Neidio i'r prif gynnwy

Gair gan y Gweinidog

Mae cyflwyno'r ddogfen hon i chi yn foment bwysig iawn yn hanes amaethyddiaeth Cymru.

Bydd yr hyn rydych chi'n ei ddarllen, ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn helpu ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ac i ofalu am yr amgylchedd, addasu i'r newid yn yr hinsawdd a magu gwytnwch pawb fydd yn gweithio'r tir gwerthfawr hwn, ac y gofalu amdano, yn y blynyddoedd i ddod. 

Ein huchelgais yw gweld sector amaethyddol ffyniannus a hyderus yng Nghymru, sy'n dibynnu ar arloesedd a thwf, i wynebu heriau a manteisio ar unrhyw gyfleoedd.

Mae'r ddogfen hon yn ffrwyth cydweithredu. Rydyn ni wedi gwrando ar sawl safbwynt ac wedi cyflwyno rhywbeth sydd yn ein barn ni yn gweithio er eich lles chi, y diwydiant amaethyddol ac yn diwallu anghenion pawb yng Nghymru.

Hoffem ddiolch i'r rhai a ymatebodd i ymgynghoriadau ac a ddaeth i'n cyfarfodydd ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar i holl aelodau'r Ford Gron Gweinidogion a'r Gweithgorau cysylltiedig am eu cyfraniad, ac i ffermwyr sydd wedi croesawu Gweinidogion a swyddogion i'w ffermydd. 

Rydyn ni wedi gwrando, a byddwn yn parhau i wrando wrth i ni ddatblygu a chryfhau'r cynllun hwn yn y blynyddoedd i ddod. 

Rydyn ni'n cydnabod nad oes dwy fferm yr un peth, felly rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cynllun ar gael yn rhwydd i bawb. Mae'n cynnig yr hyblygrwydd i allu cynnig helpu gwahanol fathau o ffermydd a systemau ffermio ac mae'n wirioneddol hygyrch i denantiaid, ffermwyr newydd a ffermwyr ifanc sydd â thir i'w weithio.

Fe welwch o'r ddogfen hon ein bod wedi symleiddio'r cynllun trwy leihau nifer y Gweithredoedd Cyffredinol. Rydyn ni wedi gwrando hefyd a newid ein safbwynt ar goed a nifer o feysydd eraill i wneud yn siŵr bod y Gweithredoedd yn ymarferol i bawb. 

Nid yw newid byth yn hawdd a gall godi ofn mawr. Mae'r cynllun hwn yn wahanol iawn i'r Cynllun Taliad Sylfaenol, ond mae'n newid yr ydym yn credu y bydd yn dda o safbwynt ffermio, cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd. 

Gobeithio y bydd y rhan fwyaf o ffermwyr yn ymuno â'r cynllun. Rydyn ni'n credu'n gryf y bydd yn rhoi sefydlogrwydd ac yn helpu busnesau fferm i fod yn fwy gwydn a chynhyrchiol drwy wella iechyd pridd ac iechyd a lles anifeiliaid, rheoli plâu a datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd ar ystod o bynciau er lles eich busnes.

Mae'n amlwg bod pobl Cymru yn trysori ffermwyr a chymunedau ffermio.

Maen nhw'n deall rôl ffermwyr wrth feithrin a gwarchod y tir a'r Gymraeg, gan roi ein bwyd byd-enwog o ansawdd uchel ar ein byrddau tra'n diogelu ac adfer y cynefinoedd bregus sy'n bodoli yma yn y wlad hardd hon.

Ond mae rhagor sydd angen ei wneud. Mae tywydd gwlyb eithafol a'r risg mawr o sychder, sy'n effeithio arnoch chi fel ffermwyr, yn arwyddion bod yr argyfyngau hinsawdd a natur wedi cyrraedd. 

Mae pobl Cymru am wybod bod yr arian rydyn ni'n ei fuddsoddi yn nyfodol amaethyddiaeth Cymru yn sicrhau'r manteision maen nhw am eu gweld. Maen nhw am i ni helpu ffermio yng Nghymru, ac maen nhw hefyd am weld priddoedd yn cael eu diogelu, ansawdd dŵr yn ein hafonydd yn cael ei wella, mynediad i gefn gwlad a chefnogaeth i natur.

Gyda golwg ar hyn, mae'r Cynllun yn gytundeb newydd rhwng pobl Cymru a'n ffermwyr a pherchenogion ein tir. 

Nid Cynllun i ffermwyr yn unig yw hwn: mae hwn yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan – Cynllun fferm gyfan, cynllun gwlad gyfan.

Mae'n ddyddiau anodd ar gymunedau gwledig lle mae ffermio nid yn unig yn fywoliaeth, mae'n ffordd o fyw. 

Bydd y cynllun yn cefnogi diwydiant ffermio ffyniannus, cynhyrchiol a chynaliadwy yng Nghymru i gynnal y cymunedau hyn. 

Mae buddsoddi yn ein priddoedd a'n hafonydd, yn iechyd ein da byw, ac yn ein cynefinoedd a'n coetiroedd i gyd yn golygu hwb i'n gallu i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol. Bydd y cynllun hefyd yn magu gallu ffermwyr i ddelio â’r argyfyngau hinsawdd a natur, gyda'n gilydd. 

Bydd yr Haen Gyffredinol, a'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol, yn helpu ffermwyr i wneud mwy er lles eu busnes, i gynhyrchu mwy a bod yn fwy effeithlon a bydd yn eu rhoi mewn sefyllfa gryfach i ddiwallu anghenion cynyddol cwsmeriaid. Hyn oll a gwneud mwy dros natur a'n cefn gwlad hefyd.

Ein bwriad yw rhoi i'r Haen Gyffredinol yn 2026 yr un faint o arian a gafodd y BPS eleni. Rydyn ni'n gwneud y buddsoddiad sylweddol hwn i roi sefydlogrwydd i ffermwyr er mwyn ichi allu cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i gefnogi arloesedd a datblygiad parhaus o fewn y diwydiant. 

Rydyn ni'n credu'n gryf yn y cynllun hwn. 

Yr hyn rydych chi'n ei weld o'ch blaen yw llywodraeth sy'n bleidiol i ddyfodol ffermio a chynhyrchu bwyd, gan wneud hynny mewn ffordd a fydd yn eich helpu i fynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddyn nhw, gwella'r amgylchedd a diogelu ein cefn gwlad am genedlaethau i ddod.

Crynodeb gweithredol

Mae'r ddogfen hon yn disgrifio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2026. Nid ymgynghoriad mohoni. Mae'r ddogfen hon yn nodi gofynion y cynllun a'r cyfraddau talu y byddwn yn eu talu, i chi wybod beth sydd angen i chi ei wneud i fod yn rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026. 

Dyma ddechrau rhaglen hirdymor newydd i gefnogi'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw cefnogi ffermwyr i barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac ar yr un pryd, i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae hyn yn hanfodol i ni allu cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.   

Rydych chi wedi gofyn i ni am fanylion y cynllun, felly mae hon yn ddogfen hir. Er y byddai'n ddefnyddiol ichi ddeall y cynllun cyfan, efallai y bydd rhai elfennau fydd yn amherthnasol i chi felly gallwch ddewis peidio â darllen rhai penodau.   

Yn ein pennod agoriadol rydym yn rhoi cefndir y cynllun. Rydym yn cadarnhau strwythur  y cynllun gan gynnwys yr Haenau Cyffredinol, Opsiynol a Chydweithredol a gofynion y cynllun sy’n sail iddyn nhw. Rydym wedi crynhoi rhai o'r newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud wrth lunio'r cynllun ar y cyd â'r diwydiant amaethyddol. 

Ym Mhennod 2 rydym yn cadarnhau'r meini prawf y bydd yn rhaid ichi eu bodloni i ymuno â'r cynllun, a'r tir y gellir ei gynnwys yn y cynllun. 

Ym Mhennod 3 rydym yn cadarnhau gofynion y cynllun sy'n sail i'r Cynllun. Maen nhw’n cynnwys sylfaen reoleiddio’r SFS sy'n cynnwys set o reoliadau y bydd y rhan fwyaf ohonoch chi eisoes yn gyfarwydd â nhw. Mae gofynion y cynllun hefyd yn cynnwys 'Cod i Bawb' sy'n fframwaith o ofynion heb reoliadau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu pridd, bioamrywiaeth, coed a nodweddion y dirwedd. Un o ofynion y cynllun yw bod o leiaf 10% o bob fferm yn gynefin, a bod pob fferm yn ymgymryd â llinell sylfaen carbon ar lefel fferm. 

Mae Pennod 4 yn disgrifio manylion y 12 Gweithred Gyffredinol y gofynnir i bob busnes fferm eu cynnal. Ar gyfer pob gweithred rydym wedi cynnwys disgrifiad o'r manteision a fwriedir, y gweithgareddau penodol y gofynnir i chi eu cynnal, a gwybodaeth am ddyddiadau cau a'r dystiolaeth sydd ei hangen i brofi bod pob gweithred wedi'i gwneud. Chewch chi ddim dewis pa Weithredoedd Cyffredinol y cewch eu gwneud, ond fydd rhai gweithredoedd ddim yn berthnasol i bob fferm.   

Mae Penodau 5 a 6 yn esbonio Haenau Opsiynol a Chydweithredol gwirfoddol y cynllun. Bydd ystod eang o weithredoedd y cewch ddewis ohonynt, ac maen nhw wedi'u rhannu mewn cyfres o themâu sy'n esbonio pam eu bod wedi'u cynnwys.   

Mae Pennod 7 yn disgrifio ein cymorth ar gyfer tir comin - i borwyr unigol, ac i grwpiau o borwyr fel Gweithred Gydweithredol. Os nad oes gennych hawliau tir comin neu os nad ydych yn eu defnyddio, gallwch anwybyddu'r bennod hon.

Mae Pennod 8 yn esbonio strwythur talu a chyfraddau talu Haen Gyffredinol y cynllun. Bydd taliadau Haenau Opsiynol a Chydweithredol y cynllun yn cael eu cyhoeddi gyda'r broses ymgeisio. 

Testun Pennod 9 yw sut y caiff y cynllun ei weinyddu. Mae'n esbonio sut i gofrestru a gwneud cais trwy RPW Ar-lein, a'r prosesau dilysu, talu ac apelio. 

Mae Pennod 10 yn cynnwys disgrifiad o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso effaith gyffredinol y cynllun. Nid oes gwybodaeth yn y bennod hon y mae'n rhaid ichi ei gwybod i allu cymryd rhan yn y cynllun, felly gallwch ddewis peidio â'i darllen. 

Mae Pennod 11 yn esbonio beth sydd angen ichi ei wybod os byddwch yn dewis aros gyda'r Cynllun Taliad Sylfaenol yn 2026 yn hytrach nag ymuno â'r SFS. Mae hyn yn cynnwys sut y bydd BPS yn cael ei leihau dros y cyfnod pontio.   

Mae Pennod 12 yn disgrifio'r ddeddfwriaeth ychwanegol er mwyn i Lywodraeth Cymru allu gweinyddu'r cynllun. Nid oes gwybodaeth yn y bennod hon y mae'n rhaid ichi ei gwybod i allu cymryd rhan yn y cynllun, felly gallwch ddewis peidio â'i darllen. 

Mae'r ddogfen yn cynnwys hefyd sawl atodiad technegol. Mae'r rhain yn cynnwys dadansoddiad o fanylion technegol ychwanegol rhai o ofynion y cynllun a Gweithredoedd Cyffredinol unigol.   

Pennod 1: cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer dechrau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026. Rydym wedi ailddylunio’r Cynllun yn dilyn yr ymgynghoriad yn 2023 ac ar ôl clywed barn yr undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill. Rydym wedi'i lunio i fod yn hawdd i bob ffermwr ei ddefnyddio. 

O 2026 ymlaen, gallwch ddewis naill ai ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy neu aros gyda'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) a ddaw i ben bob yn gam erbyn 2029. 

Bydd canllaw manwl i'r cynllun yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn 2025 a fydd yn cynnwys y nodiadau technegol ar gyfer holl ofynion y cynllun, gweithredoedd y cynllun, a'r dystiolaeth y bydd y cynllun yn gofyn amdani. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, neu'r 'SFS' neu'r 'cynllun' fel y byddwn yn cyfeirio ato o hyn ymlaen yn y ddogfen hon, fydd prif drefn Llywodraeth Cymru i helpu ffermwyr ac ar gyfer rheoli tir a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy o 2026 ymlaen. 

Bydd yr SFS yn dechrau ar 1 Ionawr 2026 a bydd modd gwneud cais ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF) trwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein o fis Mawrth tan 15 Mai.      

Y cefndir i lunio'r cynllun

Mae'r cynllun wedi'i greu i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd diogel o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n diwylliant a’n hunaniaeth. 

Ein huchelgais, sy'n gryfach nag erioed, yw cadw ffermwyr i ffermio ac i ofalu am eu tir. Does neb yn ei adnabod yn well. Nid oes angen dewis rhwng cynhyrchu bwyd a diogelu'r amgylchedd. Yr un peth ydyn nhw. Mae ffermio yn digwydd yn yr amgylchedd, a'r amgylchedd sy'n darparu'r amodau a'r adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu bwyd. 

Ond mae pendraw i'r adnoddau hyn, ac mae angen i ni ddechrau eu hailadeiladu. 

Rydym eisoes yn profi patrymau tymhorol mwy eithafol fel y Gwanwyn eithriadol o sych a gawsom eleni sydd wedi effeithio ar dyfiant cnydau a phorfa. Mae'r eithafion tymhorol hyn bron yn norm bellach, boed sychder, glaw mawr neu wynt, ac mae llawer o ffermwyr yn sylweddoli bod angen addasu er mwyn diogelu eu bywoliaeth a bywoliaeth cenedlaethau'r dyfodol. 

Er mwyn gwneud ein systemau bwyd a ffermio yn fwy cynaliadwy, mae angen i ni fod yn fwy cynaliadwy o safbwynt economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol hefyd. Mae gwella cynaliadwyedd yn golygu helpu ffermydd i fod yn fwy gwydn.  Mae ffermydd gwytnach yn gallu lleihau’r risgiau ac yn gallu ymadfer yn gynt ar ôl ergyd amgylcheddol neu economaidd. 

Er enghraifft, nid yw pridd wedi'i gywasgu gydag ond ychydig o ddeunydd organig ynddo yn wydn. Yn ystod cyfnod hir o sychder, does dim deunydd organig i ddal gwlybaniaeth felly bydd y glaswellt yn ei chael hi’n anodd i dyfu. Yn ystod cyfnod gwlyb hir, mae'r pridd hwnnw'n annhebygol o allu amsugno llawer o ddŵr na rheoli llif y dŵr. Mae mwy o berygl felly o lifogydd a cholli pridd – un o adnoddau pwysica'ch fferm. 

Trwy wella strwythur y pridd a chynyddu'r deunydd organig ynddo, bydd eich pridd yn gallu amsugno a rheoli dŵr yn well, gan wneud eich tir pori'n fwy gwydn fel na fydd angen ich brynu cymaint o borthiant ar gyfer eich anifeiliaid. Am y rheswm hwn, Gweithred Gyffredinol gyntaf y Cynllun yw gwella iechyd y pridd – sy'n dechrau gyda phrofion pridd. Bydd hynny, os nad ydych eisoes yn cynnal profion, yn eich helpu i ddeall eich pridd yn well a defnyddio’r wybodaeth i benderfynu beth i'w wneud i wella iechyd eich pridd. Gwella pridd yw sail pob un o'n huchelgeisiau o ran cynhyrchu bwyd, natur a hinsawdd.     

Trwy wneud eich priddoedd, eich cynefinoedd, iechyd eich da byw a'ch cnydau a'ch busnes i gyd yn fwy gwydn ac iach trwy’r Gweithredoedd Cyffredinol, daw popeth yn fwy cynaliadwy. Byddwch chi a’ch teulu ar eich ennill a’r diwydiant cyfan hefyd os bydd ffermydd o bob rhan o Gymru’n dilyn y gweithredoedd hyn. 

Er mwyn bod yn fwy gwydn a chynaliadwy, mae angen i'r diwydiant wybod am unrhyw newidiadau a bod yn barod i addasu i risgiau neu gyfleoedd newydd. Mae'r Cynllun yn hyblyg, ac yn rhoi'r sylfeini sydd eu hangen arnoch chi i allu ymateb i'r risgiau a'r cyfleoedd hyn, hynny yng nghyd-destun byd sydd fwyfwy annibynadwy. 

Mae'r ddogfen hon yn disgrifio Cynllun sydd wedi'i lunio i'ch helpu i wneud busnes eich fferm yn fwy cynaliadwy. 

Mae'n rhestru gofynion y cynllun gan gynnwys y Gweithredoedd Cyffredinol y bydd angen i chi eu bodloni i gael cymorth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.  Bydd y Taliad Cyffredinol yn darparu lefel incwm sefydlog i bob fferm yn y Cynllun. Bydd y sefydlogrwydd hwn yn rhoi cyfle i chi wneud mwy trwy Weithredoedd Opsiynol a Chydweithredol. 

Strwythur y cynllun

Gan fod angen gweithio mewn ffordd integredig ar lefel fferm i'w gwneud yn wydn ac am fod yr ymateb cynnar yn gofyn am gefnogaeth i’r fferm deuluol, rydym wedi llunio'r SFS fel cynllun i'r fferm gyfan. Byddwn yn cadw'r strwythur tair haen a ddisgrifiwyd mewn ymgynghoriadau blaenorol - yr Haen Gyffredinol, yr Haen Opsiynol a'r Haen Gydweithredol.

Yn sail i'r tair haen y bydd Sylfaen Reoleiddio'r SFS a'r Cod i Bawb. Bydd yr Haen Gyffredinol yn gweithredu fesul blwyddyn galendr ac yn cynnwys 12 Gweithred Gyffredinol, y cyfeirir atynt fel UAs o hyn ymlaen. Bydd gofyn i ffermwyr yn y cynllun fodloni pob un o'r 12 UA sy'n berthnasol i'w fferm, er mwyn cael y Taliad Cyffredinol. 

Ond gallwch gwneud mwy ac adeiladu ar y Gweithredoedd Cyffredinol trwy gynnal Gweithredoedd Opsiynol (OAs) i gymryd camau wedi'u targedu. Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i chi weithio ar y cyd â ffermwyr eraill a chynnal Gweithredoedd Cydweithredol (CAs), er enghraifft i helpu i sicrhau canlyniadau ar raddfa tirwedd, nad yw'n bosibl eu cyflawni ar un fferm. Bydd gofynion a thaliadau ychwanegol ar gael ar gyfer y gweithredoedd hyn.        

Rheoli Tir yn Gynaliadwy 

Sail cyfreithiol y cynllun yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, y 'ddeddf' fel y byddwn yn ei galw, sy'n cynnwys y pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) a nodwyd yn y ddeddf;

  • cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy
  • lliniaru'r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu; a
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, a hybu mynediad y cyhoedd iddynt ac ymgysylltiad y cyhoedd â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni

Nid yw un amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn drech na'r lleill a rhaid eu hystyried gyda'i gilydd. Maen nhw’n cydnabod, er mwyn i ni allu parhau i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol a gwarchod ein diwylliant a thirwedd gwerthfawr, bod yn rhaid mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur. Maen nhw hefyd yn adlewyrchu disgwyliadau cynyddol defnyddwyr o'r system gynhyrchu bwyd. 

Rhaid wrth amser i gyflawni'r amcanion hyn a bydd angen i ni fod yn hyblyg a pharod i addasu ym mhob cam wrth gynnal y cynllun, o benderfynu beth sy'n gweithio'n dda, i benderfynu ble mae angen rhoi mwy o sylw neu ymateb i broblemau ymarferol. 

Sut cyrhaeddon ni'r fan hon

Mae'r fersiwn derfynol hon o'r cynllun wedi'i llunio ar sail ymateb y diwydiant, gan gynnwys eich ymatebion i sawl ymgynghoriad a dau gam cyd-ddylunio. Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid, yn bennaf drwy Ford Gron Gweinidogion yr SFS.

Mae Gweithgorau wedi bod yn helpu'r Ford Gron trwy ystyried agweddau technegol ar y Cynllun, ac edrychodd y Panel Adolygu Tystiolaeth ar Atafaelu Carbon i weld a oedd tystiolaeth bod Gweithredoedd eraill a allai fod yn addas i'w cynnwys yn y cynllun ac a allai ddal carbon atmosfferig. Mae rhestr o'r aelodau i'w gweld yn Atodiad 9. 

Mae'r Cynllun wedi newid yn sylweddol trwy'r broses hon o drafod a chydweithio. Er enghraifft, fe wnaethom gynnig i ddechrau datblygu dau Gynllun ar wahân (Gwydnwch Busnes a Nwyddau Cyhoeddus) a ddatblygodd i fod yn un contract pum mlynedd ar gyfer pob fferm. Ond tynnodd ein sector tenantiaid ein sylw at y ffaith na fyddai'r Cynllun hwnnw ar gael iddyn nhw, felly fe wnaethon ni greu Haen Gyffredinol a datganiadau blynyddol. Ers yr ymgynghoriad diwethaf rydym wedi lleihau nifer yr UAs o 17 i 12 gan symleiddio’r hyn a gynigir. Rydym wedi dileu'r Gofyn bod 10% o orchudd o goed ar bob fferm. Trwy symud at gynllun sy’n eich cymell i blannu coed a pherthi/gwrychoedd, gan ddefnyddio cynllun cyfle i blannu coed a pherthi, a Haen Opsiynol sy’n cynnig cymorth ariannol hael ar gyfer plannu coed a pherthi, rydyn ni’n credu y gallwn sicrhau canlyniad gwell i bawb, yn unol ag uchelgais y Cynllun i blannu o leiaf 17,000 ha o goed newydd yng Nghymru erbyn 2030. Rydyn ni wedi datblygu’r fersiwn newydd gyda help Grŵp Cyflawni y Rhanddeiliaid Coed a Pherthi (rhestrir yr aelodau yn Atodiad 9). 

Mae'r newidiadau hyn wedi'u gwneud i greu cynllun y gall pawb ymuno ag ef, sy'n cydnabod y pethau da rydych eisoes yn eu gwneud ac yn cynnig gweithredoedd y gallwch eu cynnal drwy holl haenau'r cynllun i wneud mwy er lles eich busnes. 

Nid ymgynghoriad yw'r ddogfen hon. Er bod llawer wedi newid ers y cynigion gwreiddiol, rydym yn deall hefyd y bydd y cynllun yn esblygu dros amser i adlewyrchu blaenoriaethau neu dystiolaeth newydd, gan ychwanegu Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol newydd ac ymateb i broblemau all godi wrth roi'r cynllun ar waith. Gan mai deddfwriaeth Gymreig sy'n sail i'r cynllun, ac oherwydd haenau'r cynllun, bydd yn bosib newid agweddau arno pan fydd angen. Hefyd, y bwriad yw bod hyn yn rhoi fframwaith i ni ar gyfer rheoli a gweinyddu'r cynllun, y gall pob cymorth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys yr SFS, weithredu drwyddo, er y bydd angen deddfwriaeth gefnogol arnom.       

Mae gweddill y ddogfen hon yn disgrifio'r meini prawf i fod yn gymwys, Gofynion y Cynllun, y Gweithredoedd, y Taliad Cyffredinol, a phrosesau gweinyddol y cynllun. 

Pennod 2: pwy sy'n gymwys am y cynllun

Nid oes angen hawliau arnoch ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ac ni fydd angen ichi gadw hawliau'r Cynllun Taliad Sylfaenol.

Y prif ofyn o ran bod yn gymwys am y Cynllun yw’ch bod yn ffermwr actif. Rydym wedi dylunio'r cynllun i chwalu rhwystrau ac i helpu ffermwyr sy'n darparu buddion i gymdeithas, gan gynnwys cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. I gael y Taliad Cyffredinol, rhaid bodloni’r canlynol:

  • cynnal gweithgareddau amaethyddol neu weithgareddau ategol ar dir amaethyddol (fel y'i diffinnir gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Mae gweithgareddau ategol yn cynnwys prosesu cynhyrchion sy'n dod o amaethyddiaeth, neu gynnal gweithgareddau ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth i ddiogelu natur neu i liniaru'r newid yn yr hinsawdd neu addasu iddo.   
  • bydd gennych o leiaf dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru neu rhaid dangos i chi weithio mwy na 550 awr o lafur safonol
  • chi yw unig feddiannydd y tir ac mae gennych reolaeth lwyr arno am o leiaf 10 mis o'r flwyddyn galendr

Ffermwr Actif

Rydych chi neu'r partner(iaid) rheoli yn cynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol yn eich enw eich hun neu yn enw busnes ffermio ar eich risg eich hun. 

Rhaid eich bod yn gallu bodloni holl ofynion cymhwysedd yr SFS a bodloni Gofynion y Cynllun gan gynnwys Sylfaen Reoleiddio'r SFS, y Cod i Bawb a Gweithredoedd Cyffredinol. Rydym yn derbyn na fydd rhai Gweithredoedd Cyffredinol yn berthnasol i chi, neu y gall eich cytundeb tenantiaeth olygu nad ydych yn cael cynnal rhai ohonyn nhw. 

Pwy arall sy'n gymwys i gael taliad SFS 

Os ydych yn unigolyn neu sefydliad sy'n berchen ar dir nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth neu nad ydych yn cynnal gweithgareddau ategol arno, efallai na fyddwch yn gymwys am daliad o dan y Gweithredoedd Cyffredinol ac Opsiynol. Ond efallai y byddwch yn gallu cefnogi Gweithred Gydweithredol sy'n cyflawni amcanion SLM. Byddwn yn ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau.

Tir cymwys

Mae Haen Gyffredinol yr SFS yn gynllun ar gyfer y fferm gyfan.

Rhaid datgan yr holl dir sydd ar gael ac sy'n gymwys ar y Ffurflen Cais Sengl (SAF) flynyddol, gan gynnwys nodweddion yn y dirwedd fel prysgwydd, sgri, coetir, rhedyn, a chategorïau eraill sy'n berthnasol. 

Dylech gofnodi'r nodweddion canlynol ar y SAF hefyd, ond nid ydynt yn gymwys, ac ni fyddant yn cyfrif tuag at y tri hectar cymwys sydd eu hangen i ymuno â'r cynllun.

Disgrifiad Cod y cnwd
Pyllau (anghymwys) ZZ30 (dros 1 ha)
Afonydd a nentydd ZZ31
Adeiladau / iardiau ZZ89
Wynebau caled ZZ92
Ffyrdd ZZ94
Traciau (heb eu pori) ZZ97
Gweithgareddau anamaethyddol NO1

Ffermwyr tenant

Mae ffermwyr sy'n denantiaid wedi bod yn ystyriaeth sylfaenol wrth lunio Haen Gyffredinol y cynllun. Mae sawl UA wedi'i newid, neu'n cynnwys amrywiadau, i sicrhau bod tenantiaid yn gallu bod yn rhan o'r cynllun. Er enghraifft, os oes gan y tenant reolaeth lwyr ar y coetiroedd sy'n rhan o'i a'i fod yn cael mynd atyn nhw, mae'n gymwys i gael y Taliad Cyffredinol llawn, gan gynnwys y taliad fferm gyfan a'r taliad cynnal coetir. 

Os yw'r tenant yn cael mynd at y coetir, ond bod y coed / pren yn perthyn i berchennog y tir, bydd y tenant yn gymwys i gael y taliad fferm gyfan, ond nid y taliad cynnal coetir. 

Gweler Pennod 8 am ddisgrifiad llawn o'r Taliadau Cyffredinol.   

Dylai opsiynau o fewn UA6 Creu cynefin dros dro ar dir wedi'i wella fod yn gyson ag amodau tenantiaeth y fferm. Gan eu bod yn gynefinoedd dros dro, byddai'n afresymol i landlord wrthod caniatáu i'r tenant ymuno â'r SFS am fod gofyn iddo gynnwys cynefin dros dro mewn cylchdro cnydau.

Byddem yn eich annog i weithio gyda pherchennog y tir lle medrwch i edrych ble y gallai Gweithredoedd Opsiynol a wneir gennych chi, fel plannu coed ac adfer perth, fod yn fanteisiol i'r ddau ohonoch.

Ffermydd bob ochr i'r ffin

Os ydy busnes eich fferm yn rhychwantu'r ffin, rhaid i chi allu bodloni'r meini prawf cymhwysedd a chynnal y Gweithredoedd Cyffredinol a Gofynion y Cynllun ar eich tir yng Nghymru. 

Nid ydym yn cael talu ar dir y tu allan i Gymru, ac felly ni fyddwn yn ystyried unrhyw dir yr ydych yn ei ffermio y tu allan i Gymru ar gyfer unrhyw rai o Ofynion y Cynllun. Mae hyn yn cynnwys y tir i fodloni’r gofyn bod 10% o'ch fferm yn gynefin.  

Rydym yn deall y bydd yn rhaid ichi gynnal rhai gweithgareddau rheoli ar y fferm gyfan a byddwn yn ystyried hyn. Er enghraifft, os byddwch yn cynnal asesiad Rheolaeth Integredig ar Blâu (UA2ar eich fferm gyfan, ni fyddwn yn gofyn i chi gynnal asesiad ar wahân ar gyfer eich tir yng Nghymru. 

Pennod 3: gofynion y cynllun

Mae'r SFS yn gynllun ar gyfer y fferm gyfan. Mae'n cynnwys Haen Gyffredinol, gyda set o Weithredoedd Cyffredinol (UAs) y byddwn yn talu Taliad Cyffredinol ichi am eu cynnal. Bydd taliadau ychwanegol ar gael yn yr Haenau Opsiynol a Chydweithredol ar gyfer y ffermwyr hynny sy'n dewis gwneud mwy na'r Haen Gyffredinol. 

Mae'r cynllun tair haen hwn wedi'i adeiladu ar set o ofynion y cynllun:

  • mae Sylfaen Reoleiddio SFS yn cynnwys set o reoliadau sydd eisoes yn gyfraith ac sy'n effeithio'n benodol ar y cynllun. Mae'r sylfaen wedi'i ffurfio o'r rheoliadau a oedd o'r blaen yn rhan o'r safonau Trawsgydymffurfio a byddwch eisoes yn gyfarwydd â nhw. Rydym wedi cynnwys rheoliadau hefyd sy'n delio â mynediad y cyhoedd a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol. I helpu ffermwyr, bydd Canllawiau Rheoleiddio'n cael eu paratoi sy'n rhestru'r rheolau y bydd yn rhaid i ffermwyr gadw atyn nhw i gael taliadau SFS. Gweler Atodiad 2 am restr lawn o reoliadau sy'n ffurfio Sylfaen Reoleiddio'r SFS
     
  • mae Cod i Bawb sef fframwaith o ofynion heb reoliadau y bydd yn rhaid i bob ffermwr yn yr SFS gadw ato. Mae'r Cod i Bawb yn cynnwys gofynion ar gyfer diogelu pridd, bioamrywiaeth a chynefinoedd, coed, a nodweddion y dirwedd. Dylid ystyried y Cod i Bawb ochr yn ochr â'r UAs sy'n ceisio cynnal a gwella'r nodweddion hyn. Gweler Atodiad 2 am fwy o fanylion am y Cod i Bawb

    Y gofyn yn y cynllun i gadw 10% o bob fferm yn gynefin 

    Un o'r gofynion heb reoliad yw bod angen i o leiaf 10% o bob fferm gael ei reoli fel pe bai'n gynefin er lles bioamrywiaeth ac i gynhyrchu bwyd. Mae hon yn elfen bwysig o'r cynllun i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ar gyfer bioamrywiaeth ac i ddelio â'r argyfwng natur.

    Bydd yn seiliedig ar faint o gynefin lled-naturiol sy'n bresennol ar eich fferm (heb gynnwys Tir Comin).

    Defnyddir arwynebedd y darnau tir canlynol i gyfri'r 10%:

    • pob cynefin lled-naturiol sy'n bresennol fel y'i diffinnir yn UA5: Cynnal cynefin
    • coetir llydanddail sydd wedi cydio
    • perthi/gwrychoedd mewn cyflwr da sydd o werth arwyddocaol i fioamrywiaeth (gweler y disgrifiad o berthi yn y Cod i Bawb yn Atodiad 2)
    • cynefinoedd a sefydlwyd ers 2022 fel pyllau, coetir, perthi/gwrychoedd a choridorau ar lan nentydd
       

    Os nad oes gennych ddigon o gynefin, rhaid i chi greu digon o gynefin dros dro i gyrraedd y 10%. Darllenwch UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi'i wella ym Mhennod 4 i weld y dewisiadau sydd ar gael i chi.

    Bydd unrhyw gynefin parhaol newydd a fydd yn cael ei greu o dan yr Haen Opsiynol neu'r Haen Gydweithredol yn cyfrif tuag at y 10% ar ôl iddo gael ei sefydlu.

    Gall unrhyw newidiadau i'ch tir effeithio ar eich 10% o gynefin mewn blwyddyn unigol, felly mae angen i chi ystyried faint o gynefin sydd gennych bob blwyddyn.   

  • Gofynion yr Haen Gyffredinol a nodir yn y Gweithredoedd Cyffredinol. Mae pob Gweithred Gyffredinol yn cael ei disgrifio ym Mhennod 4 a bydd hynny'n cynnwys ei nodau a'i manteision, disgrifiad o'r gweithgaredd penodol y gofynnir i chi ei wneud, y dyddiad cau i'w chwblhau a'r dystiolaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno fel prawf bod yr UA wedi'i chwblhau. Bydd angen i chi gynnal yr holl Weithredoedd Cyffredinol sy'n berthnasol i chi a'ch fferm. Fodd bynnag, bydd ambell i Weithred Gyffredinol na fydd yn berthnasol i bob fferm. Er enghraifft, ni fydd angen i ffermydd âr gynnal UA12: Iechyd a lles anifeiliaid. 

    Mae'r atodiadau canlynol yn rhoi rhagor o fanylion rhai gweithredoedd ond bydd canllawiau technegol llawn a nodiadau technegol yn cael eu cyhoeddi am bob UA yn ddiweddarach eleni:

    • Atodiad 5: UA5: Cynnal cynefinoedd
    • Atodiad 6: UA6: Creu cynefinoedd dros dro ar dir wedi'i wella
    • Atodiad 7: UA9: Cynnal coetir
    • Atodiad 8: UA11: Yr Amgylchedd Hanesyddol  
       
  • llinell sylfaen carbon ar lefel y fferm. Gwnaeth y Panel Adolygu Tystiolaeth ar Atafaelu Carbon gydnabod y rhan bwysig y gallai'r SFS ei chwarae i'ch helpu i ddeall yn well sylfaen garbon eich fferm ynghyd ag effaith newid dulliau ffermio a mabwysiadu technegau ar gynyddu cyfleoedd i ddal a storio carbon ac ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. 

    Mae'n hollbwysig felly defnyddio data fferm yn hytrach na chyfartaleddau cenedlaethol neu ryngwladol. Gwnaeth y panel nhw felly argymell ei fod yn cael ei gynnwys yn Haen Gyffredinol y cynllun. 

    Y syniad gwreiddiol oedd defnyddio un cyfrifiannell carbon i ddarparu llinell sylfaen gyson a chymharol ar draws pob fferm yng Nghymru. Ond y bwriad nawr yw bwrw ymlaen ag argymhelliad y Panel a datblygu ffordd o gyfrif llinell sylfaen carbon, gan ddefnyddio'r data rydych chi'n ei ddarparu fel rhan o'r SFS a data arall sydd eisoes ar gael i ni e.e. manylion da byw a thir.

    Felly, rydym am gyflwyno fel un o ofynion y cynllun, eich bod yn pennu llinell sylfaen carbon eich fferm yn ail flwyddyn y Cynllun ar sail yr wybodaeth y byddwch wedi'i chael trwy'r SAF y flwyddyn cynt. Fe welwch ragor o fanylion am hyn ym Mhennod 9. 

Haenau Opsiynol a Chydweithredol

Bydd set o ofynion yn dod gyda phob Gweithred Opsiynol a Gweithred Gydweithredol wirfoddol, fydd yn ymdrin yn benodol â’r gweithgaredd sy’n cael ei gefnogi.  Bydd canllawiau ar wahân, yn disgrifio'r gofynion hyn a'u perthynas â Gweithredoedd Cyffredinol, yn cael eu cynhyrchu wrth i bob Gweithred ddod ar gael o 2026 ymlaen. 

Pennod 4: yr Haen Gyffredinol

Mae yna 12 Gweithred Gyffredinol yn yr Haen Gyffredinol.  Mae trefn y rhestr hon wedi newid ers y fersiynau y byddech wedi’u gweld yn yr ymgynghoriadau. 

Y 12 gweithred gyffredinol yw:

I gymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd angen ichi gynnal yr holl Weithredoedd Cyffredinol (UA) sy’n berthnasol i chi ac i’ch fferm. Efallai y bydd yna rai Gweithredoedd Cyffredinol na fydd yn berthnasol i chi:

  • nid yw UA1 yn berthnasol ichi os nad ydych wedi rhoi neu os na fyddwch yn rhoi gwrtaith (artiffisial na naturiol) neu galch ar eich tir sydd wedi'i wella at ddiben amaethyddol
  • nid yw UA2 yn berthnasol os nad ydych chi'n defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion ar eich tir
  • nid yw UA6 yn berthnasol os oes gennych ddigon o gynefin i fodloni Gofyn y Cynllun bod 10% o'ch fferm yn gynefin
  • nid yw UA7 yn berthnasol os nad oes safle dynodedig fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar eich fferm
  • nid yw UA8 yn berthnasol os nad oes perthi/gwrychoedd ar eich fferm er bod perthi ar y rhan fwyaf o ffermydd yng Nghymru
  • nid yw UA9 yn berthnasol os nad oes gennych goetir ar eich fferm
  • nid yw UA11 yn berthnasol os nad oes gennych unrhyw nodweddion hanesyddol
  • nid yw UA12 yn berthnasol os ydych yn fusnes âr neu arddwriaethol heb dda byw 

Bydd eich Taliad Cyffredinol yn adlewyrchu’r costau sydd ynghlwm wrth gynnal y gweithredoedd hyn a’r manteision cymdeithasol a ddaw trwy gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Disgrifir y dull talu yn fanylach ym Mhennod 8.

Mae’r bennod hon yn esbonio beth y bydd y Gweithredoedd Cyffredinol yn ei olygu i chi a’ch fferm. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • nodau a manteision yr holl Weithredoedd Cyffredinol
  • disgrifiad o bwy sydd angen cwblhau’r gweithredoedd hyn
  • gofynion penodol
  • y terfyn amser ar gyfer eu cwblhau
  • y dystiolaeth y bydd gofyn ichi ei chadw i brofi'ch bod wedi gwneud y weithred.
  • sut gallwch ddechrau paratoi
  • dolenni, os yn berthnasol, i themâu Opsiynol a Chydweithredol y gallech fod â diddordeb ynddyn nhw

Yn atodiadau’r ddogfen hon, ceir gwybodaeth dechnegol ychwanegol am rai Gweithredoedd Cyffredinol. Ond byddwn yn cyhoeddi Canllawiau a Nodiadau Technegol llawn y cynllun yn ddiweddarach eleni, gan gynnwys ferswn derfynol o bob Gweithred Gyffredinol (UA). 

Bwriedir i’r UAs hyn ddod â budd i fusnes eich fferm yn ogystal ag i’ch cymuned. Bwriad rhai o’r UAs yw cynnig gwybodaeth sylfaenol am wahanol agweddau ar eich fferm. Er mwyn bodloni gofynion yr UAs hyn, y cyfan sydd ei angen yw'ch bod yn llenwi (neu'n creu) yr wybodaeth sylfaenol, ond rydym yn eich annog i'w defnyddio i fwydo'ch penderfyniadau er mwyn ichi allu sicrhau'r manteision niferus y mae'r Gweithredoedd Cyffredinol wedi'u creu i'w darparu. 

Ar gyfer y rhan fwyaf o UAs, rydym wedi cynnwys cyfeiriad at themâu Opsiynol neu Gydweithredol cysylltiedig. Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhagor o gymorth o dan y Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol hyn i'ch helpu i gynnal yr UA.   

UA1: Iechyd pridd

Profi pridd ar dir wedi’i wella er mwyn llywio cynlluniau iechyd pridd ar gyfer eich fferm

Nod

Pridd yw man cychwyn popeth. Mae ein holl uchelgeisiau o ran cynhyrchu bwyd, adfer natur, ansawdd dŵr, risg llifogydd a chloi carbon i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn dibynnu ar iechyd pridd. Pridd yw’r peth pwysicaf ar eich fferm, ar wahân i chi, y ffermwr.

Bwriad y Weithred Gyffredinol hon yw eich helpu i gynnal profion pridd rheolaidd er mwyn cael gwybodaeth sylfaenol am bridd eich fferm. Bydd yr wybodaeth honno’n eich helpu i wneud penderfyniadau rheoli, megis faint o wrtaith sydd ei angen. 

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Trwy gynnal profion ar bridd, cewch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniadau i ofalu am eich pridd er lles eich cnydau a’ch tir pori. Gallai hyn gynnwys targedu gwrtaith i wella cydbwysedd eich pridd ac atal gwastraff, neu newid patrymau cnydio a thrin tir er mwyn gwella strwythur y pridd. 

Mae strwythur pridd iach a microffawna pridd llewyrchus yn helpu gwreiddiau i dyfu’n well ac yn helpu i reoli lefelau gwlybaniaeth er lles cynhyrchiant, gan hefyd leihau’r angen i ddyfrhau a defnyddio gwrteithiau cemegol. Hefyd, mae’n helpu i osgoi colli pridd a maethynnau – sef rhywbeth sy’n creu cost i chi.

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach

Trwy ddiogelu a lle bo angen cynyddu deunydd organig y pridd, bydd mwy o garbon yn cael ei ddal a bydd yn helpu i reoli llif dŵr, sy’n gallu lleihau’r risg o lifogydd. 

Gall targedu gwrteithiau'n well arwain hefyd at fanteision i ansawdd yr aer a’r dŵr.       

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Pob busnes fferm sydd â thir wedi'i wella yn amaethyddol fel y disgrifir isod. 

Gofynion y Weithred Gyffredinol

O dan y weithred hon, rhaid i chi gynnal profion ar bridd ar dir sydd wedi’i wella’n amaethyddol – tir sydd wedi cael neu a allai gael gwrtaith (naturiol ac artiffisial) neu galch wedi'i roi arno. Hynny yw, yr holl dir nad yw wedi’i ddosbarthu fel cynefin o dan UA5: Cynnal cynefinoedd.

Er mwyn gwneud y weithred hon, gofynnwn ichi brofi pridd o leiaf 20% o’r tir sydd wedi’i wella ar eich fferm, bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu y caiff yr holl dir perthnasol ei brofi mewn cylchdro o bum mlynedd. Mae’n dderbyniol profi mwy nag 20% o’r tir bob blwyddyn, os dymunwch wneud hynny. Bydd angen ichi gasglu samplau pridd trwy ddilyn y drefn safonol a ddisgrifir yn y Nodiadau Technegol. 

Bydd yn rhaid i chi brofi o leiaf am Botasiwm (K), Ffosfforws (P), Magnesiwm (Mg), pH, a Deunydd Organig y Pridd.

Rhaid cofnodi canlyniadau'r profion ar RPW Ar-lein. Bydd hyn yn cefnogi'r rhaglen fonitro genedlaethol, ond ni fydd canlyniadau'r profion yn cael eu defnyddio at unrhyw ddiben arall ac ni fydd modd eu defnyddio i adnabod ffermydd unigol h.y. byddwn yn crynhoi'r data. 

Os nad ydych yn gyfarwydd â dehongli canlyniadau profion pridd, gallwch gymryd egwyl rhag cynnal profion yn ail flwyddyn y Cynllun er mwyn cael amser i ddehongli’r gyfres gyntaf o ganlyniadau, a gweithredu arnyn nhw. Gallwch ofyn i Cyswllt Ffermio am help a chyngor. Os dewiswch gymryd egwyl yn eich ail flwyddyn, disgwyliwn fod yr holl bridd yn cael ei brofi mewn cylchdro o chwe mlynedd yn hytrach na phum mlynedd. 

Gwybodaeth ychwanegol am gynnal profion

Dylid profi’r pridd a chofnodi'r canlyniadau fesul parsel. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn y Nodiadau Technegol llawn, gan gynnwys y posibilrwydd o gyfuno parseli os yw amodau'r pridd neu'r dulliau rheoli yn debyg.

Os ydych yn tyfu cnydau garddwriaethol, efallai'ch bod yn defnyddio mwy o amrywiaeth o ddulliau rheoli pridd, ac efallai felly am gynnal profion manylach o fewn parsel penodol.    

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon?

Bydd y Nodiadau Technegol yn eich helpu i benderfynu pryd i gasglu samplau. Bydd angen cwblhau’r holl brofion erbyn diwedd y flwyddyn. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno?

Bydd angen ichi gofnodi canlyniadau profion pridd pob parsel tir perthnasol ar RPW Ar-lein. Rydym am i'r broses fod mor effeithlon â phosibl a byddwn yn cynnwys rhagor o fanylion yn y Nodiadau Technegol.

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy?

Os gwnaethoch gynnal profion pridd i fesur Potasiwm (K), Ffosfforws (P), Magnesiwm (Mg) a pH hyd at bedair blynedd cyn ymuno â’r Cynllun, gallan nhw gyfrif at y Weithred hon hyd yn oed os na wnaethoch chi fesur Deunydd Organig y Pridd. Bydd dal angen ichi sicrhau bod yr holl gaeau perthnasol yn cael eu profi o fewn y pum mlynedd, cyn i’r cylch pum mlynedd nesaf ddechrau. Ni fyddwn yn gofyn i chi nodi canlyniadau profion pridd a gynhaliwyd cyn ichi ymuno â'r Cynllun, ond dylech gadw'r cofnodion am bum mlynedd a gofalu eu bod ar gael i'w harchwilio os gofynnir amdanynt.   

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Rydym yn eich annog i weithredu ar ganlyniadau'ch profion pridd er mwyn gwella cyflwr eich pridd. Bydd cyngor a chanllawiau ar gael gan Cyswllt Ffermio ac efallai y byddwch am fanteisio ar gyllid cyfalaf sydd ar gael o dan themâu Opsiynol: 

  • Gwella iechyd y pridd a chnwd gorchudd amlrywogaeth
  • Cynhyrchu cynaliadwy
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus Uwch   
  • Gwella ansawdd dŵr, y defnydd a wneir o ddŵr a mesurau lliniaru llifogydd
  • Gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau amonia 

UA2: Rheolaeth Integredig ar Blâu

Cwblhau asesiad blynyddol o’r Cynhyrchion Diogelu Planhigion a ddefnyddir, a'r dulliau eraill a ddefnyddir i leihau’r defnydd o gemegau

Nod

Ffocws Rheolaeth Integredig ar Blâu yw tyfu cnwd iach gan amharu cyn lleied ag y medrir ar yr ecosystem ehangach. Gwneir hyn trwy annog defnyddio'r ffordd fwyaf priodol o reoli clefydau, plâu neu chwyn, gan gynnwys defnyddio technoleg a dulliau heb gemegau, yn ogystal â thargedu'r defnydd o gemegau (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) pan fo'u hangen. 

Ymdrinnir â chlefydau da byw yn UA12: Iechyd a lles anifeiliaid.

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm:

Trwy dargedu Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPPs) a defnyddio llai ohonynt, gallwch arbed arian, tyfu cnwd mwy gwydn a lleihau'r risgiau i iechyd pobl.   

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach: 

Rydym yn dibynnu ar infertebratau a microffawna a fflora eraill i beillio ein cnydau, dadelfennu gwastraff a chynnal priddoedd iach. Hebddynt, ni fyddai’r prosesau hyn yn gweithio. Bydd defnyddio llai o PPPs yn fuddiol i infertebratau defnyddiol ac yn lleihau’r risg o fagu ymwrthedd i blaladdwyr. 

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Yr holl ffermwyr sy’n ymuno â’r Cynllun ac sy’n defnyddio neu’n cyflogi contractwyr i ddefnyddio PPPs megis pryfladdwyr, chwynladdwyr, ffwngladdwyr (yn cynnwys gorchudd hadau), molwsgladdwyr neu reolyddion tyfiant planhigion. 

Hyd yn oed os mai ychydig iawn o PPPs rydych yn ei ddefnyddio bob blwyddyn, bydd dal gofyn ichi gynnal y Weithred, ond efallai y bydd eich asesiad yn fyrrach ac yn llai manwl. 

Ni fydd angen ichi gwblhau’r weithred os nad ydych wedi defnyddio, nac yn bwriadu defnyddio, Cynhyrchion Diogelu Planhigion yn ystod y flwyddyn galendr. 

Gofynion y Weithred Gyffredinol

I gwblhau’r weithred hon, bydd angen ichi wneud y canlynol:

  • asesu sut ydych yn rheoli clefydau, chwyn a phlâu cnydau, ac yn manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio dulliau Rheoli Plâu yn Integredig
  • cofnodi'ch asesiad mewn Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu blynyddol

I gwblhau'ch asesiad Rheolaeth Integredig ar Blâu, dylech gadw cofnod o bob tro rydych yn defnyddio Cynnyrch Diogelu Planhigion ar eich fferm, yn cynnwys:

  • enw’r PPP
  • faint rydych wedi'i ddefnyddio
  • dyddiad ac amser ei ddefnyddio
  • y cae / lleoliad a'r arwynebedd a gafodd ei drin (ha)
  • y math o gnwd a gafodd ei drin a’r rheswm dros ei drin
  • amodau’r tywydd pan wnaethoch chi ddefnyddio'r PPP

Mae Rheolaeth Integredig ar Blâu yn cynnwys defnyddio technegau trin tir priodol, cylchdroi cnydau a chydgnydio, tyfu mathau sy’n gallu gwrthsefyll plâu, defnyddio mewnbynnau (plaladdwyr a gwrteithiau) mewn ffordd effeithlon sy'n ateb eich gofyn, a chynefinoedd bywyd gwyllt o fewn ac o amgylch caeau er mwyn annog ysglyfaethwyr a phryfed eraill sy’n bwydo ar blâu cnydau.

Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r wybodaeth hon i weld cyfleoedd i dargedu’r defnydd o PPPs a defnyddio llai ohonynt i sicrhau'r manteision uchod. 

Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu

Nid ydym am lunio templed ar gyfer Cynlluniau Rheolaeth Integredig ar Blâu, oherwydd mae enghreifftiau addas ar gael eisoes gan y diwydiant. Gallai defnyddio templedi Cynllun IPM y Fenter Wirfoddol (ar Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar-lein) a ddatblygwyd ar y cyd ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) fod yn ddefnyddiol. Mae tri chynllun sector-benodol ar gael (sef âr, glaswelltiroedd a garddwriaeth), sy’n darparu sgôr Rheolaeth Integredig ar Blâu ac adborth ar y diwedd. 

Nid oes fformat safonol ar gyfer cofnodi defnydd o PPPs. Efallai y byddai’n fuddiol ichi ddefnyddio’r Cofnod Defnyddio Plaladdwyr ar ein gwefan.

Ni fydd angen cwblhau Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu ar wahân ar gyfer yr SFS os ydych eisoes yn cwblhau Cynllun Rheolaeth blynyddol sy’n cynnwys yr holl wybodaeth a restrir uchod, a'ch bod yn gallu ei gyflwyno pan ofynnir amdano. 

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Bydd angen cwblhau’r Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu a chofnodi eich defnydd o PPPs erbyn diwedd y flwyddyn. 

Rydym yn eich annog i ddiweddaru eich Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu yn rheolaidd a’i ddefnyddio i adolygu’ch penderfyniadau rheoli drwy gydol y flwyddyn. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Gallwch ddatgan eich bod wedi bodloni’r gofynion, neu nad ydych yn defnyddio PPPs ar RPW Ar-lein. 

Nid ydym yn gofyn ichi gyflwyno'ch Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu i ni, ac ni fyddwn yn casglu gwybodaeth am eich Rheolaeth Integredig ar Blâu. Ond dylech gadw'ch Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu a’ch cofnodion PPP am bum mlynedd a'u dangos i ni pan ofynnir amdanynt.   

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Byddai’n ddefnyddiol ichi ymgyfarwyddo â Chynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu a sut i gadw cofnodion. 

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Mae cyngor a chanllawiau ar gael gan Cyswllt Ffermio. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen we Llywodraeth Cymru: Rheolaeth Integredig ar Blâu

UA3: Meincnodi

Cynnal asesiad mesur a monitro blynyddol i wella perfformiad y busnes a'ch perfformiad amgylcheddol

Nod

Ein nod yw eich helpu i elwa ar waith meincnodi sylfaenol trwy ddefnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol syml i fonitro a gwella perfformiad eich fferm, iddi allu addasu'n well i newid, gwneud mwy o elw a sicrhau manteision i’r amgylchedd. Mae’r Weithred hon yn gysylltiedig â gweithredoedd eraill y Cynllun, yn enwedig UA12 Iechyd a lles anifeiliaid. 

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm:

Bwriad y weithred hon yw cynnig man cychwyn ar gyfer deall sut mae eich busnes yn perfformio. Bydd modd ichi ddefnyddio data i ddeall yn well pa arferion rheoli sy’n llwyddiannus a pha arferion sydd angen eu haddasu er mwyn eich helpu i wella’ch perfformiad.

Gallai hyn arwain at leihau costau, lleihau gwastraff a gwneud gwelliannau amgylcheddol.

Ni fydd angen cwblhau’r un Dangosyddion Perfformiad Allweddol bob blwyddyn, gan y gall eich amgylchiadau newid. Er hynny mae Dangosydd yn gweithio ar ei orau pan fydd modd monitro tuedd dros sawl blwyddyn i weld a yw’r perfformiad yn gwella. 

At eich defnydd chi mae’r Dangosyddion. Ni fyddwn yn monitro nac yn asesu'r data y byddan nhw’n ei gynhyrchu. Bydd canlyniadau'r meincnodi yn benodol i'ch fferm chi, ac ni fydd y perfformiad yn cael unrhyw effaith ar eich Taliad Cyffredinol. 

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach 

Gall perfformiad gwell arwain at gynhyrchu bwyd yn fwy effeithlon, lleihau allyriadau carbon a llygredd, a gall hynny olygu aer a dŵr glanach. Bydd hynny'n helpu i fodloni gofynion cwsmeriaid wrth iddyn nhw esblygu. 

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd angen i’r holl ffermwyr sy’n ymuno â’r cynllun gwblhau’r weithred hon. 

Os ydych eisoes yn meincnodi'ch fferm neu fenter gyfan bob blwyddyn gan ddefnyddio un o offerynnau meincnodi’r diwydiant, efallai'ch bod eisoes yn bodloni’r weithred hon. Ni fyddwn yn gofyn ichi ailadrodd y gwaith. Rydym wrthi’n llunio rhestr o offerynnau meincnodi eraill y diwydiant i’w cynnwys yng nghanllawiau’r cynllun. 

Bydd rhestr derfynol o’r offerynnau meincnodi cymeradwy hyn ar gael yn ddiweddarach yn 2025. Fwy na thebyg, sefydliadau fel proseswyr llaeth, byrddau ardollau a darparwyr trosglwyddo gwybodaeth fydd yn eu darparu. 

Gofynion y Weithred Gyffredinol

Er mwyn cwblhau’r Weithred hon, rydym yn gofyn ichi wneud y canlynol: 

  • nodi ar RPW Ar-lein pa offeryn meincnodi, sydd wedi'i gymeradwyo gan y diwydiant, rydych chi’n ei ddefnyddio.

Neu 

  • gynnal asesiad mesur a monitro blynyddol ar sail rhestr safonol o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol o fewn offeryn Meincnodi Cyswllt Ffermio (FarmData+)
    • bydd ffermydd un sector yn cwblhau o leiaf ddau Ddangosydd Perfformiad Allweddol sy'n benodol i'r sector hwnnw, yn ogystal ag un Dangosydd “Fferm Gyfan”
    • bydd ffermydd sy'n perthyn i fwy nag un sector yn cwblhau o leiaf ddau Ddangosydd penodol i bob sector, yn ogystal ag un Dangosydd “Fferm Gyfan”

Mae gan FarmData+ restr o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer y sectorau canlynol: âr, eidion, godro, defaid, moch, dofednod a garddwriaeth, ynghyd ag adran “Fferm Gyfan”.

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Dylech gwblhau’r weithred erbyn diwedd y flwyddyn galendr. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno?

Os ydych yn cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon trwy ddefnyddio FarmData+, bydd teitlau’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol y byddwch wedi'u bodloni yn cael eu rhannu’n awtomatig ag RPW, ond ni fydd manylion eich perfformiad yn cael eu rhannu. Ni fydd angen unrhyw dystiolaeth arall.

Os ydych yn defnyddio darparwr allanol o blith y rhestr gymeradwy, bydd angen cofnodi ar RPW Ar-lein pa gynllun / cyflenwr a ddefnyddiwyd. Cadwch eich canlyniadau am bum mlynedd a sicrhau eu bod ar gael i’w harchwilio.   

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Byddwch yn gallu dechrau defnyddio FarmData+ eleni i ddod i ddeall y broses cyn i'r Cynllun ddechrau. 

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Rydym wedi rhestru'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol sydd ar gael ar FarmData+ yn Atodiad 3. 

Ar ôl ichi gofnodi'ch data ar FarmData+, bydd y system yn cyfrif ac yn dangos eich canlyniadau. Ar sail y canlyniadau hyn, bydd yn eich cyfeirio at y cymorth y gall Llywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio a darparwyr eraill ei gynnig ichi i'ch helpu i wella lle bo angen. 

Byddwn yn eich helpu i wneud gwelliannau, er enghraifft trwy ddefnyddio’r themâu Opsiynol canlynol: 

  • gwella iechyd y pridd a chnwd gorchudd amlrywogaeth
  • cynhyrchu cynaliadwy
  • gwella ansawdd dŵr, y defnydd a wneir o ddŵr a mesurau lliniaru llifogydd
  • gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau amonia
  • ffermio organig (cymorth a throsi)
  • bioddiogeledd gwell  

UA4: Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Adeiladu ar eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy ddysgu am amrywiaeth o bynciau

Nod

Mae ffermwyr yn meddu ar lawer o sgiliau ac yn gorfod bod yn filfeddygon, yn beirianwyr, yn ecolegwyr, yn gyfrifwyr, yn agronomegwyr a llawer mwy. Rydym am eich helpu i feithrin y sgiliau hyn ichi allu dod â rhagor o fanteision i’ch fferm ac i amaethyddiaeth Cymru.

Rydym hefyd am helpu i wneud amaethyddiaeth yn ddiwydiant mwy diogel i weithio ynddo.    

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Gall y weithred hon eich helpu i addasu i newidiadau yn y diwydiant, datblygiadau technegol, gofynion y gadwyn gyflenwi ac effeithiau’r argyfyngau hinsawdd a natur. Hefyd, gall y Weithred hon eich helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynnal Gweithredoedd eraill y cynllun – rhai rydych yn llai cyfarwydd â nhw, efallai – i'ch gwneud yn fwy effeithlon, i wneud mwy o elw ac i wella'ch perfformiad amgylcheddol.   

Hefyd, gall y weithred hon helpu i leihau'r risgiau a gwneud eich fferm yn fwy diogel.

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach

Bydd dysgu sut i leihau gwastraff, arbed adnoddau, gwella iechyd anifeiliaid a gwella cyflwr pridd, cynefinoedd a choetir, o fudd i bawb. 

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd angen i bob busnes fferm sy’n rhan o’r cynllun gwblhau’r weithred hon. Os oes mwy nag un partner yn y busnes, gallwch ei rhannu rhyngoch.

Rydym yn eich annog i rannu’r pethau a ddysgwch â gweddill busnes y fferm, gyda’ch gweithwyr a'ch teulu os medrwch.   

Gofynion y Weithred Gyffredinol
Y prif ofyniad dysgu

Er mwyn cwblhau’r weithred hon, rydym yn gofyn ichi wneud o leiaf chwe awr o ddysgu, ynghyd ag elfen o hyfforddiant iechyd a diogelwch, bob blwyddyn o’r cynllun. 

Gallwch ddewis sut fath o ddysgu y byddwch am ei wneud, cyn belled â'i fod yn helpu gweithredoedd i gyflawni un neu fwy o bedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy:

  • cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy
  • lliniaru'r newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddo
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, annog mynediad y cyhoedd iddyn nhw ac i ymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni.

Gallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o ddulliau dysgu sy’n gweddu i chi, megis:

  • grwpiau trafod
  • dosbarthiadau meistr
  • hyfforddiant achrededig
  • e-ddysgu
  • mentora

Os dewiswch wneud eich holl ddysgu, neu ran ohono, trwy Cyswllt Ffermio, bydd y rhestr uchod yn dal i fod yn berthnasol, a gallech hefyd gymryd rhan yn y cynllun Academi Amaeth neu’r rhaglen Agrisgôp. 

Sgorio symudedd a chyflwr corff

Fel rhan o UA12 Iechyd a Lles Anifeiliaid, gofynnir ichi gwblhau dwy awr o hyfforddiant sgiliau bob pum mlynedd o leiaf. 

Os yw’r sawl sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn berchennog neu’n bartner busnes, gall y ddwy awr o hyfforddiant hyn gyfrif tuag at y chwe awr o DPP sydd ei angen yn y flwyddyn. Os gweithiwr cyflog ac nid perchennog, partner neu gyfarwyddwr y busnes, sy'n ei wneud, ni fydd yn cyfrif at y chwe awr angenrheidiol. 

Dysgu am Iechyd a diogelwch

Yn y flwyddyn gyntaf ar ôl ymuno â’r cynllun, bydd angen ichi gwblhau’r modiwl dysgu Iechyd a Diogelwch ar-lein sydd wedi'i greu gan Cyswllt Ffermio. Bydd cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ledled Cymru i’ch helpu os bydd angen.

Ar gyfer blynyddoedd dilynol, gallwch ddewis cyfrif dysgu iechyd a diogelwch neu lesiant cysylltiedig, gan gynnwys sesiynau a gyflwynir gan elusennau cydnabyddedig neu ddarparwyr allanol eraill.

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r Weithred hon

Rhaid cwblhau’r weithred (dysgu) erbyn diwedd y flwyddyn. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Bydd cofnod o’r dysgu a gaiff ei gwblhau trwy Cyswllt Ffermio yn cael ei gadw ar y Storfa Sgiliau a bydd yn cael ei rannu ag RPW Ar-lein fel tystiolaeth eich bod wedi cwblhau’r weithred. Ni fydd angen ichi wneud rhagor, os yw hyn yn ddigon i fodloni’r elfen ddysgu. 

Os caiff rhywfaint neu’r cyfan o’ch dysgu ei gwblhau trwy ddarparwyr eraill, bydd angen ichi gofnodi ar RPW Ar-lein beth oedd teitl y cwrs, dyddiad y cwrs a’i hyd a phwy ddilynodd y cwrs.  

Dylech ofyn i’r darparwr dysgu am dystysgrif neu dderbynneb (yn cynnwys enw’r sefydliad, teitl y cwrs, dyddiad y cwrs, eich enw chi, a’r amser a dreuliwyd yn dysgu). Ni fydd angen ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon, ond dylech ei chadw am bum mlynedd fel ei bod ar gael os bydd rhywun yn gofyn am gael ei gweld.   

Os byddwch yn dilyn cwrs dysgu gan ddarparwr allanol, rydym yn eich annog i roi gwybod i'r Storfa Sgiliau fel bod gennych gofnod llawn o’ch dysgu mewn un lle; ond nid oes rhaid ichi wneud hyn.   

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026, bydd unrhyw gyrsiau Cyswllt Ffermio am y SAF y byddwch wedi'u dilyn o haf 2025 ymlaen yn cyfrif at elfen ddysgu Blwyddyn 2026 y Cynllun.  Mae copi o’r rhestr i’w weld yn Atodiad 4.

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Mae Cyswllt Ffermio, ynghyd â sefydliadau eraill, yn cynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr y byddem yn eich annog i’w hystyried. Efallai hefyd y bydd y dysgu hwn yn eich helpu i ddeall a chael y gorau o'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol fydd ar gael. 

UA5: Cynnal cynefinoedd 

Cynnal y cynefinoedd lled-naturiol neu’r cynefinoedd sydd newydd eu creu ar eich fferm fel eu bod o fudd i fywyd gwyllt a da byw sy’n pori 

Nod

Mae hyn yn cynnwys cynefinoedd lled-naturiol, gan gynnwys rhostiroedd, gwlyptiroedd a gwahanol laswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau sy'n cael eu rheoli fel tir pori a chaeau gwair ledled ffermydd Cymru. Mae’r cynefinoedd hyn yn cynnig porfeydd i dda byw ac yn dibynnu ar lefelau pori cynaliadwy i allu cynnig cynefin i fywyd gwyllt, a thirwedd ddeniadol ac amrywiol. 

Bwriad y weithred yw cadw a chynnal y cynefinoedd pwysig hyn a’u cyfoethogi.

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Mae cynefinoedd ar ffermydd yn cynnig llawer o fanteision o ran cynhyrchu bwyd, megis cynnal pryfed peillio er lles cnydau, ynghyd â phorfeydd mwy amrywiol sy’n darparu elfennau hybrin a rhinweddau meddyginiaethol eraill i dda byw. 

Er mwyn eich helpu i gynnal yr holl gynefinoedd lled-naturiol a’r rhai sydd newydd eu creu ar eich fferm, byddwn yn talu taliad cynefin atodol o fewn y Taliad Cyffredinol ar gyfer pob hectar o gynefin. Bydd ffermydd â mwy o gynefin lled-naturiol felly yn cael Taliad Cyffredinol uwch o dan y taliad cynefin ar gyfer rheoli’r tir hwn.

Bydd tir cynefin sy'n cael ei gynnal o dan y weithred hon yn cyfrif tuag at y gofyn bod 10% o'ch fferm yn gynefin.   

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach 

Gall cynefinoedd mewn cyflwr da gynnig llawer o fanteision gan gynnwys cartref i fywyd gwyllt, storio carbon, lleihau llygredd a rheoli llif dŵr i leihau'r risg o lifogydd a sychder.

Bwriad y Weithred Gyffredinol hon yw atal cynefinoedd rhag dirywio neu gael eu colli, a bod yn sail ar gyfer gwella, estyn ac ailgysylltu cynefinoedd. 

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd y weithred hon yn berthnasol os oes gennych unrhyw rai o'r 12 cynefin a restrir isod ar eich daliad. Mae’r rhestr yn cynnwys cynefinoedd lled-naturiol sy'n bod eisoes, cynefinoedd sydd newydd eu creu neu dir sy'n cael ei reoli fel cynefin, ac sydd wedi'i gadarnhau gan RPW. Gofynnir ichi gynnal pob darn o gynefin yn unol â’r Weithred Gyffredinol hon. 

Os nad oes gennych unrhyw dir sy'n gynefin lled-naturiol neu'n gynefin sydd newydd ei greu, ni fydd y Weithred Gyffredinol hon yn berthnasol i chi. Ond bydd angen ichi greu cynefin dros dro o dan Weithred Gyffredinol 6 er mwyn bodloni'r gofyn bod 10% o bob fferm yn gynefin.

Amrywiadau i’r Weithred Gyffredinol hon

Gellir newid gofynion y Weithred Gyffredinol hon:

  • os oes rhan o’ch tir yn safle dynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a
    • bod gennych Gynllun Rheoli a Rhaglen Waith (SoW) y cytunwyd arni fel rhan o UA7: Cynllun Rheoli Safle Dynodedigneu
    • os ydych yn gwneud gwaith rheoli cynefinoedd mwy penodol o dan y thema Opsiynol
  • os oes gennych Gytundeb Rheoli Tir (megis Cytundeb Adran 16) eisoes â Cyfoeth Naturiol Cymru
  • os oes gennych Gytundeb Rheoli Tir (megis Cytundeb Adran 16) sydd wedi dod i ben ag CNC – ond eich bod yn fodlon parhau i gadw ato nes y gallwch gytuno ar Gynllun Rheoli newydd
  • rydych wedi rheoli safle dynodedig, e.e. SoDdGA, gyda chymeradwyaeth CNC drwy gontract Glastir Uwch a ddaeth i ben yn 2023 a'ch bod yn parhau i'w reoli o dan HWS yn 2024 a 2025. Gall y drefn hon bara nes bod Cynllun Rheoli newydd yn dod i rym
Gofynion y Weithred Gyffredinol

Dyma’r mathau o gynefin:  

  1. morfeydd heli
  2. twyni tywod arfordirol a thraethau graean:
    a) twyni tywod
    b) twyni tywod a thraethau graean
  3. rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad
  4. gwlypdir wedi’i amgáu a glaswelltir corsiog:
    a) gwlypdir wedi’i amgáu – cyforgorsydd iseldir, ffeniau a thir gwlyb / mignen 
    b) glaswelltir gwlyb
  5. glaswelltir sych lled-naturiol wedi’i amgáu:
    a)rheolir fel tir pori
    b) rheolir fel gweirglodd
  6. cynefinoedd agored yr ucheldir
  7. perllannau traddodiadol
  8. rhedyn trwchus
  9. coetir
  10. Coetir pori
  11. pyllau parhaol ar gyfer bywyd gwyllt
  12. ardaloedd cynefin sydd newydd eu creu ar dir wedi’i wella:
    a) coridorau newydd ar lan nant
    b) mawnog sydd newydd ei hadfer
    c) glaswelltir heb fewnbynnau, o gynlluniau blaenorol
    d) unrhyw dir arall sydd wedi’i wella neu dir gafodd ei goedwigo, sy'n cael ei reoli i greu cynefin

Er mwyn cwblhau’r weithred hon, rydym yn gofyn ichi gynnal eich holl gynefinoedd yn unol â set benodol o ofynion (Atodiad 5) ar gyfer y mathau o gynefinoedd a geir ar eich fferm, sy’n cynnwys: 

  • disgrifiad o’r cynefin, megis ble y mae a’r rhywogaethau brodorol a allai fod yn tyfu yno
  • nodau - y ‘weledigaeth’ tymor hir ar gyfer y cynefin, gan gynnwys canlyniadau tymor hwy y dymunir ac y dylid eu gweld o dan reolaeth sympathetig
  • gofynion rheoli y gofynnir ichi gytuno i’w gwneud neu i beidio â’u gwneud ar fath penodol o gynefin. Byddwn yn eich archwilio ar sail hyn    
  • argymhellion rheoli i'ch helpu i gyflawni’r nodau a’r canlyniadau gofynnol e.e. lefelau pori cynaliadwy safonol, y math o dda byw a phatrymau pori er budd y cynefin. Arferion gorau yw’r rhain, ac ni fyddwch yn cael eich archwilio ar sail yr argymhellion hyn
  • llacio gofynion posibl - senarios tebygol y tu hwnt i’ch rheolaeth lle gellir llacio’r gofynion rheoli. Er enghraifft cyfnodau estynedig o dywydd eithafol, fel sychder neu dir wedi’i rewi 

Bydd angen cyflawni’r gofynion hyn ochr yn ochr â’r set o reolau cyffredinol gorfodol ar gyfer cynefinoedd, er mwyn atal colli neu niweidio cynefinoedd lled-naturiol, a gynhwysir yn y ‘Cod i Bawb’ yn Atodiad 2. 

Os yw'r rhan fwyaf o'ch fferm yn gynefin ac nad ydych yn gallu bodloni’r gofyniad penodol, gallwch ofyn am ymweliad cynghori (un cyflym os yw mwy na 90% yn gynefin) i ystyried rhwystrau, atebion a rhanddirymiadau posibl er mwyn eich helpu i gynnal y Weithred Gyffredinol. 

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r Weithred hon

Mae rheoli cynefinoedd yn weithgarwch parhaus. Dylech gadw at y gofynion rheoli cynefin drwy gydol y flwyddyn galendr. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Bydd angen ichi gadw Dyddiadur Gweithgarwch ar gyfer pob parsel o gynefin sy’n dod o dan y Weithred Gyffredinol hon. Dylech gofnodi'r holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gofynion rheoli fel symud stoc ar ac oddi ar gynefin. Byddwn yn nodi yng Nghanllawiau'r Cynllun pa ofynion rheoli y bydd angen ichi eu cofnodi yn y Dyddiadur Gweithgarwch. 

Dylech gadw eich Dyddiadur Gweithgarwch am bum mlynedd a sicrhau ei fod ar gael i’w archwilio.   

Sut gallaf baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae’n bwysig sicrhau bod eich cais yn adlewyrchu’r cynefinoedd sydd ar eich fferm. Gallwch wneud hynny ar eich SAF 2026 a byddem yn eich annog i edrych ar fapiau eich fferm, a’u diweddaru os oes angen ar RPW Ar-lein yn ystod ymarfer cadarnhau data 2025.

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Byddwn yn rhoi arweiniad a chymorth clir, er enghraifft trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio, i sicrhau eich bod yn gwybod beth sydd angen ichi ei wneud i gynnal y Weithred hon.  Hefyd, byddwn yn eich helpu i wneud mwy, er enghraifft trwy gyfrwng y themâu Opsiynol Rheoli cynefinoedd yn well a Creu cynefinoedd parhaol a thros dro, yn ogystal â’r thema Gydweithredol Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd.

UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella 

Creu cynefin dros dro ychwanegol ar dir wedi’i wella er mwyn bodloni gofyniad y Cynllun i neilltuo arwynebedd gofynnol yn gynefin

Nod

Gall cynefinoedd dros dro, megis ymylon tir âr neu wyndynnydd blodeuog, ddarparu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt y fferm, megis pryfed peillio. Nod y weithred hon yw creu cynefin dros dro i ategu cynefinoedd sydd eisoes yn bod ar eich fferm. 

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Gan ddibynnu ar y math o gynefin y dewiswch ei greu, gall y cynefinoedd newydd wella ansawdd y pridd, lleihau colledion pridd, lleihau effaith sychder a llifogydd ar y fferm, a rhoi hwb i infertebratau buddiol fel pryfed hofran a phryfed peillio eraill. 

Bydd cynefinoedd sy'n cael eu creu o dan y Weithred Gyffredinol hon yn eich helpu i fodloni'r gofyn bod 10% o bob fferm yn gynefin. Byddwn yn talu’r taliad cynefin ichi fel rhan o’ch Taliad Cyffredinol ar gyfer y darnau tir hynny sy'n cael eu defnyddio i greu'r isafswm o 10% o gynefin.   

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach

Gall mwy o gynefinoedd, a chysylltu cynefinoedd â'i gilydd, wella tirweddau, cynnal amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt i ffynnu ac i symud o gwmpas a gwneud ecosystemau'n fwy gwydn. Mae hynny'n cynnwys rheoli llif dŵr ar lefel dalgylch, sef rhywbeth a all helpu i leihau’r risg o lifogydd i lawr yr afon.     

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Pob fferm sydd heb gynefin digonol i fodloni Gofyniad y Cynllun bod 10% o’r fferm yn gynefin. Gweler Atodiad 2 am ddisgrifiad llawn o ofynion y cynllun. 

Gofynion y Weithred Gyffredinol

Er mwyn cwblhau'r weithred hon, rydym yn gofyn i chi greu cynefin dros dro fel bod o leiaf 10% o'ch fferm yn cael ei reoli fel cynefin cyn diwedd y flwyddyn galendr. Bydd faint o gynefin y bydd angen i chi ei greu yn amrywio gan ddibynnu ar faint o gynefin sydd gennych. 

Gallwch ddewis un neu fwy o gynefinoedd addas o blith y rhestr ganlynol:

  • ymylon o wyndwn
  • talarau o ŷd a llin heb eu gwrteithio, eu chwistrellu na’u cynaeafu
  • ymyl sefydlog o borfa arw ar dir âr
  • ymyl o borfa arw mewn cylchdro ar dir âr
  • cymysgedd o ydau gwanwyn a chnwd protein heb eu chwistrellu, gyda’r sofl wedi’i gadw
  • cadw sofl ydau dros y gaeaf
  • cnwd gorchudd ar gyfer bywyd gwyllt ar dir wedi’i wella
  • clustogfa heb ei chwistrellu, heb ei gwrteithio a heb ei thrin wrth ymyl cynefin presennol. (gan gynnwys dŵr agored) ar laswelltir wedi'i wella
  • gwyndwn cymysg ar dir wedi’i wella (mae gwyndwn amlrywogaeth neu flodeuog yn enwau eraill arno)
  • glaswelltir wedi’i wella a’i dorri'n hwyr
  • glaswelltir wedi’i wella sydd wedi cael ei adael i hadu.  

Yn Atodiad 6, nodir y gofynion rheoli y dylech gadw atynt ar gyfer pob math o gynefin. 

Gallwch ddewis ble i leoli eich cynefinoedd newydd ar sail y tir wedi’i wella sydd ar eich fferm. Ond byddwch yn gwneud y cynefinoedd newydd hyn yn fwy gwerthfawr i fywyd gwyllt trwy eu defnyddio i greu coridorau i gysylltu ag ardaloedd eraill o gynefin. 

Dylid cymryd gofal lle mae glaswelltir parhaol (a hawlir fel GR2 ar SAF)  yn cael ei ystyried ar gyfer creu cynefin newydd dros dro gan y gallai eisoes gynnwys cynefin gwerthfawr. Mae dewis porfa barhaol sydd lai na 10 oed yn rheol dda i leihau'r risg hon. Fodd bynnag, rhaid defnyddio'r diffiniad o dir wedi'i wella o dan Reoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) 2017 (canllawiau) i benderfynu pa dir y gellir ei drin.   

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Mae natur dymhorol rhai o’r cynefinoedd hyn yn golygu bod ganddynt ddyddiadau sefydlu gwahanol drwy gydol y flwyddyn. Ar gyfer pob math o gynefin, bydd yn bwysig ei sefydlu cyn gynted ag y medrwch a’i gadw er mwyn sicrhau'r manteision a fwriedir. Ceir manylion pob cynefin yn Atodiad 6.   

Bydd rhai o'r cynefinoedd dros dro yn para mwy na blwyddyn o'u rheoli'n gywir, felly byddant eisoes yn eu lle ar ddechrau'r flwyddyn nesaf. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Bydd gofyn ichi gofnodi codau perthnasol y cnydau ar eich cais. Ar gyfer cynefinoedd a fydd yn cael eu sefydlu’n ddiweddarach yn y flwyddyn, gellir cynnwys y codau yn eich SAF fel cnydau eilaidd. 

Bydd angen ichi gadw Dyddiadur Gweithgarwch ar gyfer pob parsel o gynefin sy’n dod o dan y Weithred Gyffredinol hon. Dylech gofnodi'r holl weithgareddau perthnasol sy'n gysylltiedig â'r gofynion rheoli fel sefydlu cnydau a dyddiadau torri. Byddwn yn nodi yng Nghanllawiau'r Cynllun pa ofynion rheoli y bydd angen ichi eu cofnodi yn y Dyddiadur Gweithgarwch. 

Bydd y gofynion rheoli hefyd yn cynnwys gwybodaeth am bethau fel labeli hadau neu anfonebau. Dylech gadw pethau o’r fath am bum mlynedd o leiaf a dylech sicrhau eu bod ar gael i’w harchwilio.   

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae’n bwysig sicrhau bod eich cais yn adlewyrchu’r cynefinoedd a’r tir wedi’i wella sydd ar eich fferm. Gallwch wneud hyn ar eich SAF 2026 a byddem yn eich annog i gadarnhau gorchudd coed a chynefinoedd eich fferm, a’u diweddaru os oes angen ar RPW Ar-lein yn ystod ymarfer cadarnhau data 2025.

Efallai y bydd modd sefydlu rhai cynefinoedd dros dro cyn ichi ymuno â’r cynllun, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Os caiff y cynefinoedd dros dro hyn eu cadw, bydd hynny’n eich helpu i fodloni Gofyn y Cynllun bod o leiaf 10% o’ch fferm yn gynefin. 

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Byddwn yn rhoi arweiniad a chymorth clir, er enghraifft trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio, i sicrhau eich bod yn gwybod beth sydd angen ichi ei wneud i gynnal y Weithred hon a bodloni'r gofyn bod 10% o bob fferm yn gynefin.  Hefyd, byddwn yn eich helpu i wneud mwy, er enghraifft trwy gyfrwng y themâu Opsiynol Rheoli cynefinoedd yn well a Creu cynefinoedd parhaol a thros dro, yn ogystal â’r thema Gydweithredol  Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd.

UA7: Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig

Gwella’r modd y rheolir safleoedd dynodedig, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, trwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu Cynllun Rheoli a chytuno ar Raglen Waith

Nod

Mae’r rhwydwaith o safleoedd dynodedig yn hanfodol i fioamrywiaeth ac mae’n rhan bwysig o’r dirwedd amaethyddol. Mae’r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yr Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), y safleoedd RAMSAR a’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a leolir yng Nghymru yn cynnwys yr enghreifftiau gorau oll o’n hamgylchedd naturiol gwerthfawr. Yn ogystal â bod yn hollbwysig o ran atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn natur, gall safleoedd dynodedig esgor ar lawer rhagor o ganlyniadau hanfodol, o'u rheoli’n effeithiol, megis lleihau’r risg o lifogydd a storio carbon. 

Ein huchelgais yw sicrhau bod yr holl safleoedd dynodedig yn y Cynllun yn cael eu rheoli’n effeithiol erbyn diwedd 2030. 

Y weithred hon yw’r cam cyntaf tuag at wireddu’r uchelgais honno, trwy weithio gyda chi i lunio Cynllun Rheoli a chytuno ar Raglen Waith a all arwain at ragor o weithredu i gynnal a gwella Safleoedd Dynodedig ar eich fferm. 

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Trwy wella cyflwr y safleoedd hyn, bydd modd sefydlogi priddoedd a lleihau effeithiau sychder, llifogydd a thân.     

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach

Trwy wella cyflwr y safleoedd hyn, gellir cyfrannu’n fawr at wytnwch ecosystemau, gan ddarparu cartref i ragor o fywyd gwyllt, ynghyd â chyfoethogi ein tirweddau a chryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau a busnesau amaethyddol.

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd y weithred hon yn berthnasol i chi os oes safle dynodedig cyfan neu ran o safle dynodedig, megis SoDdGA, ar eich fferm a bod gennych reolaeth lwyr drosto, neu gytundeb perchennog y tir. 

Byddwn yn cadarnhau unrhyw safleoedd sydd ar eich fferm ar fap rhyngweithiol RPW Ar-lein. 

Yn achos ffermydd sydd â Chytundeb Rheoli eisoes, gan gynnwys Cytundebau Adran 16 gydag CNC, sy’n ymdrin â sut i reoli safle dynodedig, bydd hynny'n brawf eu bod eisoes wedi cynnal y Weithred hon.

Gofynion y Weithred Gyffredinol

I gwblhau'r Weithred hon, rydym yn gofyn i chi gydweithio â RPW ac CNC i ddatblygu Cynllun Rheoli Safle Dynodedig a chytuno ar Raglen Waith. 

Efallai hefyd yr ystyrir rheoli ‘llain glustogi’ o amgylch y safle dynodedig, fesul achos, oherwydd unrhyw effaith bosibl ar y safle. Mater gwirfoddol i chi fydd cytuno ar hyn drwy'r Cynllun Rheoli.

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Oherwydd yr amser sydd ei angen i lunio Cynlluniau Rheoli ar gyfer holl safleoedd Cymru, y terfyn amser ar gyfer y Weithred hon yw diwedd 2030.

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Ni fydd angen ichi gyflwyno unrhyw dystiolaeth. Bydd RPW ac CNC yn gweithio gyda chi i lunio Cynlluniau Rheoli a Rhaglenni Gwaith.

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Byddwn yn nodi’r manylion a’r blaenoriaethau perthnasol yng Nghanllawiau’r Cynllun.

Mewn ambell achos, efallai y bydd RPW ac CNC yn cysylltu â chi cyn i’r cynllun ddechrau yn 2026 i ymestyn cytundebau sydd gennych eisoes neu efallai'n cysylltu â chi yn y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Ar ôl cytuno ar eich Cynllun Rheoli, byddwn yn eich helpu i weithredu’r Rhaglen Waith trwy gyfrwng y thema Opsiynol Gweithredu rhaglenni gwaith cynlluniau rheoli safleoedd dynodedig a’r thema Gydweithredol Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd.

UA8: Rheoli perthi/gwrychoedd

Annog perthi/gwrychoedd mwy trwchus a mwy o faint er budd da byw, cnydau a bywyd gwyllt

Nod

Bwriad y weithred hon yw creu perthi trwchus a fydd yn cynnig lloches ac yn cael cynhyrchu blodau, ffrwythau a hadau fel ffynhonnell fwyd i fywyd gwyllt. 

Mae perthi'n bodoli mewn cylch parhaus, o rai sydd newydd eu plannu i derfynau lletach, talach, llai unffurf. Mae rheoli perthi trwy eu bondocio a’u plygu hefyd yn rhan o’r cylch hwnnw. Mae ein tirweddau a’n bywyd gwyllt yn ffynnu ar batrwm o berthi lle ceir gwahanol fathau o blanhigion ar wahanol gyfnodau drwy gydol y cylch hwn.

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Mae perthi trwchus sydd mewn cyflwr da yn cysgodi cnydau rhag y gwynt ac yn cysgodi ac yn llochesi'ch da byw. Gall perthi lletach a thalach ar hyd terfynau'ch fferm gynnig ffiniau bioddiogelwch gwerthfawr rhwng eich da byw chi a da byw cymdogion. 

Bydd perthi sydd mewn cyflwr da yn cyfrif tuag at Ofyn y Cynllun bod 10% o bob fferm yn gynefin – gweler Atodiad 2 am ragor o fanylion. 

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach

Perthi/gwrychoedd yw calon natur cefn gwlad Cymru. Maen nhw'n helpu i adrodd hanesion tirlun ein ffermydd, ac arferion ffermio sydd wedi esblygu dros genedlaethau – yn enwedig os ydyn nhw wedi datblygu law yn llaw â nodweddion fel cloddiau a chloddiau cerrig. 

Mae perthi trwchus a mawr eu hunain yn gynefinoedd pwysig, a hefyd maen nhw'n creu cyswllt hollbwysig rhwng cynefinoedd darniog eraill. Mae perthi mwy trwchus a mwy o faint yn tueddu i ddal a storio mwy o garbon. 

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd y weithred hon yn berthnasol i’r holl berthi/gwrychoedd y mae gennych reolaeth lwyr arnynt ar eich fferm. Byddwn yn rhagdybio y bydd gennych chi reolaeth lwyr ar eich ochr chi o unrhyw derfyn a rennir, er enghraifft gyda chymydog neu ymyl ffordd. 

Ni fydd y weithred hon yn berthnasol os nad oes gennych reolaeth lwyr ar berth. 

Gofynion y Weithred Gyffredinol

Pan fyddwch yn rheoli perth trwy ei thorri neu ei thocio, rydym yn gofyn i chi wneud y canlynol: 

  • gadewch i'r berth rydych chi'n ei thorri dyfu'n fwy trwchus ac yn dalach trwy ei thocio i bwynt ychydig yn uwch a lletach bob tro. Dylech adael o leiaf 5cm o dwf ychwanegol. Efallai na fydd hyn yn bosibl bob tro, er enghraifft mewn ardaloedd arfordirol sy'n agored i’r elfennau lle bydd y twf yn arafach. Ar ôl i’r berth dyfu 3m x 2m (neu 2m x 3m) o led ac uchder, gallwch ddewis ei chadw ar y maint hwnnw neu adael iddi dyfu rhagor
  • cadw neu blannu o leiaf un goeden yn y berth bob 50m ar gyfartaledd. Fe fydd yna ardaloedd lle na fydd yn briodol gwneud hyn, er enghraifft mewn ardaloedd lle mae adar (megis gylfinirod) yn nythu ar y ddaear, neu lle mae perthi'n agored i wyntoedd arfordirol cryf

Rydym yn gofyn ichi beidio â gwneud y canlynol:

  • tocio neu dorri’r un berth mewn blynyddoedd olynol h.y. dwy flynedd o'r bron.
  • torri perthi heblaw o dan yr amgylchiadau canlynol:
    • lle mae’r berth eisoes wedi cyrraedd 3m x 2m (neu 2m x 3m) o led ac uchder. Yna, gallwch ddewis ei chadw ar y maint hwnnw neu adael iddi dyfu rhagor
    • fel rhan o waith bondocio neu blygu i adfywio perth aeddfed
  • torri perthi neu goed (yn y berth) rhwng 1 Mawrth a 31 Awst. Ceir amgylchiadau, fel y rhai a restrir isod, pan na fydd hyn bob amser yn bosibl nac yn briodol. Bydd y manylion llawn yn cael eu cynnwys yng Nghanllawiau'r Cynllun:
    • mae'r berth neu'r goeden yn tyfu dros briffordd, ffordd, trac neu lwybr, a bod y gwaith yn angenrheidiol am resymau iechyd a diogelwch
    • mae'r gwaith torri neu docio yn cael ei wneud fel rhan o drefn ehangach o gynnal a chadw ffosydd ar dir wedi’i wella
    • os yw'n arfer amaethyddol plannu cnwd âr y gaeaf cyn 31 Awst
    • os oes angen gosod ceblau trydan neu ffôn uwchben, bydd y cwmni sy’n gyfrifol amdanynt yn cael torri rhywfaint ar y coed a/neu’r perthi am resymau diogelwch

Mae mieri yn gynefin pwysig i fywyd gwyllt, gan gynnig bwyd a lloches i amrywiaeth eang o rywogaethau, yn cynnwys adar a phryfed peillio. Ni fydd y weithred hon yn eich gwahardd rhag torri mieri sy’n tyfu y tu allan i broffil y berth, os gwneir hynny am resymau’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. 

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Rhaid bodloni’r gofyn rheoli hwn bob blwyddyn. 

Chi piau’r dewis o ran y patrwm torri a thocio ar eich fferm, ond byddem yn eich annog i gylchdroi’r patrwm torri fel bod yna wastad rannau sy'n cynnig cysgod a manteision i fywyd gwyllt.

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Bydd angen ichi ddatgan eich bod wedi bodloni – ac y byddwch yn parhau i fodloni – y gofynion rheoli perthi bob blwyddyn ar RPW Ar-lein. Edrychir ar gyflwr y berth, twf y berth a choed y berth yn ystod ymweliadau archwilio.      

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi ystyried cynllun rheoli perthi i ategu’r gofynion uchod, neu ddechrau dewis coed addas yn y berth y gallech adael iddynt dyfu. 

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Bydd canllawiau a chymorth, er enghraifft trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio, ar gael i’ch helpu i gael y gorau o'r Weithred hon. Hefyd, cewch gymorth gennym i blannu perthi newydd (gan gynnwys yn lle perthi a gollwyd) ac adfer perthi trwy gyfrwng y thema Opsiynol Creu neu adfer perthi/gwrychoedd, gan eich helpu i gyflawni UA10 Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd. 

UA9: Cynnal coetir

Cynnal coetiroedd sydd eisoes yn bodoli er mwyn cynyddu’r manteision i dda byw a natur ac ar gyfer arallgyfeirio busnesau

Nod

Mae coetiroedd yn rhan hanfodol o’r tirweddau rydyn ni'n eu trysori; maen nhw'n bwysig i fywyd gwyllt, i’n hiechyd ac i’n mwynhad; ac maen nhw'n rhannau annatod o dir fferm. 

Bwriad y Weithred Gyffredinol hon yw cadw a chynnal eich coetiroedd a’ch galluogi i’w gwella ymhellach.

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Gall coetiroedd gynnig cysgod a lloches i dda byw, a gellid ystyried bod cynnal coetiroedd yn gam cyntaf tuag at reoli cnwd pren gwerthfawr ar gyfer y dyfodol. 

Nid oes taliad ar gyfer y rhan fwyaf o goetiroedd a chanopïau coed eang o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol. Byddwn yn talu taliad cynnal coetir ichi o fewn eich Taliad Cyffredinol er mwyn cydnabod pwysigrwydd coetiroedd a’r holl fanteision a ddaw o’r gwaith a wnewch i gynnal coed a choetiroedd. Bydd ffermydd felly sydd â mwy o goetir yn cael taliadau cynnal ar gyfer mwy o arwynebedd.

Bydd coetiroedd llydanddail sydd wedi sefydlu ac a gynhelir o dan y weithred hon yn cyfrif tuag at Ofyn y Cynllun bod 10% o bob fferm yn gynefin.   

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach

Trwy gynnal coetiroedd, byddwch yn darparu cynefin i fywyd gwyllt, yn dal mwy o garbon ac yn helpu i reoli'r llif dŵr. 

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd y Weithred hon yn berthnasol i bob coetir sydd gennych ar eich fferm, lle mae gennych reolaeth lwyr arno. Gall y coetiroedd fod yn goetiroedd llydanddail, yn blanhigfeydd conwydd neu’n goetiroedd cymysg sydd o leiaf 0.1ha gyda chanopi yn gorchuddio o leiaf 20% neu fod potensial iddo wneud hynny. Ni fydd mwy nag 20% yn fannau agored.

Ystyrir bod coetir llai na 0.1ha, ynghyd â choed unigol neu grwpiau o goed, yn nodwedd yn y dirwedd. Bydd angen eu rheoli fel a ddisgrifir yn y Cod i Bawb.

Gofynion y Weithred Gyffredinol

Er mwyn cwblhau’r Weithred hon, rydym yn gofyn ichi gynnal eich coetir yn unol â set benodol o ofynion (Atodiad 7).

Mae’r gofynion hyn yn cynnwys dim ond torri coed rhwng 1 Medi a 28 Chwefror, a pheidio â thorri mwy na 5m3 bob chwarter, cadw rhywfaint o bren marw a helpu aildyfiant naturiol priodol. Gofynnir ichi warchod llystyfiant daear brodorol, a choed, a’u gwreiddiau rhag niwed uniongyrchol neu anuniongyrchol yn sgil trin, cywasgu, defnyddio peiriannau neu ddefnyddio agrocemegion, gan gynnwys gwrteithiau. 

Bydd angen ichi fonitro pori a chadw effeithiau da byw yn fach. Os oes modd, dylech osgoi pori’r coetir yn y gwanwyn a dechrau’r haf, a pheidiwch â rhoi porthiant atodol i dda byw ynddo. 

Bydd angen bodloni’r gofynion hyn ochr yn ochr y rheini yn y Cod i Bawb. Gweler Atodiad 2.

Amrywiadau i’r Weithred Gyffredinol hon

Gellir newid gofynion y Weithred Gyffredinol hon os yw rhan o'ch tir yn safle dynodedig fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a;

  • bod gennych Gynllun Rheoli a Rhaglen Waith (SoW) y cytunwyd arni fel rhan o UA7 Gynllun Rheoli Safle Dynodedig, neu
  • os ydych yn gwneud gwaith rheoli coetir mwy penodol o dan y thema Opsiynol
Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Rhaid bodloni gofynion cynnal y Weithred hon drwy gydol y flwyddyn.

Pan fyddwch wedi plannu coetir newydd gyda chyllid y llywodraeth, rhaid bodloni unrhyw ofynion rheoli sy'n gysylltiedig â'r cyllid hwnnw am gyfnod y contract.    

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Gofynnir i chi ddatgan ar eich SAF os nad chi sy’n gyfrifol am reoli'r coetir. Os oes gennych gyfrifoldeb rheoli, gofynnir i chi gadarnhau drwy RPW Ar-lein eich bod wedi bodloni'r gofynion cynnal coetir ar y tir y mae gennych reolaeth lwyr arno. 

Byddwn yn edrych ar gyflwr y coetir yn ystod ymweliadau archwilio. Dylech gadw tystiolaeth o eithriadau am bum mlynedd a dylech sicrhau bod y dystiolaeth honno ar gael i’w harchwilio os gofynnir amdani. Gallai tystiolaeth o’r fath gynnwys trwydded cwympo coed neu gynllun rheoli sy’n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS), er enghraifft, neu ffotograffau a / neu lythyrau gan awdurdodau cymwys perthnasol sy’n dangos yn glir pam y bu’n rhaid torri neu docio’r coed rhwng 1 Mawrth a 31 Awst.   

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Efallai y byddwch am ystyried llunio cynllun rheoli coetir cyn i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau i'ch helpu i ddeall y cyfleoedd y mae coetiroedd eich fferm yn eu cynnig. 

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Bydd canllawiau a chymorth ar gael, er enghraifft trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio, i’ch helpu i ddeall a chael y gorau o'ch coetiroedd. Hefyd, byddwn yn eich helpu i reoli'r coetiroedd hyn yn well ac i blannu coetiroedd newydd, gan sicrhau rhagor o fanteision i chi ac i’r amgylchedd, trwy gyfrwng y themâu Opsiynol Rheoli coetiroedd yn well a Creu coetir ac amaeth-goedwigaeth.  

UA10: Cynllun cyfle i blannu coed a chreu perthi / gwrychoedd

Cwblhau cynllun cyfle i blannu coed ychwanegol a chreu ac adfer perthi / gwrychoedd ledled eich fferm

Nod

Nod y Weithred Gyffredinol hon yw annog pob ffermwr i ystyried ble byddai'n bosibl plannu mwy o goed a pherthi/gwrychoedd i helpu i sicrhau'r manteision niferus y maen nhw'n eu rhoi. Gellir cefnogi unrhyw waith plannu wedi hynny fel Gweithred Opsiynol. 

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Trwy integreiddio rhagor o goed a pherthi ar draws eich fferm, darperir rhwystrau bioddiogelwch ar hyd terfynau’r fferm, a chysgod a lloches i dda byw ac i gnydau o'u plannu fel lleiniau cysgodi. Gellir hefyd eu plannu yma ac acw ar y tir pori fel rhan o system coed pori neu goed âr. 

Hefyd, efallai y bydd plannu cnwd pren ar gyfer y dyfodol, fel rhan o fusnes fferm sydd wedi arallgyfeirio, yn addas ar rai ffermydd.   

Bydd unrhyw goetiroedd lludanddail neu berthi newydd sy'n cael eu plannu yn cyfrif at Ofyn y Cynllun bod 10% o bob fferm yn gynefin.

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach

Bydd plannu coed a pherthi ychwanegol yn dal rhagor o garbon ac yn gallu helpu i arafu llif dŵr ar draws y dirwedd gan helpu i leihau’r risg llifogydd i lawr yr afon. Trwy blannu coed a pherthi o amgylch storfeydd slyri a siediau anifeiliaid, byddan nhw'n gallu dal llygryddion, fel amonia, yn yr aer a all gael effaith negyddol ar iechyd pobl.   

Bydd coed a pherthi ychwanegol yn darparu cynefin i fywyd gwyllt, a byddan nhw'n fwy gwerthfawr fyth os byddwch yn eu defnyddio i gysylltu cynefinoedd darniog â'i gilydd. 

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd angen Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Pherthi ar gyfer pob fferm yn yr SFS.   

Gofynion y Weithred Gyffredinol

Er mwyn cwblhau’r weithred hon, rydym yn gofyn ichi greu map cyfle i blannu coed a chreu perthi ar RPW Ar-lein. Gallwch nodi'r rhannau o'ch fferm fydd yn eich barn chi yn elwa o gael coed neu berthi newydd ar sail yr hyn rydych yn ei wybod am eich system ffermio. Bydd modd ichi gynnwys perthi, a choed unigol, mewn grwpiau bach neu mewn ardaloedd mwy. Ein bwriad yw gwneud y cynllun yn un syml, felly ni ddylai fod angen unrhyw gymorth arbenigol arnoch i’w gwblhau. 

Ar ôl cwblhau'ch cynllun cyfle, rydym yn eich annog i ddechrau plannu cyn gynted ag y medrwch chi, gan ddefnyddio’r cynigion coed a pherthi hael a hyblyg yn yr Haen Opsiynol. 

Efallai na fydd ffermwyr tenant yn cael plannu coed neu greu perthi oherwydd eu cytundeb tenantiaeth. Dylen nhw siarad gyda’u landlord am unrhyw gyfleoedd a allai ddod â budd i’r ddwy ochr. 

Yn achos tir sy'n gynefin eisoes, neu safleoedd dynodedig megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu dir sy’n bwysig i rywogaethau â blaenoriaeth fel gylfinirod, efallai na fydd y tir hwnnw’n addas ar gyfer ei blannu. Rydyn ni'n galw'r rheini yn nodweddion sensitif, a byddwn yn rhoi gwybod ichi am unrhyw nodweddion sensitif rydyn ni'n gwybod amdanyn nhw pan fyddwch yn llenwi'r Map Cyfle ar RPW Ar-lein. 

