Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae ein harfordiroedd a'n moroedd yn rhan gynhenid o’n hanes, ein heconomi a’n ffordd o fyw. Maent yn cefnogi toreth o rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau amrywiol, yn cyfrannu miliynau i'n heconomi ac yn chwarae rhan bwysig yn iechyd a lles ein cymunedau.
Fe wnaethom gyhoeddi Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2019, i'n helpu i reoli a diogelu'r adnodd pwysig hwn. Ym mis Ionawr, fe wnes i ddiweddaru'r Senedd ar gyflwyno ein Hardaloedd Adnoddau Strategol (SRAs) cyntaf fel rhan o'n dull o weithredu'r Cynllun Morol, gan ein helpu i ddeall cyfleoedd ar gyfer datblygu cynaliadwy a sut mae'r rhain yn ymwneud â'r ardaloedd mwyaf amgylcheddol sensitif y mae'n rhaid i ni eu diogelu.
Mae adnabod Ardaloedd Adnoddau Strategol yn un rhan o'n dull o gynllunio morol. Rwy'n glir bod gan y broses gynllunio rôl allweddol i'w chwarae wrth i ni symud ymlaen i fynd i'r afael â'r heriau o reoli ein moroedd, gan gynnwys gweithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur. Yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, gofynnais felly i'm swyddogion gomisiynu adolygiad annibynnol o ddulliau cynllunio morol ar gyfer Cymru. Mae'r adolygiad annibynnol yn archwilio arferion da mewn prosesau cynllunio strategol eraill, i nodi’r ffordd orau y gallem ddatblygu cynllunio morol wrth inni ymateb i'r gofynion cynyddol ar ein hardal forol.
Heddiw rwy'n falch o rannu canfyddiadau'r adroddiad gyda chi. Rwy'n croesawu'r casgliadau cadarnhaol iawn sy'n cymeradwyo ein dulliau presennol, gan gynnwys casgliad yr adroddiad sef bod consensws cyffredinol gan randdeiliaid yn nodi bod Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn addas at y diben ac yn effeithiol o ran cyflawni gwaith cynllunio morol yng Nghymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r ystod o awgrymiadau ar sut i adeiladu ar gynnydd hyd yn hyn, gan gynnwys:
- Datblygu ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid a chynyddu cyfranogiad cymunedol i wella’r ddealltwriaeth o gynllunio morol, a’i fanteision;
- Gweithredu er mwyn gwella'r gwaith o ddiogelu ac ychwanegu at ein hamgylchedd morol a pholisi cynllunio sy'n canolbwyntio ar wella gwydnwch o safbwynt yr argyfwng hinsawdd, tra'n cefnogi gwaith cynllunio a gwneud penderfyniadau mwy cydweithredol o ran yr arfordir;
- Gwella cefnogaeth i reoleiddwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau gyda chanllawiau, offer a data pellach i wneud penderfyniadau effeithiol a datblygu'r Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer sectorau pellach; a
- Datblygu ymhellach y sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynllunio morol, er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r ffordd orau o arwain datblygiad cynaliadwy mewn lleoliadau priodol tra'n sicrhau bod ardaloedd amgylcheddol sensitif pwysig yn cael eu diogelu.
Rwy'n falch o gadarnhau bod gwaith eisoes ar y gweill a fydd yn rhoi llawer o'r canfyddiadau hyn ar waith. Neges glir o'r adolygiad yw bod yn rhaid cydbwyso datblygiad yn yr amgylchedd morol â gwarchod, adfer a gwella amrywiaeth a gwydnwch ein hecosystemau morol. Mae fy swyddogion yn comisiynu astudiaeth i ystyried sut y gallai dull budd net morol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i adael bioamrywiaeth mewn cyflwr gwell ar ôl datblygu, helpu i amddiffyn a gwella ecosystemau morol.
Thema allweddol arall o'r adolygiad oedd pwysigrwydd blaenoriaethu gofodol. Ar ôl cyflwyno ein Hardaloedd Adnoddau Strategol cyntaf ym mis Ionawr eleni, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid a'r diwydiant i ddatblygu cynigion ar gyfer Ardaloedd Adnoddau Strategol pellach ar gyfer sectorau eraill.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae ein rhanddeiliaid yn cynnig cyfoeth o arbenigedd a phrofiad ac mae ymgysylltu â nhw wedi bod yn rhan bwysig o ddatblygu a gweithredu ein Cynllun Morol. Bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â rhanddeiliaid a phartneriaid ledled Cymru, gan sicrhau bod ein dulliau polisi yn cael eu profi'n dda ac yn addas i'r diben.
Yn olaf, rwy'n falch o gyhoeddi, mewn ymateb i'r adolygiad a barn rhanddeiliaid, bod fy swyddogion yn bwriadu cynnal, asesiad gofodol manwl o foroedd Cymru, a hynny am y tro cyntaf. Bydd y dadansoddiad gofodol hwn yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â'n partneriaid, gan gynnwys defnyddio tystiolaeth o waith mapio Gwely'r Môr Cyfan Ystâd y Goron, gan ddod â'r dystiolaeth orau sydd ar gael at ei gilydd i lywio cynllunio morol. Bydd yn cynyddu ein dealltwriaeth o adnoddau naturiol morol yn ogystal â mapio gwrthdaro posibl a synergeddau rhwng sectorau morol allweddol a hefyd â natur.
O ystyried cylch gwaith eang a helaeth yr adolygiad ac argymhellion yr adroddiad, byddaf yn blaenoriaethu fy ymateb. Yn y lle cyntaf, bydd fy swyddogion yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a nodir yn y Datganiad hwn, sy'n cyd-fynd yn agos ag ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu a blaenoriaethau’r Prif Weinidog, gan gynnwys 'creu swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur'. Rwy'n hyderus y bydd canfyddiadau'r adolygiad annibynnol hwn hefyd yn llywio ein dull o ymdrin â chynllunio morol dros y tymor hwy, gan gynnwys penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch a ddylid diwygio neu ddiweddaru'r Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru cyfredol.
Ni fyddai'r adolygiad hwn wedi bod yn bosibl heb y mewnbwn agored a hael gan ystod o randdeiliaid, ac fe hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i roi eu barn. Mae cynllunio morol yn dal i fod yn system gymharol newydd yng Nghymru, ac rwy'n ymrwymedig i barhau i ddatblygu ein proses gynllunio i sicrhau bod ein moroedd yn iach, yn lân ac yn fiolegol amrywiol er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
