Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal: trafodaeth y bwrdd Mai 2025
Diweddariad Mai 2025 am waith y bwrdd rhaglen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan, gyda'r nod ganolog o weld mwy o blant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw gyda’u teuluoedd ac yn eu cymdogaethau, gan leihau'r nifer y mae angen eu lleoli o fewn y system ofal. Rydym am sicrhau bod y cyfnodau y mae pobl ifanc yn eu treulio mewn gofal mor fyr â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Ein gweledigaeth yw ailgynllunio ein ffordd o ofalu am blant a phobl ifanc er mwyn inni allu gwneud y peth gorau dros ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau, drwy wasanaethau sy’n cael eu darparu a’u cynllunio’n lleol, ac sydd hefyd yn atebol yn lleol.
Mae ein cynigion yn canolbwyntio i ddechrau ar y gofal preswyl i blant a ddarperir yn breifat, ochr yn ochr â gofal maeth a llety diogel a ddarperir gan y sector annibynnol.
Mae bwrdd y rhaglen yn fwrdd amlasiantaeth sydd wedi’i greu i fwrw ymlaen â’r gwaith technegol a datblygu i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, llywio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol, a sicrhau sefydlogrwydd yn y farchnad.
Crynodeb o drafodaethau Bwrdd y Rhaglen: 19 Mai 2025
Hynt y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) (y ddeddf)
- Pasiwyd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), sy'n cynnwys y darpariaethau dileu elw, gan y Senedd ar 4 Chwefror 2025. Derbyniodd Gydsyniad Brenhinol, a daeth yn Ddeddf ar 24 Mawrth 2025.
- Roedd gwaith yn mynd rhagddo i lunio rhestr o newidiadau posibl y byddai angen eu gwneud i'r rheoliadau presennol o ganlyniad i weithredu elfennau dileu elw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ("y ddeddf").
- Roedd dogfennaeth ar gyfer yr ymgynghoriad sy'n ymdrin â'r dull gweithredu arfaethedig i ymdrin â chofrestru a monitro a gorfodi trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur, yn cael ei llunio cyn lansio'r ymgynghoriad yn yr haf 2025.
Cyllid
Cafodd cyllid ei gadarnhau yn ddiweddar ar gyfer sawl maes gwaith i helpu i weithredu'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys:
- cyllid refeniw i Gwmpas i helpu'r darparwyr er elw presennol i ailsefydlu o dan un o'r pedwar model busnes a amlinellir yn y ddeddf
- cyllid refeniw i awdurdodau lleol i gefnogi a datblygu gwasanaethau fel rhan o'r gwaith gweithredu, yn ogystal ag ar gyfer yr agenda ddiwygio radical i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal
- cyllid refeniw i Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gefnogi a chydgysylltu'r gweithgarwch cynllunio a wneir gan awdurdodau lleol ledled Cymru
Cyfathrebu
Yn dilyn mewnbwn helaeth gan randdeiliaid, cyhoeddwyd negeseuon pwrpasol ynghylch dileu elw ar dudalen we Llywodraeth Cymru ar 11 Ebrill. Rhannwyd y negeseuon hyn ag amrywiaeth eang o randdeiliaid perthnasol, gan gynnwys holl aelodau bwrdd y rhaglen, er mwyn eu cylchredeg.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru weithdai yn Wrecsam a Chaerdydd ar 1 Ebrill 2025 ac 11 Ebrill 2025 ar gyfer darparwyr gofal preifat. Nod y gweithdai oedd rhoi diweddariad i ddarparwyr ar y ddeddfwriaeth derfynol a'r amserlenni gweithredu arfaethedig, gan roi cyfle iddynt ofyn cwestiynau i swyddogion a nodi unrhyw feysydd lle maent yn teimlo bod angen eglurder a chefnogaeth ychwanegol. Byddai dogfen gyfathrebu bwrpasol bellach ar gyfer darparwyr yn cael ei pharatoi yn seiliedig ar y cwestiynau a ofynnwyd yn ystod y gweithdai hyn.
Yn ogystal â'r negeseuon wedi'u targedu, cafodd adroddiad ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 6 Mai 2025, a'i rannu gydag aelodau bwrdd y rhaglen. Mae'r adroddiad hwnnw, y cyntaf mewn cyfres o adroddiadau bob 6 mis, yn rhoi trosolwg o'r sector yng Nghymru fel y mae ar hyn o bryd, gan roi data diweddar ar nifer y gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau maethu, a gwasanaethau llety diogel, gan ddadansoddi hyn yn ôl y math o ddarparwr (awdurdod lleol nid-er-elw, darparwyr nid-er-elw eraill, neu ddarparwyr er-elw) ac ardal yr awdurdod lleol. Roedd gwybodaeth am y rheini sy'n dod i mewn i'r farchnad neu yn ei gadael wedi ei chynnwys hefyd, ochr yn ochr â data ar sefydlogrwydd lleoliadau a'r defnydd o eiriolaeth statudol. Cyhoeddwyd adroddiad am symud elw o ofal plant a gafodd eu harchwilio: trosi i fodel heb elw ar 6 Mai 2025.