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Dylech gwblhau’r map cyfle erbyn diwedd eich blwyddyn galendr gyntaf yn y Cynllun. Gellir ei newid wedyn os bydd eich amgylchiadau’n newid, megis newidiadau i'r tir neu newidiadau yn y cytundeb tenantiaeth.   

Bydd angen i chi ddangos faint o’ch cynllun cyfle rydych wedi’i wneud erbyn diwedd 2028. Byddwn yn cynnig cymorth ar gyfer plannu coed a pherthi yn yr Haen Opsiynol ac rydyn ni’n eich annog i fanteisio ar y cynnig hwn i blannu cymaint o’ch cynllun ag y medrwch. Rydyn ni’n gofyn ichi blannu o leiaf 0.1ha o goed (neu o leiaf 250 o goed) ychwanegol erbyn 2028. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Bydd y gwaith a wneir bob blwyddyn i roi'ch cynllun ar waith (hectarau o goetir wedi'u creu, nifer y coed a blannwyd neu fetrau o berthi sydd wedi'u creu neu eu hadfer) yn cael ei gofnodi'n awtomatig os caiff ei gefnogi drwy un o gynlluniau Llywodraeth Cymru. Bydd angen i chi ddiweddaru'ch SAF gyda manylion gwaith plannu newydd os nad ydych yn defnyddio un o gynlluniau Llywodraeth Cymru.   

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Rydym yn eich annog i ddechrau ystyried ble y dylech blannu coed a chreu perthi ychwanegol er lles eich fferm a dechrau eu plannu nawr. Bydd unrhyw waith plannu a wnaed ers 1 Ebrill 2022 yn cael ei ystyried fel cyfraniad at roi'r cynllun cyfle ar waith. 

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Bydd canllawiau a chymorth, er enghraifft trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio, ar gael i’ch helpu i gael y gorau o'r Weithred hon. Bydd cymorth ar gyfer plannu ar gael o dan y thema opsiynol Creu coetir ac amaeth-goedwigaeth, a Chreu ac adfer perthi/gwrychoedd.  

UA11: Yr amgylchedd hanesyddol

Diogelu a chyfoethogi ein nodweddion treftadaeth pwysig er mwyn gwarchod ein cymeriad diwylliannol neilltuol

Nod

Mae cefn gwlad Cymru yn glytwaith o dirweddau naturiol a diwylliannol, a ffurfiwyd gan y rhyngweithio rhwng pobl, gan gynnwys cenedlaethau o ffermwyr, a’r amgylchedd naturiol dros filoedd o flynyddoedd. Tirwedd Cymru, fel y mae heddiw, sy'n rhoi i Gymru ei chymeriad gweledol a diwylliannol neilltuol.

Nod y weithred hon yw monitro, cynnal a diogelu ein nodweddion hanesyddol pwysig (neu asedau fel y’u gelwir weithiau), a helpu i gynnal cymeriad diwylliannol neilltuol Cymru. 

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Fel ceidwaid yr asedau hanesyddol a diwylliannol pwysig hyn sydd ar eich fferm, byddwch yn cysylltu â’ch cymuned ac yn ein helpu i ddiogelu’r asedau hyn er lles cenedlaethau’r dyfodol. 

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach 

Bydd y Weithred Gyffredinol hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at warchod a chyfoethogi cefn gwlad a'i adnoddau diwylliannol, gan esgor ar fanteision i chi ac i’ch cymuned.

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd y weithred hon yn berthnasol i chi os oes gennych unrhyw rai o’r canlynol ar eich fferm:

  • henebion cofrestredig
  • nodweddion yr Amgylchedd Hanesyddol – nodweddion unigol ac ardaloedd mwy sy’n sensitif yn archaeolegol
  • parciau a gerddi cofrestredig
  • adeiladau fferm traddodiadol. Sylwch nad yw'r UA hwn yn eich rhwystro rhag addasu neu drosi adeiladau fferm, ond eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau'ch bod wedi cael pob caniatâd a thrwydded gan yr awdurdodau perthnasol
Gofynion y Weithred Gyffredinol

Er mwyn cwblhau’r weithred hon, rydym yn gofyn ichi gynnal eich nodweddion hanesyddol yn unol â set benodol o ofynion a nodir yn Atodiad 8. Mae'r wybodaeth yn Atodiad 8 yn cynnwys:

  • disgrifiad o’r nodweddion gwahanol
  • gofynion rheoli y gofynnir ichi gytuno i’w gwneud neu beidio â’u gwneud ar fath arbennig o nodwedd. Byddwn yn eich archwilio ar sail hyn. Yn gyffredinol, mae’r gofynion hyn yn cynnwys monitro, gwaith cynnal a chadw sylfaenol a diogelu’r nodweddion sydd ar eich fferm. Ni fydd disgwyl ichi adfer y nodweddion i’w cyflwr gwreiddiol na mynd i’r afael â gwaith rheoli sylweddol neu gostus. Gofynnwn ichi ddilyn yr egwyddor ‘peidio â niweidio’ a chynnal gwaith rheoli rhagweithiol – gan ddibynnu ar y nodwedd unigol
  • llacio gofynion posibl – senarios tebygol y tu hwnt i’ch rheolaeth lle gellir llacio’r gofynion rheoli
Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Dylech gadw at y gofynion rheoli ar gyfer yr holl nodweddion hanesyddol ar eich fferm drwy gydol y flwyddyn. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Bydd gennych gyfle i gadarnhau’r asedau hanesyddol ar eich fferm. Bydd RPW yn rhoi'r wybodaeth sydd gennym i chi er mwyn eich helpu i wneud hyn.

Mae’r gofynion manwl yn Atodiad 8 yn cynnwys disgrifiad o'r gwahanol fathau o dystiolaeth y bydd eu hangen i gofnodi newid yng nghyflwr y nodwedd hanesyddol, neu i gofnodi gwaith rheoli sydd wedi'i wneud er ei fudd (megis ffotograffau wedi’u geo-dagio). Dylech eu cadw am o leiaf bum mlynedd a sicrhau eu bod ar gael i’w harchwilio pan ofynnir amdanynt.   

Bydd angen ichi ddatgan ar RPW Ar-lein bod y Weithred Gyffredinol wedi’i chwblhau. 

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy?

I baratoi, gallwch bennu, asesu a chofnodi cyflwr yr asedau / nodweddion sydd ar eich fferm.

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Bydd canllawiau a chymorth ar gael, er enghraifft trwy Cadw a Cyswllt Ffermio, i’ch helpu i ddeall a chael y gorau o'r Weithred hon. 

Rhagwelwn y bydd cymorth ariannol ar gael yn y dyfodol i’ch helpu i wella cyflwr y nodweddion hyn, trwy'r Haen Opsiynol. 

UA12: Iechyd a lles anifeiliaid

Gweithio gyda’ch milfeddyg i fonitro a chefnogi gwelliant parhaus yn iechyd a lles eich da byw

Nod

Bwriad y weithred hon yw eich helpu i gadw anifeiliaid iach a chynhyrchiol a chanddynt ansawdd bywyd da trwy'r egwyddor 'gwell atal clwyf na'i wella'. 

Ei nod hefyd yw eich helpu i gydweithio â'ch milfeddyg i optimeiddio iechyd anifeiliaid ar eich fferm ac ategu eto y mentrau ‘iechyd a lles’ rhagorol sy'n cael eu cynnal ar ffermydd da byw Cymru.

Beth bydd manteision hyn i chi a’ch fferm

Trwy gydweithio’n agos gyda’ch milfeddyg, byddwch yn lleihau’r risg o glefydau, gwella cynhyrchiant eich da byw, gwella eu lles a gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yn well. Hefyd, bydd yn dangos i broseswyr yn y gadwyn gyflenwi eich bod wedi ymrwymo i safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid. 

Beth yw manteision hyn i'ch cymuned ehangach

Trwy wella iechyd a lles anifeiliaid, byddwch yn ennyn hyder defnyddwyr yn y modd y caiff bwyd ei gynhyrchu, sydd ynddo'i hun yn rheidrwydd moesegol. Trwy leihau baich clefydau, bydd angen llai o wrthfiotigau. Byddwch felly’n lleihau’r risg o fagu ymwrthedd i wrthfiotigau a'r bygythiadau i iechyd y cyhoedd yn sgil milheintiau. 

Pwy fydd angen cwblhau’r Weithred Gyffredinol hon

Bydd y Weithred yn berthnasol i bob fferm lle caiff da byw eu magu neu eu ffermio i gynhyrchu bwyd a nwyddau. Fodd bynnag, ni fydd angen cwblhau’r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid ar fentrau bach sydd ond yn gwerthu wrth giât y fferm (e.e. wyau), neu lle cedwir da byw i’w bwyta’n breifat neu lle caiff anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid eu dosbarthu’n breifat. Mae mentrau eraill yn y categori hwn yn cynnwys sŵau anwesu neu fentrau lle mae anifeiliaid yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes.

Dylai'r Weithred Gyffredinol hon gael ei gwneud gan rywun sy'n wybodus am dda byw ac sy’n gyfarwydd â nhw. Ambell waith, deallwn mai aelod o staff y fferm fydd yr unigolyn mwyaf addas. Bydd yn dderbyniol i’r unigolyn hwnnw wneud y Weithred hon ar eich rhan.     

Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, rhaid i elfen y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid a’r elfen Bioddiogelwch gael eu cyflawni gan y practis milfeddygol sy’n gofalu am eich anifeiliaid. Bydd staff y practis hwnnw yn gwybod beth yw statws iechyd presennol eich da byw a byddan nhw'n gallu gosod nodau a chamau gweithredu realistig gyda chi. 

Gofynion y Weithred Gyffredinol

Gofynnwn ichi fynd i’r afael â thair elfen y bwriedir iddynt ategu ei gilydd, sef:

  • cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC)
  • asesiad bioddiogelwch o anifeiliaid sy'n dod i'ch fferm
  • lles anifeiliaid
Y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid

Gweithiwch gyda’ch milfeddyg i gymryd pedwar cam y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid mewn cyfnod o 12 mis ar gyfer y rhywogaethau da byw rydych yn eu cadw ar eich fferm:

Mesur – gyda’ch milfeddyg, pennu un neu ddau o fetrigau iechyd a chynhyrchiant da byw rydych yn cytuno y gallwch eu gwella. Er enghraifft, nifer y lloi sy'n cael eu magu fesul buwch (bîff), oedran rhoi tarw am y tro gyntaf (gwartheg) neu gyfraddau difa (pob dosbarth o dda byw).

Cynllunio – gan weithio gyda'ch milfeddyg, cytuno ar gynllun gweithredu (rhwng dau a phedwar cam fel arfer) ar gyfer pob metrig rydych am ei wella.

Gweithredu – cynnal nifer ymarferol o weithredoedd mesuradwy ar gyfer pob metrig, er mwyn sicrhau gwelliant. 

Adolygu – dadansoddi effeithiau’r gweithredoedd hyn ac asesu a ydynt wedi taro'r targedau perthnasol.  Dewis meysydd eraill y gellir eu gwella ar ôl i’r targedau gael eu cyrraedd.

Gan ddibynnu ar y mater rydych yn delio ag ef, ni fydd hi wastad yn bosibl sicrhau newid ystyrlon o fewn terfyn amser penodol. Ni fydd canlyniadau’r broses hon yn effeithio ar eich Taliad Cyffredinol.

Gellir defnyddio templed y Cynllun Gwella Iechyd Anifeiliaid, wedi’i lenwi ac yna ei lofnodi gennych chi a’ch milfeddyg fel tystiolaeth bod y Cynllun Gwella Iechyd Anifeiliaid wedi’i gwblhau. Ceir enghraifft o Gynllun Gwella Iechyd Anifeiliaid wedi'i lenwi ar gyfer uned eidion yn Atodiad 11

Asesiad bioddiogelwch o anifeiliaid sy'n dod i'r fferm

Cwblhewch asesiad bioddiogelwch gyda'ch milfeddyg o'r anifeiliaid sy'n dod i'ch fferm, gan ddefnyddio'r templed safonol yn Atodiad 12 y gallwch ei ddefnyddio fel tystiolaeth bod yr asesiad wedi'i gwblhau. Dylai gynnwys y camau y byddwch yn eu cymryd i leihau risgiau bioddiogelwch y gall anifeiliaid o'r tu allan ddod gyda nhw, megis holi cyn prynu, profion, cwarantin, brechu neu roi triniaeth a sut rydych am gofnodi'r camau hyn. 

Dylai'r ffiniau allu cadw stoc rhag crwydro a bod yn addas i'r da byw rydych chi'n eu cadw. Mae hyn yn berthnasol yn unig i ffiniau caeedig eich fferm, lle chi yn unig sy'n gyfrifol.  

Lles anifeiliaid

Cwblhau hyfforddiant ynghylch Sgorio Cyflwr Corff a sgorio symudedd y mathau o dda byw rydych yn eu cadw, gan ddefnyddio modiwlau SFS ar blatfform Cyswllt Ffermio neu hyfforddiant cymeradwy arall. Os ydych yn cadw mwy nag un rhywogaeth, er enghraifft defaid a gwartheg, bydd angen cwblhau hyfforddiant ar wahân ar gyfer pob un. Gall yr hyfforddiant gael ei roi i chi, eich partneriaid busnes, gweithwyr neu aelodau o'r teulu sy'n gweithio i'r busnes.  Dylech wneud yr hyfforddiant o leiaf unwaith bob pum mlynedd. 

Mae hyfforddiant cymeradwy yn cynnwys, er enghraifft, – hyfforddiant iechyd anifeiliaid LANTRA sy'n ymwneud â symudedd neu sgorio cyflwr y corff, neu fod yn aelod o'r Bwrdd Safonau Gofal Carnau Gwartheg neu raglen Traed Iach. Ar gyfer da byw heblaw gwartheg neu ddefaid, mae tystiolaeth bod milfeddyg wedi cynllunio rhaglen iechyd anifeiliaid hefyd yn gymwys.

Bydd angen i chi gwblhau a chofnodi dyddiad sgorio cyflwr cyrff a symudedd buches neu ddiadell, gan nodi unrhyw gamau sydd angen eu cymryd. Dylech wneud hyn o leiaf bob blwyddyn, yn unol â’r cyngor arfer da a bennir yn yr hyfforddiant ar-lein. 

Os ydych eisoes wedi cael hyfforddiant sgiliau cymwys ar gyfer sgorio symudedd a chyflwr corff yn y pum mlynedd cyn ichi ymuno â’r Cynllun, a bod gwaith sgorio a chofnodi yn cael ei wneud bob blwyddyn ar y fferm, efallai eich bod eisoes yn bodloni gofynion y weithred hon, cyn belled â bod gennych dystiolaeth. 

Ni fydd angen i’ch milfeddyg gyfrannu at yr elfen ‘lles anifeiliaid’, ond dylech rannu’r wybodaeth sgorio gyda’ch milfeddyg wrth gwblhau’r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid. 
 

Erbyn pryd y bydd angen cwblhau’r weithred hon

Dylid rhoi camau’r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid ar waith yn barhaus, ond deallwn y gallai fod angen mwy na 12 mis arnoch i roi’r pedwar cam ar waith. Ond byddem yn disgwyl ichi gwblhau’r cam ‘Mesur’ a’r cam ‘Cynllunio’ yn ystod y flwyddyn galendr gyntaf ar ôl ymuno â’r cynllun. 

Dylech gynnal yr Asesiad Bioddiogelwch bob blwyddyn gyda’ch milfeddyg, a’i ddefnyddio i'ch helpu i wneud penderfyniadau am anifeiliaid sy'n dod i'r fferm.

Dylech gymryd yr hyfforddiant sgiliau ar gyfer sgorio symudedd a chyflwr y corff o leiaf unwaith bob pum mlynedd fesul dosbarth da byw. Dylech lenwi cofnodion sgorio cyflwr corff a symudedd buches / diadell bob blwyddyn. 

Pa dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno

Bydd angen ichi ddatgan yn flynyddol ar RPW Ar-lein eich bod wedi bodloni gofynion y Weithred. 

Ni fydd angen ichi gyflwyno’r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid, yr Asesiad Bioddiogelwch na’r wybodaeth sgorio ar RPW. Ond dylech gadw’r holl gofnodion am bum mlynedd a sicrhau bod y cofnodion hynny ar gael i’w harchwilio pan ofynnir amdanynt.

Sut galla i baratoi ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Os ewch ati i gwblhau’r modiwl dysgu ar-lein ‘Lles Anifeiliaid’ a ddarperir gan Cyswllt Ffermio o Haf 2025 ymlaen (gweler UA4 Datblygiad Proffesiynol Parhau ac atodiad 4), bydd hyn yn cyfrif yn lle’r hyfforddiant sgiliau am y pum mlynedd nesaf.   

Rhagor o wybodaeth a chymorth 

Darperir cyngor a chymorth gan Cyswllt Ffermio ynghyd â’ch milfeddyg a fydd yn cael hyfforddiant pwrpasol yn ymwneud â’r gofynion hyn. 

Mae’r berthynas rhwng y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid a chynlluniau iechyd gwarant ffermydd presennol yn bwysig. Ein bwriad yw cynyddu cyfleoedd a lleihau baich ffermwyr er mwyn iddyn nhw allu cwblhau cynlluniau gwarant a’r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid mor effeithiol â phosibl. Byddwn yn parhau i weithio ar y broses hon gyda darparwyr Gwarant Ffermydd. 

Byddwn yn eich helpu i wneud gwelliannau trwy'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol. I gychwyn, bydd y pwyslais ar y thema Opsiynol Gwella bioddiogelwch i ddarparu cymorth cyfalaf i helpu i atal clefydau rhag cyrraedd eich fferm a rheoli’r risg o ledaenu clefydau sydd eisoes ar eich fferm. 

Pennod 5: yr Haen Opsiynol

Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yw’r lefel sylfaenol i ymuno â'r Cynllun. Ond rydyn ni'n deall bod llawer ohonoch am fynd ymhellach a gwneud mwy, a bod nifer ohonoch eisoes yn gwneud hynny. Bwriad Haen Opsiynol y Cynllun yw rhoi'r dewis a'r hyblygrwydd ichi gynnal gweithredoedd mwy penodol wedi'u targedu, gan ddibynnu ar fusnes eich fferm a’r hyn rydych chi am ei gyflawni. 

Yn un o'r ymgynghoriadau gafodd eu cynnal, gofynnon ni beth ddylai blaenoriaethau'r Haen Opsiynol fod. Rydyn ni wedi gwrando ar eich atebion ac wedi’u huno â blaenoriaethau'r llywodraeth. 

I'ch helpu i newid pethau er gwell ar eich fferm ar sail y blaenoriaethau hyn, rydyn ni wedi addasu a diweddaru rhai o’r cynlluniau cyllido blaenorol a chreu rhai gweithredoedd newydd sbon. 

Mae’r Gweithredoedd Opsiynol fydd ar gael yn 2026 wedi'u grwpio'n 14 o ‘themâu’ a restrir isod ac rydyn ni'n eu disgrifio'n fanylach yn y bennod hon. 

  • gwella iechyd y pridd a chnwd gorchudd amlrywogaeth
  • cynhyrchu cynaliadwy
  • rheolaeth uwch ar gynefinoedd
  • creu cynefinoedd dros dro a pharhaol.
  • gweithredu Rhaglen Waith y Safleoedd Dynodedig.
  • rheolaeth uwch ar goetiroedd.  
  • creu coetir ac amaeth-goedwigaeth
  • creu neu adfer perthi/gwrychoedd
  • gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) uwch
  • gwella ansawdd dŵr, y defnydd a wneir o ddŵr a mesurau lliniaru llifogydd
  • gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau amonia
  • ffermio organig (cymorth a throsi)
  • bioddiogelwch gwell  

Bydd y taliadau a delir am gynnal Gweithredoedd Opsiynol unigol yn gymysgedd o: 

  • daliadau refeniw untro, er enghraifft am greu planiau
  • taliadau refeniw dros sawl blwyddyn, gan gynnwys taliadau ar sail arwynebedd, er enghraifft ar gyfer rheolaeth well ar gynefin neu goetir
  • taliadau cyfalaf, er enghraifft ar gyfer offer bach, neu i fuddsoddi mewn seilwaith mwy

Bydd y taliad yn briodol i’r weithred a chyhoeddir canllawiau gyda'r taliad os gwelir bod angen.  

Bydd y canllawiau a gyhoeddir ar gyfer y cynllun yn cynnwys manylion llawn pob thema a rhagor o wybodaeth am brosesau gweithredu'r Haen Opsiynol gan gynnwys: 

  • y broses gwneud cais
  • targedu a blaenoriaethu, yn ôl y gofyn
  • cyfraddau talu 

Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r rhain a’r Gweithredoedd Opsiynol fydd ar gael o 2027 ymlaen, gan gynnwys:

  • rhagor o gymorth ar gyfer cynhyrchu cynaliadwy
  • rhagor o weithgareddau i reoli a gwella cynefinoedd, gan gynnwys rhagor o weithgareddau adfer i’w targedu a’u teilwra lle bo’r angen mwyaf
  • cymorth ar gyfer gwella ac adfer nodweddion hanesyddol

Gwella iechyd y pridd a chnydau gorchudd amlrywogaeth 

Gwella iechyd ac adeiledd y pridd fel sylfaen ar gyfer cyflawni amcanion cynhyrchu, natur a hinsawdd

Nodau

Iechyd y pridd yw sail ein holl uchelgeisiau ar gyfer cynhyrchu bwyd, adfer natur a delio â’r argyfwng hinsawdd. Nod y thema hon yw atal colledion pridd, gwella bioleg fuddiol y pridd, gwella adeiledd y pridd ac adeiladu deunydd organig y pridd. Mae’r Weithred Opsiynol hon yn adeiladu ar y profion a gynhelir gennych fel rhan o UA1: Iechyd pridd.

Manteision

Gall gwella iechyd y pridd helpu i fagu gwytnwch eich fferm wrth ichi ddefnyddio llai o wrtaith ac arbed arian. 

Mae strwythur pridd iach a bioleg pridd lewyrchus yn helpu gwreiddiau i dyfu’n well ac yn helpu i reoli lefelau gwlybaniaeth er lles cynhyrchiant, gan hefyd leihau’r angen i ddyfrhau a defnyddio gwrteithiau cemegol. Gall hynny leihau gwastraff a golygu y bydd llai o wrtaith yn cael ei golli i'r amgylchedd fel llygredd. Hefyd, trwy gadw gwlybaniaeth yn y pridd yn well, bydd llai o berygl o lifogydd i lawr yr afon yn ystod tywydd gwlyb a bydd y pridd yn dal mwy o garbon. 

Cymorth

Fel ein Cynlluniau Grantiau Bach – Yr Amgylchedd ac Effeithlonrwydd, a’r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, rydyn ni am ddarparu cymorth, yn cynnwys:

  • sefydlu gwyndynnydd cymysg, cnydau gorchudd, hau cnydau dan indrawn, a chnydau / ymylon heb eu chwistrellu
  • buddsoddi cyfalaf mewn cyfarpar / seilwaith, fel:
    • cynnal a chadw bylchau caeau, trawsddraeniau, ffensys trydan a chafnau dŵr (fel bod llai o stablad (sathru tir) yn digwydd)
    • erydr isbridd, driliau pridd a pheiriannau bas-droi rhag aflonyddu ar y pridd

Gallai'r gweithredoedd hyn eich helpu i fodloni Gofynion y Cynllun, megis gwarchod pridd moel, ond fyddan nhw ddim yn rhan o unrhyw gynefin dros dro sydd wedi'i greu i fodloni gofyn y cynllun bod 10% o bob fferm yn gynefin.

Mae’r gweithredoedd yn debyg i’w gilydd a dylid eu hystyried ochr yn ochr â themâu eraill – Cynhyrchu cynaliadwy, Gwella ansawdd dŵr, y defnydd a wneir o ddŵr a mesurau lliniaru llifogydd, a Gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau amonia. 

Gwaith datblygu

Byddwn yn parhau i adolygu’r cyfarpar a’r arferion priodol fydd yn cael eu hariannu o dan y thema hon, a pha gyngor ac arweiniad y dylid eu rhoi ynglŷn â rheoli pridd, a’r ffordd orau o dargedu gweithredoedd â blaenoriaeth mewn mannau penodol. 

Cynhyrchu cynaliadwy 

Eich gwneud chi’n fwy effeithlon a’r fferm yn fwy cynaliadwy

Nodau

Nod y thema hon yw’ch helpu i wneud eich fferm yn fwy effeithlon a chynaliadwy. 

Bwriad y Weithred Opsiynol hon yw eich helpu i adeiladu ar fanteision Gweithredoedd Cyffredinol, megis UA1: Iechyd pridd ac UA3: Meincnodi.

Manteision

Trwy nodi a delio â risgiau a chyfleoedd i wneud arbedion, bydd ffermydd yn gallu gwella eu cynhyrchiant, gwneud mwy o elw a bod yn fwy cynaliadwy, gan leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar yr un pryd. 

Cymorth

Bydd cwmpas y weithred hon yn datblygu dros amser i gynnwys gweithredoedd a fydd yn cefnogi pob sector. Mae’r cynnig yn canolbwyntio i ddechrau ar welliannau ac arbedion wrth gynhyrchu da byw trwy: 

  • mewn ffordd gynaliadwy, ostwng oedran lladd yr anifeiliaid eidion gorau
  • cofrestru teirw eidion
  • cynnal patrymau pori a gorffwys (bîff, defaid neu laeth)
Oedran lladd

Mewn rhai systemau ffermio, gall gorffen gwartheg yn ifancach iddynt gyrraedd eu pwysau lladd yn gynt helpu i gynyddu cynhyrchiant a gwella perfformiad amgylcheddol. Mae gwartheg sy’n pesgi’n gynt yn defnyddio canran uwch o’u deiet dros eu hoes i dyfu yn hytrach nag am gynhaliaeth. Hefyd, mae gwartheg a gedwir ar ôl eu pwysau lladd, neu wartheg sydd angen mwy o amser i gyrraedd eu pwysau lladd, yn cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr diangen. 

Ein bwriad yw'ch helpu i wneud penderfyniadau am reoli'ch gwartheg ar sail gwybodaeth trwy'ch helpu i gofnodi a dadansoddi data perfformiad perthnasol a'r gwelliannau sy'n dilyn. Dylai hynny ddigwydd trwy fod yn fwy effeithlon yn hytrach na thrwy ddefnyddio rhagor o fewnbynnau. 

Cymorth

Cynigir taliad yn unig ar gyfer eidoniaid wedi'u pesgi sydd wedi’u geni a’u magu yng Nghymru a'u cofrestru ar Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS). I ostwng oedran lladd yr anifeiliaid eidion hyn, bydd yn rhaid cymryd camau penodol. Bydd y gostyngiad yn cael ei gofnodi fesul blwyddyn ac yn cael ei fesur ar sail perfformiad eich fferm ar flwyddyn gyfeirio benodol. 

Rhoddir cyngor ac arweiniad priodol i chi allu cadw at y safonau hwsmonaeth uchel y bydd eu hangen, er enghraifft, cyngor ar faeth, rheoli tir pori, gwelliannau genetig ac iechyd anifeiliaid rhagweithiol. Bydd y taliad yn seiliedig ar ganlyniadau gostwng yr oedran lladd.    

Bydd RPW yn monitro hynt a llwyddiant y weithred gan ddefnyddio data'r System Olrhain Gwartheg (CTS). 

Efallai y bydd modd rhoi cyllid cyfalaf i ategu’r weithred hon i brynu cyfarpar, megis cloriannau i fonitro pwysau byw dyddiol, neu graetsys gwartheg. 

Cofrestru teirw eidion

Diben y gweithgaredd hwn yw gwella’r data am gyfansoddiad genetig buchesi Cymru. Trwy wella’r eneteg, ceir potensial mawr i leihau allyriadau carbon, gwella effeithlonrwydd, ymdrin yn rhagweithiol â chlefydau all ein bygwth yn y dyfodol, a gwella amrywiaeth a gwytnwch ein sector cig eidion. 

Ar hyn o bryd, mae llawer o wartheg yn cael eu gwerthu heb unrhyw fanylion am y tarw a’u cenhedlodd, nac unrhyw gofnod am y Gwerthoedd Genetig Bras a gysylltir â nodweddion carcas (er enghraifft, dyddiau hyd at ladd) sydd yn nhras y lloi. 

Trwy gofnodi’r teirw, gallwch ychwanegu at werth pob cam o’r gadwyn gyflenwi, eich helpu i wneud penderfyniadau gwell ynghylch bridio ac ennyn hyder cwsmeriaid gan y byddwch yn gallu olrhain yr anifeiliaid yn well. 

Cymorth

Rhoddir y taliad i’ch helpu i gofnodi ar y System Olrhain Gwartheg pa deirw sydd wedi cenhedlu lloi eidion, wrth wneud cais am basbort neu wrth gofrestru pasbort. 

Bydd hyn yn ategu’r gwaith ar ostwng yr Oedran Lladd a nodir uchod, sef un o’r teithi sy’n rhan o’r Gwerthusiad Gwartheg Eidion Cenedlaethol. 

Pori a gorffwys

Mae'n hanfodol rheoli porfeydd a threfniadau pori i gael y gorau o'r cnydau pori. Gall olygu'n aml osgoi defnyddio gwrteithiau allanol. Caiff systemau pori a gorffwys (a elwir hefyd yn systemau pori celloedd neu’n systemau pori mewn cylchdro) eu defnyddio fwyfwy, gyda’r nod o wella’r defnydd o diroedd pori a gwella storfa garbon y pridd. 

Dyma fanteision hyn:

  • lleihau’r angen i brynu porthiant a gwrtaith
  • lleihau allyriadau ar y fferm ac adeiladu Deunydd Organig y Pridd
  • gwella ecosystem y fferm, er enghraifft trwy ddibynnu llai ar feddyginiaethau llyngyr (anthelminticau), mae hynny'n llesol i chwilod y dom ac infertebratau buddiol eraill sy'n gallu gwella iechyd y pridd
Cymorth

I ddechrau, byddwn yn rhoi cyfuniad o gyngor ac arweiniad ynghyd â thaliad cyfalaf i fuddsoddi mewn eitemau megis ffensys trydan, cafnau dŵr a/neu fesuryddion porfa. Bydd y cyngor yn canolbwyntio ar eich helpu i ddatblygu cynllun rheoli pori a fydd, er enghraifft, yn eich helpu i:

  • ddeall ac ymgorffori seilwaith ac elfennau ymarferol pwysig yn eich system bori
  • dewis a hau mathau addas o laswellt ar gyfer ei bori mewn cylchdro
  • deall yn fanwl sut i reoli’r pridd er lles tyfiant y glaswellt a'r defnydd ohono
Gwaith datblygu 

Byddwn yn datblygu rhagor o gymorth ar gyfer patrymau pori a gorffwys i ffermydd eidion, defaid neu odro sy'n gallu dangos eu bod yn dilyn arferion rheoli wedi’u targedu, yn seiliedig ar y data.

Er mwyn gallu cynhyrchu'n fwy cynaliadwy, rydym yn ystyried hefyd nifer o agweddau eraill i’w cynorthwyo yn y dyfodol, yn cynnwys:

  • cnydau protein
  • cymorth ar gyfer bridiau brodorol
  • oedran y dreisiad/heffer pan fydd yn geni’r llo cyntaf (eidion a godro)
  • y bwlch rhwng geni lloi (eidion a godro)
  • geneteg defaid (ychwanegu at werth Rhaglen Geneteg Defaid Cymru)
  • geneteg gwartheg godro

Rheolaeth well ar gynefinoedd 

Gwella cyflwr cynefinoedd a'u gwneud yn fwy gwydn trwy gynnal gweithredoedd sy’n benodol i'r safle a ddaw â budd i chi ac i fywyd gwyllt eich fferm 

Nodau

Nod y thema hon yw'ch helpu i wella cyflwr cynefinoedd sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau, rhosydd a gwlyptir, gan gynnwys pyllau. Mae’r weithred hon yn gam nesaf i UA5: Cynnal cynefinoedd.

Dylid ystyried y thema Opsiynol Gweithredu Rhaglenni Gwaith Safleoedd Dynodedig ar gyfer unrhyw dir dynodedig, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ar eich fferm.

Manteision

Y ffordd orau o gynyddu nifer ac amrywiaeth y bywyd gwyllt yn ein cefn gwlad yw trwy wella cyflwr ein cynefinoedd a magu eu gwytnwch. Trwy wneud hynny, gallwn weithio i gyrraedd ein targedau adfer natur. 

Hefyd, bydd gwella cyflwr eich cynefin yn cynyddu storfeydd carbon eich fferm ac yn helpu i leihau perygl llifogydd.     

Cymorth

Byddwn yn eich helpu i wella'ch cynefinoedd er budd bywyd gwyllt a gadael i dda byw eu pori o hyd lle bo hynny'n briodol, trwy nodi pa weithgareddau penodol sydd eu hangen ar eich fferm.   

Dyma enghreifftiau o weithredoedd y gellir eu cefnogi:

  • rheoli rhedyn neu Rywogaethau Estron Goresgynnol
  • rheoli mawnogydd i helpu i storio a rheoli llif dŵr a lleihau’r risg o danau gwyllt a’u heffaith
  • patrymau pori penodol i wella porfeydd
  • troi cynefin yn ôl i fod yn gynefin mwy gwerthfawr, megis adfer glaswelltir asidig yr ucheldir yn rhostir
  • dilyniant o weithgareddau, megis rheoli glaswellt y gweunydd (Molina) ac yna defnyddio gwartheg i bori’r tir, ac yna hau i adfer glaswelltir cors neu rostir mwy amrywiol

Gellir ariannu’r gweithgareddau ar ffurf eitemau cyfalaf untro, tra bydd gweithgareddau eraill yn cael eu hariannu ar ffurf taliadau arwynebedd dros nifer o flynyddoedd gan y bydd hi’n cymryd sawl blwyddyn i gyflawni rhai canlyniadau. 

Byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i sicrhau’r canlyniadau gorau i chi ac i’r cynefin ar eich fferm. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen inni ymweld â’r safle er mwyn asesu cyflwr y cynefin presennol a gweld pa mor addas yw’r gweithgaredd. Efallai y bydd rhai o’r gweithgareddau’n cael eu grwpio i dargedu canlyniadau penodol ar eich fferm, yn enwedig er lles rhywogaethau â blaenoriaeth. 

Mae adfer mawnogydd sydd wedi'u niweidio ac adfer lefelau trwythiad yn broses gymhleth, ac mae angen peiriannau a sgiliau arbenigol. Am hynny, nid ydym yn bwriadu ariannu ffermwyr unigol i adfer mawnogydd o dan yr SFS. Mae gwaith adfer arbenigol a chymhleth yn cael ei wneud ar ddarnau mawr o fawnogydd fel rhan o’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP). 

Efallai y bydd cytundebau tenantiaeth rhai ffermwyr tenant yn cyfyngu ar y gwelliannau y byddan nhw'n cael eu gwneud. Rydym yn annog tenantiaid i weithio gyda’u landlordiaid i weld beth yn union sy’n bosibl iddyn nhw.   

Gwaith datblygu

Er mwyn rheoli rhai cynefinoedd sensitif neu gynefinoedd â blaenoriaeth, efallai y bydd angen ymweld â safle a rhoi rhagor o arweiniad, felly ni fydd pob un ar gael yn syth. 

Hefyd, efallai y bydd modd rheoli cynefinoedd yn well trwy gydweithio â pherchenogion tir a ffermwyr eraill ar raddfa'r dirwedd. Bydd hyn yn arbennig o werthfawr i gynefinoedd fel mawnogydd a gwlyptiroedd, pan na fydd modd rheoli lefel a llif y dŵr ar fferm unigol. Gweler y thema Gydweithredol Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd.

Creu cynefinoedd parhaol a thros dro 

Creu cynefinoedd newydd ar eich fferm er budd bywyd gwyllt ac i gysylltu cynefinoedd â'i gilydd

Nodau

Mae’r thema hon yn eich helpu i greu cynefinoedd dros dro neu barhaol newydd i ategu unrhyw gynefinoedd sy’n bodoli eisoes ar eich fferm. 

Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw gynefinoedd dros dro rydych yn eu creu o dan UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella i fodloni Gofyn y Cynllun Cyffredinol bod 10% o'ch fferm yn gynefin.

Manteision

Bydd hyn yn fanteisiol i fywyd gwyllt o bob math, a bydd hyd yn oed yn fwy gwerthfawr pan ddefnyddir cynefinoedd newydd i gysylltu cynefinoedd darniog sy’n bodoli eisoes. Creu cynefinoedd parhaol yw’r dewis gorau, oherwydd cynefinoedd parhaol sydd fwyaf gwerthfawr i natur yn yr hirdymor os ceir parhau i bori da byw yr un pryd. Fodd bynnag, gall cynefinoedd dros dro esgor ar fanteision gwerthfawr i fywyd gwyllt, megis darparu ffynonellau neithdar a hadau pwysig.

Cymorth
Cynefinoedd parhaol

Gall cymorth ar gyfer creu cynefinoedd parhaol gynnwys y canlynol:

  • troi glaswelltir wedi'i wella yn ôl i fod yn laswelltir cyfoethog ei rywogaethau
  • creu perllannau (mathau safonol traddodiadol o goed ffrwythau yn unig)
  • creu coridorau ar lannau nentydd

Bwriadwn i’r cymorth ar gyfer creu cynefinoedd parhaol gynnwys cyfuniad o daliadau cyfalaf untro a thaliadau dros nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, gallai creu perllan draddodiadol gynnwys y costau cyfalaf sy’n gysylltiedig â phlannu coed newydd a gosod llewys cwningod a ffensys atal stoc, ynghyd â thaliad refeniw ar gyfer rheoli’r glaswelltir gwaelodol. 

Ar ôl iddo sefydlu, bydd angen ichi gynnal unrhyw gynefin parhaol newydd y byddwch yn ei greu fel rhan o’r Weithred Opsiynol hon, yn unol â gofynion UA5: Cynnal cynefinoedd. Bydd yn cyfrif at Ofyn y cynllun bod 10% o'ch fferm yn gynefin, ac yn lle'r darnau cyfwerth o gynefinoedd dros dro y byddech wedi gorfod eu creu o dan UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella. 

Daw cynefinoedd parhaol newydd o dan y rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddol). Bydd angen ichi ystyried y rheoliadau hyn cyn gwneud penderfyniadau rheoli. 

Efallai y bydd cytundebau tenantiaeth rhai ffermwyr tenant yn cyfyngu ar y gwelliannau y byddan nhw'n cael eu gwneud. Rydym yn annog tenantiaid i weithio gyda’u landlordiaid i weld beth yn union sy’n bosibl iddyn nhw.   

Gweler y thema Opsiynol Creu coetir ac amaeth-goedwigaeth ar gyfer creu coetiroedd llydanddail newydd.

Cynefinoedd dros dro 

Mae’r rhestr o gynefinoedd dros dro y gellir eu creu yr un fath â’r rheini ar restr UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella. Sef:

  • ymylon o wyndwn
  • talarau o ŷd a llin heb eu gwrteithio, eu chwistrellu na’u cynaeafu
  • ymyl sefydlog o borfa arw ar dir âr
  • ymyl o borfa arw mewn cylchdro ar dir âr
  • cymysgedd o ydau gwanwyn a chnwd protein heb eu chwistrellu, gyda’r sofl wedi’i gadw
  • gwyndynnydd cymysg ar dir wedi’i wella (mae gwyndynnydd amlrywogaeth neu flodeuog yn enwau eraill arnynt)
  • cnwd gorchudd ar gyfer bywyd gwyllt ar dir wedi’i wella
  • clustogfa heb ei chwistrellu, heb ei gwrteithio a heb ei thrin wrth ymyl cynefin presennol. (gan gynnwys dŵr agored) ar laswelltir wedi'i wella
  • glaswelltir wedi’i wella, a'i dorri’n hwyr
  • glaswelltir wedi’i wella sydd wedi cael ei adael i hadu
  • cadw sofl ydau dros y gaeaf  

Mae'r gofynion rheoli y dylech gadw atynt ar gyfer pob math o gynefin yn debyg i'r rhai yn Atodiad 6 yr Haen Gyffredinol, ond bydd rhai gwahaniaethau i adlewyrchu gofynion mwy penodol Haen Opsiynol y Cynllun. Disgwyliwn y bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael eu sefydlu ar ymylon caeau. Rhaid iddyn nhw fod o led gofynnol i sicrhau'r manteision a fwriedir. Gellir sefydlu rhai o’r cynefinoedd ar ffurf lleiniau mwy neu gaeau cyfan.   

Dim ond cynefinoedd dros dro sy'n ychwanegol at ofyn y cynllun o 10% fydd yn cael eu hariannu o dan y Weithred Opsiynol hon. 

Dylid cymryd gofal lle mae glaswelltir parhaol (a hawlir fel GR2 ar SAF) yn cael ei ystyried ar gyfer ei drin i greu cynefin newydd dros dro gan y gallai eisoes gynnwys cynefin gwerthfawr. Mae dewis porfa barhaol sydd lai na 10 oed yn rheol dda i leihau'r risg hon. Fodd bynnag, rhaid defnyddio'r diffiniad o dir wedi'i wella o dan Reoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) 2017 i benderfynu pa dir y gellir ei drin

Gwaith datblygu 

I greu rhai cynefinoedd parhaol, megis pyllau neu wlyptir newydd, efallai y bydd angen ymweld â’r safle a rhoi rhagor o arweiniad. Disgwyliwn y bydd y rhestr o opsiynau ar gyfer creu cynefinoedd dros dro a pharhaol yn cynyddu dros amser.   

Hefyd, efallai y bydd modd rheoli cynefinoedd yn well trwy gydweithio â pherchenogion tir a ffermwyr eraill ar raddfa'r dirwedd. Bydd hyn yn arbennig o werthfawr ar gyfer cysylltu cynefinoedd darniog a chynnal yr amodau bridio neu fwydo ychwanegol sydd eu hangen ar rywogaethau â blaenoriaeth. Gweler y thema Gydweithredol Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd.

Gweithredu Rhestr Waith Safle Dynodedig 

Gwella cyflwr ein safleoedd â blaenoriaeth er budd natur

Nodau

Nod y thema hon yw'ch helpu i weithredu’r Rhaglen Waith y cytunir arni ac a ddisgrifir yn eich Cynllun Rheoli Safle Dynodedig, er budd y safleoedd gwerthfawr hyn fel rhan o’ch busnes fferm sy'n dod yn fwyfwy gwydn. 

Manteision

Mae ein safleoedd dynodedig yn drysorau gwerthfawr o safbwynt gwarchod natur.  Trwy wella cyflwr y safleoedd hyn, gellir cynyddu nifer ac amrywiaeth ein bywyd gwyllt, yn ogystal â magu gwydnwch ein hecosystemau a’r gwasanaethau a roddir ganddyn nhw i gefn gwlad ac i gymdeithas. Trwy helpu i wella cyflwr y safleoedd hyn, byddwch yn cyfrannu’n fawr at helpu i gyrraedd ein targedau adfer natur ac yn gwneud eich fferm yn fwy gwydn.

Cymorth 

Bydd y cynlluniau rheoli safleoedd dynodedig yn cynnwys Rhaglen Waith y cytunwyd arni, a fydd yn nodi’r gweithredoedd rheoli sydd eu hangen i wella cyflwr pob safle. Efallai y bydd y Cynllun Rheoli Safle Dynodedig yn nodi hefyd yr hyn sydd angen ei wneud yn y glustogfa o gwmpas y safle. Er enghraifft, creu coridorau ar lan afon ddynodedig.

Bydd y weithred reoli y bydd angen ei chynnal yn debyg o ran ei natur i’r gweithredoedd a ddisgrifir o dan y themâu Opsiynol Rheolaeth well ar gynefinoedd a Rheolaeth well ar goetiroedd, ond bydd yn adlewyrchu'r Rhaglen Waith.

Bydd y Rhaglen Waith yn debygol o gynnwys cyfuniad o weithgareddau cyfalaf a gweithgareddau seiliedig ar arwynebedd. 

Os nad oes safle dynodedig ar eich fferm, ond bod y glustogfa ynddi, ni fydd angen ichi greu Cynllun Rheoli o dan UA7: Cynllun rheoli safleoedd dynodedig. Ond trwy hybu bioamrywiaeth y glustogfa, byddwch yn gwella cyflwr y Safle Dynodedig ac yn ei wneud yn fwy gwydn, gan gryfhau'r rhwydweithiau ecolegol sydd ar raddfa'r tirwedd a’u manteision. O ganlyniad, bwriadwn eich helpu i gynnal Gweithredoedd Opsiynol penodedig a pherthnasol os yw eich tir yn y glustogfa. 

Disgwyliwn y bydd y Rhaglen Waith yn cael ei hadolygu bob pum mlynedd er mwyn adlewyrchu’r dulliau rheoli gwahanol y gall fod eu hangen wrth i safleoedd wella dros amser. 

Gwaith datblygu

Rydym yn ystyried sut orau i helpu ffermwyr sydd eisoes â chytundeb ag CNC neu Lywodraeth Cymru ar gyfer rheoli Safle Dynodedig, i symud i’r SFS. 

Efallai hefyd y bydd modd helpu i reoli Safle Dynodedig trwy gydgysylltu gweithgarwch â pherchenogion tir a ffermwyr eraill ar raddfa fwy. Bydd hyn yn arbennig o werthfawr i gynefinoedd fel mawnogydd a gwlyptiroedd, safleoedd ar gyrsiau dŵr, neu safleoedd lle ceir rhywogaethau â blaenoriaeth a chanddynt anghenion penodol ar draws tirweddau. Gweler y thema Gydweithredol Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd.

Rheolaeth well ar goetiroedd  

Gwella cyflwr economaidd ac amgylcheddol coetiroedd sy'n tyfu ar ffermydd 

Nodau

Nod y thema hon yw'ch helpu i wella cyflwr coetiroedd llydanddail, coetiroedd conwydd neu goetiroedd cymysg sydd eisoes yn tyfu ar eich fferm. Mae’n adeiladu ar UA9: Cynnal coetiroedd.

Manteision

Gallai rheolaeth well ar goetiroedd wella ansawdd a gwerth cnydau pren yn y dyfodol. Bydd hyn yn dod â manteision i’ch busnes ac yn cynhyrchu deunyddiau crai i gynnal diwydiant pren ehangach Cymru. Trwy gynyddu gwerth economaidd y coetiroedd ar eich fferm, ein gobaith yw dangos manteision plannu coetiroedd newydd er lles eich busnes fferm yn y dyfodol.       

Hefyd, trwy reoli coetiroedd yn well, gellir esgor ar fanteision fel gwella gwerth y cynefin i gynnal natur, cloi rhagor o garbon a helpu i leihau’r risg o lifogydd.   

Cymorth

Bydd y cymorth hwn ar gael i goetiroedd bach i ganolig ar ffermydd. 

Yn achos unrhyw goetiroedd dynodedig ar eich fferm, er enghraifft coetiroedd ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, bydd angen eu rheoli o dan y thema Opsiynol Gweithredu Rhaglenni Gwaith Safleoedd Dynodedig. 

Mae dwy elfen i'r cymorth hwn:

  • cyllid i weithio gyda chynllunydd coetir cofrestredig i ddatblygu Cynllun Rheoli Coetir. Bydd angen i unrhyw drwyddedau, caniatâd ac arolygon perthnasol fod wedi'u cael cyn dechrau ar waith rheoli. Bydd y Cynllun Rheoli Coetir yn ddilys am ddeng mlynedd a bydd y cynnydd yn cael ei adolygu ar ôl pum mlynedd
  • grantiau rheoli coetiroedd ar gyfer amrywiaeth o eitemau a argymhellir yn y Cynllun Rheoli Coetir, megis ffensys, rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol, teneuo, llwybrau, mynediad a gweithgareddau’n ymwneud â bioamrywiaeth 

Ar ôl ichi gwblhau eich Cynllun Rheoli Coetir, gallwch wneud cais am gyllid grant i helpu i gynnal y cynllun. 

Gwaith datblygu

Efallai y bydd gwaith sy’n cynnwys cydgysylltu gweithgarwch â pherchenogion tir eraill, gan gynnwys rheoli gwiwerod a cheirw, ar gael o dan yr haen gydweithredol. Gweler y thema Gydweithredol Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd. 

Creu coetir ac amaeth-goedwigaeth 

Creu coetir ac amaeth-goedwigaeth ar y fferm er budd da byw, natur a ffynhonnell incwm yn y dyfodol 

Nodau

Y bwriad yw'ch helpu i blannu'r coed ychwanegol ar eich fferm, a nodwyd ryn UA10: Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd, gan ddod â budd i chi, eich fferm a'r amgylchedd.

Mantais

Bydd y coed neu’r coetiroedd fydd yn cael eu plannu o dan y weithred hon yn helpu i ddarparu cynefin ychwanegol i fywyd gwyllt, yn ogystal â lleihau'r risg o lifogydd a dal rhagor o garbon gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. 

Trwy greu rhagor o fannau cysgodi neu lochesu, gall hynny roi hwb i gynhyrchiant da byw, cnydau a glaswelltiroedd trwy eu cysgodi rhag y tywydd, osgoi cywasgu pridd a chynyddu deunydd organig mewn pridd. Yn ystod misoedd cynhesach, gall da byw orboethi a dioddef straen gwres a gall hynny arwain at golli cynyrdd ac archwaeth bwyd ac at leihau ffrwythlondeb, gan effeithio ar gynhyrchiant. Gwelir effeithiau andwyol sy’n gysylltiedig â thywydd drwg hefyd, er enghraifft. gellir lleihau colledion ŵyn 30% trwy ddarparu lloches dda yn ystod tywydd oer, gwlyb a gwyntog, ac mae rhai treialon wedi dangos hefyd gynnydd o 10%-21% yn enillion eu pwysau dyddiol, diolch i loches dda.        

Cymorth

Mae’r cyfleoedd i blannu coed yn cynnwys:

  • coetiroedd fferm bach (yn cynnwys lleiniau cysgodi)
  • ardaloedd plannu mwy, o bosibl fel rhan o gnwd pren yn y dyfodol
  • plannu fel rhan o batrwm amaeth-goedwigaeth coetir pori neu goetir âr pan fydd y prif orchudd yn dal i fod yn gnydau neu borfa   

Byddwn yn helpu i greu coetiroedd ac amaeth-goedwigaeth trwy ariannu pethau fel plannu coed, ffensys, gatiau a gwaith cynnal a chadw trwy gyfrwng ein cynlluniau plannu gafodd eu diweddaru yn 2025 er mwyn eu gwneud yn fwy hyblyg.

