Datganiad ar y cyd Iwerddon-Cymru 2030
Datganiad ar y cyd gan y Tánaiste Simon Harris a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagarweithiad
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae ein Datganiad ar y Cyd rhwng Cymru ac Iwerddon wedi darparu fframwaith deinamig ar gyfer cydweithredu rhyngom, gan feithrin a chefnogi cysylltiadau ar draws Môr Iwerddon. Gan adeiladu ar ein cysylltiadau hanesyddol a chyfoethog, mae’r Datganiad yn adlewyrchu cyd-uchelgais Llywodraethau Cymru ac Iwerddon i ddatblygu a chryfhau ein cysylltiadau hirsefydlog, er budd ein pobl.
Mae’r Datganiad ar y Cyd wedi cefnogi datblygu cysylltiadau cydweithredol cryf rhwng Cymru ac Iwerddon ar draws nifer o feysydd, o ynni adnewyddadwy, i gysylltiadau addysg ac ymchwil, i warchod a hyrwyddo ein hieithoedd Celtaidd, adeiladu partneriaethau diwylliannol, a chefnogi ein cysylltiadau economaidd a masnachu.
Wrth i’n perthynas barhau i esblygu, mae’n hanfodol bod ein Datganiad ar y Cyd hefyd yn esblygu ac yn addasu. Rydym yn falch o fod wedi cytuno ar ein Datganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030 newydd – fframwaith sy’n edrych tua’r dyfodol, yn canolbwyntio ar weithredu ac sy’n rhoi cyfeiriad i’n cydweithrediad hyd at ddiwedd y degawd.
Gallwn fod yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yma.
Mae Fforwm Cymru-Iwerddon wedi dod yn ganolbwynt blynyddol, gan ddod â Gweinidogion, swyddogion a rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i dynnu sylw at gydweithio ac i nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol. Gyda swyddfa Conswl Cyffredinol Iwerddon wedi’i hailsefydlu yng Nghymru yn 2019, a’r berthynas waith gref iawn â swyddfa Llywodraeth Cymru yn Iwerddon, rydym wedi creu a chryfhau cysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru. Mae hyn wedi cynnwys drwy raglenni rheolaidd Dydd Gŵyl Dewi a Dydd San Padrig, a chyswllt rhwng ein seneddwyr, gan gynnwys drwy Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon.
Bydd y Datganiad ar y Cyd newydd yn ein galluogi i ganolbwyntio ar themâu a heriau allweddol ar gyfer Cymru ac Iwerddon dros y blynyddoedd nesaf.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi cydweithio a dysgu ar y cyd ynghylch ynni adnewyddadwy, yn enwedig datblygu sgiliau a chadwyni cyflenwi. Byddwn hefyd yn meithrin cysylltiadau ymchwil ac arloesi, yn enwedig rhwng ein sefydliadau academaidd ac ymchwil. Rydym yn croesawu mentrau fel Datblygu Cydweithrediad Môr Iwerddon (DISC), a fydd, gobeithio, yn gallu cefnogi cydweithio ehangach o amgylch Môr Iwerddon. Bydd cydweithio i gefnogi cysylltiadau masnach, gan gynnwys drwy gadernid ein cysylltiadau morol, hefyd yn allweddol. Felly hefyd y gwaith i warchod ein hamgylchedd, yn enwedig ein hamgylchedd morol, a’n treftadaeth naturiol ac adeiledig unigryw. Bydd cryfhau’r cydweithio rhwng ein sefydliadau diwylliannol a threftadaeth, a chefnogi partneriaethau diwylliannol, hefyd yn allweddol, yn enwedig o ystyried cyfoeth ein hieithoedd a’n diwylliannau Celtaidd.
Wrth fwrw ymlaen â’n gwaith, byddwn yn mynd ati i geisio ehangu ein cydweithrediad a’n cydweithio i feysydd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. Byddwn yn parhau i gyfarfod yn flynyddol yn Fforwm Cymru-Iwerddon i adolygu’r cynnydd o ran gweithredu’r Datganiad ar y Cyd, i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, ac i flaenoriaethu meysydd ffocws sy’n ymateb i’r cyd-destun ehangach rydym yn gweithio ynddo.
Mae’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon yn cefnogi ac yn cael ei chefnogi gan berthynas gref rhwng Iwerddon a’r DU, sy’n cael ei hadlewyrchu yn yr uchelgais a nodir yn Natganiad ar y Cyd y DU-Iwerddon 2030, ac sy’n elwa o’r Ardal Deithio Gyffredin (CTA). Bydd gweithio ochr yn ochr drwy gysylltiadau sefydliadol cryf rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin, yn enwedig y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, hefyd yn gwreiddio ein cydweithrediad. Yn yr un modd, bydd perthynas gadarnhaol ac uchelgeisiol rhwng y DU a’r UE o fudd i weithio dan y Datganiad.
