Neidio i'r prif gynnwy

Argymhelliad 1: Mabwysiadu set ddiwygiedig o feini prawf gwasanaeth allweddol

Derbyn

Trafnidiaeth Cymru (TrW) yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn derbyn y meini prawf gwasanaeth allweddol canlynol fel trothwyon i fesur perfformiad gwasanaethau TrawsCymru:

  1. dylai gwasanaethau TrawsCymru gysylltu â chyfres o ganolfannau trafnidiaeth gyhoeddus
  2. cysylltu canolfannau allweddol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan y rhwydwaith rheilffyrdd
  3. yn darparu cysylltiadau uniongyrchol rhwng cyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus allweddol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n uniongyrchol gan y rhwydwaith rheilffyrdd
  4. dylai weithredu o leiaf unwaith bob 2 awr yn ystod yr wythnos a dydd Sadwrn
  5. dylai weithredu trwy ardaloedd o amddifadedd uwch na'r cyfartaledd o ran mynediad at wasanaethau cyhoeddus
  6. dylai ddarparu gwerth da am arian o ran cymhorthdal fesul teithiwr a gludir
  7. dylai ategu llwybrau rheilffordd lle bo hynny'n bosibl a'u dylunio'n ofalus i sicrhau lefelau da o integreiddio gwasanaethau
  8. dylid ei gynllunio'n ofalus fel rhan o rwydwaith integredig a dylid osgoi unrhyw redeg cyfochrog diangen â gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd lleol eraill lle bo hynny'n bosibl
  9. dylai fod dros 30km o hyd 'o'r dechrau i'r diwedd'
  10. dylai weithredu o leiaf 80% o'r milltiroedd gwasanaeth yng Nghymru.

Mae'r diwygiadau i feini prawf y gwasanaeth yn ymgais resymegol i fireinio'r meini prawf gafodd eu mabwysiadu'n wreiddiol yn 2016/17.

Argymhelliad 2: Canolbwyntio ar hyrwyddo'r rhwydwaith ar gyfer teithio pellter hirach

Derbyn

Yn yr adolygiad, dangosodd TrC fod teithwyr ar wasanaethau TrawsCymru yn teithio 30km ar gyfartaledd. Mae hynny'n cymharu ag 8km ar wasanaethau bws lleol yng Nghymru.

Felly, mae TrC yn argymell ein bod yn canolbwyntio ar fuddsoddi mwy i wella amserlenni, prisiau a chyfleusterau ar gerbydau i annog teithwyr i wneud mwy o deithiau hirach. 

Argymhelliad 3: Parhau â chaffael gwasanaethau TrawsCymru yn uniongyrchol gan Drafnidiaeth Cymru

Derbyn

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gofyn i TrC gymryd yr awenau ac ailgaffael contractau gwasanaeth TrawsCymru, gan symud oddi wrth y trefniadau blaenorol lle roeddem yn rhoi grantiau i awdurdodau lleol i dendro gwasanaethau ar ein rhan.

Yn yr Adolygiad, mae Trafnidiaeth Cymru wedi darparu tystiolaeth sut mae'r dull uniongyrchol hwn wedi eu galluogi i wella safonau ansawdd gwasanaethau yn ôl sawl mesur a sicrhau bod safonau'r gwasanaeth yn fwy cyson ar draws y rhwydwaith.

Daw'n bwysicach fyth bod TrC yn tendro gwasanaethau'n uniongyrchol wrth i ni ddechrau cynllunio rhwydwaith masnachfraint mwy integredig o wasanaethau bysiau lleol.

Argymhelliad 4: Mabwysiadu dull graddol o drosi gwasanaethau TrawsCymru i weithrediad allyriadau sero

Derbyn

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dangos yn yr Adolygiad eu bod wedi gwneud dechrau da ar drosi gwasanaethau TrawsCymru o ddisel i fysiau di-allyriadau trwy ddefnyddio 15 o fysiau cwbl drydanol newydd ar rwydwaith TrawsCymru. Maent bellach yn cael eu defnyddio ar ryw 20% o filltiroedd rhwydwaith TrawsCymru.