Mae Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir yn gynllun hawdd gwneud cais amdano ar gyfer hyd at ddau hectar o dir sydd wedi’i wella’n amaethyddol neu sydd heb nodweddion amgylcheddol sensitif. Er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi, mae’r cynllun ar ei ffurf ddiweddaraf yn cynnwys:

  • bloc plannu wedi'i leihau o 0.1ha i 0.01ha
  • categori coetir cymysg ‘cnau a ffrwythau’ newydd ynghyd â thablau rhywogaethau newydd er mwyn cynnig mwy o hyblygrwydd a dewis
  • taliad i chi gael cyngor technegol 

Y Cynllun Cynllunio Creu Coetir – cyllid ar gyfer datblygu Planiau Creu Coetir newydd ar gyfer plannu ar dros 2ha o dir, a lleiniau nad ydynt yn addas ar gyfer Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir.

Mae’r Grant Creu Coetir yn ariannu gwaith plannu ar dros 0.25ha o dir sy'n rhan o Blan Creu Coetir cymeradwy. Er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi, mae’r Cynllun ar ei ffurf ddiweddaraf yn cynnwys:

  • lleihau maint lleiaf y bloc plannu ar gyfer creu coetir newydd o 0.1ha i 0.01ha (rhaid plannu o leiaf 0.25ha o dan y cytundeb o hyd)
  • cyflwyno categori coetir cymysg ‘cnau a ffrwythau’ newydd
  • grantiau newydd o 2026 ar gyfer gatiau dŵr, pibelli a chafnau i ategu gwaith plannu ger nentydd ac afonydd
  • yn lle'r opsiwn amaeth-goedwigaeth presennol, rhoi'r canlynol:
    • opsiwn ar gyfer tir isel (ar gael islaw y terfyn amgáu uchaf), yn cynnwys 50 o goed / ha, gydag o leiaf 15m rhwng pob coeden
    • opsiwn ar gyfer tir uchel, yn cynnwys 80 o goed / ha gydag o leiaf 8m rhwng pob coeden
  • ar gyfer y ddau opsiwn, mae’r cyfnod cynnal a chadw wedi’i gynyddu o 5 mlynedd i 12 mlynedd
Gwaith datblygu

Byddwn yn parhau i adolygu ein cynlluniau plannu i'w gwneud yn hygyrch ac yn ddeniadol. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i blannu, gwella'r prosesau gweinyddol a datblygu gweithgareddau sy'n darparu llawer o fanteision. Hefyd, byddwn yn datblygu opsiwn ar gyfer aildyfiant naturiol (lle bydd coetiroedd yn cael eu creu trwy prosesau gwasgaru had naturiol) er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd ichi.

Creu ac adfer perthi/gwrychoedd  

Creu ac adfer perthi/gwrychoedd er budd da byw a chnydau, natur a thirweddau

Nodau

Creu ac adfer perthi/gwrychoedd i sicrhau llawer o fanteision i’ch system ffermio gan gynnal yr un pryd dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol cefn gwlad. Mae hyn yn ategu UA8: Rheoli perthi/gwrychoedd ac yn eich helpu i blannu perthi a nodwyd yn eich UA10: Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd.

Bydd perthi a gaiff eu creu neu eu hadfer yn cael eu cynnwys yn yr arwynebedd a ddefnyddir i fodloni gofyn y cynllun bod 10% o bob fferm yn gynefin. 

Manteision

Trwy blannu ac adfer perthi (a’u rheoli wedyn er mwyn eu cadw mewn cyflwr da), daw llawer o fanteision i chi ac i’r amgylchedd, gan gynnwys:

  • manteision o ran bioddiogelwch, yn enwedig ar ffiniau’r fferm
  • cysgod a lloches i dda byw a chnydau
  • cynefin i fywyd gwyllt, gyda bwyd a lloches i bryfed peillio, adar tir fferm ac ysglyfaethwyr plâu fel ystlumod a phryfed hofran
  • dal carbon ychwanegol ar ben ac o dan y pridd, gan helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd
  • gwella ansawdd dŵr a lleihau perygl o lifogydd
  • gwella ein tirweddau diwylliannol hanesyddol
Cymorth 

Byddwn yn eich helpu i greu ac adfer perthi trwy ddarparu cyllid cyfalaf, gan gynnwys ymhlith pethau eraill, i:

  • blannu perthi newydd (20 metr a mwy)
  • annog twf ym môn y berth (adfywio) trwy blygu ble mae’r berth ar ei thalaf a lle ceir llawer o goesynnau tenau neu trwy fondocio
  • adfer perthi trwy eu hadfywio a’u hailstocio gyda choed chwip newydd os nad oes llawer o goesynnau yn y berth
  • ffensys a gatiau i amddiffyn perthi newydd neu berthi sydd wedi’u hadfer
  • cafnau dŵr, os oes eu hangen, os yw'r berth newydd neu'r berth sydd wedi'i hadfer yn atal da byw rhag mynd at ddŵr yfed

Hefyd, bydd nodiadau technegol yn cael eu darparu er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud at safon dderbyniol. 

Gwaith datblygu 

Byddwn yn parhau i adolygu’r rhestr o eitemau cyfalaf sydd eu hangen i'ch helpu i greu ac adfer perthi a ble i dargedu cymorth yn y dyfodol i sicrhau'r manteision mwyaf. 

Byddwn yn datblygu canllawiau er mwyn helpu i sicrhau bod y gwaith rheoli priodol yn cael ei wneud a lle cynigir bondocio, bydd angen tystiolaeth mai hon yw’r dechneg reoli fwyaf priodol i wella cyflwr y berth a chynnal ei hoes.    

Gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad  

Galluogi pobl i gael mynediad i gefn gwlad a mwynhau’r manteision o ran iechyd a llesiant a ddaw o archwilio natur a’n hamgylcheddau fferm 

Nodau

Bwriad y thema hon yw gwneud amgylcheddau fferm yn fwy hygyrch, annog hamddena cyfrifol a gwella profiad ymwelwyr. Gall hefyd gryfhau’r cysylltiad rhwng y cwsmer a sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu. 

Manteision 

Dyma gyfle i wella arwyddion a seilwaith mynediad ar ffermydd. Mae hyn yn golygu y bydd llai o bethau’n rhwystro pobl rhag mwynhau’r awyr agored yn ddiogel. Hefyd, mae’n gyfle i wella profiad ymwelwyr ac atgyfnerthu negeseuon ynghylch bod yn ddiogel a chyfrifol yng nghefn gwlad. Bydd hyn oll o fudd i ymwelwyr, ffermwyr a da byw. 

Cymorth

Fel rhan o'r Weithred Opsiynol hon, byddwn yn ariannu eitemau cyfalaf untro gyda ffocws ar wella hygyrchedd (gyda phwyslais ar fynediad lleiaf cyfyngol) a / neu wella profiad ymwelwyr. Gallai hyn gynnwys ariannu’r gwaith canlynol: 

  • cael gwared ar gamfeydd lle nad yw cadw da byw rhag crwydro'n ffactor
  • gosod gatiau yn lle camfeydd
  • gosod seddi / meinciau mewn golygfannau
  • gosod byrddau gwybodaeth er mwyn tynnu sylw at y canlynol:
    • elfennau o’r Cod Cefn Gwlad, megis atgoffa pobl i gadw cŵn ar dennyn, i beidio â thaflu sbwriel neu i gau gatiau ar eu hôl
    • pethau o ddiddordeb addysgol, diwylliannol neu dirweddol

Lle medrir, byddwn yn hyrwyddo prosesau sydd gan Awdurdodau Lleol i ategu’r gweithgareddau hyn. 

Nid bwriad y weithred hon yw'ch talu i gydymffurfio â deddfwriaeth mynediad sy'n ymwneud â’r Ddeddf Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PRoW) neu’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CRoW) – sef deddfau y mae gofyn cydymffurfio â nhw fel rhano’r sylfaen reoleiddio.

Gwaith datblygu

Gellid datblygu'r Weithred Opsiynol hon ymhellach trwy, ymhlith pethau eraill,  ddarparu cymorth i wella ansawdd a/neu nifer yr hawliau tramwy ar ddaliad, fel unigolyn ac ar sail gydweithredol. Gweler y thema Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Uwch 

Datblygu sgiliau a phrofiad yn barhaus er mwyn ennyn hyder a gwella perfformiad economaidd ac amgylcheddol

Nodau

Nod y thema hon yw'ch helpu i ddysgu ar lefel uwch – rhywbeth a all fod yn hollbwysig i wella perfformiad eich busnes a sicrhau bod busnesau amaethyddol yn cael eu rhedeg mewn ffordd wydn a chynaliadwy. Mae’r Weithred hon yn adeiladu ar UA4: Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Manteision

Bydd addysg a sgiliau ar lefel uwch, yn eich helpu i fod yn fwy proffidiol a gwella'ch perfformiad amgylcheddol, lles anifeiliaid a safonau iechyd a diogelwch, gan eich gwneud yn agored i atebion busnes arloesol mewn byd cyfnewidiol.

Trwy gefnogi diwydiant sydd wedi ymrwymo i ddatblygiad parhaus, byddwch yn ennyn hyder cwsmeriaid fod y proffesiwn ffermio wedi ymrwymo i fod yn gyfoes a gall ddangos gallu a pharodrwydd i feithrin enw da ymhlith cwsmeriaid, cynlluniau gwarantu, banciau, landlordiaid neu ddarpar gyflogwyr.    

Cymorth

Bydd y Weithred Opsiynol hon yn rhoi cymorth ar gyfer cwblhau DPP manylach neu ar lefel uwch, gan eich helpu i ddeall y Gweithredoedd Opsiynol yn well ac ennyn eich hyder i'w cynnal. Ar y cychwyn, canolbwyntir ar:

  • bridd a chnydau gorchudd amlrywogaeth
  • Dangosyddion Perfformiad Allweddol i wella cynhyrchiant a bod yn fwy effeithlon
  • rheoli, gwella a chreu cynefinoedd
  • rheoli a chreu coetir
  • rheoli perthi / gwrychoedd
  • ansawdd dŵr
  • ansawdd yr aer
  • ffermio organig
  • iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch

Bydd yr elfennau hyn yn cael eu darparu gan raglen Cyswllt Ffermio ar ffurf cymysgedd o hyfforddiant ymarferol a gwaith theori. Yn aml, bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys ffermwyr eraill mewn grwpiau bach, ar sail asesiad o wybodaeth a diddordeb yr unigolyn. 

Byddwn yn cofnodi'ch cyfranogiad yn awtomatig yn y Storfa Sgiliau, sef eich cofnod DPP personol, er mwyn creu darlun mwy cyflawn o’ch dysgu a datblygiad parhaus. 

Gwaith datblygu

Byddwn yn datblygu’r arlwy DPP dros amser er mwyn sicrhau y ceir amrywiaeth eang o gyfleoedd parhaus i ddysgu.  

Gwella ansawdd dŵr, y defnydd a wneir o ddŵr a mesurau lliniaru llifogydd

Gwella ansawdd dŵr trwy leihau'r llygryddion sy’n cyrraedd cyrsiau dŵr, a rheoli adnoddau dŵr er mwyn lleihau effeithiau sychder a llifogydd 

Nodau

Mae’r thema hon yn eich helpu i wella ansawdd dŵr, a rheoli faint o ddŵr sydd ar gael. 

Mae’n adeiladu ar Weithredoedd Cyffredinol, gan gynnwys UA1 Iechyd Pridd ac UA2 Rheolaeth Integredig ar Blâu ac mae’n gyson â themâu Opsiynol eraill megis Creu cynefinoedd parhaol a thros dro a Creu coetir ac amaeth-goedwigaeth. 

Manteision

Trwy wella iechyd y pridd a lleihau gwastraff a dŵr ffo, byddwch yn gwella ansawdd dŵr er budd natur, poblogaethau pysgod, hamddena a chyflenwadau dŵr yfed yn is i lawr yr afon ar gyfer da byw a phobl.   

Hefyd, mae’r weithred hon yn eich helpu i wrthsefyll prinder dŵr yn well yn ystod cyfnodau estynedig o sychder, a gall hyn leihau’r pwysau ar gyflenwadau llai. 

Hefyd, gall gwella adeiledd y pridd a rheoli porfeydd yn well helpu i reoli llif y dŵr ar draws tir ffermio gan leihau’r risg o lifogydd. 

Cymorth

Byddwn yn dwyn ynghyd nifer o weithgareddau mewn Gweithredoedd Opsiynol eraill i sicrhau’r manteision hyn. Er enghraifft:

  • gwelliannau i seilwaith ar y fferm i wahanu dŵr glân, megis offer toeau, cafnau a pheipiau glaw ac ati a chyfarpar casglu dŵr a hidlo
  • buddsoddi mewn seilwaith i reoli maethynnau'n well, megis storfeydd slyri a thail, systemau trin slyri, tanciau dŵr brwnt/budr
  • cyfarpar ar gyfer gwasgaru maethynnau a phlaladdwyr yn fanwl gywir – megis GPS ar gyfer ffermio manwl gywir, systemau chwistrellu slyri neu fariau diferion
  • cyfarpar i'ch helpu i reoli’r pridd er mwyn gwella ansawdd dŵr, megis erydr isbridd, driliau pridd a pheiriannau bas-droi rhag aflonyddu ar y pridd
  • sefydlu gwyndynnydd amlrywogaeth ar y cyd â thechnegau bas-droi
  • plannu coed neu berthi/gwrychoedd i atal dŵr a llygryddion rhag llifo dros y tir cyn iddynt gyrraedd cyrsiau dŵr. Bydd hynny'n cynnwys plannu ar lannau afonydd 
Gwaith datblygu

Rydym yn parhau i adolygu a datblygu’r rhestr o weithgareddau sydd ei hangen i wella ansawdd dŵr. 

Hefyd, efallai y bydd modd helpu i wella ansawdd dŵr trwy gydgysylltu gweithgarwch â pherchenogion tir a ffermwyr eraill ar raddfa tirwedd. Bydd hyn yn arbennig o werthfawr ar draws dalgylchoedd dŵr. Gweler y thema Gydweithredol Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd.

Gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau amonia 

Gwella ansawdd aer trwy leihau a dal llygryddion a gludir yn yr aer sydd wedi’u cynhyrchu gan ffermio

Nodau

Mae’r thema hon yn eich helpu i wella ansawdd aer. Mae’n adeiladu ar Weithredoedd Cyffredinol megis UA1: Iechyd Pridd a’r thema Opsiynol Creu coetir ac amaeth-goedwigaeth. 

Manteision

Bydd lleihau llygryddion yn yr aer yn arwain at fanteision i ecosystemau ac i iechyd pobl, a gall helpu hefyd i wneud ffermydd yn fwy effeithlon trwy ddefnyddio adnoddau'n well a gwella iechyd y pridd. 

Mae gweithgareddau amaethyddol yn gollwng gwahanol fathau o nwyon llygrol, yn enwedig cyfansoddion nitrogen (gan gynnwys amonia) a deunyddiau gronynnol yn sgil gweithgareddau fel defnyddio gwrtaith, a mygdarthau o beiriannau fferm, siediau da byw a gwastraff da byw. 

Mae llygredd amonia yn effeithio’n negyddol ar y mwyafrif o’n hecosystemau yng Nghymru. Hefyd, mae’n cyfrannu at lygredd gronynnol, a all gynyddu’r risgiau sy’n gysylltiedig â chlefydau cardiofasgwlaidd, clefydau anadlol a chanser yr ysgyfaint. 

Cymorth

Byddwn yn dwyn ynghyd nifer o weithgareddau mewn Gweithredoedd Opsiynol eraill i sicrhau manteision gwella ansawdd aer. Gallai hyn gynnwys:

  • cyllid cyfalaf ar gyfer gwelliannau i seilwaith y fferm, megis toeau uwchben buarthau a storfeydd slyri
  • cyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith i reoli maethynnau’n well, gan gynnwys storfeydd slyri a thail, gorchuddion ar gyfer storfeydd slyri, cyfarpar trin slyri a systemau crafu slyri
  • ariannu cyfarpar manwl gywir ar gyfer gwasgaru maethynnau a phlaladdwyr, megis GPS ar gyfer ffermio manwl gywir, systemau chwistrellu slyri neu fariau diferion
  • ariannu cyfarpar a all helpu i reoli’r pridd er mwyn gwella ansawdd aer, e.e. erydr isbridd, driliau pridd a pheiriannau bas-droi er mwyn amharu llai ar y pridd, a sefydlu gwyndynnydd amlrywogaeth
  • plannu coed o amgylch storfeydd slyri i ddal llygryddion yn yr aer
Gwaith datblygu

Byddwn yn parhau i adolygu'r rhestr o weithgareddau sydd ar gael i wella ansawdd aer. a'i rhoi ar waith.

Ffermio organig (cymorth a throsi) 

Rhoi cymorth i ddatblygu sector organig Cymru trwy gyfrwng taliadau troi a thaliadau cymorth parhaus 

Nodau

Y nod yw cynnig sicrwydd i sector organig Cymru, gan gynnwys ffermwyr unigol a’r gadwyn gyflenwi ehangach. 

Mae ffermio organig yn adeiladu ar nifer o Weithredoedd Cyffredinol, yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar iechyd pridd a bioamrywiaeth.

Manteision

Y bwriad yw helpu ffermwyr sydd am droi'n organig a'r rheini sydd am gadw eu statws organig, i ddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd a chael mynediad i farchnadoedd organig. 

Mae ffermio organig yn cyfrannu at lawer o fanteision, gan gynnwys gwella ansawdd aer a dŵr, lleihau’r risg o lifogydd a manteision i natur. 

Cymorth

Mae’r cymorth yn debyg i’n Taliad Cymorth Organig a’r Cynllun Trosi Organig. Bydd taliadau ar gael trwy gytundebau sy'n para sawl blwyddyn. 

Rydyn ni'n cynnig cyflwyno bandiau talu ar sail y math o dir: Ar gyfer ffermwyr sydd eisoes yn organig, y mathau o dir yw: 

  • garddwriaeth
  • tir wedi'i amgáu
  • tir wedi'i amgáu gyda menter odro
  • tir uwchlaw terfyn uchaf y tir wedi'i amgáu 

Ar gyfer ffermwyr sydd am droi'n organig, y mathau o dir yw:

  • garddwriaeth
  • tir wedi'i amgáu gyda chnydau cylchdro / glaswelltir dros dro
  • tir wedi’i amgáu gyda chnydau / glaswelltir parhaol
  • tir wedi'i amgáu gyda glaswelltir parhaol a dros dro gyda menter odro.
  • Tir uwchlaw terfyn uchaf tir wedi’i amgáu a mathau eraill amhenodol o dir 

Er mwyn cael cymorth organig, bydd angen ichi gofrestru'ch tir gyda chorff ardystio achrededig a mynd trwy brosesau profi ac archwilio'r cyrff hynny. Bydd angen i chi ffermio'ch tir yn unol â'r safonau organig a nodir mewn deddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • defnyddio cyn lleied â phosibl o wrteithiau, plaladdwyr a mewnbynnau eraill, a phan fyddwch yn eu defnyddio, rhaid bod eich corff ardystio wedi'u cymeradwyo
  • cynnal iechyd y pridd, yn bennaf trwy gylchdroi cnydau, a phan na fydd hynny’n bosibl, dylid defnyddio tail gwyrdd a chnydau sy’n bachu nitrogen
  • sicrhau bod anghenion penodol pob rhywogaeth yn cael eu diwallu bob amser

Bydd y taliad troi'n organig yn cael ei roi i ffermwyr yn ystod eu cyfnod trosi, pan fydd yn rhaid cadw at safonau organig ar eu ffermydd ond pan na fyddan nhw'n cael labelu na marchnata’r cynnyrch fel cynnyrch organig.

Eich corff ardystio organig a fydd yn rhoi cyngor ac arweiniad yn bennaf. 

Gwaith datblygu

Rydym yn gweithio gyda’r sector organig i weld a oes modd defnyddio ardystiad organig fel tystiolaeth eich bod yn bodloni gofynion nifer o weithredoedd. 

Bioddiogelwch gwell  

Lleihau’r risg y bydd clefydau anifeiliaid yn lledaenu ar / oddi ar ffermydd trwy roi mesurau bioddiogelwch gwell ar waith

Nodau

Y nod yn y fan hon yw hyrwyddo’r syniad ei bod yn well atal clwyf na'i wella wrth reoli’r llwybrau y gall clefydau gyrraedd eich fferm. Mae’r Weithred Opsiynol hon yn adeiladu ar y gofyn eich bod yn gweithio gyda’ch milfeddyg i asesu a rheoli’r risgiau o gyflwyno clefydau wrth ddod ag anifeiliaid i'ch fferm, fel rhan o UA12: Iechyd a Lles Anifeiliaid. 

Manteision

Mae lleihau baich clefydau yn gwella cynhyrchiant y fferm ac yn lleihau'r bygythiad i iechyd y cyhoedd yn sgil milheintiau. Hefyd, gall yr arferion bioddiogelwch gorau arwain at leihau'r defnydd o wrthfiotigau a lleihau’r risg o fagu ymwrthedd i wrthfiotigau. Bydd hyn o fantais i chi fel unigolyn, ac i’r sectorau da byw cenedlaethol. 

Cymorth

Bydd y Weithred hon yn cynnig cyllid cyfalaf ar gyfer helpu i atal clefydau rhag cyrraedd eich fferm a helpu i reoli’r risg y gall clefyd sydd eisoes ar y fferm ledaenu. Gallai cyllid cyfalaf gynnwys y canlynol:

  • cyfleusterau ynysu i wahanu stoc sy’n cyrraedd y fferm
  • mesurau i leihau / atal fectorau clefydau bywyd gwyllt neu fermin rhag mynd i storfeydd bwyd anifeiliaid neu rannau o’r fferm lle cedwir da byw
  • diogelu mannau lle caiff anifeiliaid marw eu storio er mwyn lleihau’r risg y bydd heintiau’n cael eu trosglwyddo i’ch stoc
  • mannau ar gyfer glanhau a diheintio cerbydau, personél a chyfarpar wrth gyrraedd / gadael y fferm a’r adeiladau, i ategu arferion gorau o ran hylendid ar y fferm
  • ffensys dwbl ar hyd y terfynau er mwyn rheoli’r risg o drosglwyddo heintiau rhwng eich stoc chi a stoc eich cymydog  
Gwaith datblygu

Rydym yn parhau i adolygu’r rhestr o fesurau bioddiogelwch y byddwn yn eu cynorthwyo, a'r bwriad yw cyflwyno Gweithredoedd Opsiynol ychwanegol i wella iechyd a lles anifeiliaid. 

Hefyd, rydym yn datblygu cynigion ar gyfer Gweithred Gydweithredol a allai, er enghraifft, ategu dulliau lleol a rhanbarthol o reoli endoparasitiaid ac ectoparasitiaid.

Pennod 6: yr Haen Gydweithredol

Gan ddefnyddio Haenau Cyffredinol ac Opsiynol y cynllun fel blociau adeiladu, mae'r Haen Gydweithredol wedi'i chynllunio i annog cydweithio trwy Weithredoedd sydd wedi'u cynllunio i'w cynnal ar y cyd gan nifer o ffermwyr, rheolwyr tir, a sefydliadau eraill gyda'i gilydd ar raddfa'r dirwedd, y ddalgylch neu'r wlad. 

Dyma’r tair thema Gydweithredol a fydd yn cael eu cyflwyno yn 2026:

  • arloesi, ymchwil a datblygu
  • marchnad a chadwyni cyflenwi cydweithredol
  • gweithgarwch cydweithredol ar raddfa'r dirwedd

Fel yr Haen Opsiynol, gellid rhoi taliadau ychwanegol am gynnal Gweithredoedd Cydweithredol, yn cynnwys taliadau refeniw untro, taliadau rheoli dros nifer o flynyddoedd neu daliadau cyfalaf. 

Efallai y bydd prosiectau cydweithredol yn gallu cael cymorth uniongyrchol neu efallai y byddwn yn eu hariannu trwy drydydd parti. Bydd gan ffermwyr a rheolwyr tir fwy o hyblygrwydd o ran sut i sicrhau'r canlyniadau.

Bydd canllawiau'r cynllun yn cynnwys rhagor o fanylion ar brosesau gweithredu'r Haen Gydweithredol. Rydyn ni'n disgwyl y bydd gofyn gwneud cais ac adeiladu ar gynlluniau presennol. 

Bydd y prosesau hyn yn esblygu dros amser, a gallent gynnwys y canlynol: 

  • targedu ardaloedd neu nodweddion, megis cyrsiau dŵr, trwy fapio mwy a thrwy gipio rhagor o wybodaeth a defnyddio meini prawf dethol teilwredig
  • ymateb i’r data a’r cynlluniau rydych yn eu creu yn yr Haen Gyffredinol
  • darparu rhagor o gymorth pwrpasol i helpu ffermydd sy'n wynebu heriau trwy gynnal asesiad ar y fferm i nodi pa weithredoedd fyddai fwyaf buddiol i’r ffermwr ac i’r amgylchedd

Rhaid sicrhau bod unrhyw waith a wneir fel rhan o’r Haen Gydweithredol yn ategu ond nid yn dyblygu gwaith a wneir fel rhan o Weithred Gyffredinol neu Opsiynol. 

Arloesi, ymchwil a datblygu

Archwilio potensial arloesi, ymchwil a datblygu er mwyn helpu i sicrhau manteision

Nodau

Y nod yw rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau arloesi ac ymchwil a datblygu cymhwysol. Yn ein barn ni, mae hyn yn hollbwysig i ddatrys llawer o’r heriau sy’n wynebu cymunedau gwledig a sector amaethyddol Cymru, gan helpu i gyflawni nifer o amcanion trawsbynciol. Yn 2023, cyhoeddwyd Cynllun gweithredu tech-amaeth Cymru a Strategaeth Arloesi Cymru sy’n nodi bod arloesi ym maes amaethyddiaeth a bwyd yn hollbwysig i economi Cymru allu parhau i lwyddo. 

Manteision

Gall datblygu a mabwysiadu arloesedd ym maes technoleg bwyd-amaeth gan gynnwys arloesedd ar y fferm ddod â budd i fusnesau ffermio unigol, natur a'r amgylchedd. Gall greu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi i ddatblygu gwasanaethau, cynhyrchion a chyfleoedd a ddaw â budd i'r busnesau ffermio hyn a'r gadwyn gyflenwi ehangach. 

Cymorth

Ein gweledigaeth yw manteisio i’r eithaf ar botensial technoleg bwyd-amaeth trwy gyfuniad o weithgareddau cydgysylltiedig a ddarperir gan y llywodraeth, rhanddeiliaid masnachol a rhanddeiliaid academaidd yn gweithio gyda'i gilydd ar ymyriadau mesuradwy sy'n cael effaith. Gellir gwneud hyn trwy gyfrwng ystod o fodelau, megis: 

  • integreiddio gyda rhaglenni a phrosiectau ymchwil eraill a ariennir gan y llywodraeth, gan gynnwys prosiectau ar lefel y DU, i wneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus
  • heriau'r Fenter Ymchwil Busnesau Bach â thema. Cronfeydd strategol, cyffredinol yw'r cronfeydd her hyn, sy'n hybu arloesedd ac yn seiliedig ar genhadaeth, thema neu flaenoriaeth polisi penodol
  • defnyddio’r model ‘Helics Triphlyg’ (sef trefniant cydweithredu rhwng y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd) i gynnal gweithgarwch perthnasol
  • defnyddio ffermydd arddangos i dreialu systemau newydd neu arloesol gyda chysylltiad â gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ehangach ym maes amaethyddiaeth a bwyd

O safbwynt ffermwyr unigol, bydd y Weithred Gydweithredol hon yn cael ei defnyddio i’w helpu a’u hannog i arloesi a chymryd rhan mewn ymchwil a datblygu. Bydd yn eich helpu chi ac eraill i ymchwilio i broblemau ymchwil neu i ddatblygu atebion er lles mentrau ar ffermydd, yn ogystal â nodi cyfleoedd i ddefnyddio technoleg i ddatblygu cynhyrchion newydd gan ddefnyddio cynnyrch sylfaenol o Gymru. 

Gwaith datblygu

Byddwn yn parhau i ddatblygu ac ariannu gweithgareddau’n ymwneud ag arloesi ac ymchwil a datblygu technoleg ym maes technoleg bwyd-amaeth.

Marchnad a chadwyni cyflenwi cydweithredol

Datblygu cyfleoedd yn y farchnad a’r gadwyn gyflenwi leol er mwyn arallgyfeirio ac ychwanegu gwerth at gynnyrch y fferm

Nodau

Y nod yw datblygu cyfleoedd i wella marchnadoedd a chadwyni cyflenwi er budd busnesau fferm a busnesau sy’n defnyddio cynnyrch fferm o Gymru.

Mae’r elfen hon yn gallu cwmpasu pob agwedd ar gynhyrchu bwyd - cig, cynhyrchion llaeth, llysiau, ydau a chnydau eraill - ond mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau ehangach, er enghraifft pren sy'n cael ei gynaeafu’n gynaliadwy ar goetiroedd fferm. 

Mae’r gweithgaredd hwn yn annog cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy trwy ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol a lleihau milltiroedd bwyd, yn ogystal â manteision addysgol trwy ddysgu pobl o ble y mae eu bwyd yn dod. Bydd y gweithgaredd hwn hefyd yn cefnogi dyheadau Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol.

Manteision

Trwy gefnogi busnesau fferm Cymru, ynghyd â busnesau bwyd a diod sy’n defnyddio cynnyrch fferm o Gymru, gellir ychwanegu at werth y busnes fferm ei hun. Hefyd, gall annog pobl i greu, datblygu a chefnogi busnesau bwyd a diod mewn cymunedau lleol gefnogi’r cymunedau gwledig hynny trwy ychwanegu at werth cynnyrch fferm, cipio marchnadoedd newydd, datblygu cyfleoedd mewn cadwyni cyflenwi eraill a chreu a chynnal swyddi yn y cymunedau gwledig hynny.

Cymorth 

Gallai cymorth penodol gynnwys y canlynol: 

  • deall anghenion y farchnad a’r cwsmeriaid, gan gynnwys defnyddio canfyddiad y cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt o gynnyrch Cymru fel Pwynt Gwerthu Unigryw
  • helpu ffermwyr i arallgyfeirio ac ychwanegu gwerth at gynnyrch y fferm fel y gellir manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd mewn marchnadoedd arbenigol
  • hyrwyddo ein rhwydwaith o Enwau Bwydydd Gwarchodedig (UKGI) mewn marchnadoedd newydd, gan dynnu sylw at y ffaith bod cynnyrch fferm Cymreig yn enwog trwy'r byd
  • helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy trwy sicrhau bod busnesau’n cael y cymorth sydd ei angen i newid i systemau gwyrddach, gan leihau eu heffaith amgylcheddol ond gan fagu eu gwytnwch yn yr hirdymor
  • adeiladu rhwydweithiau a chlystyrau o fusnesau er mwyn creu cadwyni cyflenwi amrywiol a chryf sy’n canolbwyntio ar y farchnad ac sy’n gallu rhannu gwybodaeth ac arbenigedd
  • canolbwyntio ar welliannau technegol a datblygu cynnyrch newydd, yn ogystal â hyrwyddo arloesedd ar draws y gadwyn gyflenwi
  • gweithio ochr yn ochr â’r sector manwerthu, y sector cyfanwerthu a’r sector lletygarwch er mwyn hyrwyddo cynnyrch o Gymru a sicrhau bod amrywiaeth eang o gynnyrch Cymreig ar gael i ddefnyddwyr, yng Nghymru ac yn y DU. Mae’r cysylltiadau masnach hyn yn hollbwysig o ran sicrhau llif cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi o’r fferm i’r fforc
  • datblygu marchnadoedd allforio ar gyfer cynnyrch Cymreig a phennu a chefnogi cyfleoedd mewnfuddsoddi perthnasol
  • darparu cyfleoedd i hyrwyddo gwaith i wella sgiliau'r gweithlu a throsglwyddo gwybodaeth i fusnesau
  • cyfrannu at adeiladu a datblygu Partneriaethau Bwyd Lleol er mwyn creu rhwydweithiau lleol ar gyfer cynhyrchu bwyd a gweithgareddau perthynol. Gellir gwneud hyn naill ai’n uniongyrchol trwy gynhyrchu a chyflenwi, neu trwy sicrhau bod tir neu asedau eraill ar gael ar gyfer trydydd partïon
  • creu rhwydweithiau lleol fel y gellir cydweithredu i gynhyrchu cynhyrchion pren a chynhyrchion di-bren coedwigoedd

Gallwn ddarparu cymorth trwy nifer o fecanweithiau gwahanol, gan gynnwys grantiau neu gaffael, a chyllid trwy raglenni cyfalaf neu refeniw. Gallai’r cymorth naill ai fod yn gymorth grant uniongyrchol neu’n gymorth trwy drydydd partïon ag arbenigedd perthnasol.

Dyma enghreifftiau o weithgareddau cyfredol sy’n rhoi cymorth ac yn cynnig modelau gweithredu posibl ar gyfer y dyfodol: 

  • Clystyrau ar gyfer Llwyddiant – dod â busnesau a chanddynt amcanion cyffredin ynghyd i ledaenu arferion gorau ac annog cydweithredu
  • Arloesi a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Llwyddiant – gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth ymarferol ac academaidd o ran arloesedd bwyd ac effeithlonrwydd bwyd i gynyddu cynhyrchiant a lleihau gwastraff ar hyd y gadwyn fwyd
  • Mentro i Lwyddo – help i sefydlu, datblygu a thyfu microfusnesau a busnesau bach a chanolig yn y diwydiant bwyd a diod a'u gwneud yn fwy cystadleuol, cynaliadwy ac arloesol
Gwaith datblygu

Byddwn yn parhau i adolygu’r dulliau gweithredu posibl ac yn parhau i gynnig rhagor o opsiynau yn cynnwys integreiddio’r ystod o ddulliau cymorth sydd ar gael er mwyn symleiddio’r arlwy i fusnesau fferm. 

Hefyd, rydyn ni'n datblygu cynllun cymorth i gynhyrchu incwm o goetiroedd a choed fferm fydd yn cynnig hyfforddiant a gwasanaethau cynghori pwrpasol. 

Gweithgarwch cydweithredol ar raddfa tirwedd

Helpu grwpiau o ffermwyr i weithio gyda’i gilydd i sicrhau manteision ar raddfa tirwedd

Nodau

Y nod yw helpu ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sefydliadau eraill i weithio gyda’i gilydd ar lefel tirwedd, dalgylch neu ranbarth i sicrhau canlyniadau na ellir eu cyflawni ar fferm unigol.  

Manteision

Trwy drefnu gweithgarwch cydweithredol ar raddfa fwy, mae modd mynd i’r afael â phroblemau mwy. Er enghraifft, mae cydweithredu ar weithgarwch mewn dalgylch afon gyfan yn gallu creu mwy o fanteision o ran ansawdd dŵr a lleihau’r risg  o lifogydd. 

Gall gwella cyflwr, ymestyn a chysylltu cynefinoedd ar draws y dirwedd helpu ecosystemau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a chefnogi gwasanaethau hanfodol fel peillio. Trwy drefnu gwaith adfer cynefinoedd ar raddfa fwy, gallwn gysylltu safleoedd bridio, bwydo, clwydo a gaeafu rhywogaethau blaenoriaeth â’i gilydd. Mae hyn yn arbennig o werthfawr pan fydd yr ardaloedd hyn wedi'u gwasgaru ar draws gwahanol rannau o Gymru.

Cymorth

Er enghraifft:

  • gwella tir comin trwy gael porwyr i weithredu ar y cyd a gweithio gyda pherchennog y tir, er enghraifft cyflwyno dulliau gwell o reoli cynefinoedd a lleihau risgiau tân trwy gytundebau pori neu gymorth cyfalaf ar gyfer gwella seilwaith
  • trefnu creu ac adfer cynefinoedd ar raddfa tirwedd i ffurfio coridorau bywyd gwyllt
  • adfer a gwella ecosystemau ar raddfa tirwedd, fel mawnogydd a gwlyptiroedd pan nad oes modd rheoli lefel a llif y dŵr ar ffermydd unigol
  • cael gwared ar Rywogaethau Estron Goresgynnol sy’n niweidio ecosystemau ac yn peryglu rhywogaethau brodorol
  • gwaith i Reoli Risg Llifogydd yn Naturiol er mwyn lleihau’r risg o lifogydd sy’n effeithio ar gymunedau
  • gwella a chreu cynefinoedd glan afon ar hyd rhwydweithiau afonydd i wella ansawdd dŵr afonydd
  • mesurau penodol i helpu adferiad rhywogaethau bywyd gwyllt penodol trwy greu a sefydlu cynefinoedd nythu a bwydo, neu reoli ysglyfaethwyr
  • gwella mynediad i gefn gwlad trwy wella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd
  • diogelu a gwella mynediad i’r amgylchedd hanesyddol ac adfer nodweddion tirwedd hanesyddol
  • mesurau penodol i wella ansawdd dŵr ar raddfa dalgylch, yn cynnwys gwella iechyd y pridd, lleihau llygredd amaethyddol a defnyddio llai o blaladdwyr

Rhaid i unrhyw waith a wneir fel rhan o Weithred Gydweithredol ategu (yn hytrach na dyblygu) gwaith a wneir fel rhan o Weithred Gyffredinol neu Opsiynol. 

Fwy na thebyg, bydd y cymorth i gefnogi gweithgarwch gan grwpiau o ffermwyr a phartneriaid eraill ar raddfa tirwedd yn cynnwys cymorth i drefnu grwpiau, ac yna cymorth i ddatblygu a chyflawni. 

Hefyd, fel rhan o’r Weithred Gydweithredol hon byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad, yn ogystal â chefnogi arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth.

Gwaith datblygu

Rydym yn datblygu’r Weithred Gydweithredol hon ar sail y profiad a gafwyd gyda dwy raglen sef y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) a Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig. Byddwn yn parhau i fireinio’r trefniadau hyn ac yn ystyried dulliau newydd. 

Pennod 7: tir comin

Mae'n hanfodol sicrhau bod y gefnogaeth i dir comin yn parhau gan ei fod yn rhan annatod o'r diwylliant ffermio yng Nghymru ac yn rhoi cymaint o fanteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys: 

  • Taliad Cyffredinol i unigolion sydd â hawliau pori sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ac yn gallu cynnal y gweithredoedd penodol isod
  • taliadau cydweithredol i Gymdeithas Bori am reoli'r pori ar y cyd
  • taliadau cydweithredol i Gymdeithas Bori neu grŵp cydweithredol arall lle mae perchennog y tir comin yn rhan ohono a / neu'n caniatáu gweithgarwch rheoli trylwyrach.

Taliad Cyffredinol i unigolion sydd â hawliau pori

Fel a ddisgrifir ym Mhennod 8, bydd tir comin yn cael ei gynnwys yn eich Taliad Sylfaenol Cyffredinol, fel rhan o Daliad y Fferm Gyfan a'r taliad Gwerth Cymdeithasol:

  • os oes gennych hawliau i bori tir comin a'ch bod yn pori da byw addas
  • os ydych yn cadw Dyddiadur Stocio sydd ar gael i archwilydd ei weld   
  • os ydych yn rhoi'r sylw priodol i'r trefniadau rheoli ar y comin, e.e. er lles iechyd eich anifeiliaid neu i reoli cynefinoedd

Bydd arwynebedd y tir comin fydd yn cael ei neilltuo i chi at ddiben yr SFS yn seiliedig ar faint o hawliau pori sydd gennych, gan ddefnyddio'r un dull ag a ddefnyddir ar hyn o bryd o dan y BPS.

Taliadau cydweithredol i Gymdeithas Bori am reoli'r pori ar y cyd

Bydd y gefnogaeth am reoli'r pori ar y cyd yn parhau o dan yr SFS. 

Bydd Cynllun Cynefin Cymru (Tir Comin) ar gael yn 2026, i Gymdeithasau Pori sydd eisoes wedi'u sefydlu.

Rydym yn ystyried sut i helpu i ffurfio Cymdeithasau Pori newydd er mwyn i fwy o dir comin allu cael ei reoli ar y cyd o 2027 ymlaen.         

Taliadau cydweithredol i Gymdeithas Bori neu grŵp cydweithredol arall lle mae perchennog y tir comin yn rhan ohono a / neu'n caniatáu gweithgarwch rheoli trylwyrach

Mae gwaith rheoli tir sydd wedi'i dargedu yn aml yn gofyn am ganiatâd perchennog y comin, sydd yn ddelfrydol yn gweithio mewn partneriaeth â'r porwyr. 

Byddai hyn yn hwyluso gwaith fel rheoli rhedyn a rhywogaethau goresgynnol eraill, adfer mawnogydd neu blannu coed. 

Byddwn yn cefnogi hyn trwy ein cynlluniau cydweithredol ar raddfa tirwedd presennol fel y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS), Ffermio Bro (sy'n cefnogi gweithgarwch yn ein tirweddau dynodedig) a'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawnogydd (NPAP). 

Pennod 8: taliadau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Byddwn yn cefnogi diwydiant ffermio llewyrchus, cynhyrchiol a chynaliadwy yng Nghymru. Sylfaen y gefnogaeth hon yw taliad ar gyfer y fferm gyfan o dan Haen Gyffredinol y Cynllun.

Mae'r Taliad Cyffredinol wedi'i rannu'n ddwy elfen: 

Taliad Sylfaenol Cyffredinol

Mae'r Taliad Sylfaenol Cyffredinol yn adlewyrchu'r costau a ysgwyddir a'r incwm a gollir wrth gynnal y Gweithredoedd Cyffredinol, ac mae wedi'i rannu'n dri chategori ar wahân fel a ganlyn:

Taliad y Fferm Gyfan

Un gyfradd dalu fesul hectar ar dir cymwys y fferm gyfan ac ar eich hawliau pori tir comin os oes gennych hawl gyfreithiol i ddefnyddio'r tir hwnnw i bori stoc arno (bydd y taliad ar gyfer tir comin yn cael ei rannu fel y mae o dan y BPS ar hyn o bryd). Darllenwch Bennod 7 am ddisgrifiad o'r gefnogaeth ar gyfer tir comin. 

Taliad Cynnal Cynefin 

Un gyfradd dalu fesul hectar o gynefin lled-naturiol (gweler UA5) (heb gynnwys tir comin) a / neu gynefin dros dro (gweler UA6) sydd wedi'i greu i fodloni Gofyn y Cynllun bod 10% o bob fferm yn gynefin.   

Taliad Cynnal Coetir  

Un gyfradd dalu fesul hectar ar gyfer coetiroedd sy'n cael eu rheoli'n unol ag UA9 (ond nid tir comin). 

Yn wahanol i BPS, bydd y Taliad Fferm Gyfan yn seiliedig ar holl dir cymwys eich fferm, sydd wedi'i ddatgan ar eich SAF, ac yn cynnwys holl nodweddion y dirwedd. Mae'r rhestr o tir anghymwys i'w gweld ym Mhennod 2. 

Rydym yn talu Taliadau Cynnal Cynefin a Choetir ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ond nid ar dir sydd o dan gytundeb â Llywodraeth Cymru neu gyrff rheoleiddio eraill y mae taliad cynnal / refeniw eisoes yn cael ei dalu arno  (bob blwyddyn neu fel un taliad cronnus). 

Taliad Gwerth Cymdeithasol

Mae'r SFS yn gofyn i chi fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy na'r rhai y mae’r rheoliadau presennol yn gofyn amdanyn nhw. Mae'r gweithredoedd hyn sy'n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn dod â budd uniongyrchol ac anuniongyrchol i chi, i'ch cymunedau lleol ac i gymdeithas yn gyffredinol. Rydym am gydnabod y buddion hyn trwy'r Taliad Gwerth Cymdeithasol sy'n rhan o'r Taliad Cyffredinol.

Mae’r gwerth cymdeithasol yn adlewyrchu gwerth y canlyniadau sy’n cael eu darparu trwy arferion ffermio cynaliadwy o ganlyniad i’r SFS nad yw prisiau’r farchnad am gynnyrch amaethyddol yn eu hadlewyrchu’n briodol ond sy’n cyfrannu at amcanion statudol Rheoli Tir yn Gynaliadwy. 

Un gyfradd dalu fesul hectar sydd i’r Taliad Gwerth Cymdeithasol, ar gyfer yr un arwynebedd â'r Taliad Fferm Gyfan.

Bydd Canllawiau Manwl y Cynllun, gan gynnwys nodiadau technegol a set o Safonau Dilysadwy sy'n nodi holl ofynion y cynllun. Bydd gweithredoedd y cynllun a'r dystiolaeth sydd ei hangen i fodloni amodau'r cynllun ac i gael taliadau'r cynllun yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. 

Capio taliadau uwch 

Bydd Taliad Cyffredinol SFS yn cael ei gapio fel a ganlyn: 

TaliadY Cap 
Hyd at £25,000 0%
£25,000 i £50,000 5%
£50,000 i £150,000 10%
£150,000 i £200,000 15%
£200,000 i £250,000 30%
£250,000 i £300,00055%
Dros £300,000 55%

Taliadau Sefydlogi

Bydd y ffermydd hynny sy’n ymuno â’r Cynllun yn 2026 ac sydd â hyd at 100 hectar o dir cymwys, yn derbyn £1000 ychwanegol fel taliad sefydlogi untro. Hynny i gydnabod yr anawsterau a geir wrth bontio i’r system newydd a’r ansicrwydd sy’n wynebu’r ffermydd hyn. 

Methodoleg y Taliadau Opsiynol a Chydweithredol

Mae'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol yn rhoi cyfle i chi gael arian ychwanegol am gynnal Gweithredoedd ychwanegol. 

Rydym lle gallwn am gadw at drefn debyg i honno a ddefnyddiwyd yng Nghynlluniau Paratoi'r SFS ar gyfer talu am weithredoedd, gyda'r cyfraddau'n seiliedig ar y costau a ysgwyddir a'r incwm a gollir.  Mae yna botensial hefyd i amrywio cyfraddau trwy dapro a chapio cyfraddau talu.

Mae'r taliadau am gynnal Gweithredoedd Opsiynol unigol yn cynnwys cymysgedd o: 

  • daliadau refeniw untro, er enghraifft am greu planiau
  • taliadau refeniw dros sawl blwyddyn, gan gynnwys taliadau ar sail arwynebedd, er enghraifft ar gyfer rheolaeth drylwyrach ar gynefin neu goetir
  • taliadau cyfalaf, er enghraifft ar gyfer offer bach, neu i fuddsoddi mewn seilwaith mwy.

Byddwn yn parhau i adolygu methodoleg y Gweithredoedd hyn dros amser gan ganolbwyntio mwy ar dalu am ganlyniadau a'r buddion cymdeithasol posibl a allai ddod o gynnal y Gweithredoedd hyn.

Cyllideb a chyfraddau talu

Mae Taliad Cyffredinol yr SFS yn daliad blynyddol fydd yn rhedeg am bum mlynedd cyfnod adrodd statudol Deddf Amaethyddiaeth (Cymru). Er bod hyn yn sicrhau bod fframwaith yr SFS yn para dros gyfnod hir, bydd angen i'r Cynllun weithredu o fewn y gyllideb y cytunir arni ar ei gyfer gan y Senedd bob blwyddyn. Felly, bydd angen proses adolygu flynyddol i’n helpu i benderfynu sut i rannu’r gyllideb rhwng yr haenau Cyffredinol, Opsiynol a Chydweithredol. 

Rydym am ddyrannu cyllideb blwyddyn gyntaf y Cynllun ar sail debyg i'r taliadau cymorth amaethyddol presennol:

  • 70% ar gyfer y Taliad Cyffredinol a'r BPS etifeddol
  • 30% ar gyfer cynlluniau paratoi sydd wedi cychwyn a Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol). 

Felly, dyma y disgwylir y bydd cyfraddau'r Taliad Cyffredinol yn y flwyddyn gyntaf:

Taliad y Fferm Gyfan - £70 yr hectar ar gyfer y 70 hectar cyntaf o dir cymwys ac yna £2 yr hectar am yr holl dir cymwys sy’n weddill. Mae hyn yn cynnwys y tir comin, fydd yn cael ei rannu fel y mae’r BPS ar hyn o bryd os oes gennych yr hawl i ddefnyddio’r tir i bori stoc arno. 

Taliad Gwerth Cymdeithasol - £107 yr hectar ar gyfer yr holl dir cymwys.

Taliad Cynnal Cynefin - £69 yr hectar ar gyfer yr holl gynefin a gynhelir fel rhan o UA5: Cynnal cynefin neu ar gyfer cynefin sydd wedi'i greu o dan UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi'i wella i fodloni Gofyn y Cynllun bod 10% o'r fferm yn gynefin. 

Taliad Cynnal Coetir - £62 yr hectar ar gyfer yr holl goetir a gynhelir fel rhan o UA9: Cynnal Coetir (heblaw’r tenantiaid hynny sydd heb reolaeth lwyr ar y coetir)

Byddwn yn cyhoeddi'r mecanweithiau a'r cyfraddau talu ar gyfer y Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol wrth i ni benderfynu arnynt.

Mae'r fethodoleg dalu yn caniatáu ichi fanteisio ar gyfleoedd i geisio am gyllid masnachol a chymdeithasol hefyd megis trwy'r Cod Carbon Coetiroedd. Penderfyniad masnachol i chi ei wneud fydd hyn, a bydd yn cynnwys risgiau y bydd angen i chi eu rheoli.

Pennod 9: proses y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) fydd yn gweinyddu'r cynllun. Rydym wedi newid neu wella ein prosesau yn ôl y gofyn a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i'r cynllun fynd yn ei flaen. 

Bydd rhaglen Cyswllt Ffermio hefyd yn cael ei hailgynllunio a'i diweddaru i helpu i roi'r cynllun ar waith. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio law yn llaw ag RPW lle mae Gofynion y cynllun yn gofyn am ei gyfraniad technegol penodol, er enghraifft i greu Cynlluniau Rheoli ar Safleoedd Dynodedig.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw diogelu'ch data ac mae trefniadau ar droed i rannu'n ddiogel dim ond y swm lleiaf o ddata sy'n ofynnol rhwng yr holl bartïon sy'n ymwneud â’r cynllun. Byddwn yn esbonio'n glir sut y byddwn yn defnyddio unrhyw ddata a roddir i ni. 

