Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor: crynodeb o ymatebion
Crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law yn dilyn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yr hyn y mae angen ei wneud
Dogfen er gwybodaeth yn unig yw hon.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth:
Polisi a Diwygio’r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: CTaNDR.Ymgyngoriadau@llyw.cymru
Cyflwyniad
Mae fframwaith cynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor yn rhoi hawliau i dalwyr y dreth gyngor apelio yn erbyn band Treth Gyngor eu heiddo mewn rhai amgylchiadau. Caiff y broses gynigion ac apeliadau ei chynnal gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng 10 Ionawr 2025 a 3 Ebrill 2025, ynghylch y newidiadau arfaethedig i system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor. Amlinellodd yr ymgynghoriad y newidiadau arfaethedig i’r system er mwyn ei gwneud yn fwy syml, yn fwy tryloyw ac yn haws i’w defnyddio, a cheisiwyd barn gan randdeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd.
Gallai’r ymatebwyr gyflwyno eu safbwyntiau a’u sylwadau ar-lein, drwy e-bost neu’r post, ac yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Cafwyd 33 o ymatebion i’r ymgynghoriad a oedd yn adlewyrchu ystod o farn. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys pedwar cwestiwn penodol am system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor, yn ogystal â thri chwestiwn mwy cyffredinol. Mae’r safbwyntiau a’r themâu a ddaeth i’r amlwg yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u crynhoi isod. Roedd yr ymgynghoriad yn gymwys i Gymru yn unig.
Pwy ymatebodd i’r ymgynghoriad?
Daeth cyfanswm o 33 o ymatebion i law. Mae pob un o’r ymatebion wedi’u hystyried a’u dadansoddi. Roedd yr ymatebwyr yn cynrychioli ystod o grwpiau buddiant, fel a ganlyn:
| Ymatebwyr | Nifer yr ymatebwyr |
|---|---|
| Aelodau o’r cyhoedd | 25 |
| Prif awdurdod lleol | 4 |
| Rhanddeiliaid neu sefydliad o’r trydydd sector | 4 |
Pan na wnaeth yr ymatebwyr nodi’n benodol a oedd eu hymatebion yn ymateb swyddogol gan sefydliad, tybir eu bod wedi ymateb fel unigolion ac maent wedi’u dosbarthu yn aelodau o’r cyhoedd.
Yn Atodiad A, ceir rhestr o’r ymatebwyr heblaw’r rhai a ofynnodd am gael aros yn ddienw. Pan ofynnodd ymatebwyr inni beidio â chyhoeddi eu manylion, maent yn ymddangos fel ‘Dienw’ er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Cwestiynau ac ymatebion i’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A ydych yn cytuno y dylai talwyr y Dreth Gyngor gael data am eu heiddo a thystiolaeth ategol ynglŷn â phrisiadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gynharach yn y broses gynnig nag y maent ar hyn o bryd?
Ymatebodd bob un o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn. Cytunodd 32 o ymatebwyr ac anghytunodd 1 ymatebwr.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad, gan nodi:
y bydd hyn yn rhoi’r wybodaeth i’r trethdalwyr sy’n cael ei defnyddio yn yr asesiad eiddo ac yn eu galluogi nhw i wneud penderfyniadau cytbwys am apelio yn erbyn y penderfyniad bandio ai peidio.
Roedd sylwadau eraill gan randdeiliaid hefyd yn tynnu sylw at effeithiau cadarnhaol y newid. Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych:
po fwyaf tryloyw yw’r broses, a pho fwyaf o wybodaeth sydd gan dalwyr cyfraddau, y mwyaf tebygol y bydd llai o apeliadau ac ymholiadau ynglŷn â phrisio a bandio’r dreth gyngor.
Gwnaeth yr ymatebydd a oedd yn anghytuno â’r cwestiwn hwn rannu pryderon mwy cyffredinol am system y Dreth Gyngor.
Cwestiwn 2
A ydych yn cytuno y bydd rhoi cyfle i dalwyr y Dreth Gyngor gael data am eu heiddo a thystiolaeth ategol ynglŷn â phrisiadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gynharach yn y broses gynnig yn helpu i lywio dewis trethdalwr wrth benderfynu a ddylai gyflwyno ei achos i apêl?