Fel cymdogion, rydym wedi ymrwymo i barhau i feithrin partneriaethau sy’n edrych i’r dyfodol – wedi’u gwreiddio mewn gwerthoedd a dyheadau cyffredin – gan gydnabod drwy wneud hynny y gallwn gyflawni mwy gyda’n gilydd nag y gallwn byth ei wneud ar ein pen ein hunain.
Tánaiste Prif Weinidog Cymru
Cyflwyniad
Mae Datganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030 yn adlewyrchu cyd-uchelgais parhaus Iwerddon a Chymru, yn seiliedig ar ein treftadaeth, ein gwerthoedd a’n diddordebau cyffredin, ac yn adeiladu ar ein cysylltiadau agos rhwng pobl, i ddyfnhau cydweithrediad er budd pawb.
Mae’r Datganiad ar y Cyd newydd hwn yn darparu fframwaith sy’n canolbwyntio ar weithredu ac sy’n edrych tua’r dyfodol ar gyfer cydweithredu dwyochrog rhwng Llywodraethau Cymru ac Iwerddon, mewn meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru awdurdod datganoledig drostynt. Mae’n adeiladu ar, ac yn ymestyn, Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu Cymru-Iwerddon 2021-2025, y cytunwyd arnynt yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2021.
Bydd Datganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2030 yn datblygu gwaith o dan chwe maes polisi y cytunwyd arnynt:
- Ymgysylltu Gwleidyddol a chan Swyddogion
- Yr Hinsawdd, Ynni, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
- Economi a Masnach
- Addysg, Ymchwil ac Arloesi
- Diwylliant, Iaith a Threftadaeth, a
- Cymunedau, Diaspora a Chwaraeon
Ers 2021, mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud ar draws pob rhan o’r Datganiad ar y Cyd. Dangosir hyn, yn benodol, yn yr Astudiaethau Achos a arddangosir drwy gydol y ddogfen hon.
Yn benodol, mae Fforwm Cymru-Iwerddon wedi dod yn ganolbwynt blynyddol pwysig ar gyfer ymgysylltu gwleidyddol lefel uchel, gan alluogi datblygu gwaith yn y meysydd amrywiol a nodir yn y Datganiad. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cysylltiadau cynyddol rhwng Iwerddon a Chymru mewn meysydd sy’n cynnwys ynni adnewyddadwy; ymchwil a chysylltiadau academaidd; hyrwyddo ac astudio’r Gymraeg a’r Wyddeleg; a phartneriaethau diwylliannol, sy’n arddangos agweddau niferus bywyd cyfoes Cymru a Iwerddon.
Mae’r ddwy Lywodraeth wedi ymrwymo i gydweithio i gynnal a datblygu’r cysylltiadau hyn, gan gefnogi cydweithrediad mewn meysydd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg ar yr un pryd. I’r perwyl hwn, bydd gwaith o dan y Datganiad hwn yn seiliedig ar y fframwaith cydweithredu newydd ac uchelgeisiol a nodir rhwng Iwerddon a’r DU yn Natganiad ar y Cyd y DU ac Iwerddon 2030 y cytunwyd arno ym mis Mawrth 2025, yn ogystal â chytundebau yn cefnogi perthynas yr UE-DU. Byddwn yn parhau i gydweithio dan y cysylltiadau sefydliadol cryf rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin a sefydlwyd dan Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, gan gynnwys drwy’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a Chynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon.
Ymgysylltu gwleidyddol a chan swyddogion
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae ymgysylltu gwleidyddol lefel uchel wedi bod yn rhan bwysig o’r Ddatganiad ar y Cyd 2021-2025. Mae’r ymgysylltu hwn, yn enwedig drwy Fforwm blynyddol Cymru Iwerddon, yn rhoi momentwm, cyfeiriad a gwelededd i’r berthynas ac i weithio dan y Datganiad ar y Cyd. Ochr yn ochr â hyn, mae ymgysylltu rheolaidd rhwng seneddwyr yn helpu i feithrin perthnasoedd a dealltwriaeth ar faterion sy’n peri pryder cyffredin i Gymru ac Iwerddon. Mae ymgysylltu rheolaidd ar lefel swyddogion hefyd yn helpu i feithrin cysylltiadau cynaliadwy rhwng cymheiriaid, a gall helpu i nodi meysydd o ddiddordeb cyffredin yn well, gan atgyfnerthu cydweithrediad a chyfnewid profiad ar bob lefel i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Datganiad ar y Cyd.
Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?
- Cysylltiadau Gweinidogol rheolaidd rhwng Cymru ac Iwerddon, gyda Fforwm blynyddol Cymru Iwerddon yn cael ei gynnal fel pwynt canolog ar gyfer ymgysylltu lefel uchel â’r llywodraeth
- Cysylltiadau Seneddol cryfach
- Ymgysylltiad eang a dwfn ar lefel swyddogion ar draws yr holl feysydd cydweithio perthnasol
- Ymgysylltu rheolaidd ar lefel y llywodraeth a swyddogion drwy strwythurau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?