Canllawiau'r cynllun

Bydd canllawiau manwl y cynllun, gan gynnwys Nodiadau Technegol a set o Safonau Dilysadwy sy'n nodi holl Ofynion y cynllun, Gweithredoedd y cynllun a'r dystiolaeth sydd ei hangen i fodloni amodau'r cynllun yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.  Bydd nifer o'r gofynion hyn yn gyson â chynlluniau cymorth blaenorol a Thrawsgydymffurfio. Byddwch felly'n gyfarwydd â nhw. Dyma rai o'r prif ofynion dylech wybod amdanyn nhw: 

  • bydd y cynllun yn gweithredu ar lefel Busnes Fferm
  • bydd Haen Gyffredinol y cynllun yn dilyn y flwyddyn galendr, 1 Ionawr i 31 Rhagfyr
  • byddwch yn datgan bob blwyddyn yr holl dir sydd o dan eich rheolaeth lwyr ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF)
  • bydd angen i chi sicrhau'ch bod yn gallu bodloni amodau'r Gweithredoedd Cyffredinol sy'n berthnasol i'ch fferm
  • bydd angen ichi gadw at Sylfaen Reoleiddio'r SFS a'r Cod i Bawb

Cyngor a help 

Rydym am eich helpu i ymuno â'r cynllun a chynnal y gweithredoedd mewn ffordd mor effeithlon â phosibl. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r prif randdeiliaid a Gweithgor Defnyddwyr RPW i sicrhau bod prosesau'n glir ac yn hawdd eu deall, gan roi cyngor ac arweiniad addas yn ôl y gofyn. 

Rydym am i chi gael y gorau o'r cynllun, felly byddwn yn eich cefnogi hefyd i ennill a meithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gynnal y Gweithredoedd Cyffredinol, Opsiynol a Chydweithredol. 

Byddwn yn datblygu'r mesurau cymorth positif y mae Cyswllt Ffermio yn eu cynnig ar hyn o bryd, gan gynnwys y rhaglen trosglwyddo gwybodaeth, dysgu a datblygu gydol oes, rhwydwaith ffermydd arddangos a digwyddiadau rhannu gwybodaeth i'ch helpu gyda Gweithredoedd y Cynllun.  Byddwn yn prynu'r gwasanaeth hwn cyn hir i sicrhau ei fod o help i chi. 

Efallai y bydd angen i ni ymweld â'ch fferm, gan ddefnyddio staff Llywodraeth Cymru neu gynghorwyr trydydd parti, ynghylch rhai Gweithredoedd Opsiynol i sicrhau bod y Gweithredoedd yn addas ac yn briodol i'r lleoliad rydych wedi'i ddewis. 

Bydd manylion y gwasanaethau sydd ar gael a'r ymweliadau fferm hyn yn cael eu cyhoeddi ar-lein ac ar gael ichi eu gweld ar RPW a llinellau cymorth Cyswllt Ffermio.

Cofrestru

Os ydych am ymuno â'r cynllun, bydd angen i chi gofrestru'ch busnes ar RPW ar-lein. Ni fydd gofyn i fusnesau fferm sydd eisoes wedi cofrestru ar RPW Ar-lein ac sydd wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN) gofrestru eto, ond efallai y bydd angen iddyn nhw ddiweddaru eu manylion. Efallai y bydd angen i fusnesau fferm gofrestru hefyd â Cyswllt Ffermio i allu cael gwybodaeth, cymorth a chanllawiau am y cynllun.

Cadarnhau data 

Cyn i'r cynllun ddechrau ar 1 Ionawr 2026, byddwn yn rhoi cyfle i chi edrych ar fapiau RPW Ar-lein i gadarnhau bod y cynefinoedd a'r gorchudd coed ar lefel cae a fferm yn gywir. Bydd RPW yn cysylltu â'r holl fusnesau fferm cofrestredig gyda rhagor o fanylion am y broses gadarnhau hon. 

Ni fydd hyn yn ddatganiad tir ar gyfer unrhyw gynllun, nawr nac yn y dyfodol. 

Yn dilyn hynny a chyn agor y cynllun, bydd map rhyngweithiol ar gael ar-lein a fydd yn dangos manylion y cynefinoedd, y gorchudd coed, y safleoedd dynodedig a'r nodweddion hanesyddol ar eich fferm, fel y maen nhw ar system fapio RPW.

Bydd angen i chi gadarnhau'r gorchudd tir a'r nodweddion sy'n bresennol ar eich fferm bob blwyddyn fel rhan o broses lenwi'r SAF i wneud cais am y Taliad Cyffredinol.

Taliad Cyffredinol SFS 

Er bod y cynllun wedi'i gynllunio i ddarparu cymorth tymor hir, i wneud cais am Daliad Cyffredinol yr SFS, bydd angen ichi lenwi'r SAF bob blwyddyn. Rydym yn cynnig agor cyfnod ymgeisio'r cynllun ym mis Mawrth a'i gau ar 15 Mai, yn unol â chyfnod ymgeisio'r SAF . 

Efallai y bydd gofyn i chi roi gwybod systemau RPW a Cyswllt Ffermio yn ystod y flwyddyn i gadarnhau eich bod wedi cynnal y gweithredoedd nad oes angen eu cwblhau erbyn dyddiad cyflwyno'r SAF. Byddwn yn paratoi dangosfwrdd ar RPW Ar-lein i gofnodi'r Gweithredoedd y byddwch wedi'u gwneud ac i'ch rhoi ar ben ffordd ar gyfer cael cyngor a help.

Bydd angen cynnal yr holl weithredoedd sy'n berthnasol i'ch busnes ffermio o fewn cyfnod penodol.

Byddwn yn defnyddio'r manylion sydd wedi'u datgan a'u dilysu ar y SAF i gyfrif y Taliad Cyffredinol yn unol â'r fethodoleg a ddisgrifir yn fanylach ym Mhennod 8.

Byddwn yn cynnig rhag-daliad o fis Hydref ac yn talu'r balans unwaith y bydd yr holl waith dilysu a chadarnhau wedi'i wneud o fis Rhagfyr ymlaen.

Llinell sylfaen carbon ar lefel fferm

Mae gan y cynllun rôl allweddol o ran helpu ffermwyr i ddeall yn well gydbwysedd carbon eu ffermydd ac effaith newid dulliau ffermio, a hefyd eu helpu i fabwysiadu technegau ar gyfer cynyddu cyfleoedd i ddal a storio carbon a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hyn yn bwysig i'ch helpu i gwrdd â gofynion cynyddol y cwsmer a'r gadwyn gyflenwi. 

Byddwn yn defnyddio'r data sydd eisoes gan neu ar gael i Lywodraeth Cymru i gyfrifo llinell sylfaen carbon ar lefel fferm, yn unol ag argymhelliad y Panel Adolygu Tystiolaeth ar Atafaelu Carbon. Mae'n debygol y bydd angen rhagor o fanylion am eich fferm er mwyn gallu cyfrif llinell sylfaen ystyrlon o'r allyriadau nwyon tŷ gwydr y mae’ch fferm yn eu cynhyrchu a faint o garbon y mae’n ei ddal a’i storio. Byddwn felly'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i benderfynu ar y set derfynol o ddata sydd ei angen, megis systemau ffermio a threfniadau tai da byw, i ni allu cyfrifo'r allbynnau hyn. 

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i nodi a datblygu Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol i'ch helpu i leihau'ch ôl troed carbon, trwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, cynyddu cyfleoedd ar gyfer dal carbon, ac i wella busnes y fferm.

Gweithredoedd Opsiynol a Gweithredoedd Cydweithredol

I ategu'r SAF, bydd yna gytundebau ar wahân, yn ôl y gofyn, i ganiatáu mwy o amser i gynnal Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol.

Ar gyfer rhai Gweithredoedd Opsiynol neu Gydweithredol, er enghraifft gwella cynefinoedd, bydd proses asesu fanylach. I gyd-fynd â hyn, darperir arweiniad, cymorth a chefnogaeth briodol. Efallai bydd yn golygu ymweld â'r fferm.

Byddwn yn defnyddio prosesau sy'n bod eisoes os medrir, i sgorio a dewis yn unol ag amcanion SLM os bydd y gyllideb yn cyfyngu ar faint fydd yn cael cymryd rhan. Gallai hynny olygu proses ymgeisio syml tebyg i'r broses ymgeisio am Grantiau Bach, neu efallai y bydd angen proses arfarnu ar gyfer ceisiadau mwy.

Bydd angen i bob grŵp sydd am gymryd rhan yn Haen Gydweithredol y Cynllun gofrestru gydag RPW i gael CRN ar gyfer y grŵp cyn cyflwyno cais. Bydd taliadau'n cael eu gwneud i'r grŵp ac nid i aelodau unigol y grŵp.

Bydd angen cynnal y Gweithredoedd priodol o fewn yr amserlen a fydd wedi'i phennu ymlaen llaw.

Y broses ddilysu weinyddol  

Bydd perchennog neu denant pob tir, parsel a gorchudd tir yn cael ei gadarnhau ar System Adnabod Parseli Tir (LPIS) RPW. Gwneir hyn i sicrhau bod y taliadau’n cael eu gwneud ar y darnau tir cywir, na chaiff ffermwr ei dalu ddwywaith am yr un peth ac nad yw’r categori defnyddio tir yn groes i’r defnydd tir y gofynnir amdano o dan ofynion y cynllun. 

Bydd archwiliadau'n cael eu cynnal hefyd o'r datganiadau SAF a dangosfwrdd RPW Ar-lein i gadarnhau bod Gweithredoedd Cyffredinol wedi’u cynnal neu’n mynd rhagddynt. Byddwn yn cydnabod ac yn cywiro gwallau sy'n hawdd eu darganfod mewn archwiliad gweinyddol o'r wybodaeth a roddir ar y SAF, dogfennau ategol neu unrhyw gais a hawliad arall. 

Os cewch eich rhwystro rhag cyflawni rhwymedigaeth neu gwblhau Gweithred oherwydd digwyddiad y tu hwnt i'ch rheolaeth, byddwn yn ei ystyried o dan y ddarpariaeth Amgylchiadau Eithriadol.

Archwiliadau ar y safle

Bydd archwiliadau ar y safle'n cael eu cynnal i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n briodol. Byddan nhw'n gyfuniad o archwiliadau ffisegol a lluniau o'r ddaear (e.e. synhwyro o bell a ffotograffau o'r awyr) lle bo hynny'n berthnasol. 

Bydd RPW yn dewis ac yn arolygu canran o geisiadau'r cynllun bob blwyddyn i gadarnhau bod gofynion y cynllun, gan gynnwys gofynion sylfaen reoleiddio'r SAF, yn cael eu bodloni. Arolygiaeth Wledig Cymru (RIW) ac Awdurdodau Rheoli Cymwys eraill (CCA), fel CNC, fydd yn cynnal yr archwiliadau hyn. 

Lle bo hynny'n berthnasol, byddwn yn ystyried a oes cydnabyddiaeth eisoes wedi'i rhoi i leihau nifer yr archwiliadau mewn arolygiad.

Byddwn yn diweddaru'r 'Pan ddaw’r Arolygydd - Canllaw defnyddiol i ffermwyr' gydag enghreifftiau o'r cofnodion ar y fferm y gallem ofyn am gael eu gweld fel tystiolaeth bod Gofynion y Cynllun wedi'u bodloni.

Rhybuddion a chosbau

Mae cydymffurfio â meini prawf a gofynion y cynllun, gan gynnwys Sylfaen Reoleiddio'r SFS, y Cod i Bawb a'r holl Weithredoedd perthnasol i gyd yn amod o'r taliad. 

Pan welir bod datganiad yn anghywir, neu nad ydych wedi cydymffurfio â gofynion y cynllun, bydd angen i ni ystyried ymateb priodol a chymesur. Gall hyn arwain os medrir at arweiniad pellach, rhybuddion neu hyfforddiant ychwanegol i gywiro mân broblemau. Fodd bynnag, efallai y bydd angen gostyngiadau, a / neu gosbau ariannol er enghraifft os bydd problem cydymffurfio fawr yn codi neu'n codi dro ar ôl tro. Ar gyfer pob enghraifft o ddiffyg cydymffurfio, bydd set o Safonau Dilysadwy wedi'u cyhoeddi a matrics sy'n nodi'r goblygiadau.

Apelio

Bydd RPW yn parhau i redeg proses apelio dau gam, sy'n cynnwys:

  • cam 1: Holi swyddogion gwahanol i'r rhai a wnaeth y penderfyniadau gwreiddiol
  • cam 2: Holi Panel Apelio Annibynnol, fydd yn cyflwyno argymhelliad i Weinidogion Cymru

Bydd canllawiau apelio newydd yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen eleni. 

Prosesu data

Llywodraeth Cymru yw Perchennog a Phrosesydd y Data a rhaid iddo fodloni'r Egwyddorion Diogelu Data a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018 (ar legislation.gov.uk)

Bydd yr holl ddata a gesglir yn cael ei reoli'n ddiogel a sensitif ac ni fyddwn yn ei gadw am fwy o amser nag sydd ei angen. 

Yn bennaf, dim ond am ddata ar gyfer prosesu a dilysu Gofynion y Cynllun a chyfrifo'r taliadau y byddwn yn gofyn amdano. Gellid defnyddio'r data hefyd at ddibenion monitro, gwerthuso ac adrodd. 

Pan fydd angen cyfuno data i gynhyrchu ystadegau neu dueddiadau ar lefel sector, rhanbarth neu wlad, gwneir y data'n ddienw. 

Pennod 10: monitro ac adrodd

Llywodraeth Cymru fydd yn monitro a gwerthuso'r SFS ac yn adrodd arno, hynny drwy: 

  1. ofynion cyfreithiol y ddeddf, gyda sylw arbennig ar amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy; a
  2. gwerthuso'r cynllun.

Gofynion Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

O dan y ddeddf, mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i fonitro a gwerthuso cyfraniad unrhyw gymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru at gyflawni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) ac adrodd ar hynny.  Mae monitro yn gwneud Llywodraeth Cymru yn atebol am ei pherfformiad i wireddu amcanion SLM drwy ddarparu'r tryloywder priodol i'r Senedd a'r cyhoedd allu tracio ei gwaith. 

Mae'r ddeddf yn pennu fframwaith monitro ac adrodd clir ar lefel amcan SLM. Mae'n cynnwys pum lefel adrodd:

  • y Cynllun Cymorth Amlflwydd, sef rhag-gynllun pum mlynedd sy'n nodi sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cymorth yn ystod cyfnod y cynllun i gyfrannu at gyflawni amcanion SLM. Cyhoeddwyd y Cynllun Cymorth Amlflwydd cyntaf ym mis Rhagfyr 2024
  • caiff datganiad o ddangosyddion a thargedau SLM ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2025 i'w ddefnyddio i asesu cynnydd i wireddu amcanion SLM
  • caiff  Adroddiad Blynyddol ei gyhoeddi mis Mawrth 2026 i roi'r dystiolaeth bod Llywodraeth Cymru'n rhoi'r cymorth perthnasol i'r sector amaethyddol
  • bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi Adroddiad Effaith bob pum mlynedd a fydd yn gwerthuso'r holl gymorth y bydd Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu o dan y ddeddf. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o'i effaith a'i effeithiolrwydd. Bydd yr Adroddiad Effaith cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2030, gan gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Rhagfyr 2029
  • bydd Adroddiad Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn cael ei gynhyrchu bob pum mlynedd i asesu effeithiolrwydd y camau a gymerir gan Weinidogion Cymru yn unol â'r ddyletswydd i gyflawni amcanion SLM. Bydd yn asesu cynnydd cronnus o ran cyflawni amcanion SLM (ers i'r ddyletswydd SLM ddod i rym) yn ogystal â'r cynnydd dros gyfnod yr adroddiad. Rhaid iddo hefyd asesu'r cynnydd yn erbyn dangosyddion a thargedau SLM  ac esbonio a yw pob targed wedi cael ei gyflawni. Daw cyfnod yr adroddiad SLM cyntaf i ben ddiwedd Rhagfyr 2025 a chaiff ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2026

Gwerthuso'r SFS

Y Cynllun fydd prif gyfrwng Llywodraeth Cymru i gyflawni amcanion SLM. 

Bydd ei effaith yn cael ei werthuso i asesu ei effeithiolrwydd a'i werth am arian gan ystyried data perfformiad / rheoli gan RPW, CNC a darparwyr gwasanaethau eraill. Bydd y gwerthusiad yn cefnogi'r gofynion adrodd statudol.

Pennod 11: Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Mae'r SFS wedi'i greu i roi cymorth hirdymor i fusnesau ffermio Cymru i'w helpu i fagu gwydnwch. Mae'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS), sef yr hen gynllun, yn cael ei ddileu'n raddol dros y Cyfnod Pontio sy'n dechrau yn 2026.

Ar ôl dewis cymryd rhan yn SFS, ni fyddwch yn cael mynd yn ôl i'r BPS.

Dod â'r BPS i ben yn raddol

Bydd Hawliau BPS, y Taliad wedi'i Ailddosbarthu a'r Taliad Ffermwyr Ifanc yn cael eu dileu'n raddol dros gyfnod o dair blynedd, gyda gwerth yn cael ei dapro 40% yn 2026, ac yna 20% yn 2027 a 2028. Bydd y tapro hwn yn digwydd ar sail gwerthoedd BPS yn 2025. 

Dyma fydd gwerth Hawliau’r BPS, y Taliad wedi'i Ailddosbarthu a'r Taliad i Ffermwyr Ifanc: 

  • 100% yn 2025
  • 60% yn 2026
  • 40% yn 2027
  • 20% yn 2028 

Bydd yr hawliad olaf am BPS yn cael ei wneud yn 2028. Ni fydd modd gwneud cais ac ni chaiff taliad ei wneud yn 2029.

Mae dod â'r BPS i ben yn raddol fel hyn yn golygu na fydd angen pennu terfyn uchaf i gyllideb y BPS yn y dyfodol, ac y byddwch yn gallu cyfri'n hawdd werth eich taliad BPS dros y cyfnod pontio os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan yn yr SFS. 

Newidiadau i reolau'r BPS

Ni fydd y rhan fwyaf o reolau'r BPS yn newid. Bydd angen yr un nifer o hectarau cymwys arnoch o hyd i allu defnyddio'ch hawliau BPS, a rhaid gofalu bod digon o dir cymwys ar gael ichi. 

Byddwn yn cadw'r fframwaith cyfreithiol Trawsgydymffurfio a'r rheolau a'r cosbau cysylltiedig i hawlwyr y BPS. Gan fod y BPS yn cael ei ddileu dros y Cyfnod Pontio, mae angen inni sicrhau nad yw nifer hawlwyr y BPS na nifer yr hawliadau sy'n cael eu gwneud yn cynyddu. 

Felly, byddwn yn gwneud newidiadau i’r BPS o 2026. Mae'r manylion isod:

Taliad Ffermwyr Ifanc

Ni fydd yr elfen hon o'r BPS ar gael i hawlwyr newydd o 2026 ymlaen gan y byddan nhw’n gallu cael cymorth trwy'r SFS. Bydd y rheini sy'n cael y Taliad i Ffermwyr Ifanc nawr yn dal yn gallu ei gael tan ddiwedd cyfnod pum mlynedd y taliad, diwedd y BPS neu pan fyddan nhw'n ymuno â'r SFS, p'un bynnag ddaw gyntaf. 

Hawliau BPS

Bydd ffermwyr sy'n cymryd rhan yn yr SFS yn ildio eu hawliau, a fyddan nhw ddim ar gael ar gyfer y BPS wedi hynny. 

Byddwn yn dileu'r rheol dwy flynedd i ddefnyddio hawliau a'r Gronfa Genedlaethol. Bydd ffermwyr newydd yn cael eu cyfeirio at yr SFS, gan nad oes angen i unrhyw un gael hawliau o dan y cynllun hwnnw. 

Hefyd, dim ond ffermwyr sy'n trosglwyddo neu lesio hawliau gyda thir fydd yn cael trosglwyddo hawliau'r BPS. Mae hynny'n golygu y gall hawliau BPS gael eu trosglwyddo ichi gyda thir os ydych yn etifeddu tir neu'n olynydd. 

Bydd Cyfnod Trosglwyddo a Phrydlesu 2026 a'r rheolau trosglwyddo hawliau ar gael yn gynnar yn 2026.

Capio taliadau

Bydd lefel capio taliadau BPS yn gostwng fel ei fod yn cyfateb i lefel tapro'r BPS. Mae hyn yn golygu y bydd effaith tapro'r BPS yr un peth ar gyfer pob hawliwr.

Fframwaith cyfreithiol

Bydd y cynigion hyn yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 i newid deddfwriaeth y BPS drwy is-ddeddfwriaeth yn 2025.

Pennod 12: rheoliadau

Byddwn yn cyflwyno trwy is-ddeddfwriaeth Reoliadau sydd eu hangen i weithredu a gweinyddu pob cynllun cymorth a sefydlir yn y dyfodol o dan ac yn unol ag adrannau 10 a 12 o'r ddeddf. 

Mae'r rheoliadau hyn yn ofyn cyfreithiol er mwyn gallu rheoli'r modd y caiff cynlluniau cymorth yn y dyfodol eu gweithredu a'u gweinyddu, megis monitro'r cymorth a ddarperir, sicrhau bod archwiliadau'n cael eu cynnal yn unol ag amodau cymhwysedd ac y parheir i gydymffurfio ag amodau'r cynllun cymorth.

Bydd y Rheoliadau yn galluogi pob cynllun cymorth yn y dyfodol, sy'n gweithredu o dan y pŵer i ddarparu cymorth (adrannau 8 a 9) o dan y ddeddf, i ddefnyddio'r un pŵer cyfreithiol i weithredu a gweinyddu'n effeithiol. Nodir manylion pob cymorth, boed gynllun neu arall, yng Nghanllawiau'r Cynllun.

Byddwn yn dechrau proses ddeddfwriaethol y Senedd yr hydref hwn i baratoi ar gyfer cychwyn yr SFS ym mis Ionawr 2026.

Ochr yn ochr â'r Rheoliad Cymorth Amaethyddiaeth, byddwn hefyd yn diwygio rheoliadau'r BPS gan ddefnyddio pwerau a roddwyd gan Adran 16 o'r ddeddf.

Atodiad 1: sylfaen reoleiddio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Bydd y Gofynion Rheoli Statudol (SMRs) a’r safonau Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAECs) a restrir isod, sy'n seiliedig ar reoliadau, yn cael eu cefnogi gan ganllawiau sy'n nodi'n fanwl beth y bydd disgwyl i ffermwr sy'n derbyn taliadau SFS ei wneud. 

Rydym yn bwriadu darparu taflenni ffeithiau i ffermwyr yn seiliedig ar Ganllawiau Trawsgydymffurfio a set o Safonau dilysadwy y bydd ffermwyr yn gyfarwydd â nhw.  

Gofynion rheoli statudol 

SMR 1: diogelu dŵr  

SMR 2: adar gwyllt  

SMR 3: gwarchod ffawna a fflora (SMR)  

SMR 4: bwyd a chyfraith bwyd.  

SMR 5: cyfyngiadau ar ddefnyddio betaweithyddion a sylweddau sy’n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig ar anifeiliaid fferm   

SMR 6: adnabod a chofrestru Moch

SMR 7: adnabod a chofrestru gwarthegChofrestru Gwartheg 

SMR 8: adnabod defaid a geifr 

SMR 9: atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE)

SMR 10: cyfyngiadau ar ddefnyddio cynnyrch amddiffyn planhigion

SMR 11: safonau lles lloi 

SMR 12: safonau lles moch

SMR 13: safonau lles anifeiliaid fferm

Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da 

GAEC 2: dŵr – defnyddio dŵr i ddyfrhau’r tir 

GAEC 3: dŵr - dŵr daear 

GAEC 6: pridd a deunydd organig – eu diogelu 

GAEC 7: cynnal nodweddion y dirwedd (henebion rhestredig)

Bydd Sylfaen Reoleiddio’r SFS yn cynnwys y canlynol hefyd:

  • yn unol â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Chaniatáu) 2019, ni ddylech blannu Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) rhestredig na'r hachosi i dyfu
  • yn unol â'r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PRoW), dylech gadw at y cyfrifoldebau cyfreithiol ar dirfeddianwyr i sicrhau bod y rhwydwaith yn agored, yn hygyrch ac yn ddiogel i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

Rhaid i chi hefyd reoli tir Mynediad Agored yn briodol yn unol â Deddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad, 2000 

Atodiad 2: y Cod i Bawb

Mae'r Cod i Bawb yn berthnasol i bob fferm sy'n rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'n cynnwys cyfres o ofynion y bydd angen eu bodloni ar y fferm gyfan. Cafodd ei lunio i ddiogelu asedau a nodweddion amgylcheddol eich fferm. 

Bydd RPW yn cadarnhau gyda chi pa asedau a nodweddion sydd gennych ar eich tir fel rhan o broses yr SFS. Gall hyn adeiladu ar wybodaeth y gallech fod wedi'i darparu eisoes fel rhan o'r ymarfer cadarnhau data yn 2025. 

I gyd-fynd â’r Cod i Bawb, byddwn yn cyhoeddi canllawiau a Safonau Dilysadwy sy'n nodi'n fanwl beth y bydd angen i ffermwyr sy'n cael taliadau’r SFS ei wneud. 

Mae pedair rhan y Cod i Bawb fel a ganlyn:

  • diogelu pridd
  • bioamrywiaeth a chynefinoedd
  • coed
  • nodweddion tirwedd

Rhan 1: diogelu pridd

Nod y gofynion hyn yw diogelu pridd a dŵr wyneb rhag erydiad a dŵr ffo, gan gynnwys ar ôl cynaeafu neu bori. 

Yn y cod hwn: 

  1.  mae ‘gwaith mecanyddol ar gae’ yn cynnwys yr holl waith cynaeafu, trin a gwasgaru, gan gynnwys gwasgaru tail a slyri, a holl weithgarwch cerbydau
  2. mae diffiniadau synnwyr cyffredin arferol o ‘ddwrlawn’ yn gymwys
  3. mae dŵr wyneb yn cynnwys dyfroedd arfordirol, aberoedd, camlesi, llynnoedd, pyllau a chyrsiau dŵr megis afonydd, nentydd a ffosydd sydd â dŵr sy’n llifo’n rhydd ynddyn nhw; ac mae hefyd yn cynnwys ffosydd sy'n sych dros dro a ffosydd cudd

O dan rai amgylchiadau, gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddiadau ysgrifenedig yn caniatáu gwaith mecanyddol penodol ar gae. 

Rhaid ichi ddiogelu pridd rhag erydiad i lawr llethr neu oddi ar y cae, gan gynnwys i gyrsiau dŵr a ffyrdd. 
 

Rhaid peidio â thyfu indrawn ar dir sydd â goleddf o 12 gradd neu fwy. 

Ni chaniateir ichi dyfu indrawn ar dir sy'n agored i lifogydd oni bai bod cnwd yn cael ei hau oddi tano yn unol â'r un gofynion â'r Weithred Opsiynol, fydd ar gael i ddarparu cymorth ariannol. Gweler Pennod 5.

Rhaid ichi sicrhau o leiaf bod yr holl dir wedi'i orchuddio â chnwd, sofl, gweddillion cnwd neu lystyfiant arall bob amser, ac eithrio lle bydd sefydlu gorchudd yn gwrthdaro â'r gofynion isod. 

Ar dir sydd wedi’i gynaeafu â chombein, cynaeafwr porthiant neu beiriant lladd gwair, er mwyn cydymffurfio â'r gofynion, dylid bodloni un o'r amodau canlynol bob amser rhwng y diwrnod ar ôl cynaeafu ac 1 Mawrth: 

  • bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn cael ei gadw ar y tir, neu
  • fod y tir yn cael ei baratoi fel gwely had o fewn 14 diwrnod ar gyfer cnwd a bod y cnwd yn cael ei hau o fewn cyfnod o 10 diwrnod gan ddechrau gyda'r diwrnod ar ôl y cam olaf i baratoi'r gwely had 

Wrth aredig glaswelltir, rhaid paratoi'r tir fel gwely had o fewn 14 diwrnod ar ôl aredig a rhaid hau'r cnwd/glaswellt o fewn cyfnod o 10 diwrnod, gan ddechrau gyda'r diwrnod ar ôl y cam olaf i baratoi'r gwely had. 

D.S. Os byddwch, wrth hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 diwrnod, yn torri un o'r gofynion canlynol, dylid hau'r cnwd neu'r cnwd gorchudd dros dro cyn gynted ag sy’n ymarferol pan na fydd mwyach yn ddwrlawn. 

Rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith mecanyddol ar gae mewn ardal lle mae pridd dwrlawn (na chaniatáu i hynny ddigwydd) oni bai fod un neu fwy o'r canlynol yn berthnasol: 

a) lles anifeiliaid neu ddiogelwch pobl; 

b) gwella gallu'r pridd i ddraenio; 

c) ymgorffori gypswm ar ôl iddo gael ei foddi gan ddŵr hallt; 

d) cadw at rwymedigaethau contract mewn perthynas â chynaeafu cnwd ar bridd sy'n orlawn o ddŵr; 

e) mae'r pridd yn ddwrlawn o fewn 20 metr i'r fynedfa ac mae angen cael mynediad i dir nad yw'n ddwrlawn; 

f) mae'n hanfodol cynaeafu cnwd er mwyn bodloni terfynau amser contractiol, neu lle byddai ansawdd y cnwd yn dirywio pe na bai'n cael ei gynaeafu; neu 

g) mae'r pridd yn rhan o drac i dir nad yw'n ddwrlawn. 

Dylid osgoi gorbori lle bynnag y bo modd. Ni ddylai stablad (sathru) tir na rhigoli ddigwydd i lefel sy'n peri i'r pridd erydu i lawr llethr neu oddi ar y cae, gan gynnwys i gyrsiau dŵr a ffyrdd. 

Rhaid ichi beidio â rhoi porthiant atodol o fewn 10 metr i ddŵr wyneb. 

Dylech o leiaf naill ai droi’r pridd ag aradr gynion neu osod ffensys gwaddodion er mwyn cyfyngu ar erydiad y pridd os nad yw'n bosibl hau cnwd gorchudd ar dir sydd wedi cael ei gynaeafu'n hwyr neu lle mae cnwd porthiant neu wreiddgnwd wedi cael ei bori'n llwyr. 

Mae perygl mawr i ddŵr ffo lifo dros dir sy’n cael ei adael yn foel dros y gaeaf gan erydu pridd, oni bai’ch bod yn ei reoli’n ofalus. 

Yng Nghymru, dim ond os yw'n cydymffurfio â'r amodau canlynol y caniateir i ffermwyr drin tir er mwyn ei adael ag arwyneb garw rhwng y diwrnod ar ôl cynaeafu ac 1 Mawrth: 

  1. Nid ystyrir bod risg uchel i’r cae erydu.
  2. Mae arwyneb garw yn cael ei adael arno er mwyn annog glaw i ymdreiddio iddo.
  3. Nid yw pridd yn llithro i lawr llethr neu oddi ar y safle (parsel tir).
  4. Rydych wedi cynnal asesiad risg, ac wedi rhoi gwybod i Taliadau Gwledig Cymru amdano, ar neu cyn y diwrnod rydych yn trin y tir er mwyn gadael arwyneb garw. 

Rhaid ichi beidio â thrin nac aredig tir o fewn 1 metr i ddŵr wyneb ar unrhyw adeg. 

Rhan 2: bioamrywiaeth a chynefinoedd 

Nod y gofynion hyn yw atal cynefinoedd lled-naturiol sydd eisoes yn bodoli rhag cael eu colli neu eu difrodi, a chefnogi camau i'w gwella. 

Diffinnir cynefin fel a ganlyn:

Unrhyw lystyfiant y mae llai na 25% ohono'n rhywogaethau amaethyddol wedi'u hau, yn unol â Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) (EIA) 2017, neu dir a fapiwyd fel cynefinoedd a grëwyd o'r newydd ar dir wedi'i wella fel rhan o  UA5: Cynnal cynefinoedd. 

Gofyn y cynllun bod 10% o bob fferm yn gynefin 

Un o ofynion y cynllun yw bod o leiaf 10% o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin er budd bioamrywiaeth yr un pryd â chynhyrchu bwyd. Mae hyn yn elfen bwysig o'r cynllun er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ein targedau bioamrywiaeth a mynd i'r afael â'r argyfwng natur. 

Bydd hyn yn dibynnu ar faint o gynefinoedd lled-naturiol sydd eisoes ar eich fferm (ac eithrio tir comin). 

Defnyddir cyfanswm arwynebedd yr ardaloedd canlynol i bennu'r 10%: 

  • yr holl gynefinoedd lled-naturiol sydd eisoes yn bodoli fel y'u diffinnir o dan UA5 Cynnal cynefinoedd
  • coetir llydanddail sefydledig
  • perthi/gwrychoedd mewn cyflwr da sy'n cynnig gwerth sylweddol i fioamrywiaeth, lle:
    • mae'r berth yn 3m o led ac yn 2m o uchder (neu'n 2m o led ac yn 3m o uchder) o leiaf, a lle
    • mae o leiaf 3m rhwng ffensys dwbl lle mae da byw yn bresennol (neu o leiaf 2m rhwng ffensys dwbl lle cawsant eu sefydlu drwy gynllun Glastir) a lle
    • nad yw cyfanswm y bylchau yn fwy na 5% o hyd y berth.
    • Cynefinoedd a sefydlwyd ers 2022, megis coridorau nant, pyllau, coetiroedd llydanddail a pherthi. 

Os nad oes gennych ddigon o gynefinoedd eisoes, mae'n rhaid ichi greu cynefin dros dro ychwanegol er mwyn cyflawni'r 10%. Gweler UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi'i wella ym Mhennod 4 ar gyfer y dewisiadau sydd ar gael ichi.

Bydd unrhyw gynefin parhaol newydd a gaiff ei greu o dan Haen Opsiynol neu Haen Gydweithredol y Cynllun yn cyfrif tuag at y 10% unwaith y bydd wedi’i sefydlu.

Gall unrhyw newidiadau i'r tir effeithio ar b'un a oes gennych 10% o gynefin mewn blwyddyn unigol, felly mae angen ichi ystyried faint o gynefin sydd gennych bob blwyddyn. 

Gofynion y cynllun ar gyfer cynefinoedd

Mae’r gofynion cyffredinol canlynol yn berthnasol i bob cynefin ar eich fferm a dylech eu hystyried ochr yn ochr â'r gofynion yn UA5: Cynnal cynefinoedd. 

Peidiwch â gwneud y canlynol: 

  • niweidio tir cynefin - diffinnir niwed fel peri i'r math o lystyfiant sy'n nodweddiadol yn y cynefin hwnnw gael ei golli. Mae enghreifftiau o weithredoedd a allai achosi niwed yn cynnwys gorbori a thanbori, stablad (sathru) y tir gan dda byw neu ei rigoli gan beiriannau fferm neu gerbydau eraill, neu gwympo coed yn anghyfreithlon. Mae'n rhaid ichi ddiogelu fflora’r ddaear, coed a'u gwreiddiau rhag niwed uniongyrchol neu anuniongyrchol yn sgil trin y tir, cywasgu, defnyddio peiriannau neu agrocemegion, gan gynnwys gwrteithiau
  • gwella tir cynefin yn amaethyddol - mae prosesau gwella amaethyddol yn ymwneud â rheoli mewn ffordd sy'n arwain at gynnydd mewn rhywogaethau amaethyddol, megis rhygwellt a meillion gwyn. Rhaid peidio â gwella tir cynefin yn amaethyddol, waeth a ydych wedi cael cydsyniad sgrinio Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ai peidio
  • aredig, trin neu ailhau tir cynefin
  • trosi, aredig neu ailhau tir a ddynodwyd yn Laswelltir Parhaol Amgylcheddol-Sensitif heb y caniatâd priodol
  • rholio tir cynefin neu ei lyfnu ag oged gadwyn rhwng 15 Mawrth ac 15 Gorffennaf – dylech gofnodi manylion yr holl waith rholio a llyfnu ag oged gadwyn ar dir cynefin yn eich dyddiadur gweithgarwch
  • cynnal prosiect ailstrwythuro gwledig mawr, heb gael penderfyniad sgrinio Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol
  • cynnal unrhyw weithgareddau symud pridd ar dir cynefin, gan gynnwys torri mawn a llenwi pantiau naturiol
  • tynnu cerrig, sgri, tywod, graean, gro, clai neu fawn o dir neu afonydd cynefin
  • adeiladu traciau, ffyrdd, buarthau, llawr caled neu unrhyw strwythurau newydd ar dir cynefin, ac eithrio lle y caniateir hynny gan weithred cynefin penodol o dan yr SFS
  • clirio ffosydd rhwng 1 Mawrth a 31 Awst ar dir cynefin
  • gellir gwneud gwaith cynnal a chadw arferol ar systemau draenio sydd eisoes yn bodoli fel a ganlyn:

    o    gellir clirio llystyfiant a silt, gan adael llystyfiant ar hyd un ochr y ffos
    o    ni chaniateir gwaith i ddyfnhau neu ledu ffosydd neu osod pibellau draenio a llenwi ffosydd
    o    rhaid cofnodi manylion gwaith clirio ffosydd ar dir cynefin yn y dyddiadur gweithgarwch
     
  • gosod systemau draenio newydd neu addasu systemau draenio sydd eisoes yn bodoli ar dir cynefin neu o fewn 100m i gynefin gwlyptir lle byddai'r ffos neu'r ddraen yn ailgyfeirio dŵr sy'n llifo tuag at y gwlyptir
  • cynefinoedd sy'n gysylltiedig â mawndir yw gwlyptiroedd ac mae ganddynt ddŵr ar yr wyneb neu'n agos at yr wyneb y rhan fwyaf o'r flwyddyn.
  • ni chaniateir troi ag aradr wadd ychwaith.
  • storio deunyddiau, cerbydau, ôl-gerbydau neu beiriannau ar dir cynefin.
  • storio tail, silwair neu wastraff fferm arall ac unrhyw sylweddau peryglus neu nad ydynt yn beryglus ar dir cynefin.
  • llosgi llystyfiant, glaswelltir neu unrhyw ddeunydd a dorrwyd ar dir cynefin, ac eithrio fel rhan o Gynllun Rheoli Llosgi sy'n cydymffurfio â Chod a Rheoliad Llosgi Grug a Glaswellt (2008).
  • rhoi slyri, gwrteithiau anorganig, tail a gwrteithiau organig, tail fferm, slag basig, gwymon calchog, slwtsh carthion, slwtsh papur gwastraff neu wastraff arall o'r fferm ac oddi ar y fferm ac unrhyw sylweddau peryglus neu nad ydynt yn beryglus (gan gynnwys dip defaid) ar dir cynefin. Gellir gwasgaru tail fferm dim ond lle y caniateir hynny fel gweithred ar gynefin penodol o dan yr SFS, a dylech gofnodi defnydd yn eich Dyddiadur Gweithgarwch.
  • rhoi calch ar dir cynefin, ac eithrio lle y caniateir hynny gan weithred cynefin penodol o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd angen ichi gofnodi defnydd yn eich Dyddiadur Gweithgarwch.  
  • defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion ar dir cynefin, ac eithrio i wneud y canlynol: 
     
  • sbot-chwynnu a rheoli'r chwyn niweidiol canlynol; marchysgall, ysgall y maes, tafol crych, tafol lydanddail a llysiau'r gingroen, er enghraifft, lle mae bygythiad i iechyd a lles da byw a cheffylau,
  • rheoli rhywogaethau estron goresgynnol megis clymog Japan, jac y neidiwr, rhododendron,  efwr enfawr
  • rheoli llystyfiant goresgynnol ar nodweddion hanesyddol ac adeiladau a strwythurau fferm traddodiadol
  • trin plâu a chlefydau planhigion neu goed fel yr argymhellwyd gan awdurdodau perthnasol a/neu os bydd yn ofynnol mewn Hysbysiad Statudol, e.e. Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol 
     

Dylai'r defnydd o unrhyw gynhyrchion diogelu planhigion gael ei ystyried fel rhan o waith Rheolaeth Integredig ar Blâu, a'i gofnodi fel rhan o UA2 Rheolaeth Integredig ar Blâu

Gweler Tabl 1 Dulliau rheoli ar gyfer mathau gwahanol o lystyfiant annymunol. 

  • achosi neu ganiatáu:
    o    i unrhyw rywogaethau estron goresgynnol sefydlu, ac
    o    i unrhyw rywogaethau estron goresgynnol newydd neu sy’n bod eisoes ledaenu i neu o fewn neu o ran arall o’r fferm (gallai hynny gynnwys lledaenu oherwydd diffyg gweithredu) i sicrhau nad yw’r arwynebedd o dan y rhywogaethau hyn yn cynyddu tra bo’r fferm yn rhan o’r cynllun
  • rhoi porthiant atodol ar dir cynefin wedi’i amgáu, ac eithrio lle ceir llawr caled eisoes at ddiben lles penodol da byw*, neu er mwyn darparu llyfleoedd neu flociau er mwyn gallu defnyddio porthiant bras. 
  • rhoi porthiant atodol ar dir cynefin heb ei amgáu (tir uwchlaw’r terfyn amgáu uchaf) ac eithrio, fel yr amlinellir isod, lle bo angen gwneud hynny'n benodol er lles da byw*: 

    o   rhaid rhoi porthiant atodol mewn ffordd sy'n osgoi newidio llystyfiant, pridd a chyrsiau dŵr. Mae niwed yn cynnwys gorbori, gorfaethu, gorsathru llystyfiant, stablad (sathru) pridd gan anifeiliaid sy'n pori, rhigoli gan gerbydau a ddefnyddir i gludo bwyd anifeiliaid, erydu pridd a llygru dŵr. 

    Wrth roi dwysfwyd, dylai'r holl dda byw allu cael gafael ar y bwyd a’i fwyta ar yr un pryd. 

    o    dylech symud lleoliadau bwydo bob dydd
    o    peidiwch â lleoli mannau
    o    porthi atodol ar fawndir nac ar lystyfiant sy'n sensitif i ddifrod a gorfaethu, gan gynnwys gorgorsydd, rhostir, glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau, gwernydd a choetiroedd llydanddail brodorol

  • bwydo da byw ar safleoedd archaeolegol, llethrau serth neu Hawliau Tramwy Cyhoeddus, neu wrth eu hymyl. Dylid gosod lleoliadau bwydo o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw gwrs dŵr.

    o    ni ddylid defnyddio cafnau bwyd na rheseli bêls (‘bale feeders’) unrhyw bryd ar dir cynefin
    o    dylid symud deunydd lapio plastig oddi ar y tir unwaith y bydd y bwyd wedi'i ddosbarthu

  • Dim ond y bwydydd o'r rhestr ganlynol y gellir eu defnyddio a dylai'r ddogn a ddefnyddir fod yn briodol i gategori'r anifeiliaid sy'n cael eu bwydo: 

      o    gwair (i’w wasgaru)
      o    gwywair (porfa wedi’i ladd ag o leiaf 60% ohono’n ddeunydd sych) (i’w wasgaru) 
      o    bwyd anifeiliaid cyfansawdd
      o    betys siwgr sych (ar ffurf cêc yn unig); ond nid lle gall ceffylau fynd at y bwyd anifeiliaid cyfansawdd 
      o    plociau bwydo a bwyd gwlyb mewn cynwysyddion addas 

*Caniateir porthiant atodol, fel yr amlinellir uchod, ar dir cynefin lle mae'r arfer hon yn ofynnol er lles penodol da byw. Bydd angen darparu porthiant atodol yn ystod tywydd garw neu i ateb gofynion anifeiliaid sy'n feichiog iawn. 

Caniateir rhoi porthiant atodol pan fydd tywydd garw yn cyfyngu ar allu da byw i fynd at dir pori, ar yr amod eich bod yn ei ddarparu heb niweidio’r amgylchedd nac yn peryglu lles y da byw. 

Diffinnir tywydd garw fel cyfnod pan fydd y llystyfiant sydd ar gael wedi'i orchuddio gan eira neu os bydd yn rhewi'n galed, yn sych neu'n glawio'n drwm am gyfnod estynedig. 

Nid ystyrir bod adar hela yn dda byw at ddibenion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Caniateir i adar hela gael porthiant atodol yn unol â Chanllawiau ‘Sustainable Gamebird Releasing’ yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt lle caiff adar eu rhyddhau'n gyfreithlon. 

Caniateir eithriadau i'r amodau uchod pan fydd eu hangen er mwyn sicrhau manteision amgylcheddol penodol sy'n ofynnol o dan y Cynllun. Caff yr eithriadau hyn eu cynnwys mewn gofynion rheoli cynefin penodol. 

Tabl 1: Rheoli llystyfiant annymunol 

Mae llystyfiant annymunol yn cynnwys chwyn niweidiol o dan Ddeddf Chwyn 1959, rhywogaethau brodorol goresgynnol, fel rhedyn, rhywogaethau estron goresgynnol (INNS), fel Rhododendron ponticum, a llystyfiant annymunol arall, fel brwyn y pabwyr a danadl. Trowch at y tabl isod am y dull rheoli derbyniol, canran y tir, yr amseroedd cywir a'r dosbarth cynefin bras lle bydd angen gwaith rheoli.

Math o lystyfiantDull rheoli derbyniolCanran y tirPryd i reoliYn dderbyniol mewn dosbarth cynefin
Chwyn niweidiol (Deddf Chwyn (1959) )) (e.e. ysgallysgallen y maes, llysiau'r gingroen

Tocio (nid lladd â pheiriant)  

 

Sbot-chwynnu

 

Clwt-chwynnu

AmhMai - Awst1 i 12
Rhywogaethau brodorol goresgynnol (e.e. rhedyn) 

Torri, tocio lladd â pheiriant 

 

Cleisio

 

Pori gwartheg / merlod

AmhMai - Awst1 i 12
Rhywogaethau estron goresgynnol (e.e. Rhododendron ponticum)

Torri, tocio lladd â pheiriant 

 

Cleisio

 

Pori gwartheg / merlod

 

Sbot-chwynnu

 

Clwt-chwynnu

AmhDrwy gydol y flwyddyn1 i 12
Llystyfiant annymunol arall Brwyn pabwyrTocio neu dorri, ond nid â pheiriant30%1 Ionawr – 14 Mawrth a 16 Gorffennaf – 31 Rhagfyr1, 3, 4, 5a a 6
Arall e.e. danadlTocio neu dorri, ond â pheiriant 30%Mai - Awst1, 3, 4, 5a a 6

Rhan 3: coed  

Nod y gofynion hyn yw cadw a chynnal pob coeden aeddfed, hynod a hynafol ym mhob rhan o'r fferm a sicrhau nad ydynt yn dirywio i gyflwr llai ffafriol. 

Mae'r adran hon yn gymwys i goed unigol, neu grwpiau o goed dan 0.1ha. Ar gyfer ardaloedd o goed a choetir dros 0.1 ha, gweler UA9: Cynnal Coetir

Dylech wneud y canlynol: 

  • atal difrod i goed gan dda byw neu beiriannau
  • cadw coed marw sy'n dal i sefyll lle y bo'n ddiogel gwneud hynny (a lle nad ydynt yn peri perygl amlwg)
  • sicrhau bod gwaith tocio neu dorri yn cael ei wneud yn briodol â thoriad glân ac nad yw'n difrodi nac yn gwneud niwed i'r goeden
  • dylai pren marw sydd wedi cwympo (ac eithrio pob rhywogaeth o sbriws) naill ai gael ei gadw yn y fan a'r lle neu ei symud i leoliad cysgodol gerllaw
  • dilyn unrhyw ofynion penodol ar gyfer coed sy'n ymwneud â math penodol o gynefin
  • rhoi gwybod am glefydau coed posibl gan ddefnyddio gwefan Tree Alert

Peidiwch â gwneud y canlynol: 

  • aredig/rholio o dan y corun / canopi er mwyn amddiffyn y system wreiddiau
  • rhoi gwrtaith o dan y corun / canopi
  • rhoi calch o dan y corun / canopi
  • chwistrellu Cynhyrchion Diogelu Planhigion o dan y corun / canopi neu ganiatáu iddynt lifo yno
  • plannu coed ychwanegol o fewn 5m i ymyl y canopi coed
  • rhoi porthiant atodol o dan ganopi unrhyw goed hynod neu wrth eu hymyl (o fewn 5m)
  • storio peiriannau neu ddeunyddiau o dan goed hynod mewn caeau
  • plannu coed ar fawn
  • torri neu docio coed yn ystod y tymor nythu adar (1 Mawrth i 31 Awst) oni bai fod y canlynol yn berthnasol:
  • mae'r goeden yn hongian dros ffordd fawr, ffordd, trac neu lwybr troed a ddefnyddir gan y cyhoedd, ac mae'r gwaith yn angenrheidiol am fod y llystyfiant sy'n hongian drosodd:
    • yn rhwystro cerbydau neu gerddwyr rhag mynd heibio
    • yn rhwystro golwg gorwyr, neu'r golau o lamp gyhoeddus, neu
    • yn peri perygl i bobl ar geffylau
  • mae angen torri neu docio'r goeden am ei bod wedi marw, am fod ganddi glefyd, am ei bod wedi'i difrodi neu am fod ei gwreiddiau'n anniogel, ac felly mae'n debygol o achosi perygl drwy gwympo ar ffordd fawr, ffordd neu lwybr troed
  • mae angen i'r cwmni sy'n gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw linellau trydan neu ffôn sy'n hongian drosodd dorri coed yn eu hôl am resymau diogelwch
  • ar dir âr, lle mae'r arfer amaethyddol arferol yn ei gwneud yn ofynnol i gnwd âr gaeaf gael ei blannu cyn 31 Awst, bydd angen ichi dorri'r coed perthnasol yn ôl o 1 Awst ar yr amod nad ydych yn aflonyddu ar adar sy'n nythu
  • mae hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, Adran 154 er mwyn sicrhau na chaiff llwybr cerbydau neu gerddwyr ei rwystro na'i beryglu, ac ystyrir bod angen tocio/torri neu blygu'r goden a/neu ganghennau coed yn y lleoliadau a ddisgrifir
  • caniateir yr eithriadau a ddisgrifir uchod ar yr amod bod ffermwyr hefyd yn bodloni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i warchod adar gwyllt. Dylech gadw tystiolaeth, e.e. ffotograffau a/neu unrhyw lythyrau oddi wrth yr awdurdodau cymwys perthnasol sy'n dangos yn glir pam roedd angen torri neu docio coed rhwng 1 Mawrth a 31 Awst. Dylid darparu'r rhain ar y cam archwilio os gofynnir amdanynt

Mae eithriad yn cyfeirio at y canlynol:

  • trwydded cwympo coed ddilys
  • cynllun rheoli dilys o dan Safon Coedwigaeth y DU
  • caniatâd cynllunio llawn
  • hysbysiad a gyflwynwyd i gydymffurfio â Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, megis hysbysiad a roddwyd gan awdurdod priffyrdd
  • hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol 

Yr eithriad i'r uchod yw os yw'r goeden yn beryglus a bod perygl gwirioneddol ac uniongyrchol, yn hytrach na pherygl canfyddedig. Os cewch eich herio, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth bod y goeden yn beryglus, er enghraifft drwy adroddiad tyfwr coed achrededig neu dystiolaeth ffotograffig. 

