Arolwg Cenedlaethol Cymru: adolygiad o ddata cydraddoldeb (crynodeb)
Mae’r adroddiad yn manylu ar ba mor fuddiol yw cyfuno sawl blwyddyn o ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn dadansoddiad i gasglu data ar ganlyniadau ym maes cydraddoldeb.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae angen i Lywodraeth Cymru allu mesur a yw’n llwyddo yn ei nod llesiant cenedlaethol “Cymru sy’n Fwy Cyfartal” fel a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. I gyflawni hyn, mae angen tystiolaeth ar ystod o ddangosyddion y gellir eu dadansoddi wedyn yn ôl nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig.
Arolwg Cenedlaethol Cymru (Yr Arolwg Cenedlaethol) yw un o’r prif arolygon cymdeithasol a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru o bobl 16+ oed. Dechreuodd redeg yn 2012 ac mae’n cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys addysg, ymarfer corff, iechyd, cydlyniant cymunedol, llesiant a materion ariannol. Arolwg o sampl a ddewisir ar hap yw’r Arolwg Cenedlaethol gyda’r pynciau’n amrywio bob blwyddyn. Mae rhai cwestiynau’n cael eu hailadrodd bob blwyddyn, tra bo eraill yn amrywio gan ddibynnu ar anghenion polisi.
Mae’r arolwg hefyd yn casglu data ar gyfer 16 o’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol i fesur cynnydd tuag at y 7 nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly mae’r Arolwg Cenedlaethol yn ffynhonnell ddata allweddol ar Ddangosyddion Cenedlaethol.
Nodau’r ymchwil
Nod y prosiect hwn oedd asesu i ba raddau y mae'r Arolwg Cenedlaethol yn gynrychioliadol o grwpiau cydraddoldeb yng Nghymru a gwneud argymhellion ar sut i wella ansawdd a lefel manylder data cydraddoldeb a gesglir mewn iteriadau o'r Arolwg Cenedlaethol yn y dyfodol.
Prif amcanion yr ymchwil oedd: ystyried defnyddioldeb yr Arolwg Cenedlaethol ar gyfer adrodd ar grwpiau cydraddoldeb yng Nghymru; ac i gynnal dadansoddiad i weld a yw cyfuno data yr Arolwg Cenedlaethol dros sawl blwyddyn yn gwella defnyddioldeb.
Dull
Roedd dwy ran i’r fethodoleg, sef asesiad desg o’r Arolwg Cenedlaethol a dadansoddiad cyfunol ar nodweddion cydraddoldeb. Fe wnaeth yr asesiad desg gymharu cwestiynau cydraddoldeb diweddaraf yr Arolwg Cenedlaethol â safonau wedi’u cysoni sy’n bodoli ar hyn o bryd a data Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru.
Fe wnaeth y dadansoddiad cyfunol gyfuno pedair blynedd o ddata’r Arolwg Cenedlaethol (2016 i 2017 i 2019 i 2020) ar bedwar Dangosydd Cenedlaethol. Defnyddiwyd y Dangosyddion Cenedlaethol hyn am eu bod wedi cael eu casglu ym mhob un o flynyddoedd yr arolwg, gan roi’r sampl gyfunol fwyaf. Fe helpodd hyn i asesu a yw cyfuno’n gwella ansawdd dadansoddiad o ddata cydraddoldeb.
Roedd yr asesiad desg yn gyfyngedig gan na chafodd safonau wedi’u cysoni eu hasesu yn erbyn llenyddiaeth academaidd na defnydd gan lywodraethau y tu hwnt i Brydain Fawr. Mae cyfnodau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a’r Arolwg Cenedlaethol yn wahanol felly ni ellir eu cymharu’n uniongyrchol, ac nid yw’r dadansoddiad data cyfunol yn archwilio ystod o newidynnau, felly mae’r casgliadau’n gyfyngedig i’r Dangosyddion Cenedlaethol. Serch hynny, mae’n debygol y byddai’r casgliadau’n dal yn gywir, ac mae’n debygol bod heriau’n fwy i bynciau a gynhwysir yn llai mynych ac a ofynnir dim ond i is-set o bobl.
