Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £2 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi i gefnogi tri phrosiect adfywio mawr ym Mangor wrth i'r ddinas ddathlu ei phen-blwydd yn 1500 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r prosiectau hyn yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i drawsnewid canol trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan greu mannau trefol cynaliadwy sy'n cefnogi economïau lleol, yn gwella lles, ac yn meithrin cysylltiad cymunedol.

Bydd y cyllid yn sicrhau hen adeilad Debenhams, gyda chynlluniau ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd a mentrau gwyrddu canol y ddinas fel rhan o ddathliadau pen-blwydd carreg filltir Bangor. Mae cyllid eisoes wedi cefnogi adnewyddiadau i Barc y Coleg a agorwyd yn ddiweddar, gan gryfhau cysylltiadau rhwng canol y ddinas a Phrifysgol Bangor, a darparu lle hygyrch a hawdd ei ddefnyddio i'r gymuned gyfan.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad i adfywio canol dinas Bangor yn ystod y flwyddyn ben-blwydd hanesyddol hon.

Bydd y prosiectau hyn nid yn unig yn trawsnewid mannau gwag ac yn gwella cysylltedd, ond hefyd yn gwella cyfleoedd lles i drigolion ac ymwelwyr lleol.

Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi'i chynllunio i greu canolfannau trefol cynaliadwy, deniadol sy'n diwallu anghenion cymunedau ledled Cymru. Ym Mangor, rydym yn cefnogi prosiectau a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, yn gwella mynediad at wasanaethau hanfodol, ac yn creu mannau cyhoeddus gwyrddach, mwy croesawgar y gall pawb eu mwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi:

Rydym wrth ein bodd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’r rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae’r gefnogaeth hon yn caniatáu inni symud ymlaen â phrosiectau allweddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Fangor.

Bydd mentrau fel ailddatblygu Parc y Coleg yn darparu gofod cyhoeddus o ansawdd uchel a fydd o fudd i drigolion lleol a myfyrwyr. Mae’r prosiectau hyn nid yn unig yn cefnogi adfywiad y ddinas, ond maent hefyd yn rhan addas o ddathliadau 1500fed pen-blwydd Bangor.