- Cynnal a chryfhau Fforwm blynyddol lefel uchel Iwerddon Cymru, dan arweiniad Gweinidog Materion Tramor a Masnach Iwerddon a Phrif Weinidog Cymru, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol, economaidd ac ehangach i gefnogi cydweithio a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.
- Cefnogi ymweliadau Gweinidogol blynyddol sy’n gysylltiedig â Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Gŵyl San Padrig.
- Cefnogi cryfhau cysylltiadau seneddol, gan gynnwys drwy Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon (BIPA), a chysylltiadau rheolaidd rhwng yr Oireachtas a’r Senedd.
- Dyfnhau cysylltiadau ar lefel swyddogion mewn meysydd blaenoriaeth er mwyn gallu cyfnewid profiadau, arferion gorau a nodi meysydd ar gyfer cydweithredu ar faterion o ddiddordeb cyffredin ledled Cymru ac Iwerddon.
- Cefnogi cydweithredu ar lefel ranbarthol ac awdurdodau lleol i rannu profiad a hyrwyddo cysylltiadau.
- Sicrhau ymgysylltiad parhaus gweithredol drwy strwythurau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i hyrwyddo meysydd o ddiddordeb cyffredin.
Fforwm Blynyddol Cymru Iwerddon
Un o’r ymrwymiadau allweddol dan Ddatganiad ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2021-2025 oedd cynnal Fforwm blynyddol Iwerddon-Cymru, dan arweiniad Tánaiste a Gweinidog Materion Tramor Iwerddon a Phrif Weinidog Cymru.
Yn cael ei gynnal am yn ail rhwng Cymru ac Iwerddon, mae pob Fforwm blynyddol wedi cryfhau’r ymgysylltiad rhwng y ddwy lywodraeth gan gefnogi, yn ei dro, y berthynas ddwyochrog ehangach rhwng Iwerddon a Chymru.
Gyda chyfarfodydd dros y pum mlynedd diwethaf yng Nghaerdydd, Dulyn, Bangor, Corc ac Abertawe, mae’r Fforwm wedi galluogi ffocws ar bynciau sy’n cynnwys ynni adnewyddadwy, cydweithredu ar fasnach, cysylltedd porthladdoedd, polisi iaith, a chefnogi cysylltiadau academaidd ac ymchwil. Mae pob cyfarfod blynyddol wedi cael ei ategu gan ymweliadau safle, gan gynnwys i’r porthladdoedd yn Corc a Chaergybi, yn ogystal ag i ganolfannau arloesi ac ymchwil, gan gynnwys MaREI (Canolfan Ymchwil SFI ar gyfer Ymchwil Ynni, Hinsawdd a Morol yng Ngholeg Prifysgol Corc) ac M-Sparc (y parc gwyddoniaeth cyntaf yng Nghymru sy’n seiliedig ar wybodaeth, sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Bangor). Yn bwysig iawn, mae’r Fforwm hefyd wedi hwyluso ymgysylltiad bob blwyddyn ag amrywiaeth eang o bartneriaid – busnes, academaidd, diwylliannol a diaspora – sy’n weithgar o ran cefnogi’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon.
Yr hinsawdd, Ynni, yr amgylchedd a chynaliadwyedd
Pam mae hyn yn bwysig?
Newid yn yr hinsawdd yw her fyd-eang ddiffiniol ein hoes, gyda’r ddwy Lywodraeth yn unedig o ran brys gweithredu mewn ymateb. Mae Cymru ac Iwerddon yn rhannu heriau tebyg o ran lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd, gwarchod ein hamgylchedd a bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys ein hamgylchedd morol ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd, a datgarboneiddio ein heconomïau.
Mae gan Gymru ac Iwerddon gynlluniau uchelgeisiol hefyd i ddatblygu capasiti ynni adnewyddadwy. Er mwyn gwireddu’r rhain, rhaid i ni ddatblygu’r gweithlu medrus angenrheidiol, cadwyni cyflenwi effeithiol, a seilwaith, i sicrhau bod rhaglenni’n cyd-fynd â blaenoriaethau trafnidiaeth, morol ac amgylcheddol. Drwy rannu ein profiad, gallwn gefnogi datblygu cynaliadwy, twf gwyrdd a’r trawsnewid i niwtraliaeth hinsawdd ac economi gylchol.
Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?
- Rhannu arferion gorau’n rheolaidd ar warchod ac adfer ein hamgylchedd naturiol, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys addasu i’r hinsawdd a lliniaru, cadwraeth, adfer a gwarchod cynefinoedd.
- Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau’n rheolaidd ar warchod a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol a’i asedau, ar y tir ac o dan y dŵr, gan gynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd.
- Ymgysylltu rheolaidd i ddatblygu potensial ynni adnewyddadwy ar y môr – yn enwedig o ran ymchwil a datblygu; twf y gadwyn gyflenwi; datblygu sgiliau; a chynllunio morol sy’n ymwneud â’r amgylchedd morol a rannwn.
Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?