Canfyddiadau
Adolygiad o’r arolwg: Sut y cesglir gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig a sut y mae’n cymharu â data Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru
Gan bod yr Arolwg Cenedlaethol yn seiliedig ar sampl a ddewisir ar hap, gall canlyniadau’r arolwg fod yn wahanol i’r ‘gwir’ werth tebygol ar gyfer y boblogaeth (hynny yw, y ffigwr y byddem yn ei gael pe bai’r arolwg yn cynnwys y boblogaeth gyfan). Gallwn ddefnyddio dulliau ystadegol i gyfrifo cyfyngau hyder, a adwaenir weithiau fel y ‘ffin cyfeiliornad’, ar gyfer pob un o amcangyfrifon yr arolwg. Mae’r cyfyngau hyder o gwmpas amcangyfrif yn rhoi ystod y mae’r gwir werth ar gyfer y boblogaeth yn debygol o berthyn iddi. Felly, er enghraifft fe ganfuom wrth ymchwilio i amddifadedd materol yn ôl saith categori oedran ar gyfer data un flwyddyn, fod cyfyngau hyder yn llai na +/- 4%. Golyga hyn ein bod ni’n meddwl bod gwir ffigwr y boblogaeth yn gorwedd o fewn 4 pwynt canran i’r amcangyfrif ar gyfer y sampl. Mae cyfyngau hyder yn fwy fel rheol ar gyfer grwpiau llai o ymatebwyr. Fel llaw fer, yn yr adroddiad hwn rydym yn cyfeirio at hyn fel “llai manwl gywir”. Yn yr un modd, mae cyfyngau hyder ar gyfer grwpiau mwy o ymatebwyr yn llai fel rheol, ac rydym yn cyfeirio at hyn fel “mwy manwl gywir”.
At ddibenion y prosiect hwn, fe wnaethom ddiffinio manwl gywirdeb digonol fel cyfyngau hyder o gwmpas amcangyfrif sy’n llai na phlws neu finws 2% ar gyfer categori penodol (e.e. pobl 16 i 24 oed neu fenywod).
Prif ganfyddiadau
Newidynnau lle mae gennym ddata digon manwl gywir
Oedran
Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am oedran trwy’r dyddiad geni neu oedran adeg y pen-blwydd diwethaf, gyda’r data wedyn yn cael ei grwpio’n gategorïau oedran ar gyfer adrodd. Mae’r canlyniadau’n gyson fwy neu lai â dadansoddiadau Cyfrifiad 2021.
Anabledd
Mae’r arolwg yn gofyn dau gwestiwn sydd, o’u gofyn gyda’i gilydd, yn cyd-fynd â’r diffiniad yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan gasglu gwybodaeth am gyflyrau sy’n cyfyngu ar weithgareddau o ddydd i ddydd, yn hytrach na’r Model Cymdeithasol o Anabledd, y mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig iddo. Canfu’r Arolwg Cenedlaethol gyfran uwch o bobl anabl na Chyfrifiad 2021.
Priodas a phartneriaeth sifil
Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth am statws priodasol gyda chategorïau sy’n cyfateb gan mwyaf i’r safon wedi’i chysoni. Mae’r canlyniadau’n debyg yn fras i Gyfrifiad 2021.
Rhyw
Mae canllawiau sy’n ymwneud â chwestiynau mewn arolygon am ryw a rhywedd wedi cael eu datblygu a’u mireinio ymhellach dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys diweddariadau i’r safon wedi’i chysoni. Adlewyrchir y datblygiadau hyn mewn newidiadau a wnaed yn yr Arolwg Cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae dadansoddiadau yn ôl rhyw yn debyg yn fras rhwng yr Arolwg Cenedlaethol a Chyfrifiad 2021.
