgyfrif, yna gellid ailgyfrif galluoedd dysgwr yn ôl-weithredol yn seiliedig arni ar gyfer blynyddoedd academaidd cyn 2023/24. Roedd hyn yn eu gosod ar raddfa gymaradwy â data 2023/24 ac felly yn eu gwneud yn ddilys i'w defnyddio yn y dadansoddiad hydredol yn yr adroddiad hwn.
Gweler tablau 1 i 12 yn y daenlen gysylltiedig am y gwahaniaeth mewn deilliannau cyfartalog (cymedrig) yn ôl pwnc a grŵp blwyddyn. Ym mhob tabl mae’r golofn "cynnydd misoedd 2022/23" yn cyfeirio at y datganiad blaenorol a oedd yn cynnwys yr holl flynyddoedd hyd at flwyddyn academaidd 2022/23, mae'r golofn "cynnydd misoedd 2023/24" yn cyfeirio at y ffigurau ar raddfa 2023/24 a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn, ac mae'r golofn "gwahaniaeth" yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng y ddau. Mae Tablau 1 i 4 isod yn dangos y newid ar gyfer y prif ddata yn y datganiad hwn.
| Grŵp blwyddyn | Blwyddyn academaidd | Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2024 | Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|---|
| 3 | 2018/19 | 6.2 | 7.6 | 1.4 |
| 6 | 2018/19 | 3.6 | 13.9 | 10.4 |
| 9 | 2018/19 | -2.3 | 6.6 | 8.9 |
| 3 | 2020/21 | -0.1 | 0.1 | 0.2 |
| 6 | 2020/21 | 1.2 | 1.3 | 0.1 |
| 9 | 2020/21 | 2.2 | 0.6 | -1.6 |
| 3 | 2021/22 | -0.2 | -2.1 | -1.9 |
| 6 | 2021/22 | 0.7 | -1.2 | -2.0 |
| 9 | 2021/22 | 1.3 | -1.4 | -2.7 |
| Grŵp blwyddyn | Blwyddyn academaidd | Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2024 | Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|---|
| 3 | 2020/21 | 6.9 | 7.1 | 0.3 |
| 6 | 2020/21 | 10.5 | 12.5 | 1.9 |
| 9 | 2020/21 | 17.2 | 24.2 | 7.0 |
| 3 | 2021/22 | 2.5 | 4.3 | 1.8 |
| 6 | 2021/22 | 6.9 | 7.9 | 1.0 |
| 9 | 2021/22 | 12.4 | 11.9 | -0.5 |
| Grŵp blwyddyn | Blwyddyn academaidd | Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2024 | Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|---|
| 3 | 2020/21 | 3.6 | 3.2 | -0.5 |
| 6 | 2020/21 | 2.0 | 5.6 | 3.6 |
| 9 | 2020/21 | 5.6 | 11.1 | 5.5 |
| 3 | 2021/22 | 3.3 | 3.0 | -0.4 |
| 6 | 2021/22 | 1.7 | 1.6 | -0.1 |
| 9 | 2021/22 | 4.7 | 4.2 | -0.4 |
| Grŵp blwyddyn | Blwyddyn academaidd | Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2024 | Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|---|
| 3 | 2021/22 | -2.0 | -0.2 | 1.8 |
| 6 | 2021/22 | -10.0 | -1.1 | 8.9 |
| 9 | 2021/22 | -4.3 | 0.6 | 5.0 |
Hidlo gwahaniaeth ethnigrwydd
Nifer bach iawn o ddysgwyr sydd gan rai grwpiau ethnig yng Nghymru. I ddiogelu cyfrinachedd, rydym yn cyflwyno data o'r fath gan ddefnyddio 19 grŵp ethnig mawr sy'n cyfuno'r grwpiau llai. I gyfyngu ar y canlyniadau a gyflwynir yn yr adran Ethnigrwydd ac i wneud y siartiau yn fwy darllenadwy, rydym yn cynnwys dim ond y grwpiau ethnig a ddangosodd wahaniaeth ystadegol arwyddocaol o gymharu â dysgwyr Gwyn - Prydeinig. Hynny yw, roedd y gwahaniaeth yn annhebygol o ddigwydd oherwydd amrywiad samplu blwyddyn i flwyddyn naturiol ar hap. Yn benodol, o ran y profi arwyddocâd ystadegol, cyfrifwyd profion-t ar gyfer pob grŵp o gymharu â dysgwyr Gwyn - Prydeinig yn 2022/23, a gywirwyd drwy’r dull Bonferroni ar gyfer cymariaethau lluosog, a dim ond y gwahaniaethau hynny a oedd ag un y cant neu lai o siawns o ddigwydd ar hap a ystyriwyd ar gyfer adrodd. Ar gyfer hyn, defnyddiwyd y gwahaniaeth cyfartalog ar draws y data a gyfunwyd ar draws yr holl flynyddoedd academaidd fel y meini prawf ar gyfer cynnwys neu beidio, i wneud yn siŵr mai dim ond tueddiadau cyson dros amser a gyflwynir ym mhrif adran yr adroddiad.