- Dod ag adrannau Llywodraeth Cymru ac Iwerddon at ei gilydd, gyda busnesau, fel y bo’n briodol, i archwilio cydweithrediad ym maes ynni ar y môr ac ar y tir, a chynhyrchu hydrogen, gan gynnwys drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth Iwerddon-DU ar Gydweithredu wrth Drawsnewid Ynni, Ynni Adnewyddadwy ar y Môr a Chydgysylltu Trydan.
- Defnyddio ein rhwydweithiau i feithrin cysylltiadau, a chefnogi sefydliadau sy’n edrych ar gyfleoedd i gydweithio ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd, ar ynni adnewyddadwy, ymchwil a datblygu, a thwf yn y gadwyn gyflenwi.
- Parhau i gydweithio ar brosiectau cydgysylltu trydan ar raddfa fawr rhwng Iwerddon a’r DU.
- Nodi ffyrdd o gydweithredu mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant o ran sgiliau gwyrdd a all fod o fudd i’r ddwy wlad.
- Gan ddefnyddio fforymau sefydledig ar gyfer ymgysylltu ar gynllunio morol, a thrwy ein cyrff rheoleiddio a llywodraethu morol perthnasol, parhau i weithio gyda’n gilydd i rannu gwybodaeth a llywio dulliau gweithredu.
- Annog trafodaethau a sgyrsiau ar fentrau i feithrin economi gylchol.
- Cryfhau cydweithrediad rhwng ein hasiantaethau a’n gwasanaethau natur a threftadaeth, gan ganolbwyntio ar warchod ein bioamrywiaeth, cynefinoedd naturiol ac adnoddau treftadaeth ddiwylliannol.
- Parhau i gydweithredu ar gofnodi ac ymchwilio i effaith newid yn yr hinsawdd ar ein hasedau hanesyddol daearol a morol, a datblygu a hyrwyddo arferion gorau a rennir.
Symud yr agenda ynni adnewyddadwy ymlaen
Mae symud ymlaen i gynhyrchu ynni glân ac adnewyddadwy yn flaenoriaeth i lywodraethau Iwerddon a Chymru. Mae’r moroedd rydyn ni’n eu rhannu – Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd – yn adnodd hanfodol i’r perwyl hwn. Dros gyfnod Cyd-ddatganiad 2021-2025, cwblhawyd y cydgysylltydd Greenlink rhwng Wexford a Sir Benfro. Gyda chapasiti enwol i bweru 380,000 o gartrefi, mae’r cydgysylltydd tanfor hwn yn gwella diogelwch ynni ac yn cefnogi integreiddio ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae rhannu gwybodaeth a safbwyntiau ar ddatblygu’r agenda ynni adnewyddadwy hefyd wedi bod yn ffocws canolog ym mhob Fforwm Cymru-Iwerddon. Mae hyn wedi hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i ystyried y ffordd orau i ni weithio gyda’n gilydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu porthladdoedd, cadwyni cyflenwi a sgiliau er mwyn dod â’r budd mwyaf i’r ddwy wlad.
Mae fforymau wedi ein galluogi i glywed yn uniongyrchol gan gwmnïau o Iwerddon gan gynnwys ESB, Simply Blue a DP Energy, sy’n buddsoddi mewn prosiectau ynni yng Nghymru. Yn ystod Fforwm 2023, ymwelodd Gweinidogion hefyd â phrosiect ynni ffrwd lanw Morlais ar Ynys Môn yng Ngogledd Cymru. Yn cael ei redeg gan Menter Môn, menter gymdeithasol nid-er-elw, Morlais yw’r prosiect mwyaf o’i fath yn y byd sydd wedi cael caniatâd, gyda chapasiti cynhyrchu posibl o 240 MW. Mae’r prosiect yn enghraifft wych o sut y gall arloesedd ar lefel leol ddenu buddsoddiad rhyngwladol.
Economi a masnach
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae llifoedd masnach yn ganolog i’r cysylltiadau economaidd cryf rhwng Iwerddon a Chymru. Iwerddon yw’r drydedd farchnad fwyaf o ran gwerthoedd allforio ar gyfer cynnyrch o Gymru (£1.8biliwn neu 10.9% – ‘Masnach nwyddau rhyngwladol Cymru: 2024’, Llywodraeth Cymru). Mae ein cysylltiadau fferi a’n porthladdoedd yn dal yn allweddol i gysylltedd pobl a nwyddau, ac maent yn gyfrwng hanfodol ar gyfer nwyddau i’r DU, ac i farchnadoedd yr UE drwy’r bont dir, ac ar gyfer nwyddau o Gymru i Iwerddon.
Ar wahân i hynny, mae twristiaeth yn sector strategol allweddol sydd â manteision pwysig ar gyfer datblygu cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru ac Iwerddon, gan gynnwys darparu cyflogaeth sylweddol. Wrth rannu ein profiad, gallwn helpu i ddatblygu cynaliadwyedd ein rhaglenni twristiaeth a’r hyn sydd gennym i’w gynnig.
Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?