Yn ein Strategaeth Sero Net wreiddiol yn 2019, gosodwyd targed y dylai holl fysiau gwasanaeth TrawsCymru fod yn ddi-allyriadau erbyn diwedd 2026.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn esbonio yn yr adolygiad na fydd modd cyrraedd y targed gwreiddiol hwn, gan y byddai angen 40 o gerbydau di-allyriadau ychwanegol a chyfleusterau gwefru a chynnal a chadw / depo newydd ar gyfer y rhwydwaith.

O ystyried y gofynion gwefru a depo cymhlethach ar gyfer y cerbydau hyn a'r amserlen gaffael hirach, mae Trafnidiaeth Cymru wedi argymell ein bod yn mabwysiadu dull fesul cam mwy ymarferol a phragmatig i drawsnewid gwasanaethau.

Maent yn argymell yn y tymor byr bod yr holl dendrau gwasanaeth newydd yn cael eu rhoi ar yr amod bod y gwasanaethau'n defnyddio'r cerbydau diesel Euro 6 diweddaraf a glanaf y bydd Trafnidiaeth Cymru'n eu darparu i'w defnyddio ar y contract. Bydd contract pob gwasanaeth, a fydd fel arfer yn para rhwng 5 a 7 mlynedd, yn cynnwys cymalau sy'n caniatáu i gerbydau di-allyriadau gael eu cyflwyno'n ddiweddarach yn ystod oes y contract.

Bydd angen datblygu'r symudiad at fflyd di-allyriadau gyda'r rhaglen gyfalaf ar gyfer masnachfreinio seilwaith a bysiau ac rydym yn argymell bod TrC yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu fflyd di-allyriadau ar gyfer rhwydwaith TrawsCymru erbyn diwedd 2031.

Rhagwelir mai tua £24m fydd cost gyfalaf trosi'r holl wasanaethau ar rwydwaith TrawsCymru yn ddi-allyriadau.

Argymhelliad 5: Parhau gyda chynigion i symleiddio prisiau a threfniadau tocynnau ar TrawsCymru

Derbyn

Mae Trafnidiaeth Cymru yn argymell ein bod yn defnyddio'r cyfle y mae ail-dendro gwasanaeth yn ei gynnig i gyflwyno system docynnau safonol a symlach ar draws rhwydwaith TrawsCymru, gan gynnwys prisiau yn seiliedig ar bellter.

Mae'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau ac mae system docynnau symlach eisoes wedi'i chyflwyno ar wasanaethau sydd wedi cael eu hail-dendro yn ddiweddar gan Trafnidiaeth Cymru.

Dylai hyn fod yn gyson â'r cynigion eraill ar gyfer masnachfreinio'r rhwydwaith bysiau.

Argymhelliad 6: Trosglwyddo rhai o wasanaethau TrawsCymru i rwydweithiau bysiau lleol

Derbyn

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweld nad yw rhai o wasanaethau presennol TrawsCymru bellach yn bodloni'r gofynion strategol gofynnol ar gyfer defnyddio brand rhwydwaith TrawsCymru.

Mae TrC wedi argymell y dylid darparu gwasanaethau newydd ar ôl i'r contractau presennol ddod i ben, y tu allan i frand TrawsCymru.

Mae trafodaethau gyda'r awdurdodau lleol perthnasol ar y gweill ynghylch sut i weinyddu contractau newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd yn yr adolygiad, credwn fod hyn yn rhesymol. Ond rydym yn argymell na ddylid newid y gwasanaethau hyn nes bod Trafnidiaeth Cymru yn cytuno ar rai addas yn eu lle gyda'r awdurdodau lleol perthnasol fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gynllunio bysiau rhanbarthol.

