Cynllun Ymestyn Band Eang Cyflym
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11289 - yn cefnogi'r cefnogi Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn darparu gwell gwasanaethau gofal ac iechyd integredig yn agosach i’r cartref.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Ymestyn Band Eang Cyflym
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Darparu band eang cyflym dibynadwy i gymaint o'r adeiladau "gwyn"* sy'n weddill â phosibl, gan ddefnyddio £70 miliwn o gyllid adfachu o brosiect Cyflymu Cymru, lle mae achos economaidd dros ymyrryd a chynyddu cwmpas band eang cyflym iawn o 96.86% i mor agos at 100% â phosibl.
*Mae adeiladau "gwyn" yn adeiladau sydd â chyflymder band eang llai na 30Mbps ac mae'r farchnad wedi dweud wrthym nad oes ganddynt unrhyw fwriad i ddarparu band eang cyflym dibynadwy ar eu cyfer o fewn y tair blynedd nesaf. (h.y., tystiolaeth o ddiffyg yn y farchnad a'r anghydraddoldebau cysylltiedig â band eang gwael).
5. Diben y cynllun
Er mwyn mynd i'r afael â chymaint o'r adeiladau sy'n weddill â phosibl, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu caffael contract fframwaith o sawl cyflenwr i gyflawni'r prosiect Ymestyn Band Eang Cyflym. Unwaith y bydd y fframwaith wedi'i sefydlu, y bwriad yw dyfarnu cyfres o gontractau yn ôl y gofyn ar ôl prosesau dethol cystadleuol unigol, a fydd yn darparu cyllid grant i ddarparwyr telathrebu i gwrdd â'r "bwlch" yn y costau sydd angen eu talu i ddarparu cysylltiadau cyflym iawn.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Bydd y fframwaith yn cael ei sefydlu fel dwy lot. Bydd y lot gyntaf ar gyfer prosiectau a fydd yn cwmpasu mwy na 1,000 o adeiladau a bydd wedi'i hanelu at ddenu'r cyflenwyr telathrebu mwy o faint. Bydd yr ail lot ar gyfer prosiectau sy'n cyflenwi i lai na 1,000 o adeiladau a bydd yn addas ar gyfer busnesau bach a chanolig a Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol.
8. Sectorau i’w cefnogi
Gwybodaeth a chyfathrebu
9. Hyd y cynllun
Bydd y cynllun yn rhedeg rhwng 4 Awst 2025 a 5 Awst 2033.
10. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn
£70,000,000
11. Ffurf y cymorth
Grant.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Er mwyn bod yn gymwys i fod ar y fframwaith, rhaid i gyflenwyr lenwi'r ffurflen gais sydd ynghlwm wrth y gwahoddiad i dendro ar borth eDendroCymru. Mae'r ffurflen yn cynnwys nifer o feini prawf llwyddo/methu.
Rhaid i ddatrysiad y cyflenwyr arwain at gyflymder band eang sy'n fwy na 30Mbps.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae costau darparu cysylltedd band eang yn hysbys yn sgil profiad o ddarparu cynlluniau band eang dros y degawd diwethaf. Enghraifft sy'n berthnasol i'r cynllun hwn yw'r cynllun presennol i gyflwyno band eang ffeibr llawn, mewn cydweithrediad ag Openreach, lle mae'r gost gyfartalog fesul adeilad yn £1,442 ar gyfer yr holl adeiladau sydd wedi'u cysylltu*, gan godi i £1,668 ar gyfer yr holl adeiladau dan gontract i gael eu cysylltu*. Mae'r gost wirioneddol fesul adeilad ar draws y cynllun yn amrywio'n sylweddol rhwng £200 a £20,000. O ystyried natur anghysbell yr 84,174 o adeiladau sy'n weddill, tybir y bydd y costau fesul adeilad tuag at ben uchaf yr ystod, o ystyried bod y gost ar gyfer cyflwyno ffeibr yn cynyddu wrth bellhau o'r rhwydwaith. Er mwyn sefydlu cost fesul safle ar gyfer yr 84,174 o adeiladau sy'n weddill, cyfrifwyd y gost gyfartalog fesul adeilad ar gyfer yr adeiladau hynny a oedd uwchlaw'r 'terfyn cost' yn y contract presennol. Y gost gyfartalog ar gyfer yr adeiladau hyn yw £6,000.
Ni fydd y cymhorthdal ond yn ariannu costau cymwys a bydd yn fodel a ariennir gan fwlch.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£70,000,000
15. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