- Mwy o gydweithio a chyfleoedd economaidd mewn sectorau sydd o ddiddordeb i’r naill ochr a’r llall
- Mwy o fasnach a mewnfuddsoddiad i’r ddau gyfeiriad
- Dysgu ar y cyd ynghylch cefnogi twristiaeth gynaliadwy
Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?
- Cefnogi ymgysylltu rheolaidd rhwng Adrannau Llywodraeth Iwerddon a Llywodraeth Cymru, a’r asiantaethau perthnasol, i gynyddu nifer y cyfleoedd hyrwyddo masnach a buddsoddi dwyochrog i fusnesau.
- Cefnogi cydweithredu ar lefel ranbarthol ac awdurdodau lleol i rannu profiad a hyrwyddo masnach, buddsoddi, twristiaeth a datblygu cynaliadwy.
- Cryfhau cydgysylltedd rhwng Cymru ac Iwerddon, yn enwedig o ran ein porthladdoedd a’n cysylltiadau fferi.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid busnes allweddol, rhaglenni a rhwydweithiau datblygu economaidd, gan gynnwys Siambrau Masnach, i ddatblygu cysylltiadau busnes-i-fusnes ymhellach.
- Cefnogi cydweithrediad rhwng swyddogion ein dwy Lywodraeth ac asiantaethau twristiaeth ar arferion gorau i gefnogi mentrau twristiaeth gynaliadwy.
- Hyrwyddo cysylltiadau a llwybrau twristiaeth rhwng safleoedd diwylliannol a threftadaeth allweddol yn ein gwledydd ein hunain.
Cysylltedd ar draws Môr Iwerddon
Môr Iwerddon yw’r cysylltiad allweddol rhwng Iwerddon a Chymru – sy’n galluogi symud nwyddau, syniadau a phobl – ar draws ein hynysoedd. I’r perwyl hwn, mae llwybr Dulyn – Caergybi o bwysigrwydd strategol arbennig o ran cysylltu Iwerddon â Chymru, Prydain Fawr, ac ymlaen i Ewrop. Heddiw, mae’r llwybr yn cynnal dros gant o hwyliadau bob wythnos, a thraean o’r traffig cludo nwyddau blynyddol llongau Gyrru i Mewn ac Allan (Roll On Roll Off) rhwng Iwerddon a Phrydain Fawr.
Ym mis Rhagfyr 2024, tarfwyd yn sylweddol ar Borthladd Caergybi gan Storm Darragh, gyda difrod i angorfeydd yn arwain at lu o heriau logistaidd, gan ddod â llif di-dor nwyddau a theithwyr ar draws Môr Iwerddon rhwng Iwerddon a Chymru i ben. Roedd cryfder y cysylltiad dwyochrog rhwng Cymru ac Iwerddon yn sail i reoli’r sefyllfa’n llwyddiannus, gyda chysylltiadau agos a rheolaidd rhwng Gweinidogion Trafnidiaeth, a rhwng y Taoiseach a’r Prif Weinidog. Mae Tasglu Llywodraeth Cymru a sefydlwyd i ystyried cadernid Porthladd Caergybi i’r dyfodol hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth gref o Iwerddon. Er bod llif nwyddau a theithwyr wedi parhau drwy’r amser ar rannau eraill o Fôr Iwerddon, roedd y digwyddiad yn tanlinellu pwysigrwydd cysylltedd morol cadarn ar draws Môr Iwerddon.
Addysg, ymchwil ac arloesi
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae gan addysg agweddau personol, cymdeithasol ac economaidd pwysig, gan gefnogi datblygiad personol a chyfranogiad unigolion ym mhob sector o gymdeithas, a darparu gweithluoedd ac arloeswyr medrus a hyblyg, sy’n hanfodol i gefnogi ffyniant economaidd.
Drwy gysylltu swyddogion polisi, athrawon ac addysgwyr athrawon, gallwn hwyluso’r broses o rannu polisïau ac arferion gorau sy’n cael yr effaith fwyaf bosibl ar gyfer athrawon a dysgwyr.
O ran ymchwil ac arloesi, mae cysylltiadau cydweithredol agos a hirsefydlog ym maes ymchwil ac arloesi rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae'r cydweithio rhwng busnesau ac ymchwilwyr unigol, gyda chymorth asiantaethau cyllido ac ymddiriedolaethau elusennol, yn dod â manteision dwyochrog i gymdeithasau ac economïau. Mae cysylltiadau cydweithio pwysig hefyd rhwng ein sefydliadau addysg uwch.
Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?
- Rhannu polisi ac ymarfer yn rheolaidd, cydweithio ac ymgysylltu rhwng swyddogion polisi Iwerddon a Chymru ar faterion sy’n ymwneud ag addysg
- Gwell cysylltiadau ymchwil ac arloesi cydweithredol, gan gynnwys drwy fentrau Iwerddon-DU, a Rhaglenni Fframwaith Ymchwil ac Arloesedd yr UE.
Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?