Rhan 4 nodweddion y dirwedd 

Nod y gofynion hyn yw cynnal a chadw nodweddion hanesyddol a nodweddion tirwedd, sy'n nodweddion pwysig yn ein tirwedd ddiwylliannol a ffisegol. 

Mae'n ofynnol ichi reoli unrhyw nodweddion hanesyddol hysbys ar eich fferm er mwyn bodloni UA11: Yr Amgylchedd hanesyddol. Caiff gofynion rheoli manwl gwahanol fathau o nodweddion hanesyddol eu disgrifio yn Atodiad 8. 

Yn ogystal â'r gofynion penodol hynny ar gyfer nodweddion gwahanol, dylid cadw at y gofynion cyffredinol canlynol ar nodweddion hanesyddol a nodweddion y dirwedd ar eich fferm. 

Diffinnir nodweddion tirwedd fel a ganlyn: 

Mae nodweddion tirwedd yn cynnwys perthi/gwrychoedd, waliau cerrig, cloddiau, cloddiau cerrig, ffensys llechi, camfeydd cerrig, cwteri defaid a chwlfertau ac ymylon caeau. Caiff rhai o'r rhain eu defnyddio fel ffiniau caeau traddodiadol, ond mae'n bosibl nad dyna'r achos bob amser. 

  • mae ‘perthi/gwrychoedd’ yn cynnwys unrhyw berth hyd at uchafswm o 10 metr o led
  • mae ‘wal gerrig’ yn cyfeirio at wal gerrig draddodiadol ac mae'n cynnwys cloddiau pridd ag iddynt ddau wyneb o gerrig, megis ‘Wal Penclawdd’ neu ‘Berth Sir Benfro’
  • mae ‘clawdd cerrig’ yn cyfeirio at glawdd pridd lle mae un ochr wedi'i adeiladu o gerrig
  • mae ‘camfeydd cerrig’ wedi'u creu o slabiau mawr sydd ar gantilifrau ar ddwy ochr wal gerrig
  • bwlch a gaiff ei adeiladu'n fwriadol ar waelod wal sych yw ‘cwter ddefaid’, a bydd lintel gwenithfaen ar ei ben yn aml
  • strwythur yw ‘cwlfertau’ sy'n sianelu dŵr heibio rhwystr neu i ddyfrffordd danddaearol. Nid ydym yn cyfeirio at gwlfertau sydd wedi'u creu o blastig neu ddeunyddiau modern eraill

 Dylech wneud y canlynol:

  • cadw pob nodwedd tirwedd megis waliau cerrig, cloddiau, perthi/gwrychoedd, cloddiau cerrig a ffensys llechi. Ni chaniateir ichi eu symud na'u difrodi oni bai bod gennych gydsyniad cynllunio neu ddatblygu gan yr awdurdod perthnasol
  • cadw pob camfa gerrig, cwter ddefaid, cwlfert a nodweddion traddodiadol eraill
  • sicrhau nad oes sbwriel, peiriannau segur na chyfarpar segur ar y fferm. Lle y bo'n bosibl, dylai'r holl ddeunyddiau lapio bêls a phlastigion eraill gael eu hailgylchu drwy gludwr cymeradwy
  • cadw llain glustogi o 1m o ymyl y berth (neu'r ffens ar gyfer perthi sydd â ffens) heb ei haredig na’i gwrteithio ac sydd heb blaladdwyr na chwynladdwyr wedi’u gwasgaru arni (na'n llifo arni) Caiff y llain glustogi hon ei mesur o ymyl/bôn y clawdd â pherth neu waelod y ffens 

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • Difrodi unrhyw nodweddion ffiniol traddodiadol megis ffens rheiliau haearn, estyll pren, ffensys llechi, cloddiau, perthi neu waliau cerrig. Mae'n rhaid ichi felly wneud y canlynol: 

    o    eu harchwilio am ddirywiad yn rheolaidd 
    o    gwneud gwaith sylfaenol i dynnu prysgwydd a llystyfiant goresgynnol (gan gynnwys rhywogaethau estron) sydd wedi datblygu ers ichi ymuno â'r cynllun. 
    o    gwneud gwaith sylfaenol i atgyweirio erydiad sydd wedi digwydd ers ichi ymuno â'r cynllun. 
     

  • defnyddio pridd neu ddeunydd mân arall i lenwi bylchau yng nghanol wal sych rhwng wynebfeini
  • defnyddio lletemau (cerrig bach i sefydlogi cerrig mwy) ar wyneb wal
  • storio tail, silwair neu wastraff fferm arall ac unrhyw sylweddau peryglus neu nad ydynt yn beryglus ar nodweddion tirwedd neu archaeolegol.
  • trin (e.e. aredig, rotofetio, tyrchu â phigau neu ddisgio) unrhyw dir o fewn 1m i berth, wal gerrig neu glawdd pridd, ni waeth beth fo maint y cae. 

Atodiad 3: Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Darllenwch UA3 Meincnodi ym Mhennod 4 am esboniad llawn o’r Weithred hon. Mae’n cynnwys amcanion a manteision yr UA, a disgrifiad o’r weithred y bydd angen ichi ei chynnal, y dyddiad cau ar gyfer ei chwblhau a’r dystiolaeth y bydd gofyn ichi ei dangos i brofi’ch bod wedi cynnal yr UA. Er mwyn gallu ei meincnodi, bydd angen ichi ddewis o blith set o Ddangosyddion Perfformiad sy’n addas ar gyfer busnes eich fferm chi. 

Mae’r atodiad hwn yn rhestru’r Dangosyddion Perfformiad sydd ar gael os ydych yn defnyddio erfyn Cyswllt Ffermio FarmData+

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu ewch i Cyswllt Ffermio.llyw.cymru 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ôl sector a pherthnasedd

Tir âr

  • defnyddio pryfladdwyr £/ha
  • defnyddio chwynladdwyr £/ha
  • costau gwrtaith £/ha
  • defnyddio nitrogen kgN/ha
  • cynnyrch t/ha ydau a rêp had olew
  • cynnyrch t/ha tatws

Bîff

  • 7 cyfradd cyfnewid buchesi sugno
  • buchod / treisiedi-heffrod sugno sydd wedi cael llo yn y chwe wythnos cyntaf  %
  • bylchau rhwng lloi
  • oedran buwch sugno adeg geni ei llo cyntaf
  • enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) - pesgi bîff
  • enillion pwysau byw dyddioll (DLWG) - magu gwartheg stôr
  • enillion pwysau byw dyddiol llo (DLWG) ar 200 diwrnod
  • defnydd o ddwysfwyd kg/y pen - pesgi gwartheg bîff
  • oedran gwartheg adeg eu lladd
  • nifer y lloi a fagwyd fesul buwch
  • % marwolaethau buchod

Llaeth

  • cyfradd beichiogi fesul buwch %
  • bwlch rhwng lloi
  • % gwartheg sydd wedi cael llo yn ystod y chwe wythnos cyntaf
  • cyfradd stocio gwartheg godro fesul hectar
  • buwch - cyfanswm cost porthiant a brynwyd (ceiniog y litr)
  • defnydd dwysfwyd fesul buwch odro kg/l
  • cyfradd cyfnewid y fuches odro
  • treisiad/Heffer - oed yn cael llo cyntaf
  • cyfartaledd cynnwys protein llaeth  %
  • llaeth  a gynhyrchir litrau/buwch/blwyddyn

Garddwriaeth

  • cyfaint fesul metr2
  • gwerth gwerthiant fesul metr2
  • maint yr elw gros
  • defnydd dŵr (litrau)

Moch

  • cymhareb trosi porthiant ar gyfer pesgi (FCR)
  • enillion pwysau byw (DLWG) - diddyfnu hyd at besgi kg/diwrnod
  • oed diddyfnu perchyll (diwrnodau)
  • toreidiau fesul hwch y flwyddyn
  • cyfradd cyfnewid hychod %

Dofednod:

  • brwyliaid - cymhareb trosi porthiant (FCR)
  • dofednod dodwy - porthiant a fwyteir g/iâr/dydd
  • dofednod dodwy - costau meddyginiaethau milfeddygol ceiniog/iâr
  • brwyliaid - costau meddyginiaethau milfeddygol ceiniog/iâr
  • % marwolaethau cronnus dofednod %
  • % wyau ansawdd 1af
  • wyau fesul aderyn dan do

Defaid:

  • cyfradd stocio defaid / ha
  • colledion ŵyn - sganio i fagu (fel % o ŵyn wedi'u sganio)
  • % sganio mamogiaid
  • porthiant a brynwyd £/pen - mamogiaid magu
  • porthiant a brynwyd £/y pen - ŵyn stôr a brynwyd
  • defnyddio dwysfwyd ar gyfer ŵyn y pen
  • costau milfeddygol £/pen - mamogiaid bridio
  • magu ŵyn %
  • % marwolaethau - ŵyn o'u prynu i'w gwerthu
  • enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) - prynu i besgi
  • ennillion pwysau byw dyddiol oen (DLWG) - adeg geni hyd at werthu
  • cyfradd marwolaethau mamogiaid

Categorïau fferm gyfan:

Amgylcheddol

  • km o berthi/gwrychoedd dros 30 mlwydd oed
  • km o berthi/gwrychoedd o dan 30 mlwydd oed
  • % math o goetir ar y fferm
  • dadansoddiad pridd safonol
  • dadansoddiad deunydd organig a charbon
  • nifer mwydod/pryfed genwair mewn pridd glaswelltir
  • nifer mwydod/pryfed genwair mewn pridd cnydau
  • dadansoddiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS)
  • % o gynefin lled-naturiol ar y fferm
  • % o gnydau gorchudd

Trosolwg o'r fferm:

  • elw fesul hectar (cyn rhent a chostau cyllid)
  • elw fesul hectar (cyn rhent a benthyciadau) - math arall o fferm
  • elw fesul awr a weithiwyd
  • dadansoddiad cyfrannol o gyfrifon: % y trosiant a werir ar gostau amrywiol
  • llafur â thâl £/ha
  • llafur â thâl £/ha - math arall o fferm
  • ynni a pheiriannau £/ha
  • ynni a pheiriannau £/ha - math arall o fferm
  • trwsio / cynnal a chadw tir ac adeiladau £/ha
  • trwsio / cynnal a chadw tir ac adeiladau £/ha - math arall o fferm
  • dibrisiant peiriannau
  • dibrisiant peiriannau - math arall o fferm
  • dibrisiant adeiladau £/ha
  • dibrisiant adeiladau £/ha - math arall o fferm
  • costau amrywiol £/ha
  • costau amrywiol £/ha - math arall o fferm

Cnwd pori:

  • gwrtaith £/ha ar gyfer glaswellt ac indrawn
  • cost chwistrellu £/ha
  • elw gros llawn cnwd pori £/ha
  • defnydd o nitrogen artiffisial kgN/ha ar ar gnwd pori
  • cynnyrch glaswellt pori t/ha
  • cynnyrch indrawn t/ha
  • cylchdroadau pori y flwyddyn
  • hectarau dan wndwn llysieuol neu gnydau protein

Atodiad 4: datblygiad proffesiynol parhaus - dysgu sydd ar gael yn 2025

Gweler UA4: Datblygiad Proffesiynol Parhaus ym Mhennod 4 am esboniad o'r Weithred hon. Mae'n rhestru nodau a manteision y Weithred Gyffredinol (UA), ynghyd â disgrifio'r gweithgarwch y gofynnir ichi ei wneud, y terfyn amser ar gyfer ei gwblhau a’r dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno fel prawf bod yr UA wedi’i chynnal.

Ar gyfer busnesau fferm sy'n ymuno â'r Cynllun yn 2026, bydd unrhyw e-ddysgu a wneir fel rhan o gyrsiau dysgu Cyswllt Ffermio cyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o haf 2025 yn cyfrif fel dysgu tuag at Flwyddyn 2026 y Cynllun (ond dim ond ar gyfer y Flwyddyn Gynllun honno).

Mae'r atodiad hwn yn cynnwys y rhestr o fodiwlau e-ddysgu sydd ar gael. Mae 44 modiwl i ddewis ohonynt, sydd wedi'u grwpio gyda'i gilydd yn seiliedig ar y manteision y maen nhw'n eu darparu. Yn ogystal, gall pob modiwl helpu i roi nifer o fanteision eraill.

Mae pob modiwl wedi'i gynllunio i gymryd tua awr i'w gwblhau.   

Mae rhagor o wybodaeth am fodiwlau ar E-ddysgu Achrededig ar Cyswllt Ffermio 

Cyflwyniad i ffermio cynaliadwy 

  • Cyflwyniad i ffermio cynaliadwy
  • Trosolwg o wydnwch a chynhyrchu
  • Trosolwg o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maethynnau a gwastraff
  • Lleihau allyriadau a gwella atafaelu
  • Diogelu a gwella ecosystemau ffermydd
  • Budd i bobl, anifeiliaid a lleoedd 

Sut i ddod yn fwy gwydn a chynhyrchiol

  • Meincnodi a busnes
  • Lleihau mewnbynnau allanol i sicrhau cymaint o elw a phosibl ac er budd yr amgylchedd
  • Trosi i ffermio organig neu adfywiol
  • Arallgyfeirio ac ychwanegu gwerth
  • Cyd-fentrau, cynllunio ar gyfer olyniaeth a newydd-ddyfodiaid
  • Bioddiogelwch (da byw ac âr)
  • Dechrau a datblygu garddwriaeth 

Sut i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mewnbynnau, maethynnau a gwastraff

  • Cynllunio Rheoli Maethynnau
  • Cynyddu ffrwythlondeb y pridd (slyri / mwd, cylchdroi cnydau, gwrtaith gwyrdd)
  • Ymwrthedd i wrthfiotigau
  • Defnyddio anthelminticau yn gynaliadwy
  • Rheoli plâu yn integredig
  • Rheoli glaswelltir (gan gynnwys porfeydd aml-rywogaeth a phori cymysg)
  • Lleihau allyriadau amonia  

Sut i leihau allyriadau ar y fferm a dal a storio cymaint o garbon â phosib 

  • Effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid
  • Gwelliant genetig mewn da byw
  • Rheoli mawndiroedd
  • Rôl coed
  • Rheoli coetiroedd
  • Cylch rheoli gwrychoedd 

Sut i ddiogelu a gwella ecosystem y fferm

  • Lleihau’r risg o lygredd gwasgaredig
  • Defnyddio dŵr yn effeithlon (gan gynnwys cynaeafu a storio)
  • Iechyd pridd
  • Ffermio cymysg
  • Dulliau naturiol o reoli llifogydd
  • Manteision defnyddio bridiau prin a brodorol
  • Adnabod cynefinoedd
  • Creu cynefin lled-naturiol
  • Rheoli cynefinoedd 

Sut i fod o fudd i bobl, anifeiliaid a lleoedd

  • Lles anifeiliaid
  • Deall cyfrifoldebau perchnogion tir o ran mynediad cyhoeddus a chyfleoedd i ymgysylltu     
  • Gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol
  • Ffermio mewn tirweddau dynodedig
  • Ffermio mewn safleoedd gwarchodedig
  • Iechyd a diogelwch mewn amaethyddiaeth
  • Arwain a rheoli (gan gynnwys gwaith teg)
  • Iechyd meddwl mewn amaethyddiaeth 

Atodiad 5: Gweithred Gyffredinol 5: gofynion cynnal cynefinoedd

Gweler UA5: Cynnal cynefinoedd ym Mhennod 4 am ddisgrifiad o'r weithred hon. Mae'n rhestru nodau a manteision y Weithred Gyffredinol (UA), ynghyd â disgrifio’r gweithgarwch y gofynnir ichi ei wneud, y terfyn amser ar gyfer ei gwblhau a’r dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno fel prawf bod yr UA wedi’i chynnal.

Mae’r weithred hon yn berthnasol i chi os oes gennych unrhyw rai o’r cynefinoedd a restrir isod ar eich fferm.

Mae’r tudalennau canlynol yn cynnwys manylion technegol pob un o’r cynefinoedd. Dylech eu hystyried ar ben y gofynion cyffredinol ar gyfer cynefinoedd a restrir yn y Cod i Bawb.

Mae crynodeb am gyfraddau stocio wedi'i gynnwys ar ddiwedd yr atodiad hwn.

Bydd y dosbarthiadau cynefin bras canlynol yn cael eu defnyddio i ddiffinio cynefinoedd y cynllun:

  1. Morfeydd heli
  2. Twyni tywod arfordirol a thraethau graean:
    a)    Twyni tywod
    b)    Twyni tywod a thraethau graean
  3. Rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad
  4. Gwlyptir wedi’i amgáu a glaswelltir corsiog:
    a)    Gwlyptir wedi’i amgáu – cyforgorsydd iseldir, ffeniau a thir gwlyb / mignen 
    b)    Glaswelltir corsiog
  5. Glaswelltir sych lled-naturiol wedi’i amgáu
    a)    Ei reoli fel tir pori 
    b)    Ei reoli fel gweirglodd
  6. Cynefinoedd agored yr ucheldir
  7. Perllannau traddodiadol
  8. Rhedyn trwchus
  9. Prysgwydd
  10. Coetir pori
  11. Pyllau parhaol ar gyfer bywyd gwyllt
  12. Ardaloedd cynefin sydd newydd eu creu ar dir wedi’i wella:
    a)    Coridorau glan nant newydd
    b)    Mawn sydd newydd ei adfer
    c)    Glaswelltir heb fewnbynnau, o gynlluniau blaenorol
    d)    Unrhyw dir arall sydd wedi’i wella neu a oedd dan goed o'r blaen ac          sy’n cael ei reoli ar gyfer creu cynefin

Isod, disgrifir strwythur y dosbarthiadau cynefin a’u camau rheoli:

  • disgrifiad o’r cynefin, megis ble y mae a’r rhywogaethau brodorol a allai fod yn tyfu yno
  • nodau – y ‘weledigaeth’ tymor hir ar gyfer y cynefin, gan gynnwys canlyniadau tymor hwy y dymunir ac y dylid eu gweld o dan reolaeth sympathetig
  • gofynion rheoli y gofynnir ichi gytuno i’w gwneud neu i beidio â’u gwneud ar fath penodol o gynefin. Byddwn yn eich archwilio ar sail hyn
  • argymhellion rheoli i'ch tywys ar gyfer cyflawni’r nodau a’r canlyniadau gofynnol e.e. lefelau pori cynaliadwy safonol, y math o dda byw a phatrymau pori er budd y cynefin. Arferion gorau yw’r rhain, ac ni fyddwch yn cael eich archwilio ar sail yr argymhellion hyn
  • llacio posibl ar y gofynion - senarios tebygol y tu hwnt i’ch rheolaeth lle gellir llacio’r gofynion rheoli. Er enghraifft cyfnodau estynedig o dywydd eithafol, fel sychder neu dir wedi’i rewi

1. Morfeydd heli

Disgrifiad:

Mae’r llystyfiant sy’n tyfu ar forfa heli, rhwng y llanw isel ac uchel, yn gallu gwrthsefyll halen ac yn cynnwys planhigion arloesol y morfa heli megis corn carw'r môr a chordwellt, sy’n tyfu ar y ffin â’r môr/afon lanw ac yn cael eu boddi gan y môr bron bob dydd. Bydd canol y morfa heli yn gartref i wellt y morfa, gydag amrywiaeth hefyd o blanhigion sy’n gallu goddef halen megis seren y morfa, y troellig arfor a'r llyriad arfor. Dim ond pan fydd gorllanw y bydd y rhan hon o’r morfa o dan ddŵr. Ym mhen uchaf y morfa, gwelir planhigion fel y frwynen arfor a glas yr heli a hefyd planhigion nad ydyn nhw'n gallu goddef halen cystal ac sydd i'w gweld hefyd yn tyfu ar y tir fel peiswellt coch, maeswellt rhedegog a pheradyl yr hydref. Dim ond ambell waith y flwyddyn y bydd y rhannau uchaf hyn o’r morfa yn cael eu boddi gan y llanw. Mae morfeydd heli yn gynefin pwysig hefyd i adar, pysgod ac infertebratau, ac mae’n helpu i amddiffyn ardaloedd mewndirol rhag llifogydd ac erydiad.

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw eich helpu i gynnal amrywiaeth o fathau o blanhigion morfeydd heli a fydd yn adlewyrchu safle’r planhigion o fewn ystod y llanw. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad glaswellt bras / tal na thwmpathau o laswellt gyda haen drwchus o laswellt marw arnyn nhw yw’r prif lystyfiant. Bydd clystyrau o lystyfiant mwy na 15cm o daldra yn gorchuddio o leiaf 30% o’r morfa heli.

Gofynion

  • osgoi gorbori a thanbori
  • sicrhau bod llystyfiant byrrach rhwng 15cm a 5cm o daldra yn gorchuddio o leiaf 20% o ran ganol a phen ucha’r morfa
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â:

  • newid unrhyw gilfachau, cletir na phantiau nac ymyrryd â newidiadau naturiol a deinamig megis newidiadau oherwydd stormydd
  • torri brwyn rhwng 15 Mawrth a 15 Gorffennaf na thorri neu docio mwy na 30% o'r brwyn neu'r llystyfiant annymunol arall mewn unrhyw flwyddyn (gweler Tabl 5 Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod i Bawb).
  • plannu coed
  • gadael i’r ardal gael ei stablad / sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau a mannau bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir sydd wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r arwynebedd)
  • Adeiladu, heb gymeradwyaeth, draciau, ffyrdd, iardiau, wynebau caled neu unrhyw strwythurau newydd ar dir cynefin, ac eithrio pontydd syml i groesi cilfachau.

Argymhellion rheoli

  • cynnal y morfa heli drwy ei bori'n ysgafn, gan wartheg lle bo hynny’n bosibl, a gwahardd pori pan fydd angen i gyflawni’r nodau (uchod). Gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • yn rhan ganol ac ucha’r morfa, gallwch annog, creu neu gynnal y canlynol:
    • porfa amlrywogaeth gydag amrywiaeth o rywogaethau i flodeuo a hadu
    • amrywiaeth o strwythurau llystyfiant gan gynnwys clytweithiau mân neu ddarnau mwy o lystyfiant tal/byr 

Llacio posibl ar y gofynion:

  • gellid ystyried llacio'r gofyn ynghylch uchder y borfa os oes llawer o wyddau gwyllt yn pori'r morfa ac yn cadw'r glaswellt yn fyr iawn dros ardal eang
  • yn gyffredinol, ni ddylid pori'r morfa heli os yw wedi'i adael heb ei bori am dros 20-30 mlynedd
  • mae morfa heli heb ei bori yn dderbyniol os yw hynny'n rhan o gynllun rheoli cymeradwy gafodd ei lunio i sicrhau canlyniadau er budd yr amgylchedd
  • mae morfa heli heb ei bori yn dderbyniol lle nad yw'n ymarferol caniatáu da byw i fynd arno neu os yw'n beryglus i dda byw, er enghraifft lle nad yw'n bosib iddyn nhw fynd arno oherwydd cilfachau o’r môr

2. Twyni tywod arfordirol a thraethau graean

Disgrifiad

Mae twyni tywod yn dirffurfiau ac ecosystemau arfordirol naturiol sydd uwchlaw’r penllanw. Mae twyni tywod yn ymffurfio lle mae’r traeth yn ddigon mawr i'r tywod allu sychu rhwng dau lanw a lle mae gwyntoedd o'r môr yn ddigon cryf i chwythu’r tywod tuag at y tir. Mae twyni tywod yn systemau naturiol dynamig sy’n newid yn gyson yn sgil newidiadau yn y glaw, gwynt a thywod. Gan mai dim ond lle y ceir amodau amgylcheddol addas y gall twyni ffurfio, mae'r arwynebedd yng Nghymru yn fach. 

Mae cynefin graean ar arfordir llawn egni, yn foel a symudol ond ar arfordir sefydlog, mae’r graean yn cael sefydlogi, gan ganiatáu i blanhigion gydio dros flynyddoedd olynol. Dylid gadael llystyfiant graean heb ei newid fel y gall y swbstrad symud pan fydd amodau’n caniatáu.

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw eich helpu i gynnal ansawdd cynefinoedd graean a thwyni tywod. Mae pob system twyni tywod yn wahanol, ond dylai fod amrywiaeth o fathau o dwyni o’r draethlin ar ymyl y môr, lle ceir clytwaith o dwyni symudol, i dwyni lled-sefydlog gyda glaswellt y twyni’n tyfu arnynt a, lle bydd amodau’n caniatáu, llaciau twyni llaith (pantiau). Caiff twyni tywod eu rheoli’n bennaf drwy bori. Mae hynny'n cynnal porfa amrywiol ei huchder gydag amrywiaeth o blanhigion brodorol cyffredin, gan gynnwys blodau, lle gall anifeiliaid a ffyngau brodorol ffynnu. Bydd rhywogaethau amaethyddol megis rhygwellt yn absennol neu'n brin. Gall twyni tuag at gefn y system, ymhellach oddi wrth y draethlin, fynd yn fwy sefydlog a gall planhigion fel grug dyfu yno. Er mwyn sicrhau cynefin o ansawdd gwell, dylid anelu at gael o leiaf 10% o dir moel / tywod / cerrig mân ac ni ddylid gadael i goed neu brysgwydd ymledu.  

Gofynion 

  • cynnal porfa ag uchder amrywiol, gan gynnwys darnau o dyfiant byr (o dan 5cm) a thal (dros 15cm)
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â: 

  • pori stoc ar draeth graean
  • plannu unrhyw goed na llwyni newydd
  • gadael i’r ardal gael ei stablad / sathru (mae sathru wrth ymyl giatiau a mannau bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir sydd wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r arwynebedd)
  • torri neu docio brwyn neu rywogaethau llystyfiant annymunol eraill.
  • gadael i brysgwydd ymledu
  • rheoli neu geisio rheoli cwningod o fewn twyni tywod a thraethau graean
  • codi tywod neu unrhyw agregau eraill o dwyni tywod neu raean.
  • symud twyni (gan gynnwys ailbroffilio)
  • ailbroffilio strwythur y graean, gan gynnwys unrhyw gefnau
  • defnyddio neu ganiatáu cerbydau neu gychod at ddiben chwaraeon neu hamdden
  • creu amddiffynfeydd môr neu waith amddiffyn yr arfordir heb gymeradwyaeth yr awdurdod cymwys perthnasol

Argymhellion rheoli

a) Twyni tywod
  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • rheoli drwy bori gwartheg a merlod (yn ddelfrydol, dim ond yn y gaeaf y dylid defnyddio defaid) i gynnal porfa amrywiol ei huchder
  • mewn pantiau gwlyb (llaciau twyni), cynnal tyfiant bioamrywiol gyda llai na 70% o'r gorchudd yn laswellt
  • gellir torri â pheiriant pan nad yw pori’n opsiwn am resymau ymarferol, neu  i annog stoc i ddarn nad yw wedi’i bori o’r blaen. Dylid symud deunydd wedi’i dorri oddi ar y safle
  • lle mae llysiau’r gingroen yn gyffredin, gallai fod yn ddefnyddiol defnyddio defaid i bori'r tir i'w rhwystro rhag blodeuo ac ymledu, ond rhaid cadw golwg ar hyn
b) Twyni tywod a thraethau graean
  • caniatáu newidiadau arfordirol naturiol a dynamig, megis newidiadau oherwydd stormydd neu wynt
  • ystyried gwneud cynlluniau wrth gefn er mwyn i gerbydau allu mynd ar y graean os bydd argyfwng

Llacio posibl ar y gofynion:

Er mwyn caniatáu popeth sydd o dan y pennawd ‘peidiwch â’ am resymau iechyd a diogelwch a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

3. Rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad

Disgrifiad

Corlwyni fel grug yw prif nodwedd rhos llawr gwlad a dylent orchuddio mwy na 25% o’r tir. Yn gyffredinol, mae hyn yn ganlyniad i bori ysgafn ac, weithiau, llosgi rheoledig ar briddoedd gwael. Gall ymddangos ar ffurf rhos sych ar bridd mwynol (gyda grug a grug y mêl) neu ros gwlyb ar fawn bas (gyda grug croesddail a mwsogl Sphagnum). Mae rhos llawr gwlad yn gynefin i amrywiaeth o blanhigion, adar, ymlusgiaid ac infertebratau sydd wedi ymaddasu i’r priddoedd gwael, llystyfiant garw a strwythur amrywiol.

Fel arfer, mae rhosydd yr arfordir i’w cael o fewn 500m i’r môr ac, o ganlyniad i sgeintio o'r môr, mae rhywogaethau arfordirol megis seren y gwanwyn yn tyfu yng nghanol y grug.  Gall rhos yr arfordir ymdoddi'n laswelltir morol ar ben clogwyni ac mewn mannau eraill yn ddôl, cors, ffen, coetir brodorol neu’n ucheldir ac mae’r mannau ffiniol hyn yn werthfawr iawn i fywyd gwyllt.

Nod

Mae'r gofynion hyn wedi'u llunio i'ch helpu i gynnal amrywiaeth o ficro-gynefinoedd gan gynnwys darnau bach o dir moel, brigiadau creigiau, glaswellt, prysgwydd, rhedyn, pantiau ac ati. Dylid rheoli'r rhos i gynnal gorchudd o gorlwyni, amrywiol eu hoedran / uchder ar draws y dirwedd, Ni chaiff y deiliach a glaswellt marw ymffurfio'n ddarnau helaeth ac ni fyddan nhw'n fwy na 50% o'r gorchudd. Lle ceir Sphagnum (migwyn), bydd clytiau niferus yn gorchuddio o leiaf 5% o’r ddaear.

Gofynion

  • cymryd y da byw oddi ar y tir os aiff yn rhy wlyb, i osgoi ei stablad (sathru) a’i gywasgu
  • cynnal grug, grug y mêl, grug croesddail, neu eithin mân fel eu bod gyda’i gilydd fwy na 25% o’r gorchudd daear
  • sicrhau na fydd mwy na 10% o’r arwynebedd yn dir moel, a bod hwnnw wedi’i wasgaru o amgylch y safle
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â: 

  • phlannu coed
  • caniatáu i brysgwydd, mieri neu goed ymledu (gweler Tabl 5 Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod i Bawb)
  • gadael i’r tir gael ei stablad (sathru) (mae sathru wrth ymyl giatiau a mannau bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir sydd wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r arwynebedd)
  • llosgi ardaloedd o dir gwlyb, rhos yr arfordir neu ros gwlyb
  • pori rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth ar fawndir gwlyb:
    • lle mae mawndir gwlyb yn rhan o barsel mwy ac na ellir cadw stoc allan, dylid lleihau’r lefel stocio gyffredinol i sicrhau nad yw’r mawndir gwlyb yn cael ei orbori neu ei stablad (sathru)
    • os yw'r mawndir gwlyb wedi’i amgáu neu os yw'n ffurfio'r rhan fwyaf o’r parsel, dylai cadw stoc allan

Argymhellion rheoli

  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • dylai llai na 5% o'r tir fod o dan brysgwydd / coed (heb gynnwys coed yn tyfu ar greigiau neu frigiadau craig, sy’n anos eu rheoli)
  • pori i greu strwythur amrywiol o gorlwyni (grug, grug croesddail ac ati). Yn ddelfrydol, dylai’r corlwyni amrywio yn eu hoedran o rai ifanc i rai hen a rhai wedi gwywo
  • dylech bori gwartheg a merlod yn lle defaid neu gyda defaid i gynnal cydbwysedd y corlwyni a lleihau deiliach marw
  • mae'n dderbyniol torri llystyfiant i greu strimyn atal tân, i reoli gwaith llosgi ar ros sych ac i ddiogelu rhag tanau damweiniol neu droseddol. Gweler y Cod Llosgi Grug a Glaswellt
  • mae torri rhos sych, cyn belled ag y gwneir hynny fel rhan o gylchdro 10 mlynedd, yn ddull rheoli derbyniol. Gweler y Cod Llosgi Grug a Glaswellt
  • mae rholio, cleisio neu dorri rhedyn yn ddull rheoli derbyniol

Llacio posibl ar y gofynion

Er mwyn caniatáu popeth sydd o dan y pennawd ‘peidiwch â’ am resymau iechyd a diogelwch a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

4. Gwlyptir wedi’i amgáu (cors, ffen, llac / mignen) a glaswelltir corsiog

Disgrifiad

Mae corsydd, ffeniau a mignenni yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd gwlyptir, megis cyforgorsydd yr iseldir, gorgorsydd, gwelyau cyrs a gwernydd, dros fawn dwfn (mwy na 40cm fel arfer). Maen nhw’n cynnwys llaciau, sydd i'w cael hefyd ar fawn bas rhwng 5-40cm, neu bridd mwynol.

Mae amrywiaeth o rywogaethau planhigion corstir brodorol yn tyfu mewn glaswelltir corsiog. Brwyn a glaswellt y gweunydd (Molinia) yw’r prif rywogaethau yn aml, ynghyd ag amrywiaeth o hesg, blodau a glaswellt, sy’n gynefin i amrywiaeth o anifeiliaid brodorol. 

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal gwlyptir a glaswelltir corsiog amrywiol wedi'u hamgáu. Dylech reoli glaswelltir corsiog trwy ei bori er mwyn cynnal porfa amrywiol ei huchder sydd ag amrywiaeth o blanhigion corstir brodorol niferus sy’n cael blodeuo a hadu. Ni fydd brwyn a glaswellt y gweunydd yn gorddominyddu, a gall anifeiliaid brodorol (gan gynnwys infertebratau) ffynnu.

Dylech reoli corsydd, ffeniau a mignenni i gynnal amrywiaeth o ficro-gynefinoedd gan gynnwys clytiau bach o dir moel, brigiadau craig, glaswellt, prysgwydd, rhedyn, llaciau ac ati. Byddwch yn eu rheoli hefyd ar gyfer corlwyni, amrywiol eu hoed / uchder gyda chyfuniad o rug brodorol, hesg, brwyn, migwyn a llystyfiant cors yn tyfu mewn merddwr.

Dylech reoli glaswelltir heb ei wella wedi’i amgáu sydd yn yr un parsel â chors, ffen a mignen yn unol â’r cynefin y mae'n rhan ohono. Dylai'r cynefinoedd hyn gael eu rheoli fel na fydd deunydd/deiliach marw yn ffurfio clytiau helaeth sy’n fwy na 20% o gyfanswm yr arwynebedd.

Gofynion 

  • cymryd y da byw oddi ar y tir os aiff yn rhy wlyb, i osgoi ei stablad (sathru) a’i gywasgu
  • cynnal glaswelltir corsiog amrywiol ei uchder, gydag o leiaf 75% o’r glaswelltir (ac eithrio brwyn) rhwng 10cm a 50cmn yn yr haf (1 Mehefin i 30 Awst)
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â: 

  • phlannu unrhyw goed newydd ar wlypdir wedi’i amgáu
  • plannu unrhyw goed newydd ar laswelltir corsiog, heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw
  • gadael i’r cae gael ei stablad (sathru) (mae sathru wrth ymyl giatiau a mannau bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir sydd wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 10% o’r arwynebedd)
  • ar laswelltir corsiog, torri neu docio mwy na 30% o'r brwyn pabwyr neu rywogaethau annymunol mewn unrhyw flwyddyn (gweler Tabl 5 Rheoli Llystyfiant Annymunol ar ddiwedd yr atodiad hwn)
  • gadael i brysgwydd ymledu
  • pori gwlyptir wedi’i amgáu (cors, ffen, mign) rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth

Argymhellion rheoli

  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • cynnal strwythur llystyfiant amrywiol gyda chlytiau agored, lle nad yw rhywogaethau megis grug, hesg ac eithin mân yn uwch nag uchder pen-glin a lle mae corlwyni yn amrywio o rai ifanc i rai hen a rhai wedi gwywo
  • ni ddylai mwy na 75% o'r tir (ac eithrio clytiau bach tua 20 x 20m) fod o dan blanhigion tal (h.y. glaswellt, hesg a brwyn talach)
  • mewn cors, dylai'r dŵr fod yn agos at yr wyneb drwy gydol y flwyddyn fel bod mawn yn gallu parhau i gronni
  • ar fawn bas, dylai mwy na 10% o gyfanswm yr arwynebedd fod o dan figwyn (Sphagnum)
  • ni ddylai mwy na 5% o'r arwynebedd fod o dan rywogaethau brodorol goresgynnol (e.e. rhedyn)
  • ni ddylai fod yna unrhyw rywogaethau goresgynnol eraill (e.e., Rhododendron, jac y neidiwr a chlymog Japan).
a) Gwlyptir wedi’i amgáu – corsydd yr iseldir, ffeniau a llaciau/mignenni
  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • dylech bori'r cynefin â gwartheg, merlod neu ddefaid i:
    • atal prysgwydd rhag lledaenu
    • atal glaswellt talach (gan gynnwys Molinia), brwyn a hesg rhag gorddominyddu
    • cynnal neu wella cydbwysedd rhwng hesg llai a a blodau a mwsoglau gwlyptir
  • lle bydd mwy na 50% o dan laswellt y gweunydd (Molinia), dylech ei bori o 1 Ebrill – 31 Hydref ar ddwysedd rhwng 0.30 ac 0.20 uned da byw/hectar
  • dim ond pori ysgafn iawn fydd ei angen ar wlyptir sydd â gorchudd cymysg o haenau a rhywogaethau, a dim pori yn y gaeaf
  • anelu at strwythur llystyfiant amrywiol gyda llawer o glytiau agored heb fod yn uwch nag uchder pen-glin
b) Glaswelltir corsiog
  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • tociwch draean o arwynebedd glaswelltir corsiog mewn blwyddyn, er enghraifft, lle ceir gordyfiant. Ewch â'r torion o'r safle, lle na fydd gwneud hynny'n niweidio'r cynefin nac yn beryglus gwneud hynny e.e. ar dir serth neu wlyb
  • gallwch ddilyn y drefn rheoli gweirglodd yn lle'r drefn rheoli tir pori – dilynwch yr amseriadau torri a phori adladd o dan ‘Glaswelltir sych lled-naturiol wedi’i amgáu – gweirglodd’. Ewch â'r torion o’r glaswelltir

5. Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu (glaswelltir sur, niwtral, calchaidd, metelaidd)  

Disgrifiad

Mae’r categori hwn yn cynnwys glaswelltiroedd sur, niwtral, calchaidd neu fetelaidd (sy’n gysylltiedig â hen fwyngloddfeydd metel), y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi’u hamgáu a'u lled-wella neu heb eu gwella. Ceir yn y glaswelltiroedd hyn amrywiaeth o laswellt llai cynhyrchiol o safbwynt amaethyddol a chymunedau o flodau gwyllt, gan ddibynnu ar amodau'r pridd. Ceir y glaswelltiroedd hyn yn wynebu pob cyfeiriad ac ar dir amrywiol ei uchder, o'r ffridd i lawr i laswelltir yr arfordir. Lle'u ceir uwchlaw terfyn amgáu'r tir (yn y mynydd), bydd angen ichi eu rheoli o dan ddosbarth cynefin 6 – Cynefinoedd agored yr ucheldir.

a) Ei reoli fel tir pori

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal y glaswelltir trwy ei bori, er mwyn cael tyfiant amrywiol ei uchder lle bydd amrywiaeth o blanhigion brodorol (gan gynnwys blodau) yn gyffredin ac yn gallu blodeuo a hadu, a lle gall anifeiliaid (gan gynnwys infertebratau) a ffyngau glaswelltir brodorol ffynnu. Gan ddibynnu ar y math o laswelltir, bydd y borfa’n cynnwys o leiaf 3 blodyn dangosol, megis pysen-y-ceirw fach, y bengaled, teim, clust y llygoden, tresgl y moch a briwydd wen, yn ogystal â glaswellt, megis cynffonwellt y maes, rhonwellt y ci a pheiswellt y defaid. Dylai rhywogaethau amaethyddol megis rhygwellt a meillion gwyn fod yn absennol neu’n brin. Yn y tymor canolig i hir, nid glaswellt bras / tal fydd y prif lystyfiant, ac eithrio mewn clytiau na fyddant yn fwy na 5% o’r glaswelltir ac ni fydd deunydd marw yn ffurfio clytiau mawr ac ni fyddan nhw'n fwy na 10% o gyfanswm yr arwynebedd.

Gofynion: 

  • cymryd da byw oddi ar y safle os aiff amodau’n rhy wlyb, i osgoi stablad (sathru) a chywasgu mwy na 5% o’r tir
  • ei bori er mwyn cael tyfiant amrywiol ei uchder lle bydd o leiaf 75% o’r glaswelltir rhwng 5cm ac 20cm rhwng 15 Mai a 31 Awst
  • sicrhau bod 75% o’r glaswelltir â thyfiant o 2cm i 10cm rhwng 1 Medi a 31 Hydref
  • sicrhau na fydd mwy na 5% o arwynebedd y cae yn bridd moel a bod hwnnw wedi’i wasgaru o amgylch y cae
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â: 

  • gwasgaru unrhyw wrtaith anorganig neu organig megis slyri, slwtsh carthion, tail ieir neu flawd pysgod.
  • plannu unrhyw goed newydd heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw.
  • gadael i’r cae gael ei stablad (sathru) (mae sathru wrth ymyl giatiau a mannau bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir sydd wedi’i sathru na’r tir moel yn fwy na 5% o’r arwynebedd).
  • gwasgaru calch ar laswelltir sur, calchaidd neu fetelaidd.
  • mewn parsel, torri neu docio mwy na 30% o'r brwyn pabwyr neu rywogaethau annymunol eraill mewn unrhyw flwyddyn (gweler Tabl 5 Rheoli Llystyfiant Annymunol ar ddiwedd yr atodiad hwn)
  • gadael i brysgwydd ymledu

Argymhellion rheoli

  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • yn ddelfrydol, dylid rhoi gwartheg neu geffylau i bori glaswelltir niwtral yn hytrach na defaid
  • gallwch wasgaru calch os hoffech wneud hynny neu os oes angen i gynnal pH pridd rhwng 5.5 a 6.5 ar laswelltir niwtral

Llacio posibl ar y gofynion

Yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd eithafol, megis sychder, tir wedi’i rewi ac eira, efallai y byddwn yn llacio'r rheolau ynghylch uchder y borfa.

Efallai y bydd modd gwneud cais i newid y gofynion o ran uchder os byddwch yn dilyn trefn pori a gorffwys benodol. Gofynnir ichi gadw Dyddiadur Stocio i ategu’r drefn honno.

b) Ei reoli fel gweirglodd 

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal y glaswelltir drwy ei ladd, cywain y gwair a phori’r adladd. Y nod yw cynnal porfa amrywiol ei huchder lle mae amrywiaeth o rywogaethau brodorol (gan gynnwys blodau) yn gyffredin, a lle gall anifeiliaid a ffyngau glaswelltir brodorol ffynnu. Dylai’r borfa gynnwys o leiaf 3 blodyn dangosol sy’n nodweddiadol o’r math o laswelltir, a dylai rhywogaethau amaethyddol megis rhygwellt a meillion gwyn fod yn absennol neu’n brin. Ni fydd mwy na 5% o arwynebedd y tir yn bridd moel, a bydd hwnnw wedi’i wasgaru o amgylch y cae, ac ni fydd deunydd marw yn ffurfio clytiau mawr ac ni fyddan nhw'n fwy na 10% o’r arwynebedd.

Gofynion

  • os ydych chi’n pori yn y gwanwyn, o 1 Mawrth, dylid sicrhau bod 75% o’r glaswelltir yn uwch na 5cm
  • ewch â'r da byw oddi arno erbyn 15 Mai
  • lladd a chywain cnwd gwair unwaith y flwyddyn rhwng 7 Gorffennaf a 30 Medi (mae gwair neu wywair yn dderbyniol, ond nid silwair)
  • rhaid cywain y gwair o'r weirglodd, hyd yn oed os yw wedi'i ddifetha gan law
  • ar ôl ei ladd, bydd 75% o’r glaswelltir rhwng 2cm a 10cm tan 31 Hydref.
  • cymryd y da byw oddi ar y tir os aiff yn rhy wlyb, i osgoi ei stablad (sathru) a’i gywasgu
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â:

  • gwasgaru unrhyw wrtaith anorganig neu organig megis slyri, slwtsh carthion, tail ieir neu flawd pysgod, ac eithrio haen denau o dail buarth (dim mwy na 6t/hectar y flwyddyn neu 12t/ha bob yn ail flwyddyn).
  • plannu coed
  • achosi neu ganiatáu i Rywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) neu chwyn niweidiol ymledu
  • gadael i’r cae gael ei stablad (sathru) (mae sathru wrth ymyl giatiau a mannau bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir sydd wedi’i sathru na’r tir moel yn fwy na 5% o’r arwynebedd)
  • gwasgaru calch ar laswelltir sur, calchaidd neu fetelaidd
  • caniatáu i'r prysgwydd ledaenu (gweler Tabl 5 Rheoli llystyfiant annymunol ar ddiwedd yr atodiad hwn)
  • pori’r adladd tan o leiaf bedair wythnos ar ôl lladd y gwair

Argymhellion rheoli

  • troi gwair/gwywair o leiaf ddwywaith cyn ei gywain
  • gwasgaru calch os oes angen ac yn ddymunol i gynnal pH pridd rhwng 5.5 a 6.5 ar laswelltir niwtral
  • yn ddelfrydol, dylid rhoi gwartheg neu geffylau i bori glaswelltir niwtral yn hytrach na defaid

Llacio posibl ar y gofynion

Yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd eithafol, megis sychder, gallwn lacio'r rheolau ynghylch lladd gwair ac uchder y borfa. 

Efallai y bydd modd defnyddio’r cnwd i wneud silwair os caiff ei gynaeafu ym mis Medi ac os yw wedi hadu. 

Efallai y bydd modd gwneud cais i newid y gofynion o ran uchder os byddwch yn dilyn trefn pori a gorffwys benodol. Gofynnir ichi gadw Dyddiadur Stocio i ategu’r drefn honno.

6. Cynefinoedd agored yr ucheldir 

Disgrifiad

Gall ucheldir (tir uwchlaw'r terfyn amgáu uchaf) gynnwys cymysgedd o gynefinoedd gan gynnwys rhos, cors, glaswelltir, coetir, nentydd a llynnoedd. Mae'r math o gynefin yn dibynnu ar y tir gwaelodol, dŵr daear, draeniad, llethr, y cyfeiriad mae'n wynebu ac uchder. Dylai’r cynefin adlewyrchu’r ffactorau naturiol hyn, ac effeithiau lefelau pori isel i ganolig heb welliannau amaethyddol fel aredig, ail-hau neu wrtaith artiffisial.

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal clytwaith o gynefinoedd ar dir heb ei amgáu gyda strwythur llystyfiant amrywiol a chlytiau agored, gyda rhywogaethau megis grug, hesg ac eithin mân. Dylai corlwyni megis grug gynnwys amrywiaeth o blanhigion ifanc a hen a bydd 75% o'r glaswelltir gwlyb a sych o dan dyfiant amrywiol ei uchder rhwng 5 a 50cm yn ystod misoedd yr haf.

Ar gors, dylai lefelau dŵr fod yn agos at yr wyneb drwy gydol y flwyddyn fel bod mawn yn gallu parhau i gronni. Lle ceir migwyn (Sphagnum), dylech gynnal clytiau niferus sy'n gorchuddio o leiaf 5% o’r tir. 

Gofynion

  • cadw Dyddiadur Stocio i gofnodi symudiadau stoc ar y math hwn o gynefin a sicrhau bod y dyddiadur ar gael i’w archwilio os gofynnir amdano
  • rheoli'r cynefinoedd trwy bori priodol, gan osgoi tanbori neu orbori eang
  • pori rhwng 1 Ebrill – 30 Medi ar ddwysedd o ddim llai na 0.04 UDB/ha
  • pori rhwng 1 Hydref – 31 Mawrth ar ddwysedd o ddim mwy na 0.2 UDB/ha. Sylwer: ni fydd y ddwysedd uchaf yn addas i nifer o gynefinoedd a bydd yn arwain at orbori ar fawnog ac unrhyw gynefin â chorlwyni fel grug. Gweler Tabl 3 Canllawiau stocio ar gyfer cynefinoedd agored yr Ucheldir ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • sicrhau na fydd lefel y pori’n lleihau arwynebedd y corlwyni (grug, llus ac ati), os ydyn nhw'n bresennol
  • cymryd y da byw oddi ar y tir os aiff yn rhy wlyb, i osgoi ei stablad (sathru) a’i gywasgu. Mae stablad (sathru) wrth ymyl giatiau yn dderbyniol
  • cadw at y Cod i Bawb, gan gynnwys y Cod a’r Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt (2008)

Peidiwch â: 

  • phlannu unrhyw goed newydd heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw
  • Torri neu docio mwy na 30% o frwyn neu chwyn mewn unrhyw flwyddyn (gweler Tabl 5 Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod Cyffredinol)

Argymhellion Rheoli

  • pori gyda gwartheg a/neu ferlod yn lle defaid neu gyda defaid
  • pori cyn lleied â phosibl rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth. Gall pori lefel isel gan ferlod fod yn dderbyniol yn ystod y dyddiadau hyn
  • mae'n dderbyniol torri llystyfiant i greu strimyn atal tân, i reoli gwaith llosgi ar ros sych ac i ddiogelu rhag tanau damweiniol neu droseddol.
  • mae rholio, cleisio neu dorri rhedyn yn dderbyniol
  • tynnu conwydd a rhododendron sydd wedi hau eu hunain

7. Rhedyn trwchus

Disgrifiad

Nodwedd rhedyn trwchus yw absenoldeb llwyr unrhyw blanhigion eraill; ffurfir haen drwchus, dwfn o ddeunydd marw yn ystod yr hydref a'r gaeaf a lleiniau o dyfiant tal dyrys yn yr haf.