Ymatebodd bob un o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn. Cytunodd 32 o ymatebwyr ac anghytunodd 1 ymatebwr.
Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn yn gadarnhaol, gyda’r mwyafrif helaeth yn cytuno â’r cwestiwn. Dywedodd y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw:
y dylai Talwr y Dreth Gyngor gael y dewis ynghylch a ddylid apelio neu beidio, ac y bydd darparu’r wybodaeth yn sicrhau llawer mwy o eglurder a thryloywder o gymharu â’r broses bresennol.
Atebodd ymatebwyr eraill yn gadarnhaol i’r cwestiwn ond codwyd pryderon gan rai ynghylch a fydd yr wybodaeth a fydd yn cael ei darparu yn ddealladwy i’r mwyafrif o drethdalwyr. Awgrymwyd hefyd y dylai talwyr y Dreth Gyngor allu gweld yr un data ar gyfer eiddo arall o fewn yr un stryd, ardal neu god post.
Gwnaeth yr ymatebydd a oedd yn anghytuno â’r cwestiwn hwn rannu pryderon mwy cyffredinol am system y Dreth Gyngor.
Cwestiwn 3
A ydych yn cytuno mai dim ond os bydd talwyr y Dreth Gyngor yn dymuno gwneud hynny y dylai fod modd iddynt ddewis cyflwyno eu hachos i dribiwnlys apêl?
Ymatebodd bob un o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn. Cytunodd 32 o ymatebwyr ac anghytunodd 1 ymatebwr.
Ar y cyfan, roedd ymatebion i’r cwestiwn hwn yn cefnogi’r newid. Gwnaeth ymatebwyr dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y byddai hyn yn ei chael o ran caniatáu i drethdalwyr gael mwy o reolaeth dros sut yr ymdrinnir â’u hanghydfodau, yn ogystal â chael yr wybodaeth i’w galluogi i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
Dywedodd Cyngor Sir Conwy:
mae’n hanfodol bod trethdalwyr yn cael gwybodaeth a chymorth i ddeall eu hopsiynau, fel nad ydynt yn cael eu hatal yn ddiangen rhag symud ymlaen â’u hanghydfodau.
Gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych godi pryder ynglŷn â’r amserlen o 4 mis ar gyfer rhoi penderfyniad ar ôl ystyriaeth i’r trethdalwr gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio gan fod hyn yn fyrrach na’r 6 mis presennol, a chwestiynwyd a ellid bodloni’r amserlen arfaethedig a pha effaith y byddai hyn yn ei chael ar wasanaethau eraill a ddarperir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Gwnaeth yr ymatebydd a oedd yn anghytuno â’r cwestiwn hwn rannu pryderon mwy cyffredinol am system y Dreth Gyngor.
Cwestiwn 4
Beth yw eich barn ar gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r broses gynnig ac apelio ar gyfer y Dreth Gyngor?
Cafwyd 26 o ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiwn hwn. Ni wnaeth 7 o ymatebwyr ateb y cwestiwn hwn.
Gwnaeth rhai ymatebwyr nodi’u beirniadaeth o’r system apelio bresennol, gan nodi rhwystredigaeth o ran oedi ac anhyblygrwydd y system a bod y broses yn aneglur. Codwyd hefyd bryderon am y gwaith ychwanegol y bydd angen ei gynnal ac a fyddai digon o gyllid i fodloni’r amserlenni newydd. O ran rhai elfennau, awgrymwyd nad yw’r cynigion yn ddigon pellgyrhaeddol.
Fodd bynnag, un o’r themâu cyffredin yn yr ymatebion i’r cwestiwn hwn oedd yr effaith gadarnhaol y byddai’r newidiadau arfaethedig yn ei chael ar dryloywder ac effeithlonrwydd y system, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol y byddai’r newidiadau yn ei chael ar ailbrisio’r Dreth Gyngor yn 2028. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
Yn sgil yr ailbrisiad sydd i ddod yn 2028, mae’r cynigion hyn yn ychwanegu rhagor o dryloywder i’r broses sy’n cynorthwyo’r trethdalwr a’r awdurdod bilio”. Po fwyaf o wybodaeth sy’n cael ei rhannu â threthdalwyr, y mwyaf llwyddiannus fydd y gwaith ailbrisio.
