Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Mae ffyrdd lleol ledled Cymru yn cael eu trwsio wrth i waith ddechrau o ganlyniad i gynllun sy'n datgloi hyd at £120m i gynghorau lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn ymweld ag un o'r ffyrdd cyntaf i elwa, sef yr A548 yn Sir Conwy rhwng Abergele a Llangernyw.

Mae'r fenter i fenthyca i lywodraeth leol yn darparu £10m o gyllid refeniw ychwanegol i gynghorau lleol i'w galluogi i gael mynediad at £120m o gyllid cyfalaf ychwanegol dros ddwy flynedd, i gyflymu'r broses o drwsio ein ffyrdd a'n palmentydd lleol.

Bydd yr hwb ariannol yn golygu y bydd 600km ychwanegol o'r rhwydwaith ffyrdd lleol yn cael wyneb newydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd y ffyrdd sydd angen eu hatgyweirio fwyaf yn cael eu hadnewyddu, gyda dros 200,000 o filoedd o dyllau yn cael eu trwsio a'u hatal, a phalmentydd yn cael eu hatgyweirio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae'r cynllun wedi'i ddylunio mewn partneriaeth agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cael cyllid i'w helpu i ddatgloi'r cyllid i drwsio ffyrdd ar eu rhwydweithiau ledled Cymru. Mae gwaith eisoes wedi dechrau mewn rhai awdurdodau lleol a bydd hyn yn trwsio miloedd o dyllau ac yn atal cannoedd o filoedd yn y blynyddoedd i ddod.

Yn Sir Conwy mae'r gwaith ar yr A548 yn golygu oddeutu 14km o wyneb newydd a fydd yn trwsio ac yn atal tua 4000 o dyllau. Mae rhan o'r ffordd eisoes wedi'i chwblhau fel rhan o'r cynllun, gan ei gwneud yn un o'r cyntaf i elwa.

Dywedodd Ken Skates:

Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon. Nid yn unig yr ydym yn darparu £25m ychwanegol i drwsio ac atal tyllau ar ein rhwydwaith ffyrdd strategol, ond rydym hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i drwsio ffyrdd lleol.

"Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, gan ddatrys problemau nawr a gwneud ein ffyrdd yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld mwy a mwy o ffyrdd lleol yn cael eu trwsio dros y misoedd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau Conwy:

Rydym yn croesawu’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i wella cyflwr ein ffyrdd. Ein rhwydwaith ffyrdd yw ased fwyaf a mwyaf gwerthfawr y Cyngor ac mae’n hynod bwysig i’n trigolion. Ochr yn ochr â £2miliwn o fuddsoddiad gan y Cyngor, mae’n golygu y byddwn yn gwario dros £6miliwn eleni ar roi arwyneb newydd ar ffyrdd – gan drwsio tyllau presennol a thrin yr arwyneb fel bod llai o dyllau newydd yn ffurfio.