Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd seithfed cyfarfod Bwrdd y Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion ar 21 Mai.

Prif ffocws y cyfarfod oedd rhoi adborth ar y prif negeseuon a ddaeth i'r amlwg yng ngweithdai Tymor y Gwanwyn, pan ymwelodd y Tîm Gwella Addysg, gyda chefnogaeth yr Athro Dylan Jones a Simon Day, ag awdurdodau lleol yng Nghymru i drafod datblygu systemau gwella cydweithredol lleol. Roedd y gweithdai hyn yn gyfle i archwilio cynlluniau lleol gyda Chyfarwyddwyr Addysg, eu timau a'u cynrychiolwyr penaethiaid. Ar ddiwedd eu gwaith i gefnogi'r broses o gyflwyno'r Adolygiad Strategol o Bartneriaid Addysg, mae'r Athro Jones wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Derbyniodd y Bwrdd hefyd ddiweddariad ar y cynnydd sylweddol a wnaed i sefydlu'r corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol newydd. Bydd y corff hwn yn arwain y gwaith o ddarparu dysgu proffesiynol i gefnogi ymarferwyr, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, athrawon, uwch arweinwyr a phenaethiaid mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ar hyd eu llwybrau gyrfa. Bydd hefyd yn darparu dysgu proffesiynol i gynghorwyr gwella ysgolion. Dechreuodd y broses recriwtio ar gyfer Prif Weithredwr y corff newydd hwn ar 3 Mehefin.

Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd y Rhaglen yn cael ei gynnal ar 14 Gorffennaf cyn gwyliau'r haf.