Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Yr wythnos hon, rydym yn nodi Wythnos Ffoaduriaid 2025 – cyfle i fyfyrio ar gryfder a gwytnwch pobl sy'n chwilio am noddfa, a'r cyfraniadau enfawr y maent yn eu gwneud i fywyd yng Nghymru ac yn ein cymunedau ledled Cymru.
Thema Wythnos Ffoaduriaid eleni yw 'Cymuned fel Uwch-bŵer'. Mae'n neges addas i Gymru, lle mae cymunedau ledled Cymru yn gyson yn mynd y tu hwnt er mwyn rhoi croeso cynnes a chefnogaeth ymarferol i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Mae llawer o hyn yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr, ac fe wnaethom ddathlu hyn yn gynharach y mis hwn fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr.
Un enghraifft bwerus o hyn oedd ymateb cymunedau ledled Cymru a agorodd eu cartrefi i bobl oedd yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Mae'r haelioni hwn yn adlewyrchu'r un tosturi a welsom yn cael ei roi dro ar ôl tro i'r rhai sy'n ceisio noddfa o sawl rhan o'r byd. Mae'n ein hatgoffa bod ein cryfder mwyaf i’w ganfod yn y caredigrwydd a'r undod a ddangosir ar draws ein cymunedau, waeth o ble mae rhywun yn dod.
Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o fod yn noddfa. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gadarn i'n gweledigaeth Cenedl Noddfa, fel nodir yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol – Cymru lle mae pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn cael eu trin gydag urddas, parch a dyngarwch.
Daeth y weledigaeth honno yn fyw mewn ffordd mor bwerus yn ystod y Gwobrau Cenedl Noddfa diweddar, y cefais yr anrhydedd o’u mynychu. Roedd y noson yn ddathliad o'r unigolion a'r sefydliadau anhygoel sy'n gweithio i wneud Cymru'n genedl wirioneddol groesawgar. Cefais fy ysbrydoli'n fawr gan yr ymrwymiad, y tosturi a'r dewrder a ddangoswyd gan bawb yno. Llongyfarchiadau i holl enillwyr a theilyngwyr eleni. Roedd y safon trwyddi draw yn anhygoel o uchel - mae pob unigolyn a sefydliad gafodd eu cydnabod wedi gwneud cyfraniad eithriadol at gefnogi noddfa yng Nghymru. Mae pob un yn haeddu cael ei ddathlu, ac rydym yn ddiolchgar am ymroddiad a dylanwad pawb sy'n cymryd rhan.
Mae ein dull gweithredu wedi'i wreiddio mewn partneriaeth, tosturi ac ymrwymiad hirdymor. Gwyddom na fyddai unrhyw beth o hyn yn bosibl heb ymroddiad gwirfoddolwyr, sefydliadau'r trydydd sector, awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau cymunedol ledled Cymru.
Mae sesiynau gwaith coed ac uwchgylchu wythnosol yng Ngogledd Cymru a chymorth geni ac ôl-enedigol sy'n sensitif yn ddiwylliannol yng Nghaerdydd yn ddwy enghraifft o'r gwaith hanfodol ar lawr gwlad a gaiff eu cefnogi drwy grantiau diweddar. Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi chwarae rôl allweddol wrth gynnig gwersi dysgu Saesneg, mentora, cymorth cyflogadwyedd, ac ymgysylltu â'r gymuned ehangach – gan gynorthwyo pobl sy'n chwilio am noddfa i deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cefnogi a'u grymuso i ffynnu fel rhan o gymdeithas Cymru.
Ar adeg o ansefydlogrwydd cynyddol ac argyfyngau dyngarol yn fyd-eang, mae Wythnos Ffoaduriaid yn gyfle amserol i atgoffa bod croesawu'r rhai mewn angen nid yn unig y peth iawn i’w wneud - mae'n ein cryfhau ni i gyd. Does dim lle i gasineb, gwahaniaethu na rhaniad yng Nghymru. Byddwn yn parhau i sefyll dros ein gwerthoedd ac yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl ddiogel, gynhwysol a thosturiol i bawb.
