Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Ym mis Ebrill nodais fwriadau'r Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i gydgrynhoi'r gyfraith ar gynllunio. Bydd y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn cael eu cyflwyno i'r Senedd ym mis Medi 2025.
Cyn hynny, rwyf heddiw wedi cyhoeddi’r drafft gweithiol presennol o’r Bil Cynllunio (Cymru) a'i Nodiadau Esboniadol. Gobeithio y bydd rhain yn ddefnyddiol i'r Aelodau a'r rhai sydd â diddordeb yn y system gynllunio yng Nghymru ddod yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth, cyn i'r Senedd graffu yn ffurfiol ar y cynigion cydgrynhoi.
Bil Drafft Cynllunio (Cymru): https://www.llyw.cymru/cydgyfeiriad-y-gyfraith-gynllunio
