Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fy mhrif ystyriaeth ym maes trafnidiaeth yw gofalu bod y rhwydwaith ffyrdd strategol yn ddiogel a dibynadwy ac mae’r Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru yn disgrifio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn ei wneud i leihau’r nifer sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.  

Mae’r elusen Brake yn cynnal Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd bob blwyddyn, a chynhelir ymgyrch eleni rhwng 21 a 27 Tachwedd.  Thema eleni yw addo gwneud chwe pheth: bod yn araf, sobor, diogel, tawel (dim siarad ar eich ffôn symudol), effro a chynaliadwy.  Yr enw Saesneg ar yr ymgyrch yw ‘Make the Brake Pledge’.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cyfrannu at ymgyrch eleni trwy ddefnyddio’r Arwyddion Negeseuon Electronig i atgoffa gyrwyr am yr angen i gael profion llygaid rheolaidd a chefnogi elfen ‘cadw’n effro’ yr addewid.  

Rydyn ni eisoes yn defnyddio’n Hunedau Negeseuon Electronig i ddangos negeseuon dwyieithog amrywiol am gadw’n ddiogel ar y ffyrdd, a hynny drwy’r flwyddyn pan nad oes eu hangen i rybuddio am amgylchiadau penodol. Bydd Brake yn cadw golwg ar yr ymateb i’r arwyddion gyda golwg ar gasglu tystiolaeth i gefnogi negeseuon newidiol.  Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda nhw er mwyn ystyried eu heffeithiolrwydd ar gyfer y dyfodol.

Cewch ragor o fanylion am Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd ar y ddolen hon:
http://www.roadsafetyweek.org.uk/