- Adeiladu ar y berthynas rhwng yr Adrannau Addysg ac Addysg Uwch, Ymchwil, Arloesedd a Gwyddoniaeth yng Nghymru ac Iwerddon, a'i datblygu, gyda'r bwriad o rannu arfer gorau a nodi meysydd o gydweithio ac ymgysylltu ar draws y sector.
- Cryfhau ymgysylltiad ar ddysgu cynnar a datblygiad plant i rannu arfer gorau a phrofiad.
- Cefnogi cydweithrediad rhwng ein canolfannau academaidd ac ymchwil, a rhwydweithiau y mae’r ddwy wlad yn aelodau ohonynt, ar feysydd o ddiddordeb a gwerth cyffredin, i feithrin cysylltiadau ymchwil rhwng Iwerddon a Chymru.
- Annog ein Pwyntiau Cyswllt Cenedlaethol Horizon Ewrop, neu gyfatebol, i gydweithio’n agos i ganfod galwadau posibl yn Rhaglenni Gwaith Horizon Ewrop lle mae ein cymunedau ymchwil ac arloesi mewn sefyllfa dda i gydlynu a/neu gymryd rhan mewn cais prosiect.
- Gwella cysylltiadau rhwng asiantaethau cyllido sy’n cefnogi ymchwil ac arloesi ar lefel Cymru-Iwerddon, wedi’u hategu gan ymgysylltu rhwng Iwerddon a’r DU.
- Cydweithredu ar raglenni hyfforddiant sgiliau ac addysg bellach a all fod o fudd i’r ddwy wlad, gyda phwyslais arbennig ar sgiliau Gwyrdd.
Seiberddiogelwch
Mae arloesedd a thechnoleg ddigidol yn ganolog i fywyd bob dydd, gan drawsnewid sut rydym yn byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn cynnal busnes. Fodd bynnag, mae sicrhau bod ein rhwydweithiau a’n seilwaith digidol yn ddiogel yn hanfodol i’n diogelwch economaidd a’n llesiant cymdeithasol.
Roedd pedwerydd Fforwm Cymru-Iwerddon ym Mhrifysgol Dechnolegol Munster (MTU) yn Corc yn canolbwyntio ar seiberddiogelwch. Yn y cyfleusterau o’r radd flaenaf yn yr Adran Cyfrifiadureg, cafodd y Tánaiste a’r Prif Weinidog eu briffio am waith MTU o ran datblygu sgiliau a meithrin arloesedd i gryfhau diogelwch asedau digidol Iwerddon a chadernid ei seilwaith hanfodol. Buont hefyd yn ymgysylltu â myfyrwyr a oedd yn ymgymryd â rhaglen Cyber Innovate MTU – rhaglen hyfforddi entrepreneuriaeth i gefnogi myfyrwyr i ddatblygu'r arbenigedd, y sgiliau a'r rhwydweithiau i sefydlu busnesau seiberddiogelwch newydd a'u harwain.
Mae cyfnewid ymweliadau yn 2024 â Hyb Arloesedd Seiber Cymru, ym Mhrifysgol Caerdydd, a Sefydliad Alacrity – rhaglen dechrau busnes seiber yng Nghasnewydd – wedi bod yn sail i bartneriaeth rhwng y tri sefydliad. O ganlyniad, mae cynrychiolwyr o'r Hyb Arloesedd Seiber a Sefydliad Alacrity bellach yn aelodau o fwrdd cynghori Cyber Innovate MTU.
Diwylliant, iaith a threftadaeth
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae gan Gymru ac Iwerddon gysylltiadau diwylliannol, ieithyddol a threftadaeth cryf a hirsefydlog. Yn fyd-eang, rydym yn dathlu ein hunaniaethau drwy hyrwyddo diwylliannol, gan gynrychioli ein cymdeithasau sy'n esblygu drwy lens fodern a chreadigol. Gartref, mae’r diwydiannau creadigol yn hanfodol yn economaidd, yn ogystal ag yn gymdeithasol. Mae llawer o’n sefydliadau diwylliannol cenedlaethol a lleol yn cymryd rhan weithredol mewn cynlluniau, sy’n cefnogi artistiaid, awduron, perfformwyr, crefftwyr, cadwraethwyr a grwpiau cydweithredol i weithio ar y cyd. Mae arweinwyr mewn sefydliadau diwylliannol ac artistig yn symud yn rhydd rhwng Iwerddon a Chymru, tra bod gan sefydliadau cymunedol a lleol gysylltiadau cryf.
Mae ein cysylltiadau hanesyddol, sy’n seiliedig ar dreftadaeth Geltaidd a rennir, yn hanfodol i’n diwylliant, ein hunaniaeth a’n treftadaeth. Rydym yn rhannu heriau cyffredin o ran gwarchod a hyrwyddo mwy o ddefnydd o’n hieithoedd mewn cymunedau dwyieithog ehangach, yn ogystal â harneisio datblygiadau cyflym mewn technoleg i’r perwyl hwn.
Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?