Prin yw gwerth amgylcheddol ac amaethyddol rhedyn trwchus. Mae ganddyn nhw effeithiau annymunol a niweidiol, gan gynnwys risg o danau gwyllt. Gall rhedyn gynnal poblogaethau o drogod parasitig yn ogystal â gwneud gwaith amaethyddol, megis crynhoi stoc, yn fwy anodd. 

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal y cynefin mewn cyflwr heb ei wella. At ddibenion y dosbarth cynefin hwn, dylai rhedyn trwchus gyfrif am 40% i 100% o’r tir lle maen nhw'n tyfu (ni ddylid cynnwys cynefinoedd cyfagos heb fawr ddim rhedyn neu ddim rhedyn yn y categori cynefin rhedyn trwchus). Bydd y rhedyn yn dal ac yn drwchus, ac yn cyfyngu stoc i lwybrau yn unig. Bydd deiliach marw wedi cronni'n ddwfn oddi tano a gallai fod yn amhosibl mynd trwy'r rhedyn.

Y nod hirdymor yw naill ai gwella ac adfer lleiniau o redyn trwchus yn fath arall o gynefin glaswelltir lled-naturiol mwy gwerthfawr (glaswelltir lled-naturiol wedi’i amgáu, glaswelltir heb ei wella heb ei amgáu neu glytwaith) gan ddefnyddio hierarchaeth o weithgareddau rheoli rhedyn (e.e. rholio, cleisio, torri neu ei bori gan wartheg a/neu ferlod). Neu, cyn belled â bod gennych blan creu coetir a rhaglen rheoli rhedyn, gallai’r tir fod yn addas ar gyfer plannu coed. 

Gofynion

  • cadw at y Cod i Bawb 

Peidiwch â:

  • gwasgaru unrhyw chwynladdwyr, pryfladdwyr neu blaladdwr arall (ac eithrio i sbot-drin/clwt-chwynnu rhywogaethau estron goresgynnol, chwyn niweidiol neu fel rhan o raglen rheoli rhedyn) (gweler Tabl 5 Rheoli Llystyfiant Annymunol ar ddiwedd yr atodiad)
  • rheoli rhedyn trwchus trwy losgi. Mae creu strimyn atal tân i leihau’r risg o danau gwyllt yn dderbyniol – gweler y canllawiau technegol yn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt (2008)
  • gwneud gwelliannau amaethyddol

Argymhellion Rheoli

  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn.
  • cynnwys da byw trwm (gwartheg, merlod) fel rhan o gyfundrefn bori
  • gall pori yn y gwanwyn cynnar (Mawrth i Fai) gan ddefnyddio da byw trwm (gwartheg neu ferlod) helpu i leihau goruchafiaeth rhedyn
  • cynnal rhaglen o weithgareddau rheoli rhedyn (e.e. rholio, cleisio, torri)
  • dilyn canllawiau er lles cynefin y Fritheg Berlog. Glöyn byw prin yw’r Fritheg Berlog, ac fe’i gwelir yn aml mewn ardaloedd o redyn agored
  • sefydlu strimynnau atal tân ar gyfer atal tanau gwyllt a lleihau’r risg ohonynt, yn enwedig ar safleoedd risg uchel a bregus sydd â hanes o dân, neu lle ceir cynllun rheoli llosgi

Llacio posibl ar y gofynion:

Er mwyn caniatáu popeth sydd o dan y pennawd ‘peidiwch â’ am resymau iechyd a diogelwch a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

8. Perllannau traddodiadol

Disgrifiad

Diffinnir perllannau traddodiadol fel grwpiau o goed ffrwythau a chnau a blannwyd ar wreiddgyff cryf ar ddwysedd isel mewn glaswelltir parhaol ac a reolir mewn ffordd llai dwys. Mae yna lawer o wahaniaethau rhanbarthol, gan gynnwys perllannau afalau, gellyg, ceirios, eirin, eirin du a chnau Ffrengig.

Mae perllannau traddodiadol yn debyg i goetir pori a thir parc, a ddiffinnir gan eu strwythur yn hytrach na’r math o lystyfiant.

Mae cynefin perllan draddodiadol o’r radd flaenaf yn cynnwys glaswelltir pori gyda choed ffrwythau amrywiol o ran eu hoed, gyda digonedd o bren marw a phwdr sy'n sefyll ac ar lawr.

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal y cynefin trwy sicrhau nad glaswellt bras / tal fydd y prif lystyfiant, ac eithrio mewn clytiau. Annog cynnal a/neu ddatblygu cynefin a thirwedd amrywiol sy’n cynnwys coed ffrwythau safonol, glaswelltir sy’n llawn rhywogaethau a ffiniau caeau traddodiadol.

Cynnal nodweddion arferol perllannau sy'n cael eu rheoli'n llai dwys megis pren marw a thyllau pydredd yn y coed.  Gall hyn gynnal mwsoglau, cennau a ffyngau yn ogystal ag infertebratau, adar a mamaliaid.

Cynnal y glaswelltir i gadw neu annog rhywogaethau sy’n nodweddiadol o laswelltir niwtral.

Diogelu mathau traddodiadol o goed ffrwythau, yn enwedig y rhai sy’n lleol i’r ardal.

Gofynion

  • rheoli’r glaswelltir trwy:
    • pori dwysedd isel fel nad yw da byw yn tynnu rhisgl coed aeddfed a bod y borfa 90% o’r arwynebedd yn fwy na 5cm, neu
    • ei dorri a chodi’r torion 2 i 4 gwaith y flwyddyn
  • cadw’r holl goed ffrwythau presennol, oni bai eu bod wedi’u heintio neu'n gallu achosi niwed.
  • atal difrod i goed gan dda byw neu beiriannau.
  • cadw’r holl bren marw yn y berllan (oni bai ei fod wedi'i heintio).
  • cadw at y Cod i Bawb.

 Peidiwch â:

  • thocio uchelwydd (mae cynaeafu cynaliadwy yn dderbyniol)
  • defnyddio unrhyw wrteithiau anorganig. Os ydych yn lladd gwair, gellir defnyddio tail buarth wedi pydru’n dda (wedi’i storio am o leiaf ddeuddeg mis) ar gyfradd o ddim mwy na 6 t/ha y flwyddyn neu 12 t/ha bob yn ail flwyddyn. Nid oes unrhyw wrtaith organig arall, gan gynnwys slyri, slwtsh carthion, tail ieir a blawd pysgod, yn dderbyniol
  • defnyddio golch olew tar gan ei fod yn lleihau gwerth bywyd gwyllt y berllan

 Argymhellion rheoli

  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • pori ar lefelau na fydd yn creu tir moel o amgylch bonion y coed.
  • rheoli'r coed gan ddefnyddio cyn lleied â phosibl o fewnbynnau cemegol.
  • os ydych chi’n cynnal y glaswelltir drwy ei dorri, peidiwch â'i dorri mor aml fel na fydd planhigion yn y borfa'n cael blodeuo ond nid mor anaml fel bod twmpathau glaswellt bras neu fieri yn lledaenu. Rhaid mynd â thorion o’r safle
  • gwasgaru calch os oes angen i gynnal pH pridd rhwng 5.5 a 6.5.
  • tocio’r coed ffrwythau bob tymor lle bo angen i gynnal lefel resymol o iechyd a chynhyrchiant ac i ddiogelu coed rhag cael eu difrodi gan y gwynt
  • pentyrru unrhyw bren marw neu bren wedi’i docio mewn lle lled-gysgodol o fewn y berllan.  Dim ond pren heintiedig y dylech ei symud neu ei losgi

Llacio posibl ar y gofynion

Er mwyn caniatáu popeth sydd o dan y pennawd ‘peidiwch â’ am resymau iechyd a diogelwch a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

9. Prysgwydd (gan gynnwys rhedyn gwasgaredig a llai trwchus)

Disgrifiad:

Llwyni yn bennaf yw prysgwydd a gall fod yn gynefin sy’n datblygu neu’n gynefin ar ei anterth. Mae’r llwyni'n amrywio, ond mae’r rhywogaethau mwyaf cyffredin yn debygol o gynnwys drain duon, drain gwynion, eithin, criafol, ysgaw, bedw, mieri a helyg.

Gall coridor ar lan nant, a gafodd ei greu o dan gynllun blaenorol, ddatblygu’n brysgwydd a syrthio i’r categori hwn.

Mae da byw yn gallu mynd i ganol rhedyn gwasgaredig a llai trwchus (heb gael eu cyfyngu i lwybrau yn unig) ac ni fydd fawr o redyn marw os o gwbl a bydd glaswellt a llystyfiant arall yn tyfu drwyddo.

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal prysgwydd a'i reoli'n dda, i gynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt a darparu neithdar, hadau, ffrwythau, cysgod a safleoedd nythu ar gyfer infertebratau, adar a mamaliaid, yn ogystal â chysgod a lloches i dda byw. Mae hefyd yn cynnig cynefin addas ar gyfer llawer o blanhigion blodeuol. Prysgwydd amrywiol o ran oed, rhywogaeth a strwythur sy'n cynnal yr amrywiaeth ehangaf o fywyd gwyllt. 

Mae rhedyn gwasgaredig a llai trwchus gyda haen ddaear o blanhigion yn gynefin gwerthfawr ar gyfer nifer o rywogaethau britheg, yn gynefin da ar gyfer adar sy’n nythu ac yn gysgod ar gyfer symudiadau adar eraill, mamaliaid, amffibiaid ac ymlusgiaid. Nod unrhyw waith rheoli yw cynnal yr haen ddaear ac atal y canopi rhedyn rhag cau. Dylai’r haen ddaear gynnwys planhigion blodeuol sy’n darparu neithdar a phaill yn y gwanwyn. Dros amser, cynhelir y rhedyn gwasgaredig a llai trwchus fel eu bod yn cadw eu natur agored gydag isdyfiant o blanhigion. Dylech rwystro rhedyn rhag tyfu'n dal, trwchus sy'n cyfyngu stoc i lwybrau yn unig. Ni fydd trwch o ddeiliach rhedyn marw, na all rhywogaethau eraill o lystyfiant dreiddio a thyfu drwyddo, yn cael cronni, neu bydd yn lleihau.

Gofynion

  • cadw pob llain o brysgwydd brodorol ar lethrau arfordirol, glannau afonydd, twyni tywod, clogwyni calchfaen, gwaelodion cymoedd ac yn yr ucheldir. Mae'n dderbyniol torri prysgwydd i'w rwystro rhag lledaenu
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â:

  • gwasgaru unrhyw chwynladdwyr, pryfladdwyr neu blaladdwr arall (ac eithrio i sbot-drin/clwt-chwynnu rhywogaethau estron goresgynnol, chwyn niweidiol neu fel rhan o raglen rheoli rhedyn) (gweler Tabl 5 Rheoli Llystyfiant Annymunol ar ddiwedd yr atodiad)
  • rheoli prysgwydd trwy losgi. Mae creu strimyn atal tân i leihau’r risg o danau gwyllt yn dderbyniol – gweler y canllawiau technegol yn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt (2008)

Argymhellion rheoli

  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • os caiff ardaloedd prysgwydd eu pori, dylid pori ar gyfradd nad yw’n fwy na’r hyn a bennir ar gyfer y glaswelltir oddi tano
  • os nad yw’r prysgwydd yn cael ei bori ar hyn o bryd, cadwch at y drefn honno
  • cynnal a chadw’r holl goed safonol sydd wedi’u gwasgaru ymhlith y prysgwydd
  • os oes bylchau o fewn y prysgwydd, gadewch i goed / prysgwydd aildyfu’n naturiol
  • os ydych yn pori tir â rhedyn arno, defnyddiwch wartheg a/neu geffylau yn unig, neu drefn stocio gymysg (yn enwedig rhwng mis Mawrth a mis Mai) er mwyn iddyn nhw all malu a chleisio'r rhedyn i gadw ei natur agored
  • dilyn canllawiau er lles cynefin y Fritheg Berlog. Glöyn byw prin yw’r Fritheg Berlog, ac fe’i gwelir yn aml mewn ardaloedd o redyn

Llacio posibl ar y gofynion

Tynnu prysgwydd yn barhaol er budd nodweddion hanesyddol neu archeolegol. 

Cael gwared ar brysgwydd lle mae'n lledaenu i gynefin o werth cadwraethol uwch, megis glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu neu rostir llawr gwlad a'r arfordir. 

10. Coetir pori

Disgrifiad

Fel arfer, mae coetir pori yn gynnyrch systemau rheoli tir hanesyddol ac yn ffurfio strwythur llystyfiant, yn hytrach na bod yn gymuned benodol o blanhigion.  Mae’r strwythur hwn fel arfer yn cynnwys coed mawr, amrywiol eu dwysedd, sydd wedi tyfu heb gystadleuaeth coed eraill, yn gymysgedd amrywiol o dir pori, rhos a/neu goetir. Fel arfer, diffinnir coetir pori fel llain o dir â llai na 30% ohono o dan orchudd o goed, a'r rheini'n goed unigol gwasgaredig. Bydd rhai o'r coed yn tyfu'n glystyrau i greu mwy na 30% o orchudd mewn ambell fan. Dylai fod o leiaf 6 choeden yr hectar ar wasgar ar draws y safle. Bydd llawer o’r coed wedi tyfu heb gystadleuaeth coed eraill, gyda chorun llydan a dwfn a boncyffion byr.

Hefyd mae'r dosbarth cynefin hwn yn cynnwys ffridd (y Canolbarth a’r Gogledd) neu goedcae (y De) sy’n digwydd ble mae'r iseldir a'r ucheldir yn cwrdd. 

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal coetir pori llwyddiannus trwy gynnal nifer y coed a chynnal neu wella cyflwr y llystyfiant ar y ddaear. Bydd y nodau ar gyfer yr haen ddaear yn dibynnu ar y llystyfiant sy’n bresennol gan y gallai fod yn laswelltir, rhos, mawnog, prysg, coetir neu redyn. Mae’r cynefin hwn yn arbennig o bwysig ar gyfer infertebratau sy’n byw mewn pren marw, cennau a sawl rhywogaeth o adar, a dylid rheoli’r cynefin fel ei fod yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen i gynnal y rhywogaethau hyn. 

Gofynion

  • cadw coed a phrysgwydd gwasgaredig presennol
  • cadw'r holl bren marw boed yn sefyll neu ar lawr, oni bai ei fod yn beryglus
  • sicrhau nad yw da byw yn tynnu rhisgl coed aeddfed ac nad oes llawer o dir moel o amgylch bôn y coed (mae gan lai na 10% o goed dir moel o amgylch y bôn)
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â:

  • gadael i’r cae gael ei stablad (sathru) (mae sathru wrth ymyl giatiau a mannau bwydo a dyfrhau yn dderbyniol cyn belled nad yw’r tir sydd wedi’i sathru a’r tir moel yn fwy na 5% o’r arwynebedd)
  • plannu unrhyw goed newydd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw
  • plannu coed sy’n creu coetir trwchus o dros 30% o orchudd coed

 Argymhellion rheoli

  • gweler y lefelau stocio a argymhellir yn Nhabl 2 ar ddiwedd yr atodiad hwn
  • defnyddiwch wartheg neu ferlod i bori safleoedd sydd â chyfran uchel ohono'n rhos a / neu'n rhedyn
  • os yw llystyfiant y ddaear yn cynnwys rhedyn trwchus, gall defnyddio da byw trwm (gwartheg neu ferlod) i'w pori yn gynnar yn y gwanwyn (mis Mawrth i fis Mai) helpu i leihau goruchafiaeth y rhedyn
  • mae cyfran o brysgwydd yn fuddiol i ddarparu blodau a ffrwythau, felly dylech gadw’r prysgwydd oni bai ei fod yn lledaenu i orchuddio mwy nag 20% o arwynebedd y safle
  • ar safleoedd lle mai rhedyn trwchus yw’r prif lystyfiant (lle nad oes fflora daear), derbynnir efallai na fydd pori yn bosibl
  • ystyried caniatáu i’r safle droi’n goetir yn naturiol os oes coed yn lledaenu mewn safle lle mai rhedyn yw’r prif lystyfiant a’i fod yn anodd iawn / amhosibl ei bori
  • mae torri neu docio yn dderbyniol, lle mae rhedyn, brwyn pabwyr neu lystyfiant annymunol arall yn lledaenu’n arbennig o helaeth (gweler Tabl 5 Rheoli Llystyfiant Annymunol yn y Cod i Bawb)
  • mae llyfnu ag oged gadwyn i chwalu clytiau trwchus o redyn marw yn dderbyniol
  • mae plannu coed cyn belled nad eir dros y terfyn gorchudd coed o 30% yn dderbyniol

Llacio posibl ar y gofynion

Er mwyn caniatáu popeth sydd o dan y pennawd ‘peidiwch â’ am resymau iechyd a diogelwch a rhesymau lles pobl ac anifeiliaid.

11. Pyllau parhaol ar gyfer bywyd gwyllt 

Disgrifiad

Diffinnir pyllau bywyd gwyllt fel nodweddion dŵr agored hyd at un hectar o faint, a'u prif swyddogaeth yw bod o fudd i natur. Os oes gan bwll presennol lain glustogi wedi’i ffensio, bydd yr holl ardal sydd wedi’i hamgáu (gan gynnwys y llain glustogi a’r dŵr agored) yn cael ei chynnwys yn y weithred.

Nid yw hyn yn cynnwys cyrsiau dŵr (dŵr sy'n symud) e.e. ffosydd, nentydd ac afonydd sy'n llifo; neu nodweddion os eu prif swyddogaeth yw storio dŵr at ddiben ffermio e.e. pyllau dyfrhau, cronfeydd dŵr, tanciau dŵr, unig ffynhonnell ddŵr ar gyfer da byw. 

Efallai y bydd rhywogaethau gwarchodedig fel dyfrgwn, llygod y dŵr a madfallod dŵr cribog i’w cael mewn pyllau. Chi sy’n gyfrifol am nodi presenoldeb rhywogaethau o’r fath (rhoddir canllaw i chi) a sicrhau na fydd y gwaith yn effeithio’n niweidiol ar unrhyw rywogaethau gwarchodedig. 

Nod

Bwriad y gofynion hyn yw'ch helpu i gynnal pyllau er mwyn iddynt allu cynnal amrywiaeth o rywogaethau dŵr croyw (planhigion ac anifeiliaid) a bod yn ‘gerrig camu’ pwysig rhwng cynefinoedd dŵr croyw.  Y nod yw rhoi stop ar golli’r nodweddion pwysig hyn yn nhirwedd Cymru. Dylid rheoli pyllau sy’n bodoli eisoes, ynghyd â’u lleiniau clustogi, mewn modd a fydd yn cynyddu eu gwerth i fioamrywiaeth. Yn achos pyllau sy’n llawn silt, heb ddim dŵr agored o gwbl, a / neu byllau sy’n cynnwys llawer iawn o lystyfiant neu a gysgodir gan lwyni, efallai y byddant yn addas i’w hadfer fel rhan o Weithred Opsiynol. 

Gofynion: 

  • cynnal cyfran o’r pwll fel dŵr agored*, h.y. atal silt rhag cronni ynddo neu ei atal rhag sychu yn sgil gormod o lystyfiant. Rhaid gwneud unrhyw waith dadsiltio a chlirio coed / prysgwydd rhwng 15 Hydref a 15 Ionawr rhag niweidio adar, amffibiaid ac infertebratau sy’n bridio
  • wrth dynnu silt neu lystyfiant i gynnal dŵr agored, peidiwch â chlirio mwy na thraean o arwynebedd y pwll mewn blwyddyn. Hynny er mwyn i'r infertebratau a'r amffibiaid sy'n byw yn y silt allu goroesi
  • pan fydd trwch o gysgod dros bwll, dylech fondocio cyfran o’r coed ifanc a / neu’r prysgwydd sy'n tyfu ar ochr ddeheuol y pwll er mwyn i olau allu cyrraedd wyneb y dŵr. Os ydych yn bondocio coed / prysgwydd, gofalwch eich bod yn eu torri o leiaf 15cm uwchlaw lefel y ddaear.
  • codi ffens o gwmpasn y llain glustogi i gadw stoc allan
  • sicrhau nad yw da byw yn cael niweidio pyllau a’u glannau trwy stablad a sathru. Mae'n dderbyniol parhau i ddefnyddio cilfachau yfed sy’n bodoli eisoes
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â:

  • phlannu unrhyw goed newydd heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw
  • gwasgaru mewnbynnau o unrhyw fath o fewn 10m i lan y pwll
  • caniatáu mynediad direolaeth i dda byw, all arwain at stablad/sathru glannau’r pwll. Gall cilfachau yfed fod yn dderbyniol (gweler uchod).
  • rhyddhau pysgod neu anifeiliaid eraill i’r pwll
  • gollwng unrhyw blanhigion addurnol neu ddyfrol i’r pwll, gan fod nifer ohonyn nhw'n oresgynnol
  • defnyddio peiriannau o fewn 5m i ymyl y dŵr. Hefyd, peidiwch â niweidio llystyfiant y glannau neu'r dorlan os oes llygod y dŵr yn bresennol*
  • cael gwared ar brysgwydd neu garthu gwaelod y pwll os ceir tystiolaeth bod dyfrgwn neu wâl dyfrgwn yn y pwll neu ar ei lan*
  • dyfnhau gormod ar y pwll neu greu glannau serth. Nid oes yn rhaid i byllau bywyd gwyllt fod yn ddyfnach nag 1m a dylent gael glannau â llethr raddol
  • hau unrhyw hadau o fewn llain glustogi’r pwll. Dim ond trwy aildyfiant naturiol y dylech ganiatáu i lystyfiant dyfu mewn unrhyw ardal o’r fath

Argymhellion Rheoli

  • pan fydd ffens atal stoc yn rhan o bwll, efallai y bydd angen cynnal neu drwsio'r ffens honno rhag i dda byw fynd at lannau’r pwll heb reolaeth.
  • wrth gynnal a chadw ffens, dylid ystyried defnyddio trefniant ffensio pedwar tymor
  • gellir defnyddio clifachau yfed os bu'n arfer eu defnyddio yn y gorffennol a bod eu hangen o hyd
  • mae rhai pyllau yn sychu'n naturiol yn ystod misoedd yr haf; nid oes angen eu gor-ddyfnhau

Llacio posibl ar y gofynion

*Os ceir tystiolaeth bod twll llygod y dŵr neu wâl dyfrgwn yn y pwll, gallwn lacio'r gofyn i gynnal cyfran o’r pwll ar ffurf dŵr agored rhag i beiriannau trwm darfu ar yr anifeiliaid. 

12. Ardaloedd o gynefin sydd newydd eu creu ar dir wedi’i wella

Disgrifiad

Mae'n bosib na fydd y cynefin rydych wedi bod yn gweithio arno i’w sefydlu a’i reoli fel cynefin ar dir sydd wedi’i wella’n amaethyddol neu ar dir a oedd o dan goed yn y gorffennol yn cyfateb i'r disgrifiadau o gynefin a restrir uchod h.y. nid yw'n amlwg yn gynefin. Gan ein bod am gydnabod y gwaith cadarnhaol y byddwch wedi’i wneud, o dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn derbyn bod y tir sy'n cael ei reoli fel cynefin yn gymwys i gael y taliad perthnasol, a’i fod yn cyfrannu at Ofyn y Cynllun bod o leiaf 10% o bob fferm yn gynefin. Bydd hyn yn newid dros amser oherwydd y camau a gymerwch; felly, wrth i’r cynefin ddatblygu, bydd ei ddosbarth fel ‘cynefin sydd newydd ei greu’ yn newid a bydd yn cael ei gategoreiddio fel y cynefin mwyaf priodol. 

Rhennir y cyngor hwn yn ofynion gwahanol, gan ddibynnu ar fwriad y gwaith rheoli.

a) Coridorau glan nant newydd

Gall hyn gynnwys unrhyw goridor sydd wedi'i ffensio ar lan nant ac a gafodd ei greu o dan gynllun blaenorol, neu os yw’r rhan fwyaf o'r coridor yn laswelltir wedi’i wella ac nad yw wedi troi'n ôl i fod yn gynefin lled-naturiol eto.

Nod

Gadael i gynefin amrywiol ddatblygu ac i lwyni a choed brodorol dyfu ar hyd lan nant.  Bydd hyn yn cynnig cysgod/lloches i rywogaethau anifeiliaid sy’n defnyddio’r cwrs dŵr ac yn gwella ansawdd y dŵr trwy ddal gwaddodion a mewnbynnau sy’n dod o dir fferm cyfagos.

Gofynion

  • asesu’r ardal bob blwyddyn a newid dosbarth y cynefin ar eich SAF ar ôl iddo fodloni meini prawf y cynefin dan sylw e.e. prysgwydd
  • cynnal a chadw ffensys atal stoc
  • gadael i brosesau afon dynamig naturiol ddigwydd, megis erydu a dyddodi
  • cadw at y Cod i Bawb

Peidiwch â:

  • phori’r ardal.
  • torri na thocio llystyfiant ac eithrio i reoli chwyn niweidiol
  • symud pren sydd wedi syrthio yn neu wrth ymyl y sianel (oni bai y gellir cyfiawnhau gwneud hynny am fod risg y gall gau’r sianel)
  • gosod mesurau diogelu glannau oni bai bod eu hangen i amddiffyn seilwaith hanfodol e.e. peipiau, pontydd, ffyrdd
  • defnyddio’r ardal ar gyfer gweithgareddau gyda cherbydau, neu fel trac. Mae’n dderbyniol defnyddio mannau croesi presennol i weithio ar gaeau

Llacio posibl ar y gofynion

  • mewn ardaloedd sy’n dueddol i ddioddef llifogydd, argymhellir y gallai ffensys trydan lled-barhaol fod yn fwy addas na ffensys post a gwifren parhaol
  • gellir caniatáu mynediad achlysurol neu dymhorol i dda byw at yr afon os ceir sefyllfa lle gallai pori ysgafn fod yn fuddiol e.e. er mwyn rheoli Jac y Neidiwr. Byddai’n rhaid cytuno ymlaen llaw ar amser a maint y mynediad hwnnw
  • mewn ardaloedd sy’n cynnal llygod y dŵr, nid yw'n ddymunol cael llawer o goed ar lan yr afon. Efallai y bydd angen gwneud gwaith rheoli i atal prysgwydd a choed rhag datblygu’n eang, yn amodol ar gyngor ecolegydd
b) Mawn sydd newydd ei adfer

Gall hyn gynnwys safleoedd adfer mawn ar dir wedi’i wella a gefnogir gan fentrau fel y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a weinyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nod

Darparu cymorth a rheolaeth briodol ar gyfer ardaloedd lle mae’r mawn wedi’i adfer ar fawnog a gafodd ei throi'n dir wedi’i wella’n amaethyddol, neu dir a oedd dan goed o'r blaen. Bydd hyn yn gwarchod ecosystem y fawnog a’r fioamrywiaeth sy’n datblygu, yn ogystal â helpu i ddal dŵr a lleihau allyriadau carbon.

Gofynion

  • asesu’r ardal bob blwyddyn a newid dosbarth y cynefin ar ôl iddo fodloni meini prawf y cynefin dan sylw
  • rheoli tir mewn cynefin sydd newydd ei greu yn unol â’r cyngor penodol a roddir gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, neu ddosbarth y cynefin a ddisgwylir yn y pen draw, er enghraifft cynefinoedd agored yr ucheldir neu wlyptir wedi’i amgáu

Llacio posibl ar y gofynion

  • os yw’r tir mor ddwrlawn fel nad oes modd pori’r safle’n ddiogel, ni fydd y canlyniadau mesuradwy yn berthnasol. Byddai’r cyfyngiadau’n parhau i fod yn berthnasol i bob gwlyptir wedi’i amgáu, p’un a yw’n cael ei bori ai peidio
  • os bydd y gwaith adfer wedi creu darnau mawr o dir moel, ni fyddai'r cyfyngiadau ar dir moel yn berthnasol
c) Glaswelltir heb fewnbynnau o gynlluniau blaenorol 

Gall hyn gynnwys ‘tir sy'n cael ei reoli fel cynefin’ ar laswelltir wedi’i wella (wedi'i gategoreiddio o dan Opsiwn 15 Glastir). 

Nod

Bydd y gwaith rheoli hwn yn helpu i gadw'r glaswelltir wrth iddo ddatblygu’n gynefin sy'n fwy cyfoethog ei rywogaethau. 

Gofynion

  • asesu’r ardal bob blwyddyn a newid dosbarth y cynefin ar eich SAF ar ôl iddo fodloni meini prawf y cynefin dan sylw
  • rheoli tir mewn cynefin sydd newydd ei greu yn unol â dosbarth y cynefin a ddisgwylir yn y pen draw, gyda’r gofyn ychwanegol na ddylid rhoi unrhyw fewnbynnau arno, er enghraifft glaswelltir sych lled-naturiol wedi’i amgáu (opsiynau rheoli tir pori a gweirglodd)
  • cadw at y Cod i Bawb
d) Unrhyw dir arall sydd wedi’i wella neu a oedd dan goed o'r blaen ac sy'n cael ei reoli i greu cynefin

Nod

Bydd y gwaith rheoli hwn yn helpu i barhau i ddatblygu cynefinoedd lled-naturiol.

Gofynion

  • asesu’r ardal bob blwyddyn a newid dosbarth y cynefin ar eich SAF ar ôl iddo fodloni meini prawf y cynefin dan sylw
  • rheoli tir mewn cynefin sydd newydd ei greu yn unol â dosbarth y cynefin a ddisgwylir yn y pen draw, gyda’r gofyn ychwanegol na ddylid rhoi unrhyw fewnbynnau
  • cadw at y Cod i Bawb
Llacio posibl ar y gofynion

Mae’n bosibl y bydd angen llacio'r rheolau yn y fan hon, gan ddibynnu ar y cynefin targed a’r gorchudd tir gwreiddiol. Er enghraifft, ni fyddai’r cyfyngiadau ar dir moel yn briodol ar gyfer tir a oedd dan goed o'r blaen.

Tabl 2: Dyma’r lefelau stocio sy’n cael eu hargymell:  

Dyma grynodeb o'r lefelau stocio a argymhellir ar gyfer pob categori cynefin. Canllaw yn unig yw'r ffigurau hyn a dylech eu darllen ar y cyd â'r nodau, gofynion a'r canlyniadau rheoli uchod. Gweler Tabl 3 isod am gategori cynefin 6 Cynefinoedd agored yr ucheldir.

Dosbarth y CynefinCynefinoedd penodol a all fod neu a fydd yn bresennol o fewn dosbarth y cynefinY lefel stocio uchaf a argymhellir
  1. Morfeydd heli
Morfeydd heli

0.4 UDB/ha rhwng 1 Mawrth a 15 Gorffennaf

 

Hyd at 1.0 UDB/ha am weddill y flwyddyn

  1. Twyni tywod arfordirol a thraethau graean
2a) Twyni tywod 0.1 - 0.3 UDB/ha/bl
2b) Traeth graeanDim pori
  1. Rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad
Rhos yr arfordir a rhos llawr gwlad

0.2 - 0.5 UDB/ha 1 Ebrill - 30 Mehefin

 

0.1 - 0.25 UDB/ha 1 Gorffennaf - 31 Hydref

 

0 - 0.1 UDB/ha 1 Tachwedd - 31 Mawrth

 

  1. Gwlypdir wedi’i amgáu (cors, ffen, llac / mignen) a glaswelltir corsiog
4a) Cyforgorsydd iseldir, ffeniau a llaciau / mignenni

Mwy na 50% yn laswellt y gweunydd (Molinia): 0.20 - 0.30 UDB/ha 1 Ebrill – 31 Hydref

 

Llai na 50% yn laswellt y gweunydd (Molinia): 0.01 - 0.05 UDB/ha 1 Ebrill – 31 Hydref 

4b) Glaswelltir corsiog0.2 - 0.4 UDB/ha/bl
  1. Glaswelltir sych lled-naturiol wedi'i amgáu (sur, niwtral, calchaidd, metelaidd)  
Glaswelltir sur0.2 - 0.4 UDB/ha/bl
Glaswelltir calchaidd 0.25 - 0.4 UDB/ha/bl
Glaswelltir niwtral0.5 - 0.7 UDB/ha/bl
Glaswelltir metelaidd0.25 - 0.4 UDB/ha/bl
  1. Cynefinoedd agored yr ucheldir 
Gweler Tabl 3 isod 
  1. Perllannau traddodiadol
Perllannau traddodiadol0.75 UDB/ha/bl
  1. Rhedyn trwchus
Rhedyn trwchus0.1 UDB/ha/bl
  1. Prysgwydd 
Prysgwydd (gan gynnwys rhedyn gwasgaredig a llai trwchus)Gweler yr uchafswm a argymhellir ar gyfer y cynefin oddi tano
  1. Coetir pori
Coetir poriGweler yr uchafswm a argymhellir ar gyfer y cynefin oddi tano
  1. Pyllau parhaol ar gyfer bywyd gwyllt 
Pyllau parhaol ar gyfer bywyd gwylltRheoli mynediad i dda byw i atal difrod ar lan y pwll
  1. Cynefinoedd newydd eu creu
Coridor newydd ar lan nantDim pori
 Mawn wedi'i adferPori yn unol â'r argymhellion ar gyfer y safle 
 Glaswelltir heb fewnbwn Gweler yr uchafswm a argymhellir ar gyfer y cynefin oddi tano
 

Unrhyw dir arall sydd wedi’i wella neu a oedd dan goed o'r blaen ac sy'n cael ei reoli i greu cynefin

 

Gweler yr uchafswm a argymhellir ar gyfer y cynefin oddi tano

Tabl 3: Canllawiau stocio ar gyfer cynefinoedd agored yr ucheldir   

Dyma'r lefelau stocio a argymhellir ar gyfer y mathau o gynefin a geir o fewn cynefinoedd agored yr ucheldir. Canllaw yn unig yw'r ffigurau a roddir. Bydd angen i chi gydymffurfio â'r lefel stocio gyffredinol isaf o 0.04 UDB/ha ar gyfer 1 Ebrill – 30 Medi, a'r lefel stocio gyffredinol uchaf o 0.2 UDB/ha ar gyfer 1 Hydref – 31 Mawrth, gan sicrhau nad yw cynefinoedd mwy sensitif yn cael eu gorbori. 

Dosbarth y CynefinCynefinoedd penodol a all fod neu a fydd yn bresennol o fewn dosbarth y cynefinY lefel stocio uchaf a argymhellir
  1. Cynefinoedd agored yr ucheldir 
Glaswelltir sur yr ucheldir0.3 - 0.5 UDB/ha/bl
 Rhos mynydd0.02 - 0.03 UDB/ha/bl
Rhos gwlyb0.05 - 0.10 UDB/ha/bl
Rhos sych0.10 - 0.15 UDB/ha/bl
Llaciau (pantiau gwlyb)Hyd at 0.05 UDB/ha/bl
Mawndir (gall gynnwys un neu fwy o'r canlynol: gorgors, rhos gwlyb a llac)

Hyd at 0.05 UDB/ha/bl, neu

 

Hyd at 0.02 UDB/ha/bl ar fawnog wedi'i hadfer

Glaswelltir calchaidd 0.25 - 0.4 UDB/ha/bl
Prysgwydd (gan gynnwys rhedyn gwasgaredig a llai trwchus)Gweler y lefel pori uchaf a argymhellir ar gyfer y cynefin oddi tano
CoetirHyd at 0.02 UDB/ha/bl

 

Tabl 4: Unedau Da Byw Safonol (UDB)

Gellir defnyddio'r Unedau Da Byw hyn i gyfrifo niferoedd stocio ar gyfer pob math o gynefin yn seiliedig ar y lefelau stocio yn y tablau uchod. 

Da bywUnedau Da Byw (UDB)
Oen blwydd0.09
Oen benyw/gwryw0.09
Mamog ag oen0.15
Mamogiaid sych (gan gynnwys mamogiaid cyfoen)0.12
Hyrddod0.12
Gwartheg hyd at 6 mis oed0.00
Gwartheg dros 24 mis oed1.0
Gwartheg 6 i 24 mis oed0.6
Ceffylau1.0
Merlod0.5
Ebolion0.00

Tabl 5: Rheoli llystyfiant annymunol

Mae llystyfiant annymunol yn cynnwys chwyn niweidiol o dan Ddeddf Chwyn 1959, rhywogaethau brodorol goresgynnol, fel rhedyn, rhywogaethau estron goresgynnol (INNS), fel Rhododendron ponticum, a llystyfiant annymunol arall, fel brwyn y pabwyr a danadl. Trowch at y tabl isod am y dull rheoli derbyniol, canran y tir, yr amseroedd cywir a'r dosbarth cynefin bras lle bydd angen gwaith rheoli.

Math o lystyfiantDull rheoli derbyniolCanran y tirPryd i reoliYn dderbyniol mewn dosbarth cynefin
Chwyn niweidiol (Deddf Chwyn (1959) e.e. ysgall y maes, llysiau'r gingroen

Tocio (nid lladd â pheiriant)

 

Sbot-chwynnu

 

Clwt-chwynnu

AmhMai - Awst1 i 12
Rhywogaethau brodorol goresgynnol (e.e. rhedyn)

Torri, tocio, lladd â pheiriant

 

Cleisio

 

Pori gwartheg / merlod

AmhMai - Awst1 i 12
Rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) (e.e.Rhododendron ponticum)

Torri, tocio, lladd â pheiriant

 

Cleisio

 

Pori gwartheg / merlod

 

Sbot-chwynnu

 

Clwt-chwynnu

AmhDrwy gydol y flwyddyn1 i 12
Llystyfiant annymunol arall Brwyn y pabwyrTocio neu dorri, ond nid â pheiriant 30%1 Ionawr – 14 Mawrth a 16 Gorffennaf – 31 Rhagfyr1, 3, 4, 5a a 6
Arall e.e. danadlTocio neu dorri, ond nid â pheiriant 30%Mai i Awst1, 3, 4, 5a a 6

Atodiad 6: Gweithred Gyffredinol 6: gofynion creu cynefin dros dro

Gweler Pennod 4 i weld esboniad o’r weithred hon. Ei bwriad yw'ch helpu i greu cynefin dros dro ychwanegol os nad oes gennych ddigon o gynefin i fodloni gofyn y cynllun bod 10% o bob fferm yn gynefin. 

Mae Pennod 4 yn cynnwys nodau a manteision y Weithred Gyffredinol, ynghyd â disgrifiad o’r gweithgarwch y gofynnir ichi ei wneud, y terfyn amser ar gyfer cwblhau’r gwaith a’r dystiolaeth y bydd angen ei chyflwyno fel prawf bod y Weithred Gyffredinol wedi’i chwblhau. 

Mae’r tudalennau canlynol yn cynnwys gwybodaeth dechnegol am y gwahanol fathau o gynefinoedd y gallwch ddewis eu creu gan ddibynnu ar natur eich fferm. Gallwch ddewis un neu fwy o'r rhestr ganlynol o gynefinoedd dros dro. Lluniwyd y rhestr hon i sicrhau bod gan ffermydd âr a ffermwyr pori nifer o gynefinoedd i ddewis ohonyn nhw ac efallai y byddwn yn ychwanegu at y rhestr hon yn y dyfodol. 

Dyma’r mathau o gynefinoedd dros dro y gallwch ddewis o’u plith: 

  • ymylon o wyndwn
  • talarau o ŷd a llin heb eu gwrteithio, eu chwistrellu na’u cynaeafu
  • ymyl sefydlog o borfa arw ar dir âr
  • ymyl o borfa arw mewn cylchdro ar dir âr
  • cymysgedd o ydau gwanwyn a chnwd protein heb eu chwistrellu, gyda’r sofl wedi’i gadw
  • cadw sofl ydau dros y gaeaf
  • cnwd gorchudd ar gyfer bywyd gwyllt ar dir wedi’i wella
  • clustogfa heb ei chwistrellu, heb ei gwrteithio a heb ei thrin wrth ymyl cynefin presennol. (gan gynnwys dŵr agored) ar laswelltir wedi'i wella
  • gwyndynnydd cymysg ar dir wedi’i wella (mae gwyndynnydd amlrywogaeth neu flodeuog yn enwau eraill arnynt)
  • glaswelltiroedd wedi’u gwella a gaiff eu torri’n hwyr
  • glaswelltir wedi’i wella sydd wedi cael ei adael i hadu

Bydd y rhan fwyaf o'r gweithredoedd yn seiliedig ar y lled gofynnol (metrau) y gellir ei roi wrth derfynau caeau, ond bydd yn bosib creu rhai cynefinoedd yn blotiau o dir neu'r holl dir o fewn parsel tir.

Ymylon o wyndwn 

O'u rheoli'n briodol, gall planhigion tir âr ailymddangos o’r banc hadau, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi cael eu gweld ers sawl blwyddyn. Mae rhai o’r planhigion tir âr hyn yn brin iawn a gallant fod yn ffynonellau bwyd pwysig i bryfed ac adar tir fferm. 

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • caiff fod yn rhan o gylchdro
  • rhaid lleoli’r opsiwn hwn wrth ymyl cnwd ŷd, rêp had olew, had llin neu wreiddgnwd
  • sefydlwch ymyl o wyndwn bob blwyddyn, o leiaf 3m o led, cyn 15 Mai (wrth gnwd ŷd, had llin a rêp had olew), neu 1 Gorffennaf (gwreiddgnwd). Gall y cnwd fod yn gnwd hydref neu gnwd gwanwyn. Bydd gofynion ar gyfer yr ymylon o wyndwn yn dod i ben pan gaiff y cnwd cyfagos ei gynaeafu neu ei bori
  • bydd angen creu gwely hadau bob blwyddyn a gadael i’r ymyl aildyfu’n naturiol

Peidiwch â:

  • phori’r tir na'i wrteithio
  • defnyddio plaladdwyr na dulliau mecanyddol i reoli chwyn ac eithrio i sbot-chwynnu ac i reoli chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol fel marchysgall, ysgall y maes, tafol crych, tafol llydanddail, llysiau’r gingroen, clymog Japan, rhododendron, Jac y Neidiwr, efwr enfawr. Dylech gofnodi unrhyw chwynladdwr a ddefnyddiwch yn eich Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu. 

Talarau o ŷd a llin heb eu gwrteithio, eu chwistrellu na’u cynaeafu

Trwy adael talarau o ŷd a had llin heb eu cynaeafu, rhoddir lloches a bwyd gwerthfawr i bryfed, adar tir fferm a mamaliaid fel ysgyfarnogod. 

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • caiff fod yn rhan o gylchdro
  • mae'r opsiwn hwn ar gael ar gnwd ŷd fydd wedi cydio erbyn 15 Mai
  • gellir lleoli’r dalar wrth ymyl cnydau hydref a chnydau gwanwyn
  • rhaid gadael o leiaf 3m o dalar ŷd neu had llin ar hyd ymyl y cnwd heb ei gwrteithio, ei chwistrellu na’i chynaeafu
  • dylech gadw’r dalar heb ei chynaeafu na'i phori tan 15 Chwefror y flwyddyn ganlynol 

Ymyl sefydlog o borfa arw ar dir âr 

Gall ymylon o borfa arw wrth ymyl cnydau âr gynnig lloches a safleoedd bridio gwerthfawr i infertebratau, adar tir fferm a mamaliaid bach. O'u sefydlu ar lethr o dan y cae âr, gall yr ymylon hyn helpu i ddal gwaddodion hefyd. 

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • rhaid cadw’r opsiwn hwn yn yr un lle am o leiaf dair blynedd o'r bron neu tra'ch bod yn cymryd rhan yn yr SFS, pa un bynnag sy fyrraf. Sefydlwch ymyl o borfa o leiaf 3m o led wrth gnwd ŷd, rêp had olew neu had llin (erbyn 15 Mai) neu wreiddgnwd (erbyn 1 Gorffennaf) yn y flwyddyn berthnasol gyntaf
  • gallwch sefydlu'r ymyl wrth gnwd hydref a chnwd gwanwyn
  • bydd yn dderbyniol i'r cnwd sy'n ffinio fod yn wyndwn glaswellt am hyd at ddwy flynedd mewn cylchdro cnydau o bum mlynedd
  • rhaid torri’r glaswellt yn ystod y flwyddyn gyntaf, ond nid cyn 1 Awst. Bydd angen cofnodi dyddiad torri’r ymyl yn eich dyddiadur gweithgarwch a bydd angen sicrhau bod y dyddiadur ar gael i’w archwilio os gofynnir amdano
  • ar ôl y flwyddyn gyntaf, gallwch dorri'r ymyl (hyd at 50% yn unig bob tro), ond ddim amlach nag unwaith bob tair blynedd
  • rhaid hau cymysgedd â 15% ohono'n laswellt sy’n ffurfio twmpathau, gyda’r gweddill yn laswellt meinddail. Bydd angen hau 15kg/ha o laswellt yn yr hydref neu 21kg/ha yn y gwanwyn. Mae glaswellt sy’n tyfu’n dwmpathau’n cynnwys: troed y ceiliog, rhonwellt, maswellt penwyn. Mae glaswellt meinddail yn cynnwys: peiswellt coch, peiswellt y defaid, gweunwellt garw, gweunwellt llyfn, maeswellt cyffredin, maeswellt rhedegog, maeswellt y cŵn, perwellt y gwanwyn, rhonwellt y ci, cynffonwellt y maes. Ni ddylid cynnwys rhygwellt

Peidiwch â:

  • phori’r tir na'i wrteithio
  • defnyddio plaladdwyr ac eithrio i sbot-chwynnu ac i reoli chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol fel marchysgall, ysgall y maes, tafol crych, tafol llydanddail, llysiau’r gingroen, clymog Japan, rhododendron, Jac y Neidiwr, efwr enfawr. Dylech gofnodi unrhyw chwynladdwr a ddefnyddiwch yn eich Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu

Ymyl o borfa arw mewn cylchdro ar dir âr

Gall ymylon o borfa arw wrth ymyl cnydau âr gynnig lloches a safleoedd bridio gwerthfawr i infertebratau, adar tir fferm a mamaliaid bach. O'u sefydlu ar lethr o dan y cae âr, gall yr ymylon hyn helpu i ddal gwaddodion hefyd. 

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • sefydlwch ymyl o borfa o leiaf 3m o led wrth gnwd ŷd, rêp had olew neu had llin (erbyn 15 Mai) neu wreiddgnwd (erbyn 1 Gorffennaf)
  • gallwch sefydlu'r ymyl wrth gnwd hydref a chnwd gwanwyn
  • os ydy’r ymyl yn cael ei gadw yn yr un lle, rhaid torri'r borfa yn y flwyddyn gyntaf ond nid cyn 1 Awst. Bydd angen cofnodi dyddiad torri’r ymyl yn eich dyddiadur gweithgarwch a bydd angen sicrhau bod y dyddiadur ar gael i’w archwilio os gofynnir amdano
  • os byddwch yn cadw'r ymyl yn yr un lle ar ôl y flwyddyn gyntaf, gallwch dorri'r ymyl (hyd at 50% yn unig bob tro), ond ddim amlach nag unwaith bob tair blynedd
  • os ydy'r ymyl yn rhan o gylchdro, ni chewch ei dorri
  • rhaid hau cymysgedd â 15% ohono'n laswellt sy’n ffurfio twmpathau, gyda’r gweddill yn laswellt meinddail. Bydd angen hau 15kg/ha o laswellt yn yr hydref neu 21kg/ha yn y gwanwyn. Mae glaswellt sy’n tyfu’n dwmpathau’n cynnwys: troed y ceiliog, rhonwellt, maswellt penwyn. Mae glaswellt meinddail yn cynnwys: peiswellt coch, peiswellt y defaid, gweunwellt garw, gweunwellt llyfn, maeswellt cyffredin, maeswellt rhedegog, maeswellt y cŵn, perwellt y gwanwyn, rhonwellt y ci, cynffonwellt y maes. Ni ddylid cynnwys rhygwellt
  • bydd y gofynion ar gyfer yr ymyl yn dod i ben pan gaiff y cnwd sy'n ffinio ei gynaeafu, ond dim ond os yw'r ymyl yn rhan o gylchdro 

Peidiwch â:

  • phori’r tir na'i wrteithio
  • defnyddio plaladdwyr  ac eithrio i sbot-chwynnu ac i reoli chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol fel marchysgall, ysgall y maes, tafol crych, tafol llydanddail, llysiau’r gingroen, clymog Japan, rhododendron, Jac y Neidiwr, efwr enfawr. Dylech gofnodi unrhyw chwynladdwr a ddefnyddiwch yn eich Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu

Cymysgedd o ydau gwanwyn a chnwd protein heb eu chwistrellu, gyda’r sofl wedi’i gadw

Gall cymysgedd o ydau gwanwyn a chnwd protein heb eu chwistrellu fod yn ffynhonnell hadau a neithdar werthfawr i fywyd gwyllt drwy gydol y tymor tyfu, a bydd y sofl yn gynefin sy'n cynnig cysgod a bwyd dros y gaeaf. 