Newidynnau lle nad oes gennym ddata digon manwl gywir
Beichiogrwydd a mamolaeth
Cesglir data ar feichiogrwydd, ond ni chesglir gwybodaeth am famolaeth. Nid oes safon wedi’i chysoni ar gyfer beichiogrwydd na mamolaeth. Casglodd Cyfrifiad 2021 wybodaeth am absenoldeb mamolaeth ond nid am feichiogrwydd, felly nid oedd hi’n bosibl dwyn cymariaethau.
Priodas a phartneriaeth sifil
Er bod statws priodasol yn gallu cael ei ddadansoddi’n weddol fanwl gywir, ceir diffyg manwl gywirdeb yn y categori Partneriaeth Sifil a’r categori wedi gwahanu
Math o aelwyd
Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth am y math o aelwyd ac ar y cyfan mae hon yn weddol fanwl gywir. Fodd bynnag, roedd gan rai categorïau gyfyngau hyder mawr ac roedd gan y categori ‘pensiynwyr sy’n gwpl priod’ samplau bach iawn ac felly ni ddangoswyd y categori hwn.
Hil a ethnigrwydd
Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol, yn hytrach na hil, gan ddilyn y ddwy safon wedi'i chysoni. Mae data ethnigrwydd yn cael ei gyhoeddi ac mae’n debyg i ganlyniadau Cyfrifiad 2021. Nid yw data hunaniaeth genedlaethol o’r Arolwg Cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi’n rheolaidd ond mae ar gael ar gais.
Crefydd a chred
Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am grefydd ond nid cred. Mae’r ffordd y cesglir gwybodaeth am grefydd yn dilyn y safon wedi’i chysoni. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn dangos mai’r grŵp mwyaf yw pobl â ‘dim crefydd’, tra bo Cyfrifiad 2021 yn dangos mai ‘Cristnogion’ ydyw.
Ailbennu rhywedd
Nid yw’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu data ailbennu rhywedd; felly, ni ddygwyd unrhyw Gymariaethau â’r Cyfrifiad.
Cyfeiriadedd rhywiol
Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn dilyn y safonau wedi’u cysoni; fodd bynnag, mae hyn yn wahanol i’r cwestiwn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021. Mae data cyfeiriadedd rhywiol yn yr Arolwg Cenedlaethol yn debyg yn fras i Gyfrifiad 2021.
Dadansoddiad cyfunol
Mae cyfuno pedair blynedd o ddata’n ei gwneud yn bosibl defnyddio samplau mwy a chael mwy o fanwl gywirdeb. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl cynnal dadansoddiad mwy gronynnog o rai nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig yn ôl Dangosyddion Cenedlaethol. Ni thrafodir oedran, rhyw ac anabledd isod gan bod y manwl gywirdeb yn addas mewn data un flwyddyn; fodd bynnag fe wnaeth cyfuno data gynyddu hyn ymhellach, ac fe drafodir hyn yn y prif adroddiad. Mae meintiau samplau bychain yn dal i fod yn broblem ar gyfer rhai nodweddion gan olygu nad yw dadansoddiad gronynnog cadarn, yn enwedig ar gyfer ethnigrwydd, crefydd a chyfeiriadedd rhywiol, yn bosibl.
Priodas a phartneriaeth sifil
Roedd diffyg manwl gywirdeb mewn dadansoddiadau un flwyddyn o statws priodasol a phartneriaeth sifil yn ôl Dangosyddion Cenedlaethol. Fe wnaeth cyfuno data wella hyn, ond roedd meintiau samplau’n dal yn rhy fach i ddarparu data manwl gywir ar bartneriaethau sifil.