- Mwy o gysylltiadau rhwng ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol, gyda mentrau a phartneriaethau diwylliannol strategol yn cael eu datblygu a’u cefnogi, yn enwedig o ran cerddoriaeth, llenyddiaeth a ffurfiau celfyddydol eraill
- Perthynas waith gref rhwng Cynghorau Celfyddydau Iwerddon a Chymru, a rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Culture Ireland
- Cydweithredu rheolaidd i gynyddu’r defnydd o’r Wyddeleg a’r Gymraeg
- Cydweithredu i hybu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ein hanes cyffredin a’n treftadaeth weladwy ac anniriaethol
Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?
- Cydweithio i hyrwyddo’r defnydd o’r Wyddeleg a’r Gymraeg yng nghyd-destun ein strategaethau cenedlaethol, gan gynnwys drwy raglenni sy’n cefnogi pob cymuned i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a’r Wyddeleg, ac ar drosglwyddo’r Gymraeg a’r Wyddeleg rhwng y cenedlaethau.
- Cryfhau cydweithio parhaus drwy rwydweithiau sy’n caniatáu mwy o gyfnewid iaith ac sy’n hyrwyddo mentrau iaith ar draws cymunedau.
- Parhau i gydweithio, gan gynnwys drwy’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ar faterion sydd o ddiddordeb i’r naill wlad a’r llall ym maes gwarchod a hyrwyddo iaith, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â thechnoleg ddigidol.
- Cefnogi Prifysgolion Cymru sy’n addysgu’r Wyddeleg.
- Parhau i gefnogi dathliadau blynyddol Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Gŵyl San Padrig.
- Adeiladu ar y cydweithio â Chynghorau Celfyddydau Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys drwy’r cynllun mynediad diwylliannol All In, rhaglen symudedd Gogledd Ewrop, a’r rhaglen Beyond Border.
- Gweithio ar fentrau ar y cyd i hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol a threftadaeth rhwng Cymru ac Iwerddon, gan gynnwys dathlu treftadaeth a rennir.
- Cefnogi partneriaethau diwylliannol strategol sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, llenyddiaeth a ffurfiau celfyddydol eraill, gan gynnwys partneriaethau diwylliannol rhwng ein sefydliadau diwylliannol perthnasol, fel Oriel Genedlaethol Iwerddon ac Amgueddfa Cymru.
- Cefnogi partneriaethau treftadaeth strategol, gan gynnwys mewn perthynas â threftadaeth ddiwylliannol, henebion a threftadaeth bensaernïol, a meithrin cysylltiadau rhwng Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon ac Amgueddfa Cymru, ac Archifau Cenedlaethol Iwerddon a Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydag Archifau Cenedlaethol y DU.
Cefnogi cydweithio cerddorol
Mae cryfhau cysylltiadau cerddorol rhwng Cymru ac Iwerddon wedi bod yn uchafbwynt penodol dan Ddatganiad ar y Cyd 2021-2025. Mae cefnogaeth Culture Ireland wedi galluogi mwy o artistiaid Gwyddelig i berfformio mewn lleoliadau a gwyliau ledled Cymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, y Dyn Gwyrdd a Focus Wales.
Ers ailagor yn 2021, mae swyddfa Conswl Cyffredinol Iwerddon yng Nghymru wedi meithrin cysylltiadau cryf â nifer o grwpiau, gan gynnwys Comhaltas Casnewydd - Amairgín the Gael - unig gangen Comhaltas yng Nghymru. Mae perfformiadau wedi arddangos treftadaeth gerddorol gyfoethog Iwerddon, ac mae gwaith y gangen yn addysgu cerddoriaeth draddodiadol Iwerddon i genhedlaeth newydd o chwaraewyr yn cael ei arddangos yn flynyddol yn sesiynau Dydd San Padrig a Dydd San Steffan. Yn yr un modd, mae Gŵyl flynyddol Pibyddion Glanyfferi, gan Bibyddion Uilleann Cymru yn parhau i dyfu ac mae wedi dod yn rhan sefydlog o’r calendr.
Mae Lleisiau Eraill Aberteifi wedi bod yn un o uchafbwyntiau’r blynyddoedd diwethaf. Am benwythnos bob hydref, mae tref Aberteifi yn dod yn fyw gyda cherddoriaeth Wyddelig a Chymreig; gan gymryd ei hysbrydoliaeth o gartref Lleisiau Eraill yn Dingle ar lan Môr Iwerydd yn Iwerddon. Mae’r cydweithio rhwng y chwaraewraig ffidil o Iwerddon, Aoife Ní Bhrian, a’r delynores o Gymru, Catrin Finch, yn cyfleu’n fyw iawn yr hyn y gall cydweithio o’r fath ei gyflawni. Yn cael ei gyflwyno drwy Lleisiau Eraill, cafodd eu halbwm “Double You” ei ryddhau ym mis Hydref 2023 gan dderbyn clod mawr, ac maent wedi mynd ymlaen i berfformio gyda’i gilydd yn Iwerddon, Prydain ac yn fyd-eang.
