Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, becyn gwerth £120 miliwn i ariannu cynlluniau uchelgeisiol Cymru i barhau i leihau amseroedd aros a rhestrau aros eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid newydd yn helpu'r GIG i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn yr ymgyrch i leihau'r amseroedd aros hiraf am driniaeth wedi’i gynllunio.

Mae'r cynllun adfer newydd ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn nodi ein huchelgais i wneud y canlynol:

  • lleihau maint y rhestr aros yn gyffredinol gan 200,000
  • cael gwared ar bob amser aros dwy flynedd
  • adfer yr amseroedd aros diagnostig, gan eu lleihau i lai nag 8 wythnos erbyn mis Mawrth 2026

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

Mynd i'r afael ag amseroedd aros yw ein prif flaenoriaeth.

Rydyn ni wedi gweld yr amseroedd aros hir yn gostwng ddwy ran o dair yn ystod y 4 mis diwethaf. Byddwn ni'n adeiladu ar y cynnydd hwn ac yn mynd yn bellach.

Bydd y cyllid ychwanegol yn helpu i gyflawni'r hyn y mae pobl ei eisiau - cael triniaeth yn gynt.

Bydd y cyllid newydd yn darparu mwy o apwyntiadau i gleifion allanol, mwy o brofion diagnostig, a mwy o driniaethau, gan gynnwys dros 20,000 o lawdriniaethau cataract.

Ochr yn ochr â'r arian newydd, bydd disgwyl i bob bwrdd iechyd wneud newidiadau i’w ffordd o ddarparu gwasanaethau, gan gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd a lleihau amrywiadau.

Galluogwyr yw’r gofynion hyn sy'n cael eu nodi yn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer gofal a gynlluniwyd, ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • lleihau nifer yr apwyntiadau dilynol sy'n cael eu trefnu'n awtomatig, ac yn lle hynny caniatáu i bobl drefnu apwyntiad dim ond os oes angen iddynt weld meddyg
  • cael o leiaf saith triniaeth cataract ar bob rhestr, fel safon, erbyn diwedd Medi 2025
  • symleiddio llwybrau a chael gwared ar gamau nad ydynt yn ychwanegu gwerth sydd o fudd i daith gofal iechyd y claf

Ychwanegodd Mr Miles:

Dw i'n benderfynol o weithio gyda'r byrddau iechyd i sicrhau bod y GIG yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy er budd pobl Cymru.

Bydd y gwelliannau hyn i wasanaethau, ynghyd â'r cyllid ychwanegol, yn helpu i wella mynediad at ofal wedi’i gynllunio ar gyfer y claf.