Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau seilwaith ar raddfa fawr yn gynt, gan sicrhau hefyd bod cymunedau yn cael cyfleoedd priodol i gymryd rhan yn llawn yn y broses a bod ein hamgylchedd yn cael ei ddiogelu.
Er mwyn helpu i gyflawni'r uchelgais hon, ddoe, gosodais bum darn o ddeddfwriaeth ar gyfer rhoi'r broses gydsynio a nodir gan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 ar waith. Mae'r Ddeddf yn sefydlu proses gydsynio newydd ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru, gan gynnwys prosiectau ynni, gwastraff, dŵr a thrafnidiaeth.
Mae'r rheoliadau yn nodi'r manylion sy'n sail i'r darpariaethau a ddarperir yn y Ddeddf ac maent wedi cael eu llywio gan ein gwaith ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Maent wedi'u dylunio i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y broses gydsynio newydd ar gyfer seilwaith yn diwallu anghenion yr holl randdeiliaid yng Nghymru.
Mae Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025 yn cychwyn darpariaethau o fewn y Ddeddf.
Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a'r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnal gweithdrefnau cyn gwneud cais ar brosiect seilwaith arwyddocaol arfaethedig ac yn nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn prosesu cais a gyflwynir iddynt.
Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer archwilio ceisiadau seilwaith gan yr awdurdod archwilio a'r prosesau gwneud penderfyniadau sydd i'w cynnal ar y ceisiadau hynny.
Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus godi ffioedd ar ymgeiswyr am eu swyddogaethau wrth benderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith.
Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025 yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithdrefnau ychwanegol ar gyfer caniatáu caffael tir neu hawliau dros dir yn orfodol fel rhan o orchymyn cydsyniad seilwaith
Mae Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn gwneud darpariaeth ynghylch materion sydd y tu allan i'r brif broses ond sydd yn hanfodol i sicrhau bod y Ddeddf Seilwaith a'r broses gydsynio newydd yn cael eu rhoi ar waith yn briodol.