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • sefydlu cnwd ŷd/protein heb ei chwistrellu, wedi’i hau yn y gwanwyn gan gadw’r sofl tan 15 Chwefror y flwyddyn sy’n dilyn
  • mae cnydau cymwys yn cynnwys haidd, gwenith, ceirch, rhygwenith, rhyg / ffa maes, pys, bysedd y blaidd neu ffacbys
  • dylai’r cymysgedd hadau gynnwys 50% o hadau ŷd a 50% o hadau protein yn ôl pwysau
  • defnyddiwch hadau ardystiedig yn unig, gan hau'r gyfradd a argymhellir. Cadwch labeli / anfonebau fel tystiolaeth i'w dangos yn ystod ymweliadau archwilio
  • wrth ddewis y cnydau a’r mathau, dylech ystyried sut y byddwch am i'r cnwd gael ei ddefnyddio a dyddiad cynharaf ei gynaeafu
  • gallwch gywiro unrhyw ddiffygion o ran lefelau P, K a pH cyn sefydlu’r cnydau
  • cynnal llain glustogi o 1m ar hyd perthi/gwrychoedd, cloddiau neu gyrsiau dŵr
  • hau rhwng 1 Mawrth a 15 Mai
  • gellir sefydlu'r cnwd drwy aredig, drilio a dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio uniongyrchol
  • gellir ei gynaeafu fel ydau, ei grimpio a'i storio gan ddefnyddio ychwanegyn neu ei gadw’n borthiant drwy ei silweirio (mewn pwll silwair neu mewn bêls silwair)

Peidiwch â:

  • aredig neu drin y tir cyn 1 Mawrth
  • hau unrhyw beth o dan y cnwd
  • defnyddio plaladdwyr neu ddulliau chwynnu mecanyddol ar ôl i’r cnwd gydio. Cewch ddefnyddio ffwngladdwyr cyn belled â'u bod yn cael eu rhoi ar yr hadau cyn eu hau. Cofnodwch hyn yn eich cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu
  • sychu'r cnwd â chemegolion cyn ei gynaeafu
  • cynaeafu’r cnwd cyn 1 Awst, neu lai na 14 wythnos ar ôl ei hau, pa bynnag ddyddiad fydd hwyraf

Yn eich dyddiadur gweithgarwch, dylech gadw cofnod o’r holl waith a wneir yn y caeau, gan gynnwys y dyddiadau hau a chynaeafu a’r gwrteithiau a ddefnyddiwyd. Gofalwch fod y dyddiadur ar gael i’w archwilio os gofynnir amdano.

Cadw sofl ydau dros y gaeaf 

Bydd yn ffynhonnell fwyd i adar brodorol tir fferm sy’n bwyta hadau i oroesi’r gaeaf, fel colfannod y mynydd, llinosiaid, brasod melyn a phetrys. Hefyd, bydd sofl dros y gaeaf yn cynyddu amrywiaeth strwythurol y dirwedd amaethyddol, gan gynnal infertebratau a helpu dŵr i dreiddio.

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • rhaid iddo ddilyn cnwd ydau
  • caiff fod yn rhan o gylchdro
  • casglwch y gwellt o fewn 2 wythnos ar ôl y cynhaeaf a chaniatáu aildyfiant naturiol o laswellt a phlanhigion llydanddail
  • ni fydd sofl indrawn, sofl sorgwm na sofl cnydau eraill gafodd eu hau oddi tanynt yn dderbyniol
  • yn y Dyddiadur Gweithgarwch, bydd angen cadw cofnod o waith cynaeafu, torri, aredig, trin neu ddrilio uniongyrchol o dan yr opsiwn hwn

Peidiwch â:

  • defnyddio chwynladdwyr ac eithrio i sbot-drin a rheoli chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol. Gellir defnyddio chwynladdwyr o 15 Chwefror. Dylech gofnodi unrhyw chwynladdwyr a ddefnyddiwch yn eich Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu
  • torri llystyfiant ar ôl cynaeafu cyn 15 Chwefror
  • gwasgaru slyri rhwng cynaeafu'r cnwd a 15 Chwefror
  • storio tail ar y cae
  • darparu porthiant atodol yn y cae
  • ei aredig, ei drin na’i ddrilio cyn 1 Mawrth
  • ei bori tan 15 Chwefror

Cnwd gorchudd ar gyfer bywyd gwyllt ar dir wedi’i wella 

Gall cnydau gorchudd ddarparu cysgod i amrywiaeth o adar tir fferm a mamaliaid bach, a chynnig ffynhonnell fwyd werthfawr trwy’r hydref a’r gaeaf. Maen nhw hefyd yn gynefin pwysig i amrywiaeth o infertebratau, yn enwedig pryfed peillio. 

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • gall yr opsiwn fod yn rhan o gylchdro neu gallwch ei gadw yn yr un lle, yn ôl y gofyn
  • dylech drin gwely hadau o leiaf 3m o led a sefydlu cnwd cyn 15 Mai
  • gallwch ei sefydlu fel bloc mewn cae neu ar hyd ymyl cae
  • rhaid i’r cymysgedd fod yn gnwd gorchudd amlrywogaeth ar gyfer bywyd gwyllt / anifeiliaid hela. Dylai fod ar gael yn fasnachol a dylai fod yn addas ar gyfer y lleoliad. Cadwch labeli ac anfonebau fel tystiolaeth ar gyfer ymweliadau archwilio
  • os bydd angen defnyddio chwynladdwr fel rhan o Reolaeth Integredig ar Blâu, cewch chwistrellu’r llystyfiant â chemegyn sychu (desiccant) cyn ei hau; ond fel arall, ni ddylid defnyddio chwynladdwyr ac eithrio i sbot-drin chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol fel marchysgall, ysgall y maes, tafol crych, tafol llydanddail, llysiau’r gingroen, clymog Japan neu jac y neidiwr
  • dylech ail-hau os gwelwch nad yw'r cnwd wedi cydio

Peidiwch â: 

  • hau unrhyw beth o dan y cnwd
  • hau indrawn
  • pori neu dorri’r cnwd cyn 15 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol
  • defnyddio pryfladdwyr
  • defnyddio ffwngladdwyr ar ôl i’r cnwd sefydlu
  • defnyddio molwsgladdwr oni bai'ch bod yn ei ddrilio gyda'r had. Dylech gofnodi unrhyw folwsgladdwyr a ddefnyddiwch yn eich Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu 

Clustogfa heb ei chwistrellu, heb ei gwrteithio a heb ei thrin wrth ymyl cynefin presennol (gan gynnwys dŵr agored) ar laswelltir wedi'i wella

Gall lleiniau clustogi llydan ar laswelltir greu rhaniadau gwerthfawr rhwng rhannau'r fferm sy'n cael eu rheoli'n ddwys a chynefinoedd cyfagos. Gall lleiniau clustogi ddal gwaddodion, maethynnau a chemegion gan leihau eu heffeithiau negyddol ar gynefinoedd, a hefyd maen nhw eu hunain yn cynnig cysgod a mannau bwydo i fywyd gwyllt.   

Gofynion:

  • dylech greu llain glustogi o laswellt o leiaf 12m o led. Gall y lled fod yn hyblyg wedyn
  • gallwch leoli’r llain glustogi wrth ymyl cynefin sy’n bodoli eisoes, perth/gwrych neu gwrs dŵr
  • bydd y llain heb ei gwrteithio, ei chwistrellu (gyda phlaladdwyr) na'i thrin

Gwyndynnydd cymysg ar dir wedi’i wella (mae gwyndynnydd amlrywogaeth neu flodeuog yn enwau eraill arnynt) 

Mae gwyndynnydd cymysg yn cynnig llawer o fanteision. Maen nhw'n gynefin gwerthfawr i amrywiaeth o infertebratau, yn enwedig i bryfed peillio. Maen nhw hefyd yn darparu tir pori gwytnach gydag amrywiaeth o rywogaethau sy’n gwreiddio’n ddyfnach ac sy’n gallu cyrraedd dwr yn ystod cyfnodau sych, ynghyd â darparu cnwd pori cymysg i dda byw. 

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • dylid sefydlu gwyndwn cymysg sy’n cynnwys o leiaf pum rhywogaeth gwahanol o laswellt, tair rhywogaeth o godlys a thair rhywogaeth flodeuog
  • rhaid hau o leiaf 25kg/hectar
  • ni chewch hau mwy na 6kg/ha o rygwellt
  • hadau glaswellt eraill, dim mwy na 9kg/ha (yr holl hadau glaswellt, dim mwy na 15kg/ha)
  • defnyddiwch dim ond hadau ardystiedig, gan hau'r gyfradd a argymhellir. Dylech gadw labeli ac anfonebau fel tystiolaeth ar gyfer ymweliadau archwilio
  • gellir sefydlu’r gwyndwn ar ffurf cae cyfan neu fel ymyl cae
  • rhaid cadw’r gwyndwn cymysg am dair blynedd neu tra byddwch yn cymryd rhan yn yr SFS, pa un bynnag sydd fyrraf a / neu i fodloni 10% y cynllun
  • dylech sicrhau bod cyfran ofynnol ohono ar gael i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall trwy beidio â’i bori na'i dorri am gyfnod di-dor o chwe wythnos rhwng 1 Mai – 31 Gorffennaf (dylid cadw tystiolaeth ffotograffig gyda geo-dag wedi’i dyddio bod y mannau hynny heb eu pori na'u torri yn y cyfnodau hynny a gofalu ei bod ar gael i'w harchwilio i brofi'ch bod yn cydymffurfio)
  • gallwch gywiro unrhyw ddiffygion o ran lefelau P, K a pH cyn sefydlu’r cnydau
  • dylid hau rhwng 15 Ebrill a 15 Medi
  • gallwch sefydlu'r cnwd drwy aredig, dulliau trin traddodiadol, bras droi neu ddrilio
  • cymysgwch yr hadau yn yr hopran yn syth cyn hau cymysgedd hadau i'w gwasgaru’n gyfartal
  • hau hadau ar led neu drwy ddrilio, ond dim dyfnach nag 1cm
  • rowlio ar ôl hau i gadw'r lleithder
  • os ydych yn bras droi neu'n drilio'r tir, bydd angen defnyddio chwynladdwr priodol, cymeradwy i ladd y glaswellt sydd yno eisoes. Nid yw'r gofyn hwn yn berthnasol i ffermwyr sydd wedi cael eu hardystio'n organig
  • cynnal llain glustogi o 1m ar hyd perth/gwrych, clawdd neu gwrs dŵr
  • dylid rheoli’r gwyndwn cymysg mewn modd a fydd yn cynnal amrywiaeth y rhywogaethau ynddi a'u hannog i flodeuo a hadu, ac osgoi stablad (sathru) gan dda byw

Peidiwch â:

  • aredig neu drin y tir cyn 1 Mawrth
  • defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion ar ôl i’r gwyndwn sefydlu, ac eithrio i sbot-drin neu glwt-chwynnu chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol, brwyn pabwyr, brwyn caled, danadl neu redyn. Dylech gofnodi unrhyw chwynladdwr a ddefnyddiwch yn eich Cynllun Rheolaeth Integredig ar Blâu
  • defnyddio gwrteithiau anorganig sy’n cynnwys nitrogen ar ôl i’r gwyndwn sefydlu, tan y gwanwyn canlynol. Argymhellwn eich bod yn osgoi defnyddio gwrtaith nitrogen er mwyn sicrhau manteision agronomig ac amgylcheddol mwyaf posibl y gwyndwn cymysg

Yn eich dyddiadur gweithgarwch, cadwch gofnod o’r holl waith a wneir yn y cae, gan gynnwys y dyddiad hau, y gwrteithiau a’r plaladdwyr a ddefnyddiwyd, a’r dyddiadau pori. Dylid sicrhau bod y dyddiadur ar gael i’w archwilio pan ofynnir amdano.

Glaswelltir wedi’i wella, a'i dorri’n hwyr

Pan gaiff glaswelltiroedd wedi’u gwella’n amaethyddol eu rheoli ar gyfer eu torri’n hwyr, maen nhw'n gallu cynnig cynefin gwerthfawr i adar sy’n nythu ar y llawr, ynghyd â chysgod i anifeiliaid eraill, fel ysgyfarnogod. Trwy dorri’r glaswelltiroedd hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd adar sy’n nythu yn cael cyfle i orffen gori, a'r cywion i adael y nyth. Mae’r weithred hon yn bwysig i adar fel gylfinirod, sydd mewn perygl o ddiflannu o Gymru. 

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • ar gael ar barseli cyfan sy'n cael ei neilltuo ar gyfer silwair neu wair yn unig
  • peidiwch â phori, lladd, torri, llyfnu, rholio, tocio na gwneud unrhyw waith mecanyddol arall rhwng 6 Mai a 15 Gorffennaf

Glaswelltir wedi’i wella sydd wedi cael ei adael i hadu

Prif nod y glaswelltiroedd hyn – wedi’u gwella a'u gadael i hadu, ac a fydd heb eu torri na’u pori dros y gaeaf – yw darparu bwyd dros y gaeaf i adar sy’n bwyta hadau. Mae diffyg hadau dros y gaeaf yn ffactor pwysig pam mae poblogaethau adar tir fferm yn dirywio’n gyflym.

Gofynion:

  • i’w gynnal ar dir wedi’i wella yn unig
  • ar gael ar barseli cyfan, neu barseli rhannol gyda lleiniau o leiaf 12m o led
  • peidiwch â'i dorri na'i bori’r rhwng 1 Mehefin a 28 Chwefror

Atodiad 7: Gweithred Gyffredinol 9: Gofynion cynnal coetir

Gweler UA9 Cynnal Coetir ym Mhennod 4 i gael esboniad o'r Weithred hon. Mae hyn yn cynnwys nodau a manteision y Weithred Gyffredinol (UA), ynghyd â disgrifiad o'r gweithgaredd penodol y gofynnir ichi eu cynnal, y dyddiad cau ar gyfer cwblhau a'r dystiolaeth y bydd angen ichi ei chyflwyno fel prawf bod y Weithred wedi cael ei chwblhau.

Mae'r Weithred hon yn gymwys i'r holl goetiroedd fferm sydd eisoes yn bodoli lle rydych yn gyfrifol am reoli'r coetir. Gall fod yn goetir llydanddail, yn blanhigfa conwydd, neu'n gymysgedd o 0.1ha o leiaf a chanopi o 20% o leiaf neu â'r potensial i gyflawni hynny. 

Ni chaiff perllannau, coed pori a thir parc eu hystyried yn goetir a chânt eu cwmpasu gan UA5 Cynnal Cynefinoedd. 

Mae'r atodiad hwn yn cynnwys disgrifiad manylach o'r gweithgareddau a'r canlyniadau y mae disgwyl ichi eu cyflawni er mwyn bodloni'r Weithred hon. 

Bydd canllawiau a chymorth, er enghraifft drwy Cyswllt Ffermio, ar gael i'ch helpu i ddeall a sicrhau'r budd mwyaf o'ch coetiroedd. 

Peidiwch â chynnal unrhyw waith rheoli sy’n Weithgaredd a Allai fod yn Niweidiol neu’n Weithgaredd sy’n Debygol o Niweidio’r Diddordeb Arbennig os yw’r coetir mewn safle dynodedig. Caiff opsiynau rheoli positif ar gyfer eich coetir dynodedig eu hystyried fel rhan o UA 7: Cynlluniau Rheoli Safleoedd Dyndodig. 

Caiff gofynion ar gyfer coed unigol, neu grwpiau gwasgaredig o goed sy'n llai na 0.1ha, eu cynnwys o dan Ran 3 o'r Cod i Bawb (gweler Atodiad 2). 

Gofynion y Weithred Gyffredinol

Dylech wneud y canlynol:

  • cwympo coed yn y cyfnod rhwng 1 Medi a 28 Chwefror yn unig. Peidio â chwympo mwy na 5m3 fesul chwarter oni bai fod angen gwaredu coed am resymau diogelwch neu y caniateir hynny o dan eithriad (gweler y rhestr o eithriadau isod). Sicrhau nad yw gwaith cwympo coed mewn coetir yn cael effaith andwyol ar ddiddordeb bioamrywiaeth y coetir  
  • cadw coed marw sy'n cyfateb i o leiaf 5% o faint y celli (1 o bob 20 o goed y canopi).  Nid yw bonion coed sydd wedi’u torri yn cyfrif tuag at y ffigur hwn. Dylai'r 5% gynnwys cymysgedd o goed marw sy'n sefyll ac sydd wedi cwympo. Yn ddelfrydol, bydd y coed marw yn cynnwys coed maint canopi o amrywiaeth o rywogaethau. Gellir gwaredu coed marw dros y 5%
  • monitro effaith pori, difrod gan wiwerod llwyd ac unrhyw geirw sy'n deintio’r brigau a all fod yn effeithio‘n ddrwg ar allu coed a choetir i oroesi. Gall dangosyddion effaith annerbyniol gynnwys dirisglo coed, pridd moel wedi’i stablad (sathru) ar fwy na 10% o lawr y coetir, a phrinder blodau ar lawr y coetir yn ystod y gwanwyn a'r haf. Dylid osgoi pori mewn coetiroedd yn ystod y gwanwyn a dechrau'r haf os yw'n bosibl    
  • diogelu fflora daear, coed a'u gwreiddiau rhag difrod uniongyrchol neu anuniongyrchol yn sgil trin tir, cywasgu, defnyddio peiriannau neu agrocemegion, gan gynnwys gwrteithiau  
  • cadw'r holl fannau sy’n fwriadol agored yn y coetir, megis rhodfeydd neu lennyrch. Mae mannau agored yn caniatáu symudiad a mynediad drwy'r coetir ac yn cyfrannu at y gwerth ecolegol. Mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd i gadw mannau agored er mwyn sicrhau nad oes coed yn tyfu ynddynt. Gall hyn gynnwys torri a phori. Gall mannau agored bwriadol gyfrif am hyd at 20% o’r coetir
  • sicrhau bod gwaith tocio neu dorri yn cael ei wneud yn briodol â thoriad glân ac nad yw'n arwain at unrhyw ddirywiad yng nghyflwr y goeden
  • cefnogi proses o aildyfiant naturiol priodol o goed yn y coetir wrth gadw mannau agored bwriadol. Dylai fod eginblanhigion a glasbrennau amrywiaeth o goed a llwyni ifanc er mwyn cynnal canopi'r coetir yn yr hirdymor

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • torri neu gwympo coed rhwng 1 Mawrth a 31 Awst (tymor nythu adar) a dim mwy na 5m3 fesul chwarter oni bai fod angen gael gwared ar goed am resymau diogelwch neu y caniateir hynny o dan eithriadau/wrth lacio’r rheolau.
  • rhoi porthiant atodol i dda byw yn y coetir oni bai y caniateir hynny o dan eithriad. Caniateir porthiant atodol er lles penodol y da byw. Bydd angen darparu porthiant atodol yn ystod tywydd garw neu i ateb gofynion anifeiliaid sy'n feichiog iawn. 
  • Caniateir rhoi porthiant atodol pan fydd tywydd garw yn cyfyngu ar allu da byw i fynd at dir pori, ar yr amod eich bod yn ei ddarparu heb niweidio’r amgylchedd nac yn peryglu lles y da byw.  Diffinnir tywydd garw fel cyfnod pan fydd y llystyfiant sydd ar gael wedi'i orchuddio gan eira neu os bydd yn rhewi'n galed, yn sych neu'n glawio'n drwm am gyfnod estynedig

    Nid ystyrir bod adar hela yn dda byw at ddibenion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Caniateir i adar hela gael porthiant atodol yn unol â Chanllawiau ‘Sustainable Gamebird Releasing’ yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt lle caiff adar eu rhyddhau'n gyfreithlon

  • defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion ac eithrio at ddiben rheoli rhywogaethau estron goresgynnol neu reoli plâu a chlefydau coed hysbysadwy. Sicrhewch eich bod yn dilyn canllawiau'r cynnyrch a'ch bod wedi cael cymeradwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru os byddwch yn eu defnyddio mewn neu wrth ymyl cwrs dŵr neu safle gwarchodedig
  • cynnal gweithgareddau symud pridd nad ydych wedi cael cymeradwyaeth i’w cynnal yn y coetir
  • defnyddio'r coetir ar gyfer gweithgareddau mewn cerbydau maes nad ydych wedi cael cymeradwyaeth ar eu cyfer
  • adeiladu traciau, ffyrdd, buarthau, mannau llwytho / ardaloedd stacio newydd neu unrhyw strwythurau newydd yn y coetir heb awdurdod

Eithriadau

Rhaid ichi beidio â thorri coed rhwng 1 Mawrth a 31 Awst oni bai fod y rhesymau diogelwch canlynol yn berthnasol: 

  • mae'r goeden yn hongian dros ffordd fawr, ffordd, trac neu lwybr troed a ddefnyddir gan y cyhoedd, ac mae'r gwaith yn angenrheidiol am fod y llystyfiant sy'n hongian drosodd:
  • yn rhwystro cerbydau neu gerddwyr rhag mynd heibio
  • yn rhwystro golwg gorwyr, neu'r golau o lamp gyhoeddus, neu
  • yn peri perygl i bobl ar geffylau
  • mae angen torri neu docio'r goeden am ei bod wedi marw, am fod ganddi glefyd, am ei bod wedi'i difrodi neu am fod ei gwreiddiau'n anniogel, ac felly mae'n debygol o achosi perygl drwy gwympo ar ffordd fawr, ffordd neu lwybr troed
  • mae angen i'r cwmni sy'n gyfrifol am gynnal a chadw unrhyw linellau trydan neu ffôn sy'n hongian drosodd dorri coed yn eu hôl am resymau diogelwch
  • ar dir âr, lle mae'r arfer amaethyddol arferol yn ei gwneud yn ofynnol i gnwd âr gaeaf gael ei blannu cyn 31 Awst, bydd angen ichi dorri'r coed perthnasol yn ôl o 1 Awst ar yr amod nad ydych yn aflonyddu ar adar sy'n nythu
  • mae hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, Adran 154 er mwyn sicrhau na chaiff llwybr cerbydau neu gerddwyr ei rwystro na'i beryglu, ac ystyrir bod angen tocio/torri neu blygu'r goden a/neu ganghennau coed yn y lleoliadau a ddisgrifir
  • caniateir yr eithriadau a ddisgrifir uchod ar yr amod bod ffermwyr hefyd yn bodloni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i warchod adar gwyllt. Dylech gadw tystiolaeth, e.e. ffotograffau a/neu unrhyw lythyrau oddi wrth yr awdurdodau cymwys perthnasol sy'n dangos yn glir pam roedd angen torri neu docio coed rhwng 1 Mawrth a 31 Awst. Dylid darparu'r rhain ar y cam archwilio os gofynnir amdanynt

At ddibenion y Weithred Gyffredinol hon, mae esemptiad yn cyfeirio at y canlynol: 

  • trwydded cwympo coed ddilys
  • cynllun rheoli dilys o dan Safon Coedwigaeth y DU
  • caniatâd cynllunio llawn
  • hysbysiad a gyflwynwyd i gydymffurfio â Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, megis hysbysiad a roddwyd gan awdurdod priffyrdd
  • hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol 

Atodiad 8 Gweithred Gyffredinol 11: gofynion o ran nodweddion hanesyddol

Gweler UA11 Yr Amgylchedd Hanesyddol ym Mhennod 3 i gael esboniad o'r Weithred hon. Mae hyn yn cynnwys nodau a manteision y Weithred Gyffredinol (UA), ynghyd â disgrifiad o'r gweithgaredd penodol y gofynnir ichi ei gynnal a’r dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r dystiolaeth y bydd angen ichi ei chyflwyno fel prawf bod y Weithred wedi cael ei chwblhau. 

Mae'r weithred hon yn gymwys ichi os oes gennych unrhyw un o'r pedwar math o asedau hanesyddol ar eich fferm. Bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn darparu'r wybodaeth sydd gennym i'ch helpu i nodi unrhyw asedau hanesyddol a all fod gennych. 

Mae'r atodiad hwn yn cynnwys disgrifiad manylach o'r gweithgareddau a'r canlyniadau y mae disgwyl ichi eu cyflawni er mwyn bodloni'r weithred hon. Yn gyffredinol, egwyddor y gofynion hyn yw ‘peidio â difrodi’ wrth ymdrin ag unrhyw asedau hanesyddol ar eich tir. 

Os bydd yr asedau hanesyddol hyn hefyd wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), dylid ystyried y nodweddion hanesyddol fel rhan o UA7 Cynllun Rheoli Safle Dynodedig

Bydd canllawiau a chymorth ar gael, er enghraifft drwy Cadw a Cyswllt Ffermio, i'ch helpu i ddeall a sicrhau'r budd mwyaf o'r weithred hon. 

Mae'r pedwar categori o asedau hanesyddol fel a ganlyn: 

Gellir llacio’r rheolau ar gyfer y gofynion a nodir isod, os bydd: 

  • difrod gan drydydd parti neu o ganlyniad i rymoedd naturiol, e.e. llifogydd, tirlithriad, erydu arfordirol ac ati
  • neu os na fydd rhanddirymiad ar gyfer senario sy'n benodol i'ch busnes wedi'i restru, gallwch wneud cais am un ar gyfer eich sefyllfa o hyd. Rhaid i unrhyw gais am randdirymiad gael ei wneud drwy eich cyfrif RPW Ar-lein a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos

Henebion cofrestredig

Disgrifiad

Caiff henebion sydd o bwys cenedlaethol eu dosbarthu'n Henebion cofrestredig. Mae’r gyfraith yn eu diogelu rhag difrod, achosion o aflonyddu a gwaith anawdurdodedig o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), 2023. Mae oddeutu 4,200 o henebion cofrestredig yng Nghymru. Adfeilion gwrthgloddiau neu strwythurau carreg yw llawer ohonynt sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol, ond maent yn cynnwys gweddillion milwrol mwy diweddar o'r 20fed ganrif.  

Gofynion 

  • bydd angen ichi ei harchwilio o leiaf ddwywaith y flwyddyn am ddirywiad a chyflwyno tystiolaeth (megis ffotograffau â geotag) lle bydd newid amlwg yng nghyflwr yr heneb. Dylech gadw tystiolaeth am o leiaf bum mlynedd a'i dangos i'w harchwilio pan ofynnir amdani
  • os bydd prysgwydd wedi tyfu ers ichi ymuno â'r Cynllun, bydd angen ichi wneud gwaith sylfaenol i dynnu prysgwydd a llystyfiant goresgynnol (gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol). Dylai unrhyw waith i reoli llystyfiant osgoi tymor nythu adar, sef 1 Mawrth - 31 Awst
  • os bydd mân erydiad yn effeithio ar rannau o'r safle ers ichi ymuno â'r cynllun, bydd angen ichi wneud gwaith sylfaenol i drwsio effeithiau’r erydiad
  • dylech gadw cerbydau oddi ar olion sy'n sefyll a defnyddio cerbydau ysgafnach neu gerbydau sydd â theiars isel eu pwysau yn enwedig ar adegau allweddol o'r flwyddyn, pan fydd y tir yn wlyb neu'n orlawn o ddŵr. Defnyddiwch lwybr arall i osgoi’r heneb gofrestredig
  • gosodwch fannau bwydo a chafnau dŵr newydd y tu allan i'r ardal gofrestredig rhag i dda byw stablad (o sathru) y tir ac erydu 

Nodweddion amgylchedd hanesyddol

Disgrifiad 

Gall Nodweddion Amgylchedd Hanesyddol gyfeirio at un safle neu grŵp o safleoedd. Er nad yw’r gyfraith yn eu diogelu, maent yn bwysig fel safleoedd o arwyddocâd lleol neu ranbarthol sy'n cyfrannu at gymeriad hanesyddol cefn gwlad. 

Gofynion 

Gofynnwn ichi ddilyn yr egwyddor o ‘beidio â difrodi’ wrth ymdrin ag unrhyw Nodweddion Amgylchedd Hanesyddol a nodir ar eich tir. 

Dyma'r mathau o ddifrod y dylech eu hosgoi:  

  • aflonyddu ar y tir neu gloddio'r tir, yn enwedig o dan uwchbridd
  • taflu neu storio deunydd, gan gynnwys storio dros dro.
  • tynnu unrhyw ddeunydd, gan gynnwys cerrig, pridd neu isbridd
  • arwyddion gweladwy o erydu (colli uwchbridd neu isbridd ac aflonyddu arno) a achosir gan dda byw a cherbydau neu arfer amaethyddol arall.
  • plannu coed
  • caniatáu i brysgwydd ddatblygu (dim ond pan nad yw prysgwydd yn bresennol pan fyddwch yn ymuno â'r Cynllun y mae hyn yn gymwys)
  • aredig neu ailhau safleoedd heb eu trin
  • symud nodweddion carreg unigol
  • trin y tir yn ddyfnach nag mewn blynyddoedd blaenorol

Parciau a gerddi cofrestredig 

Disgrifiad

Mae parciau a gerddi hanesyddol a thirweddau hanesyddol wedi'u dylunio i'w cael mewn amrywiaeth o ffurfiau, o barciau ceirw a thir parc gwledig o amgylch plastai i dir ysbytai a pharciau cyhoeddus. Mae bron 400 o barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yng Nghymru, sy'n amrywio o ran tarddiad o'r cyfnod canoloesol i'r ugeinfed ganrif. Maent yn cwmpasu ardaloedd mawr yn aml a gallant gynnwys olion archaeolegol a strwythurau adeiledig, gwaith plannu ffurfiol ac anffurfiol, tir parc, tir amaeth, coetir, nodweddion dŵr a thirffurfiau naturiol ac artiffisial. Mae'r elfennau hyn oll yn cyfrannu at ddiddordeb hanesyddol arbennig y safle a gall meithrin dealltwriaeth dda ohonynt, gan gynnwys cynllun hanesyddol a defnydd tir hanesyddol, eich helpu i wneud penderfyniadau rheoli sympathetig ac ar sail gwybodaeth heb beryglu'r arwyddocâd hanesyddol. 

Gofynion

  • dylid cadw adeiladau a strwythurau parciau a gerddi hanesyddol a gwneud gwaith cynnal a chadw arferol, megis gwaith sylfaenol i dynnu prysgwydd
  • dylid gosod mannau bwydo a chafnau dŵr newydd ymhell oddi wrth nodweddion hanesyddol rhag i dda byw sathru tir ac erydu
  • dylid gosod mannau bwydo a chafnau dŵr newydd ymhell oddi wrth goed tir parc rhag i dda byw ddifrodi gwreiddiau, cywasgu pridd a thynnu rhisgl
  • dylid cadw llwybrau hanesyddol ac osgoi creu llwybrau ychwanegol sy'n darnio’r tir parc ac yn newid y cynllun hanesyddol
  • dylai'r gwaith o reoli parciau a gerddi cofrestredig sydd hefyd wedi'u dynodi'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) gael ei wneud yn unol ag UA7: Cynllun Rheoli Safle Dynodedig 

Peidiwch â gwneud y canlynol: 

  • caniatáu i dda byw ddifrodi tir parc / nodweddion gerddi.
  • difrodi llwybrau hanesyddol drwy dir parc
  • cael gwared ar blanhigion hanesyddol
  • caniatáu i dda byw neu beiriannau ddifrodi coed mewn tir parc
  • tynnu nodweddion strwythurol neu dirweddol neu aflonyddu arnynt
  • taflu neu storio deunydd, gan gynnwys storio dros dro.
  • ailfodelu'r dirwedd mewn ffordd sy'n ailbroffilio'r topograffi yn sylweddol

Adeiladau fferm traddodiadol 

Disgrifiad

Fel arfer, adeiladwyd adeiladau fferm traddodiadol cyn 1919, gyda waliau solet a chan ddefnyddio deunyddiau lleol, gan gynnwys llechi, carreg neu bren. Maen nhw fel arfer yn ddiaddurn ac wedi’u hadeiladu at ddiben ac mae gan lawer ohonynt y nodweddion allanol gwreiddiol o hyd. Maen nhw’n dystiolaeth hanesyddol bwysig o adeiladwaith domestig at ddiben ac arferion ffermio'r gorffennol, heb elfennau modern yn aml. Maen nhw’n rhan allweddol o'r amgylchedd hanesyddol ond nid ydynt wedi'u diogelu'n gyfreithiol o reidrwydd. Mae'n werth cadw adeiladau fferm traddodiadol gan eu bod yn cyfrannu at y dirwedd ehangach, golygfeydd a'n dealltwriaeth o hanes, ac maent hefyd yn strwythurau defnyddiol ac ymarferol. 

Rhaid cadw adeiladau traddodiadol ac olion strwythurau, waeth beth fo'u cyflwr oni bai eu bod yn achosi perygl amlwg. Diffinnir perygl amlwg at y dibenion hyn fel rhywbeth sy'n ddigon agos at hawl tramwy cyhoeddus neu ganiataol fel y gallai deunydd sy'n cwympo rwystro'r llwybr neu rywbeth sy'n ddigon agos at lwybr mynediad arall neu adeilad fel y gallai cerrig sy'n cwympo achosi difrod.  Os byddwch yn gwaredu adeilad traddodiadol neu ran o adeilad traddodiadol sydd yn eich barn chi yn achosi perygl, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth ffotograffig ei fod yn achosi perygl. 

Gofynion 

  • tynnwch lystyfiant newydd oddi ar waliau cyn i’r tyfiant gydio. Dylid trin tyfiant goresgynnol na ellir ei dynnu â llaw heb ddifrodi gwaith cerrig neu waith pwyntio â chwynladdwr systemig, drwy chwistrellu'r coesyn, a'i adael yn ei le i farw a chwympo i'r llawr
  • tynnwch lystyfiant sy'n tyfu yn erbyn waliau allanol, lle nad yw gwneud hynny'n lleihau uniondeb strwythurol y waliau sy'n weddill, a sicrhewch nad yw pridd yn cronni wrth waelod waliau neu uwchben lefel rhwyllau awyru o dan y llawr neu frics aer. Archwiliwch sianeli a gylïau draenio am graciau ac uniadau agored, a'u selio os oes angen. Dylech osgoi storio deunyddiau y tu allan i'r adeilad yn agos at y waliau
  • ailosodwch gerrig rhydd unigol a gwneud gwaith pwyntio neu rendro ar ddarnau bach gan ddefnyddio morter calch hydrolig. Peidiwch â phwyntio unrhyw holltau ar grib y wal na selio bylchau rhwng waliau ag estyll talcen / tywydd / soffit.  Yn ogystal, dylech adael 10% o'r holltau sy'n weddill heb eu llenwi. Archwiliwch unrhyw holltau rydych am eu llenwi â thortsh cyn dechrau unrhyw waith ac, os gwelwch unrhyw ystlumod neu faw ystlumod, rhowch y gorau i'r holl waith pwyntio a cheisio cyngor. Dylech wneud y gwaith rhwng 15 Mawrth ac 1 Ebrill a/neu rhwng 1 Medi a 31 Hydref
  • cliriwch unrhyw ddail a gweddillion o landeri, yn enwedig yn ystod yr hydref a'r gaeaf
  • wrth ailosod pibellau dŵr, gosodwch ddarnau gwahanu pren y tu ôl i'r bracedau er mwyn gwella awyru a mynediad i ailaddurno. Os ydynt yn bresennol, sicrhewch fod rhwyllau a gorchuddion yn eu lle. Defnyddiwch rodenni i glirio draeniau os bydd angen

Atodiad 9: aelodau’r ford gron Gweinidogion a gweithgorau rhanddeiliaid

Y Ford Gron

Partneriaid y Ford Gron:

  • Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
  • Coed Cadw *
  • Confor
  • Cymdeithas Milfeddygon Prydain
  • Cymdeithas Pridd Cymru *
  • Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
  • Cymdeithas y Ffermwyr Tenant
  • Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru
  • DPJ Foundation
  • Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
  • Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
  • Hybu Cig Cymru
  • Rhwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
  • World Wild Fund for Nature
  • Ymddiriedolaethau Natur Cymru

*Hefyd yn cynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru (WEL).

Partneriaid grŵp swyddogion

  • Afonydd Cymru
  • Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
  • Coed Cadw *
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Confor
  • Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol
  • Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
  • Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cymdeithas Pridd Cymru  
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad
  • Cymdeithas y Ffermwyr Tenant
  • Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru
  • Cynrychiolydd milfeddygon annibynnol
  • Cyswllt Amgylchedd Cymru
  • Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
  • Game & Wildlife Conservation Trust
  • Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt
  • Grŵp Cynghrair Garddwriaeth Cymru
  • Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
  • Hybu Cig Cymru
  • Rhwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar
  • Sustainable Food Trust
  • Tirweddau Cymru / Landscapes Wales
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
  • World Wild Fund for Nature
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Grŵp Cyflawni Rhanddeiliaid Coed a Pherthi/Gwrychoedd

Partneriaid:

  • Coed Cadw *
  • Confor
  • Cymdeithas Pridd Cymru
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA Cymru)
  • Dŵr Cymru
  • Forest Research
  • Llais y Goedwig
  • Parciau Cenedlaethol Cymru
  • Rhwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar
  • Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
  • World Wild Fund for Nature
  • Ymddiriedolaeth y Bobl dros Rywogaethau mewn Perygl
  • Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Atodiad 10: geirfa

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Green House Gas (GHG) Emissions)

Mesur o’r nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gan dda byw, systemau ffermio a mewnbynnau tir. 

Arolygaeth Wledig Cymru (RIW) (Rural Inspectorate Wales)

Tîm o fewn Taliadau Gwledig Cymru sy’n gyfrifol am gynnal archwiliadau i sicrhau bod ffermwyr yn cydymffurfio.

Awdurdodau Rheoli Cymwys (Competent Control Authorities) 

Y cyrff sy’n gyfrifol am systemau rheoli swyddogol i gadarnhau ar ran Llywodraeth Cymru bod ffermwyr yn cydymffurfio â’r safonau a’r gofynion perthnasol. 

Bioamrywiaeth (Biodiversity)

Yr amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid (gan gynnwys yr eneteg ac ecosystemau) a geir ym mhob rhan o’n hamgylchedd.

Cod i Bawb (Universal Code)

Mae hwn yn drech na’r rheoliadau ac yn cynnwys cyfres o ofynion heb reoliadau sy’n berthnasol i bob ffermwr yn y cynllun. Mae’n cynnwys gofynion i ddiogelu’r pridd, bioamrywiaeth a chynefinoedd, coed a nodweddion y tirlun. Mae’n rhan o Ofynion y Cynllun. 

Cyfeirnod y Cwsmer (CRN) (Customer Reference Number)

Rhif unigryw a ddefnyddir gan Taliadau Gwledig Cymru (RPW) i adnabod pob busnes fferm. 

Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC) (Good Agricultural and Environmental Conditions)

Rhan o safon Trawsgydymffurfio’r BPS ond a fydd yn cael ei gynnwys yn Sylfaen Reoleiddio a Chod i Bawb yr SFS.

Cyfnod Pontio (Transition Period)

Y cyfnod rhwng 2026 a 2029 pan fydd elfennau gwahanol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael eu cyflwyno a gwerth Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei dapro. 

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (Natural Resources Wales (NRW))  

Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am roi cyngor ynghylch adnoddau naturiol Cymru ac am eu rheoleiddio.

Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) (Animal Health Improvement Cycle) 

Proses y bydd pob busnes fferm yn gweithio trwyddi gyda’i filfeddyg i wella iechyd ei anifeiliaid. 

Cynaliadwyedd (Sustainability)

Mae cynaliadwyedd yn golygu osgoi defnyddio’n holl adnoddau. At ddiben y Cynllun, mae cynaliadwyedd yn golygu agweddau economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol. Rhaid cadw cydbwysedd rhwng y cyfan er mwyn diogelu’n gallu i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol. 

Cynefin / Cynefin Lled-naturiol (Habitat / Semi-natural Habitat)

At ddiben y Cynllun, mae cynefin yn cyfeirio at yr amrywiaeth o wahanol fathau o dir fel rhos, gweirglodd flodeuog a gwlyptir. Mae pob un yn gartref i gasgliad gwahanol o blanhigion ac anifeiliaid sy’n dibynnu ar y cynefin i oroesi. Mae ‘lled-naturiol’ yn golygu cynefinoedd sydd wedi cael eu newid gan ddyn ond eu bod yn dal i gynnal planhigion ac anifeiliaid sydd i’w cael yn naturiol yn yr ardal.

Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Pherthi/ Gwrychoedd (Tree and Hedgerow Planting Opportunity Plan)

Cynllun i fanteisio ar gyfleoedd i blannu (neu adfer) mwy o goed a pherthi ar bob fferm trwy RPW Ar-lein.

Cynllun Cymorth Amlflwydd (Multi-annual Support Plan)

Rhag-gynllun sy'n nodi sut mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cymorth i amaethyddiaeth am y pum mlynedd nesaf.

Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) (neu yn y ddogfen hon ‘y Cynllun’) (Sustainable Farming Scheme)

Y prif gynllun cymorth gan Lywodraeth Cymru i ffermwyr Cymru o 2026 ymlaen.  

Cynllun Rheoli Safle Dynodedig (Designated Site Management Plan)

Cynllun Rheoli y bydd y ffermwr ac CNC yn cytuno arno i wella cyflwr safle dynodedig fel SoDdGA

Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) (Basic Payment Scheme) 

Y prif gynllun cymorth amaethyddol ar hyn o bryd i roi cymorth ariannol i’r diwydiant ffermio. 

Cynllun y Taliad Sylfaenol - Tapro (Basic Payment Scheme taper)

Y gostyngiadau i’r taliadau BPS dros y cyfnod pontio. 

Cynnyrch Diogelu Planhigion (PPP) (Plant Protection Products)

Cynhyrchion cemegol gan gynnwys chwynladdwyr, plaladdwyr a rheolyddion twf planhigion. 

Cyswllt Ffermio (Farming Connect)

Consortiwm o ddarparwyr sy’n rhoi cyngor a hyfforddiant i ffermwyr ar ran Llywodraeth Cymru. 

Dangosfwrdd (Dashboard)

Golwg RPW Ar-lein o’r Gweithredoedd Cyffredinol a fydd yn berthnasol ar bob fferm. Bydd modd ei ddiweddaru a chadarnhau bod Gweithred wedi’i chwblhau yn ystod y flwyddyn.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) (Key Performance Indicators)

Set o dargedau mesuradwy (yn ymwneud â busnes, da byw, amgylchedd a rheoli) sy’n darparu data all helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau rheoli. 

Dal a storio (atafaelu) carbon (Carbon sequestration)

Y broses y mae systemau naturiol yn ei defnyddio i dynnu carbon deuocsid o’r atmosffer a’i gloi mewn pridd a phlanhigion e.e. mawn. Ceir dulliau technolegol o ddal a storio carbon sydd y tu allan i gwmpas y Cynllun hwn.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) (Continuous Professional Development (CPD)) 

Proses ddysgu a datblygu barhaus i feithrin sgiliau a gwybodaeth. 

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Agriculture (Wales) Act 2023)

Cyfeirir ati hefyd fel ‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’: deddf newydd Gymreig sy’n rhoi’r pwerau cyfreithiol i Weinidogion Cymru gefnogi gweithgareddau amaethyddol yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn creu amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy. 

Dyddiadur Gweithgarwch (Activity Diary)

Cofnod o’r gweithgareddau rheoli ar gynefin fel dyddiadau hau neu symud da byw. Bydd gofyn i ffermwyr ar y Cynllun ei gadw fel tystiolaeth eu bod yn cynnal ac yn creu cynefinoedd. 

Ecosystemau (Ecosystems) 

Y berthynas gymhleth o fewn a rhwng cynefinoedd, sy’n cynnal ac yn rheoli llawer o brosesau amgylcheddol, fel darparu aer glân, dŵr glân, bioamrywiaeth lewyrchus a’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.

FarmData+

Erfyn meincnodi ar-lein gan Cyswllt Ffermio. 

Ford Gron y Gweinidogion (Ministerial Roundtable)

Grŵp rhanddeiliaid gafodd ei sefydlu yn 2025 i gynrychioli ffermwyr, cadwyni cyflenwi, natur, milfeddygon, bwyd a choedwigaeth.

Ffurflen Cais Sengl (SAF) (Single Application Form)

Y broses flynyddol y mae ffermwyr yn ei dilyn i ymgeisio am daliadau cynlluniau arwynebedd, a’u hawlio.

Glastir / Cynllun Cynefin Cymru (Glastir/ Habitat Scheme Wales)

Glastir yw’r hen gynllun amaeth-amgylcheddol, a gafodd ei redeg gyda’r BPS tan 2023, i dalu am waith rheoli cynefinoedd a chreu perthi/gwrychoedd. 

Dechreuwyd yr HSW yn 2024, fel cynllun i helpu ffermwyr i barhau â gweithgareddau cynnal cynefinoedd rhwng diwedd Glastir a dechrau’r SFS. Mae’r cynllun yn cynnwys elfen tir fferm a thir comin. Daw elfen gymorth yr HSW ar gyfer tir fferm i ben yn 2025.

Gofyn y Cynllun bod 10% yn Gynefin (10% Scheme Requirement)

Rhaid i ffermwyr sy’n ymuno â’r Cynllun reoli 10% o’u tir fel cynefin er lles yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Gallwch greu cynefin dros dro ychwanegol os nad oes gennych ddigon o gynefin parhaol. 

Gofynion y Cynllun (Scheme Requirements)

Set o safonau - wedi’u rheoleiddio a heb eu rheoleiddio - sy’n sail i’r Cynllun.

Gweithred Gyffredinol (UA) (Universal Action)

Mae’r Cynllun wedi’i rannu’n dair haen neu lefel. Yr haen sylfaenol yw’r Gweithredoedd Cyffredinol y bydd angen i bob ffermwr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun eu cynnal. Byddan nhw’n cael y Taliad Cyffredinol am wneud hynny. 

Gweithred Gydweithredol (Collaborative Action)

Gweithredoedd Cydweithredol yw’r rheini y gall ffermwyr ddewis cydweithio â’i gilydd a chydag eraill i’w cynnal i sicrhau canlyniadau na all un fferm ar ei phen ei hun eu cynnal, hynny yn gyfnewid am daliad ychwanegol trwy’r Cynllun. 

Gweithred Opsiynol (Optional Action)

Gweithredoedd Opsiynol i’r rheini y mae ffermwyr yn cael dewis eu cynnal sy’n ychwanegol at y Gweithredoedd Cyffredinol, gan ddibynnu ar beth sy’ fwyaf addas i fusnes y fferm a’i amcanion. Bydd ffermwyr yn cael taliadau ychwanegol am eu cynnal.

Gwerth cymdeithasol (Social Value)

Mae gwerth cymdeithasol yn golygu’r manteision ychwanegol y mae ffermwyr yn eu darparu er lles cymdeithas trwy gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, mwy o fioamrywiaeth, dal a storio carbon, gwella ansawdd dŵr.

Gwytnwch (cadernid, y gallu i wrthsefyll) (Resilience)

Y gallu i osgoi sioc all amharu ar system ac ymadfer ar ei ôl. At ddiben y Cynllun, mae hyn yn cyfeirio’n bennaf at allu busnes fferm i wneud ei hun yn wytnach i allu gwrthsefyll ergydion negyddol posibl fel newidiadau yn y farchnad, y newid yn yr hinsawdd a chlefydau anifeiliaid a phlanhigion. 

Llinell sylfaen carbon ar lefel y fferm (Farm level carbon baseline)

Ffordd i fesur y llinell sylfaen carbon ar bob fferm (faint o garbon sy’n cael ei ddal a’i storio a’i hallyriadau nwyon tŷ gwydr). Bydd yn dangos y cyfleoedd sydd gan ffermwyr i leihau eu hôl troed carbon a gweithio at fod yn Sero Net.

Meincnodi (Benchmarking)

Dull ar gyfer monitro set o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i roi data i ffermwyr allu gwneud penderfyniadau rheoli. 

Panel Adolygu Tystiolaeth ar Atafaelu Carbon (Carbon Sequestration Evidence Review Panel)

Is-grŵp o randdeiliaid y Ford Gron Gweinidogion a edrychodd ar y dystiolaeth oedd ar gael o’r pethau ychwanegol y gellid eu cynnwys yn y Cynllun i ddal a storio carbon. 

Porfa (pasture)

Yn y ddogfen hon, llain o laswellt neu gnwd pori arall. 

Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) (Environment and Rural Affairs Monitoring and Modelling Programme)

Partneriaeth ymchwil a chasglu tystiolaeth wyddonol o dan arweiniad Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU ar ran Llywodraeth Cymru.

Rhaglen Waith (Schedule of Works)

Rhan o Gynllun Rheoli Safle Dynodedig sy’n cynnwys set o weithgareddau rheoli y bydd ffermwyr yn cael eu gwneud i wella cyflwr safle dynodedig fel SoDdGA. 

Rheolaeth Integredig ar Blâu (IPM) (Integrated Pest Management)

Ffordd holistig o reoli plâu a chlefydau.

Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) (Sustainable Land Management) 

Fordd holistig a bennir yn y Ddeddf o ddefnyddio adnoddau amgylcheddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol mewn ffordd sy’n cadw’r cydbwysedd rhwng anghenion cenedlaethau heddiw a’n hymrwymiadau i genedlaethau’r dyfodol.

Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) (Environmental Impact Assessment (EIA) Regulations

Rheoliadau sy’n cael eu defnyddio i ystyried effeithiau prosiectau ar yr amgylchedd.

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) (Site of Special Scientific Interest (SSSI))

Dynodiad ffurfiol ar gyfer darn o dir neu ddŵr sydd o werth arbennig oherwydd ei fywyd gwyllt neu ei ddaeareg. Mae SoDdGA yn cael ei amddiffyn trwy ddeddfwriaeth benodol. 

Safon Goedwigaeth y DU (UKFS) (UK Forestry Standard)

Y safon ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y DU. Mae’n berthnasol i bob coetir, waeth pwy sy’n ei reoli neu’n berchen arno. 

Sero Net (Net Zero)

Ceisio cydbwysedd rhwng y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu gollwng i’r atmosffer a’r rheini sy’n cael eu tynnu ohono, er enghraifft trwy ddal a storio carbon.

Storfa sgiliau (Skills store)

Erfyn ar-lein gan Cyswllt Ffermio i weinyddu a chofnodi’r gwaith dysgu sy’n cael ei wneud. 

Sylfaen Reoleiddio’r SFS (Regulatory Baseline)

Set o reoliadau sy’n ymdrin yn benodol â’r Cynllun. Rhan o Ofynion y Cynllun. 

System Adnabod Parseli Tir (LPIS) (Land Parcel Identification System) 

Y system y mae Taliadau Gwledig Cymru yn ei defnyddio i storio a dadansoddi data caeau.

Taliad Cyffredinol (Universal Payment)

Y taliad blynyddol i bydd pob ffermwr yn ei gael oddi wrth Lywodraeth Cymru am gynnal y Gweithredoedd Cyffredinol. 

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) (Rural Payments Wales)

Yr isadran o fewn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am weinyddu gwybodaeth a thaliadau mewn cysylltiad â ffermio a rheoli tir. 

Targed ar lefel y Cynllun ar gyfer plannu coed a pherthi/gwrychoedd (Scheme level target for trees and hedge planting)

Targed cenedlaethol ar gyfer cynyddu’r gorchudd coed a pherthi ar ffermydd Cymru i daro’r targedau newid hinsawdd. Mae hyn yn cymryd lle’r hen Ofyn bod 10% o bob fferm o dan goed.