Math o aelwyd
Yn gyffredinol, gellir dadansoddi mathau o aelwydydd yn ôl Dangosyddion Cenedlaethol mewn data un flwyddyn mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r boblogaeth, ond roedd gan rai is-gategorïau fanwl gywirdeb isel a meintiau samplau bychain a wellwyd yn fawr trwy gyfuno data.
Beichiogrwydd a mamolaeth
Gofynnir cwestiwn am feichiogrwydd i fenywod o oedran esgor sydd yn hanner yr ymatebwyr y gofynnir iddynt am Fynegai Màs y Corff. O ystyried y gyfran fach o’r boblogaeth sy’n feichiog ar unrhyw adeg benodol mae hyn yn golygu, hyd yn oed wrth gyfuno 4 blynedd o ddata, bod samplau’n rhy fach. Yn sgîl y cyfyngiadau hyn ar y data, ni wnaed gwaith dadansoddi.
Hil a ethnigrwydd
Nid oedd meintiau samplau un flwyddyn yn ddigon mawr ar gyfer gwaith dadansoddi cadarn y tu hwnt i dri grŵp lefel-uchel gyda chyfyngau hyder mawr. Wrth gyfuno data roedd hi’n bosibl adrodd ar bum categori. Fodd bynnag, roedd data’n dal yn weddol anfanwl gan olygu na ellir dadansoddi Dangosyddion Cenedlaethol yn fanwl gywir yn ôl grwpiau ethnigrwydd manwl.
Crefydd a gred
Dim ond i mewn i dri chategori y gellir grwpio data un flwyddyn ar grefydd, oherwydd meintiau samplau bychain. Wrth gyfuno data roedd hi’n bosibl cynhyrchu pedwar o’r wyth categori crefydd a ddymunid. Fe wnaeth cyfuno data wella manwl gywirdeb; fodd bynnag, roedd rhai categorïau’n dal i fod â chyfyngau hyder mwy.
Cyfeiriadedd rhywiol
Fe ddarparodd data un flwyddyn ddadansoddiadau anfanwl mewn dau gategori. Wrth gyfuno pedair blynedd roedd hi’n bosibl dadansoddi’r data mewn pedwar categori, gan wella gronynogrwydd; fodd bynnag, roedd y casgliadau’n dal yn gyfyngedig o ran manwl gywirdeb.
Casgliad ac argymhellion
Dangoswyd bod cyfuno pedair blynedd o ddata yn cynyddu maint sampl o nodweddion gwarchodedig penodol, yn gyffredinol, yn gwella manwl gywirdeb y canlyniadau. Er mwyn gwneud y mwyaf o'r data posibl ar gyfer dadansoddi, yn enwedig wrth gyfuno, mae'n allweddol ystyried gofyn cwestiynau sy'n sail i Ddangosyddion Cenedlaethol i fwy o ymatebwyr yr Arolwg Cenedlaethol, yn enwedig y rhai o grwpiau cydraddoldeb sydd wedi'u tangynrychioli. Dylid cydbwyso hyn ag ystyriaethau ynghylch cyfyngu ar orlwytho'r grwpiau hyn. Fodd bynnag, mae yna gategorïau lle nad yw cyfuno hyd yn oed pedair blynedd o ddata yn cynhyrchu digon o sampl ar gyfer data cadarn felly mae angen camau pellach.
Er mwyn gwella manwl gywirdeb y canlyniadau ar gyfer yr is-grwpiau llai, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru archwilio opsiynau ar gyfer hwb sampl wedi'u targedu ar gyfer grwpiau cydraddoldeb penodol a phosibiliadau o gysylltu data pellach sy'n dal nodweddion cydraddoldeb ychwanegol fel y gall dadansoddiad gwmpasu ystod ehangach o nodweddion. Gellir dod o hyd i restr lawn o argymhellion yn y prif adroddiad.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Owens, A., Gibson, J; Poole, J
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Victoria Saynor
Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Yr Is-adran Tystiolaeth a Chymorth Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 60/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-010-2

