Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn ein strategaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae'n disgrifio ein llwyddiannau ar y cyd, gan weithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, y trydydd sector a gofalwyr di-dâl.

Mae'r adroddiad yn cwmpasu ein blaenoriaethau a'n cyflawniadau yn y cyfnod adrodd, Ionawr 2024 i Mawrth 2025.

Cynllun seibiant byr

Rydym wedi ariannu'r cynllun seibiant byr cenedlaethol ers 2022 ar gost o £9 miliwn. Fe wnaethom gyhoeddi £3.5 miliwn ychwanegol ym mis Chwefror 2025 i barhau â'r cynllun hwn tan fis Mawrth 2026.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy'n cael £2.2 miliwn a 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sydd gyda'i gilydd yn cael £1.3 miliwn. Mae’r seibiannau byr yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol a sefydliadau gofalwyr lleol. Ceir rhagor o fanylion yng nghynllun seibiannau byr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Mae'r cynllun seibiannau byr yn cefnogi dulliau creadigol ac unigol o roi seibiannau rhag gofalu. Gall y rhain gynnwys offer i ddilyn hobi ac aelodaeth hamdden yn ogystal â sesiynau gweithgareddau a gwibdeithiau. Fe wnaethom ddatblygu'r cynllun hwn mewn ymateb i anghenion gofalwyr di-dâl sydd wedi dweud wrthym eu bod yn aml eisiau seibiannau byrrach ac amlach. Darperir y cynllun hwn yn ychwanegol at y cymorth y mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i'w ddarparu i ofalwyr di-dâl, sy'n cynnwys seibiant.

Mae'r cynllun wedi darparu 20,000 o gyfleoedd seibiant byr i ofalwyr di-dâl o bob oed yn 2024 i 2025. Mae'r ffigurau terfynol ar gyfer 2022 i 2025 yn cael eu cyfrifo, ond mae'n amlwg y bydd hyn yn llawer iawn mwy na'r targed o 30,000 o seibiannau dros 3 blynedd.

Mae 80% o'r rhai sy'n elwa ar y cynllun yn darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. Roedd bron i hanner y gofalwyr di-dâl sydd wedi cael mynediad i'r cynllun yn anhysbys i wasanaethau o'r blaen ac felly mae gan y cynllun y fantais ychwanegol o ddarparu mynediad i wasanaethau cymorth eraill.

Fe wnaethom gomisiynu gwerthusiad annibynnol o'r cynllun, ac fe gynhaliwyd y gwerthusiad hwn gan Brifysgol Bangor. Bydd yr adroddiad terfynol ar gael yn nes ymlaen eleni, fodd bynnag, mae’r canfyddiadau cychwynnol sy’n seiliedig ar 729 o ymatebion unigol yn dangos:

  • cyn y seibiant byr, dywedodd 26% o ofalwyr mai yn anaml y maen nhw'n teimlo'n optimistaidd am y dyfodol, a gostyngodd hyn i 8% ar ôl profiad cadarnhaol o seibiant byr
  • cyn y seibiant byr, dywedodd 44% o ofalwyr eu bod yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan, gostyngodd hyn i 23% ar ôl seibiant byr
  • dywedodd 27% o ofalwyr mai ychydig o gyswllt cymdeithasol oedden nhw'n ei gael â phobl cyn y seibiant byr a gostyngodd hyn i 11% ar ôl cael seibiant byr

Y gronfa cymorth i ofalwyr

Sefydlwyd y grant cymorth i ofalwyr yn 2020 ac roedd yn rhedeg tan fis Mawrth 2022. Sefydlwyd y gronfa cymorth i ofalwyr o fis Ebrill 2022 gyda buddsoddiad o £4.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i barhau â'r gefnogaeth i ofalwyr ar incwm isel ar gyfer 2022 i 2025. Mae’r gronfa yn rhoi cymorth ariannol brys i ofalwyr di-dâl o bob oed ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol. Gellid ei ddefnyddio i brynu bwyd, eitemau ar gyfer y cartref neu i dalu biliau cyfleustodau.

Mae'r gronfa yn cael ei rheoli ar ran Llywodraeth Cymru gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn rhaglen cronfa cymorth gofalwyr Cymru ar wefan Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Mae'r cynllun hefyd yn darparu gwybodaeth gefnogi ar reoli cyllid a hawl i fudd-daliadau. Gall hyn helpu teuluoedd i gyflawni gwelliannau mwy parhaus yn eu cyllid. Roedd bron i hanner y gofalwyr di-dâl sydd wedi cael mynediad i'r cynllun yn anhysbys i wasanaethau o'r blaen a gellir nawr eu cyfeirio at fathau eraill o gymorth.

Yn 2024 i 2025 mae'r gronfa wedi cefnogi dros 11,600 o ofalwyr a thros 29,000 o ofalwyr yn 2022 i 2025. Mae hyn bron i ddwbl y targed gwreiddiol o 15,000 ar gyfer y cyfnod o dair blynedd. Mae'r cynllun yn parhau ar gyfer 2025 i 2026 gyda buddsoddiad pellach o £1.75 miliwn.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn adrodd bod y gronfa wedi bod yn rhwyd ddiogelwch hanfodol i lawer o ofalwyr sy'n wynebu caledi ariannol, lle roedd 26% o ymgeiswyr yn byw mewn tlodi a 9% mewn tlodi dwys. Mae gofalwyr di-dâl wedi dweud wrthym fod y gronfa wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol iddyn nhw a'u teulu a’u galluogi i wneud pryniant hanfodol neu dalu bil.

