Bydd yr ardoll ymwelwyr yn helpu cefnogi diwydiant twristiaeth ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru drwy roi'r dewis i gynghorau gyflwyno taliad bach ychwanegol ar aros dros nos yn eu hardal i ail-fuddsoddi mewn twristiaeth.
Mae’r Bil i gyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn cyrraedd cyfnod tri yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 1 Gorffennaf).
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r diwydiant twristiaeth mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys buddsoddi mwy na £70m eleni.
Mae Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cynnig y bydd pobl sy'n aros dros nos yng Nghymru ac yn mwynhau popeth sydd gan y wlad i'w gynnig yn talu tâl bach. Bydd yr holl arian a godir yn cefnogi gweithgarwch twristiaeth a seilwaith lleol.
Mae'r Bil eisoes wedi'i ddiwygio fel na fydd pobl dan 18 oed bellach yn gorfod talu'r ardoll wrth aros mewn hosteli neu wersylloedd.
Y gyfradd ar gyfer y rhai sy'n aros mewn hosteli ac ar gaeau gwersylla (18 oed a hŷn) fydd 75c y pen y noson (y gyfradd is). Bydd y gyfradd ar gyfer y rhai sy'n aros ym mhob math arall o lety yn £1.30 y pen y noson.
Ac yntau'n siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Mae'n gyfraniad bach a allai wneud gwahaniaeth mawr os yw cynghorau yn dewis ei gyflwyno yn eu hardaloedd lleol. Ry’n ni'n credu ei bod hi'n deg i ymwelwyr gyfrannu at gyfleusterau lleol, gan helpu i ariannu seilwaith a gwasanaethau sy'n rhan annatod o'u profiad.
Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd ac yn rhoi budd i gymunedau, twristiaid a busnesau lleol – ry'n ni eisiau'r un peth i Gymru.”
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector dros y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:
- Dros £15 miliwn ar gyfer cyllideb Croeso Cymru.
- Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru gwerth £50 miliwn.
- Cronfa gwerth £5 miliwn i helpu busnesau twristiaeth i gael y pethau sylfaenol iawn i Ymwelwyr.
- £1 miliwn ar gyfer grant gwrthsefyll tywydd