Y gwasanaethau unigol dan sylw yw:

T1A a T1X Aberystwyth i Gaerfyrddin

Mae'r rhain yn wasanaethau anaml sy'n cael eu gweithredu ar gyrion prif gontract gwasanaeth TrawsCymru T1 Aberystwyth i Gaerfyrddin. Mae Trafnidiaeth Cymru yn archwilio'r ffordd orau o wasanaethu'r cymunedau hyn gyda gwasanaethau bysiau lleol amgen.

T11 Hwlffordd i Abergwaun

Mae hwn yn wasanaeth a ddefnyddir yn aml gan bobl sy'n gwneud teithiau lleol yn bennaf, ac mae'n cysylltu Tyddewi ag Abergwaun a Hwlffordd. Ar y sail hon rydym yn mynd i gynnal ein cefnogaeth ariannol i’r gwasanaeth.

T12 Machynlleth i Wrecsam

Yn ddiweddar mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud newidiadau i’r llwybr hwn, sy’n cael ei ariannu ganddyn nhw. Mae gwasanaeth T12 wedi cael ei ddisodli yn rhannol gan wasanaeth X76 newydd sy’n cysylltu Croesoswallt â’r Drenewydd, a gwasanaeth X85 sy’n cysylltu’r Drenewydd â Machynlleth. Mae cysylltiadau gwasanaethau bysiau lleol rhwng Croesoswallt a Wrecsam yn cael eu darparu gan wasanaethau 2 / 2A Bysiau Arriva Cymru.

T14 Aberhonddu i Henffordd

Mae Cyngor Sir Powys wedi cymryd cyfrifoldeb am ariannu'r gwasanaeth hwn, ac mae'r cyngor wedi ail-dendro'r gwasanaeth yn ddiweddar a bydd yn cael ei ailrifo i X44 ym mis Medi 2025.

T22 Blaenau Ffestiniog i Gaernarfon

Cyngor Gwynedd sy'n talu am y gwasanaeth hwn a bydd yn parhau fel y mae nes bod y rhwydwaith masnachfraint rhanbarthol newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer y gogledd.

X43 / 43 Aberhonddu i'r Fenni

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Gyngor Sir Powys, a bydd yn parhau i gael ei gontractio ganddynt.

460 Caerfyrddin i Aberteifi

Ar hyn o bryd Cyngor Sir Gâr sy'n ariannu'r gwasanaeth hwn a bydd yn parhau i gael ei gontractio ganddynt fel rhan o'r rhwydwaith masnachfraint diwygiedig ar gyfer y de-orllewin.

Argymhelliad 7: Tynnu gwasanaeth bysiau T1C yn ôl sy'n cysylltu Aberystwyth â Chaerdydd

Heb ei dderbyn

Nid ydym wedi derbyn yr argymhelliad gan Trafnidiaeth Cymru i ddileu'r gwasanaeth bysiau dyddiol T1C TrawsCymru rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Mae'r gwasanaeth hwn yn parhau i ddarparu cyswllt strategol pwysig rhwng gorllewin Cymru a Chaerdydd. 

Yn hytrach na thynnu'r gwasanaeth T1C yn ôl, rydym wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru:

  • edrych ar ffyrdd o wella trefniadau trwy 'docynnau drwodd' rhwng gwasanaethau bysiau TrawsCymru a gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghaerfyrddin
  • nodi cyfleoedd pellach i wella cysylltiadau bysiau lleol rhwng Llandysul a Chaerfyrddin fel rhan o'r cynigion masnachfreinio bysiau
  • cynnal astudiaeth ddichonoldeb fanwl o wasanaethau bysiau 'cyflym' ychwanegol TrawsCymru sy'n cysylltu Caerfyrddin ag Aberystwyth drwy Landysul
  • ymgynghori â chymunedau lleol a chynrychiolwyr etholedig yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan unrhyw welliannau neu newidiadau gwasanaeth yn y dyfodol.