Cefnogi gofalwyr di-dâl ar adeg derbyn cleifion i'r ysbyty, a’u rhyddhau

Gwnaethom barhau i ddarparu £1 miliwn i fyrddau iechyd er mwyn eu cynorthwyo i gefnogi gofalwyr di-dâl pan fydd y bobl maent yn gofalu amdanynt yn cael eu derbyn i’r ysbyty neu’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Mae gan fyrddau iechyd gynlluniau a mentrau ar waith i adnabod a chefnogi gofalwyr, sy'n arbennig o bwysig pan fydd angen lefelau uwch o ofal ar adeg rhyddhau. Mae'r cyllid hwn sydd wedi'i neilltuo yn rhan o'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ac mae'n parhau ar gyfer 2025 i 2026.

Ymwybyddiaeth o ofalwyr

Rydym wedi buddsoddi £880,000 yn y rhaglen ymwybyddiaeth o ofalwyr yn 2022 i 2025. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd ar ran Llywodraeth Cymru gan Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Mae'r rhaglen wedi canolbwyntio ar gynyddu'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth i ofalwyr ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn wedi cynnwys hyfforddiant i weithwyr gofal cymdeithasol ac ymarferwyr gofal iechyd. Mae canllaw rhyddhau o'r ysbyty wedi'i gynhyrchu ar gyfer staff gofal iechyd i’w helpu i adnabod ac ymgysylltu â gofalwyr di-dâl.

Mae targedau’r rhaglen hon ar gyfer 2024 i 2025 wedi'u cyflawni ac mae'r cyllid wedi'i ymestyn i 2025 i 2026.

Grymuso a llesiant gofalwyr

Darperir y rhaglen hon gan Gofalwyr Cymru. Ei phwrpas yw hysbysu, cefnogi a grymuso gofalwyr di-dâl i ymgymryd â’u rôl ofalu ochr yn ochr â gofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Nod y rhaglen yw sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth a'r gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn iddynt.

Mae gan y rhaglen darged ar gyfer 2024 i 2025 i gyrraedd 4,500 o ofalwyr di-dâl a darparu gwybodaeth drwy sioeau teithiol, taflenni, fideos a phresenoldeb cynhwysfawr ar y wefan. Rhagorwyd ar y targed hwn gan gyrraedd bron i 10,000 o ofalwyr di-dâl.

Mae ymgyrch ymwybyddiaeth ar hawliau gofalwyr yn y gwaith ac absenoldeb i ofalwyr ar y gweill, ochr yn ochr â hyrwyddo'r canllaw i ofalwyr sy'n gweithio. Mae'r prosiect hwn wedi rhagori ar ei darged ar gyfer darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth i ofalwyr di-dâl.

Modelau gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Darperir y rhaglen hon gan Age Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddatblygu modelau i adnabod a diwallu anghenion gofalwyr hŷn yn well. Mae targedau’r prosiect hwn ar gyfer 2024 i 2025 wedi'u cyflawni, gan gynnwys cyllid i 5 sefydliad i gynnal sesiynau cymheiriaid, rhai yn cynnwys defnyddio technoleg realiti rhithwir.

Mae hyfforddiant wedi’i roi i staff ysbyty i gefnogi cyfranogiad gofalwyr di-dâl a chefnogaeth wrth ryddhau, a chynhyrchwyd canllaw gwybodaeth.

Cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr ifanc

Mae'r cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc yn gweithredu ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'n ddull allweddol o helpu gofalwyr ifanc i roi gwybod i:

  • athrawon a staff mewn ysgolion a cholegau
  • meddyg teulu neu fferyllydd

eu bod yn ofalwr ifanc. Fe wnaethom gynhyrchu astudiaethau achos o arferion da, posteri a negeseuon cyfryngau cymdeithasol a anfonwyd at awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr i hyrwyddo ymwybyddiaeth a defnydd o'r cerdyn.

Rydym wedi ariannu cyfres o adnoddau wedi'u diweddaru ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofalwyr ifanc mewn ysgolion. Mae'r rhain wedi'u dosbarthu i ysgolion.

Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu grŵp amlasiantaeth strategol fel rhan o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl i fwrw ymlaen â'n blaenoriaethau ar gyfer gofalwyr ifanc yn 2025 i 2026.

Cynrychiolaeth gofalwyr

Rydym yn parhau i gefnogi Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd yn 2022. Mae'r bwrdd yn cynnwys gofalwyr ifanc yn unig ac mae'n darparu adnodd gwerthfawr i graffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru a llywio ystyriaethau polisi o safbwynt gofalwyr ifanc. Plant yng Nghymru sydd wedi bod yn cynnal y bwrdd ac mae wedi'i drosglwyddo i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ers mis Ebrill 2025.

Mae gofalwyr unigol di-dâl (oedolion a gofalwyr ifanc) yn parhau i fod yn aelodau o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Mae'n hanfodol bod gofalwyr di-dâl, a'u cynrychiolwyr, yn cyfrannu'n helaeth at ddatblygu a goruchwylio polisïau.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth ac asesiadau o anghenion gofalwyr

Yn flaenorol fe wnaethom gomisiynu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gynnal adolygiad o sut roedd hawliau gofalwyr di-dâl yn cael eu cynnal yn ystod ac ar ôl y pandemig. Nododd eu hadroddiad sawl maes i'w gwella, gan gynnwys:

  • darparu gwybodaeth
  • cyngor a chymorth
  • mynediad at asesiadau anghenion gofalwyr

O dan nawdd Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, rydym yn gweithio gydag uwch arweinwyr mewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ysgogi gwelliannau cenedlaethol mewn arferion gorau. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.