Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i fframwaith apeliadau’r dreth gyngor. Rwy’n cadarnhau y byddwn yn symud ymlaen â’r gwelliannau arfaethedig yn sgil y safbwyntiau cadarnhaol a ddaeth i law.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 10 Ionawr 2025 a daeth i ben ar 3 Ebrill 2025. Cafwyd 33 o ymatebion, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i unigolion, rhanddeiliaid a sefydliadau a roddodd o’u hamser i ystyried yr ymgynghoriad hwn ac ymateb iddo’n fanwl. Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yma: Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor: crynodeb o ymatebion

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i’n nod o wneud y dreth gyngor yn decach, ac un elfen o’r gwaith hwn yw gwella’r broses apelio fel ei bod yn symlach, yn fwy effeithiol ac yn haws i drethdalwyr ei defnyddio. Mae’r newidiadau yn canolbwyntio ar sicrhau bod camau’r broses yn gliriach rhwng cyfrifoldebau Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru, gan rymuso talwyr y dreth gyngor i ddewis at ba bwynt o’r broses y maent yn dymuno ymwneud â hi, sicrhau bod mwy o ddata eiddo yn cael ei rannu â threthdalwyr yn gynharach yn y broses yn ogystal â sicrhau gwell taith y cwsmer.

Byddaf yn cyflwyno Rheoliadau maes o law i roi effaith i’r gwelliannau hyn a bwriadaf i’r newidiadau ddod i rym erbyn mis Chwefror 2026.