Cymunedau, diaspora a chwaraeon
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae cymunedau ledled Cymru ac Iwerddon yn wynebu llawer o gyfleoedd a heriau tebyg, o ran materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Gall rhannu profiadau a dulliau gweithredu, ar lefelau lleol a rhanbarthol ar y materion hyn, arwain at fanteision go iawn o ran helpu cymunedau i dyfu a ffynnu mewn amgylcheddau sy’n newid. Rydyn ni hefyd yn gweld gwerth gwirioneddol mewn cysylltu pobl ifanc ar draws yr ynysoedd hyn i gyfnewid profiad ar faterion sy’n peri pryder cyffredin ac i feithrin dealltwriaeth rhwng ei gilydd.
Ar wahân i hynny, mae Cymru ac Iwerddon yn rhannu brwdfrydedd dros chwaraeon – o chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad i’r lefel broffesiynol elît. Gan gydnabod gallu chwaraeon i gysylltu mewn llu o wahanol ffyrdd, byddwn yn edrych ar gyfleoedd i gydweithio ar brosiectau chwaraeon a rennir.
I Gymru ac Iwerddon, mae ein diaspora sydd ar wasgar yn cynrychioli estyniad pwysig i’n rhwydwaith a’n dylanwad ar draws y byd. Bydd rhannu profiadau â’n gilydd ynghylch y ffordd orau o gefnogi ac ymgysylltu â’n cymunedau byd-eang yn parhau i fod yn rhan bwysig o’n gwaith.
Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?
- Parhau i ymgysylltu’n gryf â’n cymunedau ar wasgar yng Nghymru ac Iwerddon, a’u cefnogi, gan gynnwys ar lefel ranbarthol.
- Rhannu dysgu ar bolisi ac ymarfer o ran llesiant.
- Datblygu partneriaethau rhwng sefydliadau ieuenctid perthnasol y ddwy wlad.
- Cysylltiadau a rhwydweithiau cryfach rhwng sefydliadau chwaraeon, yn ogystal â thrwy ddigwyddiadau chwaraeon mawr.
Sut fyddwn ni’n gwneud hyn?
- Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfnewid yn rheolaidd a bod gwersi’n cael eu dysgu am bolisi diaspora, gan gynnwys cefnogi ein cymunedau ar wasgar mewn trydydd gwledydd.
- Parhau i gynnal cyswllt rheolaidd rhwng Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a llunwyr polisi Iwerddon sy'n gyfrifol am Fframwaith Llesiant Iwerddon i gyfnewid dysgu ac arfer gorau o ran 'Y tu hwnt i GDP' a llunio polisïau cenedlaethau'r dyfodol.
- Cefnogi mentrau sy’n hwyluso cydweithrediad rhwng sefydliadau ieuenctid Cymru ac Iwerddon.
- Cydweithio i rannu arferion gorau ym meysydd cynhwysiant, gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad a chynhwysiant mewn chwaraeon i hyrwyddo canlyniadau iechyd a llesiant ehangach ar draws cymdeithas.
- Annog datblygu Gemau Gwyddelig yng Nghymru.
- Defnyddio digwyddiadau chwaraeon mawr (gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr fel Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop UEFA 2028 a digwyddiadau eraill fel twrnameintiau rygbi blynyddol y dynion a’r menywod) i greu mwy o gysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru, yn enwedig ym meysydd twristiaeth, masnach a hyrwyddo diwylliannol. Ceisio mwy o gydweithrediad o ran cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.
Ymgysylltu â’r gymuned
O ystyried ein hagosrwydd daearyddol, nid yw’n syndod bod pobl o dras Gwyddelig i’w cael ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Mae’r Cymry hefyd wedi teithio’n bell ac yn eang, gan ymgartrefu ymysg cymunedau ledled byd. O ystyried ein profiadau o allfudo, mae rhannu’r hyn a ddysgwyd am y ffordd orau o gefnogi ac ymgysylltu â’n cymunedau dramor wedi bod yn rhan bwysig o’n gwaith o dan y Datganiad ar y Cyd, gan lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau.
Yng Nghymru, denodd datblygiad y dociau a’r rheilffyrdd filoedd o Wyddelod i Gaerdydd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y mewnlifiad yn golygu bod tua 40 y cant o bobl Caerdydd yn Wyddelod ar un adeg, gyda Newtown yn cael ei hadnabod fel ‘Iwerddon Fach’. Cafodd yr ardal ei hailddatblygu’n helaeth yn y 1970au, gyda’i hadeilad olaf – Gwesty’r Vulcan – yn fan cyfarfod i’r gymuned ers 1853. Yn 2012, cafodd y Vulcan ei ddatgymalu a’i ailadeiladu yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Bu Conswl Cyffredinol Iwerddon, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn dathlu ailagor y Vulcan, gydag aelodau o’r gymuned Wyddelig ym mis Gorffennaf 2024. Yn ei leoliad newydd yn Sain Ffagan, mae cysylltiadau a chyfraniad cryf Iwerddon i Gaerdydd i’w gweld yn amlwg.