Dyma hefyd oedd barn y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw, gan ddweud:
mae’r Sefydliad o’r farn bod y newidiadau arfaethedig yn synhwyrol o ystyried yr ailbrisio sydd ar ddod yn 2028.
Cwestiynau 5 a 6: Y Gymraeg
Cwestiwn 5
Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau posibl y gallai diwygio apeliadau yn erbyn y Dreth Gyngor eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:
- cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
- peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
Ni wnaeth 11 o ymatebwyr ateb y cwestiwn hwn. Cafwyd 22 o ymatebion ysgrifenedig (67% o’r cyfanswm).
Cwestiwn 6
Esboniwch hefyd sut y credwch y gellid datblygu’r cynigion i ddiwygio apeliadau yn erbyn y Dreth Gyngor er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg
- atal unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
Ni wnaeth 13 o ymatebwyr ateb y cwestiwn hwn. Cafwyd 20 o ymatebion ysgrifenedig (61% o’r cyfanswm).
Nododd y mwyafrif o’r ymatebwyr a roddodd ymateb ysgrifenedig i gwestiynau 5 a 6 na fyddai’r cynigion i wella fframwaith apeliadau’r Dreth Gyngor yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg. I sicrhau na fyddai effeithiau negyddol, tynnwyd sylw at rai pwyntiau megis sicrhau bod gwybodaeth a sianeli cyfathrebu ar gael yn Gymraeg a Saesneg, yn ogystal â sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn y sefydliadau sy’n gweithredu’r system gynigion ac apeliadau. Awgrym arall oedd cael swyddog cyswllt penodedig sy’n gallu siarad Cymraeg.
Nid oedd ymatebion eraill yn ymwneud ag effaith diwygio cynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor ar y Gymraeg ond mynegwyd anfodlonrwydd cyffredinol yn eu hymatebion ynghylch system y Dreth Gyngor.
Cwestiwn 7
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i’w cofnodi.
Cafwyd 13 o ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiwn hwn. Ni wnaeth 20 o ymatebwyr ateb y cwestiwn hwn.
Roedd rhai pwyntiau a rannwyd wrth ymateb i’r cwestiwn hwn yn ymwneud â’r fethodoleg ar sut y mae eiddo yn cael ei brisio at ddibenion y Dreth Gyngor, yn arbennig o ran sut y caiff gwahanol fathau o eiddo eu cynnwys yn yr un band Treth Gyngor. Rhannwyd sylwadau hefyd ynglŷn â galluogi unigolion ac awdurdodau lleol i ymwneud ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio o ran prisio eiddo, a lefelau gwasanaeth y sefydliadau sydd ynghlwm wrth y gwaith o gyflawni'r system apeliadau.
Rhoddodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru eu barn fanwl am y gofyniad arfaethedig i Asiantaeth y Swyddfa Brisio roi gwybod i drethdalwr am ei hawliau i apelio ar ôl pedwar mis. Roedd Tribiwnlys Prisio Cymru o’r farn y dylai’r gofyniad fod yn ddyletswydd statudol. Ar y llaw arall, pe bai’n cael ei gwneud yn ddyletswydd statudol, amlinellodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei barn ynghylch yr amserlen gan nodi ei bod yn ffafrio i’r gofyniad fod yn rhan o Gytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Llywodraeth Cymru a hynny i ganiatáu hyblygrwydd pan fo nifer yr apeliadau yn uwch, er enghraifft ar adeg ailbrisio.
Y camau nesaf
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ddatganiad ar 26 Mehefin 2025. Mae’r datganiad hwn yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’r newidiadau arfaethedig i’r system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor, a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad, gyda’r bwriad i’r Rheoliadau ddod i rym ym mis Chwefror 2026.
Atodiad A: rhestr o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Sir Ddinbych
- Asiantaeth y Swyddfa Brisio
- Tribiwnlys Prisio Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw
- 25 unigolyn preifat
