Bydd Fforwm Iwerddon-Cymru'n cytuno heddiw i ddyfnhau'r cydweithrediad rhwng Iwerddon a Chymru dros y pum mlynedd nesaf trwy lofnodi Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2030.
Bydd y Tánaiste Simon Harris TD a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan yn cwrdd yn Abertawe heddiw i lansio’r datganiad newydd, a fydd yn adeiladu ar lwyddiant Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2021-2025.
Bydd y ddwy lywodraeth yn ymrwymo i ddatblygu cysylltiadau agosach mewn amrywiaeth o wahanol feysydd, gan gynnwys cydweithrediad sy'n gysylltiedig ag
ynni adnewyddadwy, ymchwil ac arloesi, tra'n tynhau'r clymau diwylliannol, hanesyddol ac ieithyddol sy'n cysylltu'r ddwy genedl.
Mae Datganiad 2030 yn sefydlu fframwaith cydweithredu tan ddiwedd y degawd, yn dilyn y cytundeb blaenorol a lofnodwyd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2021.
Mae'r Datganiad yn disgrifio chwe maes cydweithio:
- Ymgysylltu ar Lefel Wleidyddol a Swyddogol
- Hinsawdd, Ynni, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
- Economi a Masnach
- Addysg, Ymchwil ac Arloesi
- Diwylliant, Iaith a Threftadaeth
- Cymunedau, Cymry/Gwyddelod ar Wasgar a Chwaraeon
Dywedodd y Tánaiste Simon Harris:
“Mae ein perthynas â Chymru yn parhau i fod yn bwysig iawn i Iwerddon. Mae’r Cyd-ddatganiad yn tanlinellu ehangder y cysylltiad rhyngom – ar draws masnach, ymchwil, ynni, diwylliant ac iaith. Mae hyn i gyd wedi’i ategu a’i smentio gan ein cysylltiadau bywiog a chyfoethog rhwng pobl.
“Mae’r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2030 yn ein galluogi i adeiladu ar y cydweithrediad rhagorol a gynhaliwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn darparu ffocws a momentwm newydd, gan gario’r bartneriaeth unigryw a bywiog hon ymlaen i’r degawd nesaf.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Mae'r Datganiad yn gam pwysig ymlaen yn ein perthynas ag Iwerddon. Trwy weithio gyda'n gilydd ar ein cyd-flaenoriaethau, gallwn wneud llawer mwy nag y gallem ar ein pen ein hunain.
"Mae'r bartneriaeth hon yn dangos cryfder ein clymau hanesyddol a'n hymrwymiad i fynd i'r afael â heriau cyffredin gyda'n gilydd. O ynni adnewyddadwy i ymchwil, o iaith i ddiwylliant, rydym yn cael ein huno gan werthoedd a dyheadau cytûn."
Yn y Fforwm heddiw, bydd y Prif Weinidog a'r Tánaiste yn gweld enghreifftiau byw o'r cydweithredu hwn, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn gweithio gydag ymchwilwyr yng Nghorc a Limerick ar heriau ynni, a chwmni MaresConnect, sy'n darparu rhyng-gysylltydd ynni rhwng y ddwy wlad. Byddant hefyd yn ymweld â chwmni gwyddorau bywyd ICON plc o Ddulyn, sydd gyda chanolfan yng Nghymru, ac yn cwrdd â Fforwm Awyrofod Cymru, sy'n meithrin cysylltiadau agosach ag Iwerddon.