Gwybodaeth dechnegol
Mae'r asesiadau personol yn addasol. Mae pob dysgwr yn cael set wahanol o gwestiynau i'w cyfoedion, ac mae asesiad pob dysgwr wedi'i deilwra'n ddynamig – os ydyn nhw'n rhoi'r ymatebion iawn i'r cwestiynau, bydd y cwestiynau nesaf yn anoddach, ac os ydyn nhw'n ateb y cwestiynau'n anghywir, bydd y cwestiynau nesaf yn haws. Mae hyn yn golygu nad yw'n ddilys cymharu sgoriau crai y mae dysgwyr yn eu cyflawni yn eu hasesiadau, gan fod pob dysgwr yn gweld cwestiynau gwahanol o ran lefelau anhawster amrywiol.
Felly, mae'r asesiadau personol yn defnyddio Damcaniaeth Ymateb i Eitem (IRT) i gyfrifo sut mae dysgwyr wedi gwneud yn eu hasesiadau. Mae IRT yn ddull ystadegol sy'n ein galluogi i ddyrannu sgôr anhawster i bob cwestiwn yn seiliedig ar sut ymatebodd dysgwyr ar draws y grwpiau blwyddyn iddo. Mae hyn yn golygu y gall y dull hwn gyfrif am lefel yr her ar gyfer y gwahanol gwestiynau a chynhyrchu sgoriau IRT y gellir eu cymharu waeth pa gwestiynau a atebwyd gan bob dysgwr. Felly, mae'r metrig cyrhaeddiad, sef 'misoedd', a adroddwyd yn y ffigurau uchod yn seiliedig ar sgoriau IRT (a elwir hefyd yn amcangyfrifon o allu).
Nid yw'r sgoriau IRT a ddefnyddir ar gyfer y dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yr un fath â'r sgoriau y mae athrawon, dysgwyr a rhieni yn eu gweld ar adroddiadau asesiadau personol. Sgoriau IRT yw'r sgoriau 'mewnol' neu waelodol a ddefnyddir i gynhyrchu sgoriau safonedig ar sail oedran ac i gyfrifo pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd ar adroddiadau dysgwyr. Y prif reswm dros beidio â defnyddio sgoriau cynnydd neu sgoriau safonedig ar sail oedran yn yr adroddiad hwn yw na ellir eu cymharu ar draws grwpiau blwyddyn, ac mae modd cymharu sgoriau IRT.
Yn ogystal â bod yn addasol, mae'r asesiadau personol yn dilyn model 'yn ôl y galw', sy'n golygu y gall ysgolion drefnu asesiadau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae dysgwyr sy'n gwneud asesiadau yn gynnar mewn blwyddyn academaidd benodol yn tueddu i gyflawni ar lefel ychydig yn is na'r rhai sy'n eu gwneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd. Felly, wrth geisio gwerthuso a yw cyrhaeddiad dysgwyr mewn un set ddata yn wahanol i gyrhaeddiad dysgwyr mewn un arall, mae'n bwysig rheoli effaith 'amser dysgu'. Mae'r adroddiad hwn felly'n canolbwyntio ar set o ddata o'r cyfnod pan gafodd y mwyafrif o'r asesiadau eu cwblhau – sef rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf. Mae hyn yn lliniaru (ond nid yw'n dileu'n llwyr) y risg bod yr effeithiau a welwyd o ganlyniad i'r ffaith bod dysgwyr wedi cwblhau'r asesiadau yn gynharach neu'n hwyrach mewn un flwyddyn nag mewn blwyddyn arall.
Nid oedd y garfan genedlaethol gyfan wedi cwblhau'r asesiadau personol yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf. Mae hyn yn golygu, at ddibenion y dadansoddiad hwn, fod risg nad yw'r dysgwyr sy'n gwneud asesiadau yn y cyfnod hwn yn gwbl gynrychioliadol o'r boblogaeth gyfan. Felly rydym wedi pwysoli'r sgoriau cyfartalog a ddangosir yn y papur hwn i wneud iawn am y posibilrwydd hwn ar sail y data demograffig sydd ar gael. Mae hyn yn lleihau'r risg bod yr effeithiau a welwyd o ganlyniad i wahaniaethau systematig o ran pa ddysgwyr sy'n cwblhau'r asesiadau yn ystod y cyfnod hwn bob blwyddyn.