Cofrestr risgiau a chofnod o wersi a ddysgwyd
Rhannwyd y gofrestr risgiau a'r cofnod o wersi a ddysgwyd cyn y cyfarfod. Roedd y geiriad wedi'i adolygu i sicrhau bod y derminoleg yn adlewyrchu'n gywir y broses o ailsefydlu o dan un o'r modelau nid-er-elw a restrir yn y Ddeddf. Nid oedd unrhyw newidiadau eraill wedi'u gwneud.
Cylch gorchwyl
Roedd cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y bwrdd wedi'i anfon at yr aelodau cyn y cyfarfod hwn. Dyma’r adolygiad a'r diweddariad cynhwysfawr cyntaf o'r ddogfen ers i'r bwrdd gael ei sefydlu, ac roedd y ddogfen wedi'i diwygio i adlewyrchu'r cyfnod gweithredu yr oedd y polisi ynddo ar y pryd.
Yn dilyn sylwadau gan aelodau, byddai swyddogion yn ystyried geiriad rhai adrannau cyn i'r bwrdd gwblhau'r fersiwn derfynol a'i chyhoeddi ar y dudalen we ar gyfer dileu elw.
Adroddiad gwybodaeth am y farchnad
Roedd adroddiad gwybodaeth am y farchnad wedi ei baratoi gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru a'i rannu â'r aelodau cyn y cyfarfod.
Ers cyfarfod blaenorol bwrdd y rhaglen, ac yn sgil y trafodaethau gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys data ar gartrefi plant preswyl awdurdodau lleol. Rhoddwyd diweddariad a oedd yn cynnwys y prif bwyntiau allweddol isod:
- Roedd gwasanaethau a gomisiynwyd oddi wrth ddarparwyr preswyl wedi cynyddu, ac roedd cartrefi newydd wedi cael eu hagor. Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw gynlluniau wedi'u nodi ar ôl 2026, ac roedd gan rai darparwyr gynlluniau a oedd yn bodoli eisoes i ehangu eu gwasanaethau, ond dim ond hyd at y dyddiad terfynol ym mis Ebrill 2027.
- Yn seiliedig ar y nifer presennol a oedd wedi cofrestru, roedd darpariaeth gofal preswyl awdurdodau lleol wedi cynyddu.
- O ran gofal maeth, roedd y lefel comisiynu gofal maeth annibynnol wedi gostwng, ond yn ôl adroddiadau roedd hynny o ganlyniad i ddigonolrwydd nid oherwydd symudiad tuag at ofal nid-er-elw.
- Roedd 1 darparwr gofal maeth er elw wedi'i brynu gan ddarparwr arall, ac roedd elusen wedi'i hamsugno gan elusen arall.
Diweddariad ar ffrwd waith 1
Roedd ffrwd waith 1 wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd ers cyfarfod blaenorol bwrdd y rhaglen.
Rhoddodd cadeirydd ffrwd waith 1 ddiweddariad yn y cyfarfod hwn, gan nodi bod y Gofrestr Risgiau wedi cael ei hystyried a'i thrafod ym mhob cyfarfod, ac nad oedd unrhyw newidiadau penodol yn cael eu hargymell ar hyn o bryd.
Byddai aelodau o ffrwd waith 1 hefyd yn helpu i gynhyrchu adroddiadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran y trawsnewid i fodel nid-er-elw fel yr amlinellir uchod.
Diweddariad ar ffrwd waith 2
Roedd ffrwd waith 2 hefyd wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd. Nid oedd cadeirydd y ffrwd waith hon yn gallu mynychu'r cyfarfod hwn, ac felly rhoddwyd diweddariad ysgrifenedig i'r aelodau ar ôl y cyfarfod.
Roedd y diweddariad yn nodi bod trafodaethau sylweddol wedi eu cynnal yn canolbwyntio ar ddiwygio strwythurau llywodraethu o fewn y ffrwd waith a chreu 2 is-grŵp:
- 1 canolbwyntio ar dyfu'r ddarpariaeth nid-er-elw
- a'r llall ar ymgysylltu â newydd-ddyfodiaid yn y farchnad ym maes gofal plant
Roedd yr aelodau'n cefnogi'r dull gweithredu cyffredinol, gan gytuno i greu dau is-grŵp gydag aelodaeth eang ac esblygol i ddechrau, a sicrhau cydnawsedd â fforymau presennol Llywodraeth Cymru.
Diweddariad ar ffrwd waith 3
Rhoddodd cadeirydd bwrdd y rhaglen ddiweddariad i'r aelodau gan ddweud fod teimlad na ddylai'r grŵp barhau o ganlyniad i geisio barn aelodau ffrwd waith 3. Byddai cyfarfod terfynol yn cael ei gynnal o dan gadeiryddiaeth swyddogion Llywodraeth Cymru.