Mae gan ysgolion yr opsiwn i gynnal pob asesiad ddwywaith ym mhob blwyddyn academaidd. Mae hyn hefyd wedi cael ei gynnwys fel rhan o'r pwysoli, oherwydd fel arall byddai rhai dysgwyr yn cael eu cyfrif ddwywaith yn y dadansoddiad. Pe bai dysgwr yn cwblhau asesiad ddwywaith o fewn y cyfnod Mawrth-Gorffennaf a ddadansoddwyd yn yr un flwyddyn academaidd, dyrennir hanner y pwysoliad y byddai wedi'i gael fel arall i'r naill asesiad a'r llall.
O ran sut mae gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad dros amser yn cael eu rhoi mewn cyd-destun, defnyddiwyd modelau atchweliad (a ddefnyddir i sefydlu'r berthynas rhwng unrhyw ddau beth) i bennu'r duedd mewn cyrhaeddiad cyfartalog ar draws pob grŵp blwyddyn. Gosodwyd wyth model atchweliad llinol ar wahân ar gyfer pob pwnc/blwyddyn dan sylw, un fesul grŵp blwyddyn. Roedd atchweliad pob grŵp blwyddyn yn defnyddio data dau neu dri grŵp blwyddyn; hynny yw gan ddysgwyr yn y grŵp blwyddyn dan sylw, a'r rhai yn y grwpiau blwyddyn yn union uwchlaw (dysgwyr hŷn) neu islaw (dysgwyr iau) y grŵp blwyddyn dan sylw. Fformiwla pob atchweliad oedd [sgôr IRT ~ grŵp blwyddyn], sy'n golygu y gellid dehongli'r cyfernod sy'n deillio o hyn ar gyfer grŵp blwyddyn fel maint y sgôr cyrhaeddiad IRT yr ydym yn disgwyl i ddysgwyr mewn dau grŵp blwyddyn gwahanol amrywio (ar gyfartaledd).
Roedd hyn yn caniatáu inni roi'r gwahaniaethau mewn sgoriau yng nghyd-destun unedau o fisoedd, fel yr amlinellir yng nghorff y papur hwn. Yn yr adroddiad hwn, y flwyddyn gyfeirio ar gyfer cyrhaeddiad pob asesiad yw 2022/23.
Dolenni cyswllt i dystiolaeth ryngwladol
Mae'r patrymau dros amser a welir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu'r patrymau a welir mewn mannau eraill yn rhyngwladol wrth i wledydd unigol a systemau addysg adfer o effaith y pandemig byd-eang. Rhestrir rhai enghreifftiau isod ond nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr.
Erthygl yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol yn crynhoi nifer o astudiaethau'r DU ar effaith COVID-19 ar ddarllen, a chan gyfeirio at y bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr mwy breintiedig a llai breintiedig.
Erthygl gan Harvard Graduate School of Education (Mai 2023) yn crynhoi ymchwil i effaith Covid ar gyrhaeddiad mewn sawl gwladwriaeth yn UDA, gan nodi effeithiau negyddol Covid a gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol.
Astudiaeth ar y golled dysgu o ganlyniad i gau ysgolion yn ystod pandemig COVID-19 (Trafodion Academi Genedlaethol Gwyddorau Unol Daleithiau America), yn seiliedig ar ddata plant ysgolion cynradd o'r Iseldiroedd, a gyhoeddwyd fel papur ar gyfer Trafodion Academi Genedlaethol Gwyddorau Unol Daleithiau America, Ebrill 2021.
Astudiaeth ryngwladol ar y golled dysgu yn dilyn y pandemig a'r anghydraddoldebau addysgol (Prifysgol Rhydychen) rhwng plant o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a gyhoeddwyd yn Nature, Ionawr 2023.
Adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar adfer addysg mewn ysgolion yn Lloegr yn dilyn y pandemig, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023.
Astudiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg ar effaith Covid ar gyrhaeddiad addysgol yn Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022.
Gwelir y gwahaniaeth o blaid benywod ar gyfer darllen, ac o blaid gwrywod ar gyfer rhifedd, yn rhyngwladol:
Mae'r bwlch cyrhaeddiad o blaid dysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (nFSM) yn duedd hirsefydlog ledled y DU. Er enghraifft, gweler:
Amddifadedd ac Addysg: Y dystiolaeth ar ddysgwyr yn Lloegr, y Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, a gyhoeddwyd gan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, 2009.
Cau'r bwlch cyrhaeddiad, cyhoeddiad gan y Sefydliad Gwaddol Addysg, 2018
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 50/2025
